NDM6829 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2018 | I'w drafod ar 17/10/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn mynegi pryder am gapasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.

2. Yn nodi bod pwysau drwy gydol y flwyddyn yn llesteirio gallu'r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i ymdrin â phwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans, er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.

Gwelliannau

NDM6829 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 12/10/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo:

Yn nodi bod pwysau ariannol sy’n arwain at wasanaethau gofal cymdeithasol gwaeth yn cyfrannu at bwysau cynyddol ar y GIG.

NDM6829 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 12/10/2018

Ym mhwynt 3, ychwanegu ‘gofal cymdeithasol,’ ar ôl ‘phwysau ar wasanaethau’.

NDM6829 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 12/10/2018

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud i adeiladu capasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.

2. Yn nodi bod angen cydnabod a deall y pwysau sydd drwy gydol y flwyddyn, er mwyn hybu gallu’r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rhoi Cymru Iachach ar waith i ymdrin â’r pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.

Cymru Iachach