Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 31/05/2018 i'w hateb ar 05/06/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ52286 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2018

Sut y mae'r Prif Weinidog yn asesu cynnydd o ran cyflawni'r ymrwymiadau sy'n ymwneud â datblygu economaidd a nodir yn y rhaglen lywodraethu?

 
2
OAQ52261 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfarnu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau?

 
3
OAQ52260 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2018

Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn yn y dyfodol i wella cydlyniant cymunedol yn ne Cymru?

 
4
OAQ52285 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fasnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a'r Gororau?

 
5
OAQ52283 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2018

Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog ar waith i gefnogi cyflwyno technoleg 5G?

 
6
OAQ52274 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi busnesau bach yng Nhrefynwy?

 
7
OAQ52266 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu llywodraeth leol?

 
8
OAQ52284 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn a chefnogi'r diwydiant dur yng Nghymru?

 
9
OAQ52262 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad at feddygon teulu yng ngogledd Cymru?

 
10
OAQ52258 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoleiddio ffermio dofednod dwys yng Nghymru?

 
11
OAQ52255 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y defnyddir cyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygu economaidd yn ne-ddwyrain Cymru?

 
12
OAQ52264 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru i rieni sy'n gweithio?

 
13
OAQ52256 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr yn Sir Benfro?

 
14
OAQ52280 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth ar gyfer teithio llesol yng Nghymru?