Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/11/2018 i'w hateb ar 05/12/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Yn sgil rhybuddion gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am effaith toriadau i gyllid llywodraeth leol, pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch diogelu gwasanaethau lleol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella'r ddealltwriaeth o gyfraddau treth incwm Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am strategaeth tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer lefelau trethiant yng Nghymru?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi cyfalaf yng Nghwm Cynon?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch ariannu rhaglen prentisiaeth Llywodraeth Cymru?
Pa newidiadau i ardrethi busnes yng Nghymru y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu eu cyflwyno yn dilyn cyhoeddiad cyllidebol Llywodraeth y DU ynghylch ardrethi busnes yn Lloegr?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r ffigurau gwariant cyhoeddus mwyaf diweddar ar gyfer gwledydd y DU?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol lefelau treth yng Nghymru rhwng nawr ac etholiad nesaf y Cynulliad?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus yn Islwyn rhag effeithiau'r cyni?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith y gostyngiad mewn termau real yn grant bloc Cymru?
Pa gynllunio ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi ar gyfer Brexit?
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i helpu gofalwyr gyda chost y dreth gyngor?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y bydd datganoli'r gwaith o weinyddu'r system fudd-daliadau yn ei chael ar gyllideb Llywodraeth Cymru?
Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i brosiectau seilwaith yng ngorllewin Cymru wrth ddyrannu arian i'r portffolio economi a thrafnidiaeth?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynghorau gwledig?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith toriadau i gyllid awdurdod lleol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog arloesedd mewn llywodraeth leol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllidebau llywodraeth leol?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effeithiolrwydd gweithio rhanbarthol ymysg awdurdodau lleol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cyn-filwyr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y setliad llywodraeth leol ar gyfer Cyngor Sir Penfro?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sefydlu canolfannau ar gyfer troseddwyr sy'n fenywod yng Nghymru fel mater o frys?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cyfleusterau cymunedol yng Nghymru?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i wahardd troi pobl allan yn ddi-fai?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw asedau cymunedol yn cael eu colli?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllideb Cyngor Sir Ynys Môn yn 2019-20?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ynghylch nifer y tanau ar laswelltir yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ymgyrch undebau credyd 'People Not Profit' yn yr Alban?