Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

13/02/2019

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden. 

Trafnidiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn trafnidiaeth ar gyfer Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ53403

Gwnaf. Rwyf wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn gwell gwasanaethau trafnidiaeth a seilwaith ym Merthyr Tudful a Rhymni, a deallaf fod cynnydd da yn cael ei wneud ar yr orsaf fysiau newydd ym Merthyr Tudful.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae buddsoddiad mewn trafnidiaeth a seilwaith, yn amlwg, yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig yn fy etholaeth. Heb ystyried proses Brexit, rwy'n sicr fod gwelliannau sydd i'w cyflawni drwy'r system fetro, cynnydd ar gam nesaf y gwelliannau i ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd, ynghyd â'r orsaf fysiau y sonioch amdani, bob un yn achos gobaith yn y blynyddoedd i ddod. Felly, a allwch gadarnhau y bydd y prosiectau seilwaith allweddol hyn yn cael eu cyflawni ar fyrder ac yn gyflym, fel y gall fy etholaeth barhau i weld rhagor o newidiadau cadarnhaol yn unol â'r hyn a amlinellwyd yn rhaglen 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'?

Gallaf. A gaf fi ddiolch i Dawn Bowden am ei chwestiwn sy'n cwmpasu tri pheth—y system fetro, yr A465 a'r orsaf fysiau newydd? Mae cynnydd yn mynd rhagddo’n gyflym ar dair elfen allweddol ein hymyrraeth yn rhanbarth y Cymoedd. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud, o ran yr A465, ein bod yn gwneud cynnydd da o ran y gorchmynion. Byddwn mewn sefyllfa i allu bwrw ymlaen gyda rhannau nesaf y cynllun. Bwriedir dechrau’r gwaith adeiladu yn gynnar yn 2020 a bydd yn cymryd oddeutu tair blynedd a hanner i'w gyflawni. Mae hon yn dasg anferthol, prosiect seilwaith gwerth bron i £1 biliwn ar gyfer Blaenau'r Cymoedd. Ac o ran gorsaf fysiau Merthyr Tudful, mae £10 miliwn yn cael ei ymrwymo o dan y gronfa fuddsoddi yn seilwaith Cymru i helpu i ddatblygu'r darn penodol hwnnw o seilwaith, ac mae'r awdurdod lleol, rwy'n falch o ddweud, wedi cyflwyno cais pellach i'r gronfa trafnidiaeth leol ar gyfer 2018-19 er mwyn adeiladu'r orsaf fysiau. Felly, mae swyddogion wrthi'n asesu'r cais.

O ran y system fetro, fel y gŵyr yr Aelod, bydd metro de Cymru yn darparu pedwar trên yr awr o Ferthyr Tudful i orsaf Heol y Frenhines, Caerdydd, o 2022, ac o 2023 ar gyfer gwasanaethau Rhymni. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno cerbydau metro newydd—trenau tram, os mynnwch—ar linell Merthyr Tudful yn 2022, a bydd hynny'n golygu y bydd 600 o seddi ychwanegol ar gael yn ystod adegau prysur y bore, a 1,000 o seddi ychwanegol yn ystod adegau prysur yr hwyr, a bydd hyd y daith rhwng Merthyr Tudful a gorsaf Caerdydd Canolog yn lleihau o awr, fel y mae ar hyn o bryd, i oddeutu 48 munud o fis Rhagfyr 2023. Mae'r holl ymyriadau hyn wedi'u cynllunio i gael gwared ar rwystr allweddol diffyg trafnidiaeth gyhoeddus weddus, fodern, fforddiadwy sydd ei hangen ar bobl i gael mynediad at swyddi.

Weinidog, mae gwelliannau i ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd yn hanfodol i adfywiad cymdeithasol ac economaidd cymunedau megis Merthyr Tudful. Fe fyddwch yn gwybod, Weinidog, fod pryderon wedi'u mynegi ynghylch oedi a chost gynyddol deuoli'r A465 rhwng Gilwern a Bryn-mawr. O gofio bod cam nesaf y gwelliannau, rhwng Dowlais Top a Hirwaun, i fod i gychwyn eleni, a all y Gweinidog gadarnhau y bydd y prosiect hwn yn dechrau ar amser, a pha wersi y mae wedi'u dysgu i sicrhau na cheir oedi a chostau ychwanegol, fel y cafwyd o'r blaen, yn yr achos hwn? Diolch.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Fel y dywedais wrth Dawn Bowden, rydym yn disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2020. Mae'r cam o'r cynllun y cyfeiria'r Aelod ato, o ran pwysau costau, wedi bod yn her aruthrol i'r contractwyr. Rydym yn rheoli costau ychwanegol wrth gwrs. Ein bwriad, serch hynny, yw sicrhau bod yr holl brosiect yn cael ei gyflawni cyn gynted ag y bo modd am gyn lleied o fuddsoddiad â phosibl, ac fel y gellir adfywio cymunedau ar gyfer pobl ar draws rhanbarth Blaenau'r Cymoedd.

Busnesau Cynhenid

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod busnesau cynhenid sydd am ehangu a thyfu yn gallu gwneud hynny o fewn eu hardal leol? OAQ53412

Diolch. Yn unol â'n cynllun gweithredu economaidd, rydym yn cefnogi busnesau cynhenid ​​ledled Cymru i ehangu ac i dyfu drwy ddarparu cyngor, cefnogaeth a chyllid drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ateb. Rydym yn dda iawn, mewn rhai mannau, am gynorthwyo pobl i ddechrau busnesau. Yn fy etholaeth i, ac yn enwedig ym Mhort Talbot, mae gennym ddigon o unedau cychwynnol ar gael i fusnesau eu defnyddio ac i dreulio eu blwyddyn neu ddwy gyntaf ynddynt wrth iddynt ddechrau datblygu a thyfu. Ond yr hyn a welwn, wrth iddynt fod eisiau tyfu ac ehangu, yw ein bod yn brin o unedau o'r maint nesaf—yr unedau 5,000 troedfedd sgwâr—ac felly mae'r busnesau'n tueddu i ehangu a gadael yr ardal o ganlyniad i hynny. Nawr, efallai mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw hyn—rwy'n derbyn y cysyniad—ond beth rydych yn ei wneud i weithio gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu gwneud yn siŵr y gall busnesau ddechrau, tyfu, ac aros, ac ehangu'r gweithlu, a chadw'r gyflogaeth yn yr ardaloedd hynny?

13:35

Diolch. Mae twf cwmnïau cynhenid gwreiddiedig ​​yn rhan ganolog o'n hymagwedd at dyfu'r economi sylfaenol. Mae'n broblem hysbys yn economi Cymru fod gennym nifer fawr o fusnesau micro a busnesau bach ond bod llawer ohonynt yn ei chael hi'n anodd tyfu i faint canolig, a thu hwnt i hynny. Felly, byddwn yn ystyried ystod o ymyriadau i fynd i'r afael â hynny. Un ohonynt yw argaeledd eiddo. Fel y gŵyr yr Aelod eisoes, ym Mhort Talbot, gan ddefnyddio'r gronfa seilwaith eiddo a ariennir gan gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, mae dau brosiect yn cael eu datblygu i greu oddeutu 6,000 metr sgwâr o adeiladau busnes newydd, gan ddarparu lle i hyd at 34 o fusnesau bach a chanolig. Ac rydym hefyd yn trafod gyda Banc Datblygu Cymru i archwilio’r potensial ar gyfer cronfa ddatblygu eiddo masnachol newydd a fydd hefyd yn helpu i ddarparu safleoedd ychwanegol.

Mae twristiaeth yn un o'r rhannau hynny o'n heconomi lle mae digon o le i ehangu o hyd, yn enwedig i fusnesau bach. Mewn gwirionedd, rwy'n meddwl am Gwm Afan, gan mai David Rees a ofynnodd y cwestiwn yn wreiddiol. Mae cryn botensial yma i'n busnesau cynhenid dyfu. Yn anffodus, wrth gwrs, nid yw rhai o'n busnesau bach yn ystyried eu hunain yn rhan o'n heconomi ymwelwyr, ac rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru roi rhywfaint o arweiniad inni ar hyn. Yn benodol, tybed a allwch roi rhywfaint o wybodaeth inni ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phroses cytundeb sector twristiaeth y DU. Credaf fod yr ymgynghoriad ar hynny ar fin dod i ben. Rydym yn fwy na pharod i gwyno nad yw VisitBritain, er enghraifft, yn rhoi cymorth inni ar y mater datganoledig hwn, ond os gallwn sicrhau rhywfaint o fantais yn sgil hyn, mae'n rhaid bod hynny’n newyddion da i'n busnesau bach.

Diolch. Ydy, mae twristiaeth yn parhau i fod yn ffocws yng nghynllun gweithredu economaidd y sectorau sylfaen, ac rydym wedi bod yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU i weld pa fanteision y gallwn eu cael o'u gwaith, a dwyn ein gwaith ynghyd. Mae gennym y gronfa seilwaith twristiaeth hefyd, sy'n llwyddiannus iawn, a gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ynghylch ein hymrwymiad parhaus yn y maes hwn.

Mi ges i'r pleser yn yr wythnos diwethaf o ymweld â chwmni peirianneg BICO ym Miwmares yn Ynys Môn, sy'n gwneud gwaith rhagorol ym maes peirianneg mewn diwydiannau technegol ac arbenigol dros ben. Mae o'n gwmni, dwi'n siŵr, y gallem ni ei weld yn tyfu mewn blynyddoedd i ddod. Mi fyddwch chi'n ymwybodol fy mod i a'm plaid o blaid rhanbartholi datblygu economaidd er mwyn sicrhau bod llewyrch economaidd yn rhywbeth sy'n digwydd ar draws Cymru. A fyddai'r Llywodraeth yn cytuno efo fi y byddai sgôp i ddatblygu cynlluniau tyfu'n lleol—grow locally, os liciwch chi—fel rhan ganolog o'r math o gynlluniau rhanbarthol yna?

Yn sicr. Credaf fod ffocws economaidd rhanbarthol yn hanfodol, ac mae'r cynllun gweithredu economaidd yn sicrhau bod hyn yn rhan hanfodol o'n dull o weithredu o hyn ymlaen. Rydym yn alinio'r timau yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, i sicrhau bod yr arbenigedd a'r capasiti yno i fwrw ymlaen â hyn. Ac mae hefyd yn bwysig ymgysylltu ag awdurdodau lleol mewn ysbryd o gyd-barch, gan gydweithio er mwyn ystyried eu barn ynglŷn â sut y dylai eu rhanbarthau dyfu, ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â hwy, yn hytrach phennu ar eu cyfer yr hyn y credwn sydd er budd eu rhanbarth. Mae dull yr economi sylfaenol hefyd yn bwysig iawn yn hyn o beth—twf busnesau bach a chanolig a chwmnïau gwreiddiedig—a sut y gallwn ddefnyddio'r sector lled-gyhoeddus, y llu o gwmnïau bach gwasgaredig sy'n dibynnu ar y sector cyhoeddus am lawer o'u gwaith, a sut y gallwn ddefnyddio caffael er mwyn sicrhau mwy o werth yn lleol, ac nad yw'n diferu allan. A byddwn yn gwneud datganiadau dros yr wythnosau nesaf ynglŷn â dechrau'r gwaith yn y maes hwn, a buaswn yn awyddus iawn i weithio gyda'r Aelod i ddatblygu'r syniadau hynny, gan adeiladu ar y cyhoeddiad a wnaethom ar y cyd yng nghyllideb ein cronfa £1.5 miliwn i ddatblygu'r economi sylfaenol gyda Phlaid Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.

Diolch, Lywydd. Faint o adeiladau fydd yn cael mynediad at fand eang cyflym iawn a dibynadwy o dan ail gam cynllun Cyflymu Cymru, ac ar ba gost i bwrs y wlad?

Fel y gŵyr yr Aelod, rydym yn bwriadu darparu band eang cyflym iawn i 26,000 o adeiladau erbyn mis Mawrth 2021, ar gost o bron i £22.5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru a'r UE drwy'r broses hyblyg o gyflwyno ffeibr. Dylid nodi hefyd nad yw hwn yn faes datganoledig. Mae hwn yn faes y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdano. O'i adael i'r farchnad ei hun, oddeutu 45 y cant yn unig o adeiladau Cymru fyddai'n cael cysylltedd band eang cyflym iawn. O ganlyniad i gamau gweithredu'r Llywodraeth hon, mae'r ffigur hwnnw bellach wedi codi i 95 y cant. Rydym wedi gwario £200 miliwn i sicrhau bod y bwlch a adawyd gan y farchnad a Llywodraeth y DU wedi'i lenwi. Ond yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth na allwn barhau i'w ddatblygu heb weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i geisio llenwi'r bwlch hwnnw.

13:40

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Rydych wedi cyhoeddi'r £22 miliwn a ddyrannwyd. Cyhoeddodd eich rhagflaenydd y llynedd y byddai £85 miliwn yn cael ei ddyrannu i gam 2. Felly, a gaf fi ofyn i chi—yn ôl fy nghyfrif i, mae £62 miliwn yn weddill—sut rydych yn bwriadu gwario'r £62 miliwn hwnnw mewn perthynas â cham 2?

Mae hwnnw'n gwestiwn cwbl deg, a chredaf ei bod yn deg dweud ein bod yn dal i ystyried goblygiadau'r ffordd y gwnawn hynny. Un o'r problemau sydd gennym yw diffyg awydd y sector preifat i ymwneud yn y maes hwn. Mae mwy o elw ar gael i gwmnïau preifat drwy ddarparu cyflymderau uwch i bobl sydd â band eang eisoes na thrwy gyrraedd y rheini nad oes band eang ganddynt, ac mae hynny'n ddiffyg yn y farchnad. Felly, mae angen inni feddwl sut y gallwn lenwi'r bwlch hwnnw yn greadigol, drwy weithio gyda chymaint o bartneriaid ag y gallwn i sicrhau bod yr hyn sydd bellach yn gyfleustod allweddol ar gael i gynifer o dai â phosibl.

Credaf mai'r hyn sydd ei wir angen yw i Lywodraeth y DU gydnabod bod band eang a ffeibr a digidol bellach yn wasanaeth cyffredinol, ac y dylid cael rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol, fel y ceir gyda chyfleustodau allweddol eraill, fel nad ydym yn dibynnu ar faint o elw y gellir ei gynhyrchu neu faint o arian ychwanegol y gallwn ddod o hyd iddo er mwyn llenwi'r bwlch hwnnw. Ond mae hynny'n rhywbeth sydd ei angen gan ddarparwyr i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael ar ôl.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Wrth gwrs, mae Cyflymu Cymru yn un o gynlluniau Llywodraeth Cymru, a chroesawaf rai elfennau o gynlluniau eraill a gyhoeddwyd gennych y llynedd a'r blynyddoedd cyn hynny, ond nid ydynt yn mynd i gynnwys pob safle ledled Cymru nac yn mynd i fod yn berthnasol i bob safle ledled Cymru. Nawr, os edrychwn ar gam 1, roedd yna ardaloedd ledled Cymru ar ôl diwedd cam 1 lle roedd y ddarpariaeth band eang waethaf, ac roeddent yn cynnwys etholaeth y Llywydd yng Ngheredigion, fy etholaeth i ym Mhowys, yn Sir Benfro ac yn Sir Gaerfyrddin. Dyna'r ardaloedd gwaethaf yng Nghymru gyfan o ran darpariaeth band eang.

Felly, byddech wedi meddwl y byddai cam 2 yn canolbwyntio'n gyfan gwbl, neu o leiaf yn blaenoriaethu'r ardaloedd hynny—blaenoriaeth ar gyfer yr ardaloedd hynny. Mewn gwirionedd, gwelwyd y gwrthwyneb a rhoddwyd sylw i'r ardaloedd sydd eisoes yn cael gwasanaeth da. Dyma'r rwystredigaeth i lawer o bobl mewn rhannau gwledig o Gymru. Nawr, os caf ystyried Sir Benfro er enghraifft, o'r holl safleoedd na chafodd eu cysylltu â Cyflymu Cymru yng ngham 1, 4 y cant yn unig o'r nifer honno fydd yn cael eu cysylltu yng ngham 2. Dyna sydd mor siomedig, a dyna'r rhwystredigaeth i lawer o bobl yn y Gymru wledig. Felly, a allwch dderbyn bod y dull hwn o ddarparu band eang ffeibr yn ddiffygiol, a beth rydych yn bwriadu ei wneud ynglŷn â'r 67,000 o adeiladau a fydd yn dal i fod mewn twll ymhen dwy flynedd?

Wel, rhannaf y rwystredigaeth yn llwyr. Rydym wedi darparu cryn dipyn o gyllid i fynd i'r afael â'r mater hwn, sydd, fel rwy'n dweud, yn faes sydd heb ei ddatganoli. Nid ydym yn cael cyllid canlyniadol Barnett am hyn. Rydym yn gwneud hyn o'n cyllidebau ein hunain am nad yw Llywodraeth y DU ac Ofcom yn diwallu anghenion Cymru, felly rydym wedi camu i'r adwy. Ond ceir cyfyngiadau i'r effaith y gallwn ei chael.

Mewn unrhyw chwyldro telathrebu, mae rhannau o Gymru wedi bod yn anodd eu cyrraedd. Nid cefn gwlad Cymru oedd y lle cyntaf i gael signalau teledu neu linellau ffôn sefydlog, felly nid yw'n syndod, oherwydd y topograffi, ein bod yn wynebu heriau wrth gyflwyno ffeibr llawn i'r holl ardaloedd gwledig. Nid ydym yn canolbwyntio'n fwriadol ar yr ardaloedd hawdd. Yr hyn rydym wedi'i wneud yw—. Rydym wedi clywed yr Aelod a'i feinciau yn ein hannog yn gyson i weithio mewn partneriaeth gyda'r sector preifat, a dyna rydym yn ei wneud. Mae'r sector preifat wedi penderfynu ei bod yn haws iddynt wneud cynnig am rywfaint o'r arian sydd ar gael yn unig er mwyn sicrhau'r enillion y maent yn disgwyl eu cael am eu buddsoddiad. Felly, rydym wedi gorfod dibynnu ar eu penderfyniad hwy ynglŷn â pha waith y maent am dendro amdano a pha waith rydym wedi gallu ei ddyfarnu. Mae hynny wedi gadael bwlch yr ydym yn awyddus i'w lenwi, ac rydym yn edrych ar ffyrdd creadigol y gallwn ei lenwi. Ond fel rwy'n dal i ddweud, pe bai'r blaid gyferbyn yn siarad â'u cymheiriaid yn San Steffan ac yn dadlau'r achos dros rwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol—[Torri ar draws.] Mae Russell George yn dweud mai cynllun Llywodraeth Cymru ydyw. Mae'n gynllun Llywodraeth Cymru, ond nid lle Llywodraeth Cymru yw llenwi'r bwlch hwn. Mae hwn yn faes sydd heb ei ddatganoli. Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldeb dros seilwaith digidol ledled y DU. Hwy a ddylai fod yn sicrhau bod pob rhan o Gymru yn cael eu cyrraedd. Maent wedi methu gwneud hynny—maent wedi methu gwneud hynny. Rydym wedi camu i'r adwy gydag arian Llywodraeth Cymru er mwyn llenwi'r bwlch hwn, gan weithio gyda'r sector preifat. Nid oes diddordeb gan y sector preifat, a dweud y gwir, mewn cyrraedd pob eiddo sydd ar gael, ac felly, rydym yn chwilio am ffyrdd o lenwi'r bwlch hwnnw, ac rydym wedi ymrwymo i wneud hynny. A buaswn yn gwerthfawrogi ei gymorth yn hytrach na'i sylwadau difeddwl yn unig.

13:45

Diolch. Roeddwn am ofyn y cwestiwn cyntaf ynglŷn ag a ydych wedi gwneud dadansoddiad economaidd o'r toriadau posibl i addysg uwch. Rwy'n sylweddoli bod hyn yn ymwneud yn bennaf â'r portffolio addysg, ond os edrychwn ar hyn mewn ffordd gyfannol, mae colli unrhyw swyddi—boed y swyddi hynny ym Mangor, yng Nghaerfyrddin, neu yng Nghaerdydd, gyda chyhoeddiad diweddar ynghylch diffyg o £21 miliwn yn eu cyllideb—yn mynd i effeithio ar economi Cymru. Mae'n eithaf eironig, yn yr wythnos a elwir yn 'HeartUnions', fod yn rhaid i undebau llafur yng Nghymru baratoi ar gyfer y posibilrwydd o ddiswyddiadau gorfodol yma yng Nghymru. Pa ddadansoddiad economaidd rydych yn ei wneud o'r posibilrwydd o golli'r swyddi hyn i'n cymunedau?

Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r rhain yn gyrff cwbl ymreolaethol, ac felly'r prifysgolion sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn â chyllidebau.

Credaf fod honno'n agwedd ddi-hid, mae'n ddrwg gennyf, Weinidog, gan y bydd hyn yn effeithio ar bobl ar lawr gwlad—eu bywoliaeth, lle maent yn gwario eu harian, sut y maent yn gwario eu harian, y swyddi y bydd modd iddynt fynd iddynt a'r sgiliau a fydd gennym yn ein cymunedau. Felly, gofynnaf ichi unwaith eto: pa ddadansoddiad economaidd a wnewch ar sail Cymru gyfan ynghylch effaith y toriadau ar ein sector addysg uwch? Heb sôn am y ffaith na fydd swyddi eraill ar gael iddynt fynd iddynt oherwydd—[Torri ar draws.]—clywaf o'r cyrion y Gweinidog addysg yn gofyn, 'Pa doriadau?' Rydym wedi clywed yn y cyfryngau yn ystod y dyddiau diwethaf fod Prifysgol Caerdydd yn mynd i ystyried gwneud diswyddiadau gorfodol oherwydd y diffyg ariannol yn y sector addysg uwch. Pa effaith a gaiff hynny ar economi Cymru?

Na, mae'n ddrwg gennyf, mae'n rhaid inni fod yn glir: beth yw'r toriadau? Nid oes a wnelo hyn â thoriadau gan Lywodraeth Cymru—gan yr adran addysg a sgiliau. Mae hyn yn ymwneud â phenderfyniadau a wneir gan brifysgolion, yn seiliedig ar y ffordd y maent yn rheoli eu materion eu hunain. Nid yw hyn yn seiliedig ar doriadau gan Lywodraeth Cymru.

Nid wyf yn dweud bod hyn yn seiliedig ar doriadau Llywodraeth Cymru; rwy'n dweud ei fod yn seiliedig ar ba ddadansoddiad rydych yn ei wneud o'r posibilrwydd y bydd y toriadau hynny'n digwydd, yma yng Nghymru, lle bydd swyddi'n cael eu colli. Rydym yn clywed hynny o'r cyfarfodydd y mae pob un o fy nghyd-Aelodau wedi bod yn eu trefnu ledled Cymru. Felly, yn hytrach na chladdu'ch pen yn y tywod, beth y bwriadwch ei wneud ynglŷn â hynny fel y gallwn sicrhau y gall y sector addysg uwch fod yn llwyddiannus?

Roeddwn yn awyddus i ofyn cwestiwn hefyd ynghylch partneriaethau sgiliau rhanbarthol yma heddiw. Amlinellodd y cyn Ddirprwy Weinidog sgiliau gynlluniau ar gyfer addysg bellach fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella'r sector sgiliau a hyfforddiant. Ceir llawer o'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol hynny nad ydynt yn cael eu cyllido'n ddigonol, a dywedwyd wrthym y byddai Lywodraeth Cymru yn comisiynu cynghorydd annibynnol ar gyfer y partneriaethau sgiliau rhanbarthol hynny. A allwch roi'r newyddion diweddaraf inni ynglŷn â hynny ac a ydych yn dal i fwrw ymlaen gyda'r cynllun hwnnw a oedd gan Eluned Morgan mewn perthynas â phartneriaethau sgiliau rhanbarthol?

Yn gyntaf oll, diolch i'r Aelod am gydnabod nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw doriadau i addysg uwch. Credaf ei bod yn ddefnyddiol iawn egluro hynny, a chredaf, wrth fyfyrio ar y ffaith honno, y dylwn ddweud hefyd ein bod wedi ymladd yn ddi-baid ar ran y sector addysg uwch, yn union fel rydym wedi cefnogi'r sector addysg bellach yn ddi-baid hefyd. Ond rydym yn dal i frwydro yn erbyn naw mlynedd o gyni llym.

Nawr, o ran y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod fy mod wedi gofyn am adolygiad allanol annibynnol o'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Yn y cyfamser, rydym yn cefnogi ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol gyda £5 miliwn o gyllid prentisiaethau penodol i gysoni'r ddarpariaeth brentisiaethau â'r hyn sydd ei angen ar fusnesau yn y rhanbarthau priodol.

Diolch, Lywydd—[Anghlywadwy.]—anawsterau a wynebir gan gymudwyr Caerdydd wrth gael mynediad i'r ddinas, a allai'r Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i liniaru'r problemau hyn?

O'r gorau. O ystyried yr anawsterau mawr a wynebir gan gymudwyr Caerdydd i gael mynediad i'r ddinas, a allai'r Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i liniaru'r problemau hyn?

Yn sicr. Mae'r cynlluniau'n rhan o'r weledigaeth ar gyfer metro de Cymru, a bydd swm enfawr o fuddsoddiad cyfalaf yn talu amdanynt, dros £700 miliwn. Bydd elfennau allweddol o'r seilwaith yng Nghaerdydd yn cynnwys parcffyrdd newydd a datblygu gorsaf fysiau newydd i Gaerdydd, a gyda chymorth Llywodraeth y DU, os byddwn yn ei gael, rydym yn gobeithio ailddatblygu gorsaf Caerdydd Canolog.

13:50

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Yn ddiweddar, bûm yn ddigon anffodus i orfod defnyddio'r ffordd fynediad ddeheuol a elwir yn Rover Way. Er fy mod yn deall nad yw'r ffordd hon, am ryw reswm dirgel, yn gefnffordd, ac nad yw felly'n rhan o'ch cylch gwaith uniongyrchol, mae'r ffordd mewn cyflwr mor warthus fel bod gwir angen rhyw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Does bosib, Weinidog, nad oes rhyw fath o gymorth ariannol y gallai Llywodraeth Cymru ei ddarparu fel y gall cyngor dinas Caerdydd ailwampio'r briffordd hollbwysig hon i mewn i'n prifddinas.

A gaf fi ddweud ein bod yn cefnogi awdurdodau lleol gydag adnoddau ychwanegol i fynd i'r afael â thyllau yn y ffyrdd, ac rydym hefyd yn cynnig cyllid drwy'r gronfa trafnidiaeth leol i sicrhau bod ffyrdd lleol yn parhau i fod o ansawdd digon da? Credaf mai'r hyn sydd bwysicaf i Gaerdydd wrth i'r ddinas barhau i dyfu yw ei bod yn cael system drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac yn hynny o beth, bydd datblygiad y metro, ac wrth gwrs, diwygio'r gwasanaethau bws lleol yn radical, yn bwysig dros ben.

Unwaith eto, diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Fodd bynnag, gallai hyn yn wir fod yn brosiect posibl ar gyfer y model buddsoddi cydfuddiannol, neu unwaith eto, a oes ymyrraeth bosibl y gellid ei chael gan brifddinas-ranbarth Caerdydd? Does bosib, Weinidog, nad yw dod o hyd i fecanwaith ariannu addas i fynd i'r afael â'r sefyllfa enbyd hon y tu hwnt i'ch arbenigedd sylweddol. Mae'r ffordd hon mewn cyflwr gwarthus. Nid yw'r arian a roddir ar gyfer tyllau yn y ffyrdd yn mynd i ddatrys y broblem, ac mae'n ffordd fynediad brysur iawn a phwysig iawn i mewn i Gaerdydd.

Wel, byddai'n rhaid imi ymgynghori â'r Gweinidog cyllid i weld a ellid defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol at ddiben o'r fath, ond wrth gwrs, hyd yn oed pe gellid gwneud hynny, byddai'n benderfyniad ar gyfer yr awdurdod lleol a/neu brifddinas-ranbarth Caerdydd, fel yr awgryma'r Aelod. Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn gwneud popeth a allwn gyda'n hadnoddau gwerthfawr i wella seilwaith trafnidiaeth nid yn unig yng Nghaerdydd, ond ledled Cymru, ac mae'n rhaid seilio penderfyniadau ar yr angen i fuddsoddi'n deg ledled Cymru gyfan. Byddem yn annog ein partneriaid lleol mewn llywodraeth leol i sicrhau bod yr holl ffyrdd yn cael eu cynnal hyd at safon ofynnol, ac i ddefnyddio'r adnoddau ychwanegol rydym wedi eu darparu drwy'r gronfa ar gyfer tyllau yn y ffyrdd lle bynnag y bo modd.

Y Contract Economaidd Newydd i Fusnesau

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gontract economaidd newydd Llywodraeth Cymru i fusnesau? OAQ53407

Gwnaf, mae'r contract economaidd wedi cael croeso cynnes iawn ers ei lansio ym mis Mai. Rydym wedi cytuno ar dros 120 o gontractau â busnesau ledled Cymru, ac yn ddiweddarach eleni, rydym yn bwriadu rhoi egwyddorion y contract economaidd ar waith mewn ystod ehangach o leoliadau, gan gynnwys, rwy'n falch o ddweud, y cyrff a noddir gennym, yn ogystal â chontractau seilwaith.

Diolch, Weinidog. Yn gynharach y mis hwn, roeddwn yn falch iawn o gael arwain dadl fer gyda chefnogaeth drawsbleidiol ar gontract ar gyfer gwell cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle. Gwn fod y Gweinidog yn teimlo'n angerddol iawn ynglŷn â'r mater hwn, fel finnau a llawer o bobl eraill yn y Siambr hon. Rwy'n siŵr ei fod yn credu ei bod yn gwneud synnwyr, o safbwynt dynol ac ariannol, i sicrhau ein bod yn diogelu iechyd meddwl yn y gweithle yn yr un modd ag y byddwn yn diogelu iechyd corfforol.

Lywydd, mae'r rhan fwyaf ohonom yn treulio mwy o amser yn y gweithle nag yn ein cartrefi ein hunain, a'r wythnos hon, yn bersonol, rwyf wedi cael trafferth gyda fy iechyd meddwl fy hun. Rwy'n ei chael hi'n anodd codi a wynebu'r byd, ac rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un. Mae'n rhaid inni wneud mwy i gefnogi lles yn y gweithle.

Weinidog, a ydych yn cytuno bod ymgyrchoedd fel Where's Your Head At? yn hanfodol i sicrhau bod cyflogwyr yn edrych ar ôl lles eu gweithlu drwy anelu at ei gwneud yn orfodol i sicrhau y ceir swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gwaith? Yn olaf, Weinidog, a fyddech yn cytuno i gyfarfod â mi i weld sut y gallem gefnogi mentrau o'r fath fel rhan o gontract economaidd Llywodraeth Cymru?

A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn? Buaswn wrth fy modd yn cyfarfod ag ef i drafod sut y gallwn ddefnyddio'r contract economaidd ymhellach i'r diben hwn. Mae hwn yn fater y mae ef a minnau yn rhannu diddordeb brwd iawn ynddo. Mae'n fater sy'n achosi bron i £100 biliwn o niwed i economi'r DU ar ffurf cynnyrch a gollir bob flwyddyn—amcangyfrifir ei fod rhwng £74 biliwn a £100 biliwn. Yn wir, Lywydd, i fusnesau eu hunain, mae'r gost yn anhygoel. Awgrymodd astudiaeth annibynnol ddiweddar gost flynyddol o rhwng £33 biliwn a £42 biliwn i gyflogwr y DU, oherwydd iechyd meddwl gwael yn y gweithle. Gellir priodoli mwy na hanner y ffigur hwnnw i bobl yn dod i'r gwaith ond yn methu wynebu diwrnod o waith heb broblemau iechyd meddwl. Dyna un o'r rhesymau pam y credwn ei bod mor bwysig cynnwys iechyd meddwl yn un o'r pedwar maen prawf yn y contract economaidd, ac mae'n rhaid imi ddweud ein bod eisoes yn gweld newid ymddygiad mewn llawer o fusnesau. Rydym yn gweld enghreifftiau o arferion gwych, megis yn GoCompare a Bluestone a Wockhardt. Nid wyf yn dymuno bod yn rhagnodol drwy'r contract economaidd ynglŷn â sut y mae busnesau'n gwella lles ac iechyd meddwl yn y gweithle gan fod nifer fawr iawn o fusnesau eisoes yn dangos cryn dipyn o greadigrwydd ac arloesedd yn y maes hwn. Hoffwn weld eu harferion gorau'n cael eu rhannu a'u lledaenu ar draws yr economi.

13:55

Weinidog, roeddwn yn falch o weld y contract economaidd newydd, o ystyried agwedd elyniaethus arweinyddiaeth eich plaid yn y DU tuag at fentrau preifat, yn enwedig canghellor yr wrthblaid. Weinidog, a wnewch chi gadarnhau mai gwir bartneriaeth rhwng y cyhoedd a'r sector preifat, a'r Llywodraeth yn darparu'r amgylchedd gorau i fentrau preifat ffynnu, yw'r allwedd i lwyddiant economaidd yng Nghymru?

Buaswn yn cytuno'n llwyr gyda'r Aelod fod partneriaeth gymdeithasol yn hanfodol i hybu twf cynhwysol a sicrhau bod pob un ohonom yn cynnal yr un baich. Mae hynny'n golygu cynnwys y Llywodraeth. Mae'n cynnwys y sector cyhoeddus, mae'n cynnwys busnesau, ac wrth gwrs, mae hefyd yn cynnwys ein cydweithwyr yn yr undebau llafur. Rwy'n falch iawn fod Plaid Lafur y DU wedi cydnabod gwerth y contract economaidd ar gyfer hybu twf cynhwysol, ac rwy'n gobeithio y caiff ei fabwysiadu pan fydd Llywodraeth Lafur yn cael ei ffurfio yn San Steffan.

Weinidog, credaf fod y contract economaidd yn gam cadarnhaol mewn perthynas ag ehangu'r effaith a fwriedir gan gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau llai o faint Cymru. A allwch egluro, Weinidog, pa fath o gefnogaeth ariannol a roddir i gwmnïau Cymru, ar ffurf cymorth ariannol? A fydd y cymorth hwn yn cael ei ddarparu drwy drefniant benthyciadau, ac os felly, beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â benthyciadau wrth symud ymlaen?

Wel, o ran y cymorth sydd ar gael, credaf fod yr Aelod yn cyfeirio at y cymorth a allai fod yn angenrheidiol er mwyn i fusnesau gyrraedd pwynt lle maent wedi llwyddo i lofnodi'r contract. Byddai hwnnw'n cael ei ddarparu drwy Busnes Cymru, ar ffurf cymorth ariannol posibl, ond yn bwysicach yn fy marn i, mae'n debyg, y gwasanaeth cynghori y gellir ei gynnig. O ran benthyciadau neu grantiau, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod ar feddyliau a'n destun dadlau yn y lle hwn ers dechrau datganoli. Rwy'n dal i fod yn awyddus i sicrhau ein bod yn symud oddi wrth ddibyniaeth helaeth ar grantiau tuag at fwy o ddefnydd o fenthyciadau drwy Fanc Datblygu Cymru, a phan fyddwn yn defnyddio grantiau, ein bod yn eu halinio'n agosach â'n blaenoriaethau, gan sicrhau bod grantiau'n cael eu defnyddio mewn ardaloedd daearyddol lle ceir lefelau uwch o ddiweithdra neu lle mae mwy o angen uwchsgilio'r gweithlu. O ran grantiau yn gyffredinol, dylem fod yn defnyddio'r contract economaidd yn fwy eang. Mae hynny'n cynnwys ar draws adrannau'r Llywodraeth ac o fewn awdurdodau lleol, yn ogystal â thrwy'r broses gaffael.

Banc Datblygu Cymru

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am enillion ariannol a ddaw gan Fanc Datblygu Cymru? OAQ53405

Gwnaf. Mae Banc Datblygu Cymru yn rheoli nifer o gronfeydd ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac mae'n eu buddsoddi mewn busnesau yng Nghymru i'w galluogi i dyfu ac i ffynnu. Mae'r enillion sy'n deillio o'r buddsoddiadau hyn naill ai'n cael eu hailgylchu o fewn y gronfa ar gyfer buddsoddiadau yn y dyfodol neu'n cael eu had-dalu i Lywodraeth Cymru.

Ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, roeddem yn hynod o falch o wneud ein gwaith craffu blynyddol ar Fanc Datblygu Cymru. Y llynedd, cynhaliais ginio yn y Cynulliad ar gyfer Giles Thorley a nifer o'i uwch dîm. Rwy'n edmygu eu gallu, ac rwy'n optimistaidd ynghylch yr hyn y bydd y banc yn ei gyflawni, gan adeiladu ar Cyllid Cymru. Nododd y Gweinidog y ddau beth posibl a allai ddigwydd pe bai'r banc, fel y gobeithiwn, yn gwneud mwy o arian o fuddsoddiadau ecwiti a llog nag y byddai'n ei golli ar y benthyciadau lle ceir rhywfaint o risg, ac ni fydd pob un yn llwyddo. Fodd bynnag, beth yw polisi'r Llywodraeth ynglŷn â pha gyfran o'r arian hwnnw fydd yn aros gyda'r banc a faint fydd yn dod yn ôl i'r Llywodraeth i ariannu blaenoriaethau eraill, ac a fydd hynny'n dibynnu ar ba mor llwyddiannus yw'r banc?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a dweud hefyd pa mor ddiolchgar wyf fi am ei gefnogaeth i'r banc datblygu? Fel Aelod o'r wrthblaid, byddai'n hawdd iawn—ac rwy'n siŵr ei bod yn demtasiwn fawr ar brydiau—yn syml am ei fod yn Aelod o'r wrthblaid, iddo fod yn feirniadol o unrhyw beth a wna Llywodraeth Cymru. Rwy'n cydnabod ei gefnogaeth i waith da'r banc datblygu, ac edrychaf ymlaen at weld Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cynnal ymchwiliad trylwyr i waith y banc datblygu a'r manteision a gafwyd hyd yma.

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn ynghylch y modd y defnyddiwn arian, pa gyfran sy'n cael ei hailgylchu a pha gyfran a ddaw yn ôl i Lywodraeth Cymru. A phan fydd cronfa unigol yn cyrraedd diwedd ei hoes, yn gyffredinol, ymdrinnir ag unrhyw gyfalaf a wireddwyd neu a gronnwyd mewn un o ddwy ffordd. Yn gyntaf oll, mae gennym gyfalaf trafodion ariannol. Mae'n rhaid ad-dalu hwnnw i'r cyllid canolog, ac yn y pen draw, yn ôl i Drysorlys ei Mawrhydi, a chytunir ar amserlenni ad-dalu gyda Banc Datblygu Cymru i'r perwyl hwn. Fodd bynnag, ar y llaw arall, mae gennym gyfalaf craidd y gellir ei ailgylchu o fewn y gronfa ar sail fythwyrdd, a'n dymuniad yw gweld cymaint â phosibl o hwnnw'n cael ei ailgylchu. Ond dylid nodi—ac efallai y bydd hyn yn swnio'n amlwg, ond dylid ei ailddatgan—fod yna reolau ar gyfer defnyddio enillion o gyllid yr UE, sy'n nodi bod yn rhaid eu defnyddio at ddibenion tebyg i'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol. Felly, unwaith eto, gellir parhau i'w ddefnyddio ar gyfer buddsoddiad parhaus mewn busnesau bach a chanolig.

14:00

A all y Gweinidog nodi faint o'r buddsoddiad ym manc datblygu Cymru a ddaw o gyfalaf trafodion, Ewrop, benthyca ar y farchnad agored a ffynonellau eraill, gan gynnwys ailgylchu arian?

Wel, ers y lansiad ym mis Hydref 2017, bydd yr Aelod yn gwybod am y gwahanol gronfeydd newydd sydd wedi'u cyhoeddi. Cafwyd cronfa buddsoddi hyblyg Cymru, sy'n hwb enfawr—hwb gwerth £130 miliwn. Wedyn, ym mis Mai, lansiais Angylion Buddsoddi Cymru, sef rhwydwaith angylion busnes newydd Banc Datblygu Cymru. A law yn llaw â hyn, lansiais gronfa cyd-fuddsoddi angylion Cymru, cronfa newydd gwerth £8 miliwn. Credaf y gellir ateb y pwynt a godwyd gan yr Aelod ynglŷn â'r gyfran o arian a godir drwy gyfalaf trafodion ariannol. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ac yn darparu copi o'r datganiad i bob Aelod yn y Siambr.FootnoteLink

Gwasanaethau Rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gerbydau ar gyfer gwasanaethau rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd? OAQ53416

Gwnaf. Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhagweld y caiff cerbydau newydd eu darparu erbyn mis Mai 2019, os nad yn gynharach.

Pan roddodd James Price dystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, nododd y byddai cerbydau ychwanegol ar gael erbyn mis Mai eleni; os nad erbyn mis Mai, yna o bosibl erbyn mis Mawrth. Mae adegau prysur, yn enwedig wrth ddod adref ar adegau prysur, ar reilffordd Caerdydd i Rymni yn ofnadwy. Mae'n anodd iawn cael lle i eistedd. Byddai'r gwelliant hwn ym mis Mawrth/Mai yn galonogol iawn. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â pha gynnydd a wneir, pa seddi ychwanegol a fyddai'n debygol o gael eu darparu, faint o seddi ychwanegol sy'n debygol o gael eu darparu, a pha gynnydd pellach a fyddai'n cael ei wneud erbyn diwedd eleni?

Gallaf. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a dweud faint rwy'n gwerthfawrogi'r pwysau y mae'r Aelod wedi'i roi arnaf fi a Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod ei etholwyr yn cael y gwasanaethau gorau posibl drwy Trafnidiaeth Cymru? Maent yn gofyn am bum trên dosbarth 769 ar gyfer rheilffordd Rhymni. Dywedais ein bod yn bwriadu eu cael ar y traciau erbyn mis Mai eleni, ond gobeithiaf y gallem eu gweld yn cael eu darparu fis nesaf. Credaf ei bod yn bwysig ystyried y ffaith bod capasiti ar y rhwydwaith hwnnw eisoes o dan bwysau difrifol, ac felly rwy'n falch o ddweud y bydd y capasiti'n cynyddu o 212 sedd i 292 sedd ar y trenau a ddaw i gael eu defnyddio.

Credaf fod y Gweinidog a Trafnidiaeth Cymru wedi awgrymu y gallem, maes o law, weld trenau tri-moddol ar y rheilffordd hon, gyda gweithrediad trydan uwchben, diesel a batri. Pa mor gadarn yw'r polisi hwnnw, gan fy mod yn ymwybodol fod rhai pryderon wedi'u mynegi ynghylch pwysau ychwanegol y batri, ac er gwaethaf y fantais yn hynny o beth wrth ddod drwy dwnnel Caerffili, a fyddai'r pwysau ychwanegol hwnnw ar waith mewn mannau eraill yn golygu bod y trenau'n llai effeithlon ar y cyfan? Nid yw pawb yn cytuno mai dyma'r ateb technegol cywir o reidrwydd, o ystyried nad ydym wedi gweld hyn yn unrhyw le arall yn y byd.

Maent wedi'u profi, y trenau tri-moddol, a byddant yn cael eu defnyddio ar reilffordd Rhymni o 2023. Maent yn defnyddio cymysgedd o bŵer diesel, trydan uwchben a phŵer batri. O ran pŵer batri, mae camau enfawr yn cael eu gwneud ar ddatblygu batris newydd ysgafnach, llai o faint, ac er bod rhywfaint o anghytuno ymhlith arbenigwyr ar hyn o bryd, credaf fod yna gydnabyddiaeth, wrth i dechnoleg ddatblygu, y bydd pwysau batri mewn trenau a cheir yn parhau i ostwng, ac felly bydd yr unedau a'r cerbydau hynny'n dod yn fwy effeithlon a byddant yn gallu ymdopi â mwy o deithwyr hefyd.

Holl bwynt yr ymarfer caffael oedd nad oedd yn ffafrio unrhyw fodd penodol. Cawsom ein llywio gan yr amcanion, a'r amcan oedd sicrhau y gallem ddarparu cymaint o wasanaethau mor aml â phosibl, gan gludo cymaint o bobl â phosibl, ac asesodd y farchnad beth fyddai orau ar gyfer pob rheilffordd, a phenderfynu mai trenau tri-moddol oedd yr ateb mwyaf priodol ar gyfer rheilffordd Rhymni.

14:05
Trafnidiaeth Gyhoeddus yn y Rhondda

6. Sut y bydd gwariant Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth gyhoeddus o fudd i'r Rhondda? OAQ53417

Wel, rydym yn bwrw ymlaen â'n gweledigaeth uchelgeisiol i ail-lunio gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, ac wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys gwasanaethau bws lleol, gwasanaethau rheilffyrdd, teithio llesol a metro de Cymru.

Pan gyhoeddwyd manylion y fasnachfraint drenau newydd, datgelwyd y byddai'r pencadlys newydd wedi'i leoli yn ardal Trefforest. Nawr, mae hwn yn gyfle a gollwyd yn fy marn i i ddod o hyd i gyflogwr mawr mewn ardal lle mae swyddi, yn enwedig swyddi sy'n talu'n dda, hyd yn oed yn fwy prin nag y maent yn Nhrefforest. Mae ardal Blaenau'r Cymoedd yn fy etholaeth, lleoedd fel Maerdy, Glynrhedynog, Treherbert, yn enghreifftiau o leoedd lle byddai'r pencadlys trafnidiaeth newydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r economi leol, ac wedi mynd ymhell tuag at ddadwneud degawdau o esgeulustod. Gan eich bod wedi croesawu pwysau gan Aelodau yn gynharach, hoffwn wybod pa gyfleoedd eraill a all fod ar gael i sicrhau bod y cymunedau a gynrychiolaf yn y Rhondda yn elwa o'r fasnachfraint reilffyrdd newydd. A allwch ddweud wrth y bobl a gynrychiolaf sut, yn y dyfodol, y gall y Rhondda elwa'n uniongyrchol o'r cyfleoedd cyflogaeth o dan y fasnachfraint reilffyrdd newydd?

Wel, fel sefydliad dielw, bydd cyfleoedd enfawr i'w cael i fusnesau lleol elwa o'r fasnachfraint newydd. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ystyried defnyddio gorsafoedd i sicrhau y gellir eu defnyddio gan fusnesau a busnesau newydd, ond mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod mai Rhondda Cynon Taf sy'n elwa fwyaf o gam nesaf y metro. Fel y gŵyr yr Aelod eisoes, mae gan Trafnidiaeth Cymru nifer o welliannau ar y ffordd ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yn y Rhondda. Dylwn eu hailadrodd, serch hynny: erbyn diwedd eleni, byddwn yn cyflwyno nifer o drenau dosbarth mwy newydd i weithredu ar y llwybr, fel y dywedais wrth Hefin David, gan gynyddu capasiti o 212 ar y trenau hŷn i 292; bydd nifer y gwasanaethau ar ddydd Sul rhwng Caerdydd Canolog a Threherbert yn cynyddu i un trên bob awr; bydd rhaglen lanhau dwys ar waith ym mhob gorsaf yn y Rhondda fel rhan o waith adfywhau cychwynnol; a bydd peiriannau tocynnau awtomatig i'w cael ym mhob gorsaf yn etholaeth yr Aelod nad oes ganddynt y cyfleusterau hyn ar hyn o bryd. Ac yn y tymor hwy, bydd y Rhondda yn elwa'n uniongyrchol o gynlluniau trawsnewidiol a hynod uchelgeisiol Trafnidiaeth Cymru ar gyfer metro de Cymru. Mae hynny'n cynnwys cyfleoedd i fusnesau fanteisio arnynt o ran cyfleoedd y gadwyn gyflenwi wrth i seilwaith metro de Cymru gael ei ddarparu.

Mewn perthynas â hynny, credaf fod y gwaith sylweddol o adfywio canol y dref yn y Porth, sy'n cael ei ystyried gan gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, yn cynnwys canolfan drafnidiaeth ac ardal yr orsaf newydd, a fyddai'n cysylltu â metro de Cymru. Gwyddom fod gennym sawl achos yng Nghymru lle mae gorsafoedd bysiau a threnau mewn lleoliadau ar wahân, nid yw'r amserlenni wedi'u cydamseru ac mae cyfyngiadau ar fynd â beiciau ar drafnidiaeth gyhoeddus er enghraifft. Felly, pa gymorth rydych yn ei roi i gyngor Rhondda Cynon Taf mewn cynlluniau megis y ganolfan drafnidiaeth honno ar gyfer y Porth, lle mae popeth o dan un to? A pha mor fuan y byddwn yn clywed rhai o'r cyhoeddiadau hyn?

Wel, rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod fod swyddogion wrthi'n ystyried adroddiad cychwynnol gan Trafnidiaeth Cymru ar opsiynau ar gyfer ymestyn gwasanaethau metro i'r Rhondda Fach o'r Porth. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar yr ystyriaethau hynny i'r Aelodau cyn gynted â phosibl. Ond o ran y canolfannau, rydym yn gobeithio gallu cefnogi cymaint o ganolfannau â phosibl yn rhanbarth y metro, yn enwedig lle mae teithwyr yn wynebu rhwystrau ar hyn o bryd wrth newid o un math o drafnidiaeth i'r llall.

Tasglu'r Cymoedd

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith tasglu'r cymoedd yng Nghaerffili? OAQ53415

Diolch. Mae tasglu'r Cymoedd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yng Nghaerffili, gan gyflawni nifer o'r ymrwymiadau yng nghynllun cyflawni 'Ein Cymoedd, ein Dyfodol', gan gynnwys datblygu canolfan drafnidiaeth integredig ac uwchgynllun strategol, a datblygu safle porth darganfod fel rhan o barc rhanbarthol y Cymoedd.

14:10

Ar 27 Tachwedd y llynedd, gwnaed datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ar yr union gynllun cyflawni hwnnw yn y Siambr hon. Ers hynny, mae wedi cael dyrchafiad i'r meinciau cefn—[Chwerthin.]—a'r Dirprwy Weinidog sydd bellach yn gyfrifol. Gyda hynny mewn golwg, un o'r pethau a addawodd Ysgrifennydd y Cabinet eu darparu oedd cronfa gyfalaf £25 miliwn i gefnogi saith canolfan strategol dros y ddwy flynedd nesaf. Mae un o'r canolfannau hynny yng Nghaerffili. A yw'n llwyr gefnogi'r datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet fis Tachwedd diwethaf, a'r ymrwymiad hwnnw'n benodol?

Wrth gwrs, rydym wedi ymrwymo i wario £25 miliwn ar y tasglu i ddatblygu cynlluniau o amgylch y canolfannau. Yr hyn rwy'n ceisio'i wneud yw ystyried y cynllun cyflawni a barn y partneriaid ynghylch y camau gorau i'w cymryd nesaf. Rwyf wedi cyfarfod â'r tasglu ac wedi cael trafodaeth agored iawn ynglŷn â ble y dylem fynd nesaf. Hefyd, rwyf wedi cyfarfod ag ACau sy'n cynrychioli etholaethau yn y Cymoedd. Byddaf yn cyfarfod â mwy dros yr wythnosau nesaf, a byddaf hefyd yn cyfarfod â holl arweinwyr y cynghorau. A ninnau hanner ffordd drwy dymor y Cynulliad hwn a chan fod hwn yn ymrwymiad a wnaed gennym yn y maniffesto diwethaf, credaf ei bod hi'n bwysig ein bod bellach yn ceisio canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei gyflawni dros y ddwy flynedd nesaf a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ar draws y Cymoedd.

O ran union ffurf y canolfannau a sut y gwerir yr arian hwnnw, mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei ystyried ar hyn o bryd, a buaswn yn ddiolchgar am syniadau'r Aelod ynglŷn â ble y dylem fynd nesaf.

Weinidog, ym mis Gorffennaf y llynedd, mynegodd Sefydliad Bevan bryderon ynghylch gallu tasglu'r Cymoedd i gyflawni ar gyfer cymunedau megis Caerffili. Dywedasant fod cynigion y tasglu yn rhy fach i wneud gwahaniaeth, gan gyfeirio at ddiffyg ffocws, methiant i fynd i'r afael â'r problemau mawr a gweledigaeth a oedd yn rhy fach. Adleisiwyd y farn hon gan yr Athro Kevin Morgan, a ddywedodd,

Ni fydd y model datblygu yn llwyddiannus hyd yn oed os bydd y targedau'n fwy uchelgeisiol gan nad oes unrhyw ffordd y gall y Llywodraeth ei gyflawni.

Dyna ei eiriau ef. Yng ngoleuni'r feirniadaeth hon, a yw'r Gweinidog wedi gosod targedau clir i sicrhau bod tasglu'r Cymoedd yn darparu manteision gweladwy i gymunedau megis Caerffili, os gwelwch yn dda?

Wel, ni chredaf fod unrhyw un o dan unrhyw gamargraff ynghylch maint y dasg o'n blaenau. Mae llawer o'r cymunedau hyn wedi profi dros ganrif o ddirywiad economaidd, a bydd angen mabwysiadu ymagwedd aml-genhedlaeth er mwyn mynd i'r afael â'r problemau dwys sy'n sail i hynny. Mae tasglu'r Cymoedd wedi chwarae rôl bwysig iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rwy'n talu teyrnged i fy nghyd-Aelod, yr Aelod Cynulliad dros Flaenau Gwent, am y gwaith a wnaeth. Ac mae llawer o'r gwaith hwnnw wedi bod o dan y bonet yn Llywodraeth Cymru, ac nid yw'n ofnadwy o ddeniadol ond mae'n hanfodol i gyflawni cam nesaf y broses ddiwygio. Mae gwahanol rannau o'r Llywodraeth wedi eu dwyn ynghyd i ganolbwyntio ar y Cymoedd, a'u gwneud i feddwl sut y gellir defnyddio rhaglenni yn y Cymoedd i fynd i'r afael â'r prosiectau hyn, ac mae hynny wedi arwain at rai canlyniadau, ac mae'r uwchgynllunio a grybwyllais a'r gwaith o ddatblygu canolfannau trafnidiaeth integredig strategol yn enghreifftiau o rywbeth a fydd yn cymryd blynyddoedd lawer i ddwyn ffrwyth, ond mae'n waith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, gwaith a gychwynnwyd gan Alun Davies, ac sy'n mynd i fod yn hanfodol ar gyfer lefel y newid sydd angen inni ei weld dros y degawdau i ddod.

O ran yr hyn y gallwn ei gyflawni dros y ddwy flynedd nesaf, fel y dywedais yn fy ateb i Hefin David, credaf fod rhai pethau gweladwy y mae angen inni ganolbwyntio arnynt. Mae'r cynllun cyflawni yn cynnwys set gynhwysfawr o argymhellion, ac rydym yn archwilio sut y gallwn eu blaenoriaethu. Credaf hefyd mai un o ddarnau cyffrous y cynllun cyflawni yw'r gwaith ar entrepreneuriaeth. Rwyf wedi bod yn siarad â nifer o arbenigwyr dros yr ychydig wythnosau diwethaf ynglŷn â sut y gallwn adeiladu ar hynny, a byddaf yn cynnal gweithdai dros y misoedd nesaf i weld sut yn benodol y gallwn dyfu busnesau yn y Cymoedd drwy'r gwaith hwnnw.

Gorsafoedd Rheilffordd Newydd

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses arfarnu ar gyfer gorsafoedd rheilffordd newydd? OAQ53413

Gwnaf. Mae proses asesu cam 2 wedi cymryd mwy o amser nag a gynlluniwyd er mwyn sicrhau y dewisir y gorsafoedd iawn ar gyfer y cam nesaf, ond bydd yr ymarfer yn cael ei gwblhau y mis hwn, a bydd hynny'n caniatáu imi wneud cyhoeddiad ar y gorsafoedd a fydd yn cael eu hystyried yng ngham 3.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr y bydd yn deall, er enghraifft, fod trigolion Carno yn y rhanbarth a gynrychiolaf yn teimlo braidd yn rhwystredig oherwydd yr oedi parhaus. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am roi sicrwydd inni y bydd yr oedi'n dod i ben. A allwch roi esboniad inni ynglŷn â'r rheswm dros yr oedi a pham fod hyn wedi cymryd cymaint o amser?

14:15

Gallaf—oherwydd bod angen gwneud cymaint o waith yn ystod y rhaglen asesu. Credaf ei bod yn bwysig dweud nad oes unrhyw bwynt symud cynlluniau i lefel achos busnes manwl oni bai ein bod yn gwbl hyderus fod modd iddynt arwain at achos busnes cadarn, a dyna pam fod y gwaith wedi bod mor helaeth. Ond mae'n werth nodi hefyd na chafwyd unrhyw arwyddion gan Lywodraeth y DU, hyd yn hyn, ynghylch unrhyw ffrydiau ariannu newydd i gyflwyno gorsafoedd newydd ar ein rhwydwaith rheilffyrdd. Rwy'n dal i frwydro i sicrhau y darperir adnoddau ychwanegol, ond cyfrifoldeb Llywodraeth y DU fydd sicrhau bod yr arian ar gael i Gymru.

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy nyhead i weld gorsaf drenau newydd yn gwasanaethu Abertyleri a chwm Ebwy Fach yn fy etholaeth. Rhannaf rai o'r pryderon a ddisgrifiwyd gan Helen Mary Jones o ran y broses a ddefnyddir i wneud y penderfyniadau hyn. Ymddengys i mi fod y model presennol yn rhoi canlyniad a fydd bob amser yn ffafrio ardaloedd â phoblogaethau uwch o lawer yn ninasoedd coridor yr M4 yn hytrach na chaniatáu inni wneud penderfyniadau a fydd yn ein galluogi i adeiladu a datblygu gorsafoedd newydd a seilwaith newydd yn y trefi bach yn y Cymoedd, ac mae Abertyleri yn enghraifft o hynny. A wnaiff y Gweinidog ystyried ailedrych ar y model presennol a'r ffurf o asesu er mwyn sicrhau bod cyfle i'n holl gymunedau ddangos pwysigrwydd cael gorsafoedd a fydd, yn achos Abertyleri, yn gwasanaethu pob rhan o gwm Ebwy Fach yn fy etholaeth, ac i sicrhau bod pob un o'r rhain yn cysylltu â'r metro newydd ac y gallant ddod yn ganolfannau trafnidiaeth a chyfleoedd gwaith?

Wel, carwn yn fawr newid y fformiwla ariannu a'r meini prawf, ond fel y gŵyr yr Aelod, mae graddau'r gymhareb cost a budd yn ffactor pwysig wrth benderfynu a fyddai Llywodraeth y DU yn ariannu gorsaf newydd, gan fod ariannu gorsafoedd newydd yn fater i Lywodraeth y DU, ac felly, rhaid inni ddefnyddio'r fformiwla ariannu a'r meini prawf asesu a fydd yn sicrhau bod unrhyw orsafoedd a gynigir, neu unrhyw gynigion a gyflwynir ar gyfer gorsafoedd newydd yn cael y cyfle gorau posibl o lwyddo pan fyddant yn cyrraedd Whitehall. Rwy'n derbyn—yn enwedig fel Aelod sy'n cynrychioli ardal wledig, rwy'n derbyn bod hwn yn fater pwysig o ran cyflawni gwelliannau mewn ardaloedd llai poblog. Hyd nes ac oni bai bod cyfrifoldeb am y seilwaith rheilffyrdd yn cael ei ddatganoli, a setliad ariannu teg yn dod gyda hynny, bydd yn rhaid inni sicrhau ein bod yn gweithio'n unol â fformiwla Llywodraeth y DU. Pe bai'r gyfres benodol hon o bwerau yn cael ei datganoli, wrth gwrs, gellid blaenoriaethu cynlluniau rheilffyrdd yn erbyn ystod ehangach o fesurau ac amcanion, a byddant yn ein dwylo ni.

Ffordd Osgoi Caernarfon i Bontnewydd

9. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y bydd ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd yn agor? OAQ53411

Roeddwn yn falch iawn o gael nodi dechrau'r cyfnod adeiladu ar 17 Ionawr ar gyfer y prosiect seilwaith mawr hwn yng ngogledd Cymru, ac oni cheir unrhyw broblemau annisgwyl, bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau erbyn mis Tachwedd 2021.

Diolch yn fawr iawn, ac felly dwi'n gobeithio na fydd yn rhaid i mi ofyn y cwestiwn yna eto yn y Siambr yma. Agwedd arall ar y gwaith, wrth gwrs, ydy'r effaith ar yr economi'n lleol. Pa waith ydych chi fel Llywodraeth yn ei wneud i wneud yn siŵr y bydd gweithwyr lleol a busnesau lleol yn cael y budd mwyaf posib allan o'r cynllun pwysig yma?

Wel, mae'n £135 miliwn sy'n cael ei wario ar y darn penodol hwn o seilwaith. Drwy'r ymarfer caffael, drwy gytundebau gyda chontractwyr, ein bwriad yw sicrhau bod busnesau lleol yn cael y cyfle gorau posibl i elwa o'r cynllun. Rydym hefyd yn ymgysylltu gyda'r awdurdod lleol a Sustrans—boed hynny ar yr ochr fusnes neu o ran teithio llesol—i sicrhau y ceir cyfleoedd i gynifer o bobl a sefydliadau â phosibl elwa o ffordd osgoi Caernarfon-Bontnewydd.

Diolch, Lywydd. Fel y dywedoch, a phan dorroch y dywarchen gyntaf ar 17 Ionawr, roeddech yn rhagweld y byddai'r gwaith wedi'i gwblhau erbyn Hydref 2021. Pa fesurau diogelu cytundebol a sicrhawyd gennych mewn perthynas â hynny, ac o ystyried y pryderon a fynegwyd gan rai busnesau mawr lleol pan gyhoeddwyd y ddau lwybr cyntaf a ffafrir na chynhaliwyd asesiad o'r effaith ar fusnesau lleol, pa drafodaethau a gawsoch gyda hwy ynglŷn â mesurau lliniaru posibl i leihau unrhyw effaith negyddol arnynt?

14:20

Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu ei bod yn werth dweud bod proses ymgynghori helaeth wedi'i chynnal fel rhan o'r rhaglen i asesu pa lwybr a ffafrir. Byddai'r ffordd osgoi fel y'i cynllunnir ar hyn o bryd—y 9.7 km o ffordd newydd—yn cael gwared ar draffig trwodd o nifer o gymunedau. Mae'r cymunedau hynny wedi galw am y buddsoddiad hwn. Rwy'n derbyn bod rhai—rhai—busnesau wedi mynegi pryderon ynglŷn â'r effaith andwyol y gellid ei phrofi o ganlyniad i gael gwared ar draffig oddi ar ffyrdd yn y cymunedau hynny. Fodd bynnag, o'r hyn a ddywedwyd wrthym gan y busnesau hynny yn ystod y broses ymgynghori, nid oes digon o dystiolaeth i awgrymu y byddai'r busnesau hynny'n cael eu tanseilio'n ddifrifol o ganlyniad i adeiladu'r ffordd osgoi. Credaf ei bod yn bwysig ystyried bod cryn dipyn o gefnogaeth i'r cynllun penodol hwn yn yr ardal.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit)

Eitem 2 yw cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit, a daw cwestiwn 1 gan Paul Davies.

Goblygiadau Brexit i Sir Benfro

1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am oblygiadau Brexit ar Sir Benfro? OAQ53386

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried goblygiadau Brexit drwy Gymru gyfan, ac yn cymryd camau i gynllunio a pharatoi ar gyfer pob posibilrwydd. 

Cwnsler Cyffredinol, byddwch chi'n ymwybodol bod y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi cyhoeddi adroddiad yn Awst 2017 i mewn i effaith Brexit a'r porthladdoedd yma yng Nghymru. Un o argymhellion yr adroddiad hwnnw oedd sicrhau bod yna drafodaethau adeiladol yn cymryd lle rhwng Llywodraeth Cymru a'u chymheiriaid yn Iwerddon, ac, yn wir, gyda gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd. A allwch chi ddweud wrthym ni, felly, pa waith sydd nawr wedi cymryd lle ers yr adroddiad yma, yn enwedig ar effaith Brexit a'r porthladdoedd yn fy etholaeth i?

Mae cryn waith wedi digwydd ynglŷn â'r risg i borthladdoedd yng Nghymru yn gyffredinol, yn etholaeth yr Aelod, ynghyd ag yn y gogledd yng Nghaergybi ac ati hefyd. Rŷn ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraeth leol a'r bobl sy'n gweithredu'r porthladdoedd i sicrhau ein bod ni'n modelu'r risgiau i'r porthladdoedd yn gyffredinol. Ar y cyfan, rŷn ni'n credu bod y porthladdoedd yn Ninbych y Pysgod ac yn Pembroke Dock yn debygol o fod gyda mwy o resilience na'r risg sydd yng Nghaergybi. Ond, wedi dweud hynny, rŷn ni'n cadw hyn o dan olwg rhag ofn y bydd yr assumptions o dan y modelu yna'n newid, wrth gwrs.

