NDM6773 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2018 | I'w drafod ar 18/07/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-18 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Gorffennaf 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad bod achos o dorri amodau wedi ei ganfod a phenderfynu y dylai'r Aelod, o dan Reol Sefydlog 22.10 (iii) gael ei geryddu a'i wahardd o drafodion y Cynulliad am gyfnod o 14 diwrnod calendr, gan ddechrau ar ddiwrnod cyntaf tymor y Cynulliad ar ôl toriad yr haf (17 Medi 2018).