NDM7000 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019 | I'w drafod ar 20/03/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod ymgyrch barhaus menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth;

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg i bob menyw a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951, sydd wedi gorfod ysgwyddo baich y cynnydd yn annheg, o ran oedran pensiwn y wladwriaeth (SPA) gyda diffyg hysbysiad priodol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymgyrch WASPI.

4. Yn galw ar y Cwnsler Cyffredinol i ystyried pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd mewn perthynas â'r ymgyfreitha disgwyliedig yn erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau am y camdrafod honedig o godi oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod a aned yn y 1950au.

Gwelliannau

NDM7000 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Llywodraethau olynol y DU wedi cyfathrebu gyda menywod yr effeithiwyd arnynt ers y newidiadau i oedran pensiwn menywod ers Deddf Pensiynau 1995 a Deddf Pensiynau 2007 a bod ymgynghoriad cyhoeddus a dadleuon helaeth wedi cael eu cynnal yn y Senedd o ran cynnydd ychwanegol i oedran pensiwn y wladwriaeth yn 2011.

 

'Deddf Pesiynau 1995' (Saesneg yn unig)

'PDeddf Pensiynau 2007' (Saesneg yn unig)

 

 

NDM7000 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2019

Dileu pwyntiau 2 a 4 ac ailrifo'n unol â hynny.