NDM6860 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2018 | I'w drafod ar 12/12/2018

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi yr adroddiad gan Ysgol Fusnes Caerdydd, 'The Living Wage Employer Experience'.

2. Yn croesawu'r camau a gymerwyd gan 174 o gyflogwyr ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru i dalu cyflog byw go iawn i'w cyflogeion.

3. yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) nodi'r mesurau i gefnogi mwy o gyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i fabwysiadu'r cyflog byw go iawn a dod yn gyflogwyr cyflog byw go iawn achrededig; a

b) ystyried cryfhau y Cod ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi mewn perthynas â'r cyflog byw go iawn.

The Living Wage Employer Experience (Saesneg yn unig)

Cod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi