Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

13/03/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Enwebiadau ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor

Ddoe, cytunodd y Cynulliad ar gynnig, o dan Reol Sefydlog 17.2A, i bennu Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau i'r grŵp Ceidwadol. Rwyf nawr yn gwahodd enwebiadau, o dan Reol Sefydlog 17.2F, i ethol y Cadeirydd. Dim ond Aelod o'r grŵp Ceidwadol a all gael ei enwebu'n Gadeirydd, a dim ond Aelod o'r un grŵp gwleidyddol—y grŵp Ceidwadol—all gynnig yr enwebiad. Rwy'n gwahodd enwebiadau, felly, ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. A oes unrhyw enwebiadau?

Diolch. A oes rhagor o enwebiadau? Unrhyw enwebiad arall? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r enwebiadau?

Ni ddylwn fod wedi gofyn y cwestiwn, mewn gwirionedd. Felly, hyd yn oed os dywedodd 'gwrthwynebu', ni ddylai'r cwestiwn fod wedi’i ofyn. [Chwerthin.]

Mae yna ddau enwebiad wedi dod i law, ac felly fe fydd y bleidlais ar gyfer Cadeirydd y pwyllgor yn cael ei chynnal drwy bleidlais gudd. A bydd y bleidlais gyfrinachol yna yn cael ei chynnal yn ystafell briffio 13 yn y Senedd rhwng 1.45 p.m. a 3.30 p.m. y prynhawn yma. Y clercod fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r broses bleidleisio a'r broses o gyfri'r pleidleisiau, a byddaf i'n cyhoeddi canlyniad y bleidlais gudd yn y Siambr yn ddiweddarach y prynhawn yma. A chofiwch fod gan bob Aelod o'r Cynulliad yma yr hawl i bleidleisio.

Cwestiwn Brys: Polisi Llywodraeth Cymru ar Brexit

Mae hynny'n dod â ni at y cwestiwn brys, gan fy mod i wedi derbyn cwestiwn brys, o dan Reol Sefydlog 12.67. Dwi'n galw ar Adam Price i ofyn y cwestiwn brys. Adam Price.

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar Brexit yn sgil y ffaith bod cytundeb ymadael yr UE-DU wedi cael ei wrthod neithiwr yn Nhŷ’r Cyffredin? (EAQ0005)

Diolch, Llywydd, am y cwestiwn.

Mae polisi Llywodraeth Cymru yn dal i fod yr un fath â’r hyn a nodwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a gyhoeddwyd yn dilyn refferendwm 2016, ac ar y cyd â Phlaid Cymru. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fod yn rhan o undeb tollau a'r farchnad sengl, aliniad deinamig â safonau cymdeithasol, amgylcheddol a marchnad lafur yr Undeb Ewropeaidd. Credwn y dylai Llywodraeth y DU ddiystyru Brexit 'dim cytundeb', gan y bydd ymadawiad ymyl y dibyn o'r Undeb Ewropeaidd, yn ein barn ni, yn effeithio'n drychinebus ar yr economi a phobl Cymru. Dyma'r safbwyntiau a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn mewn dadleuon diweddar ar Brexit a negodiadau’r Undeb Ewropeaidd—a gymeradwywyd yma ar 15 Ionawr, ac ar 30 Ionawr, ac yn y ddadl ar y cyd a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn Senedd yr Alban.

Bythefnos yn ôl, cyhoeddwyd gyda pheth ffanffer, ar ôl i wyth o'i ASau adael y blaid, fod Jeremy Corbyn bellach yn cefnogi polisi pleidlais y bobl. Ddeufis yn ôl, fe gytunoch chi i dderbyn cynnig a oedd yn galw ar Lywodraeth y DU i baratoi ar unwaith ar gyfer refferendwm arall. Felly, pam na chrybwyllwyd pleidlais y bobl unwaith yn y datganiad a ryddhawyd gan eich Llywodraeth ddydd Llun, na'r llythyr cysylltiedig at Lywodraeth Prydain yn ôl pob tebyg? Pam na soniodd Jeremy Corbyn o gwbl ddoe am bleidlais y bobl—polisi eich plaid eich hun—yn ei araith 24 munud yn Nhŷ'r Cyffredin? Pam y dywedodd, mewn ymateb i'r bleidlais, mai diben ymestyn erthygl 50 oedd disodli 'Brexit marw' Mrs May gyda'i 'Brexit coch’ ef? Mae hwnnw bron â bod yn union yr un fath â'r polisi y mae'r Senedd newydd ei wrthod—undeb tollau, ond nid ‘yr' undeb tollau, gyda llais ar bolisi masnach yr UE, sy’n anghyfreithlon o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd; aliniad agos â'r farchnad sengl, ond heb aelodaeth ohoni. Mae ungorn yn dal i fod yn greadur ffantasi, boed wedi'i baentio'n goch neu'n las. Ar adegau fel hyn, mae angen gwleidyddiaeth onest arnom. Rydym angen i bobl ddweud beth y maent yn ei gredu a gweithredu yn unol â hynny. Credaf ei bod yn eithaf clir bellach fod cefnogaeth Jeremy Corbyn i bleidlais y bobl yn weithred fanteisgar o dwyll ar raddfa fawr. Ac os nad ydych yn cytuno â hynny, Brif Weinidog, rydych naill ai'n gelwyddgi neu'n ffŵl. [Torri ar draws.]

13:35

Adam Price, nid yw sarhad personol yn dderbyniol yn y Siambr hon. Mae hwn yn gwestiwn brys, yn fater difrifol, ac nid yw galw enwau gwleidyddol ar yr adeg hon yn briodol. Gofynnaf i'r Prif Weinidog ymateb i'r pwyntiau o sylwedd yn y cwestiwn.

Wel, fel yr awgrymoch, Lywydd, rwyf am anwybyddu sylwadau tra amharchus arweinydd Plaid Cymru. Mae'r rhain yn ddyddiau gwirioneddol ddifrifol, Lywydd, gyda phenderfyniadau difrifol iawn yn wynebu ein gwlad. Pam fod arweinydd Plaid Cymru yn ceisio difrïo'r trafodaethau hynny gyda'r math o sylwadau a wnaeth yma y prynhawn yma? Rwy'n eu gwrthbwynebu—yn eu gwrthwynebu’n llwyr hyd eithaf fy ngallu. Dylai wybod yn well. Nid yw'n gymorth o gwbl i'n gwlad ei fod yn cyflwyno'r cwestiwn hwn yn y ffordd y gwnaeth.

Gadewch i mi droi, os caf, at sylwedd ei gwestiwn. Roedd y datganiad a wnaeth Llywodraeth Cymru ddydd Llun yr wythnos hon yn ymwneud â mater penodol iawn. Roedd yn ymwneud â'r gwelliannau a luniwyd gennym y credwn y gallent sicrhau ymrwymiadau, drwy Fil cytundeb ymadael, i'r datganiad gwleidyddol a allai gyflawni'r math o Brexit a gymeradwywyd yn y Cynulliad hwn. A dyna yw polisi'r Llywodraeth hon. Rydym yn dal i gredu bod cytundeb i'w gael y gellir ymrwymo iddo, cytundeb o'r math a drafodwyd ac a gymeradwywyd yma ers amser hir. Byddai hwnnw'n gytundeb a fyddai'n galw am aelodaeth o undeb tollau, mynediad llawn a dilyffethair at, a chyfranogiad mewn marchnad sengl, ymagwedd synhwyrol at ymfudo.

Efallai—efallai—fod Plaid Cymru wedi hen roi'r gorau i'r ymrwymiadau a wnaethant yma yn y Siambr hon. Mae'n bosibl mai Plaid Cymru fydd yr unig blaid yn Nhŷ'r Cyffredin i geisio cynnig gwelliant heddiw ar bleidlais y bobl. Efallai fod Plaid Cymru wedi ymbellhau oddi wrth y safbwynt hwnnw hefyd a bellach o blaid diddymu erthygl 50. Edrychaf ymlaen at glywed Aelodau Plaid Cymru yn esbonio hynny i'r bobl yn eu hetholaethau a bleidleisiodd, fel y gwnaeth Cymru, i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw ein safbwynt fel Llywodraeth wedi newid. Ein safbwynt yw'r un rydym wedi'i roi gerbron y Cynulliad hwn dro ar ôl tro, a dyna'r safbwynt y mae'r Cynulliad hwn wedi'i gymeradwyo dro ar ôl tro.

Rwy'n croesawu'r cyfle i gael y datganiad hwn heddiw, a chredaf fod arweinydd Plaid Cymru wedi cyflwyno'r cwestiwn mewn modd amharchus iawn. Gwyddom fod Tŷ'r Cyffredin wedi gwrthod cytundeb ymadael y Prif Weinidog er gwaethaf y sicrwydd a roddwyd gan yr UE ddoe mewn perthynas â'r ddarpariaeth wrth gefn, ac wrth gwrs, bydd pleidlais arall yn cael ei chynnal heddiw, ac yfory yn ôl pob tebyg, mewn perthynas â sut y dymuna Tŷ'r Cyffredin fwrw ymlaen.

Mae'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU o ran ceisio paratoi ar gyfer y canlyniadau posibl, boed yn ddim cytundeb neu'n gytundeb, wedi creu cryn argraff arnaf, a gadewch imi ddweud yn glir fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i geisio sicrhau cytundeb fel y gallwn adael yr Undeb Ewropeaidd mewn modd trefnus. Credwn ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth pobl Cymru, Llywodraeth Cymru—a gadewch inni beidio ag anghofio bod Cymru wedi pleidleisio dros adael yr UE, ac mae'n rhaid inni adael—mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni cyfarwyddiadau pobl Cymru. Felly, a gaf fi ofyn ichi, Brif Weinidog, a wnewch chi roi sicrwydd i'r Cynulliad Cenedlaethol y byddwch yn parhau i gydweithio'n ofalus ac yn agos gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau ymadawiad trefnus â'r UE, boed hynny gyda chytundeb, sef yr hyn a ffafrir wrth gwrs, neu heb un?

Wel, Lywydd, wrth gwrs, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw gweithio'n ofalus gyda Llywodraeth y DU, fel y gwnawn gyda Llywodraeth yr Alban, ac ym mhob cyfarfod a fynychwn gyda Llywodraeth y DU, mae Gweinidogion o Blaid Genedlaethol yr Alban yn bresennol hefyd ar ran Llywodraeth yr Alban. Maent yn deall eu cyfrifoldebau, rydym yn deall ein cyfrifoldebau ninnau—gresyn na fyddai gan Aelodau eraill o'r Siambr hon ddealltwriaeth debyg o'r hyn y mae bod mewn Llywodraeth yn ei olygu mewn gwirionedd.

Nawr, rydym yn anghytuno gyda Llywodraeth y DU, fel y gŵyr yr Aelod. Rydym wedi dadlau ers tro y dylai Prif Weinidog y DU fod wedi ceisio math gwahanol o gytundeb ar lawr Tŷ'r Cyffredin, a bod mwyafrif yno o hyd o blaid ffordd wahanol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn y cyfamser, a chyn y diwrnod y gallem fod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb—sefyllfa rydym yn ei gwrthwynebu bob cyfle a gawn—rydym yn paratoi, gan mai dyna y mae'n rhaid i Lywodraethau cyfrifol ei wneud. Rydym yn paratoi mewn perthynas â bwyd, rydym yn paratoi mewn perthynas â dŵr, rydym yn paratoi mewn perthynas â thrafnidiaeth, ac rydym yn paratoi mewn perthynas â'n heconomi hefyd. A byddwn yn parhau i wneud hynny hyd yn oed pan fyddwn yn anghytuno—yn anghytuno'n chwyrn—â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r ffordd y maent wedi mynd ati i ymateb i'r refferendwm ym mis Mehefin 2016.

13:40

A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi fod sarhad gwleidyddol yn dod ar sawl ffurf, a sarhad llawer mwy difrifol nag unrhyw ddifenwad a allai ddod o geg arweinydd Plaid Cymru yw'r sarhad ar bobl Prydain gan Dŷ'r Cyffredin yr wythnos hon? Mae pobl Prydain a phobl Cymru, ar ôl iddynt bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd mewn pleidlais ddiamod ddwy flynedd a hanner yn ôl, bellach yn cael eu bradychu. Fel y dywedodd Jean-Claude Juncker yn gofiadwy unwaith,

Ni ellir cael unrhyw ddewis democrataidd yn erbyn y cytuniadau Ewropeaidd.

Ac felly, mae llawer o wledydd yn Ewrop wedi gorfod parhau i bleidleisio hyd nes y byddant yn pleidleisio o blaid dymuniadau'r Ewrocratiaid, os ydynt yn pleidleisio yn erbyn eu dymuniadau y tro cyntaf. Pleidleisiodd Tŷ'r Cyffredin o blaid cynnal refferendwm o 316 pleidlais i 53. Pleidleisiodd Tŷ'r Cyffredin o 492 pleidlais i 122 o blaid hysbysu'r UE ein bod yn gadael, gan danio proses erthygl 50. Hwy a ewyllysiodd y modd; rhaid iddynt ewyllysio'r nod yn awr.

Ychydig dros 100 mlynedd yn ôl, cawsom frwydr gyfansoddiadol fawr yn y wlad hon rhwng yr arglwyddi a'r bobl pan geisiodd Tŷ'r Arglwyddi bleidleisio yn erbyn cyllideb Lloyd George. Heddiw, mae'r Senedd gyfan yn erbyn y bobl, gan fod Tŷ'r Cyffredin, gyda'r mwyafrif ohonynt o blaid aros—480 allan o 650—bellach yn ceisio mynd yn groes i ewyllys pobl Prydain a gwrthdroi canlyniad y refferendwm a gafwyd ddwy flynedd a hanner yn ôl. Mae Tŷ'r Cyffredin wrthi'n mynegi eu dirmyg llwyr tuag at bobl Prydain, fel y mae'r sefydliad hwn wedi'i wneud yn wir, gan fod y mwyafrif llethol yn y lle hwn o blaid aros hefyd. A yw'r Prif Weinidog yn ofni'r gagendor cynyddol rhwng pobl y wlad hon a'r dosbarth gwleidyddol sydd â'u bryd ar eu bradychu?

Lywydd, rwy'n gwrthod y disgrifiad o hyn fel brad. Nid wyf yn rhannu safbwynt cynllwyngar yr Aelod ynglŷn â'r hyn sy'n mynd rhagddo yn Nhŷ'r Cyffredin. Credaf fod Tŷ'r Cyffredin wedi'i chael hi'n anodd ymdopi â chymhlethdodau Brexit. Credaf eu bod wedi ymgymryd â'u cyfrifoldebau mewn ffordd sydd wedi drysu llawer o bobl. Ond ni  chredaf eu bod wedi bod yn anonest mewn unrhyw ffordd. Yn fy marn i, nid oes a wnelo hyn ag unrhyw beth heblaw pobl yn ceisio mynd i'r afael â'r anawsterau a'r cymhlethdodau hynny, hyd yn oed os nad yw'r atebion a gafwyd hyd yma yn cyfateb i faint yr her honno.

Ni chredaf fod unrhyw un wedi pleidleisio ym mis Mehefin 2016 dros adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Yn sicr, nid dyna a ddywedwyd wrthynt gan y bobl a fu'n eu hannog i bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Dywedwyd wrthym, fel y gŵyr yr Aelod, y byddai'r cyfan wedi ei wneud yn y ffordd hawsaf bosibl—y byddai modd datrys yr holl broblemau gydag atebion syml, ac y byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn ffordd lle byddai'r tir glas o fewn ein cyrraedd ar unwaith. Gwyddom bellach pa mor bell o'r gwir oedd hynny, ac ni chredaf fod y ffordd y mae Tŷ'r Cyffredin yn mynd i'r afael â hynny yn sarhad nac yn frad, ac rwy'n gwrthod y farn a fynegwyd gan yr Aelod y prynhawn yma.

Brif Weinidog, gwelodd llawer ohonom y traed moch yn Nhŷ'r Cyffredin neithiwr, lle gwelsom, unwaith eto, Brif Weinidog yn colli rhan sylweddol o'i pholisi o dros 100 pleidlais am yr eildro yn y sefyllfa honno. Yn amlwg, maent yn pleidleisio heddiw ar y sefyllfa i weld a yw'r Senedd eisiau 'dim cytundeb' ai peidio. Rwy'n deall nad yw honno'n bleidlais sy'n rhwymo mewn cyfraith. Bydd pleidlais hefyd, yfory o bosibl, i weld a ddylem ymestyn erthygl 50, ond unwaith eto, os gwrthodir hynny, byddwn yn cael 'dim cytundeb'. Rydym yn cyflymu tuag at ymadawiad 'dim cytundeb', sef yr unig weledigaeth sydd gan y Prif Weinidog a'i Chabinet bellach ar gyfer y wlad hon yn fy marn i, gan nad ydynt wedi gwneud unrhyw ymdrech o gwbl i newid y cyfeiriad hwnnw. Nid ydynt wedi gwneud unrhyw ymdrech i edrych ar y llinellau coch, gan y gwyddom hefyd, pe bai'r llinellau coch yn cael eu newid, y byddai'r UE yn gwrando'n ofalus iawn ar rai o'r polisïau. A yw'n bryd bellach inni gytuno ag is-gadeirydd pwyllgor meinciau cefn 1922 ei bod hi'n bryd cynnal etholiad cyffredinol a chael gwared ar y Llywodraeth hon?

13:45

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a hoffwn gytuno â'r pwynt a wnaed ganddo, oherwydd efallai y ceir pleidleisiau yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw a fydd yn ceisio cael gwared ar 'ddim cytundeb' fel opsiwn, ond ni ddylai unrhyw un ohonom gredu bod hynny ynddo'i hun yn cael gwared ar y perygl hwnnw. Mewn gwirionedd, credaf fod y perygl y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 29 Mawrth wedi tyfu yn hytrach na lleihau dros y dyddiau diwethaf, ac rydym yn parhau, fel y gwyddoch, i gredu'n gryf fod hwnnw'n ganlyniad a fyddai'n niweidiol iawn i fuddiannau Cymru a'r bobl sy'n byw yma, a byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn i ddadlau yn ei erbyn. Ond credaf fod y ffordd y mae'r digwyddiadau wedi datblygu dros y dyddiau diwethaf yn golygu bod y perygl hwnnw'n fwy yn hytrach na'n llai, a dyna pam rydym wedi gweithio gydag eraill mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i fod mor barod â phosibl am y posibilrwydd annymunol iawn hwnnw.

Wrth gwrs, cytunaf â'r hyn a ddywedodd David Rees, ond pan fo Llywodraeth yn Nhŷ'r Cyffredin, nid unwaith, ond ddwywaith, yn methu dwyn perswâd ar Dŷ'r Cyffredin ynglŷn â'r cynnig y mae'r Llywodraeth yn ei roi gerbron Tŷ'r Cyffredin mewn perthynas â'r cyfrifoldeb mwyaf a fydd gan y Llywodraeth honno byth, yr hyn sydd ei angen arnom yw Tŷ'r Cyffredin newydd. Ac mae hynny yn nwylo'r Prif Weinidog. Gall alw etholiad cyffredinol. Ac rwy'n dal i gredu mai dyna y dylai ei wneud o safbwynt cyfansoddiadol. Gan y gwyddom y gellir gwrthod hynny i ni, rydym wedi dweud fel Llywodraeth Cymru—ac rwy'n ei ddweud eto y prynhawn yma—os na all Tŷ'r Cyffredin ddod i gytundeb ynghylch y mater hwn, bydd yn rhaid rhoi'r penderfyniad yn ôl i'r bobl a'i gwnaeth yn y lle cyntaf.

A yw'r Prif Weinidog yn cytuno na allai'r Undeb Ewropeaidd fod wedi dweud yn gliriach nad oes posibilrwydd o ailnegodi pellach, ac felly, fod tri opsiwn sylfaenol gennym: gadael heb unrhyw gytundeb, a fyddai'n drychinebus; cefnogi cytundeb y Prif Weinidog, rhywbeth y mae Tŷ'r Cyffredin yn gwrthod ei wneud; neu gynnal pleidlais y bobl? Ac a yw'n cytuno bod hynny yr un mor wir i hyrwyddwyr Brexit yn ein plaid ni, a bod mochyn sy'n gwisgo minlliw yn dal i fod yn fochyn a bod y syniad o Brexit swyddi yn gyntaf yr un mor chwerthinllyd ac annhebygol?

Credaf fod dau opsiwn arall yn ychwanegol at y tri a amlinellwyd gan yr Aelod, a chytunaf fod pob un ohonynt yn y ffrâm o hyd. Opsiwn arall yw'r opsiwn o etholiad cyffredinol a glywsoch gan David Rees, a'r pumed opsiwn yw cytundeb a fyddai'n bodloni'r meini prawf a nodir yn ein papur 'Diogelu Dyfodol Cymru', yn y pum prawf a roddwyd gan arweinydd yr wrthblaid i Brif Weinidog y DU yn ei lythyr ati, ac a groesawyd ddoe gan aelodau arweiniol o'r Undeb Ewropeaidd fel ffordd ychwanegol a gwahanol o ddod i gytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd. Felly, credaf ein bod yn dal i fod mewn sefyllfa lle gallai'r holl opsiynau hynny ddigwydd. Rydym yn gwrthod nifer ohonynt. Rydym yn gwrthod 'dim cytundeb', rydym yn gwrthod cytundeb Prif Weinidog y DU; mae'r opsiynau eraill, gan gynnwys opsiwn pleidlais y bobl a amlinellwyd gan yr Aelod, yn parhau i fod yn ffyrdd y gellid datrys y sefyllfa hon.

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac y mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David.

Fformiwla Cyllido Ysgolion

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y fformiwla a ddefnyddir i ddyrannu cyllid ysgolion? OAQ53579

Diolch, Hefin. Mae pob awdurdod lleol yn gyfrifol am bennu faint o gyllid a ddyrennir i bob ysgol unigol. Caiff cyllidebau ysgolion eu pennu drwy fformiwla ariannu leol ac mae'n rhaid i awdurdodau ymgynghori â'u fforymau cyllideb ysgolion a'r holl ysgolion yn eu hardal wrth bennu neu wneud newidiadau i fformiwla ariannu.

Yr wythnos diwethaf, cynhaliais ddigwyddiad galw heibio ar gyfer Aelodau'r Cynulliad ar ran undebau addysgu amrywiol, gan gynnwys yr Undeb Addysg Cenedlaethol. Dywedodd athrawon a oedd yn bresennol wrthyf eu bod yn poeni bod toriadau yng nghyllid Llywodraeth y DU yn effeithio'n uniongyrchol ar eu gallu i roi'r diwygiadau addysg ar waith, gan gynnwys, er enghraifft, Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Maent yn dadlau bod angen i'r fformiwla ariannu ysgolion fod yn fwy teg ac adlewyrchu heriau cyfredol. Ac yn eich ymateb i ddadl y Ceidwadwyr ar y pwnc hwn, roeddech yn cydnabod y gall y ffordd y caiff ysgolion eu hariannu fod yn eithaf cymhleth mewn gwirionedd, a dywedasoch nad ydych yn gwrthwynebu newid y fformiwla ariannu mewn egwyddor. Mae hynny i'w groesawu, a chyda hynny mewn golwg, a wnewch chi ymrwymo i ddeialog reolaidd a pharhaus gydag awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, undebau'r athrawon a'r proffesiwn addysgu er mwyn edrych i weld sut i fynd i'r afael â'r materion hyn, a sut y gallwn wneud y gorau o'r amgylchiadau anodd hyn yn wyneb cyni parhaus?

13:50

Wrth gwrs, Hefin, mae'r trafodaethau hynny'n parhau bob dydd yn fy adran i. Yr wythnos diwethaf, cyfarfu uwch swyddogion o'r adran addysg gyda'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau i drafod eu pryderon gyda hwy. Rwy'n parhau i herio'r consortia rhanbarthol a'r awdurdodau lleol i sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cyrraedd rheng flaen ein system addysg mewn ysgolion unigol. Ac rwyf bob amser yn agored i drafodaethau ynglŷn â'r ffordd orau y gallwn sicrhau bod mwy o arian yn mynd i gyllidebau ysgolion unigol.

Wrth gwrs, bydd y mwyafrif helaeth o gyllidebau ysgolion yn dod o'r grant cynnal refeniw ar gyfer awdurdodau lleol unigol, ac rwy'n ymwybodol fod yr is-grŵp dosbarthu llywodraeth leol yn ystyried ar hyn o bryd ac wedi dechrau ffrwd waith newydd i edrych ar sut y caiff lefelau'r asesiad wedi'i seilio ar ddangosyddion addysg eu cyflawni wrth bennu lefelau'r grant cynnal refeniw, ac rwy'n croesawu'r gwaith hwnnw'n fawr. Mae'r cyn-Weinidog llywodraeth leol, y Gweinidog llywodraeth leol newydd a minnau wedi dweud, os bydd awdurdodau lleol yn cynnig syniadau ynghylch sut y dylid newid y fformiwla ariannu, y byddwn yn gweithio gyda hwy gyda phob ewyllys da a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae'n aml yn ddryslyd i bobl weld sut y mae arian yn cyrraedd ysgolion oherwydd y gwahanol haenau o arian sydd ar gael, ond fy nod bob amser, pan oeddwn yn Aelod o'r wrthblaid, ac yn sicr bellach a minnau'n Weinidog addysg, yw sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cyrraedd y rheng flaen i gyllidebau ysgolion unigol.

Weinidog, yn ôl y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, mae tystiolaeth yn awgrymu bod gwahaniaethau yn y modelau ariannu lleol yn achosi pryderon fod ysgolion mewn amgylchiadau tebyg yn cael eu trin yn anghyfartal. Aethant yn eu blaenau i alw ar Lywodraeth Cymru i ystyried adolygu'r model ariannu ysgolion os yw am wireddu eu huchelgais i sicrhau tegwch mewn perthynas ag addysg a lles myfyrwyr ysgol. Weinidog, mae Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru wedi dweud nad yw'r system ariannu gyfredol yn addas i'r diben—eu geiriau hwy, nid fy rhai i. Pa gamau a gymerwch i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn o ran y fformiwla ariannu ysgolion yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Oscar, mae'n bwysig fod awdurdodau lleol yn gyfrifol am ariannu ysgolion yng Nghymru, a nodir hynny yn y gyfraith. Nid wyf yn siŵr a yw'r Aelod yn awgrymu y dylid amddifadu ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol o'r pŵer hwnnw. Yn sicr, credaf y byddai gan ein partneriaid mewn llywodraeth leol farn gref iawn ynglŷn â mynd â'r pŵer hwnnw oddi wrthynt. Mae hefyd yn bwysig sylweddoli nad oes gan awdurdodau lleol rwydd hynt o ran sut y maent yn pennu eu fformiwlâu ariannu unigol o fewn awdurdod lleol. Mae'r rheoliadau'n nodi bod yn rhaid i 70 y cant o'r arian ar gyfer cyllidebau ysgolion gael ei ddosbarthu ar sail nifer y disgyblion yn yr ysgol, ac mae gan awdurdodau ryddid o 30 y cant i allu addasu i amgylchiadau unigol.

Clywaf yr hyn rydych yn ei awgrymu, o bosibl, sef fod gennym un fformiwla ariannu ac un ffigur i ariannu addysg ledled Cymru. Ar yr wyneb, gallaf weld pam fod hynny'n atyniadol, ond pan fyddwn yn ystyried yr amrywiaeth eang o fewn system addysg Cymru—system sy'n darparu'n ddwyieithog, system sy'n darparu ar gyfer ysgolion mawr yng nghanol dinasoedd â chanddynt boblogaethau amrywiol, llawer o blant yn dod i'n hysgolion heb Saesneg fel iaith gyntaf, i'r ysgolion gwledig bach iawn lle mae'n anochel y bydd cost addysg yn ddrytach o ystyried maint yr ysgolion hynny—efallai nad yw pennu un ffigur sy'n darparu ar gyfer anghenion addysgol cymunedau amrywiol iawn Cymru a'r amrywiaeth wych sydd gennym yn ein system addysg mor hawdd â hynny. Ond rwyf bob amser yn agored i awgrymiadau'r Aelodau ynglŷn â pha newidiadau y maent am eu gweld i'r fformiwla, a ydynt am weld mwy o arian yn cael ei wario ar amddifadedd, natur wledig neu ddwyieithrwydd, ond wrth gwrs, mae'n rhaid gwneud hynny o fewn yr amlen sydd ar gael i ni, ac ni welaf unrhyw un yn sefyll ar eu traed yn y Siambr hon yn cynnig arian o'u hysgolion i'w roi i ysgolion pobl eraill.

13:55
Canllawiau i Ysgolion ar Hunanladdiad

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau fydd yn cael eu rhoi i ysgolion ym mis Ebrill ynghylch trafod hunanladdiad? OAQ53576

Diolch yn fawr iawn, Lynne. Mae'r grŵp cynghori cenedlaethol ar atal hunanladdiad a hunan-niwed yn ymgynghori ag aelodau'r grŵp a rhanddeiliaid eraill ar y canllawiau hynny cyn eu cyhoeddi ym mis Ebrill. Byddwn yn gweithio gyda'r grŵp i sicrhau y caiff y canllawiau eu hyrwyddo'n helaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol, ac mae hynny'n cynnwys gweithwyr proffesiynol nid yn unig mewn ysgolion ond yn fwy eang ymhlith gwasanaethau ieuenctid a phobl eraill sy'n gweithio gyda'n pobl ifanc.

Diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y canllawiau a argymhellwyd gan 'Cadernid Meddwl' yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill. Rwy'n croesawu eich ymrwymiad hefyd i weithio gyda'r grŵp cynghori i sicrhau bod y canllawiau'n cael eu hyrwyddo'n helaeth. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, i lawer o athrawon, am resymau dealladwy, maent yn amharod i siarad am hunanladdiad. Mae'n hanfodol felly nid yn unig fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r grŵp cynghori i hyrwyddo'r canllawiau ond bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n rhagweithiol i arwain ar sicrhau bod y canllawiau hyn yn cael eu defnyddio ym mhob ysgol yng Nghymru.

Mae sawl plentyn ysgol wedi marw drwy hunanladdiad yng Nghymru ers cyhoeddi 'Cadernid Meddwl', a dylid gweithredu ar hyn fel mater o frys. Ni all aros tan i'r cwricwlwm newydd ac ymagwedd ysgol gyfan at iechyd meddwl gael eu gweithredu yng Nghymru. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i fynd ati'n rhagweithiol i arwain ar hyn gyda'r bwriad o sicrhau y caiff ei gyflwyno ar fyrder ym mhob ysgol, gan gynnwys sicrhau y caiff ei ymgorffori mewn dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon fel mater o frys, er mwyn sicrhau bod ganddynt sgiliau a hyder i'w ddefnyddio?

Diolch yn fawr iawn, Lynne. Gadewch imi eich sicrhau nad ydym yn eistedd yn ôl ac yn aros tan y rhoddir y cwricwlwm newydd ar waith, er bod y maes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn rhoi cyfle aruthrol i ni newid y ffordd rydym yn sôn am iechyd a lles yn ein hysgolion. Fe fyddwch yn gwybod y bydd £2.5 miliwn yn cael ei ddarparu yn y flwyddyn ariannol newydd, drwy'r gyllideb addysg, wedi'i dargedu at wella gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc, yn seiliedig ar ddulliau addysgeg gwaith ieuenctid. Oherwydd mae'r gweithwyr proffesiynol hynny sy'n gweithio gyda'n gwasanaeth ieuenctid yn aml yn teimlo'n fwy cyfforddus ac yn fwy abl ac yn fwy hyderus i siarad am y materion sensitif iawn hyn, ac rydym yn awyddus i ddefnyddio'r dysgu gan ein cydweithwyr mewn gwaith ieuenctid i helpu i lywio dysgu proffesiynol ein cydweithwyr yn yr ysgolion. Gallaf eich sicrhau fy mod wedi cael trafodaeth ddoe gyda'r swyddog sy'n arwain ar ddysgu proffesiynol i bwysleisio wrtho y dylai ysgolion allu cael mynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol mewn perthynas â'r canllawiau hyn, ac iechyd a lles yn gyffredinol, fel rhan o'r cyllid rydym yn ei ddarparu i ysgolion i gefnogi gwella hyder athrawon yn y maes hwn, a all fod yn heriol iawn i lawer o bobl allu siarad amdano, yn enwedig athrawon yn ein hysgolion.

Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn awyddus i ymuno â mi i ganmol y gwaith y mae'r Cynulliad wedi'i wneud yn y maes hwn, yn enwedig o dan arweinyddiaeth Lynne Neagle yn 'Cadernid Meddwl', ond Dai Lloyd hefyd ar y pwyllgor iechyd. Y neges syml yw: mae gormod lawer o bobl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad. Mae'n gannoedd bob blwyddyn yng Nghymru. Mae'n rhaid inni osod targedau i leihau nifer y bobl sy'n marw yn yr amgylchiadau trasig hynny yn sylweddol. Yn anffodus, o ran pobl iau, mae'n un o brif achosion marwolaethau cyn pryd. Mae angen gwaith ar y cyd ar draws y Llywodraeth. Rwyf hefyd yn canmol y gwaith a wnaed gan Samariaid Cymru, gan bwysleisio unwaith eto yr angen i hyfforddi athrawon er mwyn sicrhau bod ganddynt y lefel honno o hyder fan lleiaf i fynd i'r afael â'r materion pwysig hyn. Mae'r sgiliau a gawn yn yr ysgol, 10 neu 20 mlynedd yn ddiweddarach—gallant wneud y gwahaniaeth rhwng rhywun yn gofyn am gymorth a rhywun, yn anffodus, yn cyflawni hunanladdiad.

Diolch, David. Credaf ei bod yn gwbl iawn ein bod yn cydnabod y gwaith ymgyrchu a wnaed gan gyd-Aelodau, fel Dai Lloyd, Lynne Neagle a Jack Sargeant, ar y materion hyn. Gallaf eich sicrhau ein bod yn trafod gyda'n darparwyr addysg gychwynnol i athrawon i wneud yn siŵr, drwy addysg gychwynnol i athrawon, y bydd gan ein haddysgwyr sgiliau priodol yn y dyfodol. Roedd pleidlais ddiweddar y Senedd Ieuenctid yma yn hynod o galonogol, gan iddynt bleidleisio i weithio, fel eu prif flaenoriaeth, ar fater iechyd meddwl pobl ifanc. Mae'n dangos pa mor bwysig yw'r mater hwn iddynt, a ledled y wlad, gwn fod grwpiau ieuenctid a phobl ifanc yn gweithio'n galed iawn i fynd i'r afael â mater gwytnwch.

Lywydd, fore Sul, roeddwn yn Theatr Hafren yn y Drenewydd yn gwylio gŵyl ddrama Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, a chafwyd adloniant rhyfeddol o soffistigedig a gwefreiddiol gan y clwb buddugol o sir Gaerfyrddin, clwb CFfI Llanymddyfri, ar bwnc hunanladdiad mewn ardaloedd gwledig. Ac roedd gweld pobl ifanc, rhwng 10 a 26 oed, yn ymgysylltu mewn ffordd mor soffistigedig er mwyn lledaenu'r negeseuon hyn yn rhywbeth a fyddai'n codi cywilydd ar rai pobl hŷn.

14:00
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

Diolch, Llywydd. Mae penaethiaid ar draws Cymru yn rhybuddio bod argyfwng cyllido yn wynebu ein hysgolion, ac y bydd gan hyn ganlyniadau pellgyrhaeddol—dosbarthiadau mwy, llai o athrawon, cyflwr adeiladau’n dirywio, lleihad mewn cefnogaeth i anghenion dysgu ychwanegol, toriadau i wasanaethau bugeiliol a lles. Dŷn ni’n colli cannoedd o’n hathrawon mwyaf profiadol ac arweinwyr canol o’n hysgolion yn sgil ymddeoliadau cynnar.

Mae ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi rhoi ffocws ar yr angen i gynyddu’r cwantwm sy’n cael ei wario ar addysg, ac mae o hefyd wedi dechrau trafod pa fesurau y gellid eu cymryd hyd yn oed o fewn y gyllideb bresennol i sicrhau bod mwy o arian yn cyrraedd yr ysgolion. Mae yna un undeb athrawon, gyda chefnogaeth y Torïaid, yn argymell symud tuag at system o ariannu ysgolion yn uniongyrchol, gan greu system debyg i’r academies yn Lloegr. Beth ydy eich barn chi am ariannu uniongyrchol?

Yn gyntaf, a gaf fi ddweud, gyda'r pwyllgor yn ystyried ehangu'r swm o arian sydd ar gael i mi, fy mod yn barod i weithio gydag unrhyw un yn y Siambr hon sydd o blaid cynyddu'r swm o arian sydd ar gael i'n hysgolion? Fel y dywedais yn fy ateb i Mohammad Asghar, nid wyf o dan unrhyw gamargraff mewn perthynas â'r heriau go iawn sy'n wynebu ein proffesiwn addysgu, a dyma sut y mae cyni'n edrych. Nid yw'n gysyniad haniaethol. Dyma yw cyni, blynyddoedd maith o gyfyngu ar wariant cyhoeddus—dyma realiti'r hyn y mae hynny'n ei olygu ar lawr gwlad.

Fel y dywedais yn gynharach, mewn rhai ffyrdd, nid wyf yn credu bod ariannu un fformiwla yn uniongyrchol yn mynd i'r afael ag amrywiaeth y ddarpariaeth addysgol sydd gennym yng Nghymru. Mae'n tanseilio'r gyfraith sydd gennym ar hyn o bryd, sy'n dweud mai cyfrifoldeb democrataidd ein hawdurdodau lleol i wneud penderfyniadau yw hyn, a byddai'n hynod o anodd ei gyflawni ar adeg o gyni parhaus. Efallai y byddai'n hawdd pe bai cyllidebau'n cynyddu ac y gallem gael terfyn isaf na fyddai unrhyw un yn cwympo oddi tano, ond o ystyried yr amgylchiadau ariannol heriol sy'n ein hwynebu, byddai'n anodd iawn gwneud hynny, ac mae meddwl ei bod mor syml â hynny—nid oes ond angen edrych ar yr anghytuno dros y ffin yn Lloegr i weld sut y mae ariannu ysgolion yn uniongyrchol wedi gweithio iddynt hwy.

Lywydd, efallai mewn ymateb i'r cwestiwn ynglŷn â beth arall y gallwn ei wneud, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gyhoeddi i'r Siambr, yn dilyn y datganiad a wnaed gan y Gweinidog cyllid yr wythnos diwethaf, y byddaf yn dyrannu £47.7 miliwn yn 2019-20 i ddiwallu'r pwysau ychwanegol a amcangyfrifir ar ysgolion a gynhelir a cholegau addysg bellach yng Nghymru yn sgil newidiadau i bensiynau athrawon, ac rwy'n gobeithio y caiff hyn ei groesawu ar draws y Siambr a chan ysgolion unigol.

Diolch yn fawr iawn, ac rwy’n falch iawn o glywed y cyhoeddiad diwethaf yna. Dwi’n gwybod bod fy nghydweithiwr yn San Steffan, Ben Lake, wedi bod yn mynd ar ôl y mater yma yn ddyfal hefyd, felly rwy’n ddiolchgar iawn o glywed hynny—bydd hynny’n newyddion da i’n hysgolion ni.

Ond, i fynd yn ôl at yr ariannu uniongyrchol, jest i'w roi fo ar y record, mae Plaid Cymru yn barod i ystyried unrhyw gynigion a fyddai’n gwella canlyniadau addysgol ein plant. Dŷn ni ddim, fodd bynnag, o’r farn bod cyllido ysgolion yn uniongyrchol yn opsiwn y dylid ei ystyried yng Nghymru, a hynny am nifer o resymau. Dŷch chi wedi sôn am un mater ynglŷn â chael un swm o arian, ond mae yna fwy iddo fo na hynny. Mae angen cadw rheolaeth ddemocrataidd leol ar ariannu, ac mae’r gwasanaethau canolog sy'n cael eu darparu fel cefnogaeth yn hollbwysig—er enghraifft, ar gyfer plant mewn gofal a phlant efo anghenion ychwanegol. Mae peryg i'r plant mwyaf bregus gael eu hanghofio mewn system lle byddai'r ariannu'n mynd yn uniongyrchol. Un peth ydy cyllid uniongyrchol i ysgol drefol, fawr. Mae llawer iawn o'n hysgolion ni'n fach, maen nhw'n wledig, maen nhw mewn ardaloedd difreintiedig, ac maen nhw angen cefnogaeth ganolog. Felly, dwi'n falch iawn ein bod ni'n gytûn ar hynny a'ch bod chithau hefyd yn diystyru'r galwadau am gyllido ysgolion yn uniongyrchol. Ydych chi felly'n teimlo ei bod hi'n bryd i'r drafodaeth symud tuag at ganfod atebion llai niweidiol ar gyfer ariannu'n hysgolion ni'n fwy teg? Ai dyna lle ddylai'r ffocws fod rŵan?

14:05

Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn: pwynt a wnaed, mewn gwirionedd, yn huawdl iawn gan Andrew R.T. Davies, nad yw yn ei sedd heddiw, wrth annerch yn y ddadl a gawsom yma'n ddiweddar ar y gyllideb ariannu ysgolion. Roedd yn cydnabod bod rhai gwasanaethau'n cael eu darparu a'u trefnu a'u cynllunio orau naill ai ar lefel awdurdod lleol neu ar lefel ranbarthol, gan mai dyna lle gallwn sicrhau'r math gorau o wasanaeth ar gyfer plant unigol.

Yr hyn sy'n gwbl glir i mi, yn niffyg ymrwymiad gan Lywodraeth San Steffan i ddod ag oes niweidiol cyni i ben, yw bod yn rhaid inni weithio ar y cyd i ddod o hyd i fwy o ffyrdd o osgoi dyblygu a chael mwy o arian i'r rheng flaen, ac rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod, neu'n wir ag Aelodau eraill sydd â syniadau ynglŷn â sut y gellir cyflawni hynny, ac rwy'n parhau, fel y dywedais mewn ateb cynharach, i herio ein hawdurdodau lleol, consortia rhanbarthol ac eraill yn yr haen ganol i sicrhau nad ydynt yn dal gafael ar gyllidebau y gellid eu dirprwyo i ysgolion unigol.

I helpu'r drafodaeth, felly, gaf i awgrymu bod yna nifer o gwestiynau y gallwch chi a'r adran addysg yn y Llywodraeth fod yn eu gofyn? Oes yna ormod o haenau yn ein system addysg ni? Ydy'r rhain yn creu biwrocratiaeth diangen? Oes yna ormod o ddyblygu gwaith? Ac ydy hynny'n ddefnydd da o arian prin y pot addysg? Er enghraifft, oes yna ormod o gyrff yn cefnogi ysgolion? Oes angen tynhau'r system yn sylweddol? Cwestiwn arall i'w ofyn ydy: oes yna well ffordd i ariannu'r chweched dosbarth mewn ysgolion? Ac un arall i chi ei ystyried, os gwelwch yn dda: oes modd cyflymu'r broses o ddosbarthu arian allan o Lywodraeth Cymru ac osgoi cyhoeddiadau ariannol sy'n dod yn hwyr iawn yn y dydd? Dwi'n edrych ymlaen at gael trafodaeth adeiladol yn sgil yr ymchwiliad mae'r pwyllgor pwysig yma'n ei wneud ar hyn o bryd. 

Mae'r Aelod yn gwbl iawn i edrych i weld a oes dyblygu'n digwydd. Rwy'n teimlo'n rhwystredig wrth ddarllen deunydd gan y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau a thrafod rhai o'u pryderon gyda hwy, er enghraifft, ynghylch dyblygu rolau, swyddogaethau a gwariant gan y consortia rhanbarthol ac awdurdodau addysg lleol unigol. Wrth gwrs, caiff consortia rhanbarthol eu rhedeg gan gynghorau lleol—hwy yw'r rhanddeiliaid, maent yn dwyn y rheolwyr gyfarwyddwyr i gyfrif—ac felly mae'n peri cryn bryder y byddent, yn eu trefniant llywodraethu, yn darparu ar gyfer dyblygu gwariant ar draws eu hawdurdod lleol a'u consortia rhanbarthol eu hunain. Felly, hoffwn sicrhau'r Aelod ein bod yn herio awdurdodau addysg lleol a'r consortia rhanbarthol yn gyson mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â dirprwyo.

Mae'r chweched dosbarth, unwaith eto o bosibl, yn faes heriol iawn o ran sut y gallwn barhau i ddarparu mynediad at addysg ôl-orfodol mewn ffordd sy'n bodloni ein Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 ac yn bodloni dyheadau ein pobl ifanc, sy'n awyddus i gael dewis eang o gyrsiau i ddewis o'u plith, a sut y gallwn gadw pobl yng Nghymru. Fel Aelod Cynulliad etholaeth ar y ffin, mae'n peri cryn bryder i mi fod pobl yn dewis astudio cyrsiau ôl-16 dros y ffin. Mae angen inni fynd i'r afael â'r sefyllfa honno. Rwyf bob amser yn awyddus iawn i ni fel adran wneud popeth a allwn i sicrhau bod yr arian a ddarparwn i ysgolion yn eu cyrraedd mor gyflym ac mor effeithiol ac mor effeithlon â phosibl.

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, a gaf fi ddiolch yn fawr i chi am gadarnhau eich bod bellach wedi clywed gan y Gweinidog cyllid ynglŷn â ffigur a fydd yn cael ei basbortio i chi o gyllideb Llywodraeth y DU i dalu—ac rwy'n credu; rwy'n eich dyfynnu—y £47.7 miliwn hwnnw yn llawn? Mae'n talu costau'r codiad pensiwn yn llawn. Felly, mae'n braf clywed hynny. A allwch ddweud wrthyf pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau y bydd pob ceiniog sy'n cyrraedd yr ysgolion yn cael ei gwario i dalu cost y codiad pensiwn?

14:10

O'r gorau. Gadewch imi ddweud yn gwbl glir: mae'r arian hwn yn ymwneud â phensiynau athrawon. £47.7 miliwn yw'r dyraniad, ac yn wir, fe'i dyrennir i gael gwared ar y pwysau ychwanegol a amcangyfrifir ar ysgolion a gynhelir a cholegau addysg bellach yng Nghymru. Ond gadewch imi ddweud yn gwbl glir: Llywodraeth Cymru sy'n cyflawni'r ymrwymiadau hyn yn llawn. Nid yw'r arian sydd wedi dod o San Steffan wedi talu'r bil am y newidiadau hyn, a Llywodraeth Cymru sy'n sicrhau bod y pwysau'n cael ei ddiwallu'n llawn. Mae'r arian yn cynnwys £42.1 miliwn ar gyfer ysgolion a gynhelir, gan gynnwys dosbarth chwech, a £5.6 miliwn ar gyfer colegau addysg bellach. Bydd y newidiadau i bensiynau athrawon yn cael eu rhoi ar waith o ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi. Felly, mae'r cyllid ar gyfer y cyfnod rhwng mis Medi 2019 a mis Mawrth 2020, a bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cytuno gydag awdurdodau lleol penodol ar y logisteg benodol o ran dosbarthu grantiau i bob awdurdod dros yr ychydig wythnosau nesaf, a bydd hynny'n digwydd ar ffurf grant arbennig drwy'r awdurdodau addysg lleol y bydd yn rhaid iddynt ei wario at y diben hwn.

Diolch. Mae hwnnw'n ateb defnyddiol iawn, Weinidog. Rydych newydd gadarnhau y bydd yr arian hwn wedi'i glustnodi ac y bydd yn mynd i'r ysgolion, ac os na fydd hynny'n digwydd, yna, yn amlwg, byddwn yn eich dwyn chi, yn ogystal ag awdurdodau lleol, i gyfrif am hynny. Efallai y gallwch egluro inni ar ryw bwynt beth yw'r gwahaniaeth rhwng yr arian a gawsoch gan Lywodraeth y DU a'r hyn rydych yn barod i'w roi i dalu cyfanswm y gost er mwyn gweld a allwn gael rhyw fath o synnwyr ynglŷn â maint eich ymrwymiad.

Fel Siân Gwenllian, ni chredaf fy mod erioed wedi clywed gan gynifer o athrawon ynglŷn â chyllid craidd ag a wnaf ar hyn o bryd, a gallwn drafod rôl Llundain yn hyn o beth, ond mae athrawon yn ymwybodol o'r ffaith bod y gyllideb addysg wedi cynyddu eleni, ac mae ganddynt gwestiynau i chi ac arweinwyr cynghorau ynglŷn ag a yw cyllid grant canolog y Llywodraeth, a dargedir at yr anghenion amrywiol hynny a grybwyllwyd gennych ychydig yn gynharach—a yw hynny'n dechrau rhoi rhyw fath o gerdyn dod-allan-o'r-carchar-am-ddim i awdurdodau lleol mewn perthynas â darparu cyllidebau craidd i ysgolion. Ac yn benodol—dyma'r hyn a glywaf—mae'r cynnydd calonogol iawn yn y grant datblygu disgyblion—ac nid yw hyn yn ymosodiad ar y grant datblygu disgyblion mewn unrhyw ffordd—yn golygu bod ysgolion mewn ardaloedd mwy cefnog yn colli staff tra bod ysgolion mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn gallu eu cadw, gan fod y grant datblygu disgyblion yn targedu anghenion plant tlotach, yn amlwg, ond gan gynnal cadernid strwythur yr ysgol a'i staffio hefyd, a darparu peth budd cysylltiedig wrth gwrs i ddisgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n ddigon teg o'm rhan i, rhaid cyfaddef.

Nid yw'r hyblygrwydd hwnnw ar gael i ysgolion heb lawer o gymhwysedd i gael y grant datblygu disgyblion, a bellach, yn fy marn i, ceir risg o greu carfan o blant a phobl ifanc o dan anfantais addysgol, ac nid oes arnoch eisiau hynny—rwy'n gwbl sicr ynglŷn â hynny. Felly, clywais eich sylwadau mewn ymateb i Hefin David yn gynharach, pan sonioch chi am y fformiwla ariannu, felly nid wyf yn sôn am hynny. Ond a ydych yn agored i ailystyried y cydbwysedd o ran sut y caiff ysgolion eu hariannu rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ac yn gyffredinol, ac unwaith eto, mewn ffordd na chaiff ei hystyried yn ymosodiad ar y grant datblygu disgyblion, oherwydd yn sicr, nid dyna yw fy mwriad?

Wel, mae'r Aelod—. Rwy'n derbyn nad yw'r Aelod yn ymosod ar egwyddor y grant datblygu disgyblion. Ddoe yn unig, atebodd y Prif Weinidog gyfres o gwestiynau ynglŷn ag effaith tlodi ar gyfleoedd bywyd unigolion yn yr amgylchiadau hynny. Ac nid yw'r £400 miliwn a mwy a wariwyd ar y grant datblygu disgyblion ers ei gyflwyno yn y Cynulliad diwethaf ond yn un ymdrech gan y Llywodraeth i geisio sicrhau chwarae teg yn hyn o beth. Ond gadewch imi ddweud yn gwbl glir: nid honno yw'r unig ffynhonnell o gyllid a ddaw gan Lywodraeth Cymru i ysgolion unigol. Hefyd, mae gennym y grant gwella ysgolion, y grant gwella addysg. Mae gennym grant penodol ar gyfer mynd i'r afael â rhai o'r heriau logistaidd a'r heriau addysgu mewn perthynas ag addysgu yn ein hysgolion bach a gwledig. Mae gennym gynlluniau peilot rheolwyr busnes, mae gennym y grant maint dosbarthiadau, mae gennym yr arian ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, mae gennym yr adnoddau dysgu proffesiynol sydd wedi'u hanfon i ysgolion. Felly, ceir llu o ffynonellau cyllid canolog sy'n cyrraedd ysgolion, ond fel y dywedais, Suzy, rwy'n ymwybodol o'r heriau, yr heriau gwirioneddol, sy'n wynebu ein cymunedau ysgol a'n harweinwyr sy'n gweithio'n anhygoel o galed. Ond ni chredaf mai ailddosbarthu'r grant datblygu disgyblion yw'r ffordd orau o ddatrys y problemau hynny o reidrwydd.

Unwaith eto, diolch am eich ateb. Wel, yn amlwg, rwy'n gobeithio bod gennych chi, fel minnau, ddiddordeb yng nghyfleoedd bywyd disgyblion o bob cefndir, ac ar hyn o bryd, ymddengys mai'r rheini yn yr ardaloedd mwy cefnog sy'n ysgwyddo'r baich o ran y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut y maent yn dosbarthu arian—cyllid craidd. Mae'n ddigon hawdd siarad am rai o'r grantiau eraill a grybwylloch, ond wrth gwrs, cafwyd toriadau i'r grant gwella addysg, fel y clywsom, yng Ngwynedd, sydd wedi arwain at blant nad ydynt yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf yn methu cael mynediad at y gwersi sydd eu hangen arnynt i'w helpu i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir honno.

Nawr, unwaith eto, ar fater canlyniadau anfwriadol i syniad da, mae athrawon ac awdurdodau lleol yn bryderus iawn bellach ynglŷn â sut y gallant dalu cost cydymffurfio â'r Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol a'r cod, gyda chwestiynau difrifol iawn yn cael eu gofyn ynglŷn â'r cymorth a gynigir ar hyn o bryd i ddisgyblion mewn perthynas â gweithredu gan yr ysgol, yn arbennig. Dywedwyd wrthyf gan athro y gall gymryd hyd at 20 awr o amser gweinyddol i gefnogi plentyn, heb sôn am yr amser yn yr ystafell ddosbarth, a bod hyn yn arwain at oblygiadau staffio ar adeg pan fo rhai ysgolion yn gorfod diswyddo staff, mewn rhai achosion, pan fo nifer y disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig yn codi eisoes a chyllid anghenion addysgol arbennig gan gynghorau yn lleihau. Nawr, mae pryderon wedi bod o'r cychwyn ynglŷn â'r ffordd y cafodd y ddeddfwriaeth hon ei chostio—rwy'n siŵr eich bod yn cofio'r cyfnod anodd hwnnw. Tybed a wnewch chi ymrwymo i adolygu nid yn unig faint mae'n ei gostio i weithredu'r Ddeddf a thrwy'r cod, ond i sicrhau na ellir dargyfeirio unrhyw arian ychwanegol y llwyddwch i gael hyd iddo maes o law er mwyn lleddfu pwysau arall y mae'r cynghorau'n honni eu bod yn ei wynebu.

14:15

Diolch am eich cwestiwn, Suzy Davies. A gaf fi ddweud nad yw fy nealltwriaeth o'r sefyllfa yng Ngwynedd o ran yr uned drochi yn cyfateb i'r hyn a ddisgrifiwyd gan yr Aelod? Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt yng nghyngor sir Gwynedd, rhwng gweithrediaeth y cyngor, ac yn wir, fy swyddogion ynghylch dyfodol y gwasanaethau hynny, gan gydnabod rôl bwysig yr unedau trochi mewn perthynas â phlant sydd efallai wedi symud i'r ardal neu sydd am gael y sgiliau hynny, ac mae'r cyngor yn ystyried dyfodol y gwasanaethau hynny'n weithredol. Felly, nid yw'r sefyllfa'n cyfateb i'r hyn ddisgrifiwyd gan yr Aelod yn y Siambr.

O ran cofio'r cyfnod anodd, wel, nid yw yn ei sedd, ond Alun Davies oedd y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am hynt y rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth honno, a chredaf ei fod yn cofio hynny'n dda iawn. Rydych yn llygad eich lle, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo £20 miliwn i gefnogi'r broses o roi ein hagenda i weddnewid ADY ar waith, gan weithio'n galed iawn i sicrhau y caiff ei rhoi ar waith yn llwyddiannus, ac yn amlwg, y bwriad a nodwyd ar gyfer y ddeddfwriaeth honno yw bod anghenion pob plentyn, ni waeth beth fo'u hanghenion dysgu ychwanegol, yn cael eu diwallu'n llawn.

Diolch, Lywydd. O ran eich cyhoeddiad cynharach ynglŷn â'r cyllid i dalu am y newidiadau pensiwn, credaf y bydd ysgolion ledled Cymru yn rhoi ochenaid o ryddhad mewn perthynas â hynny, felly rwy'n croesawu eich cyhoeddiad.

Y llynedd, dangosodd adolygiad nad yw dirwyo rhieni am dynnu plant o'r ysgol yn ystod y tymor yng Nghymru wedi cael unrhyw effaith ar gyfraddau absenoldeb yn gyffredinol. A yw'n iawn y dylai rhieni gael eu dirwyo am dynnu eu plant o'r ysgol am wythnos i fynd â hwy ar wyliau?

Yn gyntaf, nid ysgolion yn unig sy'n rhoi ochenaid o ryddhad; rwyf innau'n rhoi ochenaid o ryddhad am fod y Gweinidog cyllid wedi darparu'r adnoddau hyn. Ac rwyf ar fai, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog cyllid yn fwy na pharod i roi nodyn i Suzy Davies yn amlinellu'r adnoddau y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddod o hyd iddynt er mwyn gwneud yn siŵr fod modd gwneud y cyhoeddiad hwn heddiw.

Mewn perthynas â dirwyo rhieni, mae dirwyo rhieni—. O ran presenoldeb yn yr ysgol, gadewch i mi ddweud yn gwbl glir mai presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yw'r peth pwysicaf y gall rhiant ei wneud i hybu canlyniadau addysgol eu plant, a dylai rhieni wneud pob ymdrech yn eu gallu, oni bai fod plentyn yn sâl neu lle ceir amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth, i sicrhau bod plant yn yr ysgol. Rydym yn gadael i benaethiaid unigol benderfynu defnyddio absenoldebau awdurdodedig, ond bydd gan awdurdodau lleol bŵer, a byddant yn parhau i fod â phŵer, i ddirwyo rhieni os ydynt yn credu bod honno'n ffordd effeithiol o ymdrin ag absenoldeb o'r ysgol, a buaswn yn disgwyl i awdurdodau lleol, wrth ddefnyddio pwerau o'r fath, fod wedi gweithio am gyfnod hir o amser gyda'r teulu hwnnw i sicrhau bod presenoldeb yn yr ysgol yn flaenoriaeth.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rydych yn awyddus i ychwanegu diwrnod hyfforddiant mewn swydd ychwanegol at galendr ysgol Cymru. Nid yw'n ymddangos yn deg y gall y wladwriaeth amddifadu plentyn o bump neu chwe diwrnod o ysgol, ond os yw rhiant yn ei wneud er mwyn mynd â hwy ar wyliau na allent ei fforddio fel arall o bosibl, maent yn wynebu dirwy. Os yw ysgolion am gael diwrnodau HMS, oni fyddai'n gwneud synnwyr fod pob ysgol yn cymryd y diwrnodau HMS mewn blociau o bum neu chwe diwrnod? Drwy ymgynghori â'r rhieni, gallai pob ysgol benderfynu ym mha wythnos y dylent gynnal y diwrnodau HMS. Fel hynny, gallai teuluoedd ddefnyddio'r amser hwnnw i fynd ar wyliau y tu allan i gyfnodau brig gwyliau ysgol, ac efallai y bydd rhieni yn teimlo'n llai rhwystredig ynghylch annhegwch presennol y system.

14:20

Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn ymgynghori ar hyn o bryd mewn perthynas â diwrnod HMS ychwanegol. Rydym yn gwneud hynny gan mai'r hyn y mae rhieni yn awyddus i'w gael yn anad dim yn fy marn i yw sicrwydd llwyr fod ein proffesiwn addysgu yn barod ar gyfer gweithredu ein cwricwlwm newydd. Ond mae'r ymgynghoriad hefyd yn gyfle inni ymchwilio i weld a oes posibilrwydd y gallwn sicrhau mwy o gysondeb o ran sut y bydd ysgolion unigol yn defnyddio eu diwrnodau HMS. Ni chredaf fod newid diwrnodau HMS yn ateb i'r broblem real iawn y mae rhai teuluoedd yn ei hwynebu yn sgil arferion cwmnïau gwyliau sy'n codi eu prisiau'n sylweddol yn ystod gwyliau ysgol—mewn rhai achosion bron yn dyblu pris gwyliau, yn dibynnu ar ba bryd y bydd gwyliau ysgol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Ni ellir gwadu bod athrawon yn brysur iawn yn ystod y tymor, ac o bosibl yn teimlo dan fwy o bwysau oherwydd y pwysau ar wariant ar addysg, ond mae gwasgaru diwrnodau HMS drwy gydol y flwyddyn, gan orfodi llawer o rieni i ddefnyddio hyd at wythnos neu fwy o'u gwyliau blynyddol mewn ffordd sy'n gwbl ddiwerth i'r teulu yn y bôn, yn gwneud i rai teuluoedd sy'n gweithio deimlo nad yw'r system addysg yn malio am yr effaith a gaiff y diwrnodau hyn arnynt. Mae'n bosibl na fydd gan rai rhieni sy'n gweithio fwy na phedair wythnos o wyliau y flwyddyn os ydynt yn gweithio amser llawn. Maent hwy, fel finnau, yn meddwl tybed pam fod hyfforddiant athrawon yn digwydd yn ystod y tymor, pan fo athrawon yn cael gwerth tri mis o wyliau bob blwyddyn.

A gaf fi ddweud—? Mae hyfforddiant athrawon, mewn ysgolion da, yn digwydd bob dydd o'r wythnos, gan fod athrawon da yn gwybod y bydd y gwersi y maent yn eu rhoi yfory yn well na'r gwersi y maent yn eu rhoi heddiw. Rydym yn ymgynghori ar ddiwrnod HMS ychwanegol, gan y gwn, o siarad â'r rhieni rwy'n cyfarfod â hwy, mai'r hyn y maent yn awyddus i'w wneud yw sicrhau bod eu plant yn cael system addysg o'r radd flaenaf, ac mae arnom angen i'n proffesiwn fod yn barod ar gyfer diwygiadau ein cwricwlwm newydd.

Addysg Cyfrwng Cymraeg

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau cynghorau yng Ngorllewin De Cymru i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg? OAQ53535

Diolch yn fawr, Dai. Mae'r holl gynlluniau Cymraeg mewn addysg yng Ngorllewin De Cymru wedi'u cymeradwyo, a chyflwynwyd cynlluniau gweithredu i Lywodraeth Cymru ddiwedd mis Rhagfyr. Mae swyddogion yn parhau â'u trafodaethau gydag awdurdodau lleol ynglŷn â'r cynnydd a amlinellwyd o fewn y cynlluniau gweithredu hynny.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Nawr, mae'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, fel dŷch chi wedi ei ddweud, sydd wedi'u cymeradwyo gan eich Llywodraeth chi, yn dangos amrywiaeth enfawr yng nghynlluniau cynghorau ar draws Cymru ac o fewn rhanbarth y de-orllewin yn benodol. Mae cynllun cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn hynod o siomedig o'i gymharu gyda chynghorau eraill. Dim ond 7.5 y cant o blant saith mlwydd oed sy'n derbyn addysg Gymraeg ym Mhen-y-bont, a braidd dim cynnydd wedi'i wneud yn ystod y cyfnod cynllunio presennol. Mae hyn yn cymharu gyda tharged o 16 y cant yn Abertawe, a tharged o 22 y cant yng Nghastell-nedd Port Talbot drws nesaf. Ydych chi'n cytuno bod y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg wedi bod yn fethiant llwyr mewn llefydd fel Pen-y-bont ar Ogwr, wrth i'ch Llywodraeth anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg?

Wel, Dai, fel y dywedais, mae'r cynlluniau wedi eu cymeradwyo. Fy nealltwriaeth i o'r sefyllfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw bod yr awdurdod wedi ymrwymo i ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu rhaglen band B, gydag ymrwymiad i ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yng ngorllewin yr awdurdod, lle ceir datblygiadau tai newydd yn rhan isaf cwm Ogwr. Yn ychwanegol at hynny, rhoddwyd cymeradwyaeth mewn egwyddor i'r awdurdod mewn perthynas â'r £2.6 miliwn ar gyfer y cynnig cyfrwng Cymraeg a gofal plant, ar gyfer yr elfen grantiau cyfalaf o hwnnw, er mwyn ehangu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg mewn pedair ardal lle mae'r galw mwyaf, sef Betws, Ogwr, Porthcawl a chanol Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn cefnogi twf addysg cyfrwng Cymraeg ymhellach. Fe fyddwch yn falch o glywed hynny. A byddaf yn herio awdurdodau lleol yn gyson i sicrhau bod eu huchelgais yn cyfateb i fy uchelgais innau ar gyfer y cyfleoedd a roddir i rieni wneud y dewis cadarnhaol hwn i addysgu eu plant drwy gyfrwng y Gymraeg.

Costau sy'n gysylltiedig ag Addysg

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall rhieni fforddio costau sy'n gysylltiedig ag addysg eu plant? OAQ53552

Diolch yn fawr iawn, Leanne. Cyflwynais fynediad at y grant datblygu disgyblion yn 2018-19 i ddarparu cymorth ychwanegol i deuluoedd yn uniongyrchol, er mwyn cynorthwyo'r rheini sydd ei angen fwyaf i allu talu rhai o'r costau sy'n gysylltiedig â'r diwrnod ysgol. Ar gyfer 2019-20, rydym wedi mwy na dyblu'r arian a fydd ar gael i gefnogi teuluoedd yn y ffordd hon.

14:25

Yng ngeiriau'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau, ceir 'argyfwng ariannu difrifol' mewn ysgolion, sy'n cael 'effaith andwyol... ar... bobl ifanc.' Mae'r rhain yn ddyfyniadau uniongyrchol ganddynt. Daw hyn ar yr un pryd ag adroddiad gan y comisiynydd plant, Sally Holland, yr wythnos diwethaf, a ddywedodd

Mae teuluoedd yn wynebu galwadau ariannol o gyfeiriadau o bob math a'r plant sy'n talu'r pris pan na all eu rhieni dalu costau cynyddol.

Ychwanegodd

Os ydym o ddifrif ynglŷn â sicrhau chware teg a rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn ddysgu a thyfu, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos gwir arweinyddiaeth ac uchelgais wrth gynorthwyo'r miloedd o deuluoedd ledled Cymru sy'n ei chael hi'n wirioneddol anodd.

Rwyf wedi crybwyll y trothwy ar gyfer prydau ysgol am ddim ar sawl achlysur. A ydych yn cydnabod y darlun a roddwyd gan y ddwy ffynhonnell ddiduedd ac arbenigol hon? Os ydych, pryd y gallwn ddisgwyl gweld gwir arweinyddiaeth ac uchelgais gan y Llywodraeth Lafur hon i helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd ac i sicrhau y ceir gwared ar y bwlch ariannu i ysgolion sy'n ei chael hi'n anodd fel y gallant ddarparu gwasanaethau addysg o ansawdd da i'n plant?

Rwy'n cydnabod yr heriau a nodir yn adroddiad y comisiynydd plant yn llwyr. Dyna pam, fel y dywedais, y bydd gennym £5 miliwn i'w wario y flwyddyn nesaf ar fynediad at y grant datblygu disgyblion. Felly eleni, am y tro cyntaf, mae rhieni wedi gallu cael cymorth gyda gwisgoedd ysgol ac offer pan fydd eu plentyn yn dechrau yn yr ysgol a phan fydd eu plentyn yn pontio i'r ysgol uwchradd. Ar hyn o bryd, rwy'n edrych i weld a allwn ddarparu cyfleoedd pellach fel y gall rhieni ar gamau eraill yng ngyrfa ysgol eu plentyn gael mynediad at gymorth. Yn y cyfamser, mae ein hymgynghoriad ar wisgoedd ysgol i sicrhau bod y canllawiau o ran fforddiadwyedd gwisg ysgol yn cael eu rhoi ar sail statudol, rhywbeth nad yw wedi digwydd hyd yma, wedi dod i ben yn ddiweddar, a gobeithiaf y bydd hynny ar waith cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd. Ddiwedd y llynedd, comisiynais Plant yng Nghymru i gynhyrchu cyfres o nodiadau cyfarwyddyd a phecynnau cymorth i ysgolion fel y gallant ddeall yn well a helpu i lywio eu penderfyniadau o ran cost y diwrnod ysgol. Bydd y canllawiau yn adnoddau annibynnol a byddant yn cynnwys dealltwriaeth o achosion ac effaith byw mewn tlodi, effaith bwyd a newyn, adnoddau gwisg ysgol a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol. Rydym yn cynyddu'r swm o arian sydd ar gael i awdurdodau lleol allu cefnogi ein rhaglen gwella gwyliau'r haf, fel y bydd pob awdurdod lleol, gobeithio, yn darparu cymorth yr haf hwn i deuluoedd yn ystod y gwyliau ysgol, ac o ran prydau ysgol am ddim, bydd miloedd yn fwy o blant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o dan y drefn newydd, ac mae swm sylweddol o adnoddau ychwanegol wedi'i ryddhau ar gyfer talu am y prydau hynny.

Diolch, Weinidog, am amlinellu'r holl gymorth rydym yn ei roi, oherwydd yn amlwg, rydym yn gwneud ein gorau glas yng Nghymru i liniaru'r cyni a ddaw o San Steffan. Ond credaf y bydd yn rhaid i mi ofyn—ac rydych wedi nodi'r angen i sicrhau bod prydau ysgol am ddim ar gael i fwy o blant ifanc—a ydych wedi asesu effaith credyd cynhwysol ar y cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim yng Nghymru, a'r effaith y gallai hynny ei chael ledled y rhanbarth?

Do, rydym wedi gwneud hynny. Yr hyn a wyddom—bydd effaith credyd cynhwysol yn golygu y bydd mwy o blant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yng Nghymru, ac rydym wedi darparu adnoddau ar gyfer hynny. Gwyddom hefyd y gallai rhai plant sy'n gymwys ar hyn o bryd wynebu colli'r cymhwysedd hwnnw, a dyna pam rydym yn rhoi amddiffyniadau ar waith er mwyn sicrhau na fydd y teuluoedd hynny ar eu colled. Byddwn yn adolygu'r cymorth i deuluoedd yn y maes penodol hwn yn gyson. Yn wir, yn gynharach heddiw, pan gyfarfu is-bwyllgor Ewropeaidd y Cabinet—un o'r pethau y mae'n rhaid inni edrych arnynt o ran paratoi ar gyfer Brexit 'dim cytundeb' yw pa gymorth ychwanegol y gallem ei roi i deuluoedd gyda chost prydau ysgol pe bai prisiau bwyd yn codi'n sylweddol o ganlyniad i Brexit 'dim cytundeb', a pha sefyllfa y gallem fod ynddi i helpu teuluoedd o'r fath bryd hynny.

Disgyblion ar y Sbectrwm Awtistaidd

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth i ddisgyblion ar y sbectrwm awtistaidd mewn ysgolion? OAQ53556

Diolch yn fawr, Llyr. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau y gall pob disgybl sydd ag awtistiaeth mewn ysgolion gyflawni eu potensial llawn. Bydd ein diwygiadau uchelgeisiol i ADY yn trawsnewid y system bresennol ar gyfer cefnogi dysgwyr yn llwyr, ac yn rhoi proses integredig a chydweithredol ar waith ar gyfer asesu, cynllunio a monitro'r cymorth sydd ar gael.

14:30

Diolch i chi am eich ateb. Wrth gwrs, yn dilyn ei waith craffu ar y Bil Awtistiaeth (Cymru) a oedd ger ein bron ni ychydig yn ôl, un o argymhellion y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i'r Llywodraeth oedd y dylai ei bod hi'n orfodol i bob aelod o staff mewn ysgolion, ac yn enwedig athrawon a chynorthwywyr dysgu, gael hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth yn ystod eu hyfforddiant cychwynnol. Nawr, mae hyn yn rhywbeth y mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yng Nghymru wedi bod yn galw amdano fe; mae'n rhywbeth sydd yn digwydd yn Lloegr, fel rhan ffurfiol o hyfforddiant cychwynnol athrawon yn fanna. A wnewch chi, felly, fabwysiadu polisi tebyg yng Nghymru, derbyn argymhelliad y pwyllgor iechyd—sydd wrth gwrs yn bwyllgor trawsbleidiol—a chymryd cam pwysig i sicrhau bod plant sydd ar y sbectrwm awtistiaeth yn cael y gefnogaeth orau posibl i gyflawni eu potensial addysgiadol?

Wrth gwrs, Llyr, mae angen inni sicrhau bod gan unrhyw unigolyn sy'n gadael ein darpariaeth addysg gychwynnol athrawon sgiliau a gwybodaeth briodol i'w galluogi i helpu pob un o'n plant. Mae anghenion dysgu arbennig—ychwanegol—yn rhan bwysig o'n diwygiadau i addysg gychwynnol athrawon. Credaf y byddai pob un ohonom yn cytuno, yn y gorffennol, fod materion sy'n ymwneud ag ADY wedi bod yn brin mewn addysg gychwynnol i athrawon, ac mae angen i hynny newid. Mae angen inni sicrhau hefyd y gall athrawon sydd eisoes yn y system gael mynediad at ddysgu proffesiynol, fel y gallant wella eu sgiliau lle bo angen. A dyna pam rydym wedi darparu symiau sylweddol o arian i ysgolion unigol allu mynd i'r afael â'u hanghenion dysgu proffesiynol, yn ogystal â'r £20 miliwn sydd ar gael ar gyfer rhoi'r ddeddfwriaeth ADY newydd ar waith, er mwyn gwneud yn siŵr y gall ein hysgolion sicrhau y gall pob plentyn, waeth beth fo'u diagnosis, neu ddiffyg diagnosis mewn rhai achosion, gyflawni eu potensial llawn.

Mae fy ngwaith achos yn llawn o deuluoedd mewn argyfwng am nad yw anghenion cyfathrebu, cymdeithasol, synhwyraidd a phrosesu eu plant wedi cael eu deall na'u nodi. Mae gennyf blant nad ydynt wedi bod yn yr ysgol ers misoedd, blynyddoedd hyd yn oed, a heb ddarpariaeth amgen ar waith. Mae gennyf ferch 11 oed, ac mae'r cyngor yn mynnu ei bod yn cael gyrrwr tacsi gwrywaidd. Oherwydd ei hawtistiaeth, nid yw'n briodol iddi gael gyrrwr tacsi gwrywaidd, felly credant y gallant wneud iddi newid i gael gyrrwr tacsi gwrywaidd. Mae gennyf blant sydd wedi'u gwahardd o'r ysgol ar ôl cael ffrwydrad awtistig a achoswyd gan ymddygiad tuag atynt. Yr wythnos hon, cefais e-bost gan fam i fachgen sydd â nodweddion awtistig:

Ar ôl cyfarfod gyda'r ysgol, cawsom drafodaeth benodol ynglŷn â defnydd fy mab o regfeydd. Roedd yr arbenigwr CAMHS yn amlwg yn cefnogi fy esboniad fod fy mab yn anhapus gyda'r pyliau hyn o orbryder, ond ni all reoli ei iaith pan gaiff ei wthio y tu hwnt i bwynt penodol. Ond roedd y pennaeth blwyddyn yn bendant iawn ynglŷn â pholisi'r ysgol tuag at iaith anweddus, a'i fod yn credu y dylid cosbi hynny.

Mae'n hawdd iawn dweud ein bod am aros i weld a yw deddfwriaeth yn gweithio. Ond pa gamau brys y gallwn eu cymryd i atal y plant hyn rhag cael eu brandio yn blant 'drwg', a dechrau nodi eu hanghenion, ac addasu i'r anghenion hynny, cyn iddynt droi'n argyfwng?

Mae'n flin iawn gennyf glywed, Mark, am y profiadau a amlinellwyd gennych yn y Siambr y prynhawn yma. A gwn nad chi fydd yr unig Aelod Cynulliad sydd wedi cael gwaith achos tebyg yn eu bag llythyrau. Dyna'r union reswm pam y bu angen inni newid ein system ADY, gan nad yw'r system bresennol, mewn rhai achosion, yn diwallu anghenion plant unigol a'u teuluoedd. A dyna pam fod gennym y cynllun gweithredu sydd gennym, wrth i ni newid o'r hen system i'r system newydd. Ni allaf wneud sylwadau ar unrhyw achosion unigol, ond rwy'n dweud yn glir bob amser wrth yr Aelodau, os ceir achosion lle teimlant y gallaf fod o gymorth, rwy'n fwy na pharod i wneud yr hyn a allaf.

Hyfforddiant Mewn Swydd

6. Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru o ran sicrhau unffurfedd wrth bennu dyddiau HMS ar draws ysgolion yng Nghymru? OAQ53561

Diolch. Ar hyn o bryd, pennir cynnwys ac amseriad diwrnodau HMS gan awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a phenaethiaid. Fel y gwyddoch, yr wythnos diwethaf, lansiais ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer diwrnodau dysgu proffesiynol cenedlaethol HMS ychwanegol ar gyfer y tair blynedd academaidd nesaf, sy'n cynnwys cwestiynau penodol ar amseriad y dyddiau ychwanegol hynny.

Diolch. Yn wir, mae llawer o drafod a sylwebaeth wedi bod ynglŷn â'r cwestiwn diddorol ynglŷn ag a ellid cysoni diwrnodau HMS i ryw raddau ledled y wlad, a chyda chyhoeddi chweched diwrnod dysgu addysgu proffesiynol HMS, sydd i'w groesawu, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn eu hymgynghoriad mai'r nod ar gyfer pob ysgol yw pennu'r un dyddiad ar ei gyfer. Os bydd hyn yn digwydd, pa ddadansoddiad y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud o ran asesu'r gwerth i addysgu yn sgil cynnal diwrnodau HMS gyda'i gilydd mewn un wythnos gyfleus? A'r tu hwnt i'r prif werth perthnasol o ran dysgu athrawon, efallai y gall hefyd fod yn gyfle i edrych ar ddarparu rhyw fecanwaith i deuluoedd gael cyfle i fynd ar wyliau am bris fforddiadwy yn ystod y tymor, a thrwy hynny gallant osgoi arferion twyllodrus cwmnïau gwyliau Prydain, sy'n niweidio'r defnyddiwr, ond sy'n niweidiol yn bennaf i addysg ac addysgeg pawb sy'n rhan o hyn?

14:35

Rhianon, fel y dywedwch, mae'r ymgynghoriad yn ystyried y posibilrwydd o ddiwrnod hyfforddi cenedlaethol yn gysylltiedig â gweithredu'r cwricwlwm newydd, ond nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw ein bod wedi cael dros 300 o ymatebion i'r ymgynghoriad eisoes, ac o gofio mai'r wythnos diwethaf yn unig y cafodd ei lansio, mae'n ymateb rhyfeddol.

Rwy'n ymwybodol fod cyfyngiadau ariannol ar rai teuluoedd yn golygu eu bod yn ystyried tynnu eu plant o'r ysgol i fwynhau gwyliau teuluol, ac yn sicr, pan fo gwyliau yng Nghymru yn wahanol i'r gwyliau dros y ffin yn Lloegr, fel a ddigwyddodd yn ddiweddar dros hanner tymor, gall hynny effeithio'n sylweddol ar y prisiau sy'n rhaid i deuluoedd eu talu. Ond wrth gwrs, wrth drefnu diwrnodau HMS nid wyf yn meddwl am gyfleustra pris gwyliau, mae ein diwrnodau HMS yno i roi cyfle i athrawon gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol ac i baratoi ar gyfer heriau'r cwricwlwm newydd.

Weinidog, yn amlwg, rwy'n deall yr ymgynghoriad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd ynghylch cyflwyno diwrnodau HMS ychwanegol i baratoi athrawon ar gyfer y cwricwlwm newydd. Yn ddiddorol, mae'r cynnig, a chynnig yn unig ydyw, yn ymwneud â chynnal y diwrnod HMS ar yr un diwrnod ledled Cymru, a chredaf fy mod yn gywir i ddweud hynny. Pa mor hyderus ydych chi fod y capasiti yno i ddarparu'r cyfleoedd hyfforddiant ledled Cymru, pe bai diwrnod HMS cenedlaethol o'r fath yn cael ei gyflwyno, oherwydd does bosib nad oes problem yn codi o ran y capasiti i ddarparu'r platfformau hyfforddi hynny ym mhob ysgol ar draws pob rhan o Gymru?

Diolch, Andrew. Rydych yn llygad eich lle fod yr ymgynghoriad yn cynnig un diwrnod hyfforddi cenedlaethol ar gyfer y tair blynedd academaidd nesaf er mwyn paratoi ar gyfer y cwricwlwm. Yr hyn a ddywedaf wrthych yw bod gennych olwg braidd yn hen ffasiwn, os caf ddweud, ar sut beth yw hyfforddiant proffesiynol. Mae'r dyddiau pan fyddem yn anfon pawb i gynhadledd CBAC, lle roedd pobl yn eistedd drwy'r dydd yn gwrando ar y doethwr ar y llwyfan ac yna'n mynd â'r dysgu proffesiynol hwnnw yn ôl i'w hysgol, heb wneud unrhyw beth ag ef mewn sawl achos—nid dyna rydym yn ei gynnig. Mae'r dysgu proffesiynol gorau yn digwydd pan fydd gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda'i gilydd yn eu clystyrau, yn eu dalgylchoedd, a chyda'u harbenigwyr pwnc ac oedran. Felly, nid cael llu o arbenigwyr proffesiynol honedig yn ein hysgolion yw ein dull o weithredu hyn, ac nid dyna'r ymagwedd fodern tuag at ddysgu proffesiynol.

Ieithoedd Tramor

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysgu ieithoedd tramor yn ysgolion Cymru? OAQ53533

Rydym wedi buddsoddi dros £2.5 miliwn yn ein cynllun Dyfodol Byd-eang, i alluogi dysgwyr i ddeall pwysigrwydd ieithoedd a'r cyfleoedd trawsnewidiol y maent yn eu darparu. Rwy'n ymwybodol o'r heriau, a dyna pam, o dan gwricwlwm newydd Cymru, y bydd dysgwyr yn cael profiad o ieithoedd o oed cynharach.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Yn ôl arolwg gan y BBC, mae gostyngiad mwy wedi bod yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig yn nifer y disgyblion sy'n dysgu ieithoedd tramor. Yn y pum mlynedd diwethaf, mae'r nifer sy'n sefyll arholiadau TGAU ieithoedd yng Nghymru wedi gostwng 29 y cant, o gymharu â gostyngiad o 11 y cant yn Lloegr, gostyngiad o 12 y cant yng Ngogledd Iwerddon, a gostyngiad o 19 y cant yn yr Alban. Canfu'r arolwg hefyd fod mwy na thraean o ysgolion wedi rhoi'r gorau i gynnig un neu fwy o ieithoedd ar lefel TGAU dros y pum mlynedd diwethaf. Un o'r rhesymau a roddwyd gan athrawon am y gostyngiad hwn yw bod bagloriaeth Cymru wedi cyfyngu ar amserlen yr ysgol, gan olygu bod ieithoedd tramor yn cael eu gwasgu allan. Weinidog, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i wrthdroi'r dirywiad difrifol hwn ym maes addysgu ieithoedd modern yn ein hysgolion yng Nghymru?

14:40

Y peth cyntaf i'w ddweud yw bod y myfyrwyr sy'n gwneud TGAU mewn ieithoedd tramor modern a Safon Uwch mewn ieithoedd tramor modern yn perfformio'n rhagorol, gyda chyfraddau llwyddo uchel iawn ar y lefelau uchaf. Mae llawer o'n hathrawon ieithoedd tramor modern wedi cael eu cydnabod am eu rhagoriaeth.

Mae'n wir dweud, fodd bynnag, ein bod wedi gweld dirywiad yn nifer y myfyrwyr sy'n gwneud TGAU. Dywedodd adroddiad y BBC hefyd nad bai bagloriaeth Cymru yw hyn; yn ôl eu hadroddiad, deilliai hefyd o'r ffaith bod plant yn treulio amser ychwanegol mewn gwersi Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, a hefyd oherwydd cysyniad fod pasio iaith dramor fodern yn beth anodd iawn i'w wneud, a bod plant o dan gamargraff ei fod yn bwnc TGAU anodd i'w wneud. Dyna pam rydym yn rhoi'r camau hyn ar waith i gefnogi ein cynllun mentora ieithoedd tramor modern, adnoddau digidol newydd ar gyfer dysgu ieithoedd ar Hwb, yn ogystal â'r ymagwedd drawsnewidiol tuag at y cwricwlwm newydd, lle bydd plant yn cael profiad o ieithoedd tramor modern yn yr ysgol gynradd a gallant ddechrau datblygu cariad tuag at ddysgu iaith cyn iddynt fynd i'r ysgol uwchradd. Ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod hwn yn ddull arloesol o fynd i'r afael â sefyllfa heriol iawn.

Cyllidebau Ysgolion ym Môn

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllidebau ysgolion ym Môn? OAQ53548

Diolch, Rhun. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ariannu ysgolion yng Nghymru. Mae Ynys Môn yn pennu eu blaenoriaethau gwario ar gyfer y gwasanaethau y maent yn eu darparu, gan ystyried anghenion lleol a'r holl adnoddau sydd ar gael iddynt. Mater i'r awdurdod hwnnw yw faint o arian y mae'n ei glustnodi ar gyfer cyllidebau ysgolion.

Diolch yn fawr iawn. Mae effaith, dwi'n meddwl, 10 mlynedd a mwy o lymder gan Lywodraeth Prydain, ynghyd, dwi'n ofni, â methiant Llywodraeth Cymru i flaenoriaethau cyllidebu llywodraeth leol eleni wedi arwain at wasgfa gwbl anghynaliadwy ar gyllidebau addysg ym Môn, fel yng ngweddill Cymru. Dwi yn llongyfarch cyngor Môn am lwyddo i warchod y cyllidebau addysg i raddau helaeth, ond, wrth gwrs, maen nhw wedi gorfod cynyddu eu treth cyngor dros 9 y cant er mwyn gwneud hynny, ac y mae'r cynnydd yn nhreth cyngor wedi bod yn fawr ar draws Cymru. Dwi'n edrych ymlaen at ragor o fanylion ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd o ran arian pensiynau, sydd, heb os, yn mynd i fod o ryddhad.

Ond, ar y cwestiwn o gyllido'n gyffredinol, mae'r grantiau a gafodd eu cyhoeddi yn eithaf hwyr yn y dydd wrth gwrs yn help, a dwi’n croesawu unrhyw beth sydd yn gallu lleihau'r baich ar ysgolion, ond ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi fod rhannu arian yn y modd yma yn ei gwneud hi'n amhosib bron i benaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion gynllunio'n wirioneddol strategol ar gyfer y dyfodol?

Am eiliad, Lywydd, mae'n ymddangos bod yr Aelod wedi anghofio bod ei blaid ef yn rhan o'r broses o bennu'r gyllideb a arweiniodd at y setliad llywodraeth leol hwnnw eleni, ac wedi cael cyfle i ddylanwadu ar y penderfyniadau a wnaed mewn perthynas â'r gyllideb gyffredinol. Ond mae'r Aelod yn gwneud pwynt teg iawn o ran dosbarthu'r grantiau a all fod ar gael i ysgolion gan Lywodraeth Cymru mewn modd amserol. Gall grantiau a roddir yn hwyr fod yn heriol iawn i ysgolion eu gwario'n effeithiol ac yn y ffordd fwyaf effeithiol, ond weithiau, rwyf fi fel y Gweinidog yn dod yn ymwybodol o arian sydd ar gael yn eithaf hwyr, a byddaf bob amser yn defnyddio'r cyfle hwnnw os gallaf, ni waeth ar ba adeg o'r flwyddyn, i sicrhau bod yr arian hwnnw'n cyrraedd y rheng flaen.

Nid yw Bethan Sayed yma i ofyn cwestiwn 9 [OAQ53571]. Cwestiwn 10, felly, Russell George.

Thema Allweddol 'Uchelgeisiol ac yn Dysgu'

10. Sut y mae adran y Gweinidog yn cyfrannu at y thema allweddol 'uchelgeisiol ac yn dysgu', fel sydd wedi'i nodi yn 'Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol'? OAQ53547

Diolch, Russell. Mae fy nghenhadaeth genedlaethol yn nodi cynllun clir ar gyfer cyflawni'r uchelgeisiau a nodir yn 'Ffyniant i Bawb', Cymru uchelgeisiol sy'n dysgu. Rydym eisoes wedi cyflawni'r pecyn mwyaf hael o gyllid myfyrwyr yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Ar hyn o bryd, mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i isafswm o 10 awr yr wythnos o addysg cyfnod sylfaen am ddim yn yr ysgol neu mewn meithrinfa a ariennir yn y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Yn Lloegr, mae gan bob plentyn hawl i 15 awr yr wythnos. Oherwydd natur wledig llawer o ganolbarth Cymru, nid yw dwy awr yn hyd addas o amser, o ran teithio, i bobl allu teithio o'u cartrefi i'w lleoliad ac i ddarparu'r addysg cyfnod sylfaen honno. A yw hyn yn rhywbeth y byddech yn barod i'w ailystyried ac i edrych arno eto?

14:45

Yr hyn rwy'n sicr yn ei gylch yw bod gan awdurdodau lleol hyblygrwydd i ddarparu oriau cyfnod sylfaen mewn ffordd sy'n gydnaws â gallu rhieni i gael mynediad atynt, ac mae hynny'n arbennig o bwysig yn eich ardal chi, lle byddwn yn gweld cynnig Llywodraeth Cymru o 30 awr o ofal plant yn cael ei roi ar waith, cynnig a fydd, wrth gwrs, yn gyfuniad o 20 awr o ofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru a 10 awr o addysg cyfnod sylfaen, a ariennir gan Lywodraeth Cymru hefyd drwy Gyngor Sir Powys. Ac mae sicrhau y gall rhieni fanteisio ar y cyfleoedd hyn, a'u bod yn cael eu darparu mewn ffordd hyblyg, yn rhywbeth rydym yn annog pob awdurdod lleol i'w wneud. Fel mae'n digwydd, bydd fy nghyfarwyddwr addysg yng Nghyngor Sir Powys ddiwedd yr wythnos yn trafod y mater hwn gyda'r prif weithredwr newydd ac arweinydd Cyngor Sir Powys.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf felly yw cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Suzy Davies.

Wardiau Cymysg mewn Ysbytai

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yn gyntaf, a gaf fi ddiolch yn fawr iawn i chi am eich ymateb cyflym i'r pryderon a godais yn ystod y datganiad busnes yr wythnos diwethaf?

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wardiau cymysg mewn ysbytai? OAQ53568

Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gael gwared ar wardiau cymysg ac i sicrhau diogelwch, preifatrwydd ac urddas cleifion. Bydd pob datblygiad ysbyty newydd yn cael ei adeiladu i sicrhau y ceir darpariaeth un rhyw, gyda chanllawiau yn argymell isafswm o 50 y cant o ystafelloedd gwely sengl gyda chyfleusterau en-suite.

Diolch yn fawr iawn. Mae hynny'n galonogol ac—. Beth am inni gymryd bod y diolchiadau hynny wedi'u gwneud?

Roeddwn yn ddiolchgar i chi am yr ateb cyflym hwnnw—mae'n wych cael hynny. A bydd yr Aelodau yn cofio, yn y datganiad busnes yr wythnos diwethaf, fy mod wedi cyfeirio at sefyllfa anffodus iawn lle roedd menywod a oedd wedi cael camesgoriad ar ôl llai nag 20 wythnos o feichiogrwydd yn cael eu rhoi ar ward gymysg yn Ysbyty Singleton Abertawe. Ac efallai'n wir ei bod yn ward fawr—dynion ar un pen, menywod ar y pen arall, wedi'u gwahanu gan ddesg—ond mae'n dal i fod yn ward lawdriniaeth gyffredinol, ac mewn argyfwng, nid wyf yn gwybod a ellir cadw at y rhaniad hwnnw bob amser. Mae eich swyddogion yn edrych ar wasanaethau camesgoriad yn dilyn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Triniaeth Deg ar gyfer Menywod Cymru, adroddiad a oedd yn dyfynnu un fenyw a ddywedodd,

Ar ôl camesgoriad 'tawel', cefais daflenni gwybodaeth ynglŷn a'r hyn y gallwn ei wneud nesaf—ar ward lle gallai'r byd i gyd glywed.

Nawr, mae'r adroddiad hwnnw'n chwe mis oed. Gall hyn ddigwydd o hyd ar ward 2 yn Ysbyty Singleton. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau pryd y bydd yr arfer hwn yn dod i ben yn gyfan gwbl.

Mae'r her o ran bwrw ymlaen â'n gwaith ar sicrhau gwasanaethau mwy priodol mewn perthynas â chamesgoriad yn un rwyf wedi gofyn i swyddogion fynd i'r afael â hi gyda'n byrddau iechyd, ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â manylion y gwaith hwnnw a phryd y gallwn ddisgwyl gweld gwahaniaethau o sylwedd. Wrth inni wneud y gwaith a ddisgrifiais yn fy ateb cyntaf ar newid cynllun wardiau i sicrhau bod gennym wardiau un rhyw yn gyffredinol, gyda darpariaeth briodol a'r gwir urddas y byddai pob un ohonom yn ei ddisgwyl, ceir problem barhaus, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r sefyllfa rydych newydd ei disgrifio yn Ysbyty Singleton yn codi'n rhannol am ein bod yn newid y ddarpariaeth lety mewn gwahanol rannau o'r ysbyty hwnnw. Ond mae angen inni sicrhau, lle bynnag y darperir llety, ei fod yn cadw'r urddas hanfodol y byddai pob un ohonom yn ei ddisgwyl ar ein cyfer ni ein hunain a'n hanwyliaid. Ond fel rwy'n dweud, o ran gwasanaethau camesgoriad, rwy'n fwy na pharod i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr.

Gordewrdra ymhlith Plant a Phobl Ifanc

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i daclo gordewrdra ymhlith plant a phobl ifanc ? OAQ53566

Diolch. Rydym yn ymgynghori ar ein strategaeth newydd 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Bydd y strategaeth hon yn nodi ein hamcanion hirdymor i leihau ac atal gordewdra ledled Cymru. Ar hyn o bryd, mae gennym amrywiaeth o bolisïau ataliol, cyllid a deddfwriaeth, fel y filltir ddyddiol, teithio llesol a llwybr gordewdra.

Fel dŷch chi'n gwybod, mae un o bob pedwar plentyn pedair a phump oed un ai dros bwysau neu'n ordew. Mae Lloegr a'r Alban wedi gosod targedau i haneru gordewdra ymhlith plant a phobl ifanc erbyn 2030. Pam nad oes gan Lywodraeth Cymru darged? Fel gyda thaclo tlodi, heb darged does dim posib gweld sut dylai'r dyfodol edrych. Does dim nod clir i'w chyflawni a dim modd monitro'r gweithredu i sicrhau ei fod yn arwain at y canlyniadau cywir. Unwaith eto, mae Llafur yn osgoi cymryd cyfrifoldeb mewn maes pwysig. A wnewch chi osod targed?

Rwy'n deall y ddadl ynghylch targedau yn iawn. Yr her, fodd bynnag, o ran y targedau a osodwyd gan Loegr a'r Alban, yw nad oes sylfaen dystiolaeth yn sail i'r targedau hynny. Nid wyf wedi cyfarfod ag unrhyw weithiwr proffesiynol iechyd y cyhoedd sydd wedi bod yn barod i ddweud wrthyf fod y targedau'n gwneud synnwyr a'u bod yn credu eu bod am eu cyrraedd. Y peth olaf rwyf am ei wneud yw gosod cyfres o dargedau uchelgeisiol na allwn eu cyflawni. Mae gennyf ddiddordeb mewn gweld sut rydym yn gwneud gwahaniaeth go iawn o ran sicrhau newid. Rydym wedi gweld llai o gynnydd yn niferoedd plant dros bwysau a gordew, ond yr her yw peidio â dweud eu bod wedi peidio â chynyddu, ond yn hytrach, sut y gallwn sicrhau bod y duedd yn mynd tuag yn ôl. Dyna'r her rydym yn ymgynghori yn ei chylch yn strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach.

Ond yn hollbwysig, nid oes a wnelo hyn â'r Llywodraeth yn dweud, 'Fe allwch ac mae'n rhaid i chi', gan fod angen inni weithio ochr yn ochr â phobl, â theuluoedd, i weld plant yn eu cyd-destun a'r dylanwadau gwahanol o'u cwmpas—pethau fel labelu bwyd a hysbysebu bwyd, beth sy'n mynd i mewn i'r bwyd a diod y mae pobl yn eu cael—yn ogystal â chael y sgwrs honno mewn ffordd nad yw'n feirniadol. Rhan o fy ofn gwirioneddol, os ydych yn dweud wrth rieni, 'Rydych yn gyfrifol am bwysau a maint eich plentyn', yw y bydd hynny'n troi'n sgwrs feirniadol ac yn peri i bobl droi cefn ar ble rydym am iddynt fod—i helpu pobl i wneud dewisiadau gwahanol.

Nid wyf yn argyhoeddedig—ac nid fi yn unig, nid yw ein prif swyddog meddygol yn argyhoeddedig chwaith—mai gosod targedau, fel rydych wedi awgrymu y dylem ei wneud, yw'r peth iawn i'w wneud ar gyfer y strategaeth. Wrth gwrs, byddaf yn atebol i'r lle hwn nid yn unig o ran sicrhau bod strategaeth ar waith ar ôl yr ymgynghoriad, ond o ran sicrhau ein bod yn gwneud y math o wahaniaeth y gwn y byddai pob Aelod yn yr ystafell hon am inni ei wneud.

14:50

Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn gwybod bod ystadegau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn dangos bod 12.5 y cant o blant pedair i bum mlwydd oed yn ordew, sy'n ganran ddychrynllyd ac yn uwch na chyfartaledd Cymru, a dyma'r ganran uchaf ond un o holl fyrddau iechyd Cymru. Pan fydd plant yn ordew, maent mewn perygl gwirioneddol o fynd yn fwy gordew wrth iddynt dyfu'n hŷn, ac mae angen inni wrthdroi'r duedd hon. Rwy'n cydnabod mai byrddau iechyd unigol sy'n gyfrifol am gyflwyno mesurau penodol i fynd i'r afael â gordewdra, ond mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn gwthio'r agenda hon. Felly, o gofio bod ystadegau gordewdra ar gynnydd, beth rydych yn ei wneud yn wahanol yn awr fel Llywodraeth i fynd i'r afael â'r mater difrifol hwn?

Mae gennym amrywiaeth o fesurau gwahanol ar waith. Disgrifiais rai ohonynt wrth ateb y cwestiwn. Nid mater i'r gwasanaeth iechyd yn unig yw hwn. Mae'n ymwneud ag iechyd a chanlyniadau iechyd. Er enghraifft, nid yw'r filltir ddyddiol yn rhywbeth y mae'r gwasanaeth iechyd ei hun yn ei gyflawni'n uniongyrchol, ond mae'n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion mewn perthynas â gwahanol fathau o weithgarwch. Ni fydd gan ysgolion eraill y filltir ddyddiol, ond bydd ganddynt fath gwahanol o weithgarwch corfforol rheolaidd o fewn yr ysgol.

Rydych yn llygad eich lle ynglŷn â'r patrwm bywyd a osodir yn ein blynyddoedd cynharaf, o ran dysgu a'r esiampl a roddir cyn mynd i'r ysgol, yn ogystal, yn benodol, â'r gwersi ar gyfer bywyd a'r patrymau ar gyfer bywyd a osodir ar ddiwedd addysg gynradd. Felly, bydd ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn edrych eto ar sylfaen dystiolaeth. Rydym wedi edrych, er enghraifft, ar yr Iseldiroedd, lle cafwyd arweinyddiaeth a lle gwelwyd newid mewn rhai cyd-destunau, i weld sut y gallwn roi hynny ar waith yn llwyddiannus yma.

Mewn gwirionedd, mae'r gwaith a welais yn ysgol Bishop Childs—daethant i lansiad ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach'—yn dangos bod modd gwneud rhywbeth, ond yr her yw pa mor gyson y gallwn wneud hynny, ac nid yn Hywel Dda yn unig ond ledled y wlad. Efallai mai gan Hywel Dda y mae'r gyfradd uchaf ond un o blant gordew, ond mewn termau ystadegol, nid oes gwahaniaeth sylweddol. Gallwch weld y gwahaniaeth yn statws economaidd-gymdeithasol lle mae ein plant yn byw, ac mae honno'n her fawr i ni ym mhob rhan o'r wlad.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i atal saib yn y gostyngiad mewn cyfraddau ysmygu yng Nghymru?

Rydym yn adolygu ein cynllun gweithredu rheoli tybaco i sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd pellach. Rydym yn edrych eto ar y strwythur sefydliadol, er enghraifft, ein gwasanaethau rhoi'r gorau i smygu. Yn galonogol, gwelsom fwy o bobl yn defnyddio gwasanaeth Helpa Fi i Stopio y GIG ym mis Ionawr o gymharu â mis Ionawr y llynedd—cynnydd o 20 y cant yn nifer y bobl sy'n gofyn am gymorth—ond wrth gwrs, mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn deall pa ddulliau sydd ar gael a sut y cyrhaeddwn bwynt lle gallwn berswadio mwy o bobl i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael i berswadio pobl i roi'r gorau i ysmygu.

Efallai eich bod yn ymwybodol, Weinidog iechyd, fod heddiw'n Ddiwrnod Dim Smygu ledled y DU, sy'n annog pobl wrth gwrs i fanteisio ar y cyfle i ystyried rhoi'r gorau i ysmygu. Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos yn eu hamcanestyniadau eu bod yn disgwyl i chi fel Llywodraeth fethu eich targed o leihau cyfraddau ysmygu ledled Cymru i 16 y cant erbyn 2020, a'ch bod oddeutu pum mlynedd ar ei hôl hi ar hyn o bryd o ran cyflawni'r targed penodol hwnnw. Wrth gwrs, mae hynny'n peri cryn bryder. Mae'n peri pryder o safbwynt iechyd y cyhoedd yn y dyfodol. Credaf mai'r hyn sydd angen inni ei weld yw newid agwedd llwyr ar ran y Llywodraeth, yn enwedig o ran y defnydd o e-sigaréts i hybu rhoi'r gorau i ysmygu. Felly, fel y gwyddoch, mae elusen Ymchwil Canser y DU wedi dweud yn glir iawn fod e-sigaréts yn fwy diogel o lawer nag ysmygu tybaco. Mae pawb yn cydnabod, ar wahân i Lywodraeth Cymru, mae'n ymddangos, y gallant fod yn ddefnyddiol iawn i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu yn unol â chyngor GIG yr Alban a GIG Lloegr. Felly, a allwch egluro beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar e-sigaréts fel dull o roi'r gorau i ysmygu? Diolch.

14:55

Rwy'n cydnabod y pwyntiau ynghylch y targedau a'r awydd i gyrraedd y targedau a'n gallu i wneud hynny. Mewn gwirionedd, cyn inni gyflawni ein targed interim o 19 y cant, roedd yna bryder cyffredinol na fyddem yn gwneud hynny. Felly, mae'n bosibl o hyd i ni gyflawni a chyrraedd y targed hwnnw, targed a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth lle roedd gennym sail dros ei osod, a dros fod eisiau ei gyflawni.

O ran y dystiolaeth sy'n ymwneud ag e-sigaréts, darperir gwybodaeth am e-sigaréts eisoes pan fydd pobl yn ymgysylltu â gwasanaethau rhoi'r gorau i smygu. Mae'r pwynt ynghylch dyfodol e-sigaréts yn un y mae angen i ni benderfynu arno yma yng Nghymru, ond buaswn yn cywiro'r awgrym fod e-sigaréts yn llawer mwy diogel. Credaf ei bod yn well o lawer inni gydnabod bod e-sigaréts yn llawer llai niweidiol na mwg tybaco, ond y wobr fawr i'w hennill yw cael mwy o bobl nad ydynt yn ysmygu tybaco, a chredaf fod y ffordd rydych yn sôn am hynny yn wirioneddol bwysig. Mae diddordeb gennyf yn y dystiolaeth ddiweddaraf, ond nid yn unig hynny—rydym yn ceisio dod â phobl ynghyd yng Nghymru i lunio datganiad consensws yng Nghymru ar le e-sigaréts, neu fel arall, o fewn gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu.

Ymddengys eich bod yn chwarae gyda geiriau heb fod angen, Weinidog, gyda phob parch. Yr unig reswm y cyflawnoch chi eich targed blaenorol oedd oherwydd y defnydd o e-sigaréts gan ddegau o filoedd o bobl ledled Cymru sy'n eu defnyddio i roi'r gorau i ysmygu. Ond wrth gwrs, bu'n rhaid iddynt gael gafael arnynt eu hunain gan nad oeddent ar gael yma—fel sy'n digwydd yn Lloegr, lle maent ar gael—drwy wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu. Felly, a gaf fi ofyn ichi unwaith eto: a wnewch chi ystyried caniatáu i wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu GIG Cymru ddefnyddio e-sigaréts a hyrwyddo'r defnydd o e-sigaréts i gleifion ac unigolion ledled Cymru sy'n awyddus i leihau'r niwed y maent yn ei ddioddef o ganlyniad i ysmygu? Rydych yn dweud eu bod yn llawer llai niweidiol, rwyf innau'n dweud eu bod yn llawer mwy diogel. Ni chredaf fod y ddau'n anghydnaws â'i gilydd mewn gwirionedd.

Nawr, a gaf fi ofyn ynglŷn â chyfraddau ysmygu yn benodol ymhlith menywod beichiog yma yng Nghymru? Ar hyn o bryd, mae oddeutu 20 y cant o fenywod beichiog yng Nghymru yn ysmygu, a gwyddom y gall hynny, wrth gwrs, arwain at broblemau a chymhlethdodau sylweddol mewn perthynas â beichiogrwydd a geni, gan gynnwys cyfyngu ar dwf plant yn ddiweddarach mewn bywyd a chynyddu'r tebygolrwydd y byddant yn datblygu clefydau megis asthma. Nawr, gwyddom fod y ganran o fenywod beichiog sy'n ysmygu yn uwch yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r DU, gan gynnwys Lloegr a'r Alban, felly a gaf fi ofyn i chi yn benodol pa waith rydych yn ei wneud fel Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar ysmygu ymhlith menywod beichiog fel y gallwn leihau'r lefelau hyn ac arwain y ffordd yn y DU, yn hytrach nag aros ar waelod y tabl?

Mewn gwirionedd, mae gwaith sylweddol yn mynd rhagddo eisoes ar geisio helpu menywod i roi'r gorau iddi cyn ac yn ystod eu beichiogrwydd. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei gyflawni ar y cyd â bydwragedd ac ymwelwyr iechyd. Efallai ichi golli'r ffaith fy mod, y llynedd, wedi lansio rhan o'n hymgyrch ar hyn yn Ysbyty Glan Clwyd. Ac mae hynny ynghyd â gweithio gyda'r bydwragedd sy'n darparu'r gofal hwnnw yn y gymuned yn ogystal â mewn ysbytai, ac yn ceisio newid rhai o'r agweddau tuag at ysmygu hefyd, oherwydd os edrychwch y tu allan i unrhyw uned famolaeth yn y wlad, bron â bod, fe welwch bentwr o stympiau sigaréts. Nawr, mae her i ni yn hynny o beth sy'n ymwneud â newid canfyddiad pobl o'r hyn y maent yn ei wneud, nid yn unig i'w hunain, nid yn unig pan fyddant yn digwydd bod yn feichiog, ond mewn gwirionedd, i bobl eraill sy'n mynd a dod o'r unedau hynny. Felly, mae gennym ystod o gamau rydym eisoes yn eu cymryd. Mae'r gwaith yn cael ei arwain gan dystiolaeth a ddatblygwyd gan fydwragedd wrth weithio gyda theuluoedd, gan fod hyn yn ymwneud â'r cymorth y mae menyw'n ei gael gan ei phartner, sy'n aml yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran y tebygolrwydd y byddant yn manteisio ar y cyfle i roi'r gorau i ysmygu.

O ran yr her ynglŷn ag a ydym yn disgrifio e-sigaréts yn fwy diogel neu'n llai niweidiol, mae'r iaith yn bwysig mewn gwirionedd. Os ydych yn galw rhywbeth yn 'ddiogel' mewn cyngor, rydych yn cyfleu rhywbeth yn ei gylch. A chredaf fod hynny'n bwysig. Dyna pam, os yw e-sigaréts yn mynd i gael eu defnyddio, fod angen inni fod yn glir ynghylch yr iaith a'r termau y mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ym mha faes bynnag o ofal iechyd, yn eu defnyddio wrth ymgysylltu â'r cyhoedd yn eu cylch. Efallai eich bod heb glywed fy ateb i'r pwynt diwethaf ynglŷn â rhoi'r gorau i ysmygu. Rydym yn dod â phobl ynghyd yng Nghymru i gael datganiad consensws ar y defnydd o e-sigaréts, neu fel arall, mewn gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu. Bydd hwnnw'n benodol ac wedi'i dargedu. Ni fydd yn cynnwys safbwynt cyffredinol fod e-sigaréts yn ddiogel. Bydd yn ymwneud ag i ba raddau y maent yn ddull defnyddiol neu beidio, ac wrth gwrs, byddwn yn edrych ar y dystiolaeth a ddarparwyd gan yr Alban a Lloegr wrth wneud penderfyniad yma yng Nghymru.

15:00

Diolch, Lywydd. Ym mis Chwefror 2016, defnyddiodd y Prif Weinidog ar y pryd adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i amddiffyn record Llywodraeth Cymru ar y pryd mewn perthynas â darparu gwasanaethau iechyd. Wrth gwrs, pan edrychwch ar yr hyn roedd yr adroddiad hwnnw'n ei ddweud mewn gwirionedd, ymhlith pethau eraill, dywedai hyn:

ar hyn o bryd, nid oes gan Fyrddau Iechyd ddigon o allu a chapasiti technegol sefydliadol i sbarduno newidiadau ystyrlon, ac mae'n bosibl y bydd angen help llaw arweiniol canolog cryfach.

Yna, ddwy flynedd yn ddiweddarach, fis Ionawr diwethaf, dywedodd yr adolygiad seneddol wrthym fod diwylliant gwrth-risg yn llesteirio newid yn y system iechyd a gofal ac yn cyfyngu ar y gallu i wneud penderfyniadau effeithiol ac effeithlon. A yw'r Gweinidog yn derbyn safbwynt y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod angen help llaw arweiniol canolog cryfach, a beth y mae'n ei wneud i newid y diwylliant gwrth-risg hwnnw? Diau y bydd yn dweud wrthym mai'r ffordd o gyflawni newid parhaol yw drwy ddefnyddio ei gronfa drawsnewid, ond rwy'n siŵr y byddai'n cydnabod bod hwnnw'n swm bach iawn o arian o'i gymharu â'r gyllideb gyffredinol. Pa mor hyderus yw'r Gweinidog fod byrddau iechyd lleol yn cyflawni blaenoriaethau allweddol y Llywodraeth yn awr?

Mewn gwirionedd, wrth sôn am y modd y câi'r gwasanaeth iechyd ei drafod yn 2016, fe fyddwch yn cofio nifer o chwaraewyr gwleidyddol yn gwneud awgrym cyffredinol, diog a chwbl anghywir mai gwasanaeth iechyd Cymru oedd y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig. Mewn gwirionedd, roedd adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dweud nad oedd hynny'n wir. Fodd bynnag, roedd yn cynnwys beirniadaeth ar bob rhan o'r gwasanaeth iechyd o fewn y pedair gwlad yn y DU, ac roedd hynny'n cynnwys y feirniadaeth rydych wedi'i darllen ynglŷn â'n sefyllfa yng Nghymru—bod gennym strwythur mwy rhesymegol i'r ffordd rydym yn trefnu gwasanaethau iechyd, ond bod angen gwireddu hynny o ran cyflawni.

Ac o ran y pwynt fod angen help llaw arweiniol mwy canolog, rwy'n cael fy annog yn rheolaidd i wneud rhagor o ymyriadau yn y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu gweithredu. Mewn gwirionedd, rwyf wedi mabwysiadu dull gweithredu mwy ymyraethol, ond yr her yw sut y mae gennym system wedi'i sefydlu, nid agwedd un Gweinidog yn unig. A byddwch yn cofio ein bod yn sôn am gronfeydd mwy canolog yn 'Cymru Iachach', rydym yn sôn am gael cynllun clinigol cenedlaethol, rydym yn sôn am gael gweithrediaeth ganolog i'r GIG yng Nghymru yn ogystal, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n dda ac yn dod at ei gilydd. A byddaf yn ystyried opsiynau ar gyfer creu'r corff hwnnw i ddarparu'r arweinyddiaeth a'r arweiniad canolog cliriach hwnnw o fewn y gwasanaeth i weithio gyda'n byrddau iechyd a'n hymddiriedolaethau yma yng Nghymru.

Lywydd, mae'r hyn a ddywed y Gweinidog, i ryw raddau, yn galonogol, ond mae'n defnyddio'r ymadrodd 'sôn am', ac rwy'n credu bod angen i ni gyfeirio at yr hyn sy'n digwydd yn awr mewn gwirionedd. O fis Ebrill ymlaen, bydd ein byrddau iechyd lleol yn gyfrifol am swm digyffelyb o arian cyhoeddus yng Nghymru, ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn y Siambr hon yn anghytuno â'r angen i fuddsoddi. Nawr, bydd cyrff sector cyhoeddus eraill yn eiddigeddus o'r adnoddau hynny sydd ar gael, er gwaethaf y ffaith bod gan gyrff sector cyhoeddus eraill rolau allweddol yn cefnogi iechyd pobl Cymru, fel y mae'r Gweinidog ei hun wedi'i ddweud mewn ymateb i gwestiynau eraill y prynhawn yma. Bydd gan y cyrff cyhoeddus hynny hawl i ofyn i ni, rwy'n credu, a yw'r arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio i gyflawni'r amcanion strategol cenedlaethol. Nawr, un o'r amcanion hyn yw symud gwasanaethau o ofal eilaidd i ofal sylfaenol ac unwaith eto, credaf fod cefnogaeth eang i hynny ar draws y Siambr hon.

Ond mae angen i ni edrych ar y gwariant gwirioneddol dros y pum mlynedd ddiwethaf, ac rydym wedi gweld byrddau iechyd lleol yn parhau i wneud y gwrthwyneb. Mae'r gwariant ar ofal sylfaenol wedi cynyddu £74 miliwn yn nhermau arian parod, ond mae hwnnw, wrth gwrs, dros y pum mlynedd, yn doriad mewn termau real. Mae'r gwariant ar ofal eilaidd wedi llyncu'r rhan fwyaf o'r cynnydd, ac mae'n cael tua £845 miliwn yn ychwanegol. Nawr, mae hyn yn dangos yn glir i mi fod byrddau iechyd lleol wedi methu symud adnoddau a gwasanaethau o ysbytai i mewn i gymunedau, er bod hynny'n un o flaenoriaethau eglur Llywodraeth Cymru. Gwelwn hynny hefyd yn y cynnydd yn nifer y staff, cynnydd bach iawn yn nifer y meddygon ysbyty, ond caiff hynny ei wrthbwyso gan y lleihad yn nifer y meddygon teulu. A allwch egluro i ni, Weinidog, pam eich bod yn caniatáu i fyrddau iechyd lleol ddiystyru'r polisïau rydych wedi'u nodi yn hyn o beth?

Nid wyf yn credu bod hwnnw'n ddisgrifiad teg o gwbl. Pan edrychwch ar yr hyn rydym yn ei wneud gyda gwariant y GIG, rwy'n falch o'r ffaith ein bod yn rhoi mwy o adnoddau i'r gwasanaeth iechyd gwladol, er ein bod wedi profi 10 mlynedd o gyni Torïaidd, a bod y penderfyniadau a wnawn yn anhygoel o anodd ac mae iddynt ganlyniadau go iawn ym mhob gwasanaeth cyhoeddus. Ac nid oes y fath beth a phenderfyniad sy'n hawdd i'w wneud. Os rhown fwy o arian i wahanol wasanaethau cyhoeddus, yn amlwg byddwn yn wynebu heriau ynglŷn ag a ydym yn rhoi digon o gyllid i'r gwasanaeth iechyd i ddarparu'r math o ofal y mae pob un ohonom yn ei ddisgwyl i ni ein hunain. Felly, yn ystod y tymor diwethaf, gwnaethom benderfyniad bwriadol i roi arian i'r gwasanaeth iechyd gwladol a derbyn y byddai hynny'n cyfyngu ar arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus eraill. Ni allwch esgus eich bod yn gallu rhoi mwy o arian tuag at bopeth, fel y mae rhai pobl yn y Siambr hon yn ei wneud yn rheolaidd yn y cwestiynau hyn, er iddynt ymgyrchu dros gyni mewn tri etholiad cyffredinol yn olynol.

O ran sut i sicrhau bod sefydliadau gwahanol yn gweithio gyda'i gilydd, mae'r gronfa drawsnewid yn canolbwyntio ar symud mwy o weithgarwch ac adnoddau o'i amgylch i mewn i'n system gofal sylfaenol, ac yn fwy na hynny, i'r bartneriaeth rhwng gofal sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae hynny'n golygu bod angen i'r gwasanaeth iechyd fod yn bartner gwell yn y sgwrs honno a darparu'r gwasanaethau hynny gyda'i gilydd wedyn.

Felly, mewn gwirionedd, os edrychwch ar y gweithgarwch rydym yn ei wneud yn awr, yn ogystal ag ar y gronfa drawsnewid ei hun, fe welwch fod pob un o'r rheini'n cael eu cefnogi gan bob bwrdd partneriaeth rhanbarthol. Ac mae hynny'n cynnwys iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector, ac o ddechrau mis Ebrill ymlaen, bydd pob partneriaeth ranbarthol hefyd yn cynnwys lleisiau o'r maes tai a'r maes addysg i sicrhau bod gennym sgwrs gydgysylltiedig gyda phob un o ranbarthau Cymru ynglŷn â sut i drawsnewid gwasanaethau, a sut y dylai'r adnoddau ddilyn pan fo cytundeb ynghylch beth y dylem ei wneud i'w newid, i sicrhau newid go iawn ar draws y system gyfan yn hytrach na phrosiectau bach unigol y gallai pob un ohonom sôn amdanynt ar lefel leol ond na fydd yn trawsnewid ein system. Dyna'n sicr yw fy amcan.

15:05

Lywydd, rwy'n falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud mai dyna yw ei amcan, ond buaswn yn dweud wrtho fod ei blaid wedi bod yn rheoli'r gwasanaeth iechyd ers 20 mlynedd yng Nghymru, ac ers dyddiau cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, rydym wedi bod yn sôn—unwaith eto, gyda chefnogaeth drawsbleidiol eang—am gael gwared ar adnoddau o ofal eilaidd a buddsoddi mewn gofal sylfaenol, a mynd gam ymhellach yn wir a sicrhau, fel y mae'r Aelod eisoes wedi'i ddweud y prynhawn yma, fod cydweithrediad llawer mwy effeithiol rhwng gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd. Buaswn yn dweud wrth y Gweinidog nad yw hyn yn newydd ac nad yw'n gysyniad anodd ac nad oes neb yn dadlau gydag ef ynglŷn ag a fydd rhai o'r prosiectau o dan y gronfa drawsnewid yn gadarnhaol ac yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol ai peidio. Er enghraifft, rwy'n falch iawn o weld—gwn fod hyn wedi'i gyflwyno fel blaenoriaeth gan Hywel Dda a'u partneriaid—fod y bwrdd iechyd lleol yn talu am rai elfennau o ofal cymdeithasol i'w alluogi i sicrhau bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty yn gynt. Ymddengys i mi fod hynny'n hollol gadarnhaol, ond nid wyf yn gwybod pam fod angen i ni wneud hynny ar sail arbrofol a pham na all y Gweinidog annog—wel, cyfarwyddo mewn gwirionedd—pob bwrdd iechyd lleol i wneud hyn.

Rwy'n derbyn rhywfaint o'r hyn y mae'r Gweinidog eisoes wedi'i ddweud y prynhawn yma am geisio rhoi help llaw arweiniol cryfach, ond gadewch i ni fod yn glir yma, Lywydd: mae'r Gweinidog yn penodi'r byrddau iechyd lleol, mae'n pennu eu blaenoriaethau, mae'n rhoi eu cyllid iddynt. Roeddwn yma yn y lle hwn a chynorthwyais y Gweinidog ar y pryd i ysgrifennu'r ddeddfwriaeth sy'n ei gwneud yn gwbl glir fod y byrddau iechyd lleol yn atebol iddo. A defnyddiodd y Gweinidog ar y pryd y geiriau hyn, rwy'n credu, yn y Siambr hon: mae'n hollbwysig fod penderfyniadau am iechyd yn cael eu gwneud gan y bobl y gall y bobl eu diswyddo—mewn geiriau eraill, y gwleidyddion.

Pan fydd y Gweinidog wedi dysgu'r gwersi hynny o'r broses drawsnewid—ac nid wyf yn sicr fod angen i ni eu dysgu hwy eto—ond pan fydd wedi dysgu'r gwersi hynny, pa sicrwydd y gall ei roi i ni y prynhawn yma y bydd yn mynnu bod byrddau iechyd lleol a'u partneriaid yn cyflawni'r arferion da y mae prosiectau'r gronfa drawsnewid yn eu nodi? Oherwydd, fel y mae newydd ei ddweud, nid ydym angen mwy o brosiectau bach lleol, ni waeth pa mor llwyddiannus ydynt, os nad yw'r rheini'n gynaliadwy ac yn cael eu cyflwyno.

Wel, pan fyddwn yn sôn am y modd rydym yn trawsnewid ac yn newid y system, nid wyf yn siŵr a oes hanes gwych o lwyddiant yn y sgwrs ynglŷn â phwy sy'n gallu diswyddo pwy. Mewn gwirionedd, nid yw hynny'n cynhyrchu'r math o drawsnewid rydym eisiau ei weld yn y system. Pe bai hynny'n wir—edrychwch ar y system yn Lloegr, lle mae gan brif weithredwyr ymddiriedolaethau acíwt y GIG rychwant oes cyfartalog o lai na dwy flynedd—ac nid dyna'r ffordd o weithredu system. Yn wir, roedd yn ddiddorol iawn clywed—. Roedd Syr Bruce Keogh, yn ei araith ymadael—nid yn yr araith a roddodd tra oedd yn edrych ymlaen at dreulio llawer mwy o flynyddoedd yn y swydd yng nghynhadledd Cydffederasiwn y GIG—pan oedd yn gadael GIG Lloegr, siaradodd am yr her honno, y ffordd y mae arweinyddiaeth, yn y system yn Lloegr, wedi cael ei wneud yn annynol a sut nad yw'n caniatáu i bobl wneud penderfyniadau mwy hirdymor er mwyn darparu'r math o lwybrau i gyflawni'r gwerth y mae pob un ohonom eisiau ei weld. Dyna pam fod sicrhau cynllun iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd mor bwysig. Dyna pam fod y rhaglen drawsnewid mor bwysig—er mwyn cyrraedd y pwynt lle mae gennym fodelau i'w cyflwyno ar raddfa fawr.

Rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â fy nisgwyliadau. Ni fyddwn yn gwneud hyn drwy gyflawni un weithred neu drwy fynd o gwmpas yn bygwth swyddi pobl os nad ydynt yn gwneud yr hyn rwyf eisiau iddynt ei wneud. Nid dyna'r ffordd i sicrhau newid yn y system. Bydd yn gyfuniad o bethau gwahanol yn dibynnu ar lle mae pob partneriaeth arni. Mewn gwahanol rannau o Gymru, maent wedi'u halinio'n well i wneud hynny gyda'i gilydd yn rhywle. Felly, yng Ngwent, gwelwn ymrwymiad go iawn i'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau plant ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy'n credu y byddant yn cael y maen i'r wal. Ni fyddant fy angen i i'w goruchwylio a'u hannog i wneud hynny. Maent eisiau arwain yn yr ardaloedd hynny. Dyna'r newid diwylliannol y mae angen i ni ei gyflawni oherwydd bydd hynny'n llawer mwy effeithiol o ran cyflawni'r canlyniadau y mae hi a minnau a phawb arall yn y Siambr hon yn dymuno eu gweld.

15:10

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ddiweddar, cyhoeddodd WalesOnline stori newyddion yn tynnu sylw at yr anhawster y mae llawer o gleifion yn ei gael i gofrestru gyda deintydd GIG. Roedd y gohebydd newyddion ei hun wedi symud i Gaerfyrddin o Gaint, a phan gafodd broblem ddeintyddol sydyn, canfu fod y deintydd agosaf a oedd yn barod i gynnig apwyntiad yn Llanelli, a oedd yn golygu taith o 50 milltir i gyd. Wrth gwrs, nid yw'r broblem wedi'i chyfyngu i orllewin Cymru. Wrth edrych ar wefan GIG Cymru y bore yma gwelais mai tri deintydd yn unig yng Nghaerdydd sy'n cynnig apwyntiadau GIG. I fod yn deg, mae hynny ychydig yn well na'r hyn oedd y tro diwethaf i mi edrych ym mis Ionawr, pan nad oedd unrhyw ddeintydd yn gwneud hynny. Nid oes unrhyw ddeintyddion yng Nghasnewydd yn derbyn cleifion y GIG ar hyn o bryd, ac os ydych yn byw ym Mrycheiniog a Maesyfed, gallwch ddisgwyl taith hir, gan mai dwy ddeintyddfa yn unig yn yr ardal gyfan sydd ag apwyntiadau ar gael. Pa gamau y gellir eu cymryd i ddatrys y broblem hon?

Mae ymateb y byd deintyddol i 'Cymru Iachach' wedi bod yn galonogol iawn a'r ffaith eu bod eisiau edrych ar hwnnw fel hwb i'r diwygio y maent yn dymuno ei weld ac angen ei sicrhau er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn darparu'r math o wasanaeth y maent eisiau ei ddarparu ac y mae pob un o'n cymunedau yn ei ddisgwyl. Mae heriau o gwmpas y wlad o ran ein capasiti i dderbyn cleifion GIG ychwanegol, ond mewn gwirionedd, mae hynny ynghlwm wrth ddiwygio cytundebol. Felly, ers iddi ddod i'r swydd, mae'r prif swyddog deintyddol wedi sicrhau bod diwygio'n digwydd yn llawer cyflymach o fewn y contract yma na chyn iddi gyrraedd. Rwyf wedi'i hannog ac wedi'i galluogi i wneud hynny, ac mewn gwirionedd, pan welwch y datganiad nesaf ar ein sefyllfa mewn perthynas â deintyddiaeth, credaf y bydd gan Aelodau rywfaint o optimistiaeth ynglŷn â'r dyfodol, ac rwy'n disgwyl gallu cyhoeddi mwy yn yr hydref, yn dibynnu ar y dystiolaeth a gawsom. Bellach, mae gennym nifer fwy o ddeintyddfeydd yn cymryd rhan yn y rhaglen diwygio contractau. Ymhell o fod yn amharod i wneud hynny, fel roedd nifer o ddeintyddfeydd, rydym bellach yn gweld gwahanol bobl yn dangos brwdfrydedd go iawn er mwyn newid y ffordd y maent yn gweithio, oherwydd, mewn gwirionedd, byddai'n well ganddynt gael mwy o gapasiti i wneud y pethau cywir, ac mae hyn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â darparu'r gofal cywir ar yr adeg gywir, yn hytrach na darparu triniaethau nad ydynt yn seiliedig ar dystiolaeth mewn contract sy'n gwobrwyo'r math anghywir o ymddygiad.

Felly, os bydd yr Aelod yn amyneddgar am ychydig bach o amser eto, byddaf yn gallu gwneud datganiad iddo ef ac i'r Aelodau eraill ynglŷn â lle rydym arni a'n disgwyliadau ar gyfer y dyfodol.

Wel, diolch i chi am y rhagadroddiad hwnnw ar yr ailwampio cytundebol. Ac mae'n galonogol eich bod yn edrych ar hyn, ac edrychaf ymlaen at y datganiad yn yr hydref. Nawr, wrth gwrs, ni allaf ragweld yr hyn y bydd y datganiad hwnnw yn ei ddweud, ond os caf dynnu sylw at ychydig o faterion sy'n ymwneud â'r contract—mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn dweud bod recriwtio a chadw deintyddion yng Nghymru wedi bod yn broblem ers peth amser, ac wrth gwrs, mae'r contractau sydd ar waith ar hyn o bryd yn rhan o'r broblem. Maent wedi galw ar Lywodraeth Cymru yn y gorffennol i ddyfeisio system sy'n gwneud Cymru yn wlad fwy deniadol i ddeintyddion weithio ynddi. Mae rhai o'r problemau yn ymwneud â'r targedau anodd mewn perthynas ag unedau gweithgarwch deintyddol y gelwir amdanynt yn awr. Mae gennym system adfachu yn ogystal, lle bydd arian yn cael ei adfachu os byddant yn tangyflawni o fwy na 5 y cant. Felly, mae'r rhain i gyd yn faterion sy'n bwydo i mewn i'r system gytundebol braidd yn anhylaw hon rydych wedi'i nodi. Felly, gwn eich bod yn dweud bod ailwampio ar droed ac y byddwn yn cael datganiad yn yr hydref. Ni wn a allwch wneud unrhyw sylw ar hyn o bryd ar rai o'r problemau rwyf wedi'u crybwyll.

Gallaf. Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn rhanddeiliaid allweddol. Rwy'n cyfarfod â hwy bob blwyddyn. Mae ganddynt fynediad at y prif swyddog deintyddol a'r swyddogion yn ei hadran. Ac rydych yn gywir yn dweud bod unedau gweithgarwch deintyddol, ynghyd â'r contract, yn rhan hanfodol o ddiwygio. Lle rydym yn gweld deintyddfeydd yn manteisio ar gyfleoedd diwygio contractau—mae'n newid y ffordd y maent yn cyflawni eu gwaith, ac mae hynny ynddo'i hun yn gwneud Cymru yn wlad fwy deniadol i ddeintyddion weithio ynddi, ond hefyd y gymysgedd o sgiliau sydd gan bobl, niferoedd y deintyddion, y cynorthwywyr ac eraill a fydd yn gweithio ym mhob un o'r deintyddfeydd hynny. Felly, mae hynny'n bendant yn rhan o'r broses o ddarparu gofal gwell, lle gwell i bobl weithio ynddo, ac mewn gwirionedd, gwell gwerth am yr arian cyhoeddus rydym yn ei fuddsoddi yn y system.

Ydi, mae hynny'n galonogol. Nawr, os gallaf droi'n ôl at fater yr unedau gweithgarwch deintyddol, yn amlwg, bydd hyn i gyd, gobeithio, yn dod yn amlwg yn natganiad yr hydref, ond un broblem gyda'r adfachu yw'r ffaith nad yw'r arian sy'n cael ei gymryd yn ôl gan y deintyddfeydd wedi'i neilltuo ac felly ni fydd o reidrwydd yn cael ei ailfuddsoddi yng ngwasanaeth deintyddol Cymru. Fel y gwyddom o faterion sy'n cael eu trafod yn barhaus yn y Siambr hon, mae gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru yn brin o arian mewn llawer o feysydd, felly y broblem yw bod llawer o'r arian sy'n cael ei adfachu yn cael ei ddefnyddio i lenwi bylchau ariannu mewn meysydd eraill yn system GIG Cymru. Felly, rydym mewn sefyllfa wrthnysig braidd ar hyn o bryd, fel y mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi'i nodi, lle ceir rhestrau aros hir a chleifion yn gorfod teithio milltiroedd lawer i gael archwiliadau, ond ar yr un pryd, mae arian yn cael ei dynnu o'r system ddeintyddiaeth a'i roi i feysydd eraill o fewn y GIG. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn ystyried hynny wrth ailwampio'r contractau.

15:15

Ie. Rwy'n glir iawn ynglŷn â'r ffordd y dylid defnyddio arian sy'n cael ei ddyrannu a'i glustnodi ar gyfer gwasanaethau deintyddol, ac ni ddylid ei defnyddio i lenwi bylchau mewn llinellau cyllideb eraill o ystyried ein bod yn cydnabod bod gennym fwy i'w wneud i ddarparu'r gofal o ansawdd a'r gwasanaethau y mae pob cymuned yng Nghymru, fel rwy'n ei ddweud, yn eu haeddu ac yn eu disgwyl.

Darpariaeth Gofal Cymdeithasol

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru? OAQ53541

Mae 'Cymru Iachach' yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer system iechyd a gofal cymdeithasol ddi-dor. Rydym wedi rhoi fframwaith cyfreithiol cryf ar waith i sicrhau hynny, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a bydd dulliau newydd o gydweithio a datblygu staff yn helpu i wireddu'r weledigaeth honno.

A gaf fi ddiolch i chi am yr ymateb hwnnw? Credaf fod gofal cymdeithasol o ansawdd uchel yn wariant ataliol mewn gwirionedd am ei fod yn atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty yn y pen draw, ac mae hynny'n gallu digwydd os yw'r gofal cymdeithasol o ansawdd gwael neu os nad oes gofal cymdeithasol o gwbl. Beth yw bwriad Llywodraeth Cymru o ran darparu gofal cymdeithasol naill ai'n uniongyrchol gan awdurdodau lleol neu drwy gydweithfeydd gofal?

Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rwyf wedi dechrau trafodaethau cychwynnol gyda llywodraeth leol, y trydydd sector a darparwyr y sector annibynnol ynglŷn â sut i wella sefydlogrwydd y ddarpariaeth gofal a chymorth yng Nghymru. Mae'r trafodaethau hyn ar gam cynnar iawn, ond byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y cynnydd. Ond os caf roi un enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Gydweithredol Cymru ac maent yn paratoi adroddiad a fydd yn cynnwys argymhellion clir a'r camau nesaf ar gyfer parhau i ddatblygu a chryfhau rôl mentrau cydweithredol a chymdeithasol i ddarparu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dyna yw'r prosiect Cydweithredu i Ofalu.

Yma yng Nghymru rydym yn ffodus i gael llawer o oedolion sy'n barod i roi eu hamser yn anhunanol i ddarparu sefydlogrwydd a diogelwch i blant pan fyddant fwyaf o'i angen. Mae'r unigolion hyn yn cynnwys gofalwyr maeth preifat, sy'n gwneud trefniadau preifat gyda rhieni. Nawr, fel y byddwch yn ei wybod, mae gofalwyr maeth preifat a rhieni plant sydd wedi'u lleoli yn gorfod rhoi gwybod i'r adran gwasanaethau cymdeithasol am y trefniadau a wneir er mwyn hyrwyddo diogelwch a lles y plant hynny. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod rhieni maeth preifat, yn dilyn Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) (Cymru) 2006, yn gwybod bod yn rhaid iddynt hysbysu'r awdurdod lleol o leiaf chwe wythnos cyn unrhyw drefniadau arfaethedig ac y bydd yr awdurdod lleol perthnasol yn mynd ati wedyn i drefnu ymweliad gan arolygydd o fewn saith diwrnod gwaith ac yna, yn amlwg, yn llunio'r adroddiad mawr ei angen?

Wel, diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, mae angen cynnwys rhieni maeth preifat yn y rheoliadau hyn y mae newydd eu disgrifio, ond yn amlwg, mae'n bwysig iawn eu bod yn gwybod beth sy'n rhaid iddynt ei wneud. Felly, credaf ei bod yn ddyletswydd ar yr awdurdod lleol i sicrhau bod rhieni maeth preifat yn ymwybodol o'r hyn sydd angen iddynt ei wneud, a'u bod yn sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd, oherwydd mae'n bwysig dros ben bod rhieni maeth preifat yn cael eu rheoleiddio am y rhesymau y mae wedi'u rhoi.

Gweinidog, fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n annerbyniol i ddweud wrth rywun bregus, oedrannus, ffaeledig a thlawd, ond eto rhywun sydd ddim yn cyrraedd y trothwy uchel i dderbyn gofal cyhoeddus wedi asesiad—fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n annerbyniol i ddweud wrth rywun felly, 'Jest talwch am eich gofal yn breifat, neu ewch heb ddim'?

Rwy'n credu y byddai'n rhaid i mi gael mwy o fanylion am yr achos penodol hwn rydych yn ei ddisgrifio cyn gallu rhoi sylw arno. Yn amlwg, mae'n swnio'n ddigwyddiad anffodus iawn, ond buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi manylion yr achos hwnnw i mi er mwyn i mi allu ymateb.

Teithio Llesol

4. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda gweinidogion eraill y Llywodraeth ynghylch rôl teithio llesol o ran hybu iechyd a lles ar gyfer plant a phobl ifanc? OAQ53559

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Mae'r Cabinet wedi trafod ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, i gytuno ar wyth maes blaenoriaeth ar weithgarwch corfforol. Ers hynny, rwyf wedi sefydlu bwrdd gweithredu trawslywodraethol; mynychwyd y cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd gennyf fi a fy nghyd-Aelod, Dafydd Elis-Thomas. Mae amryw o raglenni, megis y filltir ddyddiol, y Gronfa Iach ac Egnïol a theithio llesol i'r ysgol, sy'n ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau.

15:20

Wel, diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n falch eich bod eisoes—. Rydych wedi achub y blaen ar fy nghwestiwn, oherwydd mae rhan o ddarpariaeth Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013—a gyflwynwyd gydag uchelgeisiau clodwiw gan fy nghyd-Aelod yma, John Griffiths, cyn fy amser i—yn nodi y byddai Cymru yn datblygu i fod yn wlad lle mae pobl yn cerdded ac yn beicio fel y dewis mwyaf naturiol, am mai dyna'r ffordd naturiol o deithio o gwmpas. Ond cawsom ddadl yr wythnos diwethaf lle roeddem yn dangos y pellter rhwng y nod clodwiw hwnnw a'r realiti ar lawr gwlad mewn gwirionedd, ac mae llawer o hyn yn ymwneud â gweithio trawslywodraethol. Felly, a all y Gweinidog gofnodi ei ymrwymiad y bydd yn parhau i weithio gyda Gweinidogion eraill y Llywodraeth, gan gynnwys y Gweinidog Addysg, i sicrhau bod teithio llesol i ac o ysgolion yn dod yn rhan allweddol o raglen ysgolion iach Iechyd Cyhoeddus Cymru? Ni fydd hyn yn bwyta i mewn i amser ysgolion, nac unrhyw ddarpariaeth cwricwlwm, a gellir ei wneud yn rhad ac yn dda, fel y gwelsom yn ddiweddar yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol, a gyflwynwyd yng Nghaerdydd ei hun. Felly, a wnaiff ymrwymo i weithio'n drawslywodraethol gyda'r Gweinidog Addysg er mwyn ei ymgorffori'n llawn o fewn y rhaglen ysgolion iach?

Gwnaf, rwy'n fwy na hapus i barhau â'r gwaith y mae Dafydd Elis-Thomas a minnau wedi'i ddechrau gydag amryw o Weinidogion sydd â diddordeb. Ac wrth gwrs, mae gan y Gweinidog Addysg rôl a chylch gwaith penodol mewn perthynas â'r hyn sy'n digwydd o fewn yr ysgol. Mae yna her mewn perthynas â'r hyn sy'n cael ei gynnwys yn y cwricwlwm, yn ogystal â'r diwylliant ehangach o fewn yr ysgol, ond—yn amlwg, gyda'n cyd-Aelod, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn arbennig—i ddeall sut y mae plant yn teithio i ac o'r ysgol yn ogystal. Nawr, nid yw'n ymwneud â theithio i ac o'r ysgol yn unig, mae hefyd yn ymwneud â'n gwaith, er enghraifft, ar ein hymateb i ymgyrch 20's Plenty for Us yn ogystal—y dystiolaeth sy'n bodoli ynglŷn ag a yw terfynau cyflymder yn gwneud gwahaniaeth i barodrwydd pobl i deithio i'r ysgol ac i ymgymryd â ffyrdd eraill o deithio i ac o'r ysgol, a'u gweithle a theithio o gwmpas yn gymdeithasol yn ogystal. Felly, mae gennyf ddiddordeb mewn amrywiaeth eang o weithgareddau i sbarduno newidiadau sylfaenol yn y ffordd rydym yn symud a'r canlyniadau iechyd yma yng Nghymru hefyd mewn gwirionedd.

Weinidog, mae'n galonogol clywed sut rydych yn siarad â'ch cyd-Aelodau, oherwydd ymddengys i mi fod hwn yn faes sy'n berthnasol i fethodoleg Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, oherwydd, yn amlwg, gallwch wella iechyd. Os ydym yn gwneud hynny, y peth allweddol arall yw ein bod yn gwella'r amgylchedd, oherwydd mae hebrwng plant i'r ysgol ac oddi yno yn rhywbeth a ddechreuodd fynd yn arfer go iawn yn y 1990au mewn gwirionedd. Wrth gwrs, nid oes gan rai ohonom o'r genhedlaeth hŷn unrhyw syniad am y peth. Mae faint o draffig sy'n deillio o'r ffaith bod rhieni'n hebrwng plant a phobl ifanc i'r ysgol ac oddi yno yn fy rhyfeddu o hyd. Sylwais ar brotest ragorol y tu allan i'r Senedd—yn anffodus, nid ar ddiwrnod pan oeddem yn cyfarfod—gan bobl ifanc a oedd yn galw am fwy o weithredu. Un peth y gallant alw amdano yw diwedd ar hebrwng plant i'r ysgol ac oddi yno. Credaf fod hwnnw'n un peth go iawn a fyddai'n helpu i wella'r sefyllfa. A dyna'r math o her rydym ei hangen yn fawr yn y system yn awr.

Rwy'n cydnabod yn llwyr y pwynt rydych yn ei wneud ac ym myd gwleidyddiaeth, rwy'n ifanc—yn y byd go iawn rwy'n ddyn canol oed—ac felly rwy'n cofio mynd i'r ysgol a'r ffordd arferol oedd mai cerdded fyddai pobl, a byddech yn mynd ar y bws i'r ysgol os oedd eich ysgol yn bellach i ffwrdd. Ychydig iawn o geir a oedd o amgylch yr ysgol gynradd a fynychwn, ac eto, mae nifer sylweddol o deithiau byr i ac o'r ysgol yn y rhan fwyaf o fy etholaeth ac yn y rhan fwyaf o etholaethau eraill. Fel arfer rwy'n cerdded, ac weithiau'n cario fy mab i'r ysgol yn y pen draw, ond nid yw'n arferol i ni deithio i'r ysgol yn y car. Mae yna her ynglŷn â'r ffordd rydym yn ailnormaleiddio ymddygiad, ac unwaith eto, yr her ynglŷn â pheidio â bod eisiau beirniadu pobl, oherwydd mewn gwirionedd, nid yw hynny'n eu helpu i gymryd rhan, ond yn hytrach sut y gallwn ei gwneud yn haws i bobl wneud y daith honno'n un arferol heb gymorth car. 

Roeddwn yn falch iawn o gymryd rhan yn ymchwiliad diweddar y pwyllgor iechyd i gynyddu gweithgarwch corfforol ymysg pobl ifanc, ac rwy'n edrych ymlaen at edrych yn fwy manwl ar yr adroddiad y bûm yn galw am ei gael. Ond un o'r pethau allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad hwnnw oedd yr angen i hybu teithio llesol ymysg plant. Ac rwy'n falch hefyd eich bod yn siarad â chyd-Aelodau eraill yn y Llywodraeth ynglŷn â'r hyn y gellir ei wneud, ond wrth gwrs, mae'r hyn rydych yn sôn amdano'n hollbwysig yma. Mae angen i ni sicrhau cydweithrediad, yn ogystal â chyd-gyllidebu, rwy'n credu, rhwng adrannau'r Llywodraeth. A allwch ein sicrhau eich bod yn symud oddi wrth yr hyn y gellid ei alw'n weithio mewn seilos, er mwyn dod o hyd i ffyrdd o gyd-ariannu cynlluniau sydd â manteision ar draws adrannau?

15:25

Wel, mae pob adran angen meddwl, nid yn unig am ei blaenoriaethau unigol ei hun, ond blaenoriaethau'r Llywodraeth mewn gwirionedd, ac mewn nifer o'r meysydd—un enghraifft yn unig yw hon—mae'r hyn sy'n flaenoriaeth Llywodraeth gyda Gweinidog arweiniol yn galw am gydweithrediad nifer o bobl eraill i'w gwireddu. Dyna'n union rydym yn ceisio'i wneud. Wrth gwrs, byddaf yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn briodol ac yn llawn maes o law, ac fe gawn weld a fydd y lle hwn yn neilltuo amser ar gyfer dadl yn y Siambr hefyd.

Cyfraddau Bwydo ar y Fron

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraddau bwydo ar y fron? OAQ53582

Er bod y cyfraddau yng Nghymru wedi parhau'n sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynyddu nifer y mamau sy'n bwydo ar y fron. Sefydlwyd rhaglen waith genedlaethol, sy'n cynnwys clinigwyr, arweinwyr gwasanaethau, Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid eraill, yn cynnwys, wrth gwrs, menywod eu hunain, gan ganolbwyntio ar wella cyfraddau bwydo ar y fron mewn lleoliadau mamolaeth a blynyddoedd cynnar.

O'ch atebion blaenorol, rwy'n derbyn eich bod yn llawn ddeall pwysigrwydd bwydo ar y fron i iechyd hirdymor y fam a'r babi, ond rydym yn dechrau o sylfaen isel, onid ydym, gan mai 71 y cant o famau yng Nghymru sy'n dechrau bwydo ar y fron o gymharu ag 83 y cant yn Lloegr. A gwyddom mai 1 y cant yn unig o famau sy'n bwydo ar y fron yn unig am chwe mis yng Nghymru. Ac rwy'n credu mai'r hyn roeddwn eisiau ei archwilio gyda chi yn awr yw'r ffactorau cymdeithasol sy'n rhwystro menywod rhag bwydo ar y fron, oherwydd nid yw'n ymwneud yn unig â sicrhau eu bod yn cael y cymorth proffesiynol gorau; mae'n ymwneud â sicrhau eu bod yn cael cymorth gan eu teuluoedd a'r gymuned ehangach.

Rwy'n cofio'n glir yr ymchwil a gyflwynwyd yn y Cynulliad rai blynyddoedd yn ôl gan Brifysgol Caerdydd a oedd wedi gwneud gwaith ymchwil mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf yng Nghasnewydd, ynglŷn â gwrthwynebiad aelodau o'r teulu, yn ogystal â'r cyhoedd, pan oedd pobl yn ymdrechu i fwydo ar y fron mewn caffi neu fwyty. Ac rwy'n falch o weld bod Casnewydd bellach wedi sefydlu cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Casnewydd, sy'n mynd i'r afael â'r gwaith o sicrhau bod pobl yn deall bod hwn yn weithgaredd hollol normal. Felly, tybed a allech ddweud wrthym, ers i'r cynllun hwnnw gael ei lansio flwyddyn yn ôl, pa mor llwyddiannus y mae wedi bod, a oes unrhyw arwydd o welliant yn y cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghasnewydd, ac a oes unrhyw gynlluniau i ymestyn y cynllun ledled Cymru fel y gallwn sicrhau bod pob safle sy'n gweini bwyd yn croesawu mamau sy'n bwydo ar y fron.

Ni allaf roi ffigurau i chi mewn perthynas â chanlyniadau prosiect Casnewydd, ond rwy'n hapus i edrych arno. Rwy'n sylweddoli bod hwnnw'n fater a godwyd yn y Siambr gan ein cyd-Aelod, Jayne Bryant. Ond mewn llawer o ffyrdd, credaf mai'r term pwysicaf a ddefnyddiwyd yno oedd 'normal', ac mae bwydo ar y fron yn normal a'r her yw ei fod wedi cael ei ddadnormaleiddio mewn llawer o sefyllfaoedd. Nawr, mae hynny'n rhan o'r her sy'n ein hwynebu, rydych yn iawn, i sicrhau bod rhieni, y teulu ehangach, ffrindiau, gwaith a lleoliadau cymdeithasol yn gweld hyn am yr hyn ydyw, sef gweithgaredd hollol normal ac un rydym eisiau ei annog a'i ailnormaleiddio mewn ardaloedd lle nad yw'n cael ei ystyried felly. Ond yn fwy na hynny, bydd gennyf fwy i'w ddweud am y gwaith rydym yn ei wneud o fewn y Llywodraeth. Rwy'n bwriadu cyhoeddi rhai o'n hadroddiadau a'n hargymhellion a ddaw i law ym mis Mai neu ym mis Mehefin eleni, ond ar y pwynt penodol am Gasnewydd, rwy'n hapus i edrych arno a dod yn ôl i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi os ceir canfyddiadau cynnar a fyddai o gymorth i ni gyda'n gwaith yn genedlaethol.FootnoteLink

Mae bwydo ar y fron yn destun ymgyrchu hollbwysig y dylai Llywodraeth Cymru ei hyrwyddo ymhlith yr holl famau babanod newydd-anedig. Rwyf eisiau ymuno â'r ymgyrch honno—mae fy ngwraig, cyn-fydwraig, yn amlwg yn ymwybodol o fanteision bwydo ar y fron. Ond un peth nad oes gennym yw gweithlu o fydwragedd yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf sydd wedi'i staffio'n llawn i helpu mamau beichiog. Gwyddom fod Cwm Taf wedi cael problemau; gwyddom mai Cwm Taf sydd â'r gyfradd isaf o famau'n bwydo ar y fron o holl ardaloedd y byrddau iechyd. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni heddiw, Weinidog, o ran beth fydd y trefniadau staffio ymhlith bydwragedd yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf yng ngoleuni sylwadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddoe? Oherwydd, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae yna fylchau a swyddi gwag o hyd, a gallwn siarad faint a fynnom am y pethau cadarnhaol mewn perthynas â bwydo ar y fron, ond os nad oes gennych fydwragedd ar waith, ni fydd y cymorth sydd ei angen ar famau beichiog ar gael iddynt.

Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, yn dilyn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn dilyn yr arolygiadau dirybudd a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ym mis Hydref y llynedd. Cymerwyd rhai camau gweithredu ar unwaith ac maent wedi recriwtio mwy o staff i'r gwasanaeth bydwreigiaeth yng Nghwm Taf. Ac mae'n bwysig cydnabod nad yw hyn yn ymwneud yn unig â'r adeg pan fo mamau'n rhoi genedigaeth, mae'n ymwneud â'r anogaeth a'r cymorth a roddir iddynt ymlaen llaw mewn gwirionedd. Ac unwaith eto, mae bydwragedd yn rhan bwysig iawn o hynny. Ond mewn gwirionedd, mae nifer o ffactorau eraill yn dylanwadu ar nifer y mamau sy'n barod i ddechrau, a pharhau, i fwydo ar y fron hefyd. Felly mae'n ymwneud â'r modd y mae gwahanol rannau o'n system yn gweithio gyda'i gilydd, yn ogystal â ffactorau cymdeithasol, fel y dywedais. Gallaf ddweud fy mod yn disgwyl y bydd Cwm Taf yn cydymffurfio â Birthrate Plus—bydd ganddynt y nifer gywir o fydwragedd, ar gyfer y genedigaethau a ddisgwylir, i allu gwneud eu gwaith, o fewn y gymuned ac o fewn y ffordd rydym yn aildrefnu lleoliadau bydwreigiaeth a mamolaeth yn ogystal.

15:30
Niwmoconiosis

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddefnyddio arfau diagnostig i asesu glowyr am arwyddion o niwmoconiosis? OAQ53554

Mae pobl sy'n dioddef o niwmoconiosis y glowyr yn gallu cael mynediad at brofion perthnasol, fel prawf gweithrediad yr ysgyfaint, pelydr-x o'r frest, a sgan CT lle bo'n briodol. Mae gwaith pwysig yn cael ei wneud hefyd drwy'r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd anadlol, i wella gwasanaethau anadlol yng Nghymru yn fwy cyffredinol.

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Mae cyn-löwr wedi cysylltu â fy swyddfa i fynegi pryderon y gall pobl fod yn dioddef o niwmoconiosis yn ddiarwybod iddynt oherwydd gweithdrefnau diagnostig hen ffasiwn, ac y gall fod yn anodd gwneud diagnosis o niwmoconiosis oherwydd bod y symptomau sy'n gysylltiedig ag ef, fel pesychu a thrafferthion anadlu, yn gallu bod yn arwydd o amrywiaeth eang o anhwylderau. Y cam gweithredu arferol ar gyfer achosion tybiedig yw trefnu pelydr-x ar gyfer y claf. Fodd bynnag, nid yw pelydr-x ond yn tueddu i ddal niwmoconiosis cyfnod hwyr, ac mae modd i achosion cyfnod cynnar fynd heb eu canfod. Mae cyn-lowyr yn wynebu anghyfiawnder mewn sawl ffordd; y lleiaf y maent yn ei haeddu yw'r tawelwch meddwl eu bod yn cael y cyfle gorau posibl i drin yr afiechyd creulon hwn. Sgan CT yw'r arf diagnostig mwyaf effeithiol. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ddarparu sganiau CT fel yr arf diagnostig diofyn ar gyfer cyn-lowyr, sy'n wynebu risg uchel o ddioddef o glefyd y llwch, fel y gelwir niwmoconiosis y glowyr yn aml?

Buaswn yn disgwyl defnydd priodol o arfau diagnostig, yn hytrach na dweud, 'Mae rhywun yn gyn-löwr, felly byddant yn cael sgan CT'. Mae'n ymwneud â deall y symptomau sydd ganddynt. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae niwmoconiosis yn asymptomatig ar y camau cynnar—gall gymryd peth amser, yn dibynnu ar y person a'u cyfansoddiad, o ran pryd y bydd symptomau'n ymddangos, a sut y digwydd hynny. Ac rydych yn gywir yn dweud nad yw rhai mathau o sganiau'n briodol, ac nad ydynt yn dal niwmoconiosis yn y cyfnod cynnar. Mewn gwirionedd, dyna pam fod y rhaglen wella anadlol, sy'n cael ei harwain gan glinigwyr, mor bwysig i ddeall y sylfaen dystiolaeth mewn perthynas â'r driniaeth gywir, y diagnosis cywir, ac ar ba bwynt. Felly, mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sicrhau'r sylfaen dystiolaeth honno. Ac yn bwysicach, mae hwn yn faes lle mae clinigwyr eu hunain yn dod i gonsensws. Ac mae yna arweiniad gwirioneddol o fewn y gwasanaeth iechyd, nid oherwydd bod gwleidydd wedi galw amdano, ond oherwydd eu bod yn cydnabod bod yna ffordd well o ddefnyddio adnoddau, ffordd well o wella'r gwaith y maent yn ei wneud, ac yn hollbwysig, ffordd well o wella'r gofal y maent yn ei ddarparu i bobl ym mhob rhan o'r wlad.

Salwch yn Ne Cymru

7. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal salwch yn ne Cymru? OAQ53544

Mae gwella iechyd pawb yn un o uchelgeisiau canolog 'Ffyniant i Bawb' a 'Cymru Iachach'. Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, yn gweithio i gyflawni ein blaenoriaethau i wella iechyd y boblogaeth. Mae cymorth ar gyfer ymyriadau wedi'u targedu, i annog ffyrdd iachach o fyw, yn ganolog i hyn.

Diolch i chi am hynny, Weinidog. Fel y clywsom yn gynharach, ysmygu yw prif achos marwolaeth ataliadwy ac anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru o hyd. A dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae cyfradd y cynnydd o ran lleihau cyfraddau ysmygu wedi arafu'n fawr. Un ffordd effeithiol o ostwng cyfraddau ysmygu, yn arbennig mewn ardaloedd mwy difreintiedig efallai, yw camau gweithredu cymunedol i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu. A wnewch chi ystyried cynnwys y camau gweithredu cymunedol hyn yn y cynlluniau trawsnewid iechyd gwerth £100 miliwn?

Mae pobl yn gofyn yn rheolaidd sut y gellir defnyddio'r gronfa drawsnewid i gefnogi amrywiaeth wahanol o weithgareddau. Credaf fod hwn yn fater iechyd cyhoeddus uniongyrchol, a sut y gallwn helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu, sut y mae gennym negeseuon iachach ynglŷn â pheidio â dechrau ysmygu yn y lle cyntaf, a sut rydym yn helpu pobl i ysmygu llai ac yna i roi'r gorau i ysmygu hefyd. Ein gweledigaeth yw cael cymdeithas ddi-fwg, a cheir camau amrywiol i gyrraedd y pwynt hwnnw. Mae gennyf ddiddordeb, fel y dywedais mewn ateb i gwestiynau cynharach, yn y sylfaen dystiolaeth o ran beth yw'r gwasanaeth mwyaf effeithiol ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu, a beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gael y sgwrs am ysmygu, a'r effaith y mae hynny'n ei chael, nid yn unig ar y person sy'n ysmygu, ond y bobl o'u cwmpas, er mwyn ceisio darbwyllo mwy a mwy o bobl i weithredu ac i roi'r gorau iddi. Yna mae'n ymwneud â sut y gallwn helpu pobl. Ac wrth gwrs, mae'n gwbl briodol eich bod yn gofyn eich cwestiwn heddiw, a hithau'n Ddiwrnod Dim Smygu, fel y nodais yn gynharach.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Parlys yr Ymennydd

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau i bobl â pharlys yr ymennydd? OAQ53573

15:35

Mae ein cynllun cyflyrau niwrolegol yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y rheini sy'n dioddef o unrhyw fath o gyflwr niwrolegol yn cael mynediad amserol at lwybrau gofal o ansawdd uchel ni waeth ble maent yn byw a ph'un a ydynt yn cael eu darparu mewn ysbytai neu leoliadau cymunedol.

Diolch i chi am hynny. Yr wythnos diwethaf, cefais y pleser o gynnal digwyddiad i lansio cofrestr parlys yr ymennydd Cymru yn y Senedd. Bydd y gofrestr, sef y gofrestr genedlaethol gyntaf ym Mhrydain, yn cofnodi symptomau, asesiadau a gofal parhaus ar gyfer pobl sy'n byw gyda pharlys yr ymennydd wedi'u casglu gan weithwyr iechyd proffesiynol a'u storio'n ddienw ar systemau'r GIG. Bydd yn bosibl defnyddio'r rhain wedyn i wneud newidiadau cynaliadwy hirdymor yn y ddarpariaeth o wasanaethau, ac i wneud gwahaniaeth clinigol go iawn, gyda gwell dealltwriaeth o'r boblogaeth o bobl sydd â pharlys yr ymennydd a gallu i gynllunio ar gyfer y gwasanaethau cywir yn y lle cywir, gan ddechrau fel cynllun peilot ym Mhowys, cyn ei gyflwyno ledled Cymru. Ond mae'n ddibynnol ar arian elusennol ar hyn o bryd, ac mae'r rhai a greodd y gofrestr wedi dweud y bydd angen ei hintegreiddio'n llawn yn y GIG yng Nghymru er mwyn sicrhau y bydd yn goroesi. O gofio bod Llywodraeth Cymru—chi—wedi dweud eich bod yn cefnogi'r fenter, ac mae hynny wedi'i groesawu'n fawr, pa gamau y gallwch eu hamlinellu o ran y cymorth rydych yn bwriadu ei gynnig i gefnogi'r gofrestr yn y dyfodol?

Cefais gyfle i ymweld â chanolfan Bobath y diwrnod ar ôl lansiad y gofrestr ac roedd yn rhan o'r trafodaethau a gawsom. Felly, mae gennyf ddiddordeb yn y sylfaen dystiolaeth a gynhyrchir o'r gwaith ym Mhowys, ac mae'r ymgysylltiad a fu ag amrywiaeth o wahanol bobl wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth geisio creu hynny yn y lle cyntaf, oherwydd rhan o'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau nad ydym, wrth greu rhywbeth i ddechrau, yn ei greu mewn ffordd sy'n ei wneud yn anghydnaws â'r ffordd rydych yn darparu gweddill y gwasanaethau iechyd a gofal. Dyna pam y maent yn ceisio sicrhau ei fod yn gydnaws â system wybodaeth gofal cymunedol Cymru, a elwir yn WCCIS. Felly, mae hynny wedi bod yn ddefnyddiol iawn.

Wrth i ni ddysgu mwy am y prosiect sy'n dechrau ym Mhowys, bydd gennym ddealltwriaeth, nid yn unig o'r manteision, i wneud yn siŵr ei fod wedi'i integreiddio'n briodol o ran y ffordd rydym eisiau darparu iechyd a gofal, ond hefyd ddealltwriaeth o'r dewisiadau, os ydym am ei gyflwyno'n llwyddiannus ledled Cymru. Felly, bydd gennym fwy o wybodaeth, ac yna bydd gennym gyfrifoldeb i wneud dewisiadau ynglŷn ag os a sut byddwn yn ei gyflwyno ledled y wlad.

5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg

Eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Sayed.

Diolch. Hoffwn wneud datganiad am effaith bosibl Brexit ar y sefydliadau sy’n rhan o fy mhortffolio fel Cadeirydd y pwyllgor. Rwyf am danlinellu effaith Brexit ar ein diwydiannau creadigol. Os na allwn fanteisio ar y farchnad sengl, a’r gallu i symud nwyddau a llafur yn rhad ac am ddim, bydd hynny’r un mor niweidiol i'r celfyddydau ag ydyw i'n ffermwyr a'n cynhyrchwyr, yn ôl y bobl a wnaeth roi tystiolaeth i ni. Ond mae hyn yn cael llawer llai o sylw yn y wasg. Mae'r diwydiannau creadigol hefyd yn dibynnu'n drwm ar y farchnad sengl, ond nid ydynt yn cael yr un sylw yn y cyfryngau â’r cwmnïau cynhyrchu ceir a chynhyrchu bwyd.

Cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ymchwiliad i effaith Brexit ar y diwydiannau creadigol, y celfyddydau, treftadaeth a'r Gymraeg yn yr hydref y llynedd. Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw at y pryderon a godwyd.

Ymhen pythefnos, byddwn efallai yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac, yn anffodus, nid ydym ddim nes at ddatrys y problemau hyn nag yr oeddem ym mis Hydref pan glywsom gan randdeiliaid a Llywodraeth Cymru. Heddiw, rwyf am dynnu sylw at beryglon Brexit. Mae tair problem benodol, sef: colli arian Ewropeaidd; effeithio ar ein gallu i hyrwyddo Cymru ar lefel ryngwladol; a’r effaith ar gymunedau Cymraeg eu hiaith.

O ran cyllid yr Undeb Ewropeaidd, mae diwydiannau a pherfformwyr creadigol yng Nghymru wedi elwa'n fawr o arian Ewropeaidd. Unwaith y byddwn yn gadael, mae’n bosib na fyddwn yn cael arian drwy gyfrwng rhaglenni fel Ewrop Greadigol, Horizon 2020, Erasmus+ a chronfa datblygu rhanbarthol Ewrop. Byddai hyn yn gadael bwlch enfawr. Er enghraifft, dywedodd Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol, a dwi'n dyfynnu:  

'Mae'r DU yn cael mwy o arian gan raglen Ewrop Greadigol nag unrhyw wlad arall bron. Mae'r effaith wedi gweddnewid y diwydiant mewn nifer o rannau o genhedloedd a rhanbarthau’r DU.'

Mae cyllid yr Undeb Ewropeaidd wedi hybu sector y celfyddydau a threftadaeth a'r diwydiannau creadigol. Mae gwaddol y buddsoddiad hwn i’w weld ar hyd a lled y wlad–yng nghanolfan gelfyddydau Galeri yng Nghaernarfon ac yng nghanolfan gelfyddydau Pontio ym Mangor. Mae consensws yn y Siambr hon fod yn rhaid i Gymru barhau i dderbyn yr un lefel o gyllid ag y byddai wedi'i chael pe bai'r Deyrnas Unedig wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Ers 2017, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi addo y bydd cronfa ffyniant gyffredin i gau’r bwlch hwn, ond nid yw wedi cyhoeddi unrhyw fanylion i egluro sut y bydd yn gweithio. Mae'r ansicrwydd presennol ynghylch cyllid yn y dyfodol yn niweidiol i'n diwydiannau creadigol ac mae’n hanfodol eu bod yn cael mwy o sicrwydd ynglŷn â’r cyllid a fydd ar gael ar ôl i ni adael.

Yn ein hadroddiad, felly, fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fod yn rhan o gynlluniau Ewropeaidd sy'n galluogi’n diwydiannau creadigol i gydweithio ar brosiectau a chystadlu am fusnes yn rhyngwladol. O ran parhau i fod yn rhan o raglen Ewrop Greadigol, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym y byddant yn

'parhau i geisio cadarnhad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch y posibilrwydd hwnnw ac ynghylch sut y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu hwyluso hynny.'

Cawsom ar ddeall bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i ystyried bod yn rhan o gynllun olynol Erasmus+ a'i bod o blaid bod â chysylltiad llawn â rhaglen Horizon 2020. Mae hyn oll yn galonogol ond go brin ei fod yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar ein rhanddeiliaid i gynllunio a buddsoddi i'r dyfodol.

O ran y Gymraeg, fel rhan o'r ymchwiliad, clywsom am fygythiadau i'n cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae cyllid o'r polisi amaethyddol cyffredin yn cefnogi cymunedau gwledig Cymraeg eu hiaith ac mae arian o gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn helpu i greu gwaith yn rhai o'n cymunedau ôl-ddiwydiannol mwyaf difreintiedig.

Bydd unrhyw ddirywiad yn ein heconomïau gwledig yn cael effaith niweidiol ar nifer y siaradwyr Cymraeg, gan beryglu targed y Llywodraeth yma o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn ystod ein hymchwiliad, galwodd Merion Prys Jones, gynt o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, i 'ddiogelu'r iaith Gymraeg' fod yn un o bum egwyddor 'Brexit a’n tir', sef polisi’r Llywodraeth ar gyfer diogelu ardaloedd gwledig Cymru.

Gwnaethom alw ar y Llywodraeth i gyfeirio’n benodol yn y ddogfen hon at gynnal a chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a nodi bod rhoi cefnogaeth ariannol i reolwyr tir er mwyn darparu nwyddau cyhoeddus yn cydnabod bod economïau gwledig cryf yn cadw ein hiaith yn fyw.

Dywedwyd wrthym fod Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi bod yn gohebu â Chomisiynydd y Gymraeg ynglŷn ag ‘effaith bosibl Brexit ar y Gymraeg'. Rwy’n galw ar y Gweinidog i roi mwy o fanylion yma heddiw am y gwaith a wnaed i liniaru effeithiau Brexit ar yr iaith. Ar hyn o bryd, mae angen i’r Llywodraeth ddangos mwy o ymdeimlad o frys yn hynny o beth.

Ar y llwyfan byd-eang, mae aelodaeth yn yr Undeb Ewropeaidd yn galluogi Cymru i barhau i gael sylw ar y llwyfan rhyngwladol, ac mae hynny mor bwysig i'n diwydiannau creadigol sy'n cystadlu'n fyd-eang. Mae'r gallu i gynhyrchu incwm o gynyrchiadau teithiol yn Ewrop yn rhan hanfodol o fodel busnes ein diwydiant creadigol. Er enghraifft, yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cynhyrchodd syrcas NoFitState bron 40 y cant o’i holl drosiant drwy deithio. Clywsom y byddai unrhyw gyfyngiadau ar deithio yn peryglu cynyrchiadau teithiol fel cynyrchiadau Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a cherddorfeydd Prydain. Mae Cerddorfa Baróc yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, sydd wedi’i lleoli yn swydd Rhydychen ers 1985, eisoes wedi symud i Antwerp oherwydd bod colli’r rhyddid i symud yn golygu na allant fforddio gwario arian prin ar y gwaith papur sy'n ofynnol i gerddorion berfformio ar y ddwy ochr i’r sianel. Mae hwnnw'n newyddion trist, iawn, iawn.

Bydd yn anodd i gynyrchiadau Cymru gystadlu'n rhyngwladol os na fyddwn yn parhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl yn ôl y dystiolaeth y gwnaethom ni ei chael yn y pwyllgor. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad i gynnal asesiad o’r manteision 'meddal' sydd ynghlwm wrth fod yn aelod o bartneriaethau Ewropeaidd ac i archwilio cyfleoedd i barhau i fod yn rhan ohonynt. Mae'r rhain yn ddefnyddiol iawn i'n sefydliadau diwylliannol er mwyn, er enghraifft, cael a chyfnewid gwybodaeth, cryfhau ymchwil academaidd, datblygu cyfleoedd busnes cydweithredol, a gwella proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

Os bydd Cymru yn colli ei llwyfan rhyngwladol fel un o gasgliad o wledydd bach yn yr Undeb Ewropeaidd, bydd yn rhaid iddi weithio'n galetach am gydnabyddiaeth yn y dyfodol. Rydym yn arloesi’n ddiwylliannol ac yn elwa'n fawr o’r gallu i ddangos yr hyn rydym yn ei gyflawni a rhannu cyfleoedd dysgu fel aelodau o rwydweithiau Ewropeaidd anffurfiol.

Gwyddom mai Brexit fydd y sioc ariannol fwyaf y bydd y wlad hon yn ei hwynebu yn ystod fy oes i. Bydd ein cymuned greadigol a diwylliannol yn dioddef lawn cymaint â busnesau eraill. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu â mwy o frys i sicrhau eu bod yn paratoi ym mhob ffordd i leihau'r effaith.

Dwi eisiau cloi gan ddiolch o flaen llaw i Aelodau sydd am ofyn cwestiynau, ond i sicrhau ei bod hi'n bwysig bod y celfyddydau yn cael y parch o drafodaeth fel hyn yng nghyd-destun Brexit—efallai trafodaeth sydd ddim wedi digwydd yn ddigon aml hyd yn hyn.

15:45

Diolch i'r Cadeirydd am wneud y datganiad ac am godi'r materion pwysig hyn; hoffwn dynnu sylw'r Gweinidog at ddau fater, os caf. Y cyntaf yw sut y bydd rhwydweithiau amrywiol yn gweithredu: Ewrop Greadigol, Horizon 2020, Erasmus+ ac agweddau ar gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop a ddefnyddiwyd ar gyfer prosiectau cymunedol a chreadigol. Mae'r rhwydweithiau hyn—pob un ohonynt, rwy'n credu, ond yn sicr y rhan fwyaf ohonynt—yn agored i drydydd partïon, ac rydym wedi clywed yn gyson fod sefydliadau eisiau aros yn rhan o'r rhaglenni hyn fel y byddent yn cael manteision y rhwydwaith. Nawr, wrth gwrs, bydd cost i hyn, gan na chaniateir i drydydd parti sy'n cymryd rhan geisio am fwy na'r hyn a roddir i mewn neu lai. Felly, dros amser, yn amlwg, byddwn yn cael llai allan. Ar hyn o bryd, o ran Ewrop Greadigol, credaf fod y DU, ar gyfartaledd, yn cael mwy nag unrhyw wladwriaeth arall yn Ewrop yn ôl pob tebyg, neu'n agos at hynny. Felly, gwyddom y bydd newidiadau mawr. Ond eto, mae angen i ni ddewis y rhaglenni rydym eisiau bod yn rhan ohonynt oherwydd y manteision o ran y rhwydwaith creadigol, a chyfiawnhau hynny i'r cyhoedd o ran gwerth am arian. Felly, dyna'r pwynt cyntaf rwyf eisiau ei wneud.

Yr ail bwynt: credaf fod y cwestiwn ynglŷn â sut y bydd y Gymraeg yn parhau i gael ei chefnogi, yn enwedig yn yr ardaloedd cymunedol lle mae'n dal i fod yn iaith gymunedol, yn allweddol. Nid oes gennym—. Yn ystod fy oes i, mae'r rhannau hynny o Gymru sydd â dros 50 y cant o siaradwyr Cymraeg, a'r rheini sydd â dros 75 y cant o siaradwyr Cymraeg, wedi crebachu'n helaeth, ac mae'n bryder gwirioneddol. Mae ffermio da byw yn ddiwydiant mawr yn yr ardaloedd lle mae'r mwyafrif yn dal i siarad Cymraeg. Rydym wedi clywed heddiw y bydd y strwythur tariff 'dim cytundeb' yn debygol o olygu na fydd unrhyw dollau pellach ar gig oen, neu o leiaf y rhai sy'n bodoli ar hyn o bryd, felly mae hwnnw'n newyddion da, ond bydd tariff ar gig eidion. Nid yw lawn mor uchel ag yr oeddem yn ei ofni i ddechrau, ond mae'n dal i fod yn sylweddol, a gall hyn effeithio ar ein heconomïau gwledig. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cofio hynny hefyd, pan fyddwn yn ceisio gweithio drwy ganlyniadau'r ergydion hyn i gymunedau Cymraeg eu hiaith ac yna addasu rhaglenni amrywiol fel y gallwn o leiaf liniaru'r costau hynny a'u cadw cyn lleied ag y bo modd. Ond wyddoch chi, mae'n rhan o'n gwaith cynllunio strategol o ran diogelu a hyrwyddo'r Gymraeg.

Dwi'n credu bod y rhan fwyaf o'r hyn roedd David Melding yn ei godi yn apelio at y Gweinidog, a dwi'n siŵr bod y Gweinidog wedi clywed yn glir. Dwi'n cytuno o ran y projectau creadigol, Creative Europe, a'n bod ni'n dewis a dethol rhwydweithiau. Mae'n siomedig ein bod ni'n gorfod dod i'r pwynt lle byddwn ni'n dewis a dethol rhwydweithiau byddwn ni'n rhan ohonynt, ond mae'n bwysig ein bod ni'n cael strategaeth yn hynny o beth, i sicrhau bod Cymru yn gallu parhau gyda'r partneriaethau hynny.

Ac yn sicr, gyda'r iaith Gymraeg, ar ben pob sialens arall mae Cymru wledig yn ei gael, mae'r sialens wedyn o ran yr iaith. Dwi'n credu beth sydd yn bwysig yw ein bod ni'n cael y cyfleon, drwy'r prifysgolion, i sicrhau bod rhai o'r rhwydweithiau hynny yn parhau. Yn sicr, mae gan Brifysgol Aberystwyth gyfleon amrywiol i fynd i wledydd fel Gwlad y Basg, a byddwn ni'n mynd yna cyn hir, i allu datblygu'r sgiliau ieithyddol hynny sydd yn bwysig inni fel gwlad ac fel gwlad sydd ag USP o ran yr iaith Gymraeg.

15:50

Rwy'n codi hefyd i siarad fel aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ac roeddwn hefyd yn falch o gyfrannu at yr ymchwiliad byr hwn i effaith Brexit ar ein diwydiannau creadigol, y celfyddydau a sefydliadau treftadaeth yng Nghymru, a'r iaith Gymraeg. Hoffwn gytuno â'r materion sylweddol a godwyd heddiw gan y Cadeirydd a thrwy gydol yr ymchwiliad.

Felly, bydd colli rhyddid i symud yn hynod o niweidiol, fel y gwyddom, i'n cerddorfeydd, ein bale, ein hopera a'n cwmnïau teithiol llai, gan gynnwys argaeledd a mynediad ein pobl ifanc at y Gerddorfa Ieuenctid Ewropeaidd. Mae'n dal i fod yn aneglur iawn ar y cam hwyr hwn pa gytundeb y cytunir arni, os ceir cytundeb o gwbl.

Hoffwn gyfeirio at rai o fy mhryderon gwirioneddol ynglŷn â'r peryglon y rhagwelir y byddant yn wynebu sector treftadaeth a chelfyddydau Cymru a'n diwydiannau creadigol rhyngwladol. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod hwn yn faes sy'n agos at fy nghalon hefyd, felly, Ddirprwy Lywydd, nid yw dweud hyn yn rhoi unrhyw bleser i mi: mae negodiadau'r Prif Weinidog May yn hynod niweidiol ac yn gam tuag yn ôl ym mywyd diwylliannol Cymru. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi amcangyfrif bod ein sefydliadau celfyddydol yng Nghymru wedi derbyn £18 miliwn o'r gronfa strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd yn y cylch ariannu diwethaf yn unig, ac mae hwn yn arian i economi Cymru, mae'n arian i sector y celfyddydau yng Nghymru, ac mae'n arian i fusnesau Cymru.

Rwy'n croesawu safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru, fel y'i nodwyd yn y papur polisi 'Diogelu Dyfodol Cymru'. I ddyfynnu ohono:

'Yn ystod ymgyrch y refferendwm, sicrhawyd pleidleiswyr na fyddai Cymru ar ei cholled wrth ymadael â’r UE, ac mae’n hanfodol anrhydeddu’r addewid hwn er mwyn cadw hyder y cyhoedd yn y broses wleidyddol.'

Ac ni fu hynny erioed yn bwysicach. Mae Cymru, fel y nodwyd, yn elwa'n anfesuradwy o Horizon 2020, Erasmus+, Ewrop Greadigol, rhaglen Iwerddon-Cymru, a llawer iawn mwy sy'n sicrhau budd i'n pobl iau, ein cymunedau hŷn a'n heconomïau ledled Cymru. Cytunaf yn gryf â Bethan Sayed mai'r consensws yn y Cynulliad hwn yw bod yn rhaid i Gymru barhau i dderbyn pob ceiniog a phob lefel o gyllid y byddai wedi'u derbyn pe bai'r DU wedi aros yn yr UE. Mae'n rhaid i'r gronfa ffyniant gyffredin anrhydeddu'r ymrwymiad hwnnw. Mae'r bygythiadau i sector diwylliannol Cymru yn glir, ond yr hyn rwyf eisiau ei danlinellu yw bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi chwarae rhan hanfodol a chanolog yn y gwaith o dynnu sylw at y pryderon hyn ac wedi rhoi pwysau uniongyrchol ar Lywodraeth Dorïaidd y DU i gadw eu haddewidion i bobl Cymru.

Felly, os bydd Brexit yn mynd rhagddo mewn un o'r ffyrdd a ragwelir ar hyn o bryd, bydd yn golygu y bydd yn rhaid i Gymru weithio'n galetach fyth i gael ei chydnabod, bydd yn rhaid iddi weithio'n galetach fyth i allforio ein gwaith yn rhyngwladol, a bydd yn rhaid iddi weithio'n galetach fyth i gymryd rhan ar y llwyfan rhyngwladol y mae ein hartistiaid a'n cwmnïau cynhyrchu wedi brwydro mor galed i gael troed arno. Ni ellir disodli eu rhagoriaeth, ac yn olaf, mae'n rhaid iddi weithio'n galetach fyth i ddenu cyllid ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru mewn hinsawdd o doriadau i gyllideb Cymru. Mae hyn yn warthus, a chredaf yn gryf y bydd hyn yn parhau i chwarae rhan ganolog yng ngwaith a thrafodaethau Llywodraeth Cymru wrth i ni symud ymlaen.

Buaswn yn cytuno â phopeth rydych yn ei ddweud, ac rwy'n teimlo eich angerdd. Yn enwedig mewn perthynas â cherddoriaeth, cefais fy synnu wrth ddarllen bod Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain wedi dweud bod 20 y cant o'u cerddorion yn dod o'r UE, a'u bod wedi amlygu'r gost ychwanegol o drefnu fisâu gwaith ar eu cyfer. Felly, os ydym am ei gwneud yn anodd iawn i bobl symud yma, neu i berfformio neu weithio yma, mae hynny'n rhywbeth y dylem i gyd fod yn bryderus yn ei gylch. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn recriwtio hyd at 50 y cant o'i ddawnswyr o Ewrop. Mae'r rhain yn dysgu sgiliau y mae ein dawnswyr yng Nghymru yn eu dysgu, a gallant ddysgu oddi wrthynt a meithrin cysylltiadau gyda hwy yn y dyfodol. Felly, credaf fod yr hyn rydych wedi'i ddweud yn gryf iawn, a gobeithio y bydd eich Gweinidog wedi clywed ac y gall rannu'r pryderon hynny ar lefel y DU, a chydnabod pwysigrwydd datblygiadau a rhwydweithio diwylliannol yma yng Nghymru.

Buaswn yn cytuno i'r carn â'r hyn y mae fy nghyd-Aelod Bethan Sayed wedi'i ddweud. Mae Bethan, ynghyd ag Aelodau ar bob ochr, wedi siarad am yr effaith drychinebus y gallai Brexit ei chael ar y celfyddydau, ar ddiwylliant ac ar dreftadaeth.

Hoffwn edrych ar hyn o'r safbwynt arall, sef y ffordd y mae diffyg sylw a buddsoddiad i'r celfyddydau wedi arwain yn rhannol at Brexit. Yn benodol, hoffwn ystyried y gostyngiad yn niferoedd y disgyblion ysgol uwchradd yng Nghymru sy'n astudio ieithoedd modern, er fy mod yn derbyn bod hyn y tu allan i gwmpas yr ymchwiliad penodol hwn. Rydym wedi gweld gostyngiad o 29 y cant yn nifer y disgyblion sy'n dewis astudio TGAU iaith yng Nghymru yn y pum mlynedd diwethaf, sy'n ostyngiad mwy nag yng ngweddill y DU, a bydd y gostyngiad hwnnw yn cael effaith anochel ar lefelau empathi a pharodrwydd i ddeall diwylliannau eraill, oherwydd pan fyddwn yn dysgu iaith, nid dysgu geiriau yn unig a wnawn, rydym yn dysgu sut i ddangos empathi, i weld y byd drwy lygaid pobl eraill drwy gael golwg uniongyrchol ar sut y mae'r diwylliant hwnnw yn gweld y byd o'u cwmpas.

Mae George Lakoff a Mark Johnson wedi ysgrifennu llyfr am y ffenomen hon o'r enw Metaphors We Live By, ac maent yn tynnu sylw at y modd y mae trosiadau wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn strwythur y ffordd y mynegwn bethau bob dydd. Fy hoff enghraifft yw, yn yr Eidaleg, y ffordd rydych yn dweud 'machlud' yw 'tramonto', ac mae hynny'n llythrennol yn golygu 'rhwng y mynyddoedd', oherwydd mae'r Eidal, ar y cyfan, yn fynyddig iawn, ac maent yn ei ddisgrifio yn union fel y maent yn ei weld. Ieithoedd yw'r ffenestri ar y byd, ac os caewn y llenni arnynt, rydym yn diffodd y golau i gyd. Darllenais Lakoff am y tro cyntaf pan oeddwn yn y brifysgol, a phan oedd fy chwaer, Rhianedd, yn y brifysgol, astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg, a chafodd y fraint aruthrol o fyw dramor am flwyddyn, ac rwyf bob amser wedi bod yn genfigennus iawn o'r ffaith ei bod wedi cael cyfle i wneud hynny. Gwnaeth ffrindiau am oes a siaradai nid un, nid dwy, ond tair, a weithiau pedair iaith, gartref bob dydd.

