Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Finance Committee - Fifth Senedd

27/11/2019

Aelodau'r Pwyllgor a oedd yn bresennol

Committee Members in Attendance

Alun Davies
Llyr Gruffydd Cadeirydd y Pwyllgor
Committee Chair
Mike Hedges
Nick Ramsay
Rhun ap Iorwerth

Swyddogion y Senedd a oedd yn bresennol

Senedd Officials in Attendance

Leanne Hatcher Ail Glerc
Second Clerk
Martin Jennings Ymchwilydd
Researcher
Samantha Williams Dirprwy Glerc
Deputy Clerk

Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.

The proceedings are reported in the language in which they were spoken in the committee. In addition, a transcription of the simultaneous interpretation is included. Where contributors have supplied corrections to their evidence, these are noted in the transcript.

Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.

The meeting began at 09:30.

1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1. Introductions, apologies, substitutions and declarations of interest

Bore da. Croeso i chi gyd i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid. Gaf i nodi ein bod ni wedi derbyn ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore a Mark Reckless? Gaf i nodi hefyd fod clustffonau ar gael ar gyfer y cyfieithu, ac ar gyfer addasu lefel y sain, ac atgoffa Aelodau i ddiffodd y sain ar unrhyw ddyfeisiadau electronig sydd ganddoch chi? Ac a gaf i ofyn os oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan? Na. Yn iawn.

Good morning. Welcome to this meeting of the Finance Committee. Could I note that we've had apologies from Rhianon Passmore and Mark Reckless, and note that headsets are available for interpretation and for amplifying the sound? And could I remind Members to ensure that any electronic devices are on silent? And could I ask whether any Members have interests to declare? No. Fine. 

2. Papurau i'w nodi
2. Papers to note

Ymlaen â ni felly i nodi papurau—yr ail eitem ar yr agenda. Fel welwch chi mai'r papur cyntaf i'w nodi yw llythyr gan yr Aelod Cynulliad Suzy Davies mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar graffu ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21. Yr ail bapur i'w nodi yn lythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynglŷn â'r broses gyllidebol yn Seland Newydd. A'r trydydd papur i'w nodi yw lythyr gan y Gweinidog Cyllid at y Llywydd ynglŷn â'r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019. Ac mi fyddwch chi hefyd yn nodi bod angen i ni nodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd, neu'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 a 23 Hydref, 7 Tachwedd a 13 Tachwedd. Ydy Aelodau'n hapus i nodi'r holl bapurau yna? Dyna ni. Diolch yn fawr iawn i chi.

Let's go on then to papers to note—the second item on the agenda. The first item is a letter from Suzy Davies AM in response to the Finance Committee's report on scrutiny of the draft Assembly Commission budget for 2020-21. The second paper is a letter from the Auditor General for Wales to the Chair of the Public Accounts Committee about the budgetary process in New Zealand. And the third paper is a letter from the Minister for Finance to the Llywydd in terms of the Non-Domestic Rating (Multiplier) (Wales) Order 2019. And you'll note that we will need to note the minutes of the meetings that were held on 17 and 23 October and 7 and 13 November. Are Members happy to note those papers? Good. Okay, thank you very much. 

3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
3. Motion under Standing Order 17.42 to resolve to exclude the public from the remainder of the meeting

Cynnig:

bod y pwyllgor yn penderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi).

Motion:

that the committee resolves to exclude the public from the remainder of the meeting in accordance with Standing Order 17.42(vi).

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Yn unol felly â Rheol Sefydlog 17.42(vi), dwi'n cynnig bod y pwyllgor yn gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw. Ydy Aelodau yn hapus â hynny? Iawn, diolch yn fawr. Mi symudwn ni felly i sesiwn breifat. 

In accordance therefore with Standing Order 17.42(vi), I propose that the committee resolves to exclude the public from the remainder of today's meeting. Are Members content? Thank you very much. We'll move on to a private session. 

Derbyniwyd y cynnig.

Daeth rhan gyhoeddus y cyfarfod i ben am 09:32.

Motion agreed.

The public part of the meeting ended at 09:32.