NDM6974 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2019 | I'w drafod ar 20/02/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, sef Busnes Pawb: Adroddiad ar Atal Hunanladdiad yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2018.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ionawr 2019.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y gall cam-drin domestig, emosiynol a chudd yn erbyn dynion fod yn ffactor yn y gyfradd hunanladdiad uchel ymysg dynion.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r diffyg cymorth anfeirniadol sydd ar gael o ran cam-drin domestig, i ddynion yng Nghymru, fel rhan o'i strategaeth ar atal hunanladdiad, a hynny fel mater o frys.