NDM6779 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2018 | I'w drafod ar 19/09/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylid dychwelyd defaid, y cyfeiriwyd atynt yn y gorffennol fel cynrhon gwlanog, i fryniau Cymru.

2. Yn gresynu at y ffaith bod y penderfyniad i ddileu hawliau pori ar ucheldiroedd Cymru wedi arwain at ddifrod enfawr i ucheldiroedd Cymru, bywyd gwyllt a'r amgylchedd yn gyffredinol.  

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar unrhyw gymhellion sy'n annog symud da byw o ardaloedd yr ucheldir ac, yn lle hynny, darparu cymhellion i ailboblogi'r ardaloedd hynny â da byw.

Gwelliannau

NDM6779 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 13/09/2018

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd da byw yng Nghymru yn y broses o gefnogi'r diwydiant bwyd-amaeth ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

2. Yn credu bod diwydiant da byw Cymru yn sector integredig a bod da byw yr ucheldir a'r iseldir yn ddibynnol ar ei gilydd.

3. Yn nodi pwysigrwydd ffermio ar yr ucheldir i gymunedau gwledig, ac yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i hybu mwy o gapasiti prosesu yng Nghymru er mwyn ychwanegu gwerth at y sector da byw.

4. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau newid o ran sut y mae incwm yr ardoll hyrwyddo yn cael ei ddosbarthu a, drwy hynny, sicrhau gwell elw, yn enwedig ar gyfer diwydiant defaid Cymru a Hybu Cig Cymru, y sefydliad sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru.  

NDM6779 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 13/09/2018

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod ffermydd defaid yr ucheldir yn rhan bwysig o economi Cymru.

2. Yn nodi â phryder y peryglon y mae gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn eu hachosi i ffermydd defaid yr ucheldir.

3. Yn cefnogi aros yn yr UE fel ffordd o gadw statws y farchnad sengl ond, os byddwn yn gadael yr UE ac yn colli aelodaeth o'r farchnad sengl, yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth digonol i ffermydd defaid yr ucheldir gan adeiladu ar safonau lles anifeiliaid ac amgylcheddol uchel.

NDM6779 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 14/09/2018

Dileu popeth a rhoi yn ei le

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod canlyniad refferendwm Brexit a’r heriau masnach a fydd yn deillio ohono i ffermio ucheldir Cymru yn golygu bod angen i ni edrych tua’r dyfodol, ac nid i’r gorffennol, gan ddatblygu model cymorth newydd ar gyfer rheolwyr tir.

2. Yn nodi canlyniadau gwahanol ymarferion cynllunio senarios ar gyfer amaeth ar ôl Brexit yng Nghymru. Mae’r cyfan yn rhagweld dyfodol anodd ar gyfer ffermio defaid yn yr ucheldir os bydd y DU yn ymadael â’r farchnad sengl a’r undeb tollau.

3. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i greu rhaglen, a fydd yn cynnwys ffermwyr yr ucheldir, a fydd yn mynd i’r afael â’r materion a nodir uchod drwy gyflwyno dau gynllun mawr a hyblyg: sef Cynllun Cadernid Economaidd a chynllun Nwyddau Cyhoeddus.

Ymghynghori – Cymorth i Ffermwyr Cymru ar ôl Brexit