Oherwydd hynny, mae Plaid Cymru'n credu'n gryf ei bod hi'n hanfodol bod Cymru yn parhau gyda chynllun Erasmus+, beth bynnag sydd yn digwydd yn y dyfodol o ran ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Pan roddodd yr Athro Claire Gorrara o Brifysgol Caerdydd dystiolaeth i'r pwyllgor ar y pwnc hwn, cyn imi ymuno, dywedodd hi ei bod hi'n disgrifio'r cynllun hwn fel un sy'n gwbl greiddiol i les ieithyddol a rhyngddiwylliannol Cymru.

Fe ddisgrifiodd hefyd yr hyn roedd hi'n ei gyfeirio ato fel 'linguaphobia', gan awgrymu bod hyn yn ganlyniad uniongyrchol i'r hinsawdd mae Brexit wedi'i greu. Disgrifiodd y canfyddiad nad yw pobl sydd ddim yn siarad Saesneg, ond sydd yn siarad ieithoedd eraill, yn rhan lawn o'r gymuned. Ac yn sicr rydym yn gweld tystiolaeth anecdotaidd fod pobl yn cael eu sarhau am siarad ieithoedd eraill ar y stryd, yn enwedig trafnidiaeth gyhoeddus a mannau eraill. Fy ngofid i yw y bydd y duedd hon yn parhau.

Fe wnaeth yr Athro Gorrara hefyd dynnu sylw at ymchwil gafodd ei gynnal gan y Cyngor Prydeinig, y British Council, wnaeth ddarganfod fod traean o'r ysgolion wnaeth ymateb yn credu bod Brexit yn cael effaith negyddol ar agweddau rhieni a disgyblion tuag at ieithoedd tramor modern.

Nododd Bethan y byddai Brexit yn creu sioc ariannol fwyaf ein hoes i dreftadaeth a'r celfyddydau, ac rwy'n cytuno gyda hynny, ac i waethygu'r effaith ariannol honno, bydd ein pobl ifanc a'n plant yn tyfu fyny heb gael yr un cyfleoedd ag y mae eraill wedi'u cael, ac mae honno'n sioc fwy sylfaenol i'n henaid fel cenedl. Mae'n peri pryder mawr i mi, mae hwn yn fater sy'n agos at fy nghalon innau hefyd, ac ni wn sut y gallwn ddechrau prosesu'r golled honno hyd yn oed.

15:55

Diolch, Delyth. Credaf fod eich dadansoddiad yn ysbrydoledig iawn yn yr ystyr eich bod wedi edrych ar y mater o safbwynt gwahanol fel Aelod Cynulliad newydd gyda golwg newydd ar yr hyn y gallwn fod yn edrych arno mewn perthynas â'r pwyllgor hwn, mewn perthynas ag ieithoedd modern a cholli'r celfyddydau, a sut y gallai hyn fod wedi arwain at rai o'r materion a arweiniodd at Brexit—lleihau'r ddarpariaeth leol, cau theatrau yn ein cymunedau—a sut y mae hynny wedyn yn arwain at ddiffyg cyfleoedd yn y cyswllt hwnnw, a chredaf eich bod yn gywir yn dweud hynny.

Ac rwy'n credu, o ran cydweithredu, yn ddiwylliannol rhwng ein gwlad a gwledydd eraill, mae pobl ifanc bellach yn cael cyfle i deithio. Gan droi'n ôl at gerddorfeydd, oherwydd fy mod yn gyfarwydd â'r maes, gallwch berfformio mewn gwlad Ewropeaidd fel y gwneuthum innau—euthum i'r Almaen—ac yna maent yn dychwelyd ac rydych yn rhannu'r profiadau hynny, maent yn aros yma, maent yn dod yn rhan o'ch diwylliant am ychydig, ac rydych yn dysgu mwy am y byd. Ac rwy'n credu mai dyna'r broblem y byddwn yn ei hwynebu gyda Brexit, y byddwn yn gweld y byd, efallai, ar lefel fwy arwynebol ac nid yw hynny'n beth da i unrhyw un, oherwydd mae gennym gymaint i'w ddysgu gan wahanol wledydd.

Ond mae'r 'linguaphobia', rwy'n credu, yn rhywbeth sy'n rhaid i ni ei drafod y tu hwnt i'r ymchwiliad pwyllgor penodol hwn hefyd, oherwydd, wyddoch chi, rwy'n siŵr eich bod wedi clywed pobl yn dweud, ac ar y meinciau hyn rydym wedi cael pobl yn dweud weithiau fod arnynt ofn siarad Cymraeg mewn rhai mannau am fod pobl yn dweud wrthynt am beidio â siarad iaith dramor, er mai siarad iaith eu gwlad eu hunain a wnânt. Felly, mae hynny'n gwbl hurt. Ond diolch i chi am roi cipolwg newydd i ni ar gylch gwaith y pwyllgor, ac mae hynny'n rhywbeth, mewn perthynas ag ieithoedd modern, ar gyfer y pwyllgor addysg efallai—nid fy mod eisiau rhoi gwaith i Lynne Neagle fel Cadeirydd—ond mewn perthynas ag ieithoedd modern, mae'n sicr yn fater sy'n cyrraedd pwynt argyfwng ac mae angen mynd i'r afael ag ef.

16:00

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn, ac yn benodol yr adran ar y Gymraeg? Mae'r iaith yn gyfrifoldeb trawsbynciol, wrth gwrs, i'r Llywodraeth, felly efallai fod rhai o'm cwestiynau yn fater i'r Gweinidog yn lle'r Cadeirydd, ond hoffwn i wybod oddi wrth y ddwy ohonoch chi, os yw hynny'n ocê.

Dyw dyfodol yr iaith ddim yn bodoli mewn gwagle, felly rwy'n falch o weld cyfeiriad at amaethyddiaeth a'r gyfran gymharol uchel o bobl sy'n siarad Cymraeg bob dydd yn y sector hwnnw. Cafodd yr iaith gyfeiriad pitw yn 'Brexit a'n tir'. Dylai ei ddarllenwyr ofyn cwestiwn am yr effaith ar yr iaith, heb unrhyw dystiolaeth yn y ddogfen hon yn cael ei darparu. Rwy'n chwilfrydig, felly, i wybod pa sicrwydd roddodd y Gweinidog i'r pwyllgor fod asesiadau effaith ar y Gymraeg yn rhan annatod o broses y Llywodraeth ar gyfer paratoi ar gyfer Brexit, yn enwedig 'no deal' Brexit, achos nid oedd yn amlwg yn y dystiolaeth a roddwyd i bwyllgorau eraill.

Yn benodol, mae'r adroddiad yn cyfeirio at y bygythiad o golli cronfeydd strwythurol yn ardaloedd tlotaf y Gymru Gymraeg, ond mae'r un bygythiad i'r ardaloedd tlotaf o Gymru lle nad yw'r iaith yn gyffredin, ac mae hynny hefyd yn broblem. Dyna'r ardaloedd o Gymru lle rydym yn ceisio cynyddu defnydd o'r iaith, am ei gwerth cynhenid, wrth gwrs, ond hefyd fel sgíl ychwanegol a fydd yn dod yn fwy perthnasol i'r farchnad swyddi, gan gyfrannu at symudedd cymdeithasol ac yn y blaen. Fe glywodd y pwyllgor fod Gweinidog yr economi a Gweinidogion eraill yn ystyried hyn fel rhan o drafodaethau cronfa ffyniant y Deyrnas Unedig, neu'r defnydd o gronfa drosiannol Llywodraeth Cymru. Dwi ddim yn gwybod a yw hwn wedi dod lan, ond os yw e wedi, hoffwn i wybod tipyn bach mwy am hynny.

Rwy’n cytuno'n llwyr â'r gosodiad fod Cymru'n elwa o'r gallu i hyrwyddo ei hun fel cenedl sy'n ystwyth o safbwynt ieithyddol mewn marchnad sy'n fwyfwy byd-eang. Dyma'r meddylfryd y tu ôl i'n polisi ni fel Ceidwadwyr Cymru ar gyfer Cymru dairieithog, a lansiwyd rai blynyddoedd yn ôl, ond sy'n dal i fod yn rhan ganolog o'm meddylfryd i fel llefarydd yr wrthblaid dros addysg. Nodwyd yr egwyddor gyffredinol hynny gan y Gweinidog dros addysg ar y pryd, a daeth yn rhan o bolisi'r Llywodraeth. Felly, hoffwn i gael rhywfaint o sicrwydd, efallai gan y Gweinidog, fod hynny'n parhau i fod yn bolisi i'r Llywodraeth. Diolch. Sori, i'r Gweinidog. Diolch.

Ie, sori. [Chwerthin.] Yn anffodus, nid y Gweinidog, gan ei fod yn ddatganiad gen i, ond mae'r Gweinidog yma. Mae posibiliad, achos bod lot o gwestiynau wedi dod at y Gweinidog gan yr Aelodau, y gallwn ni ysgrifennu ar sail rhai o'r cyfraniadau fan hyn at y Gweinidog. Mae hi'n nodio'i phen yn hapus â hynny. Felly, fe wnawn ni hynny fel canlyniad i'r datganiad yma.

Gallaf ond fynd nôl at beth wnes i ddweud yn y datganiad o ran yr iaith ac amaeth. Dŷn ni wedi gofyn i'r Gweinidog i roi mwy o eglurder i ni o ran effaith posibl Brexit ar y Gymraeg, ac mae yna drafodaethau wedi digwydd gyda chomisiynydd yr iaith, ond mae angen inni ffeindio mas mwy, os yn bosib, gan y Gweinidog ar beth yw natur y trafodaethau hynny. Achos, fel mae Suzy Davies yn ei ddweud, mae hynny’n bwysig iawn, a hefyd, fel dŷch chi'n ei ddweud, ei bod yn rhan o bob rhan o Lywodraeth ac yn cael ei phrif ffrydio mewn i waith Brexit gan bob Gweinidog arall. Dyw e ddim jest yn fater i un Gweinidog; mae'r iaith a'r celfyddydau a threftadaeth yn bwysig, buaswn i'n meddwl, i bob un o'r Gweinidogion yma.

O ran y gronfa ffyniant, dwi ddim yn sicr ein bod ni wedi cael unrhyw fath o lwc hyd yn hyn i wybod beth yn gwmws maen nhw'n mynd i fod yn ei wneud o ran manyldeb hynny. Felly, byddwn ni'n lobio, yn sicr, i sicrhau bod yr iaith yn rhan o unrhyw gronfa ffyniant, ond byddwn i hefyd eisiau cael rhyw fath o reolaeth dros ble mae'r arian hynny'n mynd yma yng Nghymru. Felly, rwy'n gofyn i chi hefyd, fel aelodau o'r Blaid Geidwadol, i fynd yn ôl atyn nhw, mewn pob parch, a dweud ein bod ni angen cael mewnbwn mewn i sut mae hwn yn cael ei wario yng Nghymru, achos mae'r iaith yn rhan gynhenid o'n hecosystem yma, sydd efallai'n wahanol i ardaloedd eraill o Brydain.

Felly, diolch am y cwestiynau, a byddwn ni'n fframio'r rheini i mewn i lythyr i'r Gweinidog dros faterion rhyngwladol er mwyn gallu sicrhau bod y materion yma, sydd efallai ddim yn cael cymaint o fuddsoddiad nac yn cael cymaint o drafodaeth yn y trafodaethau Brexit oll y byddwn ni'n ei hoffi—ond nawr dŷn ni wedi gallu cael y flaenoriaeth yna heddiw. Felly, diolch ichi gyd am y cyfraniadau. 

16:05

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch i Gadeirydd y pwyllgor. 

Cyn inni symud ymlaen i drafod y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru), mae'n bleser gen i gyhoeddi canlyniad y bleidlais gudd ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a bydd yr holl ganlyniadau yn cael eu cyhoeddi. Felly, Janet Finch-Saunders, 25 o bleidleisiau; Mark Isherwood, 14 o bleidleisiau; ac un bleidlais yn ymatal. Dwi'n datgan, felly, fod Janet Finch-Saunders wedi cael ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Llongyfarchiadau i Janet Finch-Saunders.

6. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Mae gwelliannau a nodir ag [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant cofrestradwy o dan Reol Sefydlog 2 neu fuddiant perthnasol o dan Reolau Sefydlog 13 neu 17 wrth gyflwyno’r gwelliant.

Rŷn ni'n symud ymlaen, felly, i'r drafodaeth ar y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). 

Grŵp 1: Iaith sy’n niwtral o ran rhyw (Gwelliannau 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 16, 21)

Mae'r grŵp cyntaf o welliannau i'w trafod yn ymwneud ag iaith sy'n niwtral o ran rhyw. Gwelliant 22 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Llyr Gruffydd.

Cynigiwyd gwelliant 22 (Llyr Gruffydd).

Diolch o galon, Llywydd. Gan mai dyma fy nghyfraniad cyntaf i i'r trafodion heddiw, mi hoffwn i wneud ambell i sylw cyffredinol, gyda'ch caniatad chi, os caf i, ar y cychwyn yn fan hyn. 

Ein nod ni fel pwyllgor, wrth gwrs, yn y Bil hwn yw cryfhau rôl yr ombwdsmon er mwyn amddiffyn y rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni, er mwyn gwella cyfiawnder cymdeithasol, ac er mwyn sicrhau gwelliant o ran gwasanaethau cyhoeddus ac ymdrîn â chwynion. Ar ran y Pwyllgor Cyllid, dwi'n ddiolchgar iawn i'r rheini sydd wedi bod yn barod i ymgysylltu â ni a chyfrannu at ein hystyriaethau ni wrth i'r Bil fynd yn ei flaen. 

Mi hoffwn i ddiolch i holl Aelodau'r Cynulliad, ac yn arbennig aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith craffu ar y Bil hyd yn hyn. Mi oedd y Pwyllgor Cyllid yn falch o allu derbyn bron pob un o'r argymhellion yng Nghyfnod 1, a lle bo angen, wedyn, dwi wedi cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i fynd i'r afael â'r materion hynny a gafodd eu codi. Mi hoffwn i hefyd roi ar gofnod fy niolch i Lywodraeth Cymru am ymgysylltu â ni ac am y modd y maen nhw hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu'r Bil. 

Felly, gan droi at y gwelliannau penodol yn y grŵp cyntaf yma, dwi'n cynnig gwelliant 22 ac yn siarad, wrth gwrs, i'r holl welliannau yn y grŵp yma. 

Yng Nghyfnod 2, mi wnes i gyflwyno gwelliannau i newid yr arddull ddrafftio yn y Bil er mwyn sicrhau bod y termau yn y darpariaethau newydd yn niwtral o ran rhywedd. Roedd y gwelliannau hyn yn berthnasol i'r darpariaethau newydd a oedd yn cael eu mewnosod yn unig, nid i Ddeddf ailddatganedig 2005. Mi wnes i ddweud, os byddai cytundeb am y gwelliannau hynny, mai fy mwriad i wedyn fyddai cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 3, fel bod y Bil cyfan yn niwtral o ran rhywedd, a dyna dwi'n ei wneud yn fan hyn. Felly, mae hyn yn sicrhau bod y darpariaethau newydd a'r darpariaethau ailddatganedig yn bodloni arddull drafftio deddfwriaethol y Cynulliad o beidio â bod yn benodol o ran rhywedd. Ac mi fyddwn i felly'n gofyn i Aelodau i gefnogi hynny trwy gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp yma. 

Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod cyfrifol, Llyr Gruffydd, am y gwelliannau manwl y mae'n eu cynnig heddiw, sy'n gwneud y newidiadau technegol terfynol fydd eu hangen i sicrhau bod y Bil yn gweithredu'n effeithiol.

Rwy'n falch fod y grŵp hwn o welliannau'n gorffen y dasg a ddechreuodd Llyr yng Nghyfnod 2 drwy ddileu terminoleg rhywiau oddi ar wyneb y Bil a sicrhau bod deddfwriaeth yn niwtral o ran rhyw. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau ar y Bil yn ystod y ddadl heddiw, ac rwy'n ddiolchgar am y ffordd y mae Llyr Gruffydd wedi bod yn gydweithredol iawn yn y ffordd y mae wedi mynd ati ar y Bil a buaswn yn cynghori y dylid cefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 22, felly? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 22.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 23 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 23? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 23.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 24 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 24? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 24. 

16:10

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 25 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 25? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 25. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 26 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 26? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 26, felly. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 17.34.

Grŵp 2: Penodi Ombwdsmon (Gwelliannau 44, 45)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 2, ac maen nhw'n ymwneud â phenodi'r ombwdsmon. Gwelliant 44 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Galwaf ar Suzy Davies i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliant yma a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Suzy Davies. 

Cynigiwyd gwelliant 44 (Suzy Davies).

Diolch yn fawr, Lywydd. Cynigiaf welliant 44 ac rwyf am siarad am welliannau 44 a 45. Mae'r ddau ohonynt yn ymwneud â phenodiad yr ombwdsmon a phŵer y Cynulliad i hepgor rhai cyfyngiadau a osodir ar yr ombwdsmon ar ôl gadael y swydd, fel y nodir yn Atodlen 1. Mae gwelliant 44 yn egluro ei bod yn ofynnol i'r Cynulliad bennu telerau ac amodau penodi ombwdsmon neu ombwdsmon dros dro cyn penodi, gan gynnwys tâl. Mae'n debyg y bydd yr Aelodau'n gwybod bod y Cynulliad eisoes yn gyfrifol am osod y telerau ac amodau hynny o dan y Bil, ond mae hynny'n unol â deddfwriaeth 2005. Bydd y gwelliant hwn yn golygu y nodir y rhwymedigaeth i wneud hynny'n amlwg yn y gyfraith bresennol, ac mae ailddatgan y cyfrifoldeb hwn yn cyd-fynd yn dda â chyfeiriad y Llywodraeth ar gydgrynhoi.   

Mae gwelliant 45 yn ymwneud â'r ddarpariaeth yn Atodlen 1 i'r Bil sy'n anghymhwyso ombwdsmon blaenorol neu ombwdsmon dros dro am gyfnod penodedig rhag cael swyddi penodol neu swyddi sy'n gysylltiedig ag awdurdod rhestredig, oni bai fod un o bwyllgorau'r Cynulliad yn cymeradwyo fel arall. Mae'r gwelliant hwn yn newid y cyfeiriad gan bwyllgor y Cynulliad i'r Cynulliad ei hun. Fel y'i cyflwynwyd, dirprwyodd y Bil y pŵer hwn i Gomisiwn y Cynulliad, ac yng Nghyfnod 2 newidiodd yr Aelod cyfrifol hyn i gyfeirio at un o bwyllgorau'r Cynulliad. Ond yn ystod trafodion Cyfnod 2, cydnabu'r Aelod cyfrifol y gellid cyflwyno gwelliant ar ran y Comisiwn yn hyn o beth.  

Nawr, bydd fy ngwelliant 43, a drafodir mewn grŵp yn nes ymlaen, yn darparu er hynny ar gyfer dirprwyo'r swyddogaethau hyn gan y Cynulliad i un o bwyllgorau'r Cynulliad drwy Reolau Sefydlog, os yw'n ystyried bod honno'n ffordd effeithiol o symud ymlaen. Ond rhaid i'r egwyddor sefyll mai mater i'r Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd yw cymryd cyfrifoldeb statudol am unrhyw newid i'r gofynion statudol a wnaed gan y Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd, ac efallai y byddwn yn trafod hynny eto mewn grŵp yn nes ymlaen. Diolch.  

Diolch i chi, Lywydd. Fel y clywsom, mae'r gwelliannau hyn, ynghyd â'r rhai yng ngrwpiau 11 a 12, yn diweddaru'r ffordd y rhoddir pwerau i'r Cynulliad. Mae rhoi pwerau i'r Cynulliad yn ei gyfanrwydd, a gwneud darpariaethau ar gyfer eu dirprwyo i bwyllgor, is-bwyllgor neu Gadeirydd drwy Reolau Sefydlog yn caniatáu hyblygrwydd i'r Cynulliad benderfynu pa lefel yw'r fwyaf priodol i arfer y pwerau arni yn seiliedig ar strwythur presennol pwyllgorau. Bydd hyn yn sicrhau bod darpariaethau'r Bil ombwdsmon yn cyd-fynd â deddfwriaeth arall, megis Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, ac rwy'n hapus i gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn.

Mi fyddaf innau hefyd yn cefnogi'r gwelliannau yma heddiw, fel y byddaf i gyda'r holl welliannau gan Suzy Davies y prynhawn yma. Mae'r gwelliannau yma yn rhoi gwell eglurder i'r darpariaethau yn y Bil ynghylch penodi'r ombwdsman neu'r ombwdsmon dros dro, gan sicrhau bod y Cynulliad yn pennu telerau'r penodiad. Mae hyn, yn fy marn i, yn ffordd synhwyrol o benodi i'r rôl annibynnol bwysig hon.

Os caf fi ddiolch yn fyr i'r rhai a gyfrannodd at y rhan hon o'r ddadl, ac am wrando ar y dadleuon. Rwy'n credu bod yna egwyddor bwysig ynghlwm wrth hyn ac fel y dywedodd y Gweinidog, mae'n sicrhau bod y Bil hwn yn cyd-fynd â Biliau eraill sy'n ceisio gwneud rhywbeth tebyg. Felly, rwy'n ddiolchgar am yr ymateb.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 44? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 44. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 45 (Suzy Davies).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 45? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir, felly, welliant 45. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 27 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 27? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nagoes, felly derbynnir gwelliant 27. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 28 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 28? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 28, felly. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 29 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 29? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir, felly, welliant 29. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 3: Ymchwilio i wasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd: Adennill costau (Gwelliannau 30, 6, 8, 9)

Sy'n dod â ni at grŵp 3 y gwelliannau, ac mae'r gweliannau yma yn ymwneud ag ymchwilio i wasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd a'r costau adennill. Gwelliant 30 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliannau yn y grŵp. 

16:15

Cynigiwyd gwelliant 30 (Llyr Gruffydd).

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 30 ac fe siaradaf am yr holl welliannau yn y grŵp hwn. Nawr, mae gwelliant 30 yn cadarnhau, lle mae'r ombwdsmon wedi adennill costau yr eir iddynt o ganlyniad i rwystr a achosir gan ddarparwr gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd, y gall yr ombwdsmon gadw'r costau a adenillir ac nid oes yn rhaid eu talu i mewn i gronfa gyfunol Cymru. Mae'r ddarpariaeth hon yn debyg i'r ddarpariaeth sy'n bodoli yn y Bil i alluogi ombwdsmon i gadw unrhyw ffioedd a godir gan yr ombwdsmon ar gyfer darparu copïau o adroddiadau. Felly, mae'n darparu mwy o gysondeb.

Mae gwelliant 6 yn diwygio'r croesgyfeiriad yn adran 16, sy'n egluro'n fanwl pa bryd yr ystyrir bod darparwr gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd yn awdurdod rhestredig. Effaith y gwelliant hwn fydd bod darparwr gwasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd, er enghraifft, yn cael copïau o adroddiadau pan fydd ymchwiliad yn ymwneud â'r darparwr. Yn yr un modd, pan gynhelir ymchwiliad i ddarparwr gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd, rhoddir yr un cyfle i'r darparwr wneud sylwadau ar yr ymchwiliad ag a roddir i awdurdod rhestredig.

Mae gwelliannau 8 a 9 yn mewnosod dwy adran newydd, sy'n egluro'r weithdrefn ar gyfer adennill costau penodol gan ddarparwyr gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd. Bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau bod gan yr ombwdsmon ffordd glir ac effeithlon o adennill costau penodol gan ddarparwyr gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd. Mae gwelliant 8 yn ymwneud â sicrhau bod yr ombwdsmon yn gallu adennill costau lle bydd wedi cynnal ymchwiliad i wasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd fel rhan o ymchwiliad i awdurdod rhestredig. Bydd hyn yn cynnwys lle mae darparwr gwasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd wedi rhwystro'r ombwdsmon neu wedi gwneud rhywbeth a fyddai'n ddirmyg llys pe bai'r achos yn yr Uchel Lys. Os yw hyn yn ddigwydd, gall yr ombwdsmon gyflwyno hysbysiad adennill costau ac mae gwelliant 9 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad adennill costau.

Hoffwn eglurhad ar un pwynt, os caf. Er y rhoddir mwy o fanylion ynghylch adennill costau o dan y gwelliannau hyn a bod peth cyfyngu wedi bod ar y cwmpas a'r amgylchiadau lle gall darparwr gofal iechyd osgoi atebolrwydd am rwystro a dirmyg o dan welliant 8, a all yr Aelod cyfrifol ddarparu unrhyw eglurhad pellach ynglŷn â'r rhesymau polisi sy'n sail i'r newidiadau a wnaed o dan welliant 8?

Gan siarad yn gyntaf am welliannau 8 a 9, nid yw'r gwelliannau hyn yn newid bwriad yr adran hon. Maent yn ceisio sicrhau bod yr ombwdsmon yn gallu adennill costau yr eir iddynt pan fyddant wedi eu rhwystro gan ddarparwr gofal iechyd preifat.

Mae'n hollbwysig fod yna ddatgymhelliad yn y Bil rhag rhwystro'r ombwdsmon, a bod cwmnïau iechyd preifat yn galluogi'r ombwdsmon i benderfynu'n briodol lle mae'r bai ar lwybr gofal iechyd cyhoeddus-preifat. Nodwyd yr angen am bŵer i adennill costau o'r fath yn nrafft gwreiddiol y Bil. Fodd bynnag, ni fyddai'r darpariaethau gwreiddiol ar gyfer adennill costau yn y Bil wedi gweithredu fel y bwriadwyd, a byddai costau unrhyw waith ychwanegol a fyddai'n deillio o rwystrau yn gorfod dod o bwrs y wlad.

Er fy mod yn gobeithio na fydd angen defnyddio'r darpariaethau hyn, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod cyfrifol am gyflwyno'r gwelliannau a sicrhau y bydd gan yr ombwdsmon bŵer effeithiol a bod modd ei orfodi pe bai angen rhag i'r trethdalwr yng Nghymru orfod talu'r costau yn sgil ymddygiad rhwystrol gan ddarparwyr preifat.

Mae gwelliant 6 yn egluro'r croesgyfeiriadau yn y Bil i sicrhau bod gwasanaethau iechyd preifat yn cael eu cynnwys yn y darpariaethau cywir yn y Bil sy'n cyfeirio at awdurdodau rhestredig.

Yn olaf, mae gwelliant 30 yn caniatáu i'r ombwdsmon gadw costau a adenillir yn hytrach na'u dychwelyd i gronfa gyfunol Cymru. Gan mai ar ôl iddynt gael eu talu'n unig y gellir adennill y costau hyn, mae hwn yn newid rhesymol er mwyn atal yr ombwdsmon rhag gorfod ysgwyddo costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn a sicrhau y gellir pennu eu hadnoddau fel y cytunwyd gan y Pwyllgor Cyllid yn natganiad ariannol y flwyddyn honno.

Rwy'n hapus i gefnogi gwelliannau'r Aelod cyfrifol yn y grŵp hwn, a buaswn yn annog yr Aelodau i wneud yr un peth a sicrhau bod y Bil hwn yn gweithredu'n effeithiol.

Diolch ichi, Lywydd. I ymateb i Mark Isherwood, nid wyf yn credu, mewn gwirionedd, fod yna newid polisi yma. Mae hyn yn ymwneud â gweithdrefn gliriach, mwy effeithlon a mwy penodol ar gyfer adennill costau, sy'n cynnwys hefyd, buaswn yn dweud, dibynnu ar lys ynadon ar gyfer apeliadau. Felly, nid wyf yn derbyn yr honiad fod yna newid polisi sylweddol yma. Mae'n cynnig eglurder ac effeithlonrwydd o ran y ffordd yr ysgrifennwyd y Bil. Felly, buaswn yn annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau a gyflwynais ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddant yn gwneud hynny.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 30? A oes unrhyw wrthynebiad? Derbynnir gwelliant 30. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 31 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 31? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 31.

16:20

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 32 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 32? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 32.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 33 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 33.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 34 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 34? Unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 34.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 35 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 35? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 35.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 36 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 36? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 36, felly.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 4: Archwilydd Cyffredinol: Gosod y cyfrifon ardystiedig (Gwelliant 49)

Sy'n dod â ni at grŵp 4 y gwelliannau. Mae’r grŵp yma’n ymwneud â’r archwilydd cyffredinol a gosod y cyfrifon ardystiedig. Gwelliant 49 yw’r prif welliant, a dwi’n galw ar Mark Isherwood i gynnig y prif welliant ac i siarad amdano. Mark Isherwood.

Cynigiwyd gwelliant 49 (Mark Isherwood).

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 49, sy'n ymwneud â'r cyfnod o bedwar mis o hyblygrwydd i Swyddfa Archwilio Cymru allu ei roi ar gyfer cyfrifon yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus, a fewnosodwyd yng Nghyfnod 2. Er bod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gofyn am y newid hwn yng Nghyfnod 1, mae yna gwestiynau ynglŷn â sut y byddai hyn yn berthnasol i gyrff cyhoeddus eraill y tu allan i gwmpas y Bil. Yn amlwg, mae'r cyfyngiadau, y rhesymau a'r cyfiawnhad dros y newid yn berthnasol i'r rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus, os nad pob un, a'r hyn sydd dan sylw yma yw eglurhad ynglŷn â lle gellir rhoi rhywbeth i gorff sydd â throsolwg ar y cyrff cyhoeddus eraill nad yw ar gael i'r cyrff cyhoeddus eraill hynny.

Roedd yn amlwg o dystiolaeth ysgrifenedig yr archwilydd cyffredinol fod angen  hyblygrwydd oherwydd y ffaith bod problemau'n deillio o derfyn amser o'r fath wedi digwydd gyda chyfrifon blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2016-17. Rydym yn cytuno bod angen dull gweithredu o'r fath. Fodd bynnag, oherwydd natur y Bil, ni fydd hyn ond yn berthnasol i'r ombwdsmon ac nid i gyrff eraill.

Yn ystod Cyfnod 1, dywedodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau eu bod wedi gofyn i'r Aelod cyfrifol a fyddai'n ystyried diwygio'r Bil mewn perthynas â'r terfyn amser o bedwar mis. Dywedodd yr Aelod cyfrifol fod cael cyfrifon wedi'u harchwilio o fewn pedwar mis yn arfer da, ond cyfaddefodd mai'r hyn a oedd ar goll oedd y gallu i'w amrywio mewn amgylchiadau arbennig. Fodd bynnag, nid oedd yn siŵr a fyddai'n briodol ei newid mewn perthynas ag un corff pan fo'r archwilydd cyffredinol yn archwilio amrywiaeth o gyrff ar draws Cymru. Fel y cyfryw, er ei bod yn amlwg fod bwriad da y tu ôl i gael gwared ar y terfyn amser o bedwar mis, rhaid i'r Gweinidog ddarparu gwybodaeth ar y cynsail y bydd hyn yn ei osod ar gyfer cyrff eraill a reolir yn gyhoeddus. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud wrthym a yw'n bwriadu i'r cymal hwn osod cynsail i gynnwys cyrff cyhoeddus eraill mewn perthynas â chael gwared ar y terfyn amser o bedwar mis, ac os nad dyna'r bwriad, beth yw'r rhesymeg sy'n sail i fwriad y Gweinidog i gynnwys yr ombwdsmon yn unig yn yr eithriad hwn—nid yn unig o fewn y ddeddfwriaeth hon, ond wrth inni symud ymlaen?

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Byddai gwelliant 49 yn gwrthsefyll gwelliant a gytunwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ystod gwaith craffu Cyfnod 2. Cytunwyd ar y gwelliant hwnnw yn dilyn argymhelliad y pwyllgor ei hun yng Nghyfnod 1, yn seiliedig ar dystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru fod arno angen mwy o hyblygrwydd mewn perthynas â'r terfyn amser ar gyfer cyfrifon. Byddai adfer dyddiad cau pedwar mis cadarn, heb unrhyw hyblygrwydd, yn creu perygl o osod rhwymedigaethau sy'n gwrth-ddweud ei gilydd ar yr archwilydd cyffredinol. Gallai fod galw ar yr archwilydd cyffredinol i osod y cyfrifon ardystiedig erbyn terfyn amser caeth ac i fod yn fodlon fod gwariant yr ombwdsmon yn gyfreithlon, a'u hadnoddau wedi'u defnyddio'n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol. At hynny, mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i'r archwilydd cyffredinol lynu wrth y cod ymarfer archwilio a rhoi cyfle i drydydd partïon a chyrff a archwilir roi sylwadau ar ganfyddiadau archwilio. Mae hyn yn golygu, yn ymarferol, nad oes gan yr archwilydd cyffredinol reolaeth lwyr ar y terfyn amser o bedwar mis, ac mae'n rhesymol caniatáu hyblygrwydd iddo esbonio pam na ellir glynu ato.

I sicrhau bod gan yr archwilydd cyffredinol a'r Cynulliad Cenedlaethol wybodaeth gywir ar gyfer craffu'n briodol ar ddefnydd yr ombwdsmon o arian cyhoeddus, ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn.

Fel y clywsom yng Nghyfnod 2, cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar welliant sy'n darparu hyblygrwydd i'r archwilydd cyffredinol gyflwyno cyfrifon ardystiedig ac adroddiad ar ôl y terfyn amser diofyn o bedwar mis. Nawr, mae'r gwelliant hwn yn ceisio dileu'r hyblygrwydd hwnnw, wrth gwrs. Nawr, cynhwyswyd y mecanwaith, fel y clywsom, er mwyn mynd i'r afael â dyletswyddau statudol gwrthdrawiadol a osodir ar yr archwilydd cyffredinol: yn gyntaf, i osod copi o'r cyfrifon ardystiedig ac adroddiad heb fod yn hwy na phedwar mis ar ôl iddynt gael eu cyflwyno, ond hefyd i fodloni gofynion Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 i gadw at god ymarfer archwilio'r archwilydd cyffredinol ei hun, sy'n ei gwneud yn ofynnol i roi cyfle i drydydd partïon a chyrff a archwilir i roi sylwadau ar ganfyddiadau archwilio. Gallai hynny fynd ag ef y tu hwnt i'r terfyn amser o bedwar mis wrth gwrs. Os yw'r archwilydd cyffredinol yn dibynnu ar yr hyblygrwydd hwn, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i'r archwilydd cyffredinol egluro i'r Cynulliad pam na fydd copi o'r cyfrifon ardystiedig ac adroddiad yn cael eu cyflwyno cyn y terfyn amser o bedwar mis, a rhaid iddynt fwrw ati wedyn i gyflwyno copi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Nawr, wrth gwrs, daeth y mater hwn i'r amlwg gyda chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru, pan oedd angen mwy na phedwar mis ar yr archwilydd cyffredinol i sicrhau bod materion ariannol yng nghyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u harchwilio'n llawn. Wrth archwilio cyrff cyhoeddus yng Nghymru, nid oes unrhyw ddarpariaeth yn y ddeddfwriaeth i'r archwilydd cyffredinol allu gofyn am estyniad i'r terfyn amser statudol o bedwar mis—fel a geir, gyda llaw, ar gyfer cyfrifon adnoddau yn y DU o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon Llywodraeth 2000. Nawr, yn ddelfrydol, byddai gennym ddarpariaeth debyg yma yng Nghymru, ac rwy'n derbyn nad yw'r mecanwaith hwn ond yn ymdrin â'r rhwymedigaethau sy'n gwrthdaro a osodir ar yr archwilydd cyffredinol mewn perthynas ag ardystio cyfrifon ac adroddiadau'r ombwdsmon. Yn amlwg, nid yw'r Bil hwn yn fecanwaith priodol ar gyfer ymdrin â'r gwrthdaro hwn mewn perthynas â chyfrifon archwiliedig cyrff cyhoeddus eraill. Fodd bynnag, buaswn yn gobeithio bod y mater hwn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ystyried yn y dyfodol. Yn ogystal, mae cyfle, wrth gwrs, i ystyried y mater fel rhan o'r ymchwiliad sydd ar y ffordd gan y Pwyllgor Cyllid i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Felly, gyda'r sylwadau hynny, gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwelliant 49.

16:25

Diolch. Y bwriad oedd i hwn fod yn welliant ymchwilgar. Fel y dywedais, rydym yn gweld bwriad da yn sail i gael gwared ar y terfyn amser o bedwar mis o fewn y Bil. Ond rwy'n gresynu nad atebodd y Gweinidog fy nghwestiynau penodol wrth ymateb, sef diben y gwelliant ymchwilgar, sy'n anodd. Gan ddilyn ymlaen o ymateb yr Aelod cyfrifol fodd bynnag, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn arwain at sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ac yn rhannu gyda'r Cynulliad ei bwriadau ehangach o ran a yw hyn yn dechrau gosod cynsail ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill, ac unwaith eto, os gallai ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid y mae'r Aelod cyfrifol yn cyfeirio ato roi sylw i hynny hefyd, byddai'n amlwg o fudd i bawb; efallai y gallai ddatgelu rhai o'r bygythiadau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â hyn. Nid oeddem yn bwriadu gwrthwynebu; roeddem eisiau eglurder, ac yn anffodus, ni chawsom hynny yn ymateb y Gweinidog, ond credaf fod cyfraniad yr Aelod cyfrifol yn ddefnyddiol iawn, a byddwn yn cefnogi.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 49? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, mi gawn bleidlais electronig ar welliant 49. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid neb, neb yn ymatal, 47 yn erbyn. Ac, felly, gwrthodwyd gwelliant 49.

Gwelliant 49: O blaid: 0, Yn erbyn: 47, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 37 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 37? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 37.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 5: Cywiriadau drafftio (Gwelliannau 2, 7, 10, 12, 13)

Ac, felly, grŵp 5 yw'r grŵp nesaf o welliannau—y gwelliannau yma'n ymwneud â chywiriadau drafftio. Gwelliant 2 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliannau yn y grŵp. 

Cynigiwyd gwelliant 2 (Llyr Gruffydd).

Diolch, Llywydd. Dwi'n cynnig gwelliant 2 ac yn siarad i'r gwelliannau eraill yn y grŵp yma. Mae hwn yn grŵp o welliannau sy'n mynd i'r afael â nifer fach o gywiriadau drafftio. Er enghraifft, mae gwelliannau 2 ac 13 yn sicrhau bod yr holl gyfeiriadau at 'ddod ag ymchwiliad i ben' yn gyson yn y testun Cymraeg. Mae gwelliant 7 yn dileu gair diangen yn y testun Cymraeg. Mae gwelliant 10 yn mewnosod y gair 'neu' ar ddiwedd adran benodol. Ac, yn olaf, mae gwelliant 12 yn cywiro mân wall ddrafftio yn y Bil i gyfeirio at is-adran yn hytrach nag adran, felly mi fyddwn ni'n gobeithio'n fawr, gan mai materion drafftio mân yw'r rhain, y bydd Aelodau’n gweld eu ffordd yn glir i gefnogi’r gwelliannau.

16:30

Nid yw Llyr angen ymateb, felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 2.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 6: Ymchwiliadau ar ei liwt ei hun (Gwelliannau 3, 4, 14, 15, 19)

Grŵp 6 yw'r grŵp nesaf o welliannau, ac mae'r rhain yn ymwneud ag ymchwiliadau ar ei liwt ei hun. Gwelliant 3 yw'r prif welliant yn y grŵp a dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliannau yn y grŵp.

Cynigiwyd gwelliant 3 (Llyr Gruffydd).

Rwy'n cynnig gwelliant 3 ac fe siaradaf am yr holl welliannau yn y grŵp hwn, sy'n ymwneud â phwerau'r ombwdsmon i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun. Mae gwelliant 3 yn egluro bod unrhyw benderfyniad ar ran yr ombwdsmon, er enghraifft, i ddechrau ymchwiliad ar ei liwt ei hun, yn ddarostyngedig i adran 4(1) ac adran 4(2), adran 4 yw'r adran sy'n ymwneud â phŵer i ombwdsmon ymchwilio ar ei liwt ei hun.

Mae i welliant 14 yr un effaith â gwelliant 3, mewn perthynas ag ymchwiliadau ar liwt yr ombwdsmon ei hun o dan Ran 5 yn unig, sydd, wrth gwrs, yn ymdrin â gofal cymdeithasol a gofal lliniarol.

Mae gwelliannau 4 a 15 yn egluro, lle mae'r ombwdsmon yn adolygu'r meini prawf a gyhoeddwyd ar gyfer ymchwiliadau ar liwt yr ombwdsmon ei hun mewn ffordd berthnasol, y bydd y diwygiadau hynny'n ddarostyngedig i'r un weithdrefn Cynulliad a oedd yn berthnasol i'r meini prawf cyntaf, a nodir yn adran 5 y Bil. Byddant yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad negyddol, yn yr ystyr y cânt eu gosod gerbron y Cynulliad, ac oni chânt eu diddymu cyn diwedd cyfnod o 40 diwrnod, gellir eu cyhoeddi.

Mae gwelliant 19 yn egluro bod gan yr ombwdsmon ddyletswydd i hysbysu ac ymgynghori â phersonau penodedig wrth gynnal ymchwiliadau ar liwt yr ombwdsmon ei hun. Felly, unwaith eto, mae'r gwelliannau hyn yn eithaf technegol o ran eu natur—ni cheir newid polisi, dim ond cryfhau a darparu eglurder, a buaswn yn annog yr Aelodau i'w cefnogi.

Fel y clywsom, mae gwelliannau 4 a 43 yn egluro'r ffordd y mae is-adrannau'r adrannau perthnasol yn cydberthyn, gan ddatgan er mwyn osgoi amheuaeth fod penderfyniad yr ombwdsmon a ddylid dechrau, parhau neu derfynu ymchwiliad yn amodol ar y darpariaethau yn is-adran (1), sy'n pennu pa faterion y mae gan yr ombwdsmon hawl i'w hymchwilio.

Hefyd, caiff gwelliannau 5 a 44 eu diweddaru er eglurder heb newid i'r polisi a fwriadwyd er mwyn cymeradwyo'r meini prawf ar gyfer ymchwiliadau ar liwt yr ombwdsmon ei hun.

Yn olaf, mae gwelliant 19 yn egluro o dan ba amgylchiadau y mae dyletswydd ar yr ombwdsmon i ymgynghori â chomisiynwyr eraill, fel y bo'n briodol. Mae hyn yn sicrhau bod rhaid i'r ombwdsmon ymgynghori, lle bynnag y byddant yn ymchwilio ar eu liwt eu hunain, hyd yn oed os gallent fod wedi ymchwilio peth neu'r cyfan o'r un mater ag ymchwiliad llawn arferol. Nid yw'r gwelliannau hyn yn newid polisi bwriadedig y Bil, ond byddant yn darparu eglurder ar y ffordd y bwriedir iddo weithio'n ymarferol, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn ymuno â mi i'w cefnogi heddiw.

Ydy Llyr Gruffydd eisiau ymateb? Na. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 3.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 4 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 4.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 7: Gwneud cwynion (Gwelliannau 5, 17, 18)

Grŵp 7, felly, yw'r grŵp nesaf, ac mae'r grŵp yma'n ymwneud â gwneud cwyn. Gwelliant 5 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gynnig y prif welliant yna ac i siarad i'r gwelliannau yn y grŵp.

Cynigiwyd gwelliant 5 (Llyr Gruffydd).

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 5, ac fe siaradaf am y tri gwelliant yn y grŵp hwn. Roedd y Bil, fel y'i cyflwynwyd, yn cynnwys darpariaeth a'i gwnâi'n bosibl gwneud cwyn ar lafar ac yn cynnwys mesur diogelwch a ddynodai fod yn rhaid i'r ombwdsmon egluro i'r sawl sy'n gwneud y gŵyn ar lafar beth mae gwneud cwyn ar lafar yn ei olygu. Mae'n golygu y gellir trin cwyn ar lafar fel cwyn ffurfiol y gellir ei hymchwilio.

Mae gwelliant 5 yn newid y term 'ar lafar' i 'heblaw yn ysgrifenedig' er mwyn sicrhau y defnyddir y term mwy cynhwysol fel bod y mesur diogelwch yn berthnasol i unrhyw gŵyn na chaiff ei gwneud yn ysgrifenedig. Mae'r gwelliant yn golygu, er enghraifft, y bydd y mesur diogelwch yn gymwys ar gyfer cwynion llafar, ond hefyd ar gyfer cwynion a wnaed yn Iaith Arwyddion Prydain a chwynion, yn wir, a wneir ar unrhyw ffurf arall nad yw'n ysgrifenedig.

Mae i welliant 17 yr un effaith â gwelliant 5, mewn perthynas ag ymchwiliadau o dan Ran 5 sy'n ymdrin â gofal cymdeithasol a gofal lliniarol yn unig.

Mae gwelliant 18 yn egluro hefyd fod y cyfeiriad at 'person' yn cynnwys unrhyw berson a wnaeth gŵyn ac nid y person a dramgwyddwyd yn unig wrth gwrs. Felly, buaswn yn annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn.

Mae'r rhain yn newidiadau pwysig i sicrhau bod gwasanaethau'r ombwdsmon yn hygyrch i bawb yng Nghymru ac i sicrhau nad yw'r ddeddfwriaeth yn creu rhwystrau diangen a allai eithrio pobl sy'n agored i niwed. Rwy'n hapus iawn i gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn.

Nid yw Llyr eisiau ymateb, ac felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 5, felly.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 6.

Dwi wedi methu 38, mae'n debyg. Felly af i nôl i alw pleidlais ar welliant 38. A ydy e'n cael ei gynnig yn ffurfiol?

16:35

Cynigiwyd gwelliant 38 (Llyr Gruffydd).

Ydy. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 38? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes, felly, derbynnir gwelliant 38.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 6 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 6.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 7 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 7.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 8 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 8.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 9 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 9, felly.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 10 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes, felly derbynnir gwelliant 10.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 8: Egwyddorion Nolan (Gwelliant 46)

Sy'n dod â ni at grŵp 8, y grŵp sy'n ymwneud ag egwyddorion Nolan. Gwelliant 46 yw'r prif welliant a dwi'n galw ar Mark Isherwood i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliant hwnnw—Mark Isherwood.

Cynigiwyd gwelliant 46 (Mark Isherwood).

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi ailgyflwyno'r gwelliant hwn o Gyfnod 2, am fy mod yn dymuno gofyn am sicrwydd gan yr Aelod cyfrifol y bydd yr ombwdsmon yn ystyried egwyddorion Nolan pan fydd ei swyddfa'n cynnal ymchwiliadau i gwynion yn erbyn cyrff cyhoeddus.

Fel yr amlinellais yng Nghyfnod 2, er y gall yr ombwdsmon ystyried hefyd fod egwyddorion Nolan yn rhai tra phwysig, nid yw'n gallu dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif drwy'r egwyddorion, fel y gwelir yn yr ohebiaeth a gefais gan aelod o'r cyhoedd. Yn ei ymatebion i'r aelod hwnnw o'r cyhoedd, nododd yr ombwdsmon

Rwy'n cydnabod eich bod wedi llunio eich cwyn drwy gyfeirio at egwyddorion Nolan ond er bod yr ombwdsmon yn amlwg yn cydnabod bod cydymffurfiaeth â'r egwyddorion hyn yn angenrheidiol ar gyfer sicrhau safonau uwch mewn gwasanaethau cyhoeddus, ni fyddai'r ombwdsmon, o ystyried ei rôl a'u natur gyffredinol, yn eu defnyddio i wneud penderfyniad ynglŷn â chwynion am gyrff cyhoeddus.

Nododd hefyd:

Felly rwy'n gobeithio bod hyn yn esbonio ein dull o weithredu a chyd-destun ein gwaith. Nid bod Nolan yn amherthnasol, ond yn hytrach, nad cyfyngu ein hunain yn unig i'r prif egwyddorion hyn neu fodloni ein hunain yn eu cylch hwy'n unig yw'r ffordd orau o sicrhau cyfiawnder gweinyddol i bobl Cymru. 

Fel yr amlinellais yng Nghyfnod 2, mae'r ddau ddatganiad i'w gweld yn gwrth-ddweud ei gilydd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn glynu at egwyddorion Nolan, fel y mae Aelodau etholedig mewn swyddi cyhoeddus. Mae'n bosibl y bydd unigolion a gyflogir gan y cyhoedd hefyd yn atebol i egwyddorion Nolan, ond nid oes modd i achwynwyr ddefnyddio'r egwyddorion, heblaw drwy lwybr drud a llafurus adolygiad barnwrol. Nid prif egwyddorion ddylai'r rhain fod, ond rhan annatod o'r ystyriaeth.

At hynny, caiff egwyddorion Nolan eu crynhoi fel hyn: nid yw'r ombwdsmon yn darparu unrhyw set amgen o egwyddorion, ac eto, wrth farnu materion megis safonau gweinyddol da i benderfynu ar gwynion ynghylch cyrff cyhoeddus, mae'n bwysig barnu yn erbyn safon dderbyniol i gyfeirio ati. Dadleuwn fod egwyddorion Nolan yn darparu'r safon honno. Cawsant eu sefydlu at y diben hwnnw. Ymhlith pethau eraill, maent yn bodloni meini prawf y gyfraith a gynhyrchwyd gan Bwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus Llywodraeth y DU; maent yn gosod meincnod ledled y DU; maent yn berthnasol i bawb mewn bywyd cyhoeddus—swyddogion a chynrychiolwyr etholedig; cânt eu hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru, nid yn lleiaf mewn offerynnau statudol; a chânt eu hyrwyddo gan bwyllgor safonau cynghorau Cymru.

Mae'r ombwdsmon yn honni bod egwyddorion Nolan yn rhai cyffredinol. Nid yw hynny'n wir. Canllawiau yw egwyddorion, ni fwriedir iddynt fod yn gyfarwyddiadau manwl. Mae egwyddorion Nolan yn glir iawn, ac wedi'u llunio'n benodol i fod yn berthnasol i'r sector cyhoeddus. Mae'r ombwdsmon yn honni bod gosod egwyddorion ar wyneb y Bil yn tynnu sylw'n ddi-fudd oddi wrth y pwerau presennol sydd ganddo i ymchwilio i gamweinyddu. Ac eto, erys bwlch o ran sut y bydd yn penderfynu a gaiff cyrff cyhoeddus eu dwyn i gyfrif drwy'r egwyddorion.

Er enghraifft, er ei fod yn nodi bod yna bŵer eang iawn o ran camweinyddu sy'n caniatáu iddo roi ystyriaeth i egwyddorion Nolan, ar y llaw arall, mae'r pŵer yn golygu nad oes raid iddo eu hystyried chwaith. Ers i mi ddadlau'r achos dros egwyddorion Nolan yng Nghyfnod 2 y Bil, rwyf wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o bryderon fod rhai o gyrff y sector cyhoeddus a'u cyflogeion yn ystumio'u dehongliad o egwyddorion Nolan pan gânt eu cymhwyso iddynt hwy. Ymhellach, lle ceir honiadau ynghylch ymddygiad swyddogion yn rhan annatod o gŵyn ehangach a gyflwynwyd i'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus, yn rhy aml gwelsom adroddiadau ombwdsmon yn dyfynnu llinellau i gyfiawnhau eu penderfyniad i beidio â chadarnhau cwyn y gellir gweld eu bod wedi dod gan yr un swyddogion, ac yn cyd-fynd, air am air, â llythyrau a ddaeth i law yn uniongyrchol gan yr awdurdod lleol ac wedi'u llofnodi gan yr un swyddogion.

Gellir cyfeirio aelodau etholedig at yr ombwdsmon am achosion honedig o dorri'r cod ymddygiad, ond ni all yr ombwdsmon ymchwilio i gwynion yn erbyn swyddogion. Mae hynny'n iawn. Yn lle hynny, caiff y rhain eu gadael i awdurdodau lleol benderfynu yn eu cylch fel eu cyflogwr. Fodd bynnag, mae cwynion i'r ombwdsmon ynghylch cyrff cyhoeddus yn aml yn ymwneud â materion sydd wedi'u gosod yng nghyd-destun ymddygiad swyddogion. Er na ellir ymchwilio'n wrthrychol i destun y gŵyn heb ystyriaeth ehangach o unrhyw gyd-destun sy'n ymwneud ag ymddygiad swyddogion yn unol ag egwyddorion Nolan, yn lle hynny gwelwn achosion lle na fyddai'r ombwdsmon, fel y dyfynnwyd, yn defnyddio egwyddorion Nolan er mwyn penderfynu ar gwynion.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod y memorandwm esboniadol diwygiedig i'r Bil bellach yn cynnwys egwyddorion Nolan ac yn esbonio ei bod yn ofynnol i'r ombwdsmon ac awdurdodau â budd roi sylw dyledus i'r egwyddorion wrth gyflawni eu gwaith. Fodd bynnag, o ystyried y pryderon a restrais, buaswn yn ddiolchgar am gadarnhad gan yr Aelod cyfrifol ynglŷn â sut y mae'n disgwyl sicrhau, yn absenoldeb yr egwyddorion ar wyneb y Bil, fod yr ombwdsmon yn ystyried egwyddorion Nolan wrth ymchwilio i unrhyw gŵyn a phob cwyn sydd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn cynnwys ymddygiad y swyddogion sy'n gysylltiedig â'r gŵyn honno. Diolch.

16:40

Byddai'r gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r ombwdsmon ystyried egwyddorion Nolan wrth gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag awdurdod rhestredig. Mae egwyddorion Nolan yn nodi'r ymddygiad a ddisgwylir gan bobl sy'n dal swydd gyhoeddus. Maent yn nodi disgwyliadau clir ynghylch ymddygiad a sut y mae disgwyl i bobl gyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae egwyddorion Nolan yn berthnasol i unigolion mewn swyddi cyhoeddus, ac nid sefydliadau. Mae'r egwyddorion yn canolbwyntio ar ymddygiad a diwylliant, yn hytrach na phrosesau, ac fe'u hymgorfforir yn y codau ymddygiad perthnasol ar gyfer ymddygiad unigolion mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r ombwdsmon yn ymchwilio i gamweinyddu a methiant gwasanaeth. Mae'r ffocws yn sicrhau eu bod yn gwneud sylwadau ar y camau a roddir ar waith gan awdurdod, yn hytrach na rhoi barn ar unigolion, ac eithrio yn rôl yr ombwdsmon mewn perthynas â chod ymddygiad cynghorwyr. Mae hyn yn caniatáu i'r ombwdsmon gadw ymddiriedaeth cyrff cyhoeddus, a'r cyhoedd, fel y sawl sy'n trin a rheoleiddio cwynion yn annibynnol a diduedd. Buaswn yn annog yr Aelodau i beidio â chefnogi'r gwelliant hwn.

Mae'r gwelliant hwn yn gosod dyletswydd ar yr ombwdsmon i roi sylw i sut y mae awdurdod rhestredig wedi rhoi ystyriaeth i egwyddorion Nolan. Nawr, fel y mae pawb ohonom yn gwybod, oherwydd rwy'n siŵr ein bod yn eu darllen bob dydd, mae egwyddorion Nolan yn gosod saith egwyddor ar gyfer unrhyw un sy'n dal swydd gyhoeddus, gan gynnwys pobl a etholir neu a benodir i swyddi cyhoeddus, neu bobl a benodir i weithio yn y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a gofal, er enghraifft, a phawb mewn sectorau eraill sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus. Nawr, rydym wedi ailadrodd rhai o'r dadleuon hyn yng Nghyfnod 2, ac fel y dywedais yng Nghyfnod 2, rwy'n credu bod dyletswydd yn bodoli eisoes ar awdurdodau rhestredig i roi sylw i egwyddorion Nolan. A rôl yr ombwdsmon yw ymchwilio i fethiant gwasanaethau a chamweinyddu, nid ymchwilio i ba raddau y mae awdurdodau cyhoeddus yn cydymffurfio ag egwyddorion cyffredinol anhunanoldeb ac arweinyddiaeth, ac yn y blaen. Felly, er na allwn gefnogi'r gwelliant hwn yng Nghyfnod 2, rwyf wedi sicrhau serch hynny fod y memorandwm esboniadol diwygiedig bellach yn nodi'n eglur fod gofyn i'r ombwdsmon a'r awdurdodau rhestredig roi sylw dyledus i egwyddorion Nolan wrth ddal swyddi cyhoeddus neu weithio yn y sector cyhoeddus. Felly, am y rhesymau hyn, ni fyddaf yn cefnogi gwelliant 46, a buaswn yn annog yr Aelodau eraill i wneud yr un fath.

Diolch ichi, Lywydd, a diolch i'r Gweinidog a'r Aelod cyfrifol. Yn amlwg, mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi, a chydag eraill heb amheuaeth, yn mynegi pryderon am eu profiadau eu hunain lle roedd eu cwynion, nad oeddent yn ymwneud yn uniongyrchol â swyddog neu swyddogion, er hynny'n cynnwys honiadau'n ganolog iddynt ynghylch ymddygiad swyddog neu swyddogion, ac felly, daethpwyd â'r mater hwn i'n sylw. Nid yw'n rhywbeth rydym wedi'i lunio'n unig er mwyn creu rhagor o broblemau i'r Cynulliad neu swyddfa'r ombwdsmon. Rydym yn cydnabod y gwaith pellach y mae'r Aelod cyfrifol wedi'i wneud ar hyn, ac yn cydnabod ac yn croesawu, fel y dywedais, y diweddariad i'r memorandwm esboniadol. Felly, er y byddaf yn tynnu'r gwelliant hwn yn ôl, credwn o hyd fod hwn yn fater pwysig sy'n galw am ystyriaeth bellach wrth inni symud ymlaen, lle gwelais yn rhy aml, unwaith eto, lais y person neu'r personau y mae'r cyhuddiadau'n berthnasol iddynt yn cael ei ddyfynnu fel un o'r rhesymau dros beidio â chadarnhau cwyn, pan fyddai gwrthrychedd ymchwiliad, gobeithio, yn sicrhau na allai hynny ddigwydd. Diolch.

16:45

Mae Mark Isherwood wedi nodi ei fod am dynnu'r gwelliant yn ôl. A oes unrhyw wrthwynebiad i dynnu'r gwelliant yn ôl? Mae gwelliant 46 wedi'i dynnu'n ôl felly.

Tynnwyd gwelliant 46 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.

Grŵp 9: Gweithdrefnau ymdrin â chwynion (Gwelliannau 47, 11, 48)

Grŵp 9 yw'r grŵp nesaf o welliannau, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud â gweithdrefnau ymdrin â chwynion. Gwelliant 47 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Mark Isherwood i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliannau. Mark Isherwood.

Cynigiwyd gwelliant 47 (Mark Isherwood).

Diolch, Lywydd. Byddwn yn cefnogi gwelliant 11 gan ein bod yn credu y dylai'r Cynulliad gymryd rhan yn y gwaith o graffu ar unrhyw newidiadau sylweddol y gallai'r ombwdsmon eu gwneud i'r datganiad o egwyddorion cyn belled ag y bo'n ymarferol.

Cyflwynwyd gwelliant 48, lle mae angen cadarnhad i sicrhau bod yr ombwdsmon yn ystyried adnoddau cynghorau tref a chymuned. Mae gwelliant 48 yn ailadrodd y pryderon a godwyd gennym yng Nghyfnod 2 ynglŷn â gallu cynghorau tref a chymuned fel awdurdodau rhestredig o dan y Bil i gyflawni eu dyletswyddau. Er enghraifft, mae'r Bil yn cynnwys llawer o ofynion a therfynau amser i awdurdodau rhestredig, sy'n cynnwys terfyn amser o chwe mis i awdurdodau rhestredig gyflwyno eu gweithdrefn ymdrin â chwynion eu hunain.

Yng Nghyfnod 1 dywedais fy mod yn cefnogi cymhwyso'r Bil i gynghorau tref a chymuned, ond y gallwn weld o safbwynt yr ombwdsmon a chynghorau tref a chymuned fel ei gilydd pa mor feichus y gallai cyflawni'r dyletswyddau fod pan fo niferoedd staff ac adnoddau'n fach iawn. Ceir dros 730 o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda 8,000 o gynghorwyr. Fel y dangosodd yr archwilydd cyffredinol yn ei adroddiad ar y cynghorau tref a chymuned, mae rhai cynghorau eisoes yn cael trafferth i gymhwyso'r dyletswyddau statudol presennol. Fel y nodais yng Nghyfnod 2, ni allodd bron 100 o gynghorau tref a chymuned gyflwyno eu harchwiliadau erbyn y dyddiad cau ar 30 Tachwedd 2018. Derbyniodd ymhell dros 340 o gynghorau tref a chymuned farn archwilio amodol yn yr un flwyddyn—ddwy waith cymaint â'r nifer yn 2016-17. At hynny, mae 24 o gynghorau yn dal i fod heb wneud trefniadau priodol ar gyfer cyhoeddi dogfennau ar-lein fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013. Hefyd, nododd yr archwilwyr faterion yn codi yn natganiadau cyfrifyddu 180 o gynghorau; ni chwblhaodd 270 o gynghorau y ffurflen flynyddol yn llawn cyn ei chyflwyno ar gyfer archwiliad.

Felly, mae pryderon ynglŷn â gallu cynghorau tref a chymuned i gyflawni eu dyletswyddau wedi rhedeg drwy hynt y Bil. Cyfeiriaf yn ôl at dystiolaeth cyngor dinas Caerdydd ynghylch darpariaethau'r Bil, ac yn tynnu sylw at y risg fod canllawiau'r ombwdsmon 'yn rhy rhagnodol' ac yn methu caniatáu

ar gyfer rhywfaint o hyblygrwydd i awdurdodau lleol drin ac ymchwilio i gwynion mewn ffordd sy'n addas ar gyfer eu maint a'u strwythur.

Yn ogystal, roedd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn pryderu ynglŷn â'r effaith y gallai darpariaethau ei chael ar sefydliadau llai o faint—safbwyntiau a fynegwyd hefyd gan gyngor Blaenau Gwent, a nododd mewn tystiolaeth nad oes gan rai cynghorau llai o faint ddigon o adnoddau i feddu ar swyddogion cwynion penodol ar gyfer derbyn a chofnodi cwynion. Ymhellach, dywedodd Cyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaearn yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor y dylai

polisïau/gweithdrefnau enghreifftiol neu safonol o'r fath fod yn gymesur â maint cynghorau cymuned a chynghorau tref a chydnabod hefyd y gallai alw am gostau trosiannol.

Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, mae Un Llais Cymru, sy'n cynrychioli cynghorau tref a chymuned yng Nghymru, wedi ysgrifennu ataf yn dweud bod ganddynt bryderon am y weithdrefn gwyno enghreifftiol. Nododd ymhellach fod y rhan fwyaf o gynghorau tref a chymuned Cymru yn anhygoel o fach ac yn cyflogi un clerc yn unig, a fyddai'n debygol o fod yn gweithio ar sail ran-amser. Fel y cyfryw, mae'n dal i fod yn anodd gweld a fydd cynghorau tref a chymuned llai o faint gydag adnoddau cymharol gyfyngedig yn cyflawni'r darpariaethau a amlinellir o dan y Bil heb ystyriaeth briodol gan yr ombwdsmon.

Unwaith eto, mae'n galonogol fod y memorandwm esboniadol yn nodi mai mater i'r ombwdsmon ei benderfynu yn ôl ei ddisgresiwn yw pa awdurdodau rhestredig sydd i gyhoeddi gweithdrefnau ymdrin â chwynion enghreifftiol, ond mae'n werth cofnodi'r disgwyliad y bydd yr ombwdsmon yn ystyried adnoddau awdurdodau rhestredig, ac o leiaf yn gweithio gyda'u cyrff cynrychioliadol i sicrhau y caiff y weithdrefn gwyno ei haddasu'n ddigonol i ystyried adnoddau cyfyngedig cynghorau tref a chymuned yng Nghymru.

Mewn perthynas â gwelliant 47, mae hwn yn dileu'r weithdrefn sy'n ymwneud â chyhoeddi datganiad o egwyddorion gan yr ombwdsmon, ac yn gosod gweithdrefn arall yn ei lle. Mae'r newidiadau a wnaed i ddatganiad o egwyddorion yr ombwdsmon a amlinellwyd yng ngwelliant 56 yng Nghyfnod 2 yn golygu na cheir fawr o gyfle i'r Cynulliad graffu'n briodol ar yr egwyddorion cyn eu cyflwyno. Mae hyn yn newid y broses o fod yn gadarnhaol i fod yn un negyddol, a chredaf fod hynny'n gam yn ôl, o ystyried canmoliaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i natur gadarnhaol y Bil yng Nghyfnod 1. Er ein bod yn cydnabod mai datganiad o egwyddorion yw hwn yn hytrach na rheoliadau, rydym yn dadlau eu bod yn rhan annatod o weithrediad y weithdrefn enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion, ac felly dylent fod yn ddarostyngedig i graffu ar ran y Cynulliad. Fan lleiaf, dylai'r datganiad o egwyddorion cyntaf gynnwys gweithdrefn gadarnhaol fel bod cyfle i'r Cynulliad eu cymeradwyo. Rydym yn gofyn felly i'r Aelod cyfrifol egluro ei resymeg dros y newid cyfeiriad hwn. Pam y weithdrefn negyddol yn hytrach na'r weithdrefn gadarnhaol?

16:50

Fe ddechreuaf drwy ddweud fy mod yn hapus i gefnogi gwelliant 11. Mae'r Aelod cyfrifol yn argymell diweddaru'r drafft er mwyn sicrhau bod y weithdrefn ar gyfer sicrhau cytundeb y Cynulliad i'r egwyddorion ymdrin â chwynion yn glir yn ddwyieithog yn y Bil, ac mae hynny i'w groesawu.

Fodd bynnag, wrth siarad am welliant 47, byddai hwn yn dadwneud gwelliant a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yng Nghyfnod 2, a oedd, fel yr eglurodd yr Aelod cyfrifol ar y pryd, yn sicrhau gwell cydbwysedd rhwng rhyddid yr ombwdsmon i ddrafftio'r datganiad o egwyddorion a gallu'r Cynulliad i'w wrthod, pe baem yn ystyried bod hynny'n briodol.

Mae'r weithdrefn y mae gwelliant 47 yn ceisio ei hadfer yn gadael llawer iawn o ansicrwydd i'r ombwdsmon os nad yw'r Cynulliad yn gwneud unrhyw benderfyniad i gymeradwyo'r egwyddorion ymdrin â chwynion o fewn y cyfnod o ddau fis. Yn yr achos hwn, ni fyddai'r ombwdsmon yn gwybod a yw'r Cynulliad yn cefnogi'r meini prawf arfaethedig ai peidio, a oes unrhyw faterion yr hoffem eu gweld yn cael sylw, neu a fyddai'n fater syml o amseru ac y gallai'r meini prawf gael eu cymeradwyo pe baent yn cael eu cyflwyno eto. Heb gyfle i ddylanwadu ar drafodion y Cynulliad, ni fyddai'n deg gofyn i'r ombwdsmon aros i gynnig gael ei gyflwyno o blaid eu meini prawf cyn symud ymlaen i weithredu'r pwerau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol eisoes wedi'u trafod yn y Bil hwn. Nid wyf yn meddwl bod y broses a awgrymir gan yr Aelod yn angenrheidiol i sicrhau bod y Cynulliad yn fodlon ar gynigion yr ombwdsmon. Byddai pasio'r Bil hwn yn arwydd o awydd y Cynulliad i weld datganiad o egwyddorion ymdrin â chwynion yn cael ei wneud gan yr ombwdsmon, ac os nad yw'r cynnig hwnnw yn unol â'n disgwyliadau, gall y Cynulliad ei wrthod a rhoi cyfarwyddyd i'r ombwdsmon ailystyried.

Gan siarad am welliant 48, mae'r Aelod yn nodi pwynt perthnasol y bydd angen i'r ombwdsmon fod yn gymesur wrth gymhwyso gweithdrefnau ymdrin â chwynion enghreifftiol i awdurdodau, yn enwedig yn yr enghraifft o gynghorau cymuned, fel y mae wedi'i argymell. Fodd bynnag, byddai'r gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r ombwdsmon ystyried adnoddau cynghorau cymuned pan fyddant yn datblygu gweithdrefn ymdrin â chwynion enghreifftiol, hyd yn oed os na fwriadwyd i'r weithdrefn honno fod yn gymwys i gynghorau cymuned. Nid yw hon yn ffordd gymesur o gyflawni nod yr Aelod. Byddai'n arwain at faich gweinyddol diangen ar bwerau safonau cwynion yr ombwdsmon i'r holl gyrff eraill yng Nghymru. Mae'r Bil eisoes yn cynnwys gofyniad i'r ombwdsmon ymgynghori cyn cymhwyso gweithdrefnau ymdrin â chwynion enghreifftiol i unrhyw gorff. Byddai hyn yn caniatáu i unrhyw gorff sy'n pryderu ynglŷn â baich gweinyddol eu cynigion godi'r mater, ac i'r ombwdsmon ffurfio safbwynt cytbwys am fanteision y system gwynion yn erbyn y gost o'i rhoi ar waith.

At hynny, seiliwyd y ddeddfwriaeth ar yr egwyddor fod yr ombwdsmon yn awdurdod cwynion annibynnol y gellir ymddiried ynddo, a benodir yn uniongyrchol gan, ac yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol. Os nad yw'r Cynulliad yn fodlon ynglŷn â defnydd yr ombwdsmon o'u pwerau, gellir rhoi sylw i hyn drwy waith craffu'r pwyllgor ar yr ombwdsmon. Y tu hwnt i hyn, mewn achosion eithafol, mae'r ombwdsmon yn ddarostyngedig i lwybr cyfraith gyffredin arferol adolygiad barnwrol, y gellir herio unrhyw ofyniad afresymol drwyddo. Gyda'r trefniadau atebolrwydd hyn eisoes ar waith, ni ddylem deddfu ar y rhagdybiaeth y bydd yr ombwdsmon yn defnyddio'u pwerau'n anghyfrifol. Rwy'n siŵr y bydd yr ombwdsmon yn gwrando ar y pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau yn y ddadl heddiw ac yn eu hystyried wrth benderfynu ar y dull o weithredu gweithdrefnau cwyno enghreifftiol ar gyfer cyrff cyhoeddus. Ar y sail hon, nid wyf yn meddwl bod angen y gwelliant hwn, a gofynnaf i'r Aelodau beidio â'i gefnogi, na gwelliant 47 heddiw.

16:55

Fe ddechreuaf gyda fy ngwelliant, gwelliant 11, sy'n egluro, os yw'r ombwdsmon yn gwneud diwygiadau i'r datganiad o egwyddorion ymdrin â chwynion mewn ffordd berthnasol, y bydd y diwygiadau hynny'n ddarostyngedig i'r un weithdrefn Cynulliad a oedd yn gymwys i'r datganiad o egwyddorion cyntaf. Hynny yw, byddant yn ddarostyngedig i'r weithdrefn penderfyniad negyddol, yn yr ystyr y cânt eu gosod gerbron y Cynulliad, ac y gellir eu cyhoeddi oni chânt eu diddymu cyn diwedd y cyfnod o 40 diwrnod.

Gan droi at welliant 47 Mark, mae'r gwelliant hwn yn ceisio cymhwyso gweithdrefn penderfyniad cadarnhaol i'r drafft cyntaf o'r datganiad o egwyddorion sy'n rhaid i'r ombwdsmon eu gosod gerbron y Cynulliad. Mae'r Bil ar hyn o bryd yn darparu i'r datganiad o egwyddorion fod yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad negyddol, fel y clywsom. Ond wrth gwrs, mae hyn yn adlewyrchu'r weithdrefn sy'n berthnasol i'r meini prawf ar ei liwt ei hun a osodir gerbron y Cynulliad. Credaf y dylai'r un weithdrefn penderfyniad negyddol fod yn gymwys i'r meini prawf a'r datganiad o egwyddorion, gan eu bod ill dwy'n ddogfennau gan yr ombwdsmon. Dyna'r pwynt allweddol yma, rwy'n meddwl. Yr ombwdsmon sy'n ymgynghori yn eu cylch, yr ombwdsmon sy'n eu drafftio, yn eu cyhoeddi ac yn eu gorfodi. Dyna pam fod rheoliadau Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno diwygio dogfen yr ombwdsmon, mae'n gwbl briodol mai'r weithdrefn gadarnhaol a ddylai fod yn gymwys. Rhaid inni gofio bod yr ombwdsmon yn benodiad annibynnol oddi ar Lywodraeth Cymru ac ni fyddai'n iawn i newidiadau a wneir gan Weinidogion Cymru beidio â chael eu cytuno yn y Siambr hon. Felly, nid wyf yn credu bod angen gwelliant 47.

Gan droi at welliant 48 Mark, mae'r gwelliant hwn yn rhoi dyletswydd ar yr ombwdsmon i roi sylw i adnoddau cynghorau cymuned wrth baratoi 'y' weithdrefn ymdrin â chwynion enghreifftiol, i ddefnyddio geiriau Mark. Ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn am nifer o resymau. Yn gyntaf, nid un weithdrefn ymdrin â chwynion enghreifftiol a geir. Mae'n debygol y bydd nifer o weithdrefnau ymdrin â chwynion enghreifftiol, a phob un wedi'i theilwra i anghenion gwahanol awdurdodau rhestredig. Mae hyn ynddo'i hun yn golygu y gall yr ombwdsmon deilwra gweithdrefn ymdrin â chwynion enghreifftiol i anghenion cynghorau cymuned os—ac 'os' ydyw—yw'r ombwdsmon yn penderfynu ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned gydymffurfio â gweithdrefn ymdrin â chwynion enghreifftiol. Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar yr ombwdsmon i gael gweithdrefn ymdrin â chwynion enghreifftiol ar gyfer cynghorau cymuned. Yn wir, hyd yn hyn yn y flwyddyn ariannol hon, mae'r ombwdsmon wedi derbyn mwy na 2,000 o gwynion i gyd ac o'r rhain, dim ond 22 sydd wedi ymwneud â chynghorau cymuned, allan o tua 730, yn ôl yr hyn y credaf i'r Aelod ei ddweud, o gynghorau o'r fath yng Nghymru. Felly, buaswn yn dadlau nad yw'r gweithdrefnau ymdrin â chwynion o reidrwydd wedi'u hanelu at broblemau gyda chynghorau cymuned.

Yn ail, fel awdurdod cyhoeddus, rhaid i'r ombwdsmon weithredu'n rhesymol ym mhob dim y mae'n ei wneud wrth gwrs. Byddai hyn yn cynnwys ystyried adnoddau unrhyw awdurdod rhestredig y mae'n ystyried pennu eu bod yn destun gweithdrefn ymdrin â chwynion enghreifftiol. Ac yn drydydd, rwy'n cwestiynu pam y dylai'r ombwdsmon roi sylw penodol i'r adnoddau sydd ar gael i gynghorau cymuned pan fo'r ystyriaeth hon yn gymwys i'r awdurdodau rhestredig eraill, fel cynghorau sir, byrddau iechyd lleol a Gofal Cymdeithasol Cymru, ac yn y blaen. Felly, rwy'n cydnabod y mater y mae'r gwelliant yn ceisio mynd i'r afael ag ef, ac rwyf wedi cynnwys rhai sylwadau ar y mater hwn yn y memorandwm esboniadol diwygiedig i'r Bil, ond fy marn i yw bod hynny'n rhoi sylw digonol i'r pryderon a fynegwyd ac felly, buaswn yn annog yr Aelodau i beidio â chefnogi'r gwelliant penodol hwnnw.

Diolch, Lywydd. O ran gwelliant 47, y cryfder mwyaf a gafodd gydnabyddiaeth yn y Bil yng Nghyfnod 1 oedd y natur gadarnhaol o'i fewn, a dyna pam y cynigir y gwelliant hwn, gan nad oes fawr o gyfle i'r Cynulliad graffu ar yr egwyddorion cyn eu cyflwyno, ar y datganiad o egwyddorion cyntaf fan lleiaf. Gallai hynny fod yn destun pryder. Deallaf mai swyddfa'r ombwdsmon, ar ôl derbyn beth bynnag y mae'r Bil hwn yn ei gasglu yn y pen draw, yw'r corff a fydd yn llunio'r datganiad o egwyddorion, ond mae yna hen ymadrodd Platonaidd da, 'Pwy fydd yn goruchwylio'r goruchwylwyr?' Ac er bod yn rhaid i'r ombwdsmon drwy ddiffiniad fod ar wahân i'r lle hwn—hyd braich o'r lle hwn—mae gan y Cynulliad rôl yn y cyd-destun hwn yn ein barn ni.

Mewn perthynas â gwelliant 48, roedd yr Aelod cyfrifol yn cwestiynu pam y byddai cyrff mwy eraill—ac enwodd nifer o gyrff mwy o faint—yn cael eu trin yn wahanol. Y rheswm yw oherwydd eu bod yn gyrff mwy o faint. Nid yw'n gymwys ar gyfer pob cyngor tref a chymuned—ni fyddai gan nifer ohonynt reswm i beidio â chyflawni rhai o'r gofynion y manylir arnynt yma. Nid yw ond yn gymwys ar gyfer y rheini a fyddai, am resymau'n ymwneud ag adnoddau, fel yr amlinellais i ac fel yr amlinellodd Un Llais Cymru wedyn yn yr ohebiaeth a ddyfynnais, yn ei chael hi'n anodd bodloni'r gofyniad hwn yn ymarferol, at ddibenion ymarferol. Felly, nid yw'n ofyniad gorfodol sy'n gymwys ar gyfer pob corff cyhoeddus neu bob corff sy'n destun cylch gwaith yr ombwdsmon; nid yw ond yn bŵer disgresiynol i'w ddefnyddio pan fo corff yn debygol, neu pan wyddys bod corff heb adnoddau i fodloni'r gofyniad o fewn y telerau penodol yn y Bil. Ac mae angen inni fynegi'r pryder hwnnw. Mae angen inni fynegi'r gwahaniaeth ar draws y sector cyhoeddus, ac yn enwedig o fewn cynghorau tref a chymuned ar draws Cymru. Nid yw caniatáu perfformiad gwael gan dangyflawnwyr yn esgus. Mae angen mynd i'r afael â hynny. Mae'n fesur ymarferol i helpu'r rheini a allai wneud yn well yn y dyfodol i gyrraedd y pwynt hwnnw heb eu cosbi am bethau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth. Rwy'n cynnig.

17:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 47? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn, felly, i bleidlais electronig ar welliant 47. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 47.

Gwelliant 47: O blaid: 11, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 11 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 11.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 48 (Mark Isherwood).

Gwelliant 48. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 48? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Pleidlais, felly, ar welliant 48. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 48.

Gwelliant 48: O blaid: 11, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 12 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 12.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 13 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 13.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 14 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 14.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 15 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 15, felly.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 16 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 16.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 17 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 17, felly.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 18 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 18, felly.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 19 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 19.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 10: Pwerau gwneud rheoliadau (Gwelliant 10)

Grŵp 10 yw'r grŵp nesaf o welliannau—y gwelliannau yma'n ymwneud â phwerau gwneud rheoliadau. Gwelliant 20 yw'r prif welliant, a'r unig welliant. Llyr Gruffydd i gynnig y gwelliant. 

Cynigiwyd gwelliant 20 (Llyr Gruffydd).

Diolch, Llywydd. Dwi'n cynnig gwelliant 20.

Mae adran 65 o'r Bil yn cyfeirio at yr ombwdsmon yn gweithio ar y cyd â phersonau penodedig. Mae is-adran 2 yn manylu'r personau penodedig y mae’n ofynnol i’r ombwdsmon eu hysbysu ac ymgynghori â nhw wrth ymchwilio i faterion y gallai’r personau penodedig hynny gynnal ymchwiliad amdanyn nhw. Mae'r rhain wedi’u nodi ar wyneb y Bil, wrth gwrs, sef y comisiynydd plant, y comisiynydd pobl hŷn, comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, Comisiynydd y Gymraeg, a, lle mae’r mater yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol, Gweinidogion Cymru.

Nawr, mae modd diwygio is-adran 2 drwy reoliad yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol er mwyn ychwanegu neu ddileu person penodedig. Diben y gwelliant hwn yn syml yw cadarnhau, er eglurder, fod rheoliadau a wneir o dan adran 65(6) i'w gwneud gan Weinidogion Cymru.

17:05

Mae'r gwelliant hwn yn gwella ddrafft y Bil, gan roi pŵer rheoleiddio penodol ar wyneb y Bil, yn hytrach na dweud yn syml y gellir gwneud rheoliadau. Rwy'n hapus iawn i gefnogi'r gwelliant hwn.

Dim ymateb oddi wrth Llyr Gruffydd. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 20? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 20. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 11: Adolygu’r Ddeddf (Gwelliannau 39, 40, 41, 42)

Y grŵp nesaf yw grŵp 11, ac mae'r gwelliannau yma yn ymwneud ag adolygu'r Ddeddf. Gwelliant 39 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Suzy Davies i gynnig y gwelliant ac i siarad am y gwelliannau eraill. 

Cynigiwyd gwelliant 39 (Suzy Davies).

Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig gwelliant 39, gan siarad am yr holl welliannau yn y grŵp hwn.

Mae'r gwelliannau hyn yn cyfeirio at adran 72 o'r Bil, sy'n golygu bod gan y Cynulliad gyfle i adolygu gwaith yr ombwdsmon, rhywbeth rwy'n siŵr y bydd pawb ohonom yn ei gymeradwyo, yn arbennig gan fod yr ombwdsmon yn uniongyrchol atebol i ni. Mae'r gwelliannau hyn yn dileu'r cyfeiriad at bwyllgor Cynulliad oddi ar wyneb y Bil, ac yn gosod dyletswydd statudol ar y Cynulliad i fod yn gyfrifol am yr adolygiad hwnnw yn ei le. Gan fod y Cynulliad cyfan yn gwneud y statud, credaf y dylem lynu at yr egwyddor fod y Cynulliad cyfan yn gyfrifol am ei hadolygu, ac mae'n briodol fod y Bil yn gosod y swyddogaethau hyn ar ysgwyddau'r Cynulliad, yn hytrach nag ar bwyllgorau unigol yn uniongyrchol. Fel y soniais, byddwn yn siarad am welliant 43 yn fuan, sy'n caniatáu i'r Cynulliad ddirprwyo'r swyddogaethau hyn i bwyllgor, a thrwy'r Rheolau Sefydlog—dyna'r ffordd briodol o'i wneud, yn hytrach na rhoi dyletswydd ar bwyllgor Cynulliad ar wyneb y Bil. Felly, rwy'n argymell y newidiadau hyn i'r holl Aelodau. Diolch.

Mae'r gwelliannau hyn, fel yn achos y rhai a drafodwyd yng ngrŵp 2, yn diweddaru'r swyddogaethau a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan sicrhau y rhoddir swyddogaethau i'r Cynulliad, yn hytrach na'n uniongyrchol i bwyllgor. Ac fel gyda grŵp 2, bydd hyn yn alinio'r Bil â deddfwriaeth arall, megis Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2011, ac rwy'n hapus i gefnogi'r gwelliannau hyn.

Dwi innau hefyd yn hapus i gefnogi y grŵp yma o welliannau. Maen nhw’n gwneud mân newidiadau i’r Bil i sicrhau bod y rhwymedigaethau ar y Cynulliad yn gymwys i’r Cynulliad yn hytrach nag i un o’i bwyllgorau. Wrth ei ystyried e, fel roedden ni'n clywed, gyda gwelliant 43 y byddwn ni’n ei drafod yn y grŵp nesaf, mi fydd hyn yn caniatáu i’r Cynulliad, drwy Reolau Sefydlog, benderfynu sut i ymgymryd â’r rhwymedigaethau statudol y mae’r Bil yn eu gosod arno.

Diolch ichi, Lywydd. Dim ond diolch i'r Aelodau am roi ystyriaeth ddifrifol i'r gwelliannau hyn. Diolch.

Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn gwelliant 39? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 39. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 40 (Suzy Davies).

Cynnig. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 40? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 40. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 41 (Suzy Davies).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 41? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 41. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 42 (Suzy Davies).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 42? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 42.  

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Group 12: Swyddogaethau’r Cynulliad (Gwelliant 43)

Grŵp 12 yw'r grŵp nesaf o welliannau, sydd yn ymwneud â swyddogaethau'r Cynulliad. Gwelliant 43 yw'r prif welliant a'r unig welliant, a dwi'n galw ar Suzy Davies i gynnig y gwelliant hwnnw. Suzy Davies. 

Cynigiwyd gwelliant 43 (Suzy Davies).

Diolch eto, Llywydd. 

Rydym eisoes wedi crybwyll—. Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n cynnig gwelliant 43, y soniais amdano eisoes mewn dadleuon blaenorol. Nid oes angen imi ei ailadrodd eto, yn ôl pob golwg; mae'r Aelodau wedi dynodi eu cefnogaeth i hyn. Mae'n sefyllfa—. Dim ond cadarnhau mai'r Cynulliad ei hun sy'n gyfrifol am gyflawni swyddogaethau penodol, yn hytrach na phwyllgor yn uniongyrchol, a mater i'r Cynulliad drwy Reolau Sefydlog yw caniatáu i bwyllgorau gyflawni'r swyddogaethau hynny ar ein rhan. Ac rwy'n ddiolchgar am yr arwydd cynnar o gefnogaeth i'r gwelliant hwn. Diolch.

Dwi innau'n hapus i gefnogi gwelliant 43. Fel dywedais i yn y grŵp blaenorol, mi fydd y gwelliant yn caniatau inni fel Cynulliad wneud darpariaeth yn y Rheolau Sefydlog er mwyn arfer swyddogaethau ynghylch adolygu'r Ddeddf, a hefyd ynghylch penodi'r ombwdsmon. Wrth gwrs, mae hyn yn debyg i’r ffordd y mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) yn gweithio o ran goruchwylio’r archwilydd cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru.

17:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 43? A oes unrhyw wrthynebiad? Derbynnir gwelliant 43. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 21 (Llyr Gruffydd).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? A oes unrhyw wrthynebiad? Derbynnir gwelliant 21, felly. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 13: Trosolwg (Gwelliant 1)

Sy'n dod â ni at grŵp 13, y grŵp olaf o welliannau, sy'n ymwneud â throsolwg. Gwelliant 1 yw'r unig welliant yn y grŵp yma. Llyr Gruffydd i gynnig y gwelliant. 

Cynigiwyd gwelliant 1 (Llyr Gruffydd).

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi’n cynnig gwelliant 1. Yn ystod trafodion Cyfnod 2, fe gytunwyd ar welliant i fewnosod adran 71 yn y Bil, sy’n rhoi’r awdurdod i gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i'r ombwdsmon mewn perthynas â safonau’r Gymraeg. Mae’r gwelliant hwn—gwelliant rhif 1 dŷn ni'n ei drafod nawr yn y grŵp yma—yn diweddaru adran 1 er mwyn sicrhau bod adran drosolwg y Bil yn adlewyrchu cynnwys y Bil yn gywir. Mae e yn gynnig ddigon hawdd ac rwy'n hyderus y bydd Aelodau'n ei gefnogi. 

Rwy'n hapus i gefnogi'r gwelliant hwn, sy'n diweddaru trosolwg y Bil i adlewyrchu gwelliant y Llywodraeth a gytunwyd yng Nghyfnod 2, sy'n dwyn yr ombwdsmon o dan y safonau iaith Gymraeg.

Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Aelod cyfrifol am y gwaith manwl a wnaeth ef a thîm y Cynulliad sy'n ei gefnogi ar y cyd â'r Llywodraeth ar wella'r Bil hwn. Rhwng Cyfnodau 2 a 3, mae Llyr Gruffydd wedi cyflwyno dros 250 o welliannau, gyda'r nod o sicrhau y bydd y Bil hwn yn cyflawni ei amcanion yn effeithiol ac y bydd yn gyfraith dda os caiff ei derbyn gan y Cynulliad Cenedlaethol. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r gwelliant olaf hwn heddiw ac yn cefnogi hynt y Bil.

Dim ond i ategu, os caf i, Llywydd, fy niolchiadau i bawb sydd wedi ymgysylltu â'r broses hyd yma. Diolch yn arbennig hefyd i glercod a thîm cyfreithiol y Pwyllgor Cyllid am eu cefnogaeth a'u holl gwaith wrth ddod â ni i'r pwynt hwn yn y broses. A gaf i hefyd ddiolch i Aelodau am eu cefnogaeth i'r gwelliannau dwi wedi'u cynnig heddiw, gan obeithio y gwelwch chi i gyd eich ffordd yn glir, wrth gwrs, i gefnogi'r un gwelliant bach sydd ar ôl? Diolch, Llywydd. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn yr un gwelliant bach yna sydd ar ôl, sef gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 1. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Sy'n dod â ni at ddiwedd ein hystyriaeth o Gyfnod 3 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Dwi'n datgan bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen wedi eu derbyn. Daw hynny â thrafodion y Cyfnod 3 yma i ben. 

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyfoeth Naturiol Cymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Ac felly'r eitem nesaf ar yr agenda yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Gyfoeth Naturion Cymru. Dwi'n galw ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig—Andrew R.T. Davies. 

Cynnig NDM6989 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru drwy ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2013.

2. Yn cydnabod gwaith caled y staff rheng flaen yn y sefydliad ond yn deall eu hanfodlonrwydd a'u diffyg hyder yn y penderfyniadau a wneir gan uwch reolwyr, fel y caiff ei fynegi'n rheolaidd mewn arolygon staff ers sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru.

3. Yn gresynu at fethiant systematig Cyfoeth Naturiol Cymru o ran pobl Cymru drwy nifer o sgandalau proffil uchel, gan gynnwys:

a) diffygion difrifol wrth ymdrin â chontractau pren, i'r graddau bod yr archwilwyr, Grant Thornton, wedi dweud eu bod mor ddrwg eu bod yn 'dwysáu'r amlygiad i'r risg o dwyll';

b) 'cymhwyso' cyfrifon y sefydliad gan Swyddfa Archwilio Cymru am dair blynedd yn olynol, sy'n awgrymu bod ansicrwydd ynghylch a oedd y sefydliad wedi gweithredu o fewn y rheolau;

c) y dull anghyson y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain wrth benderfynu ymyrryd ar faterion o ddiddordeb cyhoeddus megis saethu ar dir cyhoeddus a dympio mwd niwclear.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad/ymchwiliad annibynnol i fethiannau'r sefydliad ac ymchwilio i gynigion amgen ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd. Croeso i wlad y breuddwydion ar brynhawn dydd Mercher ar ôl pasio darn o ddeddfwriaeth ac yn awr i mewn i'r ddadl. Mae'n dda gweld bod mwy yn bresennol na'r arfer ar brynhawn dydd Mercher ar gyfer dadl diwrnod y gwrthbleidiau. Nid wyf yn meddwl y bydd yn para a chredaf efallai fod cwpanaid o de drws nesaf yn galw ar rai o'r Aelodau. Ond gallwn geisio eich dal, a dywedir wrthyf fod yna doesenni tu allan hefyd, os oes unrhyw un eu heisiau.

Mae'n bleser gwirioneddol cael cyflwyno'r ddadl y prynhawn yma ac edrych ar rai o'r problemau sy'n ymwneud â Cyfoeth Naturiol Cymru, y gwaith o'i greu ac yn amlwg, rhai o'r problemau a gafodd lawer o gyhoeddusrwydd sydd wedi wynebu'r sefydliad hwnnw dros y blynyddoedd diwethaf, a sut y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r diffygion hynny o bosibl mewn rhan mor bwysig o fywyd Cymru, h.y. ein hamgylchedd naturiol, a beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod yr holl arfau ar gael ar gyfer (a) ei ddiogelu a (b) ei wella.

