NDM6733 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 24/05/2018 | I'w drafod ar 20/06/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) mai 21 Mehefin yw diwrnod aer glân;

b) effaith niweidiol llygredd aer ar ein hiechyd - mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod llygredd aer yn achosi 2,000 o farwolaethau y flwyddyn, sef 6 y cant o gyfanswm y marwolaethau yng Nghymru; a

c) bod yn rhaid delio â NO2 a mater gronynnol er mwyn goresgyn llygredd aer.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llygredd aer parhaus a chyflwyno parthau aer glân i newid ymddygiad a gwella iechyd dinasyddion.

Gwelliannau

NDM6733 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 14/06/2018

Ym mhwynt 2, dileu 'a chyflwyno parthau aer glân i newid ymddygiad a' a rhoi 'drwy gyflwyno dewisiadau amgen ar gyfer trafnidiaeth a mynd i'r afael â llygredd diwydiannol er mwyn' yn ei le.