Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/05/2019 i'w hateb ar 04/06/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ53976 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo busnesau yn Islwyn i baratoi at y dyfodol?

 
2
OAQ53936 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2019

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r cabinet yn dilyn y datganiad am yr argyfwng newid hinsawdd?

 
3
OAQ53937 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer seilwaith rheilffordd yng Nghymru?

 
4
OAQ53975 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2019

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r arolwg seismig arfaethedig o Fae Ceredigion?

 
5
OAQ53971 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu tai fforddiadwy ar ystadau preswyl newydd sy'n cael eu hadeiladu?

 
6
OAQ53965 (w) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y cynllun Arbed yn Arfon?

 
7
OAQ53943 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Bwrdd Iechyd Addysgu Powys?

 
8
OAQ53978 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei gefnogaeth i bleidlais y bobl ar Brexit?

 
9
OAQ53977 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cynni economaidd ar economi Cymru?

 
10
OAQ53940 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2019

Yng ngoleuni datganiad Llywodraeth Cymru am argyfwng hinsawdd, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei gynlluniau ar gyfer maes awyr Caerdydd sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru?

 
11
OAQ53964 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2019

Pa effaith a gaiff yr argyfwng hinsawdd a gyhoeddwyd ar gynlluniau i ehangu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus er budd Canol Caerdydd?

 
12
OAQ53951 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu polisi amaethyddol ar gyfer Gogledd Cymru?