NDM7170 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod

Wedi’i gyflwyno ar 22/10/2019 | I'w drafod ar 22/10/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn peidio â chytuno i Fil y Cytundeb Ymadael, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin, gael ei wneud yn ddeddf gan Senedd y DU.

2. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 i gynorthwyo’r Cynulliad i roi ystyriaeth ffurfiol i gydsyniad maes o law.

Bil y Cytundeb Ymadael (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NNDM7170 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 22/10/2019

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.

2. Yn nodi bod Llywodraeth Ei Mawrhydi wedi sicrhau bargen gyda'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn galluogi Cymru, a gweddill y Deyrnas Unedig, i adael ar 31 Hydref 2019.

3. Yn gresynu at yr effaith andwyol y bydd oedi ac ansicrwydd pellach yn ei chael ar fusnesau Cymru, y sector cyhoeddus a sefydliadau anllywodraethol eraill. 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU wrth iddi geisio deddfu i sicrhau bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 31 Hydref 2019.

5. Yn credu, pe na bai'r Cytundeb Ymadael yn cael cefnogaeth Senedd y DU, y dylid cynnal etholiad cyffredinol yn y DU. 

NNDM7170 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 22/10/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu, os bydd Bil y Cytundeb Ymadael yn arwain at Brexit heb gytundeb, y dylid cynnal refferendwm ar sofraniaeth genedlaethol Cymru.