Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/04/2018 i'w hateb ar 01/05/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau meddygon teulu locwm yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o ofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cefnffyrdd yn Nwyrain De Cymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r berthynas rhwng tai ac iechyd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr adolygiad rhywedd sy'n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau gofal iechyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i ymchwil diweddaraf Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr sy'n amlygu bod y gyfradd uchaf o fyfyrwyr sy'n rhoi'r gorau i'r brifysgol yn rhai dosbarth gweithiol?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth treftadaeth yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol?
Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i lansio ymchwiliad i wasanaethau golchi car yng Nghymru, yn sgil cyhoeddiad gan Gadeirydd Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol Tŷ'r Cyffredin ei fod yn bwriadu ystyried y mater ar lefel y DU?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â nifer y cartrefi gwag yng Nghymru?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi mentrau bach a chanolig yng Nghwm Cynon?
Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gynyddu cydlyniant cymunedol ledled Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu'r bobl dlotaf yn Islwyn?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid?