Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/09/2018 i'w hateb ar 03/10/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ardoll cig coch Cymru?
Pa sicrwydd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi y bydd amddiffyniad safleoedd morol Ewropeaidd yng Nghymru yn cael ei gynnal ar ei lefel gyfredol ar ôl i'r DU adael yr UE?
Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i newid cyfreithiau cynllunio er mwyn ymdrin â chyflwr siopau gwag yng nghanol trefi?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am osod teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd mewn perthynas â strategaeth Llywodraeth Cymru yn erbyn tipio anghyfreithlon?
Beth yw'r her fwyaf sy'n wynebu Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ei tharged gostwng carbon ar gyfer 2030?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithdrefnau trwyddedu morol Llywodraeth Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol saethu adar hela ar dir sy'n eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch effaith y system gynllunio ar adeiladu tai yng Ngorllewin De Cymru?
Pa astudiaethau effaith sydd wedi'u cwblhau o oblygiadau cynigion ‘Brexit a’n tir’ ar gyfer yr iaith Gymraeg?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i safbwyntiau darparwyr gofal iechyd yn ystod y broses gynllunio?
Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyfleoedd a amlinellir yn adroddiad diweddar y Sefydliad Materion Cymreig, 'The Economic Impact of Energy Transition in Wales'?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am reoli tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y camau nesaf yn dilyn cwblhau'r ymgynghoriad ar bolisi echdynnu petrolewm yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau dyfodol y diwydiant llaeth?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y dyraniad cyllideb ar gyfer cynghorau yng ngorllewin Cymru dros y flwyddyn ariannol nesaf?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch dyfodol y gwasanaeth prawf yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau setliad ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot?
Pa gyngor y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi i gynghorau lleol sy’n wynebu torri gwasanaethau?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith i atal tanau trydanol?
Beth yw asesiad Ysgrifennydd y Cabinet o berfformiad byrddau gwasanaethau cyhoeddus?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion i ddyrannu arian i gynghorau?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gyn-filwyr?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnig i Ynys Môn i baratoi ar gyfer cyflwyno credyd cynhwysol ym mis Rhagfyr?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth baratoi'r setliad dros dro ar gyfer awdurdodau lleol yn y gyllideb sydd i ddod?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro ansawdd y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir ledled Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau tryloywder ac atebolrwydd mewn llywodraeth leol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp cynghori gweinidogol ar lesddeiliaid?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?