NNDM6985 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod

Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailadrodd ei wrthwynebiad i’r cytundeb niweidiol ar gyfer ymadael â’r UE y cytunwyd arno gan Lywodraeth y DU.

2.    Yn cytuno y byddai canlyniad o ddim-cytundeb yn dilyn y negodiadau presennol ar ymadael â’r UE yn hollol annerbyniol ar 29 Mawrth 2019 neu ar unrhyw adeg.

3.    Yn galw felly ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ar unwaith i atal y DU rhag ymadael â’r UE heb gytundeb ac yn cytuno y dylai proses Erthygl 50 gael ei hestyn fel bod modd dod i gytundeb ar y ffordd orau ymlaen er mwyn diogelu buddiannau Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig gyfan.

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NNDM6985 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2019

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn dwyn i gof fod Llywodraeth y DU, cyn y refferendwm ym mis Mehefin 2016, wedi anfon llyfryn at bob aelwyd yn y Deyrnas Unedig, yn datgan, o dan y pennawd 'Penderfyniad Unwaith Mewn Cenhedlaeth', 'Cred y Llywodraeth mai pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yw’r penderfyniad gorau i’r D.U.', ond hefyd, 'Chi sydd i benderfynu. Bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar eich penderfyniad.'.

2. Yn credu mai modd drefnus o adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019 fyddai orau, ond yn penderfynu, os na ellir cael cytundeb rhwng y Deyras Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, na ddylid ymestyn proses Erthygl 50, gan y byddai hyn yn parhau'r ansicrwydd ac yn bradychu ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig, a bleidleisiodd yn bendant dros adael yr UE.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i dderbyn y tebygolrwydd y byddwn yn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd ar 29 Mawrth 2019, a chanolbwyntio ein holl ymdrechion erbyn hyn ar baratoi ar gyfer y canlyniad hwn.

Pam mae’r Llywodraeth o’r farn mai pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yw’r penderfyniad gorau i’r D.U. - gyda chyfeiriadau - Swyddfa'r Cabinet - Ebrill 2016

 

 

NNDM6985 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu mai'r ffordd orau ymlaen yw cynnal pleidlais y bobl, er mwyn galluogi dewis democrataidd rhwng cytundeb y Prif Weinidog ar gyfer ymadael â'r UE ac aros yn yr UE , ac yn galw ar Lywodraeth y DU i amlinellu ei chynlluniau i gynnal pleidlais o'r fath ar unwaith.