NDM6782 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2018 | I'w drafod ar 17/10/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi sectorau sylfaenol yn ei chynllun gweithredu economaidd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ymhellach o ran croesawu egwyddorion yr economi sylfaenol.

2. Yn credu bod dull Cyngor Dinas Preston o adeiladu cyfoeth cymunedol yn amlwg wedi llwyddo i fynd i'r afael ag amddifadedd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gwrdd â chynrychiolwyr o Gyngor Dinas Preston i drafod y gwersi y gellir eu dysgu.

3. Yn credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnig cyfle sylweddol i ail-fframio gwerth gorau yng nghyd-destun caffael yng Nghymru, i gefnogi dull yr economi sylfaenol.    

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu modelau uchelgeisiol o ofal cymdeithasol i oedolion sy'n cydnabod pwysigrwydd dull lleol ac yn treialu  modelau amgen lluosog o ddarparu gofal, fel rhan o ddull gweithredu yr economi sylfaenol yng Nghymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Cyflwynwyd gan