Cynigion a gyflwynwyd ar 15/03/2024

NNDM8526 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), sef, cymal 3 sy'n ymwneud â chaffael cyhoeddus, a chymal 4 sy'n ymwneud â dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2023 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Ceir copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) [HL] (parliament.uk) (Saesneg yn unig)

 

NNDM8527 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y ‌Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), sef, cymal 2, trin cyrff asesu cydymffurfiaeth etc., i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2023 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Ceir copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) [HL] (parliament.uk) (Saesneg yn unig)

 

NNDM8528 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn am yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar NNDM8526 a NNDM8527 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 19 Mawrth 2024.