NDM7232 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 14/01/2020 | I'w drafod ar 21/01/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2019-20