Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/05/2019 i'w hateb ar 05/06/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Addysg
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod gweithgareddau allanol mewn ysgolion yn gynhwysol i bob disgybl?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella canlyniadau addysgol yng nghymoedd y de?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddysgu Cymraeg i oedolion?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth SenCom yng Ngwent?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob disgybl yn gwybod sut i goginio erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 3?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion sydd wedi eu heithrio o'r ysgol?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i wella addysg gynradd yn Ogwr?
Pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella cyfleoedd addysgol i bobl ifanc ym mhob ardal awdurdod lleol ledled Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad consortia addysg rhanbarthol yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ysgolion preifat?
Pa waith ychwanegol mae'r Gweinidog yn ei wneud o fewn y sector addysg mewn ymateb i ddatganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru?
Pa ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i helpu i ddarparu athrawon cyflenwi mewn ysgolion?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i staff y GIG sydd â phroblemau iechyd meddwl?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl â nychdod cyhyrol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygu gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cynorthwyo pobl sydd â nam ar y synhwyrau?
A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i sefydlu cynllun gweithredu cenedlaethol i sicrhau bod pobl yng Nghanol De Cymru, sy'n byw gyda dystonia, yn cael y driniaeth iawn ar yr amser iawn?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau gofal yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Hywel Dda?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau ambiwlansys ym Mlaenau Gwent?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaeth therapi iaith a lleferydd Gogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dioddefwyr y sgandal gwaed halogedig?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniadau canser y coluddyn yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros am lawdriniaeth ddewisol yng Ngorllewin De Cymru?