Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/09/2018 i'w hateb ar 02/10/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o welliannau i amseroedd aros ysbytai ers iddo ddod yn Brif Weinidog?
Beth yw gweledigaeth tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu gwasanaethau bysiau yng nghefn gwlad?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o gefnogaeth i bobl ddigartref yng ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Chomisiynydd Plant Cymru o ran deddfwriaeth i hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglen goffa Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chofio diwedd y rhyfel byd cyntaf?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth y GIG ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y system cyfiawnder troseddol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch a yw Llywodraeth Cymru'n cefnogi refferendwm arall ar yr UE?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am baratoadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar gyfer y gaeaf?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fewnbwn Llywodraeth Cymru i gais y Grid Cenedlaethol i'r Arolygiaeth Gynllunio i adeiladu peilonau ar draws Ynys Môn?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r bwlch sgiliau yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol undebau credyd yng Nghymru?
Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gynyddu disgwyliad oes yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Llywodraeth Cymru i ddileu TB mewn gwartheg?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfnod cyfredol y rhaglen gyfalaf i Gymru?
Pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadau eu cymryd i fynd i'r afael â newid hinsawdd?