Mae etholwyr wedi mynegi pryderon wrthyf ynglŷn â'r ddarpariaeth o gyflenwadau meddygol yn ne-orllewin Cymru, yn enwedig pethau ymarferol iawn fel padiau anymataliaeth, ond hefyd mynediad at inswlin, rhai radioisotopau prin sy'n angenrheidiol ar gyfer rhai triniaethau canser. A all y Gweinidog Brexit roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â'r trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda bwrdd iechyd Hywel Dda i sicrhau bod gan ein hysbytai gwledig a rhai o'r ysbytai llai yn arbennig fynediad at y mathau hyn o gynhyrchion pe baem yn wynebu Brexit caled, rhywbeth y mae pob un ohonom, wrth gwrs, yn taer obeithio na fydd yn digwydd?

Gallaf, yn sicr. Wrth gwrs, cafwyd trafodaethau gyda'r byrddau iechyd. Mae'r Gweinidog iechyd yn cael trafodaethau parhaus, mewn gwirionedd, gyda chyrff y GIG i sicrhau bod ganddynt gynlluniau parodrwydd ar waith ac i brofi rhai o'r rhagdybiaethau hynny. Mae'r cwestiwn y gofynna'r Aelod yn ymwneud â darparu dyfeisiau meddygol yn benodol. Fel y gŵyr, o bosibl, gwnaed gwaith penodol i bennu cadwyni cyflenwi ar gyfer y dyfeisiau hynny sy'n benodol i Gymru ac i lywio safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch y graddau y bydd yn cydweithio ac yn cydweithredu gyda'r systemau hynny y mae Llywodraeth y DU yn eu rhoi ar waith ac i ba raddau y mae angen inni roi ein trefniadau ein hunain ar waith mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â'r gadwyn gyflenwi yma yng Nghymru.

Un o'r materion allweddol, wrth gwrs, yw sicrhau y dosberthir rhai o'r mathau o ddyfeisiau meddygol a defnyddiau traul y cyfeiria'r Aelod atynt yn ei chwestiwn ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys efallai y cymunedau mwy anghysbell.

Porthladd Caergybi

2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Porthladd Caergybi pe bai Brexit heb fargen yn digwydd? OAQ53392

14:25

Yn ei ddatganiad llafar ar 22 Ionawr, nododd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth fanylion ein cynlluniau wrth gefn ar gyfer cerbydau nwyddau trwm a fyddai'n wynebu oedi yng Nghaergybi. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi nodi mwy nag un opsiwn, ac yn trafod gyda Roadking, y cyfleuster aros ar gyfer lorïau, ac rydym yn hyderus y bydd hynny'n arwain at ganlyniad cadarnhaol.

Diolch am eich ateb, a brysiwch wella.

Mae CThEM wedi cyhoeddi cynlluniau trosiannol, a fydd ar waith am flwyddyn, lle bydd nwyddau o'r UE yn cael eu trin fel y cânt eu trin ar hyn o bryd, er mwyn lleihau trafferthion mewn sefyllfa 'dim bargen'. Pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r porthladd, a sut y bydd hwnnw'n cael ei gyfleu i fusnesau?

Wel, cafwyd trafodaethau trylwyr iawn gyda gweithredwyr y porthladdoedd a CThEM, Llywodraeth y DU a llywodraeth leol, yn arbennig. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y peryglon ynghylch oedi yn y porthladd yng Nghaergybi. Ni waeth pa penderfyniadau a wnaiff Llywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Iwerddon, fel rhan o'r UE, yn arfer cyfraith yr UE yn llawn ar draffig drwy borthladdoedd Iwerddon. Cafwyd trafodaethau helaeth, fel y soniais, i bennu—pe bai angen lleoli cerbydau nwyddau trwm y tu allan i'r porthladd, i nodi lleoliadau addas mewn perthynas â hynny, ac mae'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt.

Yn ei lythyr at y Prif Weinidog ar 13 Ionawr, rhoddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wahoddiad i'r Prif Weinidog fynychu cyfarfodydd y pwyllgor newydd ar barodrwydd i ymadael â'r UE, a gadeirir gan Brif Weinidog y DU, pan fydd materion sy'n berthnasol i Gymru ar yr agenda. Roeddent hefyd yn dweud: 'Rwyf wedi gofyn i swyddogion rannu'r profiadau mewn perthynas â'r ymarferion diweddar yng Nghaint gyda chi, ac yn yr un modd, byddai o gymorth pe gallech rhannu eich casgliadau ynghylch gwaith yng Nghaergybi a phorthladdoedd Sir Benfro.' Pa ymateb, os o gwbl, felly, a roddwyd gan y Prif Weinidog, neu gennych chi ar ei ran, i'r cais hwnnw?

Mae ymateb wedi'i roi i Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddweud bod y rhan fwyaf o'r materion lle rhoddwyd gwahoddiad i Lywodraeth Cymru yn ymwneud â materion sydd wedi eu datganoli i Gymru. Yn amlwg, nid oes unrhyw beth yn cyfateb o ran y gwaith a wnawn yma, gan nad ydym yn ymdrin â materion a gedwir yn ôl yma, ond gwn fod y Prif Weinidog wedi nodi hefyd ei fod wedi gofyn i swyddogion rannu gwybodaeth ar brosiectau penodol gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Diolch yn fawr iawn. Dwi wedi bod ar wefan HMRC heddiw, yn sôn am beth fyddai'n digwydd o ran tollau os ydy'r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Mae o'n rhyfeddol o gymhleth. Mae o'n dechrau drwy egluro mai simplified customs procedures ydy'r rhain. Does yna ddim byd yn syml am hyn o gwbl, ac, wrth gwrs, mae yna ffordd o'i gadw fe'n syml, sef i aros o fewn yr undeb tollau a'r farchnad sengl. Ond pa gamau gweithredu bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn achos o adael heb gytundeb i gydweithio efo HMRC i sicrhau bod porthladd Caergybi ddim yn dod i stop?

Wel, mae'r Aelod yn pwysleisio elfen bwysig iawn, hynny yw, pa bynnag faint bosib gall ei wneud mewn sefyllfa heb gytundeb, dyw'r problemau fydd yn digwydd yn y cyd-destun hwnnw ddim yn gallu cael—. Dyw'r camau ddim ar gael i sicrhau bod hynny ddim yn digwydd. Mae trafodaethau yn digwydd, fel rwy'n ei ddweud, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a gyda'r HMRC ynglŷn â hyn, sy'n seiliedig ar fodelu gwahanol senarios a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd, ar y cyfan, i ddelio gorau y gallwn ni â'r sefyllfa honno. Dylwn i ddweud bod y cydweithrediad gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y maes hwn wedi gwella dros y cyfnod diweddaraf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Symudwn at gwestiynau'r llefarwyr, a daw'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan lefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, a allwch ddweud wrthym pa un a yw Llywodraeth Lafur Cymru yn dymuno cael ail refferendwm ar aelodaeth y DU o'r UE ai peidio?

Ydy. Efallai na allaf ei gyfleu'n uchel iawn heddiw, ond—. [Chwerthin.]

Ai dyna oedd eich ail gwestiwn, rwy'n cymryd? Rydych newydd ddweud, 'Ydy e?' Ai dyna oedd eich ail gwestiwn?

Pryfocio cwrtais ydoedd, o ystyried y pryfocio cwrtais a gefais i.

Wel, efallai y dylech gadw'ch pryfocio cwrtais i chi'ch hun felly, ac ni fyddaf mewn penbleth a oedd yn gwestiwn ai peidio.

Nodir ein safbwynt fel Llywodraeth yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Nodir y math o gytundeb yr hoffem ei weld ar gyfer perthynas ôl-Brexit yn y ddogfen honno. Os nad yw'r math hwnnw o gytundeb yn bosibl, ac na ellir cytuno arno, yna—

14:30

Mae'n ddrwg gennyf, ni allaf eich clywed. Fe geisiais eu defnyddio'n gynharach.

Os yw'r math hwnnw o gytundeb ar gael, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod refferendwm arall yn fodd o dorri'r anghytundeb hwnnw.

Byddai'n help pe bai'r Aelodau yn y Siambr yn cadw'r sŵn i lawr. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei chael hi'n anodd, ac felly, os gallwn fod yn dawel, gallwn fynd drwy'r set nesaf o gwestiynau. Darren.

Gwrandewais ar yr hyn a ddywedoch. Nid wyf yn siŵr o hyd a ydych eisiau refferendwm ai peidio. Fe wnaethom bleidleisio yn y Siambr hon ychydig wythnosau'n ôl, ac roedd hi'n ymddangos fel pe bai Llywodraeth Cymru'n cefnogi paratoadau ar gyfer ail refferendwm, ond ni ddynododd yn bendant pa un a oedd cefnogaeth i refferendwm ai peidio. Ac rwy'n credu bod y sefyllfa'n golygu y dylech newid cyfeiriad gwefan y Blaid Lafur i Dryslyd.com oherwydd credaf fod llawer o bobl yn ei chael hi'n rhyfedd ein bod mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth Cymru yn pleidleisio i baratoi ar gyfer ail refferendwm heb ddangos a yw'n cefnogi cael un ai peidio. Mae honno i'w gweld yn sefyllfa ryfedd iawn yn wir. Nawr, gwyddom fod arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ac fe nododd yn y llythyr hwnnw ei fod wedi cefnu ar ei chwe phrawf nad oes modd eu cyflawni ac wedi gosod pump o alwadau newydd ar gyfer Brexit yn eu lle. Yn ei lythyr, ni soniodd am y posibilrwydd o gynnal ail refferendwm, a'r rheswm na soniodd am y posibilrwydd o gynnal ail refferendwm yw oherwydd bod arweinydd yr wrthblaid yn amharod i ofyn am un. A ydych yn derbyn ei bod yn gwbl ofer i Lywodraeth Cymru geisio paratoi am ail refferendwm o ystyried nad yw eich arweinydd eich hunain yn San Steffan yn barod i ofyn am un ac nad oes unrhyw arwydd y daw yna ail refferendwm?

Wel, disgrifiodd y llythyr gan arweinydd yr wrthblaid y math o gytundeb y byddai'r Blaid Lafur yn San Steffan yn barod i'w gefnogi. Ac rydym yn argymell bod y Prif Weinidog yn ymgysylltu'n llawn ag arweinydd yr wrthblaid i weld a all trafodaethau yn y Senedd arwain at gytundeb o'r fath. Mae hi wedi methu gwneud hynny hyd yma.

Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn San Steffan eisiau gadael yr UE. Datgelwyd lluniau yn yr ychydig ddyddiau diwethaf o Jeremy Corbyn yn ôl yn 2010, yn galw ar yr UE, ac rwy'n dyfynnu, 'i gael ei drechu', gan gyhuddo'r Undeb Ewropeaidd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol o fod, a dyfynnaf,

yn hollol unedig ar ddatchwyddiant, darostwng yr economi a chreu diweithdra.

Ac wrth gwrs, mewn llyfr sy'n cael ei gyfresoli mewn papur dydd Sul ar hyn o bryd, datgelwyd bod canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, a Seumas Milne, cynghorydd agosaf Jeremy Corbyn, ill dau wedi pleidleisio i adael yr UE. O gofio hyn, yn hytrach na chwarae gwleidyddiaeth ynghylch ail refferendwm a pharatoi am un pan nad oes unrhyw arwydd y daw un, a dim gobaith y bydd mainc flaen Llafur yn San Steffan yn galw am un, a ydych yn derbyn mai'r hyn y dylech ei wneud yw bwrw ymlaen i gefnogi'r Prif Weinidog a chefnogi'r cytundeb a negododd a'r newidiadau sy'n mynd i fod yn angenrheidiol ar gyfer sicrhau cytundeb, gyda newidiadau priodol i'r ddarpariaeth wrth gefn?

Er fy mod yn eiddigeddus o allu'r Aelod i gael ei glywed ar draws y Siambr, nid wyf am gymryd unrhyw wersi oddi wrtho am chwarae gwleidyddiaeth ar y mater hwn. Mae ein safbwynt yn hollol glir, a'r ffordd orau o ddatrys hyn ac osgoi sefyllfa 'dim bargen' yw i'r Prif Weinidog gael gwared ar ei llinellau coch a cheisio sicrhau consensws ar draws y Senedd ar y mathau o egwyddorion y gellid cael cynghrair eang yn eu cylch, nid y gynghrair gul y mae hi'n ceisio ei sefydlu ar hyn o bryd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn dychwelyd at y cwestiwn a oedd wedi cael ei godi gan fy nghyfaill Helen Mary Jones, ydy'r gwaith roeddech chi wedi cyfeirio ato yn ceisio adnabod y meddyginiaethau a'r nwyddau meddygol sydd mewn peryg o fynd yn brin pe bai yna Brexit heb gytundeb wedi'i gwblhau? Faint o nwyddau a meddyginiaethau ydych chi wedi eu hadnabod ar y rhestr honno? A yw'n llai na'r 31 o nwyddau sydd wedi'u hadnabod yn yr asesiad diweddaraf gan yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd?  Ydych chi'n bwriadu cyhoeddi y rhestr yma, fel bod meddygon teulu a'r cyhoedd yn ymwybodol o'r risgiau posib a allai eu hwynebu nhw, fel y gallant, i'r graddau sy'n bosib, wneud cynlluniau wrth gefn?

14:35

Dyw'r gwaith hynny ddim wedi ei gwblhau. Mae'r gwaith yn digwydd ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig, yn cynnwys y Llywodraeth yn San Steffan. Mae'r gwaith yn mynd ar ei hyd ar hyn o bryd. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n sicrhau ein bod ni'n glir gyda phobl nad oes unrhyw ofyniad arnyn nhw i ymddwyn mewn ffordd wahanol ar hyn o bryd. Dydyn ni ddim yn gofyn i'r gwasanaeth iechyd ymateb mewn ffordd wahanol i feddygon teulu, i gynnig presgripsiynau hirach i bobl, nac i fferyllwyr wneud hynny chwaith. Byddwn ni'n cadw'r sefyllfa hyn o dan sylw.

Gaf fi ofyn i'r Gweinidog, gydag ond ychydig wythnosau i fynd, onid yw hi'n mynd i beri consýrn i bobl bod y gwaith yna heb ei gwblhau? Hynny yw, roeddem ni'n gwybod ers tro byd fod yna bosibilrwydd o adael heb gytundeb, a nawr, gydag ychydig o wythnosau i fynd, dŷn ni'n dal ddim yn gwybod pa nwyddau a meddyginiaethau dŷn ni'n sôn amdanyn nhw.

Gaf fi ofyn iddo fe hefyd ydy e'n ymwybodol o gynlluniau wrth gefn y pedwar llu heddlu yng Nghymru, i roi heddweision ar standby er mwyn ymateb i unrhyw anghydfod sifil neu drafferthion mewn porthladdoedd pe bai yna Brexit heb gytundeb? Os ydych chi wedi cael y trafodaethau hynny, allwch chi fanylu ar niferoedd y heddweision rŷn ni'n sôn amdanynt? Ydy'r trefniadau wrth gefn yma yn cynnwys gallu ymateb i geisiadau am gymorth mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol, gan gynnwys Gogledd Iwerddon? Allwch chi ddweud hefyd a yw awdurdodau lleol, gwasanaethau brys eraill ac unrhyw gorff arall yn y sector cyhoeddus hefyd ynghlwm yn y gwaith cynllunio yma?

Ydyn, mae'r cyrff hynny ynghlwm yn y gwaith hynny, drwy'r local resilience forums, ac mae'r pedwar heddlu ynghlwm yn y trafodaethau yna hefyd. Fel y bydd yr Aelod yn deall, mae trefniadau sy'n bodoli ar gyfer mutual assistance yn gyffredinol, ac mae'r holl bethau yma yn digwydd o fewn fframwaith civil contingencies, sydd wedi ei sefydlu ar gyfer pob mathau o sefyllfaoedd. Does gyda ni ddim unrhyw intelligence penodol am civil unrest ar raddfa eang, fel petai, ond mae'r trafodaethau hynny'n digwydd gyda llywodraeth leol, gyda'r heddlu, gyda chyrff y gwasanaeth iechyd a gyda'r Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig.

Allaf fi jest gofyn i'r Gweinidog a ydy e'n ymwybodol, jest i gadarnhau, fod heddlu yng Nghymru yn mynd i gael eu rhoi ar standby pe baem ni'n gadael heb gytundeb, fel sydd wedi cael ei adrodd, er enghraifft, yn yr Alban ac yn Lloegr? Ym mis Chwefror y llynedd, mi gawsom ni gadarnhad bod y Llywodraeth yn edrych ar y syniad o greu parthau rhydd, neu borthladdoedd rhydd, pe baem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. All y Gweinidog ein diweddaru ni ynglŷn â'r gwaith hynny? Allwch chi ddweud pa borthladdoedd, neu feysydd awyr, neu ardaloedd eraill, sydd o dan ystyriaeth gennych ar hyn o bryd? Ac a ydych chi fel Llywodraeth yn bwriadu cefnogi unrhyw gais ar gyfer statws parth rhydd?

Ac yn olaf, yn dilyn adroddiadau y prynhawn yma bod Ford wedi dweud wrth Brif Weinidog Prydain eu bod nhw'n bwriadu symud y gwaith cynhyrchu o'r Deyrnas Gyfunol pe bai yna Brexit heb gytundeb, a ydych chi'n gallu dweud a fydd yna unrhyw drafodaeth debyg gyda Gweinidogion Cymru, gan Ford? Ac a allwch chi ddweud hefyd a ydy Llywodraeth Cymru wedi siarad â phob un o'r 52 o brif gwmnïau—yr anchor companies—yn ystod y tri mis diwethaf i ofyn iddyn nhw hefyd ynglŷn ag effaith bosib Brexit ar eu busnesau?

O ran y porthladdoedd rhydd, wrth gwrs, o'n safbwynt ni fel Llywodraeth, rydym ni eisiau bod mewn sefyllfa lle mae gyda ni berthynas agos â'r farchnad sengl, a bod o fewn undeb tollau. Ac mae'n anodd gweld sut y gallai porthladdoedd rhydd, parthau rhydd, fodoli o fewn y fframwaith hwnnw. Felly, mae sialens strategol gyda ni yn y cyd-destun hwnnw.

O ran y sgyrsiau rhwng y Llywodraeth a'r cwmnïau, neu'r cyflogwyr, mawr, mae'r sgyrsiau yna'n digwydd yn barhaol. Roeddwn ni yn y cyfarfod gyda Ken Skates yn gynharach yr wythnos yma gyda chynrychiolwyr o'r busnesau—gyda'r sector economaidd yn gyffredinol—ac mae'r math o drafodaethau mae'n sôn amdanyn nhw yn bethau sy'n digwydd yn gyson ar hyn o bryd. 

14:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd y Cwnsler Cyffredinol wedi gweld bod Olly Robbins, prif negodwr y Llywodraeth gyda'r UE, wedi gadael y gath o'r cwd ddoe ym Mrwsel ac wedi datgelu gwir fwriadau Theresa May. Mae hi bob amser wedi dweud nad yw am ymestyn erthygl 50 na chael unrhyw oedi a fyddai'n golygu na fyddai Prydain yn gadael yr UE ar 29 Mawrth. Ond dywedodd Olly Robbins mai ei dasg, neu dasg y Llywodraeth yn Nhŷ’r Cyffredin dros yr ychydig wythnosau nesaf, yw cael ASau i gredu y bydd estyniad yn bosibl ar gyfer yr wythnos yn dechrau ar ddiwedd mis Mawrth, ond os na fyddant yn pleidleisio o blaid y cytundeb, y bydd yr estyniad yn un hir. Felly, ar y naill law, mae'r Prif Weinidog yn dweud na fydd estyniad, ond mae'r dyn sy'n gwneud y negodi o ddydd i ddydd yn dweud mai eu tacteg yw ymestyn aelodaeth Prydain o'r UE y tu hwnt i 29 Mawrth os nad yw'r ASau yn cytuno i'r cytundeb.

Ie, gwelais innau hynny hefyd. Ein safbwynt ni, fel Llywodraeth, yw y dylai'r Prif Weinidog wneud cais am estyniad i erthygl 50 ar y pwynt hwn. Po ddiweddaraf y gadewir hynny, y mwyaf peryglus fydd hi a'r mwyaf o heriau a allai fod i sicrhau hynny. Mae'n ymddangos i ni fod bron unrhyw senario o hyn ymlaen yn galw am ymestyn erthygl 50—ymestyn y dyddiad ymadael. Hyd yn oed pe bai cytundeb yn bosibl ar y pwynt hwn, mae'r ymarfer logistaidd, ymarferol o gael deddfwriaeth drwy'r Senedd er mwyn gwneud iddo ddigwydd eisoes yn mynd â ni y tu hwnt i'r dyddiad ymadael presennol mewn unrhyw senario realistig fwy neu lai.

Wel, rwy'n siŵr y byddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi fod hyn yn dod yn gwestiwn o ymddiriedaeth yn y Llywodraeth yn y pen draw, sy'n fater hollbwysig. Yma mae gennym brif negodwr y Llywodraeth ar y naill law yn cael ei glywed mewn amgylchiadau preifat pan nad oedd yn gwybod ei fod yn cael ei glywed, yn dweud un peth, a'r Prif Weinidog yn gwadu'n gyhoeddus yr hyn a ddywedodd. Pa ymagwedd yw'r fwyaf credadwy yn ei farn ef?

Nid wyf yn siŵr mai fy lle i yw dyfalu ynglŷn â thrafodaethau posibl o fewn Llywodraeth y DU rhwng negodwyr a'r Prif Weinidog. Y cyfan a ddywedaf yw ein bod wedi bod yn glir iawn ynghylch y math o gytundeb y credwn y dylid ei roi gerbron Tŷ'r Cyffredin, a chredaf y dylai'r Prif Weinidog weithredu'r holl gamau y gall er mwyn gwireddu hynny.

