NDM7028 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 27/03/2019 | I'w drafod ar 03/04/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Cyd Adolygiad Thematig Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol.
2. Yn nodi ymhellach y nifer gynyddol o atgyfeiriadau i'r timau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru.
3. Yn gresynu at y diffyg cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd corfforol a gwasanaethau iechyd meddwl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol, a mynediad ato, gan gynnwys:
a) cynyddu gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad;
b) sicrhau bod timau argyfwng ar gael 24/7 ym mhob adran achosion brys mawr;
c) gweithio ar frys gyda byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a
d) codi ymwybyddiaeth ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ym mhwynt 4, ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
cyhoeddi data perfformiad ystyrlon ar amseroedd aros, gan gynnwys grwpiau oedran a diagnosis, fel y gall hawliadau'n ymwneud â gwella gael eu gwirio'n annibynnol.
Cyflwynwyd gan
Ym mhwynt 4, ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
sicrhau bod timau iechyd meddwl cymunedol yn cysylltu â gwasanaethau hawliau lles i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed yn erbyn asesiadau'r adran gwaith a phensiynau a phrosesau gwneud penderfyniad sydd yn aml yn gwaethygu cyflyrau iechyd meddwl.
Cyflwynwyd gan
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod yr angen i sicrhau cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd y corff a gwasanaethau iechyd meddwl;
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol a gwella’r mynediad at y cymorth hwnnw, gan gynnwys:
a) parhau i gynyddu’r gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad, yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o wariant yn 2019;
b) sicrhau bod trefniadau ar waith i ymateb i argyfyngau iechyd meddwl bob awr o bob dydd ym mhob un o’r adrannau achosion brys mawr;
c) gweithio ar frys gyda’r byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a
d) codi ymwybyddiaeth ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.