Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/06/2019 i'w hateb ar 03/07/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Addysg
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl yn cael ei adlewyrchu yn y cwricwlwm newydd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ysgolion yn gallu darparu addysg addas i bawb?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i ddathlu 70 mlynedd ers addysg cyfrwng Cymraeg yn y Llynfi?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith awtomeiddio ar addysg yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am achrediadau cyflog byw yn y sector addysg yng Nghymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu disgyblion am fanteision teithio llesol drwy'r system addysg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hawl i gael addysg cyfrwng Cymraeg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gan Lywodraeth Cymru yn Sir Gaerfyrddin?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi sefydliadau addysg uwch?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant gydag anghenion dysgu ychwanegol i mewn i addysg ôl-16?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at addysg yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i leihau costau'r diwrnod ysgol i deuluoedd?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r gweithdrefnau ar gyfer mabwysiadu gorfodol, yng ngoleuni'r cynnydd diweddar yn nifer yr achosion?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion diweddar i ategu gofal sylfaenol gyda chymorth gan fferyllfeydd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses chwythu'r chwiban ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd cymunedol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl i oedolion yn y gogledd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau i fynd i'r afael â chaethiwed i gamblo yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran adeiladu Ysbyty Athrofaol y Grange?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr heintiau sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau a gofnodwyd yn ystod y 12 mis diwethaf sydd ar gael?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys dros y tair blynedd diwethaf?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at gyfleusterau'r GIG yng ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y technolegau iechyd diweddaraf ar gael yng Nghymru?