Wel, gan fod y cytundeb y mae Theresa May wedi'i roi ar y bwrdd yn rhoi pob dim y mae'r UE ei eisiau—y £39 biliwn, rhannu Gogledd Iwerddon oddi wrth weddill y DU, parhad o'r aliniad rheoleiddio heb lais na phleidlais yn yr UE, a heb unrhyw hawl unochrog i adael, hawl sydd gennym ar hyn o bryd o dan erthygl 50—i bob pwrpas yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei gynnig yw'r hyn y mae Llywodraeth Lafur Cymru ei hun am ei weld i raddau helaeth. Felly, a yw'n cael ei galonogi gan y cadarnhad hwn o ddauwynebogrwydd y Prif Weinidog yn negodi cytundeb y mae hi'n honni ei fod yn fodd o adael yr UE gan wybod ei fod wedi'i lunio mewn gwirionedd er mwyn cadw'r DU o'i fewn am gyfnod amhenodol?

Wel, rwy'n sicr yn ymwybodol o'r cyfyngiadau o fod yn yr UE heb lais, ond hoffwn ddweud bod y cytundeb y mae'r Prif Weinidog wedi'i gyflwyno i Dŷ'r Cyffredin yn brin iawn o'r math o gytundeb y mae Llywodraeth Lafur Cymru, ynghyd â Phlaid Cymru, wedi'i ddisgrifio fel y math o berthynas ar ôl Brexit a ddylai fod gennym gyda'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw, er enghraifft, yn cynnwys undeb tollau parhaol; nid yw, er enghraifft, yn cynnwys marchnad sengl mewn gwasanaethau; ac yn sicr nid yw'n cynnwys y math o bolisi ymfudo symudiad teg y teimlwn y byddai orau er lles Cymru ar ôl Brexit.

Wel, rwy'n anghytuno â'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch llawer o'r hyn y mae newydd ei ddweud, oherwydd, i bob pwrpas, sail y cytundeb y llwyddodd yr UE i'w wasgu o'r Llywodraeth yw aelodaeth Prydain o'r undeb tollau ac yn wir, y farchnad sengl i bob pwrpas am fod aliniad rheoleiddio yn rhan annatod ohono, ac nid oes dyddiad terfyn. Felly, yn yr amgylchiadau hynny, nid oes unrhyw gymhelliad i'r UE wella ei gynnig oherwydd mae popeth y mae eu heisiau ar y bwrdd eisoes. Felly, pam y dylai gytuno i ganiatáu i Brydain adael yr UE maes o law pan fydd wedi ein cael ni yn union lle mae eisiau i ni fod mewn gwirionedd—o fewn yr Undeb Ewropeaidd ond heb lais a phleidlais? Ac felly, mae hynny'n golygu parhad aelodaeth Prydain o'r UE yn barhaol mewn gwirionedd—sef yn union yr hyn y mae'r Blaid Lafur am ei weld.

Credaf hefyd fod ceisio ail-drafod y cytundeb gyda'r UE ar sail llinellau coch presennol y Prif Weinidog yn strategaeth optimistaidd tu hwnt ar ei rhan. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod yr UE wedi dweud pe bai'n symud oddi wrth y llinellau coch, fod yna ddewisiadau eraill ar y bwrdd, ac unwaith eto, buaswn yn annog y Prif Weinidog i fynd ar drywydd y rheini.

14:45
Gweithgynhyrchwyr Ceir

3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cymorth ar gyfer gweithgynhyrchwyr ceir yng Nghymru pe bai Brexit heb fargen yn digwydd? OAQ53399

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y sector modurol yng Nghymru ac yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddiystyru canlyniad 'dim bargen' gan ddarparu cyngor ar gamau lliniaru. Rydym hefyd mewn cysylltiad agos iawn â Fforwm Modurol Cymru a chyrff sector ar draws y DU ar Brexit.

Rwy'n gobeithio bod y dyfalu ar sgwrs y digwyddwyd ei chlywed mewn bwyty neu far ym Mrwsel gydag Olly Robbins yn gywir a bod y Llywodraeth wedi diystyru 'dim bargen', ond nad yw'n dweud wrthym ei bod wedi diystyru 'dim bargen', oherwydd dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr a Masnachwyr Moduron, yn ei eiriau ef, y byddai 'dim bargen'

yn drychinebus—bydd ffatrïoedd yn cau; bydd swyddi'n cael eu colli.

Heddiw—y bore yma—mae Ford wedi defnyddio'r un gair, 'trychinebus' i ddisgrifio effaith 'dim bargen' ar y DU ac mae'n dweud y bydd yn gwneud beth bynnag sy'n angenrheidiol i ddiogelu ei fuddiannau yn Ewrop. Mae wedi gwrthod gwneud unrhyw sylwadau ar adroddiad ei fod yn bwriadu symud ei holl swyddi—13,000 o swyddi yn y DU, gan gynnwys yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr—allan o'r DU mewn sefyllfa 'dim bargen'.

A gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa ddealltwriaeth a gafodd gan y Prif Weinidog a Gweinidogion y DU ynghylch maint y gefnogaeth y mae Llywodraeth y DU yn mynd i'w roi i'n cynhyrchwyr ceir mewn sefyllfa 'dim bargen' i'w perswadio i osgoi sefyllfa lle bydd ffatrïoedd yn cau, swyddi'n cael eu colli, a theuluoedd yn gweld yr effaith ar draws y DU, gan gynnwys yn fy etholaeth i yn Ogwr?

Diolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn hwn yn y Siambr. Credaf ei fod yn mynd i wraidd yr her sy'n ein hwynebu o ran y math o gytundeb a'r math o negodiadau y mae Prif Weinidog y DU wedi bod yn mynd ar eu trywydd, ac yn y Senedd. Mae'n methu'n gyfan gwbl ag ystyried y math o risgiau i'n heconomi a amlinellwyd gan yr Aelod yn ei gwestiwn.

Fel Llywodraeth, rydym wedi cymryd camau i gefnogi'r sector yma yng Nghymru, ond yng nghyd-destun Brexit 'dim bargen', gallai'r rhwystrau tariff a'r rhwystrau di-dariff a ddeuai yn nghyd-destun hynny fod yn drychinebus i rannau sylweddol o'r sector, ac os caf ddweud hefyd, y gadwyn gyflenwi, sy'n ymestyn ar draws Cymru—nid wyf yn credu ein bod wedi sylweddoli'n iawn cymaint o effaith a fyddai ar y cadwyni cyflenwi hefyd.

Yn amlwg, rydym yn dal i aros yn eiddgar i glywed a fydd Ineos yn dod â'u cerbyd newydd i Ben-y-bont ar Ogwr yn hytrach na Phortiwgal. Ond testun pryder oedd clywed y diwrnod o'r blaen, hyd yn oed os yw'r gwaith hwn yn dod i'r DU, na fydd yn ddigon o bosibl i achub y ffatri Ford; am ei bod yn ffatri Ford, wrth gwrs, mae penderfyniad Arlywydd yr Unol Daleithiau hefyd yn effeithio arni a'r hyn y mae ef yn ei wneud yn America i gefnogi'r diwydiant yn y fan honno, sy'n effeithio ar botensial dur a gweithgynhyrchu ceir yma. A allwch ddweud wrthym pa waith a wnaethoch gyda Gweinidog yr economi a'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ar nodi pa gyfleoedd eraill a fydd ar gael ar gyfer gweithgynhyrchwyr ceir yng Nghymru, ond yn benodol iawn, beth y mae Cymru yn ei wneud i wthio yr hyn a ddylai fod yn bwynt gwerthu unigryw i ni o ran arloesedd dur o fewn dinas-ranbarth bae Abertawe, er enghraifft; ein hardaloedd menter, gydag un ohonynt yn ymroddedig i'r sector modurol; ac yn wir, hyrwyddo'r hyn rydym yn dda am ei wneud gyda gwaith ymchwil modurol? Oherwydd dyna sy'n mynd i'n gwneud yn ddeniadol i bartneriaid byd-eang eraill maes o law, er gwaethaf y bygythiadau sy'n ein hwynebu yn awr.

Cytunaf â disgrifiad yr Aelod o'r bygythiad. Gwn fod hon yn flaenoriaeth allweddol i Ysgrifennydd yr economi a'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol. Mae'r buddsoddiad a wnaed gan y Llywodraeth, er enghraifft, yn uwchsgilio'r gweithlu ymhellach yn rhai o'r cwmnïau hyn yn ddimensiwn sylweddol i ddenu busnesau i Gymru yn y sectorau hyn, a hefyd i alluogi'r cwmnïau hyn ymhellach i gystadlu o fewn eu rhwydweithiau rhyngwladol eu hunain am adnoddau, sy'n ddimensiwn allweddol i rai o'r problemau a wynebwn yn hyn o beth.

O ran y strategaeth sy'n edrych tuag allan yng Nghymru yn y dyfodol a nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi pellach yn y sectorau hyn, gwn fod hynny'n brif flaenoriaeth i'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, ond rhaid imi ddweud, os ydym yn wynebu'r math o berthynas y mae'n ymddangos bod y Prif Weinidog yn barod i'w hystyried gyda'r farchnad sengl yn y pen draw, ni fydd hynny'n cryfhau llaw Llywodraeth Cymru nac unrhyw un o'r cwmnïau hyn wrth ymladd am adnoddau ac ymladd am gyfleoedd ar gyfer eu gweithluoedd.

Cydweithrediad â Gwledydd eraill ar ôl Brexit

4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yng nghyswllt cydweithredu â gwledydd eraill ar ôl Brexit? OAQ53418

14:50

Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol er mwyn sicrhau bod fy ngwaith ar bwyso am y Brexit lleiaf niweidiol yn economaidd yn cyd-fynd yn agos â'i gwaith ar ddatblygu ein hymgysylltiad rhyngwladol er mwyn cefnogi ffyniant Cymru yn y dyfodol.

Roedd fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod y gwelir ei golli'n fawr, Steffan Lewis, yn frwd ei gefnogaeth i gysylltiadau agosach rhwng y gwledydd Celtaidd. Nawr, roedd gan Steffan weledigaeth y byddai mwy o gydweithio gydag Iwerddon a'r Alban yn fuddiol i Gymru mewn nifer o wahanol ffyrdd, nid yn lleiaf yn economaidd. Yn y tirlun gwleidyddol ôl-Brexit sy'n newid bron bob dydd, a ydych yn gweld rhinwedd mewn datblygu cynghrair Geltaidd o'r fath? Ac a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried, er enghraifft, y posibilrwydd o gynnal trafodaethau ar weithredu elfen 3 o gytundeb Dydd Gwener y Groglith, a fyddai'n caniatáu i aelodau o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ddatblygu trefniadau dwyochrog neu amlochrog rhyngddynt? Byddai hyn yn caniatáu inni sefydlu mecanweithiau ar gyfer galluogi ymgynghori, cydweithredu a gwneud penderfyniadau ar y cyd ar faterion o ddiddordeb cyffredin.

Mae'r Aelod yn cyfeirio at y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, sy'n fforwm cwbl hanfodol yn hyn o beth, a mynychodd y Prif Weinidog blaenorol a minnau gyfarfod ohono ar Ynys Manaw y llynedd a gwelsom yn uniongyrchol pa mor bwysig yw'r fforwm, a gall barhau i fod felly wrth atgyfnerthu cysylltiadau ar draws y DU, ie, yng nghyd-destun Brexit, ond hefyd o ran cysylltiadau yn y dyfodol yn fwy cyffredinol. Fel y dywedais yn y Siambr o'r blaen—ac rwyf am fanteisio ar y cyfle i'w ddweud eto—rydym yn ystyried y cysylltiadau hyn yn bwysig iawn, ac yn arbennig yng nghyd-destun y berthynas Wyddelig a'r berthynas arfordirol, os caf ei roi felly, rhwng gorllewin Cymru ac arfordir de-ddwyrain Iwerddon. Wrth gwrs, mae'r berthynas honno wedi elwa'n sylweddol o gyllid yr Undeb Ewropeaidd drwy gynlluniau cydweithredu Ewropeaidd ac ati. Rydym wedi ystyried y pethau hynny'n hynod o werthfawr, fel y gwn fod Llywodraeth Iwerddon wedi ei wneud. Mae angen inni edrych ar atgyfnerthu'r amrywiaeth o gysylltiadau yn ein dyfodol, rwy'n credu, ymhlith y gwledydd Celtaidd, ond hefyd â gwledydd is-wladwriaethol eraill ledled gweddill Ewrop. Mae gennym femoranda cyd-ddealltwriaeth neu gynlluniau gweithredu eisoes ar waith â Llydaw a Gwlad y Basg, rydym ar fin cychwyn ar set debyg o drafodaethau gyda'r Galisiaid, ac rydym wedi datblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth er enghraifft o gwmpas y sector awyrofod, yn enwedig gyda Quebec—

Felly, gallai nodi'r rhain fel materion yr ydym yn eu hystyried fel materion blaenoriaethol a'r cysylltiadau rhyngom fod ar lefel is-wladwriaethol hefyd, yn hytrach nag ar lefel Llywodraethau a Llywodraethau gwladol yn unig, ar draws Ewrop a thu hwnt.

Wrth gwrs, nid cwestiwn am gysylltiadau rhyngwladol yn unig yw hwn, mae'n ymwneud â'r Gymraeg hefyd, ac nid ydym yn unigryw na'r unig wlad i fod â mwy nag un iaith frodorol. A allwch ddweud wrthyf a wnaethpwyd unrhyw asesiadau o effeithiau Brexit ar sut yr ymgysylltwn â rhaglenni yn yr UE ar hyn o bryd ar gefnogi ieithoedd lleiafrifol o fewn amryw o wledydd yno, a beth fydd yr effaith ar gymunedau arbennig yma yng Nghymru?

Gwn fod gwaith yn mynd rhagddo mewn perthynas â hynny. Fe ysgrifennaf at yr Aelod, os caf, mewn perthynas â hynny.FootnoteLink

'Brexit, masnach a thollau: goblygiadau i Gymru'

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r dystiolaeth a gafwyd hyd yma gan Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin yn ystod ei ymchwiliad i 'Brexit, masnach a thollau: goblygiadau i Gymru'? OAQ53394

Rydym yn croesawu'r dystiolaeth a ddarparwyd hyd yma, sy'n tynnu sylw at y risgiau i economi Cymru o unrhyw wrthdaro mwy mewn masnach gyda'r UE. Darparodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, dystiolaeth ysgrifenedig ym mis Hydref 2018, ac fe wnawn asesiad llawnach pan fydd yr ymchwiliad yn cyflwyno ei adroddiad.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Tybed a ddarllenoch chi'r dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Brifysgol Caeredin, yr Institute for Government a Phrifysgol Sussex, lle mynegodd y tystion hynny amheuon sylweddol ynglŷn ag unrhyw bŵer i'r sefydliadau datganoledig gael feto dros gytundebau masnach, a rhybuddiodd un o'r tystion yn bendant fod honno'n broses a allai fod yn beryglus, ac a oedd yn debygol o arwain at ostyngiad mawr yn nifer y cytundebau masnachol posibl a fyddai'n ddichonadwy. Nawr, yn amlwg mae angen ymgynghori effeithiol arnom—ymgynghori dwfn—gyda mecanwaith trylwyr, os yw sefydliad datganoledig yn pryderu ynghylch goblygiadau cytundeb masnach, fod hynny'n cael ei godi yn y Senedd hefyd, a cheir llawer o brosesau a fyddai'n caniatáu hynny. Byddai hynny'n mynd â ni ar drywydd tebyg i'r mecanweithiau a ddefnyddir, er enghraifft, yn Canada ac Awstralia. Ond a allwch ddweud wrthyf pa un a ydych yn diystyru'n bendant yr arf niwclear hwn o gael pŵer feto wedi'i sefydlu mewn sefydliadau datganoledig dros gytundebau masnachu?

14:55

Mae cwestiwn yr Aelod yn mynd i wraidd y modd y mae'r setliad datganoli a'r model cadw pwerau yn rhyngweithio â'i gilydd. Yn amlwg, cedwir cysylltiadau rhyngwladol yn ôl, ond er mwyn cyflawni rhai o'r ymrwymiadau a wnaed yn y trafodaethau a'r cytundebau hynny, bydd hynny weithiau yn croestorri â chymwyseddau datganoledig mewn ystod eang o feysydd posibl. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn cyrraedd setliad a dealltwriaeth mewn perthynas â'r materion hyn sy'n cydnabod pŵer Llywodraeth y DU i negodi'r cytundebau hyn ond hefyd i barchu'r setliad datganoli a rhoi lle i'r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau hynny. Fel y gŵyr, mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 eisoes yn darparu y gall Llywodraeth y DU gyfeirio newidiadau yn y gyfraith i bob pwrpas i gydymffurfio â negodiadau, i gydymffurfio â chytundebau a luniwyd yn rhyngwladol.

Ein barn ni fel Llywodraeth yw ei bod yn hanfodol—o ystyried mai felly y mae—fod safbwyntiau Cymru, safbwyntiau'r Cynulliad hwn a safbwyntiau Llywodraeth Cymru yn cael sylw priodol a'u hystyried yn llawn mewn perthynas â materion datganoledig, nid yn unig ar yr unfed awr ar ddeg, os caf ei roi felly, ond drwy gydol y broses negodi. Dyna'r math o ymgysylltu dwfn a geisiwn, yn hytrach na'r feto y mae'n cyfeirio ato yn ei gwestiwn.

Bydd yn gwybod, wrth gwrs, ein bod wedi galw am gyd-bwyllgor y Gweinidogion ar fasnach ryngwladol, i'w gwneud hi'n bosibl rhoi system ffurfiol ar waith i gytuno ar safbwyntiau negodi ac i ddatrys y math o densiynau a fydd yn codi'n anochel yn y maes hwn. Rwy'n falch fod Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi dynodi eu bwriad yn Nhŷ'r Arglwyddi yn ddiweddar i greu'n union y math hwnnw o fforwm.

Yn ogystal â hynny, mae concordat yn cael ei ddatblygu a fydd yn manylu'n benodol ar sut y bydd yr Adran Masnach Rhyngwladol a'r gweinyddiaethau datganoledig yn cydweithio ar gyfer cytundebau masnach y DU yn y dyfodol â thrydydd gwledydd ar ôl gadael yr UE, os digwydd hynny.

A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw? Mae'n bwysig iawn inni ymdrin â mater masnach. Fel y nododd David Melding, mae'r dystiolaeth gan rai yn dynodi na ddylai fod feto, ond wrth wrando ar y newyddion sy'n dod o'r UDA heddiw—fod cynhyrchwyr dur yr UDA yn annog Donald Trump i roi gwaharddiad ar ddur o'r DU mewn unrhyw gytundeb masnach a wnawn gyda hwy, cam a fyddai'n cael effaith ddinistriol ar y diwydiant dur yma yng Nghymru—gallai cytundeb masnach a negodwyd gan Lundain heb fod gennym ran ynddo arwain at oblygiadau niweidiol i economi Cymru, a bydd yn rhaid inni godi'r darnau o ganlyniad i hynny.

A ydych felly'n cytuno ei bod hi'n bwysig y dylai fod gan y cyd-grŵp gweinidogol hwn y siaradwch amdano ar fasnach ryngwladol ddigon o ddannedd i chi gael eich gwrando ac nid cael eich rhoi mewn cornel a'u bod yn meddwl y gallant gau'r drws arnoch? Mae'n bwysig i lais Cymru gael ei glywed a'u bod yn ymateb iddo er mwyn sicrhau nad yw economi Cymru, diwydiannau Cymru, dinasyddion Cymru yn dioddef o ganlyniad i gytundeb y DU.

Mae'r Aelod yn iawn i'w ddisgrifio yn y ffordd honno. Mae hyn yn ymwneud â mwy na rhannu gwybodaeth ac ati. Yr hyn rydym ei eisiau yw corff sy'n ei gwneud hi'n bosibl ystyried y materion hyn yn llawn a'r dimensiynau penodol sy'n berthnasol yng Nghymru i gael eu cynnwys yn rhan lawn o'r gyfres honno o drafodaethau. Mae'r mathau o faterion a nododd yn ei gwestiynau yn mynd at wraidd y mathau o bethau y mae angen inni allu mynd i'r afael â hwy drwy'r mecanwaith hwnnw.

Symud Nwyddau i Gymru ar ôl Brexit

6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal o ran hwyluso symud nwyddau i Gymru'n effeithlon ar ôl Brexit? OAQ53400

Soniais am effeithiau posibl oedi i symud nwyddau mewn trafodaethau gyda Gweinidogion y DU. Mae hwn yn amlwg yn faes pwysig ac mae trafodaethau yn ei gylch yn digwydd yn fewnol hefyd a chyda rhanddeiliaid yma yng Nghymru.

Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio'n briodol ar liniaru effeithiau posibl ym mhorthladdoedd Cymru, ond onid yw'n wir fod Cymru, fel gweddill y DU, yn dibynnu'n llwyr mewn gwirionedd ar lwybr Calais-Dover ar gyfer meddyginiaethau, bwyd a chyflenwadau eraill? Nawr, rwy'n petruso cyn gofyn y cwestiwn hwn. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i aelod cyfatebol yn y DU, Chris Grayling? Gallwch ddeall pam rwy'n petruso i wneud hyn, ar ôl canslo contract Seaborne am £14 miliwn y diwrnod o'r blaen er gwaethaf sicrwydd fis cyn hynny fod popeth yn berffaith iawn. Ond mae'n hanfodol ein bod yn cael y rheini, oherwydd mae meddyginiaethau, cyflenwadau bwyd, yr holl hanfodion hynny, yn hanfodol i Gymru, fel i weddill y DU. Mae'n ymwneud â mwy na phorthladdoedd Cymru. A yw paratoadau Llywodraeth y DU yn rhoi sicrwydd iddo?

