NDM6745 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2018 | I'w drafod ar 20/06/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan weithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.

2. Yn credu y bydd gweithlu iach sy'n cael ei werthfawrogi a'i gefnogi yn allweddol i sbarduno'r gweddnewid sydd ei angen ar GIG Cymru i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi, erbyn mis Ionawr 2019, strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru i sicrhau bod ein gwasanaethau yn gallu mynd i'r afael â'r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud GIG Cymru yn esiampl fel cyflogwr o ganlyniad i'w gefnogaeth ar gyfer llesiant yn y gweithle drwy weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG a datblygu polisïau cadarn sy'n cefnogi iechyd, lles a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu gofal cymdeithasol a iechyd.

Gwelliannau

NDM6745 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 14/06/2018

Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu, oherwydd methiant llywodraethau olynol yng Nghymru i ymgymryd â gwaith cynllunio'r gweithlu digonol, fod gan y GIG yng Nghymru brinder staff ar draws llawer o feysydd arbenigol, yn enwedig nyrsio, ymarfer cyffredinol, meddygaeth frys, seiciatreg, radioleg ac endosgopi; a bod y prinderau hyn yn rhoi straen aruthrol ar staff presennol ac yn effeithio ar ofal cleifion.  

NDM6745 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 14/06/2018

Ym mhwynt 4, dileu 'weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG a datblygu' a rhoi 'ddatblygu' yn ei le.

NDM6745 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2018

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn 2019 i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gallu mynd i’r afael â’r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol;

b) gwneud GIG Cymru yn esiampl o gyflogwr o ran y modd y mae’n cefnogi llesiant yn y gwaith drwy ddatblygu polisïau cadarn sy’n hybu iechyd, llesiant a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.

NDM6745 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am agor canolfan ar gyfer addysg feddygol ym Mangor ac ehangu addysg feddygol ledled Cymru i sicrhau bod gan bob rhanbarth y gweithlu iechyd sydd ei angen arno.

NDM6745 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am sicrhau bod cynlluniau gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnwys targedau cadarn ar gyfer darparu gweithlu dwyieithog a manylion ynghylch sut y bydd staff presennol y GIG yn cael eu hannog a'u cefnogi i ddysgu Cymraeg