Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/06/2018 i'w hateb ar 03/07/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ52469 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch tân mewn blociau uchel yng Nghymru?

 
2
OAQ52471 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2018

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ymateb i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid Meddwl'?

 
3
OAQ52472 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2018

Pa gynigion sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardaloedd na fydd yn cael eu gwasanaethu gan fetro de Cymru?

 
4
OAQ52467 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2018

Ar wnaiff y Prif Weinidog datganiad am ddyfodol ynni’r môr yng Nghymru?

 
5
OAQ52473 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru?

 
6
OAQ52466 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i ail-gydbwyso ei gwariant ar seilwaith?

 
7
OAQ52461 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r sector cydweithredol a chydfuddiannol i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc?

 
8
OAQ52445 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi?

 
9
OAQ52468 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2018

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o adroddiad diweddar gan Natural England a'r Gymdeithas Famaliaid am y gostyngiad mewn rhywogaethau mamaliaid yn y DU?

 
10
OAQ52440 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2018

Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i fynd i'r afael â chlefydau anadlol yng Nghymru dros y 12 mis nesaf?

 
11
OAQ52474 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith Brexit ar Gymru?

 
12
OAQ52448 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd gofal plant yng ngogledd Cymru?

 
13
OAQ52462 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau goroesi canser yng Ngogledd Cymru?

 
14
OAQ52470 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2018

Beth yw strategaeth iechyd y cyhoedd Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau clefydau sy'n gysylltiedig â deiet?

 
15
OAQ52438 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi personél y lluoedd arfog yng Nghymru?