Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/06/2018 i'w hateb ar 04/07/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Cwnsler Cyffredinol

1
OAQ52463 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ynghylch deddfu yn erbyn gamblo cymhellol?

 
2
OAQ52458 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau plant?

 
3
OAQ52451 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gymhwyso cyfreithiau'r UE yng Nghymru a gaiff eu pasio yn ystod unrhyw gyfnod pontio Brexit?

 
4
OAQ52450 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am sicrhau bod hawliau dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn cael eu diogelu yn dilyn Brexit?

 
5
OAQ52446 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau cyfreithiol Llywodraeth Cymru i gefnogi model newydd ar gyfer morlyn llanw bae Abertawe?

 
6
OAQ52465 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynglŷn â Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018?

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

1
OAQ52464 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith Brexit ar y diwydiant moduron?

 
2
OAQ52455 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

Sut y bydd etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni yn elwa ar fuddsoddi mewn rheilffyrdd a gwasanaethau metro?

 
3
OAQ52459 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithredu'r isafswm cyflog yng Nghymru?

 
4
OAQ52460 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau ategol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru?

 
5
OAQ52457 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Arweinydd y Tŷ ynghylch effaith economaidd cysylltedd digidol?

 
6
OAQ52449 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo ymgysylltiad moesegol mewn chwaraeon?

 
7
OAQ52439 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae polisïau Llywodraeth Cymru yn tyfu'r economi?

 
8
OAQ52444 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am seilwaith beicio dinas ranbarth bae Abertawe?

 
9
OAQ52447 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am strategaeth ddatblygu economaidd Llywodraeth Cymru yng Ngorllewin De Cymru?

 
10
OAQ52443 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru?

 
11
OAQ52452 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r diwydiant dur wrth iddo wynebu'r tollau y mae'r Unol Daleithiau yn parhau i'w gosod?

 
12
OAQ52454 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith y contract economaidd newydd ar fusnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
13
OAQ52453 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella gwasanaethau bysiau yng nghymunedau'r cymoedd?

 
14
OAQ52456 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu 'Ffyniant i bawb: y strategaeth genedlaethol' ym Merthyr Tudful a Rhymni?

 
15
OAQ52442 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganfyddiadau'r adolygiad o gyfleusterau chwaraeon perfformio ac elitaidd?