Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/02/2019 i'w hateb ar 06/03/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniadau cyllidebol i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol?
Pa arian y mae'r Gweinidog wedi'i ddyrannu i'r portffolio tai a llywodraeth leol mewn perthynas ag adfywio'r stryd fawr yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u caewl gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y pwysau cyllido mewn llywodraeth leol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cyllidebau awdurdodau lleol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch yr angen am gyllideb frys rhag ofn y bydd Brexit heb gytundeb yn digwydd?
Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu gofal cymdeithasol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddefnyddio ei phwerau trethu presennol i liniaru effaith y gosb tanfeddiannu yng Nghymru?
Pa adnoddau y mae'r Gweinidog wedi'u dyrannu i'r portffolio iechyd a gofal cymdeithasol i weithredu'r polisi Pwysau Iach: Cymru Iach?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru o ran cyllidebu aml-flwyddyn?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch y gyllideb ar gyfer gweithredu'r mesurau a gynhwysir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa arloesi-i-arbed?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am arweiniad Llywodraeth Cymru i wahanol sectorau ar gaffael?
Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch rôl ysgolion o ran cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gyflawniad Cynllun Gweithredu 2018-19 Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr?
Pa gysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud â gwledydd y tu allan i'r UE yn y cyfnod cyn ymadael â'r UE?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal mewn perthynas ag annog swyddfeydd is-genhadon i leoli yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio denu buddsoddiad i Islwyn o Unol Daleithiau America?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am geisiadau yn y dyfodol ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Gogledd Cymru fel cyrchfan i dwristiaid?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gogledd-ddwyrain Cymru fel lleoliad ar gyfer busnes rhyngwladol?
Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyflwyno i Lys Hawliau Dynol Ewrop mewn perthynas â'r driniaeth o Abdullah Öcalan gan Lywodraeth Twrci?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu masnach ryngwladol?
Pa gynnydd sy'n cael ei wneud er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfarfal?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Cymru yn Ewrop?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i helpu busnesau Cymru i fasnachu â gwledydd nad ydynt yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru?
Pa rai o'r argymhellion a nodir yn adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwiath a Sgiliau, Gwerthu Cymru i'r Byd, y bydd Llywodraeth Cymru yn eu blaenoriaethu yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn?
Comisiwn y Cynulliad
Pa asesiad mae’r Comisiwn wedi’i wneud o’r effaith ar ymgysylltiad democrataidd pan fo gwleidyddion yn newid pleidiau?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y camau nesaf ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y polisi ynghylch hedfan baneri ar ystâd y Cynulliad ar ôl i'r DU ymadael yr Undeb Ewropeaidd?
A oes gan y Comisiwn unrhyw gynlluniau i sefydlu coffâd parhaol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a fu farw yn y swydd?