15:00

Yn amlwg, fel y mae wedi'i ddynodi yn ei gwestiwn, er bod ein prif ffocws ar borthladdoedd yma yng Nghymru, bydd bwyd a meddyginiaethau a deunyddiau a nwyddau eraill sy'n dod i Gymru—wyddoch chi, mae'r porthladd hwnnw, o bosibl, hyd yn oed yn bwysicach o ran maint y traffig a faint o nwyddau sy'n dod drwyddo. Yn sicr, yn enwedig mewn senario 'dim bargen', bydd tarfu difrifol yn Dover ac ar lwybr Dover-Calais. Mae hynny'n gwbl glir, rwy'n credu. Yn amlwg, mae'n crybwyll canslo contract Seaborne, ac mae hynny'n peri pryder mawr yng nghyd-destun tawelu meddyliau. Gwyddom fod camau'n cael eu cymryd. Maent yn amlwg yn cael eu harwain gan Lywodraeth y DU. Rydym yn y broses o geisio sicrwydd mewn perthynas â'r camau sy'n cael eu cymryd, oherwydd, yn amlwg, er nad yw'n fater datganoledig, ac er nad yw yng Nghymru, mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb clir iawn mewn sicrhau'r tawelwch meddwl hwnnw ar ran pobl Cymru.

A gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa drafodaethau a gafodd gyda Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â symud nwyddau a Brexit?

Nid wyf wedi cael y sgyrsiau hynny fy hun, ond byddaf yn sicrhau fy mod yn ysgrifennu at yr Aelod gyda gwybodaeth ddilynol mewn perthynas â'r cwestiwn hwnnw'n benodol.FootnoteLink

Erthygl 50

7. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am y brys o ymestyn y dyddiad cau ar gyfer Erthygl 50 y tu hwnt i ddiwedd mis Mawrth 2019? OAQ53410

Rwyf wedi cyfleu barn Llywodraeth Cymru yn glir i Lywodraeth y DU, a gwneuthum hynny'n fwyaf diweddar yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau'r UE yr wythnos diwethaf. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU geisio estyniad i erthygl 50 ar unwaith er mwyn rhoi diwedd ar y bygythiad y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb ymhen saith wythnos.

Ni fyddai unrhyw Lywodraeth gyfrifol yn gadael yr UE heb gytundeb gyda'n prif bartneriaid masnachu. Dyna farn un o ohebyddion y BBC, a swydd gohebydd yw bod yn ddiduedd, felly credaf fod honno'n farn sefydledig. Y cwestiwn sy'n codi, fodd bynnag, yw: a oes digon o amser i gyflwyno'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i ymestyn erthygl 50 ar y cam hwn pe bai Mrs May, drwy ryw ryfedd wyrth, yn gallu darparu cytundeb a fyddai'n sicrhau cymeradwyaeth y mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin? Os nad oes digon o amser, beth fydd y goblygiadau i Gymru os yw'n mynd i mewn i ryw fath o limbo dystopaidd mewn perthynas â materion tra phwysig fel rheoleiddio cynhyrchion bwyd, nwyddau trydanol, a'r amgylchedd yn wir?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Cyfeiriais at adroddiad gan yr Institute for Government ychydig wythnosau'n ôl sy'n disgrifio'r her o weithredu'r Bil sydd gerbron Tŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd os na wneir cais i ymestyn proses erthygl 50. Beth bynnag yw eich barn ar Brexit, mae'r heriau ymarferol sy'n deillio o wneud hynny yn gwbl glir, ac rwy'n ailadrodd yr alwad y dylai'r Prif Weinidog geisio estyniad cyn gynted â phosibl.

O ran y pwynt ymarferol y mae'r Aelod yn ei godi mewn perthynas â'r modd y byddai methu cael y maen i'r wal gyda'r ddeddfwriaeth sylfaenol honno yn y Senedd yn effeithio ar Gymru, hoffwn ddweud yn gyntaf mai pwrpas y rhaglen o ddiffygion deddfwriaethol y buom yn ymgymryd â hi ers misoedd lawer ar y pwynt hwn yw sicrhau bod y llyfr statud yn parhau i fod yn gyson ar y diwrnod cyntaf ar ôl Brexit. Felly, rydym wedi bod yn cynllunio ar sail 'dim bargen' o'r cychwyn cyntaf mewn perthynas â hynny. Felly, mae'r Aelod wedi codi cwestiynau ynglŷn â safonau bwyd gyda mi yn y gorffennol, fel y mae newydd ei wneud yn awr—cyw iâr wedi'i glorineiddio a phethau tebyg. Pwrpas y rhaglen offerynnau statudol sydd gennym ar waith yw sicrhau bod cyfraith yr UE yn berthnasol yng Nghymru, o'r diwrnod cyntaf y byddwn yn ymadael â'r DU, yn union fel y diwrnod cynt, i bob pwrpas, ond ei bod wedi'i hymgorffori yng nghyfraith y Deyrnas Unedig. Felly, o'r safbwynt hwnnw, dyna fu'r amcan o'r cychwyn, ond os na fydd yr holl ddeddfwriaeth honno wedi'i phasio erbyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd angen rhaglen offerynnau statudol chwim i gywiro rhai o'r problemau hynny mewn perthynas â materion eraill. Ond y math o bethau y mae'n holi yn eu cylch yn ei chwestiwn yw'r math o bethau y mae'r rhaglen o ddiffygion deddfwriaethol wedi bod yn ceisio mynd i'r afael â hwy dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

15:05

Onid yw hefyd yn wir fod y Gweinidog eisiau ymestyn erthygl 50 oherwydd ei fod yn ei ystyried yn gam tuag at flocio Brexit?

A gawn ni wrando ar ateb y Gweinidog oherwydd mae'n ei chael hi'n anodd ar y gorau? Felly, os gallwn fod yn dawel, os gwelwch yn dda.

Rwy'n petruso cyn dweud hyn: ni chlywais yr hyn a ofynnodd yr Aelod. Felly, a allwch chi ailadrodd y cwestiwn?

Rwyf am ofyn eto a cheisio clywed ei ateb ef hefyd. Gofynnais i'r Gweinidog: onid yw hefyd yn wir ei fod eisiau ymestyn erthygl 50 mewn ymgais i flocio Brexit?

Na, nid yw hynny'n wir. Ni allaf fod yn gliriach nag y bûm heddiw. Rydym wedi bod yn gwbl bendant ynghylch y math o berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd y mae Llywodraeth Cymru yn credu y byddai o fudd i Gymru ar ôl Brexit. Cefais wahoddiad gan Darren Millar i fabwysiadu'r safbwynt bod refferendwm yn well na hynny, ac rwy'n gobeithio fy mod yn glir bryd hynny. Pe gallai'r Senedd sicrhau cytundeb sy'n adlewyrchu'r egwyddorion rydym wedi'u nodi yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a'r egwyddorion a amlinellwyd yn llythyr arweinydd yr wrthblaid yn gynharach yr wythnos hon, dyna'r math o berthynas y gallem ei chefnogi yn dilyn Brexit. Os nad yw hynny'n bosibl, rydym yn llwyr gydnabod mai'r ffordd o dorri'r anghytundeb hwnnw yw cynnal refferendwm arall. Mae'n safbwynt hollol bragmatig.

Y Cytundeb Rhynglywodraethol

8. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effeithiolrwydd y cytundeb rhyng-lywodraethol ar Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018? OAQ53401

Mae’r cytundeb rhynglywodraethol wedi gwneud Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn fwy effeithiol o ran parchu datganoli. Yn bwysig, ni chafwyd hyd yma unrhyw reoliadau cymal 12 i gyfyngu ar gymhwysedd datganoledig. O ran cywiro deddfwriaeth, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithio o fewn ysbryd y cytundeb.

Wel, dwi ddim yn siŵr iawn beth yw'ch diffiniad chi o weithio mewn ysbryd cytundeb, oherwydd dwi wedi eistedd mewn pwyllgor ar ôl pwyllgor yn gwrando ar Weinidog yr amgylchedd, er enghraifft, yn cwyno bod yna ddim cydweithredu wedi bod ar ddatblygu pethau fel Deddf pysgodfeydd y Deyrnas Unedig a Deddf amaeth y Deyrnas Unedig. Mewn tystiolaeth ysgrifenedig—paragraff ar ôl paragraff yn dweud pethau fel:

cafodd y darpariaethau sy'n ymwneud ag Atodlen 1 eu drafftio gan y cwnsler seneddol yn dilyn cyfarwyddiadau gan Lywodraeth y DU. Ni ymgynghorwyd â Gweinidogion Cymru ynglŷn â'r cyfarwyddiadau,

ac wedyn yn mynd ymlaen i gwyno ynglŷn â'r hyn yr oedd y ddeddfwriaeth yn disgwyl ohonon ni yma yng Nghymru. Felly, onid yw hi'n amlwg bod profiadau'r Llywodraeth yma, a Gweinidogion y Llywodraeth yma, yn enwedig yng nghyd-destun y ddau Fil dwi wedi cyfeirio atyn nhw, yn dangos nad oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig awydd gwirioneddol i gydweithio â'r Llywodraethau datganoledig i ddatblygu deddfwriaeth yn y cyd-destun yma, a bod y cytundeb, i bob pwrpas, yn gwbl aneffeithiol?

Wel, pan gytunwyd ar y cytundeb yn y lle cyntaf, roedd llawer o feirniadaeth yn y Siambr hon fod y Llywodraeth wedi cytuno, mewn egwyddor, i sicrhau'r math yma o gytundeb. Ond mae'r cytundeb wedi llwyddo. Dwi ddim yn amau am eiliad fod enghreifftiau wedi bod lle byddwn i wedi mo'yn mwy o gydweithrediad. Mae hynny, yn amlwg, yn wir. Mae hynny wedi gwella dros y cyfnod diweddaraf, ond roedd awgrym y byddai pwerau'n cael eu cadw nôl. Dyw hynny ddim wedi digwydd. Roedd awgrym y byddai pwerau'n cael eu rhewi. Dyw hynny ddim wedi digwydd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau eto, am yr eilwaith, nad yw hynny wedi digwydd. Felly, bwriad y Llywodraeth oedd sicrhau bod gyda ni fath o gytundeb a oedd yn ymarferol ac a oedd yn caniatáu inni wneud gwaith ar gyfer cytuno deddfwriaeth, cytuno fframweithiau ac ati, lle'r oeddent yn delio â materion wedi'u datganoli. Mae'r cytundeb wedi llwyddo i wneud hynny.

Dwi ddim yn amau am eiliad fod enghreifftiau wedi bod lle dŷn ni ddim wedi cael, mewn deddfwriaeth ac ati, bethau y byddwn i'n eu disgrifio'n ddelfrydol. Wrth gwrs dyw hynny ddim wedi digwydd. Ond mae'r cytundeb rhynglywodraethol hwnnw, a oedd yng nghwestiwn yr Aelod, wedi llwyddo i sicrhau bod pwerau yn cael eu cadw yma, a'n bod ni'n gofyn i'r Llywodraeth yn San Steffan wneud newidiadau dim ond pan mae angen gwneud hynny, pan nad oes gwahaniaeth polisi rhyngom ni yma a'r Llywodraeth yn San Steffan.

A gaf i ddweud hefyd: mae mwy nag un enghraifft lle'r ŷm ni wedi llwyddo, fel Llywodraeth, i sicrhau ein bod yn cael mwy o drafodaethau? A mwy o enghreifftiau lle mae ein cytundeb ni'n cael ei holi, lle nad yw'r materion wedi cael eu datganoli, ond lle maen nhw'n effeithio ar Gymru mewn ffyrdd eraill—felly, enghreifftiau lle mae'r Llywodraethau wedi mynd ymhellach na'r cytundeb rhynglywodraethol.

15:10
3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 yw'r cwestiynau amserol, ac mae gennym un sydd i'w ateb gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Jenny Rathbone.

Llety ar gyfer Pobl sy'n Gadael Carchar Caerdydd

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth llety ar gyfer pobl sy'n gadael carchar Caerdydd yng ngoleuni'r adroddiad diweddaraf gan y Bwrdd Monitro Annibynnol? 278

Ie, rwy'n cydnabod bod problemau mewn perthynas â darparu gwasanaethau adsefydlu effeithiol ar gyfer pobl sy'n gadael Carchar EM Caerdydd. Mae adnoddau o fewn y Cwmni Adsefydlu Cymunedol wedi bod yn fater allweddol. Rwyf eisiau gweld gwelliant i safonau a chapasiti'r gwasanaethau adsefydlu presennol, yn arbennig y Cwmni Adsefydlu Cymunedol. Fodd bynnag, y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy'n gyfrifol am hyn. Rwy'n cydnabod bod gan awdurdodau lleol rôl i'w chwarae hefyd, ac rydym yn blaenoriaethu'r maes hwn gydag adnoddau ychwanegol o'r grant atal digartrefedd.

Rwy'n sylweddoli nad yw hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd, ond serch hynny, dylem oll fod yn bryderus nad oedd ond 13 yn unig o'r 23 dyn a ryddhawyd ar ddiwrnod oer penodol â lle pendant i gysgu'r noson honno, ac roedd tystiolaeth glir ganddynt fod rhai ohonynt yn bwriadu aildroseddu er mwyn mynd yn ôl i'r carchar, a'r cynhesrwydd a'r bwyd a ddarperir yno. Nawr, wrth gwrs, mae pawb ohonom yn ymwybodol fod Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi tynnu carcharorion oddi ar y rhestr o bobl agored i niwed sydd angen eu hailgartrefu'n awtomatig. Serch hynny, dadl y pwyllgor ar y pryd oedd bod yn rhaid ystyried unrhyw un nad oes ganddynt gartref i fynd iddo fel person agored i niwed.

Gwn fod yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai, sef sefydliad gwirfoddol sy'n rheoli'r caffi ar gyfer teuluoedd yn y carchar, yn mynd ati i recriwtio gwirfoddolwyr i gyfarfod â phobl sy'n gadael y carchar a mynd â hwy i Ffordd Dumballs, lle bydd y tîm dewisiadau tai yn cyfarfod â hwy, yn ogystal â mynd i'r Adran Gwaith a Phensiynau i gofrestru ac i weld eu swyddog prawf. Ond nid yw'n glir i mi—ac nid wyf yn gwybod a all y Gweinidog roi sicrwydd i ni—a yw pethau wedi gwella ers i'r adroddiad hwn gael ei orffen, oherwydd nid yw ond yn ymwneud â'r cyfnod hyd at ddiwedd mis Awst, neu a oes dynion yn dal i gael eu rhyddhau heb fod y gwasanaeth carchardai wedi gallu nodi'n union lle mae angen iddynt fynd er mwyn cael y swm lleiaf o arian, yn ogystal â tho uwch eu pennau am y noson honno.

Ie, mae'r Aelod wedi nodi'r holl faterion yr ydym yn dal i fod yn bryderus iawn yn eu cylch. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cydnabod ers amser nad oes gan y Cwmnïau Adsefydlu Cymunedol ddigon o adnoddau, ac maent bellach wedi cynyddu'r adnoddau sydd ar gael iddynt, ac mae hynny'n dilyn y cyfnod amser ar gyfer yr adroddiad. Nid wyf yn siŵr fy mod mewn sefyllfa i ddweud y bydd hynny wedi datrys y mater, ond rydym yn gwybod bod mwy o adnoddau ar gael iddynt ers y cyfnod o amser a gafodd sylw yn yr adroddiad. 

Hefyd rydym wedi cynyddu capasiti gwasanaeth Prison Link Cymru, sy'n cynyddu'r capasiti mewn awdurdodau lleol ar gyfer swyddogion adsefydlu carcharorion, ac yn fuan iawn byddwn yn cyd-ariannu swyddogion tai ym mhob uned gyflawni leol yn y gwasanaeth prawf ei hun. Mae un o'r rhain newydd ddigwydd yn llythrennol ac mae'r llall ar fin digwydd, felly nod y ddau beth yw mynd i'r afael â llawer o'r materion a grybwyllwyd gan Jenny Rathbone yn ei chyfraniad.

Rydym yn gwybod bod gan bobl sy'n dod allan o'r carchar nifer enfawr o bethau cymhleth i'w cyflawni mewn cyfnod byr iawn o amser, ac os ydynt yn mynd i mewn i, neu'n dychwelyd at ffordd o fyw anhrefnus, mae hynny'n broblematig iawn yn amlwg. Ac felly, nod y mesurau hyn yw creu cyswllt cyn rhyddhau rhywun o'r carchar, er mwyn hwyluso'r llwybr a sicrhau bod yr awdurdod lleol yn eu disgwyl, i bob pwrpas.

Mae gennym waith i'w wneud gyda'r awdurdod lleol—nid yng Nghaerdydd yn unig, ac mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â Chaerdydd, ond mae hwn yn fater sy'n ymwneud â rhyddhau carcharorion ym mhobman—er mwyn i'r awdurdod lleol sicrhau bod ganddynt y prosesau cywir ar waith i wneud yn siŵr nad yw pobl yn dychwelyd yn syth at ffordd o fyw anhrefnus, oherwydd gwyddom fod hynny'n arwain at wneud i bobl gredu y byddant yn well eu byd yn y carchar, ac ni ddylai unrhyw un fod mewn sefyllfa lle maent yn credu hynny.  

Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod ein bod eisoes wedi ymrwymo i edrych ar gwestiwn angen blaenoriaethol eto, ac fel y dywedais mewn Cyfarfod Llawn yn ddiweddar, rydym ar fin ei gomisiynu, ac rydym yn disgwyl hwnnw ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.  

Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd ar hyn, ac mae dedfrydau byr, rwy'n credu, yn arbennig o anodd, ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael dedfrydau byr, yn aml iawn am droseddau nad ydynt yn cynnwys trais yn erbyn unigolion, er enghraifft. Yn amlwg, os ydym yn defnyddio cosbau cymunedol, rydym yn llawer mwy tebygol o sicrhau nad yw sefyllfa dai troseddwyr yn cael ei heffeithio. A cheir peth tystiolaeth sy'n dangos bod rhywfaint o gylch lle mae rhai pobl yn dewis cyflawni trosedd arall a mynd yn ôl i'r carchar oherwydd bod hynny, o leiaf, yn rhoi to diogel uwch eu pennau. Ac mae hwn yn gamweithrediad gwarthus. Nid yw o fudd i neb o gwbl ac mae angen inni gael dull llawer gwell a mwy cydgysylltiedig o fynd i'r afael â hyn. Ond rwy'n credu bod cyfyngu cymaint â phosibl ar nifer y dedfrydau o dan flwyddyn yn ddechrau da o leiaf.

15:15

Ie, cytunaf yn llwyr â David Melding; mae yna broblem fawr gyda dedfrydau carchar byr, ac rydym wedi trafod y mater droeon yn y Siambr. Nid ydynt yn ddigon hir i sicrhau unrhyw fath o raglen adsefydlu neu ailhyfforddi neu unrhyw beth arall. Mae'n ymddangos weithiau eu bod wedi cael eu cynllunio'n benodol i amharu ar fywyd teuluol, sefyllfa dai a rhagolygon gwaith yr unigolyn. Mae'n anodd iawn gweld beth yw eu diben o gwbl i neb a bod yn onest. Felly, mae angen i ni weithio'n ofalus gyda Chymdeithas yr Ynadon yn enwedig, mewn perthynas â dedfrydau byr iawn, a chredaf fod yna farn gyffredinol fod angen gwneud rhywbeth ynglŷn â hynny ar frys. Yn amlwg, mae angen i'r opsiynau ar gyfer gwasanaeth cymunedol neu gynlluniau gwneud iawn â'r gymuned neu beth bynnag gael eu harchwilio'n drylwyr a'u darparu. Ond hefyd, wrth gwrs, mae angen inni atal pobl rhag mynd i'r system cyfiawnder troseddol yn y lle cyntaf, ac felly byddai cael rhai o'r mesurau cynharach rwyf newydd sôn amdanynt er mwyn dargyfeirio pobl i ffwrdd oddi wrth y system cyfiawnder troseddol yn y lle cyntaf yn amlwg yn fuddiol.

Roedd nifer o'r manylion yn adroddiad y bwrdd monitro annibynnol yng Ngharchar EM Caerdydd a ryddhawyd yr wythnos diwethaf yn peri pryder. Er enghraifft, cefais fy nigalonni, fel y mae eraill wedi sôn, wrth glywed bod dychwelyd i'r carchar yn fwy deniadol i rai carcharorion nag aros yng nghanolfan Huggard. Nawr, mae'n rhaid eich bod wedi eich siomi wrth ddarllen bod y diffyg llety sydd ar gael i garcharorion ar ôl eu rhyddhau yn cael ei ddisgrifio fel rhywbeth sydd nid yn unig yn greulon, ond yn ffactor pwysig o ran aildroseddu. Mae'r adroddiad yn galw ar eich Llywodraeth yn uniongyrchol i adolygu polisi tai ar frys, yn ogystal ag adolygu'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd ar gyfer gofal iechyd meddwl sylfaenol mewn carchardai. Felly, a wnewch chi hynny? Yn amlwg, mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud cam â charcharorion yn fwy eang, ac mae'n gwneud cam â'r gymdeithas mewn gwirionedd, oherwydd nid yw aildroseddu o fudd i unrhyw un o gwbl. Nawr, yn amlwg, nid yw rhywfaint o'r cyfrifoldeb am hyn wedi'i ddatganoli, ond mae gan eich Llywodraeth chi gyfrifoldebau mawr. Felly, beth y bwriadwch ei wneud ynglŷn â hyn i gyd?

