Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/03/2019 i'w hateb ar 03/04/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Pa adnoddau ariannol a ddyrannwyd hyd yn hyn gan Lywodraeth Cymru wrth baratoi at Brexit heb gytundeb?
Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i'r GIG wrth ddyrannu cyllid ar gyfer cyllideb derfynnol 2019/20?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru parthed dad-fuddsoddi o gwmnïau tanwydd ffosil?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y dreth trafodiadau tir yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith polisi caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniadau'r gyllideb i'r portffolio economi a thrafnidiaeth i gefnogi datblygu economaidd yn y cymoedd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd o ran datblygu polisi treth Llywodraeth Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith bosibl Brexit ar gyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r broses o reoli'r ffordd o ddyrannu cyllid Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniadau yn y gyllideb i'r portffolio iechyd a gofal cymdeithasol mewn perthynas â chynnal cyfleusterau chwarae i blant?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i adennill costau clefydau sy'n ymwneud ag asbestos drwy system dreth Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg, ynghylch darparu dyraniadau cyllideb ychwanegol i ariannu ymchwil a datblygu yng Nghymru yng ngoleuni cynnig yr Athro Reid ar gyfer Cronfa Dydd Gŵyl Dewi?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y setliad ariannu datganoledig yng ngoleuni newidiadau i bensiynau athrawon?
Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae gwaith Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn dod â manteision i Ferthyr Tudful a Rhymni?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am barodrwydd sefydliadau mawr y sector preifat, fel banciau, i dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg?
Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i adeiladu ar lwyddiant y rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch rôl rhaglenni cyfrwng Cymraeg Dechrau'n Deg o ran cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr ar ffyrdd o hyrwyddo delwedd fyd-eang Cymru fel lle ar gyfer buddsoddiad?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau sy'n gwerthu mewn marchnadoedd allforio rhyngwladol?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae'n bwriadu gweithio gydag adrannau Llywodraeth y DU sydd â ffocws rhyngwladol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddefnydd Llywodraeth Cymru o'i swyddfeydd rhyngwladol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Eisteddfod Genedlaethol 2019?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i nodi cyfraniad y Capten Archibald Dickson i enw da Cymru'n rhyngwladol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru?
Comisiwn y Cynulliad
A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am wasanaeth allgymorth Comisiwn y Cynulliad?
Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran annog teithio llesol i ac o'r Senedd?
Pa gamau y mae Comisiwn y Cynulliad yn eu cymryd i sicrhau bod gan bobl anabl fynediad llawn i ystâd y Cynulliad?
A oes gan y Comisiwn strategaeth ar gyfer dadfuddsoddi mewn tanwyddau ffosil fel rhan o gronfeydd pensiwn Cynulliad Cymru?