Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 25/09/2019 i'w hateb ar 02/10/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

1
OAQ54424 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd?

 
2
OAQ54430 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i helpu twf busnesau bach yng Nghymru?

 
3
OAQ54419 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno trenau newydd ar gyfer y Rhondda fel rhan o'r fasnachfraint reilffyrdd newydd?

 
4
OAQ54423 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae Llywodraeth Cymru am wella mynediad i'r anabl i'r rheilffyrdd yng Nghymru?

 
5
OAQ54410 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch manteisio'n llawn ar adeiladu adrannau 5 a 6 o ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465?

 
6
OAQ54404 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i fusnesau bach yn Sir Benfro?

 
7
OAQ54441 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i ehangu amlder y gwasanaethau rheilffordd ar lein Maesteg?

 
8
OAQ54414 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwelliannau arfaethedig i'r seilwaith trafnidiaeth yng nghanolbarth Cymru?

 
9
OAQ54412 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau bysiau yng nghymoedd de Cymru?

 
10
OAQ54432 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddarparu datganiad am wasanaethau rheilffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru?

 
11
OAQ54435 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru o ran datblygu gorsaf fysiau newydd Caerdydd?

 
12
OAQ54402 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae polisïau Llywodraeth Cymru yn creu swyddi yn ne-ddwyrain Cymru?

Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

1
OAQ54438 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am faint o fusnesau sydd wedi ceisio cymorth a chyngor gan borth Brexit Llywodraeth Cymru?

 
2
OAQ54436 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion yr Undeb Ewropeaidd ynghylch Brexit?

 
3
OAQ54426 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch Brexit yn dilyn dyfarniad diweddar Goruchaf Lys y DU ynghylch addoediad?

 
4
OAQ54420 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Brexit heb gytundeb ar sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru?

 
5
OAQ54434 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r gwrthbleidiau mewn perthynas â safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit?

 
6
OAQ54405 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gynlluniau paratoadau Brexit Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro?

 
7
OAQ54417 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o waith cynllunio awdurdodau lleol a pharatoadau ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb?

 
8
OAQ54443 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

Pa drafodaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei chynnal gyda Llywodraeth y DU ynglyn ag amddiffyn buddiannau Cymru yn y broses Brexit wedi 31 Hydref 2019?

 
9
OAQ54422 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynnal ail refferendwm ar Brexit?

 
10
OAQ54444 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ganlyniad achos addoediad y Goruchaf Lys yn dilyn y dyfarniad a basiwyd ar 24 Medi 2019?

 
11
OAQ54440 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch y cynigion sy'n dod i'r amlwg ar gyfer dewis amgen i'r trefniadau wrth gefn, y 'backstop', ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE?

 
12
OAQ54409 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019

Pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE?