Cynigion i’w trafod ar 12/03/2024

NDM8460 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 17/01/2024 | I'w drafod ar 12/03/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyfer mwy o ddiogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) cyflwyno systemau ar gyfer monitro, adrodd ac uwchraddio goleuadau yn rheolaidd ar gyfer yr holl wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys ar fwrdd cerbydau, mewn arosfannau a gorsafoedd, ac ar strydoedd yn union o amgylch gorsafoedd trên a safleoedd bysiau mawr;

b) adolygu hyfforddiant a gynigir ar hyn o bryd ym maes diogelwch i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth, o'u rhan eu hunain ac eraill;

c) gwella gweithdrefnau adrodd presennol a datblygu systemau mwy cyson a thryloyw ar gyfer adrodd a chofnodi achosion o gam-drin sy'n effeithio ar bobl sy'n agored i niwed ar drafnidiaeth gyhoeddus; a

d) asesu'r angen am ddyletswydd statudol ar gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau bod teithwyr yn cyrraedd pen eu taith, neu fan diogel, ar ôl iddi dywyllu.

 

NDM8506 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2024 | I'w drafod ar 12/03/2024

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
 
Yn cytuno i waredu’r adrannau o’r Bil Seilwaith (Cymru) a’r atodlenni iddo yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
 
a) Adrannau 1-61;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 62 - 91;

d) Atodlen 2;

e) Adrannau 92 - 143;

f) Atodlen 3;

g) Adrannau 144 - 146;

h) Enw hir.

 

NDM8509 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2024 | I'w drafod ar 12/03/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Rhagfyr 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Ceir copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) - Biliau Seneddol - Senedd y DU

 

NDM8510 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2024 | I'w drafod ar 12/03/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2024.

 

NDM8511 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2024 | I'w drafod ar 12/03/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2024.

 

NDM8512 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2024 | I'w drafod ar 12/03/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaeth yn y ‌Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), sef cymal 2, trin cyrff asesu cydymffurfiaeth etc., i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2023 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Ceir copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) [HL] (parliament.uk) (Saesneg yn unig)

 

NDM8513 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2024 | I'w drafod ar 12/03/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), sef cymal 3 sy'n ymwneud â chaffael cyhoeddus, a chymal 4 sy'n ymwneud â dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2023 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Ceir copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) [HL] (parliament.uk) (Saesneg yn unig)