NDM6942 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2019 | I'w drafod ar 20/02/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r adroddiad ac argymhellion yn ymwneud â pherthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol.

2. Yn cydnabod pwysigrwydd perthynas barhaus rhwng Cymru a Phwyllgor y Rhanbarthau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi sefydlu Comisiwn ar y cyd rhwng Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau deialog barhaus a chydweithredu rhwng Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Cynulliad ac awdurdodau lleol Cymru ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.

Mick Antoniw AC a Bethan Sayed AC, Wales’ future relationship with the Committee of the Regions’ - rhoddwyd copi yn Llyfrgell yr Aelodau ar 18 Ionawr 2019.