Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 31/01/2019 i'w hateb ar 05/02/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ53374 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros y gwasanaeth iechyd ar draws gogledd Cymru?

 
2
OAQ53379 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd bargeinion twf yng Nghymru?

 
3
OAQ53333 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau'r gwerth gorau am arian ar gyfer caffael cyhoeddus?

 
4
OAQ53372 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch lliniaru tagfeydd traffig yn ne-ddwyrain Cymru?

 
5
OAQ53335 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog nodi beth yw polisi Llywodraeth Cymru o ran datganoli gweinyddol mewn cysylltiad â lles?

 
6
OAQ53376 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gategoreiddio ysgolion?

 
7
OAQ53378 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit heb fargen ar y sector modurol yng Nghymru?

 
8
OAQ53371 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran datblygu cyfranogiad mewn chwaraeon?

 
9
OAQ53373 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i wella democratiaeth yng Nghymru?

 
10
OAQ53332 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafnidiaeth gyhoeddus ym Mlaenau Gwent?

 
11
OAQ53375 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo twf economaidd yn ne-ddwyrain Cymru?

 
12
OAQ53354 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unrhyw gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran?

 
13
OAQ53356 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu twf busnesau bach yng Ngorllewin De Cymru?

 
14
OAQ53336 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer lles anifeiliaid yn ystod tymor y Cynulliad hwn?

 
15
OAQ53377 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella mynediad at ofal iechyd i gleifion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?