Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/11/2019 i'w hateb ar 04/12/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

1
OAQ54785 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth cerbydau ar y rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd?

 
2
OAQ54790 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid grant ar gyfer busnesau lleol yn Aberconwy?

 
3
OAQ54789 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r economi yng Nghanol De Cymru dros y 12 mis nesaf?

 
4
OAQ54788 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

Pa fentrau sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru i wella economi Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
5
OAQ54802 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus o fewn cymoedd y gogledd?

 
6
OAQ54787 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adnewyddu gorsafoedd rheilffyrdd yng Nghymru?

 
7
OAQ54782 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i wella'r rhwydwaith cefnffyrdd yn Sir Fynwy?

 
8
OAQ54806 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch newidiadau i amserlennu trenau yng ngorllewin Cymru?

 
9
OAQ54775 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu'r sectorau economaidd yn Abertawe sy'n talu cyflogau da?

 
10
OAQ54786 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi economi gogledd-ddwyrain Cymru?

 
11
OAQ54779 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhagor o fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru?

 
12
OAQ54792 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yn Nwyrain Casnewydd?

Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

1
OAQ54800 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch darparu addysg ar ôl Brexit?

 
2
OAQ54780 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

Pa ddarpariaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud ar gyfer cydweithredu trawsffiniol ym Mhrydain ar ôl Brexit?

 
3
OAQ54791 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynllunio ar gyfer Brexit heb gytundeb?

 
4
OAQ54796 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cynnal refferendwm arall ar Brexit yn ei chael ar economi Cymru?

 
5
OAQ54795 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch statws gwladolion tramor yr UE sy'n byw yng Nghanol Caerdydd, pe bai'r DU yn gadael yr UE yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf?

 
6
OAQ54797 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau Brexit i GIG Cymru?

 
7
OAQ54794 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag arweinyddion pleidiau gwleidyddol cenedlaethol y DU ar bwnc ail refferendwm yr UE?

 
8
OAQ54801 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch y berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol?

 
9
OAQ54783 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ynghylch sut y bydd cronfa ffyniant gyffredin yn gweithio yn y dyfodol?