NNDM7127 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod

Wedi’i gyflwyno ar 16/07/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi dyfarniad yr Uchel Lys bod y cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones, wedi ymyrryd yn anghyfreithlon â'r ymchwiliad annibynnol i'r ffordd yr ymdriniodd â diswyddo Carl Sargeant.

2. Yn nodi'r cofnod cau'r ymchwiliad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 11 Gorffennaf 2019.

3. Yn ei gwneud yn ofynnol i Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, gan weithredu'n unol ag adran 37 (1) (b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gynhyrchu at ddibenion y Cynulliad, gyda golygiadau priodol i sicrhau bod tystion yn anhysbys, yr adroddiad llawn i'r ymchwiliad ynghylch a oedd unrhyw dystiolaeth o rannu gwybodaeth heb awdurdod ymlaen llaw mewn perthynas ag ad-drefnu gweinidogol ym mis Tachwedd 2017, gan gynnwys pob nodyn o gyfweliadau a gynhaliwyd fel rhan o'r ymchwiliad.

Crynodeb y wasg a Dyfarniad yr Uchel Lys ar yr Ymchwiliad o dan arweiniad Cwnsler y Frenhines i ddiswyddo Carl Sargeant (Saesneg yn unig)

Cofnod cau ymchwiliad datgelu gwybodaeth: Ad-drefnu'r Cabinet Tachwedd 2017 (Saesneg yn unig)

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Saesneg yn unig)