Cynigion i’w trafod ar 20/03/2024
NDM8505 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2024 | I'w drafod ar 20/03/2024Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod:
a) casgliadau cenedlaethol Cymru, sydd o dan ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn berchen i bawb yng Nghymru;
b) angen diogelu'r casgliadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, tra hefyd yn parhau i gael eu defnyddio i ysbrydoli ac ysgogi pobl o bob oed; ac
c) mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol wedi bod yn llwyddiant diamheuol ers cyflwyno’r polisi yn 2001, a bod y polisi hwn yn un y dylid ei warchod.
2. Yn nodi:
a) rhybuddion gan y sefydliadau bod toriadau cyllidol refeniw a chyfalaf yn peryglu’r casgliadau cenedlaethol, oherwydd gofodau a storfeydd anaddas a hefyd lleihad yn nifer y staff arbenigol sydd bellach wedi eu cyflogi i ofalu amdanynt;
b) y pryderon y bydd toriadau pellach yn gwaethygu’r sefyllfa; ac
c) cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gyfer ein casgliadau cenedlaethol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) comisiynu panel o arbenigwyr i sefydlu beth yw’r perygl i’r casgliadau, a gweithio gyda’r sefydliadau a Llywodraeth Cymru i roi ar waith gynllun i’w diogelu;
b) gweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, a’r undebau sy’n cynrychioli’r staff yn y sefydliadau hyn, i sicrhau eu hyfywedd i’r dyfodol; ac
c) gweithio gydag Amgueddfa Cymru i barhau gyda’r polisi mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol.
Cyflwynwyd gan
Cyd-gyflwynwyr
NDM8517 - Dadl Fer
Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2024 | I'w drafod ar 20/03/2024Cynllun cenedlaethol ar gyfer cydnerthedd rhag llifogydd
Cyflwynwyd gan
NDM8523 - Dadl Fer
Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2024 | I'w drafod ar 20/03/2024Achub bywydau a diogelu ein cymunedau - yr achos dros ganolfannau atal gorddos.
Cyflwynwyd gan
NDM8524 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2024 | I'w drafod ar 20/03/2024Yn cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y consensws trawsbleidiol yn y Senedd ynghylch yr angen i ddiwygio model cyllido Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddod â'r fformiwla Barnett annheg i ben ac i ariannu Cymru yn ôl angen a nid ar sail poblogaeth.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno, yn lle fformiwla Barnett sydd wedi dyddio, system newydd sy’n seiliedig ar anghenion cymharol ac sydd wedi’i chymeradwyo gan y pedair gwlad, o fewn cytundeb cyllidol newydd a gaiff ei oruchwylio a’i weithredu gan gorff sy’n annibynnol ar Lywodraeth y DU.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi'r model cyllido presennol sy'n gweld Cymru'n cael £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario ar iechyd ac addysg yn Lloegr, gyda dim ond £1.05 yn cyrraedd GIG Cymru ac ystafelloedd dosbarth.
Yn nodi'r bron i £1 biliwn mewn buddsoddiad ychwanegol yng Nghymru gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a chyllid ffyniant bro.
Cyflwynwyd gan
NDM8525 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2024 | I'w drafod ar 20/03/2024Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1367: Dylid ariannu gwaith i symud creigiau chwarel ac adfer tywod a grwynau i Draeth y Gogledd Llandudno.’ a gasglodd 12,228 o lofnodion.