Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/11/2018 i'w hateb ar 06/11/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar ei chyllideb ar gyllideb Llywodraeth Cymru?
Pa asesiad diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit ar recriwtio myfyrwyr o 27 gwlad arall yr UE i sefydliadau addysgol ledled Cymru?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â llygredd aer yn sgil y rhybuddion gan Sefydliad Iechyd y Byd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar adeiladu llosgyddion?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o fodelau cyflawni posibl ar gyfer morlyn llanw Bae Abertawe?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu'r symiau canlyniadol Barnett sy'n deillio o gyllideb y DU?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi economi Pen-y-bont ar Ogwr?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o dai ar gyfer plant sy'n agored i niwed?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad gwasanaethau cyhoeddus yn ystod ei gyfnod yn ei swydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymyriadau a wnaed gan Weinidogion ar faterion cynllunio ledled Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar chwaraeon maes?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ardrethi busnes?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu ffoaduriaid sy'n blant i ganfod lloches yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd plismona i ddiogelwch cymunedol?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau bach dros y 12 mis nesaf?