NDM7071 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2019 | I'w drafod ar 19/06/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

2. Yn gresynu na wnaeth y DU adael yr UE ar 29 Mawrth 2019, er gwaethaf sawl addewid gan Lywodraeth y DU i wneud hynny, a bod 498 o ASau wedi pleidleisio i gychwyn proses Erthygl 50 i adael erbyn y dyddiad hwnnw.

3. Yn gwrthod unrhyw estyniad i aelodaeth y DU o'r UE ar ôl 31 Hydref 2019.

4. Yn nodi y gallai gadael heb fargen leihau costau bwyd, dillad ac esgidiau yn sylweddol, ac y bydd yn arbed £39 biliwn i drethdalwyr y DU.

5. Yn penderfynu y dylai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref 2019 oni bai bod yr UE, o leiaf:

a) yn cynnig cytundeb masnach rydd cynhwysfawr i'r DU; a

b) yn derbyn trefniadau amgen yn lle protocol Gogledd Iwerddon. 

Gwelliannau

NDM7071 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

 

1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.

 

2. Yn gresynu nad yw'r Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd eto.

 

3. Yn credu y dylid rhoi canlyniad y refferendwm ar waith.