Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/06/2019 i'w hateb ar 02/07/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i'r canlyniadau PISA diweddaraf i gael eu cyhoeddi?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r stryd fawr yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r lluoedd arfog?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod ansawdd aer yn Islwyn yn parhau i wella?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ganiatâd cynllunio a newid defnydd adeiladau?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau tlodi plant?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ansawdd rheolaeth y GIG?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd y cynnig gofal plant yn Ogwr?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dasglu Llywodraeth Cymru yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit dim cytundeb ar y diwydiant modurol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waharddiadau disgyblion o ysgolion yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau bysiau ym Mlaenau Gwent?