NDM6893 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2018 | I'w drafod ar 12/12/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil ar atal ac ailgylchu gwastraff.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) atal gwastraff drwy osod gofynion ailgylchu ar gynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr o ran deunydd pacio a gwastraff deunydd pacio; a
b) cyflwyno cyfrifoldebau estynedig ar y cynhyrchydd i sicrhau bod costau ailgylchu a rheoli gwastraff yn cael eu rhannu yn deg, gyda chynhyrchwyr yn cyfrannu at gost ariannol triniaeth ar ddiwedd bywyd eu cynnyrch.