Os caf ymdrin â'r gwelliannau a gyflwynwyd heddiw, ni fyddwn yn derbyn gwelliant y Llywodraeth a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Nid wyf yn hollol siŵr sut y mae'n ychwanegu neu'n cynnig unrhyw beth o werth i'r ddadl heblaw ceisio dileu pwyntiau 3 a 4. Wel, os edrychwch ar bwyntiau 3 a 4 mewn gwirionedd, nid ydynt ond yn tynnu sylw—yn enwedig pwynt 3—at yr hyn sy'n gwbl amlwg, sef bod y sgandalau ynghylch gwerthu coed wedi difetha enw Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae gwaith Grant Thornton wedi amlygu'n bendant y pwyntiau ynglŷn â'r perygl cynyddol o fod yn agored i risg a thwyll. Felly, ni allaf weld pam y byddech am ddileu'r hyn y cyfeiriwyd ato mewn gwirionedd yn yr ymchwiliad cyfrifon cyhoeddus ac adroddiadau amlwg eraill ar yr hanes trist ynghylch y fath anfedrusrwydd. Felly, yn anffodus, ni fyddwn yn derbyn gwelliant y Llywodraeth, ac mewn perthynas â gwelliannau Plaid Cymru, ni fyddwn yn derbyn dau welliant cyntaf Plaid Cymru, sy'n ceisio disodli ein pwynt sy'n dweud bod Cyfoeth Naturiol Cymru, yn anffodus, wedi gwneud cam â phobl Cymru

'drwy nifer o sgandalau proffil uchel'

â'r geiriau

'Yn gresynu at nifer y methiannau proffil uchel yn Cyfoeth Naturiol Cymru'.

Nid wyf yn hollol siŵr sut yn union y mae hynny'n ychwanegu unrhyw beth at y cynnig o gwbl, ond rwy'n siŵr y byddwn yn clywed hynny gan y siaradwr pan fydd yn cyfeirio at y gwelliannau hynny, ond byddwn yn derbyn y gwelliant olaf, gwelliant 4. Mae'n hollbwysig fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael adnoddau i gyflawni ei swyddogaethau ac yn benodol, pan edrychwch ar y ddeddfwriaeth a gyflawnwyd dros y blynyddoedd diwethaf yn y maes penodol hwn—Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015—a'r rhwymedigaethau a osodwyd ar Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n amlwg yn hanfodol fod yr adnoddau'n dilyn y cymhwysedd, os mynnwch, a drosglwyddwn i'r sefydliad hwn.

Mae'n werth ystyried, pan grëwyd Cyfoeth Naturiol Cymru chwe blynedd yn ôl, cafwyd rhai ffigyrau proffil uchel iawn a oedd yn amlwg yn cwestiynu a oedd hi'n ddoeth rhoi tri sefydliad mor wahanol o'r fath gyda'i gilydd—Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth. Yn arbennig, amlygodd Jon Owen Jones, a oedd yn gadeirydd y Comisiwn Coedwigaeth ar y pryd, wendid yr achos busnes a oedd gerbron y Cynulliad ar y pryd, yn edrych ar rai o'r amcanion polisi roedd y Gweinidogion yn ceisio eu hyrwyddo ac yn wir yn cwestiynu hyfywedd y syniad o uno tri sefydliad yn un sefydliad, ac mor wir oedd ei eiriau, ac maent wedi dod yn ôl i darfu arnom, i fod yn onest gyda chi, oherwydd, yn amlwg, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, mae'n tynnu sylw at y dirywiad a gafodd gryn dipyn o sylw yn y sector coedwigaeth yma yng Nghymru, ond yn arbennig y golled i drethdalwyr Cymru yn sgil contractau gwael y cytunwyd arnynt gan Cyfoeth Naturiol Cymru a digalondid llwyr y staff o fewn y sefydliad.

Nid yw sefydliad ond cystal â'i staff, ac mae llawer iawn o unigolion dawnus a ddaeth o'r tri chorff blaenorol i Cyfoeth Naturiol Cymru yn meddu ar angerdd a galwedigaeth i weithio yn y maes penodol hwn, ond yn anffodus, maent wedi dioddef yn sgil arweinyddiaeth wael, diffyg cyfeiriad a phwysau anferth y gwaith a osodwyd ar eu desgiau. Yn anffodus, mae arolwg staff ar ôl arolwg staff wedi dangos peth o'r pwysau sydd wedi wynebu nifer o'r staff o un flwyddyn i'r llall, o un diwrnod i'r llall, o un wythnos i'r llall. Dim ond 11 y cant o'r staff oedd â hyder yn y penderfyniadau a wneir gan uwch-reolwyr mewn un arolwg staff; 15 y cant a gredai fod gweithredoedd yr uwch-reolwyr yn gyson â gwerthoedd y sefydliad; dim ond 10 y cant a ddywedodd fod y sefydliad at ei gilydd yn cael ei reoli'n dda.

Yn 2016, rhoddodd y sefydliad y gorau i argraffu canlyniadau arolygon staff oherwydd bod y dystiolaeth mor ddamniol. Fel gwleidyddion mae'n amlwg mai ein lle ni yw gwneud yn siŵr fod llais y staff yn cael ei glywed ac yn y pen draw, fod y gwelliannau a'r mesurau diogelwch yn cael eu rhoi ar waith. Ac mor ddiweddar â 2018, mewn ymgynghoriad mawr â'r staff, ni chredai Cyfoeth Naturiol Cymru fod yr ad-drefnu a oedd yn digwydd o ran strwythurau staffio yn darparu sylfaen ar gyfer datblygu'r sefydliad. Roeddent yn credu y byddai llawer o'r timau newydd a oedd yn cael eu llunio yn creu pobl a allai wneud popeth yn weddol heb allu arbenigo ar ddim, ac yn y maes hynod arbenigol y mae nifer o'r staff hyn yn gweithio, mae'n hanfodol fod arbenigedd yn cael ei ganiatáu i ffynnu a'i adael i ddarparu'r mesurau diogelwch a'r gweithgareddau hyrwyddo sydd eu hangen gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn benodol, edrychodd adroddiad Grant Thornton, yr adroddiad mwyaf diweddar, ar y sgandal gwerthu pren ond edrychodd hefyd ar y ffordd roedd y sefydliadau wedi uno dros y chwe blynedd flaenorol, a thynnu sylw at sut roedd gweithio mewn seilos yn dal i ddigwydd i raddau helaeth o fewn y sefydliadau a bod y sector coedwigaeth, y cyngor cefn gwlad ac asiantaeth yr amgylchedd yn dal i edrych arnynt eu hunain fel sefydliadau unigol o dan un faner. A hyn oddeutu chwe blynedd ar ôl i'r tri sefydliad ddod at ei gilydd.

Rhaid bod hwnnw'n bryder enfawr i ni yma fel deddfwrfa ond yn enwedig i'r Llywodraeth, oherwydd mae rhan arall o'r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn amlygu peth o'r ymyrraeth gan y Llywodraeth, buaswn yn awgrymu, yng ngwaith Cyfoeth Naturiol Cymru, yn enwedig mewn perthynas â'r gwaharddiad ar saethu ffesantod, lle gofynnwyd am gyngor annibynnol ar gost o £48,000—gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru y gwaith cywir, aethant allan, cawsant y cyngor annibynnol, gwrandawsant ar y cyngor hwnnw a dywedasant y dylai'r sefyllfa bresennol barhau—ac yna ymyrrodd y Gweinidog i ddyfarnu yn erbyn. A nodaf ddoe fod yr adolygiad barnwrol wedi'i wrthod, adolygiad a gyflwynwyd am ei fod yn datgan yn glir nad oedd gan fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru unrhyw ddisgresiwn yn yr achos penodol hwn pan wnaeth y Gweinidog ymyrryd. Ac felly mae'r Llywodraeth yn atebol iawn am y materion sydd wedi codi yn sgil diffyg arweiniad llwyr gan Lywodraeth Cymru—

17:15

A ydych yn cydnabod bod pwyslais mawr bellach ar un diwylliant sefydliadol yn Cyfoeth Naturiol Cymru drwyddo draw ac yn cydnabod y bwrdd parhaol newydd a'r tîm arweinyddiaeth sy'n gweithio ar frig Cyfoeth Naturiol Cymru?

17:20

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Cyfarfûm â'r prif weithredwr yr wythnos diwethaf, ac mae ei gallu'n creu argraff arnaf, ond bob tro y mae pethau wedi mynd i'r pen dros y chwe blynedd diwethaf, yn enwedig mewn perthynas â morâl staff a chyfeiriad y sefydliad, rydym bob amser yn cael clywed, 'Mae'r rheolwyr yn mynd i'r afael â'r sefydliad cymhleth hwn a bydd yn well yfory', ac nid yw yfory, yn yr achos hwn, byth i'w weld yn dod, yn anffodus.

Ni fyddai neb yn fwy hapus na mi yn y Siambr hon o weld Cyfoeth Naturiol Cymru yn ffynnu, oherwydd, fel y dywedais, mae ganddo fandad enfawr. Mae'r amgylchedd yma yng Nghymru a'r potensial i ddatblygu'r amgylchedd hwnnw er budd cenedlaethau'r dyfodol yn waddol mwy na dim arall y gallwn ei drosglwyddo, a gwaetha'r modd, buaswn yn mentro dweud ein bod wedi aros yn ein hunfan ers chwe blynedd, ac mae amlygu rhai o'r materion hyn, fel y gwneuthum yn fy sylwadau agoriadol i'r ddadl hon, yn dangos yn amlwg mai dyna pam, yn ôl ym mis Rhagfyr, y galwasom am ad-drefnu Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae ein pwynt olaf yn y cynnig heddiw yn dweud bod angen edrych arno a'r rhaniad rhwng agweddau masnachol yr hyn a wna Cyfoeth Naturiol Cymru a'r agweddau rheoleiddiol, oherwydd nid yw'r ddau'n gydnaws â'i gilydd, ac mae angen ailfeddwl ac ailwampio'r sefydliad oherwydd mae'n rhan mor enfawr ac anferth o fywyd a DNA Cymru, ac mae wedi cael chwe blynedd i ddatblygu ei ysgogiad, ei ddylanwad, ei DNA, ac mae wedi methu gwneud hynny. Ac er fy mod yn dymuno'r gorau i'r bwrdd newydd, i'r prif weithredwr newydd, a'r cadeirydd dros dro—gan mai cadeirydd dros dro ydyw, nid yw'n benodiad amser llawn—ni allaf weld y sefydliad hwn yn cywiro rhai o'r camgymeriadau oherwydd bod y gwaith o'i ddatblygu chwe blynedd yn ôl—. Datblygwyd y sefydliad hwn yn y modd anghywir, fel y nododd Jon Owen Jones yn ei sylwadau ar y pryd, a llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon. Bydd rhai o'r Aelodau yn y Siambr hon yn cofio Antoinette Sandbach, a oedd mae'n debyg—. Aeth hi a minnau benben ar sawl achlysur ar rai materion, ond roedd Antoinette ar y pwynt hwn yn llefarydd materion gwledig a'r Aelod cyfrifol o safbwynt y Ceidwadwyr, a thynnodd sylw at nifer o'r problemau hyn sydd wedi dod yn ôl i darfu ar y sefydliad hwn. Gallwch edrych yn ôl ar y Cofnod, ac mae'n dangos y cyfeiriad teithio roeddem yn ei ragweld chwe blynedd yn ôl.

Felly, yn hytrach na'n bod yn parhau ar y trywydd toredig hwn, beth am fynd yn ôl i'r dechrau a gadewch i ni ad-drefnu'r sefydliad hwn fel y gallwn adeiladu sefydliad a fydd, yn y bôn, yn datblygu amgylchedd yma yng Nghymru a fydd â photensial i fod yn amgylchedd y bydd unrhyw un ar draws y byd yn edrych arno ac yn dweud, 'Dyna'r sefydliad rydym ei eisiau o fewn ein strwythurau ein hunain a'n fframweithiau ein hunain.' Nid ydym wedi gwneud hynny ers chwe blynedd, a dyna'r rheswm pam ein bod yn cyflwyno'r ddadl hon gerbron y Siambr y prynhawn yma. Felly, dyna pam y galwaf ar y Siambr i gefnogi'r cynnig—yn enwedig y gallu i beidio â gadael iddo sefyll am ddwy, tair, pedair blynedd arall, a gobeithio y daw'n iawn. Mae gobaith wedi diflannu o'r ddadl hon ers amser maith. Nawr mae'n bryd symud ymlaen a datblygu'r atebion sydd eu hangen arnom ac nid troi cefn ar rai o'r cwestiynau anodd sy'n cael eu gofyn i ni. A dyna pam y gobeithiaf y bydd y Siambr yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron y prynhawn yma.

Ceir potensial a chyfleoedd enfawr yn y dyfodol gyda'r cyfrifoldebau a ddaw i'r Siambr hon ac i'r Llywodraeth pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd: tua 40 o gyfrifoldebau newydd, gyda llawer ohonynt ym maes yr amgylchedd, ac ni chafodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei lunio i ymdrin â'r cyfleoedd hyn. Beth am roi'r sefydliad hwn yn ôl ar y trywydd iawn, gadewch i ni droi ein cefnau ar rai o'r methiannau ac edrych ar y cyfleoedd. A dyna pam rwy'n galw ar y Siambr i gefnogi'r cynnig yma y prynhawn yma.

Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol yn enw Rebecca Evans.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle bwyntiau newydd:

Yn nodi casgliadau ac argymhellion yr adroddiadau gan:

a) Ymchwiliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol i adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-2018—Tachwedd 2018;

b) Grant Thornton—Cyfoeth Naturiol Cymru—Llywodraethu’r Gwaith o Werthu Pren—Chwefror 2019.

Yn croesawu penodi prif weithredwr a chadeirydd dros dro newydd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a’u hymrwymiad i weithredu argymhellion y ddau adroddiad a gwella’r modd y caiff Cyfoeth Naturiol Cymru ei reoli a’i lywodraethu. 

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ym mhwynt 3, dileu 'Yn gresynu at fethiant systematig Cyfoeth Naturiol Cymru o ran pobl Cymru drwy nifer o sgandalau proffil uchel' a rhoi yn ei le 'Yn gresynu at nifer y methiannau proffil uchel yn Cyfoeth Naturiol Cymru'.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu adolygiad annibynnol er mwyn canfod a yw'n dal yn briodol i Gyfoeth Naturiol Cymru barhau i reoli'r ystâd goedwig fasnachol yng Nghymru ac ystyried unrhyw fodelau amgen posibl.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru adnoddau priodol i gyflawni ei holl ddyletswyddau yn ddigonol.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n stryglo, mae'n rhaid i mi ddweud, gyda'r hyn mae'r Ceidwadwyr yn galw amdano fe oherwydd maen nhw'n dymuno pob llwyddiant i'r prif weithredwr newydd a'r cadeirydd interim, ond ar yr un pryd yn dweud eu bod nhw i gyd yn anobeithiol a bod rhaid ailgychwyn ac ail-greu sefydliad o'r newydd.

Wel, yn fy marn i, dechrau o'r dechrau yw'r peth olaf dŷn ni eisiau. Hynny yw, bydden ni wedyn yn gwastraffu'r gwaith sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf, a'r rheswm dŷn ni'n cynnig un o'n gwelliannau ni, yr ail welliant, yw dwi ddim yn derbyn yr honiad yn y cynnig bod yna fethiant systematig—dyna'r geiriad, 

'Yn gresynu at fethiant systematig Cyfoeth Naturiol Cymru'.

Oes, mae yna fethiannau, a dŷn ni'n gresynu at rai o'r methiannau hynny, ond allwch chi ddim trio characterise-o'r sefyllfa fel bod yr holl sefydliad yn wallus o'i gorun i'w sawdl, a dwi yn meddwl ei bod hi'n anffodus eich bod chi'n pardduo'r holl sefydliad oherwydd methiannau rhai pobl o fewn y sefydliad hwnnw. Nawr, fel dwi’n ei ddweud, y peth olaf byddwn i eisiau yw aildrefnu llwyr oherwydd mi fyddai hynny—

Andrew R.T. Davies a gododd—

17:25

Na, na, dwi eisiau cael mwy na munud i ddatblygu fy nadl, os gaf i. Efallai y gwnaf i ei gymryd e ar y diwedd, os oes amser. Dwi wedi colli lle roeddwn i’n mynd nawr yn barod.

Rwyf i wedi sôn o’r blaen am Brexit a’r holl newidiadau a phroblemau fydd yn dod yn sgil hynny. Wel, os ŷch chi’n cyflwyno newid sefydliadol sylweddol ar yr un pryd â hynny, rŷch chi’n gofyn am drafferth, yn fy marn i.

Mae gwelliant 4 gennym ni, wrth gwrs, yn cyfeirio, fel rydym ni bob tro yn ei wneud pan ydym ni'n sôn am Gyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â’r wasgfa adnoddau. Y gwir yw bod y sefydliad wedi dioddef toriad o 35 y cant i’w ariannu mewn termau real ers cael ei sefydlu—traean o’i gyllideb wedi cael ei golli mewn cwta pum mlynedd. Nawr, dangoswch i fi unrhyw sefydliad sy’n gallu cymryd toriadau o’r fath yna heb fod yna rai oblygiadau fydden ni ddim yn eu dymuno ac yna rŷch chi’n gwneud yn dda, yn fy marn i. Ac ar yr un pryd, wrth gwrs, fel dwi hefyd yn atgoffa Aelodau’n gyson, mae’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau wedi cynyddu drwy Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, trwy Ddeddf yr amgylchedd ac yn y blaen, ac mae’r trajectory yna yn gwbl anghynaladwy. Adnoddau’n crebachu, cyfrifoldebau’n cynyddu.

Ac mae’n dweud tipyn, dwi’n meddwl, fod y sefydliad wedi bod yn mynd trwy adolygiad sefydliad cyfan, whole-organisation review, ac yntau’n sefydliad mor ifanc, os liciwch chi—beth, rhyw bump, chwe blynedd oed—gan gydnabod y byddai’r sefydliad, o ganlyniad i hynny, ie, yn gorfod gweithio mewn ffyrdd gwahanol mewn rhai meysydd o weithgarwch, ond hefyd yn gweithredu yn arafach mewn rhai meysydd. Wel, dywedwch chi hynny wrth y bobl sy’n aros am drwyddedau amgylcheddol neu am ganiatâd cynllunio mewn rhai meysydd, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n ddigon araf yn barod. Neu, wrth gwrs, ddim yn cyflawni rhai dyletswyddau o gwbl, yn ôl llythyr gan y prif weithredwr i‘r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ychydig yn ôl, ac felly, efallai dylem ni fod yn troi at y Llywodraeth a gofyn, 'Wel, pa elfennau o’u gwaith nhw, felly, rŷch chi’n hapus iddyn nhw ollwng os ydyn nhw’n dweud wrthych chi efallai bod yn rhaid gwneud hynny?'

Nawr, dwi yn teimlo bod yna gwestiwn dilys yn y cynnig ynglŷn ag annibyniaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn sicr, beth bynnag yw eich barn chi ynglŷn ag a oedd y penderfyniad i wahardd saethu yn un cywir ai peidio, dwi’n meddwl bod y broses a gafwyd, pan gytunwyd yn unfrydol i beidio â chyflwyno gwaharddiad yn y lle cyntaf, ac wedyn, wrth gwrs, fel rŷm ni wedi trafod yn y gorffennol, y Gweinidog ar y pryd yn ysgrifennu llythyr ac yn datgan barn glir, ac o fewn dim o amser, y safbwynt yn newid. Mae hynny, yn fy marn i, yn codi cwestiynau sylfaenol, ond ar yr un pryd, wrth gwrs, mi oedd y Llywodraeth yn cuddio y tu ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru ar fater y mwd niwclear oedd yn cael ei ollwng oddi ar arfordir Cymru. Felly, rhywsut, mae'r Llywodraeth yn trio reidio dau geffyl, a dwi ddim yn meddwl y gallwch chi ei chael hi fel yna. Naill ai mae Cyfoeth Naturiol Cymru—mai nhw yw’r arbenigwyr a nhw sy’n gwneud y penderfyniad, neu rŷch chi’n derbyn rhai penderfyniadau, efallai, fel Llywodraeth, dŷch chi ddim yn eu licio, a dwi’n meddwl bod eisiau bach fwy o onestrwydd yn hynny o beth.

Dwi wedi codi hefyd, yn y gorffennol, fy nheimladau i ynglŷn â natur y berthynas rhwng y sector goedwigaeth a’r gwaith y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud ac wedi galw am ymchwiliad annibynnol nid i'r holl sefydliad, fel mae’r Ceidwadwyr yn galw amdano fe, ond, yn sicr, i’r elfen yna o a ydyn nhw’n addas i barhau i reoli’r ystâd goedwig fasnachol yng Nghymru yn benodol.

Ac yn yr ychydig eiliadau sydd ar ôl gen i, mi fyddwn i’n pwysleisio—. Mae’n rhaid inni feddwl am y staff yn hyn o beth. Oes, mae yna brif weithredwr newydd, oes, mae yna gadeirydd dros dro newydd, mae yna nifer o aelodau newydd ar y bwrdd, ond mae’r staff yna o hyd, ac mae’r staff, ar y cyfan, yn ardderchog, a dwi’n meddwl ei bod hi’n anffodus bod y cynnig yma gan y Ceidwadwyr yn pardduo pawb, os liciwch chi, o fewn y sefydliad, ac yn gwneud hynny, yn anffodus, ar sail ffaeleddau ambell un.

Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas i'r diben. Deilliodd y gwaith o greu cwango mwyaf Cymru o gynnig byrbwyll heb ei weithredu'n iawn i uno tri chorff gwahanol a chanddynt dair strategaeth waith wahanol. O ganlyniad, gwelwyd diffyg arweinyddiaeth, mae morâl y staff wedi plymio, gwastraffwyd arian cyhoeddus ac mae hyder yn y sefydliad wedi diflannu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael digon o rybuddion ynglŷn â methiant difrifol Cyfoeth Naturiol Cymru ond mae wedi methu gweithredu. Mae i sefydliad sydd mor bwysig i fywyd yng Nghymru gael barn amodol ar ei gyfrifon am y drydedd flwyddyn yn olynol yn ddigynsail ac yn annerbyniol. Clywn yn awr fod prif weithredwr newydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyfaddef y gallai eu cyfrifon wynebu barn amodol am bedwaredd flwyddyn, rhywbeth nas gwelwyd erioed o'r blaen.

Yn ei adroddiad diweddar, daeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i'r casgliad nad yw trefniadau rheoli mewnol Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas i'r diben, ond—ac mae hyn yn peri pryder arbennig—tynnwyd sylw at yr un materion yn ymwneud ag afreoleidd-dra dair blynedd yn ôl gan yr archwilydd cyffredinol ar y pryd. Arweiniodd y cyfuniad hwn o arweinyddiaeth analluog, diffyg atebolrwydd a morâl staff isel at staff gydag arbenigedd masnachol hanfodol yn gadael. O ganlyniad, gwnaethpwyd penderfyniadau sydd wedi achosi colled ariannol ddifrifol i'r trethdalwr. Amlygir hyn yn y dadleuon ynglŷn â sut y cafodd pren ei werthu dro ar ôl tro heb fynd i'r farchnad agored. Collodd y sgandal o leiaf £1 miliwn i drethdalwyr Cymru, ac arweiniodd at ymddiswyddiad cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Disgrifiwyd y sefyllfa ar y pryd gan Lee Waters, cyn ei ddyrchafu i'r fainc flaen, a dywedodd—a'i eiriau ef yw'r rhain—

'dylai fod atebolrwydd gan yr uwch arweinwyr... [yn] y sefydliad hwn, sy'n ymddangos fel pe bai wedi colli rheolaeth.'

Aeth ymlaen i ddweud

'ymddengys bod adran goedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru wedi colli rheolaeth'.

Ers hynny mae llawer wedi colli ffydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn ddiweddar, anfonodd deg o gwmnïau coed lythyr ar y cyd at Lywodraeth Cymru yn dweud nad oedd ganddynt hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli coedwigaeth yng Nghymru. Honnent fod 12,000 o swyddi yn yr economi wledig a £100 miliwn o fuddsoddiad newydd dros y pum mlynedd nesaf mewn perygl. Daeth y cwmnïau hyn i'r casgliad nad oedd ganddynt hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu gwasanaeth cynaliadwy neu fasnachol mewn modd masnachol hyfyw.

Yn 2018, ildiodd Cyfoeth Naturiol Cymru i bwysau gan weinidogion a phenderfynodd beidio ag adnewyddu trwyddedau ar gyfer saethu adar hela ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Roedd y penderfyniad hwn yn groes i dystiolaeth wyddonol ac adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun nad oedd angen newid y ddeddfwriaeth bresennol. Drwy ildio i Lywodraeth Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi sector sy'n werth £75 miliwn y flwyddyn i economi Cymru a 2,400 o swyddi mewn perygl.

Ddirprwy Lywydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi siomi pobl Cymru mewn ffordd systematig. Ni ellir caniatáu i'r sefyllfa bresennol barhau. Mae'n bryd cael gwared ar Cyfoeth Naturiol Cymru a gosod dau gorff ar wahân yn ei le: un i ymdrin â'r dyletswyddau rheoleiddio a gyflawnir gan y sefydliad a'r llall, ei agweddau masnachol. Dyna y mae'r ochr hon i'r Siambr yn gofyn amdano. Drwy wneud y newidiadau hyn yn unig y gallwn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr a darparu amddiffyniad effeithiol ac effeithlon i'r amgylchedd yng Nghymru. Diolch.

17:30

Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw ar Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym wedi bod yn sôn am Cyfoeth Naturiol Cymru gryn dipyn yn y Siambr hon dros y ddwy flynedd ddiwethaf felly efallai ei bod yn briodol inni gael trafodaeth fwy eang, fel rydym yn ei chael heddiw, ar stiwardiaeth gyffredinol y sefydliad ar amgylchedd naturiol Cymru.

Mae cynnig y Ceidwadwyr yn beirniadu'r penderfyniadau a wnaed gan uwch-reolwyr ac yn nodi diffygion yn y ffordd y cafodd contractau pren eu trafod, gosod amodau ar gyfrifon gan Swyddfa Archwilio Cymru am dair blynedd yn olynol, a'r gwrth-ddweud cynhenid ynghylch agweddau tuag at ymyrraeth ar y naill law, ar fater saethu ar dir cyhoeddus, ac ar y llaw arall, mater dympio slwtsh niwclear fel y'i gelwir ym Môr Hafren. Er, wrth gwrs, nid yw'r mater penodol hwnnw'n ymwneud â Cyfoeth Naturiol Cymru yn unig; mae'n ymwneud â Llywodraeth Cymru yn ogystal a'r modd y mae'n rhyngweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r materion hyn oll yn faterion o bwys, mae llawer wedi'i ysgrifennu amdanynt a chredaf ei bod yn iawn eu galw'n fethiannau ac yn fethiannau go ddifrifol. Mae'r Ceidwadwyr hefyd yn cyfeirio at arolygon staff a gynhaliwyd o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru, sef yr arwydd cyntaf o anniddigrwydd o fewn y sefydliad hwnnw. Yr arolygon staff cynnar oedd yr awgrym cyntaf efallai nad oedd y sefydliad, a oedd yn gyfuniad o'r tri chorff gwahanol, yn sefydliad hapus iawn o'r cychwyn cyntaf. Cyfeiriodd Andrew R.T. Davies hefyd yn ei gyfraniad at y ffaith fod rhai Aelodau'n ceisio tynnu sylw Llywodraeth Cymru at ei ddiffygion o gam cynnar. Yn anffodus, roedd yn rhaid i bethau symud yn eu blaenau a bu'n rhaid i'r methiannau ddod yn fwy amlwg cyn i unrhyw gamau gael eu rhoi ar waith.

Nawr, i fod yn deg, mae Llywodraeth Cymru—. Y pwynt a wnaeth Rhianon: mae Llywodraeth Cymru wedi penodi prif weithredwr newydd a chadeirydd dros dro, felly cafwyd cydnabyddiaeth o fethiannau yn y gorffennol a'r angen i wneud pethau'n wahanol yn y dyfodol. Cawsom sesiwn graffu gyda ffigyrau blaenllaw o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru ar y pwyllgor amgylchedd yn ddiweddar, felly clywsom sut y mae pethau'n datblygu yn y sefydliad o'u safbwynt hwy, ac roedd honno'n sesiwn ddefnyddiol. Un broblem a oedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cychwyn oedd yr angen i ddod â gwybodaeth arbenigol i mewn o'r tu allan i Gymru am nad oedd digon o arbenigedd o fewn y sefydliad. Felly, roedd honno'n broblem o ran sut y sefydlwyd y corff ar y cychwyn.

Efallai, fel y mae Llyr Gruffydd yn awgrymu fel posibilrwydd, fod y sefydliad bellach yn dod i drefn ac yn dechrau cyflawni ei gylch gwaith yn fwy effeithiol. Rwy'n meddwl bod hynny'n wir i ryw raddau, ac mae angen i ni roi cyfle iddo. Nawr, edrychais ar y cynnig gan y Ceidwadwyr a meddwl, o'ch cynnig chi, eich bod chi'n caniatáu ar gyfer y posibilrwydd hwnnw mewn gwirionedd, oherwydd nid ydych yn nodi yn eich cynnig fod yn rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru fynd, er fy mod yn ymwybodol o'r cyfraniad y mae Oscar Asghar newydd ei wneud. Ond wrth edrych ar eich cynnig, nid ydych yn dweud bod yn rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru fynd; mae eich cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad annibynnol i fethiannau'r sefydliad ac i ymchwilio i gynigion amgen. Felly, ar y sail honno, roeddem yn eich cefnogi, ac mae hynny'n wir o hyd, oherwydd rhaid inni gyd-fynd â'r cynnig, nid o reidrwydd â phopeth a ddywedwch. Credaf fod angen inni gael adolygiad annibynnol trylwyr o'r hyn sydd wedi mynd o'i le yn y gorffennol, ac felly rydym yn cefnogi'r cynnig.

Mae gwelliant Llywodraeth Cymru yn datgan eu bod wedi penodi prif weithredwr a chadeirydd newydd. Mae'n cydnabod ein bod wedi cael adroddiadau gwael ar Cyfoeth Naturiol Cymru, ond mae'n dweud bod y sefydliad bellach yn ceisio gweithredu argymhellion dau adroddiad cyfredol, sy'n ddigon teg cyn belled ag y mae'n mynd. Nid yw'n cynnwys unrhyw adolygiad ehangach posibl i weld a yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas i'r diben mewn gwirionedd, fel y mae cynnig y Ceidwadwyr yn llwyddo i'w wneud.

Yr amrywiol welliannau gan Blaid Cymru: mae gwelliant 2 yn lleddfu cynnig y Ceidwadwyr, ac mae gwelliant 3 yn rhoi ffocws mwy cyfyngedig iddo fel nad yw ond yn feirniadol o Cyfoeth Naturiol Cymru ar faterion yn ymwneud â choedwigaeth yn unig. Wel, y broblem yw bod methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn eang. Nid ydynt wedi'u cyfyngu i faterion coedwigaeth yn unig. Rwy'n derbyn bod gan Llyr Gruffydd amheuon fod y Ceidwadwyr, yn ei farn ef, wedi pardduo'r holl staff, ond nid wyf yn credu bod hynny'n wir mewn gwirionedd, ac os edrychwch ar bwynt 2, maent yn cydnabod gwaith caled y staff rheng flaen yn y sefydliad. Eu barn hwy oedd eu bod wedi cael cam gan y rheolwyr, felly—.

Felly, mae'n well gennym gefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw, ac ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau y soniais amdanynt. Byddwn yn cefnogi gwelliant 4 Plaid Cymru, sydd, yn gwbl gywir, yn tynnu sylw at y ffaith bod angen i Cyfoeth Naturiol Cymru gael adnoddau priodol. Diolch yn fawr.

17:35

Diolch i'r Aelod blaenorol am ei gyfraniad a'i gefnogaeth i'n cynnig. Rwy'n meddwl bod hwnnw'n bwynt gwirioneddol bwysig, pwynt 2 yn ein cynnig: rydym yn cydnabod gwaith caled y staff rheng flaen yn y sefydliad, ac yn cydnabod eu hanfodlonrwydd a'u diffyg hyder yn eu huwch-arweinwyr. Gwelsom hynny o'r arolygon staff. Rydym yn dweud ar ddiwedd ein cynnig ein bod eisiau adolygiad neu ymchwiliad annibynnol i fethiannau'r sefydliad, i ymchwilio i gynigion amgen, ac rwy'n meddwl mai un opsiwn o reidrwydd yw cael gwared ar y sefydliad a gwneud rhywbeth gwahanol. Fodd bynnag, os yw'r rheolwyr newydd yn llwyddo i drawsnewid y sefydliad o'r diwedd a'n bod yn gweld arwyddion go iawn o welliant, rydym yn agored i hynny. Hynny yw, o ran fy nghysylltiad i â Cyfoeth Naturiol Cymru, fe ddechreuodd pan ddeuthum yn Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. [Torri ar draws.] Fe ildiaf.

Nid wyf am i hyn fod amdanaf fi, ond—. Faint o amser fyddech chi'n ei roi iddynt, felly? Oherwydd ar y naill law rydych yn dweud, 'Mae angen inni edrych ar fodelau amgen', ac ar y llaw arall rydych yn dweud, 'Wel, gobeithiwn y byddant yn llwyddo, y tîm rheoli newydd.' Felly, ai blwyddyn, dwy flynedd, tair blynedd?

Mae'n hollol bosibl inni edrych ar fodelau amgen tra hefyd yn gweld sut y mae'r sefydliad yn gwneud yn y cyfamser. Gallwn wneud dau beth ar unwaith. Dweud wyf fi, o fy safbwynt fy hun, roeddwn yn awyddus iawn i ddymuno'n dda i'r sefydliad hwn—rhyw fath o fantais yr amheuaeth. Pan ddeuthum i mewn, credaf mai dyna'r prif sefydliad yn sylw'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig mae'n debyg, a chlywais lawer o feirniadaeth yn ei gylch, ond roeddwn yn barod i ddweud, 'Edrychwch, mae'n sefydliad eithaf newydd, mae'n dal i fagu gwraidd; gadewch inni roi cyfle iddo.' Rwy'n llai parod i ddweud hynny ddwy neu dair blynedd er pan ddywedais hynny, pan oedd y sefydliad eisoes wedi bod yno ers o leiaf dair blynedd. Credaf fod yn rhaid i'r amser ddod pan fydd methiannau sefydliad yn parhau ac mor ddybryd mewn gwirionedd, fel bod rhaid ichi edrych ar newid strwythurol. Dylem edrych ar hynny tra'n parhau i fonitro'r hyn y mae'n ei wneud yn y cyfamser.

Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar ddau faes penodol lle rwyf wedi bod yn siomedig gyda'r sefydliad, neu o bosibl gyda rhyngwyneb y sefydliad a Llywodraeth Cymru, a'r meysydd hynny yw coedwigaeth ac ynni morol. Ceir cyfle enfawr mewn coedwigaeth. Rydym wedi cael system gyda'r polisi amaethyddol cyffredin lle mae pethau'n gogwyddo tuag at amaethyddiaeth ac oddi wrth goedwigaeth. Mae ffermio'n cael cymhorthdal yn seiliedig yn syml ar arwynebedd tir, a chaiff ei dynnu os caiff y tir ei drosglwyddo at ddibenion coedwigaeth, felly dyna ddatgymhelliad anferth i blannu coed. Ond wrth inni symud i'n system ein hunain yng Nghymru, ni ddylai hynny fod yn wir bellach. Mewn gwirionedd, dylai Cyfoeth Naturiol Cymru fod â llawer iawn o arbenigedd y gall ei ddefnyddio i helpu i ehangu'r sector coedwigaeth, o fewn ei berchnogaeth, ond hefyd, rwy'n credu, drwy ledaenu arferion gorau ac adeiladu cyfleusterau o fewn coedwigaeth. Dyna oedd y llinell melin lifio i fod. Dyna oedd y cyfiawnhad tybiedig dros roi'r contractau hirdymor hyn heb gystadleuaeth go iawn, ac eto ni chafodd y llinell melin lifio honno mo'i datblygu, a deallwn o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei bod yn debygol fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol o hynny, ond na wnaeth unrhyw beth i orfodi'r contract a oedd i fod i ddatblygu'r capasiti hwnnw. Felly, gofynnaf i'r sefydliad: oni allwch wneud rhagor i helpu ffermwyr sydd eisiau plannu rhywfaint o goed ar eu tir, i helpu i ddod â phobl newydd i mewn i'r diwydiant ac ehangu'r sector hwn er budd Cymru ac yn wir, o ran ein hamcanion newid hinsawdd?

Yn yr un modd, mewn perthynas ag ynni morol, dylai fod yn sector twf enfawr posibl i Gymru, a rhywbeth eto lle gallwn edrych ar ein hymrwymiadau newid hinsawdd a lleihau allyriadau. Deallaf fod Llywodraeth Cymru am flaenoriaethu'r sector hwn. Rwy'n credu bod y gwaith y bu Ynni Môr Cymru yn ei wneud, ar y nesaf peth i ddim i raddau helaeth, wedi bod yn gadarnhaol iawn, a deallaf mai Llywodraeth Cymru sydd y tu ôl i hwnnw. Ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan fawr o'r broblem, oherwydd os yw pobl eisiau rhoi cynnig ar gynllun ynni môr, boed yn ynni'r tonnau neu'r llanw, pa un bynnag—rhoi rhywbeth ar wyneb y dŵr neu ar wely'r môr sy'n rhoi cynnig ar ffordd newydd o gynhyrchu ynni ac ymchwilio i'w ymarferoldeb—rhaid iddynt fynd drwy weithdrefn drwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n eu trin fel pe baent yn rhyw fath o ddiwydiant trwm, a rhoi rhywbeth i mewn yn barhaol sy'n gorfod cael sylfaen dystiolaeth wych am eu bod wedi ei wneud o'r blaen ac yn gallu dangos i Cyfoeth Naturiol Cymru sut nad oes unrhyw risg o gwbl. Mae cael yr ymagwedd ragofalus hon a bod angen y graddau hynny o gymorth wrth gefn a gwybodaeth a thystiolaeth ar gyfer rhywbeth sydd, yn ei hanfod, yn arloesol ac yn gynllun peilot yn creu rhwystr enfawr i ynni môr yng Nghymru. Mae pobl yn y diwydiant yn tynnu gwallt eu pennau ac yn dweud pa mor anodd yw cael trwyddedau gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a pha mor rhwystredig yw ymdrin â'r sefydliad hwnnw. Yn yr Alban, mae ganddynt ddull o weithredu'n seiliedig ar weithredu a monitro, ac eto, yng Nghymru mae'n rhaid gwneud pob elfen a drwyddedir yn unigol. Mae mor anodd gwneud hynny. Rydych yn ceisio cael cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac maent yn codi cannoedd o bunnoedd o dâl arnoch am hyd yn oed ddechrau siarad â chi. Weinidogion, os gwelwch yn dda, ac os ydych yn credu o ddifrif yn y sector ynni môr, beth bynnag a wnewch am Cyfoeth Naturiol Cymru yn fwy cyffredinol, edrychwch i weld a allwch helpu i gyflymu'r broses hon ar gyfer ceisiadau am drwyddedau i gefnogi ynni môr, a pheidiwch â gadael i Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn rhwystr i hynny.

17:40

A gaf fi eich sicrhau nad yw'n rhoi unrhyw bleser i'r ochr hon i'r Cynulliad orfod tynnu sylw at y materion dadleuol hyn a nodi'r materion sydd wedi cyfyngu ar Cyfoeth Naturiol Cymru ers ei greu? Oherwydd mae rôl y corff yn hollbwysig ac mae ei ddiben yn hanfodol ar gyfer rheoli ein hamgylchedd naturiol yn effeithiol ac yn gynaliadwy yma yng Nghymru.

Yn ôl yn 2011, pan gyhoeddwyd y manylion ynglŷn â'r bwriad i uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Comisiwn Coedwigaeth am y tro cyntaf, dywedodd Gweinidog yr amgylchedd y byddai'r newid yn sicrhau rheolaeth fwy cynaliadwy ac effeithiol ar ein hadnoddau naturiol, ac mae'n rhaid gwneud honno'n egwyddor arweiniol pan fyddwn yn craffu ar y perfformiad go iawn.

Fel y dywedais o'r blaen—nid wyf yn hollol siŵr a ddywedais hynny ar y pryd, ond yn sicr fe'i dywedais pan oeddwn yn aelod o'r pwyllgor newid hinsawdd—nid oedd gwneud tri yn un byth yn mynd i fod yn hawdd. Roedd hi'n mynd i fod yn sefyllfa heriol i'r tîm rheoli yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac fel y clywsom, cafwyd newid yn yr arweinyddiaeth hefyd. Ceisiais roi canmoliaeth lle roedd yn ddyledus. Roedd yr arolwg staff y cyfeiriwyd ato yn ddyfais ragorol mewn gwirionedd ac yn arolwg gwirioneddol drwyadl. A chredwn fod gwneud hynny ar adeg pan oeddech yn uno sefydliadau, a phan oedd hi'n anochel fod pobl yn teimlo eu bod wedi'u cleisio rywfaint yn y broses honno, yn dangos arweiniad. Ond rwy'n credu mai rhai o'r problemau mwy cyffredinol eraill efallai sydd wedi tanseilio ein hyder eu bod yn symud ymlaen mewn gwirionedd, ac mae'r problemau sy'n ymwneud â choedwigaeth yn benodol wedi bod yn ddifrifol oherwydd eu bod wedi'u hailadrodd. Gadewch inni beidio ag anghofio nad un digwyddiad ydoedd; fe ddigwyddodd eto. Ac rwy'n credu bod rhaid i Lywodraeth Cymru ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb. Mae'n sefydliad hyd braich ac mae'n rhaid imi gyfaddef, byddai'r Llywodraeth yn cael ei beirniadu'n annheg pe bai'n ymyrryd gormod, ond mae angen i chi ddangos arweiniad, ac rydych yn barod i wneud hynny ar rai adegau, fel gyda materion sy'n peri pryder i'r cyhoedd, fel y dengys y gwaharddiad ar saethu o bosibl. Felly, rwy'n credu bod y sefydliad angen cyfeiriad teithio clir gan Lywodraeth Cymru.

Hefyd clywsom o'r cychwyn cyntaf fod Llywodraeth Cymru wedi cael rhybudd ynglŷn â'r heriau a oedd ynghlwm wrth greu sefydliad newydd. Ac felly rhaid dweud nad yw'r broses o newid rheolwyr wedi bod yn rhagorol, i'w roi yn y termau mwyaf caredig. A phe bai mwy o ofal wedi'i roi ar yr adeg pan gafodd y pethau hyn eu crybwyll, credaf y byddai rhai o'r problemau, yn sicr yr angen am gapasiti rheoli masnachol gwirioneddol gadarn yn y sefydliad newydd, wedi cael eu hystyried o'r cychwyn cyntaf yn ôl pob tebyg, pe baech wedi ystyried y ffordd roedd pobl yn beirniadu'r cynllun busnes gwreiddiol. Fe ildiaf.

17:45

Diolch yn fawr iawn. O ran rhai o'r materion rydych eisoes wedi tynnu sylw atynt—nid oes unrhyw amheuaeth y bu rhai problemau—yn ogystal â'r ailstrwythuro a'r ad-drefnu ar raddfa fawr o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru a gynigir gan y Blaid Geidwadol gyferbyn, beth arall a argymhellir? A hefyd, o ran ailstrwythuro'r tîm arweinyddiaeth, ailstrwythuro'r bwrdd, pa gamau pellach rydych yn eu rhoi—?

Wel, mae'n amlwg mai'r hyn sy'n rhaid iddynt—mae'n rhaid iddynt gydbwyso eu pwerau rheoleiddio, a roddwyd ar waith ganddynt gyda pheth synnwyr o ddiben yn fy marn i, a bod yn deg, gyda'u pwerau masnachol. Mae rhai o'r penderfyniadau masnachol yn herio unrhyw fath o ddadansoddi cyn gynted ag y bydd rhywun yn edrych arnynt, heb sôn am yr archwilydd yn edrych arno ac yn nodi'r methiannau brawychus mewn perthynas ag arferion masnachol o ran trin cwmnïau'n deg a thendro'n briodol. Nid yw'r rhain yn dasgau enfawr i'w rheoli ar gyfer asiantaethau cyhoeddus a ddylai allu manteisio ar y profiad i wneud hynny'n effeithiol, ac rwy'n siŵr fod y Llywodraeth wedi dweud wrthynt am ei wneud yn effeithiol.

Nawr, clywsom gan Blaid Cymru fod y cynnig hwn, rywsut, yn hytrach na bod yn graffu trwyadl a phriodol, yn ymosodiad milain ar y staff. Er tegwch, credaf fod pawb yn ystyried bod hynny braidd yn amheus. Efallai nad ydych yn hoffi'r cynnig, efallai y credwch ei fod yn gyfeiliornus, ond fel ymosodiad ar y staff, pan fo ail bwynt y cynnig yn mynd ati i ganmol y staff—. Ond wedyn, cawsom ddadl gwbl ryfedd fod y gair 'systematig' yn golygu ymwneud ag unigolion. Wel, rhaid imi ddweud, fy nealltwriaeth i o'r gair 'systematig' yw ei fod yn ymwneud â systemau, ond dim ond lefel 'O' mewn Saesneg iaith sydd gennyf, ac ni roddais lawer o sylw i'r ymarferion darllen a deall. Nid oes amheuaeth fod Llyr yn ddisgybl o'r radd flaenaf ac y gallai ddangos i mi pam rwy'n gwneud y camgymeriadau sylfaenol hyn.

