Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/05/2018 i'w hateb ar 06/06/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

1
OAQ52267 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwyliau a digwyddiadau yng Nghymru?

 
2
OAQ52269 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am economi dinas ranbarth bae Abertawe?

 
3
OAQ52275 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

Pa ganlyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu cyflawni o'r buddsoddiad o £60 miliwn mewn teithio llesol a gyhoeddwyd ym mis Mai?

 
4
OAQ52271 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion i wella diogelwch ar y ffyrdd yng ngogledd Cymru?

 
5
OAQ52259 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru i wella cysylltiadau trafnidiaeth yn ninas ranbarth bae Abertawe?

 
6
OAQ52270 (w) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o’r effaith y bydd cau ffactri prosesu llaeth Arla yn ei chael ar economi leol Llandyrnog?

 
7
OAQ52278 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer twristiaeth treftadaeth a diwylliant yng Nghymru?

 
8
OAQ52279 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y mae cwmnïau cydweithredol yn ei chael ar economi Cymru?

 
9
OAQ52268 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r manteision a fydd yn dod i deithwyr yng Ngorllewin De Cymru o ganlyniad i'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd?

 
10
OAQ52273 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ymatebion busnesau i'r meysydd gweithredu yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru?

 
11
OAQ52257 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

A wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu sut y mae'n bwriadu cynyddu nifer y twristiaid sy'n ymweld â chymoedd de Cymru?

 
12
OAQ52263 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

Yn dilyn y datganiad ysgrifenedig diweddar, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu cysylltiadau awyr i Faes Awyr Caerdydd?

 
13
OAQ52265 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynlluniau ar gyfer y rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd yn y fasnachfraint reilffyrdd newydd?

 
14
OAQ52272 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion i gefnogi economïau lleol cynaliadwy yng ngogledd Cymru?

Cwnsler Cyffredinol

1
OAQ52276 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau Llywodraeth Cymru i annog bargeinio cyflog mewn gweithleoedd yng Nghymru?

 
2
OAQ52281 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ar unrhyw ymgyfreitha yn y dyfodol sy'n deillio o wrthdaro ynghylch awdurdodaeth, o ganlyniad i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)?

 
3
OAQ52277 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i chael ynghylch prynu gorfodol tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU?

 
4
OAQ52282 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o sut y mae cyfreithiau yng Nghymru yn gymwys i'r Goron?