NDM7124 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2019 | I'w drafod ar 17/07/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad terfynol y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig ar 1 Ebrill 2019.

2. Yn nodi ymhellach y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2019.

3. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn rhoi’r Bil Awtistiaeth (Cymru) ar waith.

4. Yn cydnabod er bod adroddiad blynyddol y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2018-2019 yn amlinellu dull Llywodraeth Cymru o ddatblygu gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod diffyg mesurau canlyniadau o fewn yr adroddiad ar gyflawni’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2016.

5. Yn cydnabod, er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod anghysonderau yn y gwasanaeth a'r cymorth a gynigir sy'n effeithio ar ganlyniadau i bobl awtistig a'u teuluoedd.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth awtistiaeth integredig ac i ddarparu gwasanaethau cefnogi awtistiaeth o ansawdd uchel drwy:

a) darparu cymorth a gwasanaethau digonol i bobl awtistig a'u teuluoedd sy'n adlewyrchu'r ystod eang o anghenion a allai fod ganddynt; sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni disgwyliadau defnyddwyr ac yn cryfhau llais awtistiaeth drwy fynd y tu hwnt i ymwybyddiaeth o awtistiaeth at rymuso awtistiaeth;

b) datblygu system fonitro glir a chyson er mwyn gallu adrodd yn fwy effeithiol ar ganlyniadau ar gyfer pobl awtistig;

c) egluro'r trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth 2021, er mwyn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr gwasanaethau;

d) rhoi'r gwasanaeth awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i gefnogi pobl awtistig a chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn y Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gan gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth;

e) gweithio i weithredu argymhellion y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig -1 Ebrill 2019

Datganiad Ysgrifenedig: Gwerthusiad Annibynnol o’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol a’r Cynllun Gweithredu Strategol Newydd ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, 3 Ebrill 2019

Bil Awtistiaeth (Cymru)

Llywodraeth Cymru, Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig - Adroddiad Blynyddol 2018/19 , 5 Gorffennaf 2019

Llywodraeth Cymru, Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig, 2016

Gwelliannau

NDM7124 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 12/07/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu, er mwyn i bobl ag awtistiaeth gael y gwasanaethau gorau posibl, fod angen ystyried niwroamrywiaeth fel mater cydraddoldeb ynddo'i hun, a bod cael ymennydd nad yw'n niwronodweddiadol yn dod yn nodwedd warchodedig o dan ddeddfwriaeth cydraddoldebau, gyda gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb yn unol â hynny.

NDM7124 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 12/07/2019

Ym mhwynt 6, dileu popeth ar ôl is-bwynt a, a rhoi yn ei le:

adeiladu ar y gwaith monitro sy’n bodoli o fewn gwasanaethau er mwyn gallu adrodd yn fwy effeithiol ar ganlyniadau ar gyfer pobl awtistig;

egluro'r trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth 2021, unwaith y byddwn wedi cael yr eglurder yr ydym yn disgwyl amdano oddi wrth Lywodraeth y DU ynglŷn â’n setliad ar gyfer 2020-21 a thu hwnt i hynny;

rhoi'r gwasanaeth awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i gefnogi pobl awtistig a chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn y Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gan gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth;

gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i weithredu argymhellion y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig.

Cyflwynwyd gan

NDM7124 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 12/07/2019

Dileu pwynt 3 ac ailrifo’n unol â hynny.

Cyflwynwyd gan