NDM7119 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2019 | I'w drafod ar 17/07/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad ar y cyd y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, sef 'Asesu effaith penderfyniadau cyllidebol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2019.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2019.