Ond rwy'n credu hefyd fod angen inni gael neges fwy gobeithiol. Mae angen inni wneud penderfyniad drwy adolygiad i weld a ellir datrys hyn, ac rwy'n gobeithio y gellir ei ddatrys. Rwyf wedi cyfarfod â'r tîm arweinyddiaeth newydd, a chredaf fod ganddynt bob bwriad i weddnewid pethau. Ond os nad yw hynny'n mynd i fod yn bosibl, rhaid inni ailedrych ar y pethau hyn a chytuno ar ddull newydd o weithredu. Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.

Byddaf yn cefnogi'r cynnig. I amlinellu fy mhrofiad o ymdrin â Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ôl ym mis Medi 2017—y cyfarfod cyntaf un am y mwd niwclear. I fod yn onest, roedd gennyf hyder llwyr y byddai swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu lleddfu fy mhryderon am y mwd a'r drefn cynnal profion, ac yn y blaen. Nid oeddent yn gwybod dim am y profion, er mai hwy oedd y corff a oedd yn rhoi'r drwydded. Nid oeddent yn gwybod pa fath o brofion a gâi eu gwneud. Nid oeddent yn gwybod ble y câi'r profion eu cynnal. Ni allent ddweud wrthyf ar ba ddyfnder. Ni allent ddweud wrthyf lle byddai'r mwd yn y pen draw. Ond gwnaethant fy sicrhau serch hynny ei fod yn ddiogel heb wybod dim o'r manylion. Roedd mor ddrwg fel mai dyna'r unig dro yn fy ngyrfa broffesiynol y cynigiais ohirio'r cyfarfod hyd nes y gallwn gael ateb.

Ymgyrch nant y Rhath—y niwed, difetha parc yng Nghaerdydd, a dinistrio coed gwerthfawr iawn. Euthum i gyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru gyda'r Gweinidog newydd. Gallech ddweud ei bod hi'n newydd oherwydd roedd hi'n derbyn popeth roedd y swyddogion yn ei ddweud—nad oedd dewis arall. [Torri ar draws.] Gyda phob parch, roedd yr holl gyfarfodydd a fynychais—. [Torri ar draws.] Fe ildiaf os dymunwch. Rwy'n hapus i ildio. Yr hyn a ddywedwyd wrthym yn y cyfarfod oedd nad oedd unrhyw ddewis arall. Unwaith eto, yn fy ngyrfa gyfan, nid wyf erioed wedi cael swyddog yn dweud wrthyf nad oes dewis arall heb ei herio. Dyna a ddywedwyd wrthym. Ond fel y mae amser wedi dangos, wrth i bethau symud yn eu blaenau, rydym wedi gweld bod dewisiadau eraill da iawn i'r hyn a gynigir o ran nant y Rhath.

Os edrychwn ar y contractau pren, wyddoch chi beth, fe fuaswn yn canmol Cyfoeth Naturiol Cymru, oherwydd maent wedi gwneud yn bur dda yn dyfarnu contract i gwmni na wnaeth gais amdano hyd yn oed. Da iawn. Da iawn ar hynny. O ddifrif, canfu Grant Thornton fod eu hymddygiad wedi cynyddu'r risg o dwyll. Rwy'n cofio cael fy meirniadu yn ôl ym mis hydref 2017, rwy'n credu, unwaith eto pan wrthwynebais ymddeoliad dan orfodaeth y prif weithredwr pan gododd mater gosod amodau ar gyfrifon, ac fel y dywedais, dyfarnu'r contract i gwmni nad oedd wedi gwneud cais am y contract. Eto, caniatawyd i'r prif weithredwr hwylio tuag at y gorwel gyda'i becyn tâl. Nid oeddwn yn deall pam y cawn fy meirniadu yn ôl bryd hynny am ymosod ar hynny. Nid wyf yn gwybod hyd y dydd heddiw.

Ar lefel bersonol—nid wyf yn credu y bydd yr Aelodau'n gwybod hyn—mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi tramgwyddo yn erbyn fy niogelwch data personol fel gwleidydd yng Nghymru. Ffoniais ar un adeg ac roeddwn yn ystyried gwneud cwyn am fater penodol, ac yna cefais wybod yn nes ymlaen bod Aelod o'r Cynulliad hwn, gwleidydd yma, wedi cael eu briffio ynglŷn â fy ngalwad—anghredadwy. Anghredadwy, ac nid yw'r mater hwnnw byth wedi'i ddatrys. Rwy'n gwybod bod y person wedi cael ei friffio oherwydd gwelais yr e-bost a ysgrifennodd rhywun am y sesiwn friffio.

Felly, mae gennych yr holl bethau hyn yn chwyrlïo o'n cwmpas. Mae hwn yn fater eithriadol o ddifrifol. Bydd y mwd niwclear yn dod yn ôl—[Torri ar draws.] Gwn ei fod yn dreth braidd ar rai ohonoch i wrando ar hyn, ond byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda. Fel y dywedais, mae hwn yn fater hynod bwysig. Bydd mater y mwd niwclear yn dychwelyd. Efallai na fyddwch yn hoffi'r ffaith y bydd yn dychwelyd, ond fe fydd yn dychwelyd. Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn yn llwyr. Diolch yn fawr.

17:50

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw. Y tro diwethaf i ni drafod Cyfoeth Naturiol Cymru oedd mewn dadl yma ar 13 Chwefror, yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn ystod y ddadl, credaf ein bod i gyd wedi cydnabod, ac eithrio ambell un, y gwaith anhygoel a wneir gan staff Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â'r cyfeiriad pendant, cadarnhaol sydd wedi'i osod gan yr arweinyddiaeth newydd.

Rwy'n cydnabod yn llwyr y pryderon a godwyd gan y staff, a gwn mai'r flaenoriaeth i'r prif weithredwr a'i huwch-dîm yw sicrhau bod pob aelod o staff yn teimlo'n hyderus y cânt eu clywed pan fyddant yn rhoi eu barn ar y ffordd ymlaen. Dyma un maes yn unig lle mae'r mesurau sy'n angenrheidiol ar gyfer cryfhau strwythurau mewnol y corff a ffyrdd o weithio eisoes yn cael eu gweithredu.

Fel Llywodraeth Cymru, credwn mai'r cyfnod o ansicrwydd a gynigiwyd gan y gwrthbleidiau yw'r peth diwethaf un sydd ei angen ar staff Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r gwrthbleidiau'n galw am ymchwiliad annibynnol, am gynnal rhagor o drafodaethau. Yr hyn sydd ei eisiau yw i'r newid hwnnw ddigwydd yn awr. Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gylch gwaith a'r gallu i ddarparu craffu cadarn ac annibynnol ar gynnydd parhaus Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy'n croesawu ac yn cymeradwyo'r adroddiadau a gynhyrchwyd gan bwyllgorau'r Cynulliad. Derbyniwyd eu hargymhellion ac maent yn cael eu gweithredu. Ffocws Llywodraeth Cymru ac arweinyddiaeth newydd Cyfoeth Naturiol Cymru yw mynd i'r afael â'r heriau presennol a chyflawni'r newidiadau sydd eu hangen. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru allu i gyflwyno proses graffu annibynnol ar ei waith, ac yn wir, mae hyn yn rhywbeth y maent wedi'i wneud eisoes. Nid yw'r adroddiad gan yr archwilwyr, Grant Thornton, wedi gadael unrhyw beth heb ei archwilio'n drylwyr yn eu hadolygiad o weithgarwch coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru ganfyddiadau'r adolygiad i Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus cyn eu sesiwn dystiolaeth y mis diwethaf, a chyhoeddwyd yr adroddiad ar-lein, ynghyd â manylion y camau a gymerir i ymateb iddo. A chredaf fod hyn yn dangos y ffordd dryloyw y byddwn yn mynd ati i weithio drwy'r broses hon.

Credaf ei bod hi'n siomedig fod yr wrthblaid—y Torïaid ac UKIP—yn parhau i awgrymu mai'r ateb i'r heriau a wynebir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yw dad-wneud gwaith yr arweinyddiaeth newydd, chwalu'r sefydliad ac ad-drefnu eto. Rydym yn bendant yn erbyn y syniad, fel yr awgrymodd y Torïaid, mai'r ffordd orau o gyflawni'r gwasanaethau hynny yw eu chwalu. Un corff yw Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol—

17:55

Na wnaf, rydych wedi cael dweud eich dweud.

Un corff yw Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am holl adnoddau naturiol Cymru—[Torri ar draws.] Fe gewch yr amser. Gallwch gloi'r ddadl hon a gallwch gael eich cyfle.

Un corff yw Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am holl adnoddau naturiol Cymru, ac mae manteision clir i'r dull hwn o weithredu o ran effeithlonrwydd gweithredol, mewn cynllunio strategol ac ar gyfer rhoi'r camau cryfaf posibl ar waith i fynd i'r afael â'r materion hollbwysig sy'n torri ar draws y Llywodraeth a chymdeithas—pethau fel newid hinsawdd ac amddiffyn ein hecosystemau sy'n agored i niwed. Mae awgrymu bod angen inni chwalu Cyfoeth Naturiol Cymru yn creu bygythiad diangen i'n gwaith yn y meysydd hyn ac yn wahanol i'r Torïaid, nid ydym yn credu ei bod yn risg rydym yn barod i'w chymryd ar yr adeg dyngedfennol hon i'n hamgylchedd.

I roi un enghraifft yn unig, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dechrau prosiect y mis hwn i greu cynefin gwlyptir gwerthfawr yng nghoedwig Myherin yng nghanolbarth Cymru—ardal a reolir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu coed. Yn ogystal â diogelu rhywogaethau sy'n agored i niwed, bydd y prosiect hwn yn lleihau'r perygl o lifogydd i bobl yn nes i lawr yr afon. Mae'r ffaith mai un corff sy'n gyfrifol ar draws y materion hyn yn amlwg yn gwneud synnwyr ac yn darparu budd ychwanegol.

Gwnaeth Mark Reckless bwynt dilys iawn mewn perthynas â thrwyddedau ynni, ac wrth gwrs, rheswm Cyfoeth Naturiol Cymru dros fodoli yw er mwyn diogelu ein hadnoddau naturiol, ond rwy'n credu y gallwn wella'r sefyllfa o ran trwyddedu ac rwyf wedi cyfarfod â fy aelod cyfatebol yn yr Alban i weld beth y maent yn ei wneud yn yr Alban i weld a allwn symleiddio pethau.

Mae'n fy nharo'n rhyfedd iawn fod Plaid Cymru'n dweud ar y naill law fod angen mwy o adnoddau ar Cyfoeth Naturiol Cymru ond y dylai Llywodraeth Cymru dorri'r refeniw y mae'r sefydliad yn ei ennill o'i weithgarwch coedwigaeth. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i edrych ar ffyrdd eraill o godi incwm.

Rwy'n credu bod y rôl graffu y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei chwarae yn hanfodol i'n democratiaeth. Os yw'n wir fod yr Aelodau Torïaidd ac UKIP yn y Cynulliad hwn yn teimlo nad ydynt yn gallu cyflawni eu rôl graffu, gan gyfaddef bod angen ymchwiliad cyhoeddus oherwydd nad oes ganddynt hyder yn eu galluoedd eu hunain, yr Aelodau hynny o'r gwrthbleidiau sydd wedi gwneud cam â phobl Cymru. Ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'r gwrthbleidiau yn adfer eu hyder ac yn ymrwymo heddiw i wasanaethu pobl Cymru hyd eithaf eu gallu, yn hytrach na disgwyl i Lywodraeth Cymru dalu rhywun arall i wneud eu gwaith ar eu rhan.

Sefydliad o bobl dalentog yw Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n mynd i'r afael â rhai o'r materion pwysicaf sy'n wynebu ein cenedl, a chredaf y gall pobl Cymru fod yn haeddiannol falch o'r gwaith sy'n cael ei gyflawni ar eu rhan.

Fe wnaf adfer fy hyder cyn i mi siarad. I fod yn deg ag Andrew R.T. Davies, nid ef oedd yn cloi'r ddadl hon, felly pan geisiodd ymyrryd, dyna mae'n debyg oedd ei air olaf, ond dyna ni, fe wnaf fy ngorau i gloi.

A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth y prynhawn yma? Dim ond ychydig o wythnosau, fel y dywedodd y Gweinidog, sydd ers i mi siarad yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ein gwaith craffu ar adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru, cyfrifon y gosodwyd amodau arnynt, fel y gwyddom, am y drydedd flwyddyn yn olynol oherwydd afreoleidd-dra, yn fwyaf diweddar gyda chontractau pren.

A gaf fi nodi'n glir nad yw hyn yn feirniadaeth ar staff niferus a gweithgar iawn Cyfoeth Naturiol Cymru, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd rhai o'r Aelodau. Ac fel y dywedodd David Melding mor huawdl a syml, pe bai'n feirniadaeth ar y staff gweithgar, ni fyddai pwynt 2 ein cynnig yn dweud ein bod yn cefnogi'r staff gweithgar hynny. Ac wrth gwrs, y staff gweithgar hyn a gyfrannodd at yr arolygon staff a awgrymai fod problem yn ystod dyddiau cynnar iawn Cyfoeth Naturiol Cymru. Pe bai'r staff gweithgar hynny wedi cael eu clywed ar bwynt cynharach yn y broses hon, efallai na fyddem yn sefyll yma yn awr yn sôn yn gyson am y problemau a wynebwyd yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Credaf fod angen i bawb ohonom gydnabod eu bod yn weithgar a bod hon yn broblem ar lefel uwch. Mae'n ddigon posibl ei bod yn broblem systemig. Nid oes problem o ran dweud bod problem gyda'r system, oherwydd yn amlwg mae rhywbeth wedi mynd o'i le ar strwythur Cyfoeth Naturiol Cymru.

Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies ar ddechrau'r ddadl, efallai'n wir fod problemau'n deillio o'r ffordd y rhoddwyd Cyfoeth Naturiol Cymru at ei gilydd ar y dechrau, a mynegwyd hynny, mewn gwirionedd, yn ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gynhaliwyd gennym: uno tri sefydliad mawr. Iawn, roedd potensial drwy hynny y byddai'n creu arbedion effeithlonrwydd, roedd potensial y byddai hynny'n ei wneud yn sefydliad mwy cymwys, ond yn anffodus, fel y dywedodd tystion i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wrthym, roedd yn edrych, o'r tu allan o leiaf, fel pe bai haen uchaf wedi'i gosod ar y tri sefydliad, ond ni welwyd diwylliannau'n dod at ei gilydd mewn modd priodol. Gwelwyd yr hyn y byddech yn ei alw'n fwlch diwylliannol mae'n debyg, gwagle diwylliannol o fewn y sefydliad na chafodd ei lenwi'n iawn erioed mewn gwirionedd, ac mae angen i hynny ddigwydd.

Nid y Ceidwadwyr Cymreig yn unig sydd wedi gwneud y pwyntiau hyn, nid y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn unig—archwiliodd adolygiad Grant Thornton ei hun bob mater yn drylwyr, fel y dywedodd y Gweinidog. Croesawyd hynny gan bawb ar y pwyllgor. Fe'i croesawyd gan y Siambr hon, fe'i croesawyd pan gyflwynais y ddadl honno yn y Siambr ychydig wythnosau yn ôl. Cynhaliodd adolygiad Grant Thornton adolygiad o Cyfoeth Naturiol Cymru mewn modd fforensig gan amlygu nifer o ddiffygion sylfaenol yn ei ffyrdd o weithio. A cheir cydnabyddiaeth eang fod y contractau pren yr ymrwymodd Cyfoeth Naturiol Cymru iddynt, ac rwy'n dyfynnu, 'yn newydd, yn ddadleuol ac yn arwain at sgil-effeithiau', ac fel y cyfryw, yn sicr dylid bod wedi eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru, yn unol â'r gweithdrefnau cywir yr oedd Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yn ymwybodol ohonynt. Ond roedd yna ddiffyg eglurder. Roedd yna amwysedd ynghylch y gweithdrefnau cywir yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac os na ddaw dim arall o'r ddadl hon, ac mae pawb ohonom yn dymuno hynny y prynhawn yma, ar ôl prynhawn hir o ffraeo gyda'n gilydd—gadewch inni o leiaf wneud yn siŵr fod modd mynd i'r afael â'r niwlogrwydd hwnnw yn y dyfodol, fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwybod beth yn union yw eu cyfrifoldebau, a bod Llywodraeth Cymru yn eu cynorthwyo i'w cyflawni.

Mae'n bryd edrych tua'r dyfodol yn awr; mae tîm newydd ar waith, ac mae hynny i'w groesawu. Croesewais hynny ychydig wythnosau yn ôl yn y ddadl a gawsom. Yn bendant, mae yna awydd o fewn y sefydliad i symud ymlaen, mae awydd yma i edrych ymlaen, ond ar yr union adeg y mae Llywodraeth Cymru yn dileu ac yn lleihau gweithdrefnau galw i mewn ar gyfer cyrff hyd braich, mae angen y gweithdrefnau hynny yn awr yn fwy nag erioed. Felly, rydym yn galw yn y ddadl hon y prynhawn yma ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas i'r diben wrth inni symud ymlaen. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r tîm a roddwyd ar waith. Mae angen i'r tîm hwnnw weithio gyda, a gwrando ar y staff gweithgar yn Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud yn siŵr na fydd y mathau o gamgymeriadau a welsom yn y gorffennol yn cael eu gwneud y dyfodol.

Fel y mae pethau ar hyn o bryd, ni ellir gwarantu na osodir amodau ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru eto, ac o bosibl eto wedyn, oherwydd, fel y mae pethau ar hyn o bryd, nid yw pethau fel y dylent fod. Mae yna awydd, mae yna benderfyniad i unioni pethau, ond fel y dywedodd nifer o siaradwyr yn gynharach, hyd nes y digwydd hynny mewn gwirionedd, ni fyddwn yn symud ymlaen. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gwneud hynny, a dyna pam rwy'n annog y Siambr i gefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma.

18:00

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen yn syth at y cyfnod pleidleisio. Iawn, diolch.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Felly, yr unig bleidlais heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Cyfoeth Naturiol Cymru, y ddadl a gawsom yn awr, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig hwnnw. Agor y bleidlais. A yw pawb sy'n bwriadu pleidleisio wedi pleidleisio? Iawn felly, caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 13, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

18:05

NDM6989 - Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Roedd 27 o blaid gwelliant 1, neb yn ymatal, a 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM6989 - Gwelliant 1: O blaid: 27, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Mae gwelliannau 2 a 3 wedi eu dad-ddethol.

Galwn yn awr am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 21, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 4.

NDM6989 - Gwelliant 4: O blaid: 21, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM6989 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru drwy ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2013.

2. Yn cydnabod gwaith caled y staff rheng flaen yn y sefydliad ond yn deall eu hanfodlonrwydd a'u diffyg hyder yn y penderfyniadau a wneir gan uwch reolwyr, fel y caiff ei fynegi'n rheolaidd mewn arolygon staff ers sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru.

3. Yn nodi casgliadau ac argymhellion yr adroddiadau gan:

a) Ymchwiliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol i adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-2018 – Tachwedd 2018;

b) Grant Thornton – Cyfoeth Naturiol Cymru  - Llywodraethu’r Gwaith o Werthu Pren – Chwefror 2019.

4. Yn croesawu penodi prif weithredwr a chadeirydd dros dro newydd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a’u hymrwymiad i weithredu argymhellion y ddau adroddiad a gwella’r modd y caiff Cyfoeth Naturiol Cymru ei reoli a’i lywodraethu. 

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 27, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6989 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Pwysigrwydd prentisiaethau: Pam mae angen pobl arnom sydd â chymwysterau crefftau

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a wnewch chi hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda? A all yr Aelodau gael trafodaethau y tu allan i'r Siambr, os gwelwch yn dda? Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Mike Hedges i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddo. Mike.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud yn y ddadl hon i Jack Sargeant a Joyce Watson.

Ddydd Llun nesaf, gallaf gofrestru fel adeiladwr. Ddydd Mawrth, gallaf gofrestru fel person trin gwallt. Ddydd Mercher, gallaf ddechrau busnes gwaith coed. Ddydd Iau, gallaf ddechrau busnes therapi harddwch. Ddydd Gwener, gallaf geisio gwaith fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr. Ddydd Gwener, bydd holl rym y gyfraith yn dod i lawr arnaf. Mae gan gyfreithwyr amddiffyniad cyfreithiol. O dan Ddeddf Cyfreithwyr 1974, ni all neb sydd heb gymwysterau weithredu fel cyfreithiwr. Mae unrhyw un sy'n tramgwyddo yn ei herbyn yn euog o drosedd ac yn agored yn sgil euogfarn i ddedfryd o garchar o fwy na dwy flynedd, neu ddirwy, neu'r ddau. Gallaf honni fy mod yn fargyfreithiwr. Digwyddodd hyn i Ian Clegg mewn gwirionedd, a dwyllodd y barnwyr a'r ynadon yn Guisborough, Gogledd Swydd Efrog, rhwng mis Medi 2007 a mis Ebrill 2008. Mae'r gyfraith, a basiwyd yn 2007 ar ffurf y Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol, yn ei gwneud yn anghyfreithlon i rywun esgus yn fwriadol ei fod yn fargyfreithiwr. Gellir carcharu am hyd at flwyddyn am gyflawni'r drosedd. Mae cyfreithwyr, fel bob amser, yn edrych ar ôl eu hunain. Caiff gweddill y bobl eu trin yn hollol wahanol. Ni cheir unrhyw amddiffyniad rhag honiad fod rhywun yn unrhyw un o'r pethau eraill a grybwyllais yn gynharach.

Hynny yw, nid yw trin gwallt wedi ei reoleiddio o gwbl. Dywedwyd wrthyf am effeithiau dinistriol triniaethau trin gwallt esgeulus, yn amrywio o losgiadau cemegol i'r pen a'r wyneb i golli gwallt drwy gamddefnyddio cynnyrch. Mae'r diwydiant trin gwallt heb ei reoleiddio ar hyn o bryd. Mae hyn yn peri pryder mawr pan ystyriwch y cemegau a ddefnyddir gan bobl trin gwallt, pobl sy'n gallu bod heb eu hyfforddi a heb unrhyw gymwysterau. Mae'r Cyngor Trin Gwallt, a sefydlwyd drwy Ddeddf Siopau Trin Gwallt (Cofrestru) 1964, gyda'r bwriad o roi statws i siopau trin gwallt a sicrwydd i ddefnyddwyr o ganlyniad i hynny, wedi galw am reoleiddio'r diwydiant. Mae cofrestru gyda'r cyngor yn parhau i fod yn wirfoddol oherwydd na chafodd y Ddeddf ei gorfodi'n llawn erioed. Mae'r Cyngor Gwallt yn amcangyfrif mai oddeutu 10 y cant o siopau trin gwallt yn unig sydd wedi cofrestru. Gan fod y diwydiant heb ei reoleiddio ac am nad oes angen unrhyw gymwysterau i weithio fel person trin gwallt, mae'n bosibl fod llawer o bobl yn honni eu bod yn bobl trin gwallt heb fod ganddynt unrhyw gymwysterau o gwbl.

Cafwyd ymdrechion i gyflwyno Bil yn y DU i sicrhau bod y diwydiant yn cael ei reoleiddio. Arweiniodd hyn at gyflwyno Bil Cofrestru Siopau Trin Gwallt (Diwygio) yn Nhŷ'r Cyffredin fel Bil aelod preifat. Fodd bynnag, fe'i trechwyd mewn pleidlais, o 67 i 63, ym mis Tachwedd 2011. Diben y Bil oedd cynnig gwell trefn reoleiddio i'r diwydiant trin gwallt, i gynnwys cod ymddygiad ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gorfodol. Cyflwynwyd y Bil gan David Morris AS, a ddywedodd, yn sgil y trechu'r cynnig:

Mae'n anarferol iawn i Fil Deng Munud fynd i bleidlais. Roedd Tŷ'r Cyffredin yn amlwg yn rhanedig. Gan fy mod yn awr wedi tynnu sylw at reoleiddio'r diwydiant trin gwallt, rwy'n gobeithio y bydd y mater pwysig hwn yn parhau i gael ei drafod.

Yn fwy diweddar, galwodd Nia Griffith, yr Aelod Seneddol dros Lanelli, mewn dadl ohirio am gofrestru gwladol gorfodol, ond gwrthodwyd hynny gan Weinidogion Llywodraeth y DU, a ddywedodd y byddai cofrestru'n costio £75 miliwn i'r diwydiant. Ym mis Tachwedd 2013, cafodd y mater ei drafod yn y Senedd. Cyflwynwyd y mater gan Keith Davies, y cyn-Aelod dros Lanelli, mewn un o'r dadleuon byr hyn. Nodwyd yn y ddadl fod pwerau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn gyfyngedig. Mae'r Cyngor Gwallt yn parhau ei ymgyrch yn y Senedd i barhau i godi ymwybyddiaeth. Buaswn yn annog pawb i gynorthwyo'r cyngor i lobïo Llywodraeth y DU i gyflwyno rheoleiddio yn y maes ac i gyfyngu ar anafiadau trawmatig a ddioddefir gan rai defnyddwyr.

Mae bron i hanner yr holl danau mewn tai wedi eu hachosi gan ddamweiniau trydanol, ac mae argyfyngau yn mynd â bywydau tua un person yr wythnos. Mae'r arfer o ddefnyddio trydanwyr anniogel a heb gymwysterau ar gyfer gwneud gwaith atgyweirio trydanol yn cynyddu'n ddramatig y tebygolrwydd y bydd unigolyn yn un o'r dioddefwyr hyn. Dangosodd ymchwil gan Electrical Safety First fod bron i chwarter y bobl wedi trefnu a thalu am waith gan drydanwyr heb wirio manylion y trydanwr yn gyntaf. At hynny, roedd traean y bobl wedi trefnu i drydanwr wneud gwaith ar eu cyfer ar sail argymhelliad gan ffrind yn unig, a dywedodd chwarter arall y byddent yn fwriadol yn llogi trydanwr heb gymwysterau pe baent ar frys. Gallai pobl sydd angen atgyweiriadau trydanol wneud cam gwag â hwy eu hunain yn eithaf hawdd drwy ddefnyddio trydanwr heb gymwysterau. Darganfu Electrical Safety First fod bron i 1.3 miliwn o bobl yn y DU angen talu i weithiwr proffesiynol drwsio gwaith carbwl gan drydanwr heb gymwysterau, sy'n dangos y gall defnyddio trydanwyr heb gymwysterau arwain yn hawdd at oedi hir yn hytrach na chyflymu'r broses. Wrth gwrs, hwy yw'r rhai ffodus pan na fydd unrhyw beth gwirionedd ddifrifol wedi digwydd.

Ond nid defnyddwyr yn unig sy'n anfodlon ynglŷn â gwaith gwael gan drydanwyr heb gymwysterau. Mae gweithwyr proffesiynol hefyd yn cwyno am y gwaith gwael a pheryglus y bu'n rhaid iddynt fynd i'r afael ag ef. Dywedodd traean o'r trydanwyr cofrestredig a holwyd gan Electrical Safety First eu bod wedi sylwi ar gynnydd yn y gwaith trydanol peryglus ac ansafonol ers 2012.

Gan droi'n ôl at waith coed ac adeiladu cyffredinol, y rheswm mwyaf cyffredin pam y bydd deciau sydd wedi'u cysylltu wrth eiddo, neu rai sy'n cynnal eu hunain, yn chwalu yw bod y contractwr ond yn gosod hoelion rhwng canllaw'r dec a strwythur y tŷ, gan arwain at beri i'r dec dynnu'n rhydd. Bydd cefnogwyr Fawlty Towers yn cofio digwyddiad yr adeiladwr heb gymwysterau a gyflogodd Basil Fawlty. Er gwaethaf gwrthwynebiad ei wraig, mae Basil yn llogi ei gwmni arferol o bobl anghymwys, O'Reilly's, i wneud gwaith coed yn yr ystafell yn y gwesty. Gadewir y gwesty mewn cyflwr gwaeth na phan ddechreuwyd ar y gwaith, ac o bosibl yn beryglus ac roedd pryderon y gallai ddisgyn. Ni allai ddisgyn oherwydd bod rhaid iddynt wneud pennod arall. Comedi oedd hyn, ond mewn bywyd go iawn, yn anffodus, mae'r un peth yn digwydd yn rhy aml.

Fel y cofia dilynwyr y rhaglen ardderchog ar y BBC, X-Ray, gwelsom adroddiadau rheolaidd ar y gwaith gwael, a pheryglus yn aml, a gâi ei wneud. Byddai adeiladwr yn gwneud y gwaith—rwy'n dweud 'adeiladwr' mewn dyfynodau, a hynny oherwydd yn aml, gwaetha'r modd, nid yw adeiladwr yn adeiladwr go iawn. Mae'n ymddangos bod unrhyw un sy'n rhoi hysbyseb yn y papur lleol neu sy'n gwisgo oferôls y dyddiau hyn yn hapus i alw eu hunain yn adeiladwyr, ac nid oes unrhyw beth y gellir ei wneud am y peth. Dyma'r trap i berchennog eiddo nad yw'n ymwybodol o beth sy'n digwydd, sy'n cymryd cyfrifoldeb llawn am y gwaith a wneir ar eu heiddo, ac sydd fel arfer yn gorfod talu'r pris am waith unioni sy'n ddrud iawn, gan gymryd bod yr adeilad yn cael ei ganiatáu i sefyll ac nid cael ei ddymchwel pan fydd yr adeiladwr wedi diflannu, gan wadu cyfrifoldeb neu'n rhy anodd i'w erlyn drwy'r llysoedd.

Nid oes unrhyw ofynion cyfreithiol fel y cyfryw ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno sefydlu fel therapydd harddwch. Mae'r diwydiant harddwch yn y DU heb ei reoleiddio. Golyga hyn y gall unrhyw un agor salon neu weithio fel therapydd heb unrhyw hyfforddiant, cymwysterau nac yswiriant. Gall ôl-effeithiau hyn fod yn hynod o ansicr. Pe baech yn cael triniaeth gan therapydd heb gymwysterau nac yswiriant a bod rhywbeth yn mynd o'i le neu fod eich corff yn adweithio i'r driniaeth, gallech fod mewn sefyllfa agored i niwed. Mae miloedd o fenywod yn peryglu eu hunain drwy wahodd therapyddion harddwch twyllodrus i mewn i'w cartrefi. Mae rhai asiantaethau yn caniatáu i unrhyw un gofrestru a hysbysebu am waith heb unrhyw archwiliadau. Dywedodd Lauren Shalson, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr y cwmni dibynadwy, Spa By Car,

Mae llawer o asiantaethau harddwch ar-lein yn cynnig gwaith neu'n gadael i therapyddion gofrestru'n seiliedig ar alwad ffôn yn unig. Sut y gallwch anfon rhywun yn ddiogel i mewn i gartref cleient heb o leiaf gyfarfod â hwy wyneb yn wyneb?

Ceir rhai pobl heb gymwysterau sy'n credu eu bod yn ddiangen. Maent yn diffinio'u hunain fel trydanwyr, pobl trin gwallt, therapyddion harddwch, seiri coed, gosodwyr brics ac yn credu eu bod yn gymwys gan eu bod wedi bod wrthi ers peth amser, maent wedi gwneud gwaith ar eu tŷ eu hunain neu wedi gwneud gwaith i'w teuluoedd eu hunain. Credaf fod gwahaniaeth mawr rhwng gwneud mân newidiadau yn eich tŷ a mynd allan i wneud gwaith sylweddol ar gartref rhywun arall. Rwy'n credu o ddifrif fod hyn yn beryglus yn gyffredinol. Wrth hysbysebu gwasanaeth, credaf y dylai fod rhaid i bawb ddangos eu cymwysterau. Ni ddylid anwybyddu cymwysterau y mae pobl wedi bod yn astudio'n galed amdanynt. Os ydych am gyflogi rhywun heb gymwysterau a wynebu'r risg sy'n deillio o hynny, dylech wneud hynny gan wybod hynny yn hytrach na heb wybod.

Pam y mae'n bwysig? Gall therapyddion harddwch a phobl trin gwallt wneud niwed parhaol i'ch wyneb a'ch pen. Gall gweithwyr adeiladu heb gymwysterau wneud tai'n beryglus. Gall tynnu wal sy'n cynnal pwysau arwain at beri i dŷ ddisgyn; gall weirio trydanol gwael arwain at danau a siociau trydanol sy'n achosi marwolaeth; ac yn olaf, gall toeau sydd wedi'u hadeiladu'n wael arwain at doeau'n disgyn a'r problemau a all ddigwydd i unrhyw un sydd yn y tŷ ar y pryd.

Credaf fod cymwysterau'n bwysig ac mae angen inni amddiffyn pobl gymwysedig rhag pobl heb gymwysterau sy'n dwyn eu gwaith a phobl heb gynmwysterau sy'n rhoi pobl mewn perygl. Mae prentisiaethau yn eich galluogi i gyfuno gwaith ac astudio drwy gyfuno hyfforddiant yn y gweithle gyda dysgu yn y dosbarth. Rydych yn cael eich cyflogi i wneud swydd go iawn wrth astudio ar gyfer cymhwyster ffurfiol, fel arfer am un diwrnod yr wythnos mewn coleg neu ganolfan hyfforddi. Erbyn diwedd eich prentisiaeth, dylech fod wedi ennill y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen naill ai i lwyddo yn eich gyrfa ddewisol neu i symud ymlaen at lefel nesaf y brentisiaeth.

Mae prentisiaid ym mhob rôl yn dilyn rhaglen astudio gymeradwy, sy'n golygu eu bod yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ar ddiwedd eu prentisiaeth. Cânt eu haddysgu gan bobl fedrus sy'n gwybod sut i weithio'n ddiogel. Gallant nodi peryglon posibl. Faint o drydanwyr heb gymwysterau sy'n deall anwythiant a sut i'w atal? Mae angen inni sicrhau y gwneir gwaith i safon uchel, sef yr hyn y maent wedi'i ddysgu yn eu dwy flynedd, pedair blynedd—ni waeth faint o amser y mae'n cymryd iddynt gwblhau'r brentisiaeth.

Mae'r cymwysterau, yn aml gan City and Guilds, yn cydymffurfio â safon genedlaethol neu safon ryngwladol sy'n debyg i safonau yn unrhyw le yn y byd. Mae pobl wedi gweithio'n galed i ennill cymwysterau tra'n gwneud prentisiaethau. Mae angen iddynt gael eu gwobrwyo am y sgiliau hynny ac ni ddylai unigolion heb gymwysterau gael eu caniatáu i'w tanseilio.

Os yw rhywun yn honni ei fod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr heb gymhwyster, daw holl rym y gyfraith i'w cosbi, ond gallant honni eu bod yn adeiladwr, yn saer coed, yn therapydd harddwch neu berson trin gwallt heb i unrhyw gyfraith eu hatal? Rwy'n teimlo dros y bobl sydd wedi rhoi amser ac egni a—fel y gŵyr pawb sydd wedi sefyll arholiadau—phrofi gofid er mwyn hyfforddi a phasio'r arholiadau i gymhwyso'n llawn, dim ond i gael rhywun i lawr y stryd heb unrhyw gymhwyster, yn honni, 'Rhowch y gwaith i mi. Rwy'n gallu ei wneud.' Rydych yn rhoi'r gwaith iddynt, ac ni allant ei wneud. Diolch.

18:15

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw? Credaf ei bod yn dilyn ymlaen yn dwt o ddatganiad y Dirprwy Weinidog ddoe ac Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol yr wythnos cyn hynny. Fel cyn brentis, rwy'n falch iawn o gael cyfle i drafod fy mhrofiadau a chyfrannu heddiw. Ddirprwy Lywydd, hoffwn ganolbwyntio ar ddau beth yn benodol.

Yn gyntaf, mae prentisiaethau amser a dreuliwyd yn eich arfogi â'r sgiliau i gyflawni eich tasgau'n effeithlon mewn crefft o'ch dewis, a hynny i safon uchel, ond yn bwysicaf oll, yn ddiogel, ac mae hyn o'r pwys mwyaf yn mhob crefft.

Yr ail beth rwyf am sôn amdano yn y Siambr heddiw yw pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus fel rhan o brentisiaethau. Mae angen hyn er mwyn inni sicrhau y gall gweithwyr ymdopi â'r newidiadau cyflym yn yr economi a'r newidiadau cyflym yn y gweithle, a bydd hyn drwy gydol eu gyrfaoedd, nid yn unig yn ystod eu prentisiaeth. Felly, byddant yn ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol parhaus i'w galluogi i gwblhau gwaith mewn ffordd ddiogel bob amser ac i safon ansawdd y mae pawb ohonom yn ei disgwyl ac y dylai pawb ohonom ei disgwyl.

Unwaith eto a gaf fi ddiolch i Mike am gyflwyno'r ddadl fer hon a gwneud y pwyntiau rwy'n cytuno'n llwyr â hwy? Edrychaf ymlaen at weithio gyda Mike a'r Gweinidog Llywodraeth Cymru i sicrhau y gallwn ddarparu prentisiaethau o ansawdd da ar gyfer cenedlaethau heddiw a'r dyfodol. Diolch.

Mae arnaf eisiau diolch i Mike am ddod â'r ddadl bwysig hon yma. Credaf mai'r peth allweddol yma yw y byddai hyn yn cael ei groesawu gan y diwydiannau a grybwyllwyd oherwydd mae pobl yn buddsoddi yn eu dyfodol. Mae'n cymryd amser, mae'n galw am arian, ac mae angen ymdrech enfawr, ond yr hyn sy'n tanseilio hyn i gyd yw'r straeon a glywn, unwaith eto yr wythnos hon yn y newyddion a rhaglenni dogfen, yn enwedig o fewn y diwydiant adeiladu, am fasnachwyr twyllodrus. Mae'n tanseilio'r holl waith ardderchog a wneir gan bobl gymwys iawn—pobl rydym yn buddsoddi ynddynt yn ogystal, oherwydd mae'n un o'n polisïau blaenllaw: buddsoddi mewn prentisiaid. Felly, credaf ei bod yn bryd edrych ar ardystio a'r angen i gynhyrchu'r ardystiad bob tro y byddwch wedi cyflogi rhywun, yn union yn yr un modd ag y gwnaethom argymell ardystiad cyfartal i'w brofi gan ddeiliaid tai pan fyddant yn gwaredu eu sbwriel.

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl? Ken Skates.

18:20

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae prentisiaethau, heb amheuaeth, yn ffordd brofedig o ysgogi cynhyrchiant a ffyniant, ac o adeiladu cymunedau cryfach. A thrwy adeiladu system brentisiaeth fwy ymatebol, nid oes unrhyw amheuaeth y gallwn ymateb yn well i newidiadau yn y diwydiant, a dyna rwy'n benderfynol o wneud. Gwn mai dyna y mae Mike Hedges, Jack Sargeant a Joyce Watson yn benderfynol o wneud yn ogystal. Rwy'n cofio pan oeddwn yn gyfrifol am y portffolio sgiliau ddiwethaf, yn gweithio i gael y fasnach trin gwallt wedi'i rheoleiddio'n well ac mae'r bygythiad gan Mike Hedges y byddai'n dod yn berson trin gwallt, ddydd Mawrth rwy'n credu, yn dangos yn glir pam fod gwir angen rheolaeth reoleiddiol o hyd, nid yn unig yn y sector hwnnw, ond yn y disgyblaethau eraill yr oedd Mike yn gywir i'w nodi.

Nid oes unrhyw amheuaeth fod sgiliau'n rhan annatod o'r gallu i gyflawni gwaith yn briodol, yn effeithiol ac yn effeithlon, ac fel y dywedodd Jack Sargeant, prentisiaethau sy'n cynnig y ffordd orau o ddysgu sgiliau allweddol. Mae galw am brentisiaethau'n newid, wrth i gyflogwyr chwilio am sgiliau ar lefelau uwch, ac wrth i bobl ifanc edrych tuag at brentisiaethau fel llwybr amgen yn lle dysgu fel israddedigion amser llawn.

Ni fwriadwyd i'r rhaglen brentisiaethau fod yn rhaglen i'w defnyddio i lenwi pob bwlch sgiliau posibl yn y farchnad. Mae angen inni edrych ymlaen gan fyfyrio hefyd ar arferion gorau mewn rhaglenni prentisiaeth a'r ddarpariaeth brentisiaethau. Mae angen inni ailganolbwyntio ein hymdrechion ar grefftwyr technegol medrus. Bydd hyn yn cefnogi ein nod o sicrhau parch cydradd i addysg a hyfforddiant galwedigaethol, i wella ansawdd a gwella canlyniadau i'r economi ac i'r bobl a wasanaethir gennym. Ac rydym am i'r rhaglen sicrhau bod prentisiaethau'n cefnogi pobl ifanc, a bydd ein ffocws ar wella ein cynnig ar draws amrywiaeth o feysydd technegol a phroffesiynol, yn enwedig gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, a bydd hyfforddiant lefel uwch yn fwy amlwg o fewn y rhaglen.

Roedd sefydlu bwrdd cynghori ar brentisiaethau Cymru yn greiddiol i'n dull o weithredu ar draws y rhaglen brentisiaethau. Sefydliad a arweinir gan gyflogwyr yw'r bwrdd, wedi'i gadeirio gan Gyd-ffederasiwn Diwydiant Prydain, ac mae'n cynnwys cyflogwyr mawr yn ogystal â busnesau bach a chanolig. Mae'n darparu mewnbwn strategol, her gadarn ar gynnwys sgiliau, a chyngor ar gwmpas ac ystod y fframweithiau prentisiaeth. Mae ein prif ffocws yn parhau i fod ar brentisiaethau lefel 3 ac uwch, lle mae'r manteision yn sylweddol uwch ac yn adlewyrchu arferion da mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Rydym yn rhoi pwys arbennig ar flaenoriaethu ehangu prentisiaethau uwch mewn pynciau STEM a phynciau technegol i greu'r genhedlaeth newydd nesaf o weithwyr proffesiynol i ysgogi arferion arloesol, i greu cynnyrch newydd a chynyddu lefelau cynhyrchiant.

Rwy'n falch iawn o ddweud yn y flwyddyn ddiwethaf, Ddirprwy Lywydd, mai prentisiaethau lefel uwch oedd 16 y cant o'r holl brentisiaethau a ddechreuwyd. Y llynedd, cyflwynasom brentisiaethau gradd a bydd y ddarpariaeth yn canolbwyntio i ddechrau ar fylchau sgiliau lefel gradd a nodwyd gan y partneriaethau sgiliau rhanbarthol mewn sgiliau digidol a pheirianneg uwch.

I reoli galw cudd a galw sy'n dod i'r amlwg, rydym wedi bod yn gweithio gyda chyflogwyr o dan y clystyrau sgiliau mewn meysydd megis iechyd, coedwigaeth a pheirianneg, a digidol eto. Yn arbennig, rydym yn gwella gwasanaethau yn y sectorau cyhoeddus, gan weithio gydag awdurdodau lleol, gyda'r gwasanaeth iechyd a chyrff cyhoeddus eraill. Ac i ategu hyn, rydym yn gweithio'n agos gyda Ffederasiwn y Busnesau Bach i ddeall sut y gallwn glystyru'r ddarpariaeth o gwmpas sectorau penodol fel y gellir sicrhau bod y rhaglen yn fwy hygyrch i fusnesau bach a chanolig.

At hynny, rydym yn creu swyddi gwell yn nes adref drwy ymestyn ac ehangu prentisiaethau a rennir yn ardal tasglu'r Cymoedd i gynorthwyo busnesau bach a chanolig a busnesau micro i fanteisio ar hyfforddiant. Rydym yn annog busnesau bach a chanolig i ddefnyddio prentisiaethau drwy gynnig cymhelliant o hyd at £3,500 ar gyfer recriwtio person ifanc, lle mae'r busnes bach a chanolig yn newydd i'r system brentisiaethau. Nod hyn oll yw creu diwylliant yng Nghymru lle mae recriwtio prentis yn dod yn norm.

I bobl ifanc, gall sicrhau'r brentisiaeth iawn newid bywydau go iawn. Rydym yn cynnig prentisiaethau drwy wella amlygrwydd yr hyn sydd ar gael, ac eleni, byddwn yn lansio platfform TG newydd gydag amrywiaeth o swyddogaethau a gynlluniwyd i wneud y daith brentisiaeth yn gliriach ac yn llawer haws ei defnyddio. Wrth gwrs, ein prif ymrwymiad yw 100,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Cynulliad hwn—targed rydym ar y trywydd iawn i'w gyrraedd, a hyd yn oed i ragori arno. Ond mae hyn yn ymwneud â mwy nag ansawdd yn unig; mae'n ymwneud â maint ac mae'n ymwneud â sicrhau y cawn gymaint o bobl ifanc â phosibl yn rhan o fframweithiau prentisiaethau. Ni allwn beryglu'r fframweithiau hynny drwy fod pobl yn mynd ar drywydd gweithgareddau economaidd a fydd yn tanseilio'r crefftau medrus hyn, fel y nododd pob un o'r siaradwyr heddiw. Ac mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i'w atal.

Yn ystod hanner cyntaf tymor y Cynulliad hwn, rydym wedi cryfhau perthnasedd, ansawdd ac effeithiolrwydd ein cynnig prentisiaethau. Ac mae pawb ohonom yn gwybod y bydd y pwysau ar Gymru yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod. Mae oes awtomatiaeth, Brexit a thechnolegau newydd sy'n datblygu oll yn ei gwneud yn ofynnol i ni gael system hyfforddi gadarn, a bydd darparu prentisiaethau o safon uchel yn ein helpu i oresgyn yr heriau hyn. Diolch.

18:25

Daeth y cyfarfod i ben am 18:26.