Ie, wel, unwaith eto, rwy'n cytuno i raddau helaeth gyda'r Aelod—yn sicr, mae angen inni wella rhai o'r gwasanaethau. Mae pryder penodol ynghylch y canfyddiad o ganolfan Huggard yn arbennig ac rydym newydd ddarparu cyllid iddynt wella cyfleusterau diogelwch a storio yng nghanolfan Huggard mewn gwirionedd, oherwydd bydd yr Aelod yn gwybod y manylion—mae pobl yn ofni y bydd eu heiddo'n cael ei ddwyn tra byddant yn cysgu, ac nid ydynt yn teimlo bod y trefniadau diogelwch yn ddigonol ac ati. Felly, mae yna broblem o ran canfyddiad hefyd, oherwydd credaf—[Torri ar draws.] Ie. Yn amlwg, ni fuaswn yn bersonol eisiau mynd i gysgu gyda fy holl eiddo ar y gwely o fy mlaen heb wybod—wyddoch chi, gallai rhywun sy'n digwydd cerdded heibio helpu eu hunain. Yn amlwg, mae cypyrddau clo ac ati yn hanfodol i unrhyw un er mwyn sicrhau preifatrwydd dynol sylfaenol a pharch. Felly, rydym wedi darparu arian ychwanegol i ganolfan Huggard ar gyfer hynny, a gwyddom y gall llochesi nos fod yn frawychus ac nad dyna'r opsiwn cywir i nifer fawr o bobl. Maent yn opsiwn cywir i rai pobl—maent wedi bod yn ddefnyddiol iawn i rai pobl fel llwybr allan o ddigartrefedd. Ond bydd yr Aelod yn gwybod ein bod wedi bod yn edrych yn ofalus iawn ar gyllid, cynyddu llwybrau sy'n canolbwyntio ar drawma, ac opsiynau fel tai yn gyntaf ar gyfer pobl fel y gallwn sicrhau llety diogel a gweddus i bobl fel cam cyntaf, yn hytrach na gorfod dringo ysgol wobrwyo, lle byddwch yn llwyddo i ddod oddi ar y stryd ac yn cael eich gwobrwyo â rhywbeth arall ac yn y blaen, sydd wedi bod yn ddull a ddefnyddiwyd yn y gorffennol. Rwy'n credu bod cryn dipyn o'r syniadau—. Rwyf wedi bod yn y swydd hon am amser byr iawn, ond ymddengys bod llawer o'r meddwl, yn gwbl briodol, wedi troi at ddysgu o brofiadau pobl sydd wedi profi digartrefedd o ran yr hyn sydd wedi gweithio iddynt hwy a pham ei bod wedi cymryd cyhyd iddynt fynd yn ôl i gael cartref gweddus a diogel. Ac rydym yn awyddus iawn i fynd ar drywydd hynny.

Fodd bynnag, gan ddychwelyd yn benodol at garcharorion, nid yw'r cyfan wedi'i ddatganoli, ond mae rhywfaint ohono wedi'i ddatganoli, a'r hyn rydym yn ceisio ei wneud yw sicrhau bod ein hawdurdodau lleol sydd â phoblogaeth garchar yn debygol o gael ei rhyddhau iddynt yn gallu gweithio'n agos gyda'r carchar er mwyn sicrhau bod system wybodaeth well ar waith, fel y bydd yr unigolyn sy'n cael ei ryddhau o'r carchar yn deall beth sydd ar gael a bydd yr awdurdod lleol yn eu disgwyl, oherwydd mae honno'n broblem fawr yn ogystal, oherwydd os cânt i gyd eu rhyddhau am 5.30 p.m. ar brynhawn Gwener, mae'n amlwg y bydd honno'n broblem ac mae hynny'n amlwg wedi bod yn broblem yng ngharchar Caerdydd, a gwn o'r gwaith rwy'n ei wneud yn fy etholaeth fy hun ei bod yn broblem yng ngharchar Abertawe hefyd. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y systemau hynny'n gweithio'n well.

15:20
4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 ar yr agenda yw'r datganiadau 90 eiliad. A daw'r cyntaf y prynhawn yma gan Jack Sargeant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gan chwaraeon ran enfawr i'w chwarae yn y broses o ysbrydoli cenedlaethau a chymunedau, ac mae hefyd yn cael effaith gadarnhaol enfawr ar wella iechyd meddwl. Nid yw'r rhain ond yn rhai o'r rhesymau pam rwyf eisiau dymuno'n dda i dîm pêl-droed Nomads Cei Connah o fy etholaeth ar gyfer eu gêm gynderfynol yn erbyn Dinas Caeredin yng Nghwpan Irn Bru. Mae cymunedau Alun a Glannau Dyfrdwy yn falch iawn o'r hyn y mae'r clwb wedi'i gyflawni hyd yma, ond gadewch i ni obeithio y gallwn gyrraedd y rownd derfynol yn Glasgow a dod â'r gwpan adref.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn gymryd y cyfle hwn hefyd i ddymuno'n dda i glwb pêl-droed Casnewydd ar gyfer eu gêm bumed rownd yng Nghwpan yr FA yn erbyn pencampwyr yr Uwch Gynghrair, Dinas Manceinion. Cynhelir y ddwy gêm ddydd Sadwrn, felly er cymaint y buaswn yn hoffi ymuno â fy nghyd-Aelodau Jayne Bryant a John Griffiths yn Rodney Parade, byddaf yn stadiwm Glannau Dyfrdwy yn gobeithio am fuddugoliaeth i Gei Connah.

Rwy'n annog yr Aelodau a'n cymunedau i gymryd rhan ac i wylio cymaint o'r ddwy gêm â phosibl ym mha bynnag fodd y gallant.

Ddirprwy Lywydd, gan bob un ohonom yma yn Siambr y Senedd: 'Pob lwc i Gasnewydd', 'Pob lwc i'r Nomads'.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, mae'n fis Chwefror, ac mae'n ddiwrnod San Ffolant yfory, a byddwn yn nofio mewn calonnau, fel y bydd pawb yn gwybod, ond y calonnau rwyf fi eisiau siarad amdanynt yw'r calonnau sy'n rhoi bywyd i ni, a hoffwn atgoffa pawb ei bod yn Defibruary yn ogystal â mis Chwefror. Gellir defnyddio diffibrilwyr awtomatig brys yn hawdd pan fydd rhywun wedi dioddef ataliad ar y galon. Gall pobl heb unrhyw hyfforddiant meddygol eu defnyddio i roi pwls trydanol yn ddiogel i unigolyn pan fydd y diffibriliwr yn canfod bod gan yr unigolyn dan sylw guriad calon afreolaidd sy'n eu rhoi mewn perygl uniongyrchol. Pan fydd rhywun yn dioddef ataliad ar y galon, mae'r gobaith o oroesi yn gostwng 14 y cant gyda phob munud sy'n mynd heibio heb driniaeth, a phan fo'r claf y tu allan i leoliad ysbyty, mae'n hanfodol ei fod yn cael triniaeth cyn gynted â phosibl.

Diolch i elusennau fel St John Cymru, sy'n aml yn bresennol ar feysydd pêl-droed mewn gwirionedd, Calonnau Cymru, Cariad, Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, y Groes Goch, llawer o fusnesau, clybiau chwaraeon, cynghorwyr ac unigolion eraill hyd yn oed—maent oll wedi cyfrannu at wneud yn siŵr fod mwy o ddiffibrilwyr a mwy o hyfforddiant ar gael o fewn y gymuned, ac mae'n bosibl y byddwch eisiau dweud wrth etholwyr am Proactive First Aid Solutions. Edrychwch ar eu gwefan, oherwydd maent yn cynnig diffibriliwr a hyfforddiant yn rhad ac am ddim, cynnig sy'n werth dros £1,300, i sefydliadau, grwpiau cymunedol neu ysgolion. Fodd bynnag, nid yw diffibriliwr dan glo, neu ddiffibriliwr nad oes neb yn gwybod lle mae wedi'i leoli yn dda i ddim, felly, yn ystod Defibruary, gofynnaf i chi dynnu llun ohonoch eich hun wrth ymyl eich diffibriliwr cyhoeddus agosaf, ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod 'Defibruary' ac annog eich etholwyr i wneud yr un peth—a byddwn gam yn nes at fod yn genedl o achubwyr bywyd. Diolch.

Yr eitem nesaf yw cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau. Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer dadl a phleidlais. Rwy'n cymryd nad oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu.

Cynigion i Ethol Aelodau i Bwyllgorau

Cynnig NDM6971 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii), yn ethol Delyth Jewell (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

Cynnig NDM6972 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Delyth Jewell (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru).

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynigion. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Datganiad gan y Llywydd: Cyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn—Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Llywydd: cyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn—Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), a galwaf ar y Llywydd, Elin Jones.

Mae cyflwyniad Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) heddiw yn benllanw cyfnod hir o ymgynghori ac ymgysylltu gyda’r cyhoedd, grwpiau gwleidyddol a phartneriaid ehangach ar ddiwygio etholiadol, ac yn manteisio ar y cyfleon a gyflwynir yn Neddf Cymru 2017 i rymuso ein Cynulliad Cenedlaethol er gwell.

Hanfodion y Mesur felly yw creu Senedd sy’n fwy effeithiol a hygyrch, a sicrhau bod crud ein democratiaeth yn addas i bwrpas wrth iddi ddathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu. Fel yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, rwyf wedi gwrando ar ystod eang o safbwyntiau ar brif elfennau’r ddeddfwriaeth ddrafft—newid enw’r Cynulliad Cenedlaethol, ehangu’r etholfraint ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, a newid y gyfraith ynghlwm â threfniadau anghymhwysedd unigolion i sefyll etholiad.

Mae’r prif ddarpariaethau hyn wedi eu llunio gyda’r amcan o sicrhau’r consensws ehangaf posib ymysg Aelodau, ac adeiladu ar y mandad a roddwyd gan fwyafrif o’r Senedd i’r ddeddfwriaeth hon fis Hydref 2018. 

Beth, felly, mae’r Bil yn ei gynnwys? Yn gyntaf, gostwng yr isafswm oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiad Cynulliad 2021—amcan y Comisiwn yw i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Gan adeiladu ar y gwaith o ethol Senedd Ieuenctid gyntaf erioed Cymru y llynedd, mae’r Comisiwn yn gweithio gyda phartneriaid eraill i ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed mewn pryd ar gyfer etholiad Cynulliad 2021. Law yn llaw â’r ddarpariaeth hon mae’r angen am addysg wleidyddol briodol fydd yn galluogi pobl ifanc i ddeall eu hawliau democrataidd ac i gynyddu cyfranogiad mewn etholiadau. Mae’r Comisiwn yn gweithio gyda phartneriaid perthnasol i sicrhau bod y wybodaeth briodol yn cyrraedd cynifer o bobl ifanc â phosib cyn i’r newid cadarnhaol hwn ddod i rym.

Yn ail, bydd y Bil yn ailenwi’r Cynulliad yn 'Senedd'. Bydd ailenwi’r Cynulliad yn 'Senedd' yn sicrhau bod enw’r sefydliad yn adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol ac yn helpu i wella dealltwriaeth gyhoeddus o rôl a chyfrifoldebau’r ddeddfwrfa yma. Bydd y cymal yn y Ddeddf sy’n nodi y gellir hefyd cyfeirio at y Senedd fel 'Welsh Parliament' yn adlewyrchu’r farn a fynegwyd gan nifer fod angen cynnwys yr opsiwn o ddefnyddio’r term esboniadol Saesneg yn y Bil i atgyfnerthu’r newid yn statws y sefydliad. Dyma ddatganiad clir, felly, fod 'Senedd' bellach yn gyfystyr â 'parliament' nid 'assembly'. Y bwriad yw y bydd y newid enw yn dod i rym yn gyfreithiol fis Mai 2020 i sicrhau bod y cyhoedd yn gyfarwydd gyda’r enw newydd mewn da bryd cyn etholiad Cymru yn 2021. Ynghlwm â’r newid hwn bydd newidiadau cysylltiol—er enghraifft, y disgrifydd sy’n ymddangos ar ôl enw Aelodau ac enwau cyrff megis y Comisiwn. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn dod yn Aelodau o’r Senedd—'Members of the Senedd' yn Saesneg. 

Yn drydydd, bydd y Bil yn diwygio’r fframwaith ynghlwm ag anghymwyster i fod yn Aelod Cynulliad. Mae’r Comisiwn yn cyflwyno argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Chyfreithiol y pedwerydd Cynulliad a fyddai’n newid y gyfraith ar gymhwyster unigolion i sefyll. Diben y newid hwn fydd i sicrhau eglurder i ymgeiswyr posib am eu cymhwysedd i sefyll etholiad. Bydd y newid yn caniatáu'r mwyafrif o bobl i sefyll heb orfod ymddiswyddo o’i gwaith yn gyntaf, gydag ymddiswyddiadau o’r fath yn angenrheidiol pe baent yn cael eu hethol yn unig. Yn ogystal, bydd y cymal hwn yn gwahardd aelodau o Dŷ’r Arglwyddi rhag bod yn Aelodau Cynulliad, oni bai eu bod yn cymryd seibiant ffurfiol o’u gwaith yn San Steffan.

Yn olaf, mae’r Bil yn cynnig newidiadau i drefniadau etholiadol a mewnol y Cynulliad. Bydd y newidiadau ymarferol hyn yn creu mwy o hyblygrwydd yn dilyn etholiad drwy ymestyn y terfyn amser ar gyfer Cyfarfod Llawn cyntaf y Cynulliad o saith diwrnod i 14 diwrnod. Bydd hyn yn caniatáu mwy o amser i’r pleidiau gynnal trafodaethau pwysig wrth symud tuag at ethol Prif Weinidog a ffurfio llywodraeth. Un o amcanion eraill yr adran yma yw creu eglurder am hawl Comisiwn y Cynulliad i godi tâl am ddarparu gwasanaethau neilltuol i gyrff allanol.

Yn ogystal, barn Comisiwn y Cynulliad yw y dylai’r Cynulliad ystyried newid trefniadau cyllido a throsolwg y Comisiwn Etholiadol, gan ei fod eisoes yn gyfrifol am etholiadau datganoledig. Barn y Comisiwn Etholiadol yw y dylai gael ei gyllido gan a bod yn atebol i’r Cynulliad, yn hytrach na Senedd y Deyrnas Gyfunol am ei waith ynghlwm ag etholiadau Cymru, yn genedlaethol a lleol. Mae’r Mesur hwn felly yn rhoi dyletswydd ar y Senedd i ystyried y newid hwn. Os oes cefnogaeth ar ddiwedd Cyfnod 1 i symud ymlaen yn gynt gyda’r newid yma, yna gellid cyflwyno gwelliannau i’r perwyl yma yn ystod Cyfnod 2.

Bydd y Bil yn destun craffu helaeth drwy gyfuniad o sesiynau pwyllgor a’r Cyfarfod Llawn. Mae memorandwm esboniadol ar gael sydd yn sicrhau eglurder a thryloywder ynghylch goblygiadau cyllidol y Bil. Mae hefyd asesiadau manwl wedi'u cwblhau ar effaith y cynlluniau ar ieithoedd swyddogol y Cynulliad, cydraddoldeb a chynhwysedd, hawliau plant, y system gyfiawnder a meysydd eraill.

Wrth gwrs, man cychwyn yw’r Bil hwn. Wrth ei gyflwyno, fy ngobaith yw y bydd y Bil yn sbarduno dadleuon diddorol ac ystyrlon, ac yn annog cyfranogiad Aelodau, partneriaid a’r cyhoedd ehangach yn y drafodaeth am ddyfodol ein Senedd genedlaethol. Hoffwn hefyd gymryd y cyfle i ddiolch i’r Llywodraeth am eu cydweithrediad hyd yma wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth hyd yn hyn. Fel y mae’r Senedd Ieuenctid wedi'i brofi i ni mewn modd mor galonogol, mae yna awydd pendant gan ein pobl ifanc i chwarae eu rhan. Pa gyfle gwell nag achlysur penblwydd ein Senedd yn 20 mlwydd oed i'w hysbrydoli ac i'w cynnwys nhw, a phob dinesydd arall, yn uniongyrchol yng nghyfleon 20 mlynedd nesaf ein democratiaeth a'n Senedd ni? Diolch yn fawr. 

15:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r Bil hwn, sy'n garreg filltir bwysig arall ar daith datganoli.

Mae Llywodraeth Cymru'n gefnogol iawn i dri phrif nod y Bil, fel rŷn ni'n eu gweld nhw. Yn gyntaf, rhoi enw i'n Senedd sy'n adlewyrchi ei statws fel deddfwrfa, yn ail, rhoi cyfle i bobl ifanc bleidleisio, ac yn drydydd, rhoi mwy o eglurder i ymgeiswyr posib ynghylch a oes modd iddyn nhw sefyll. 

Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl gefnogol i ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed yn Rhan 3 o'r Bil. Roedd hyn yn ymrwymiad yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb.' Rwy'n falch iawn bod modd i ni gynnig cymorth gan ein swyddogion i gynhyrchu'r darpariaethau yn y Rhan hon. Rŷn ni'n credu dylai'r etholfraint ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol fod yn gyson â'i gilydd. Yn benodol, rŷn ni am weld y Bil yn ymestyn yr etholfraint i gynnwys gwladolion tramor sy'n byw yn gyfreithlon yng Nghymru, i adlewyrchu'r darpariaethau y byddwn ni'n eu cyflwyno mewn perthynas â'r etholfraint llywodraeth leol.

Ar ben hynny, mynegodd y Cynulliad yn ddiweddar ei fod yn cefnogi'r hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru. Rŷn ni'n cefnogi'r safbwynt hwnnw mewn egwyddor, ac yn aros gyda diddordeb i glywed casgliadau ymchwiliad y pwyllgor cydraddoldeb. 

Rydym yn credu ei bod yn bwysig fod perthynas ariannu ac atebolrwydd y Cynulliad gyda'r Comisiwn Etholiadol yn cael ei osod ar sail ffurfiol, ac rydym yn barod i weithio gyda'r Llywydd, y Comisiwn Etholiadol a'r Trysorlys yng ngoleuni gwaith craffu Cyfnod 1, i archwilio a allem fynd â hyn gam ymhellach nag y mae'r Bil yn darparu ar ei gyfer ar hyn o bryd. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi'r camau y mae'r Bil yn eu cymryd i wahaniaethu rhwng y rheini sydd wedi'u gwahardd rhag bod yn ymgeiswyr yn etholiadau'r Cynulliad a'r rheini sydd wedi'u gwahardd rhag bod yn Aelod Cynulliad. Byddwn yn rhoi mwy o ystyriaeth i'r angen am unrhyw newidiadau pellach i fanylion y darpariaethau hyn wrth i'r Bil fynd rhagddo. Rydym hefyd yn cydnabod yr amcanion sy'n sail i'r ddarpariaeth yn Rhan 5, sef pŵer i Weinidogion Cymru weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas ag etholiadau. Ond nid ydym yn credu ei bod yn angenrheidiol nac yn briodol i'r pŵer hwn fod yn nwylo Gweinidogion Cymru, a hoffem archwilio hyn ymhellach yn ystod y gwaith craffu.

Rydym yn croesawu'r cyfle a gyflwynir yn Rhan 2 i ystyried ailenwi'r sefydliad hwn er mwyn adlewyrchu ei swyddogaeth ganolog fel deddfwrfa ym mywyd Cymru. Mater i'r Cynulliad cyfan yw penderfynu beth ddylai'r enw hwnnw fod, ond byddem yn annog yr holl Aelodau i gadw mewn cof y bydd darpariaethau'r Bil hwn yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006—ein prif statud gyfansoddiadol. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod y darpariaethau ar gyfer newid enw, yn ogystal ag ar gyfer materion eraill, mor glir ac mor hygyrch â phosibl. Fel y mae'r Bil wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, rwy'n pryderu nad yw hynny'n wir. Byddaf yn ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol cyn hir i roi mwy o wybodaeth am safbwynt cychwynnol Llywodraeth Cymru ar y Bil. Ond rwy'n gobeithio bod y Llywydd, fel yr Aelod cyfrifol, yn gallu cadarnhau ei bod yn rhannu fy marn i, a barn y Llywodraeth, y dylai'r Bil hwn, fel darn allweddol o ddeddfwriaeth gyfansoddiadol, fod yn batrwm ar gyfer diwygio cyfansoddiadol cyn belled ag y bo modd, ac y bydd yn parhau i weithio'n agos gyda mi, yn ogystal â phwyllgorau'r Cynulliad, Aelodau eraill sydd â diddordeb a'n rhanddeiliaid, i sicrhau hynny.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei sylwadau a'i gwestiwn, ac a gaf i gydsynio gyda'r hyn mae e wedi'i ddweud wrth orffen? Mae hwn yn Fil cyfansoddiadol o bwys, ac felly, mae'n bwysig ei fod e'n ecsemplar o ddeddfwriaeth dda mae'r Cynulliad a'r Senedd yma yn gyfrifol amdani. A dwi'n gobeithio, wrth ei gyflwyno, ac wrth ei sgrwtineiddio, y byddwn ni yn dangos hynny yn glir iawn. 

Mae yna nifer o agweddau rŷch chi wedi amlinellu, Cwnsler Cyffredinol, le mae yna gydsyniad rhwng yr hyn sydd wedi cael ei gyflwyno yn y Mesur, a'r hyn rŷch chi'n dyheu amdano fel Llywodraeth. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny.

Ar yr etholfraint, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth yn edrych i gyflwyno ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn 2022 i bobl ifanc 16 ac 17 hefyd. Ac mae hi wedi bod yn bwysig fy mod i, wrth fy mod i'n datblygu'r Bil yma, yn gweithio yn agos iawn â swyddogion y Llywodraeth a chi fel Cwnsler Cyffredinol, ac ein bod ni yn gwneud hynny mewn ffordd sydd yn gyffredin, ac yn defnyddio mecanwaith y Bil yma, sydd yn mynd i edrych i gynyddu'r etholfraint yn yr etholiad sy'n dod o'n blaenau ni yn gyntaf—sef etholiad Cymru yn 2021.

Mae yna ddwy agwedd, wrth gwrs, ac rŷch chi wedi cyfeirio atyn nhw, sydd ddim yn y Bil fel y mae e wedi ei ddrafftio a'i gyflwyno ar hyn o bryd o ehangu'r etholfraint, ac mae hynny i wladolion tramor ac i garcharorion. Ac wrth gwrs mae yna faterion gweddol o gymhleth yn y ddwy agwedd yna, ac efallai ddim y mandate llawn, oddi wrth y Cynulliad yn llawn, i edrych ar roi'r bleidlais i wladolion tramor, wrth gyflwyno'r Mesur. Ond dwi'n gobeithio, wrth drafod o fewn y pwyllgor a'r Cynulliad yma'n llawn, os oes yna fodd inni edrych i weld ein bod ni'n sicrhau yn weddol o gynnar wrth gyflwyno etholfraint newydd yng Nghymru fod yr etholfraint ar gyfer y Cynulliad yma a'r etholfraint ar gyfer llywodraeth leol yr un etholfraint. Dwi ddim yn credu ei bod hi o fantais mewn unrhyw ffordd inni gael dwy etholfraint wahanol ar gyfer ein hetholiadau domestig ni, yn yr etholiadau lleol hynny a'r etholiad cenedlaethol. Ac felly, fe fyddaf i'n gwrando'n ofalus ar yr hyn y bydd gan y pwyllgor ac eraill i'w ddweud wrth i'r Mesur yma fynd yn ei flaen.

