Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/09/2019 i'w hateb ar 01/10/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ54411 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fesurau i wella cyfraddau ailgylchu yng Nghymru?

 
2
OAQ54416 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y posibilrwydd o ddatblygu morlyn llanw ym Mae Abertawe?

 
3
OAQ54442 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2019

Sut y bydd y Prif Weinidog yn defnyddio Cwpan Rygbi'r Byd i hyrwyddo allforion o Gymru a mewnfuddsoddi i Gymru?

 
4
OAQ54425 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2019

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o werth am arian y cynllun ynni cartref Arbed am Byth?

 
5
OAQ54446 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2019

Pa asesiad sydd wedi'i wneud o sut y byddai Brexit heb gytundeb yn effeithio ar economi Cymru?

 
6
OAQ54428 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2019

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fonitro'r amseroedd aros ar gyfer mynediad at driniaeth orthodontig yng Nghymru?

 
7
OAQ54413 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y potensial ar gyfer ynni gwynt a solar yng nghanolbarth Cymru?

 
8
OAQ54448 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a roddir i rieni gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant ac addysg gynnar yn Islwyn?

 
9
OAQ54450 (w) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi datganiad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn ag ysgolion preifat?

 
10
OAQ54433 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r seilwaith trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru?

 
11
OAQ54407 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu gwasanaethau gofal iechyd integredig?

 
12
OAQ54421 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2019

Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod y broses ddiwygiedig ar gyfer gwneud cais am arian i gleifion yng Nghymru yn gweithio'n dda i gleifion yn Nhorfaen?