Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/06/2020 i'w hateb ar 01/07/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ55394 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan Gymru'r adnoddau i ymdrin â phandemig yn y dyfodol?

 
2
OQ55393 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector hedfan yng Nghymru?

 
3
OQ55357 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2020

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith yr argyfwng coronafeirws ar economi Cymru?

 
4
OQ55369 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2020

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio prosiectau seilwaith i adfywio economi Cymru yn sgil Covid-19?

 
5
OQ55386 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau y mae Covid-19 wedi effeithio arnynt?

 
6
OQ55364 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2020

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith y cyfyngiadau symud ar gyrhaeddiad addysgol yng Ngogledd Cymru?

 
7
OQ55389 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y broses ddethol ar gyfer y panel arbenigol a fydd yn ystyried y cais i gael gwared ar y mwd sy'n cael ei garthu o'r tu allan i adweithydd niwclear Hinkley yn nyfroedd Cymru?

 
8
OQ55387 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2020

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r dull o reoli llifogydd yn y Rhondda?

 
9
OQ55388 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2020

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi twristiaeth?

 
10
OQ55395 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2020

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ba mor effeithiol y bu'r ymateb cydlynol ar draws y DU i coronafirus?

 
11
OQ55390 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2020

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i fusnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers yr achosion o Covid-19?

 
12
OQ55391 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2020

Pa flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i hawliau plant i gael addysg yng ngoleuni'r mesurau iechyd cyhoeddus sydd eu hangen i fynd i'r afael â coronafeirws?

Cwnsler Cyffredinol

1
OQ55380 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar effaith yr argyfwng Covid-19 ar hawliau dynol yng Nghymru?

 
2
OQ55373 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gwella mynediad plant at gymorth iechyd meddwl yng Nghymru?

 
3
OQ55360 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch strwythurau rhynglywodraethol o fewn y DU?

 
4
OQ55383 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei ddarparu ar effaith y rheoliadau Covid-19 ar allu Llywodraeth Cymru i gylfawni ei pholisiau?

 
5
OQ55372 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch a yw ei hymateb i Covid-19 yn unol â deddfwriaeth hawliau dynol?

 
6
OQ55379 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael yn ddiweddar gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch y camau cyfreithiol sy'n cael eu cymryd gan y menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth yn erbyn y newidiadau a wnaed i'w hawliau pensiwn gan Lywodraeth y DU?

 
7
OQ55377 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am weithredu argymhellion Comisiwn Thomas ar Gyfiawnder yng Nghymru?

Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

1
OQ55374 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Covid-19 ar ei pholisi trethu lleol?

 
2
OQ55361 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dosbarthu'r £78 miliwn a glustnodwyd fel rhan o'r Gronfa Caledi Llywodraeth Leol o fewn y gyllideb er mwyn helpu awdurdodau lleol i reoli incwm a gollwyd o ganlyniad i Covid-19?

 
3
OQ55385 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod goblygiadau iechyd meddwl y pandemig Covid-19 yn cael eu cydnabod yn nyraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru?

 
4
OQ55375 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael yn ystod y cylch cyllideb presennol i gefnogi y darn olrhain o’r strategaeth profi olrhain diogelu?

 
5
OQ55346 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

A wnaiff y Gweinidog nodi'r cyllid ychwanegol a ddisgwylir o ganlyniad i wariant gan Lywodraeth y DU yn Lloegr mewn meysydd a ddatganolwyd i Gymru?

 
6
OQ55370 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn ystod y cylch cyllideb presennol i gefnogi'r sector gofal cymdeithasol?

 
7
OQ55355 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith Covid-19 ar gyllidebau Cymru yn y dyfodol?

 
8
OQ55353 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu grantiau rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer y sector di-elw yn ystod pandemig Covid-19?

 
9
OQ55345 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i bolisi trethu Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yng ngoleuni pandemig Covid-19?

 
10
OQ55365 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru yng Ngorllewin De Cymru?

 
11
OQ55354 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith polisi caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru?

Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

1
OQ55349 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

A wnaiff y Gweinidog ddarparu diweddariad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyhoeddiadau Cymraeg lleol yn ystod y pandemig

 
2
OQ55352 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo canolbarth Cymru fel cyrchfan i dwristiaid?

 
3
OQ55351 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twristiaeth yng Ngogledd Cymru?

 
4
OQ55367 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd darlledu yng Nghymru yn ystod pandemig Covid-19?

 
5
OQ55366 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ailgyflwyno chwaraeon awyr agored ar gyfer plant a phobl ifanc yn dilyn Covid-19?

 
6
OQ55381 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda busnesau Cymru ynghylch cysylltiadau masnach y DU yn y dyfodol?

 
7
OQ55382 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi ei wneud o effaith bil y cwricwlwm arfaethiedig ar yr iaith Gymraeg?

 
8
OQ55368 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa agweddau ar gysylltiadau rhyngwladol Cymru a allai gael eu cryfhau o ganlyniad i'r profiad o Covid-19?

 
9
OQ55384 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa gamau mae'r Gweinidog am eu cymryd i amddiffyn buddiannau busnesau Cymreig mewn unrhyw gytundebau masnach rhyngwladol ar ôl diwedd y cyfnod trosglwyddo gyda'r Undeb Ewropeaidd?

 
10
OQ55350 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o unrhyw risgiau i ddefnyddwyr a chynhyrchwyr yng Nghymru yn deillio o gytundeb masnach rhwng y DU a UDA?

 
11
OQ55347 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ailddechrau chwaraeon hamdden yng Nghymru?

 
12
OQ55358 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau a gynhaliwyd gyda Llywodraeth y DU ynghylch hyrwyddo masnach ryngwladol fel rhan o'r broses Brexit?

Comisiwn y Senedd

1
OQ55359 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa baratoadau y mae'r Comisiwn wedi eu rhoi ar waith o ran ymestyn masnachfraint etholiadau'r Senedd, er gwaethaf y pandemig coronafirus?

 
2
OQ55356 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith y gwaharddiadau symud ar arferion gwaith yn y dyfodol ar gyfer Aelodau'r Senedd a staff y Comisiwn?

 
3
OQ55376 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y trefniadau i gefnogi busnes y Senedd wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio?

 
4
OQ55371 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

A wnaiff y Comisiwn roi arweiniad i Aelodau ar ailagor swyddfeydd etholaethol yn ddiogel?

 
5
OQ55378 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ei allu i ailagor ystâd Senedd Cymru?

 
6
OQ55363 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2020

Pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i gynyddu cymorth digidol i ganiatáu i staff y Comisiwn ehangu eu gallu i weithio gartref a gweithio o bell?