Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 25/04/2018 i'w hateb ar 02/05/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

1
OAQ52077 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru?

 
2
OAQ52083 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl y bartneriaeth i gyflenwi'r metro yn y broses o sicrhau trafnidiaeth integredig ar gyfer Caerdydd?

 
3
OAQ52093 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i ddatblygu trafnidiaeth integredig yng Nghaerdydd?

 
4
OAQ52066 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cymorth sydd ar gael i fusnesau yng nghanolbarth Cymru i ehangu eu gweithrediadau?

 
5
OAQ52069 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynghylch bargen ddinesig rhanbarth Bae Abertawe?

 
6
OAQ52092 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo ei chynllun gweithredu economaidd ymhlith y gymuned fusnes?

 
7
OAQ52073 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fetro gogledd Cymru?

 
8
OAQ52089 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am waith cynllunio ar gyfer camau nesaf metro de Cymru?

 
9
OAQ52078 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu economi Dwyrain Abertawe?

 
10
OAQ52074 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

Beth yw blaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghwm Cynon?

 
11
OAQ52082 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gymorth ar gyfer y sector gweithgynhyrchu ym Merthyr Tudful a Rhymni?

 
12
OAQ52091 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu ar gyfer busnesau a thrigolion y mae gwaith ffordd i liniaru mannau cyfyng yng Nghaerffili yn effeithio arnynt?

 
13
OAQ52067 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd yng Ngorllewin Clwyd?

 
14
OAQ52071 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i dyfu sector twristiaeth yr economi dros y 12 mis nesaf?

 
15
OAQ52096 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

Pa asesiad a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet o sut y bydd y llwybr coch arfaethedig drwy Sir y Fflint yn integreiddio'r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach cyn penderfynu ar y llwybr a ffefrir?

Cwnsler Cyffredinol

1
OAQ52084 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am waith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru?

 
2
OAQ52094 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ar y sail gyfreithiol ar gyfer y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)?

 
3
OAQ52085 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno mewn perthynas ag apeliadau yn erbyn penderfyniad Arolygiaeth Gofal Cymru i dynnu statws cofrestredig yn ôl o feithrinfeydd a chanolfannau gofal plant?

 
4
OAQ52087 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglyn â'r ddadl ar adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol a gynhaliwyd ddydd Mercher 18 Ebrill 2018?

 
5
OAQ52086 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith Llywodraeth y DU a Llywodraaeth yr Alban ar ôl cyfeirio'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) at y Goruchaf Lys?

 
6
OAQ52095 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r potensial ar gyfer hawl ddigolledu gyfreithiol o dan Gonfensiwn Sewel?

 
7
OAQ52097 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r rhwystrau cyfreithiol sy'n atal Llywodraeth Cymru rhag ceisio datganoli pwerau deddfwriaethol sy'n ymwneud â lles a diogelwch cymdeithasol?

 
8
OAQ52098 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o sut y gellir defnyddio technoleg i wneud cyfreithiau gwell?