Cynigion i’w trafod ar 20/03/2019

NDM6996 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019 | I'w drafod ar 20/03/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Gradd ar Wahân? Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Rhagfyr 2018. 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 1 Chwefror 2019.

Cyflwynwyd gan

 

NDM6997 - Dadl Fer

Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019 | I'w drafod ar 20/03/2019

Brwydro dros Wasanaethau'r Dyfodol - yr achos dros warchod gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg.

 

NDM6998 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019 | I'w drafod ar 20/03/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad: Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2019.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 13 Mawrth 2019.

 

NDM6999 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019 | I'w drafod ar 20/03/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi, er bod materion tramor yn fater a gedwir i Lywodraeth a Senedd y DU ar hyn o bryd, mae adran 62 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu: "“The Welsh Ministers, the First Minister and the Counsel General may make appropriate representations about any matter affecting Wales”.

2. Yn cydnabod y gymuned Cwrdaidd sylweddol yng Nghymru.

3. Yn nodi bod preswylydd o Gymru - İmam Sis, dyn Cwraidd ifanc - ar streic newyn amhenodol, ddigyfaddawd o 17 Rhagfyr 2018, a ddechreuwyd i brotestio yn erbyn ynysu'r arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan sydd wedi'i garcharu gan Dwrci ers 1999 o dan amodau sydd, yn ôl pob deall, yn mynd yn groes i rwymedigaethau cyfreithiol gwladwriaeth Twrci mewn perthynas â hawliau dynol.

4. Yn nodi bod streiciau newyn yn digwydd ledled Ewrop a'r byd, gan gynnwys gan Leyla Güven, aelod etholedig o Senedd Twrci.

5. Yn nodi bod Twrci yn un o lofnodwyr sawl cytuniad hawliau dynol rhyngwladol, gan gynnwys y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel aelod o Gyngor Ewrop.

6. Yn mynegi ei bryder ynghylch y rhesymau dros y streiciau newyn.

7. Yn cydnabod mai nod y streiciau newyn yn y pen draw yw gweld ateb heddychlon, gwleidyddol i'r cwestiwn Cwrdaidd yn Nhwrci.

8. Yn cadarnhau pwysigrwydd cynnal rhwymedigaethau hawliau dynol yn Nhwrci.

9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i ysgrifennu at y Pwyllgor i Atal Artaith a Thriniaeth Annynol neu Ddiraddiol neu Gosb yn galw ar y Pwyllgor i ymweld â Charchar Imrali i asesu amodau Abdullah Öcalan.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Saesneg yn unig)

Gwelliannau

NDM6999 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2019

Ym mhwynt 3, dileu 'ynysu'r arweinydd Cwrdaidd' a rhoi yn ei le 'ynysu arweinydd Cwrdaidd y PKK (Plaid Gweithwyr Cwrdistan)'.

NDM6999 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2019

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod y PKK yn sefydliad terfysgol a waharddwyd yn y DU, yr Undeb Ewropeaidd, ac Unol Daleithiau America.

Yn condemnio pob gweithred derfysgol a gyflawnir gan y PKK ac yn cydnabod y dioddefwyr a'r sifiliaid a laddwyd ac a gafodd eu dal yn eu hymosodiadau.

Yn cydnabod hawl Twrci i amddiffyn ei hun rhag ymosodiadau terfysgol gan y PKK..  

NDM6999 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2019

Dileu pwynt 7 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod mai nod o streicwyr newyn yw galluogi Abdullah Öcalan i gael gafael ar gynrychiolaeth gyfreithiol a chysylltu â'i deulu.

NDM6999 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 8 ac ailrifo'n unol â hynny:

Yn nodi fod Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth y DU a Llysgennad EM â Thwrci wedi pwysleisio wrth Lywodraeth Twrci yr angen i barchu hawliau dynol, osgoi anafu sifiliaid a dychwelyd at y broses heddwch.

NDM6999 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y PKK i roi'r gorau i derfysgaeth fel modd o hybu ei amcanion a dychwelyd at y broses heddwch.

 

NDM7000 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019 | I'w drafod ar 20/03/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod ymgyrch barhaus menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth;

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg i bob menyw a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951, sydd wedi gorfod ysgwyddo baich y cynnydd yn annheg, o ran oedran pensiwn y wladwriaeth (SPA) gyda diffyg hysbysiad priodol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymgyrch WASPI.

4. Yn galw ar y Cwnsler Cyffredinol i ystyried pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd mewn perthynas â'r ymgyfreitha disgwyliedig yn erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau am y camdrafod honedig o godi oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod a aned yn y 1950au.

Gwelliannau

NDM7000 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Llywodraethau olynol y DU wedi cyfathrebu gyda menywod yr effeithiwyd arnynt ers y newidiadau i oedran pensiwn menywod ers Deddf Pensiynau 1995 a Deddf Pensiynau 2007 a bod ymgynghoriad cyhoeddus a dadleuon helaeth wedi cael eu cynnal yn y Senedd o ran cynnydd ychwanegol i oedran pensiwn y wladwriaeth yn 2011.

 

'Deddf Pesiynau 1995' (Saesneg yn unig)

'PDeddf Pensiynau 2007' (Saesneg yn unig)

 

 

NDM7000 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2019

Dileu pwyntiau 2 a 4 ac ailrifo'n unol â hynny.

 

NDM7003 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2019 | I'w drafod ar 20/03/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

'Bil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)'

 

NDM7017 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2019 | I'w drafod ar 20/03/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.3 a 17.13(ii), yn ethol Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn lle David Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).