Eich sylwadau chi ar Gomisiwn y Gyfraith—y Law Commission—mae'n ddiddorol iawn i fi glywed y Llywodraeth yn dweud efallai y bydden nhw ddim yn awyddus i weld y pwerau sydd yn cael eu rhoi yn y ddeddfwriaeth yma i'r Llywodraeth, ond o bosib yn aros yn y ddeddfwrfa. Ac mae'n siŵr y bydd hwnna'n fater, eto, i'r pwyllgor i edrych arno.

Ac yn olaf, eich pwynt chi ynglŷn â'r angen i'r ddeddfwriaeth yma, fel deddfwriaeth gyfansoddiadol, fod mor glir â phosib i bobl Cymru. Ac yna, wrth feddwl am y cymalau sydd yn ailenwi'r Cynulliad yn 'Senedd', ac mae yna gyfeiriad rŷch chi wedi ei wneud at farn sydd gennych chi am ffyrdd y gellid gwneud y cymalau yma yn gliriach. Mae yna gyfeiriad yn y memorandwm esboniadol hefyd at yr ystyriaeth roddais i i newidiadau yn sut roedd y cymalau yma wedi cael eu gosod; oherwydd rhai materion sydd yn ymwneud â chymhwysedd, a thrafodaeth ynglŷn â chymhwysedd, fe ddrafftiwyd y cymalau am yr enw yn y ffordd y mae nhw yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd. Ond mae'n siŵr y bydd y pwyllgor, unwaith eto, yn rhoi golwg o'r newydd ar y pwyntiau rŷch chi wedi eu gwneud, ac sydd hefyd yn cael eu hamlinellu yn y memorandwm esboniadol.

Ac felly, diolch ichi am eich cefnogaeth mewn egwyddor i nifer o wahanol agweddau sydd yn cael eu cyflwyno yn y Mesur heddiw. Ac eto, rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â chi, a hefyd wrth gwrs ar yr hyn ddywedoch chi am eich cefnogaeth i wneud y Comisiwn Etholiadol yn atebol, o ran eu cyllid a'u hatebolrwydd cyffredinol, i'r Cynulliad yma, yn hytrach nag i Senedd San Steffan am etholiadau Cymru—lleol a chenedlaethol.

15:35

Rydym yn croesawu cyflwyno'r Bil hwn. Mae'n gydnabyddiaeth bwysig o statws y Senedd fel deddfwrfa, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol hefyd wedi'i nodi. Felly, mae'n garreg filltir bwysig. Ac rwy'n credu bod y rhai ohonom sydd wedi gwasanaethu—fel rydych chi wedi'i wneud, yn y Gadair ar hyn o bryd, Ddirprwy Lywydd—ers 1999, mae bron fel pe baem wedi bod mewn confensiwn cyfansoddiadol enfawr, a ninnau wedi dechrau, rwy'n credu, gyda'r hyn a gafodd ei alw gan rywun yn gofiadwy fel 'Cyngor Sir Morgannwg ar stilts', cyn symud ymlaen i wahanu pwerau, cael proses y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol o ddeddfu deddfwriaeth sylfaenol drwy oddefiad gan San Steffan, i fod yn y diwedd yn ddeddfwrfa go iawn. Mewn ffordd, mae wedi bod fel rhyw fath o daith o Gaerdydd i Gasnewydd drwy Wrecsam, ond fe gyraeddasom serch hynny.

Rwyf hefyd yn cefnogi'r bwriad i greu deddfwrfa fwy effeithiol a hygyrch. Rwy'n credu mai dyna'r nod cywir, ac rydym angen y math hwnnw o eglurder a phwrpas yn ein meddylfryd cyfansoddiadol a'r ffordd rydym yn creu cyfraith.

Ar estyn yr etholfraint, credaf fod hwn yn fater sy'n galw am ei archwilio'n ofalus, er bod enghreifftiau amlwg o gwmpas y byd o'r manteision a ddaw yn sgil gostwng yr oedran pleidleisio i 16, neu'r oedran cymwys i 16. Mae hynny'n cwmpasu'r rhan o'r boblogaeth a fydd, yn amlwg, yn byw gyda'r penderfyniadau pwysicach a wneir ar eu rhan, ond hefyd o ran addysg, hyfforddiant—mae'r materion sylfaenol hyn yn hanfodol, mewn gwirionedd, i ffyniant y gymdeithas, ac maent yn effeithio'n fawr ar y grŵp oedran hwnnw, ac rwy'n credu y byddai'n bosibl i chi godi'r materion hynny wrth inni fynd ati i ystyried.

Rwy'n credu eich bod yn ddoeth i edrych yn gyffredinol ar sut y caiff gwleidyddiaeth ei dysgu mewn ysgolion. Nid yw pawb yn deall y broses wleidyddol yn dda bob amser, ac nid wyf eisiau troi pob dinesydd yn wyddorwyr gwleidyddiaeth ond yn yr ystyr fod gennym ddealltwriaeth sylfaenol o sut y mae'r system gyfraith droseddol yn gweithio a sut y mae rheithgorau'n bwysig, credaf fod dinasyddion angen cael eu haddysgu yn yr ysgol am y cyfrifoldebau sydd o'u blaenau mewn perthynas â dinasyddiaeth. Mae'n ganolog i ddemocratiaeth. Heb ddinasyddion, ni allwch gael system ddemocrataidd, neu'n sicr ni allwch gael system ddemocrataidd iach. Felly, credaf fod hynny'n bwysig iawn.

Ceir tystiolaeth bendant sy'n dangos, os ydych yn colli dau etholiad tra'n ifanc, ei bod yn debygol na fyddwch yn pleidleisio o gwbl yn ystod eich bywyd. Mae'n syfrdanol, rwy'n credu, i bawb yn y lle hwn fod yna ddinasyddion—a chryn dipyn ohonynt—nad ydynt erioed wedi bwrw pleidlais mewn democratiaeth. Felly, rwy'n croesawu'n arbennig y ddealltwriaeth honno y bydd angen i ni wneud rhywbeth mewn ysgolion i baratoi ein dinasyddion iau, yn enwedig os ydym yn gostwng yr oedran pleidleisio i 16.

Mae'r enw yn amlwg yn rhywbeth sydd ar y gweill, os caf ei roi felly. O fewn y swigen wleidyddol o leiaf, ceir derbyniad fod y gair 'senedd' wedi cael ei dderbyn. Dyna'r enw rwy'n ei ffafrio, mae'n rhaid i mi ddweud, ac yn sicr mae'r bobl rwy'n ymgysylltu â hwy—y rhan fwyaf o'n rhanddeiliaid—yn ei ddeall. Yn amlwg, po bellaf i ffwrdd yr awn ni, a pho fwyaf y siaradwn â'n hetholwyr, nid yw'r defnydd cyffredin hwnnw wedi gwreiddio i'r un graddau. Rwyf hefyd yn credu bod egwyddor dwyieithrwydd yn bwysig, ac mae 'senedd' yn un o'r geiriau prin hynny sy'n gwneud y ddau beth bron, ond credaf fod yna ran fawr o'r boblogaeth sy'n edrych ar y gair 'parliament' fel gair Prydeinig gwych, dealladwy. Wel, gair Ffrangeg ydyw, wrth gwrs, ond fe wyddoch beth rwy'n ei feddwl—[Chwerthin.]—a dyna fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn galw deddfwrfa ym model San Steffan, lle bynnag y caiff ei gymhwyso. Pe gallem gynnwys 'parliament' mewn ffordd fwy uniongyrchol, a gwn fod anawsterau wedi bod ynghylch cymhwysedd, a bydd angen eu harchwilio, ond rwy'n gobeithio y bydd gennym olwg eang ar hyn hefyd o ran sut y gallwn ddehongli ein cymhwysedd o dan Ddeddf 2006. Rwy'n gobeithio y bydd pobl o ewyllys da yn gallu datrys hyn yn y pwyllgor a thu hwnt.

Mae cymhwystra ar gyfer etholiad—credaf y dylwn ddatgan buddiant yma, Ddirprwy Lywydd, oherwydd pan oeddwn yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn y pedwerydd Cynulliad, buom yn edrych ar hyn. A chyn belled ag y gallaf weld, rwy'n ddiolchgar fod y darpariaethau, fwy neu lai, yn cyd-fynd â'r hyn a argymhellwyd gennym, fel na fernir eich bod yn anghymwys, bernir eich bod wedi ymddiswyddo o rywbeth pan gewch eich ethol, os oedd hynny'n eich gwneud yn anghymwys neu na allech ddal y ddwy swydd ar yr un pryd. Cawsom brofiad dychrynllyd yn 2011, gyda'r posibilrwydd y gallai dau Aelod fod wedi'u hanghymhwyso. Yn y pen draw, cafodd un ei anghymhwyso, ond ni chafodd y llall, ac nid oedd yn glir iawn i mi sut y gwahaniaethwyd rhyngddynt. Nid ydym eisiau bod yn y sefyllfa honno.

Yr hyn sydd wrth wraidd hyn, a'r hyn a oedd wrth wraidd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yw bod angen i ni ymestyn yr amrywiaeth o bobl a all sefyll etholiad i'r eithaf ac mae angen i ni gyfyngu ar y gwaharddiadau i gyn lleied ag y bo modd, a dyna y mae democratiaeth yn ei fynnu a chredaf y bydd hynny'n mynd yn bell iawn.

O ran gwahardd aelodau o Dŷ'r Arglwyddi rhag cael sedd yn y Senedd—tra bônt yn aelodau o Dŷ'r Arglwyddi, bydd darpariaeth, wrth gwrs, iddynt barhau i fod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi. Credaf mai'r rhesymeg y tu ôl i hynny yw na ddylech fod yn aelod o ddwy ddeddfwrfa ar yr un pryd. Ac mae hynny, i mi, yn ei roi mewn categori gwahanol iawn i aelodaeth o awdurdod lleol, er bod llawer o bobl efallai'n credu nad yw hynny'n arfer gorau chwaith—parhau i fod yn aelod o awdurdod lleol ac yn aelod yn y lle hwn. Ond rwy'n credu y bydd hyn yn helpu i ddyrchafu pwysigrwydd ein Senedd ac yn dileu unrhyw awgrym o wrthdaro buddiannau.

Yn olaf, a gaf fi grybwyll un maes lle gellir gwneud gwelliannau o hyd, sef ymgysylltiad â'r cyhoedd? Credaf ein bod angen modelau newydd ledled y DU. Rydym wedi gwneud llawer, a bod yn deg, gyda'n huned allgymorth, ond rwy'n credu o ddifrif, wrth i ni symud o ddemocratiaeth gynrychiadol i ddemocratiaeth gyfranogol, mai dyna'r her sydd o'n blaenau, a chredaf fod digwyddiadau diweddar yn ein cymell i wneud hyn. Bydd angen ymgysylltiad ehangach a dyfnach â'n dinasyddion a'r ffordd y gwnawn hynny, drwy reithgorau dinasyddion neu siambr y dinasyddion—ceir llawer iawn o fodelau—. Ond rwy'n credu, ar ryw bwynt—os nad dyma'r cyfrwng cywir, efallai y cawn olwg arno, nid wyf yn gwybod—dyna her sydd o'n blaenau ac un y bydd yn rhaid i ni ei hwynebu yn fuan iawn.

15:45

Diolch i David Melding am ei sylwadau ar y Bil fel y mae'n sefyll ar hyn o bryd. Ar fater pleidleisio yn 16 ac 17, mae'r pwyntiau rydych yn eu gwneud ar addysg ac ymwybyddiaeth o ddinasyddiaeth mewn addysg ac addysg pobl ifanc—dyna'r union bwyntiau a wnaed yn adroddiad annibynnol Laura McAllister wrth argymell y dylid cyflwyno pleidlais i rai 16 ac 17 oed yng Nghymru, ond na ddylid ond gwneud hynny ochr yn ochr ag archwiliad manwl iawn o sut rydym yn hyrwyddo gwybodaeth ac ymgysylltiad â phobl ifanc, boed hynny drwy rôl ffurfiol y cwricwlwm a'r ysgolion—. Ac mae'n fater rwyf eisoes wedi'i drafod gyda'r Gweinidog addysg ac rydym yn awyddus i weithio gyda'n gilydd ar sut y gwnawn hyn er mwyn paratoi, os caiff y ddeddf ei phasio, ar gyfer rhoi'r bleidlais i unigolion 16 a 17 oed yn 2021. Ac wrth gwrs, gellir ei wneud mewn cyd-destun mwy anffurfiol, drwy'r cyfryngau cymdeithasol a'n gwaith ar hynny, yn enwedig gyda Senedd Ieuenctid Cymru, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

Yn wir, mae'r pwynt a wnewch ynglŷn ag ymgysylltiad unigolion 16 a 17 mlwydd oed o gymharu ag oedrannau arall o bosibl yn un diddorol. Mae'r dystiolaeth yn yr Alban—ac wrth gwrs, mae rhai 16 a 17 oed yn yr Alban wedi cael pleidleisio ar ddau achlysur o leiaf, yn y refferendwm annibyniaeth ac ar gyfer Senedd yr Alban—wedi dangos bod unigolion 16 a 17 oed yn llawer mwy gwybodus ynghylch mecaneg pleidleisio, a sut i bleidleisio a ble i bleidleisio, na'r ystod oedran sy'n eu dilyn, rhai 18 i 24 oed, lle mae'n bosibl eu bod wedi gadael eu cartrefi a symud i ardal arall ac mae eu profiad cyntaf o bleidleisio mewn ardal nad ydynt mor gyfarwydd â hi. Yn sicr, dyna oedd y profiad diddorol yn yr Alban wrth roi pleidlais i rai 16 ac 17 oed.

O ran y prif newid, mae'r cymalau o fewn y Bil fel y'i drafftiwyd, yn ogystal â'r enw ei hun—y defnydd o 'Senedd' neu 'Senedd'/'Welsh Parliament'—mae'r gwaith hwnnw ar y gweill, fel y dywedoch chi, David, ac edrychaf ymlaen at ddod gerbron y pwyllgor o bobl ewyllys da i weld a allwn ddatblygu syniadau pellach ar hyn. Buaswn yn annog gofal bob amser a dylai'r Aelodau gofio bod hon yn ddeddfwriaeth gyfansoddiadol, ac y bydd angen 40 Aelod o'r Cynulliad, nid mwyafrif syml, i basio'r Bil yn derfynol, ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau, wrth feddwl am welliannau diddorol y gallent fod yn dymuno eu cyflwyno i'r Bil yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3, yn cadw mewn cof bob amser y bydd angen 40 Aelod i'w gefnogi yng Nghyfnod 4 ac nid mwyafrif syml yn unig. Roeddwn wedi anghofio mai chi oedd Cadeirydd y pwyllgor cyfansoddiadol yn ystod y pedwerydd Cynulliad, David—maddeuwch i mi am hynny. Ond mae'r darpariaethau mewn perthynas â threfniadau anghymhwyso fel y cawsant eu hamlinellu i ni gan y pwyllgor hwnnw, ac yn sicr felly yng ngoleuni profiad anodd 2011. Felly, rydym bellach yn dilyn Deddf Cymru 2017, sy'n rhoi pwerau inni roi argymhellion y pwyllgor hwnnw mewn deddfwriaeth.

Wrth gwrs, gellir gwella ymgysylltiad cyhoeddus heb fod angen deddfwriaeth, ac mae angen i ni wella'r gwaith hwnnw bob amser. Ond fel y dywedwch, mae yna drafodaeth ddiddorol y mae angen i ni ei chael yma ynglŷn â ffordd fwy gyfranogol o edrych ar wleidyddiaeth yng Nghymru, na fydd yn galw am ddeddfwriaeth o bosibl, ac mae angen inni edrych ar fodelau diddorol y gallwn eu treialu heb ddeddfwriaeth i weld beth sy'n bosibl inni ei wneud er mwyn gwella ein perthynas a dealltwriaeth pobl Cymru o'r hyn a wnawn yma a'u mewnbwn i'r hyn a wnawn ar eu rhan.

15:50

A allaf longyfarch y Llywydd ar gyflwyno'r datganiad yma heddiw, a hefyd groesawu, yn sylfaenol, y datganiad ar beth sydd yma o’m blaenau ni? Yn benodol, felly, buaswn i’n cefnogi’n gryf y bwriad i ostwng yr isafswm oedran pleidleisio lawr i 16 ar gyfer etholiadau’r Cynulliad 2020-1. Dwi’n sylweddoli ein bod ni'n gynnar iawn yn nhaith y Bil yma rŵan ac y bydd yn dod o flaen y pwyllgor cyfansoddiadol i gael rhagor o graffu a gogyfer Cyfnod 1. Felly, fel dŷch chi wedi cyfeirio eisoes, ar ddechrau’r daith rydyn ni rŵan, ond man a man inni gytuno’n sylfaenol efo beth dŷch chi wedi’i ddweud.

Dwi’n cofio, yn y trydydd Cynulliad, pan oedd e’n Gynulliad, bryd hynny, aeth y pwyllgor llywodraeth leol dros y dŵr i Ewrop i edrych ar systemau pleidleisio ac oedrannau pleidleisio ac ati, ac aethon ni i lefydd fel Denmarc a Sweden, a beth oedd yn dod yn amlwg yn fanna oedd bod plant yn eu harddegau yn derbyn addysg am y gwahanol bleidiau gwleidyddol—yng ngwledydd fel Denmarc. Hynny yw, roedden nhw’n olrhain yn union beth oedd y blaid 'Lafur' leol yn sefyll amdano fe, beth oedd y 'Plaid Cymru' lleol yn sefyll amdano fe, mewn ffordd a oedd jest yn addysgiadol. Roedd pobl yn derbyn hynny; roedd hynny’n ffordd o ddweud wrth bobl beth oedd y gwahanol safbwyntiau yn eu golygu. Mae hynny wedi gweithio yn Nenmarc dros y blynyddoedd. Dwi’n credu dyna hefyd oedd sylwedd beth oedd yn digwydd yn Sweden hefyd, ac roeddech chi’n gallu gweld fel oedd y plant a phobl ifanc â diddordeb heintus, felly, yn y system bleidleisio, ac yn tueddu i fod yn fwy parod i bleidleisio.

Felly, dyna oedd swm a sylwedd y dystiolaeth gwnaethon ni ei derbyn pan aethon ni i ffeindio allan y ffeithiau go iawn, felly, dros y dŵr. Felly, bydd angen i’r pwyllgor cyfansoddiadol fynd dros y dŵr unwaith eto i weld a ydy’r safbwynt yna wedi newid. Ond, yn bendant, mae yna rai gwledydd eraill ar flaen y gad yn y math hwn o beth. Achos fel y dywedodd David Melding eisoes, y dystiolaeth hefyd y cawson ni o’r daith yna oedd: os nad ydy pobl yn pleidleisio am y ddau dro cyntaf lle gallan nhw bleidleisio, dŷn nhw byth yn mynd i bleidleisio. Dyna beth yw hanfod pwysigrwydd, dwi’n credu, gostwng yr oedran pleidleisio i 16, tra bod y brwdfrydedd heintus yna i gael, ac i wneud yn siŵr bod yr hyder gan bobl ifanc, cyn iddyn nhw adael eu cartref, i bleidleisio, ac maen nhw’n llawer mwy tebyg o bleidleisio wedyn.

Rydyn ni wedi gweld yr un un brwdfrydedd yna efo’n Senedd Ieuenctid ni. Y rhai ohonon ni sydd wedi bod ynghlwm ac yn cyfarfod efo Aelodau’r Senedd Ieuenctid—rhai ohonyn nhw’n ifanc iawn—rŷch chi’n gweld pa mor frwdfrydig ydyn nhw am yr holl broses. Achos mae yna sawl math o anghyfiawnder allan yn fanna ac maen nhw eisiau gwneud rhywbeth amdano fe, ac maen nhw’n gwybod mai'r broses wleidyddol ydy’r ffordd i wneud rhywbeth am y gwahanol anghyfiawnderau—boed am iaith, amgylchedd, beth bynnag—ac maen nhw’n wirioneddol frwdfrydig dros y peth. Mewn ffordd, mae rhai pobl wedi'u dadrithio efo’r systemau gwleidyddol. Dwi ddim yn gweld hynny efo’n pobl ifanc, felly. Rydw i'n credu ei bod hi’n bwysig pwysleisio’r pwynt yna.

Dwi'n gweld bod yr amser yn llamu ymlaen, a dwi'n gweld y ffordd y mae'r Dirprwy Lywydd yn edrych arnaf i, felly fe wnaf i jest crybwyll y pwynt ynglŷn ag enw'r sefydliad yma. Dwi'n credu ei fod yn teilyngu cael ei enwi yn 'Senedd', achos, fel dŷch chi wedi cyfeirio eisoes, dŷn ni wedi gwneud y cam yna rŵan o fod yn Gynulliad oedd â dim pwerau, a dim pwerau dros drethu. Dŷn ni rŵan gyda phwerau deddfu cynradd, a gyda'r pwerau i godi trethi—hynny yw, dŷn ni yn Senedd, felly beth am gael enw fel 'Senedd', yn gydradd, felly, yn nhermau enwau, efo'r Senedd sydd yn yr Alban, a hyd yn oed efo'r Senedd sydd yn San Steffan. Dwi'n deall ambell i sensitifrwydd, ac wrth gwrs mi fyddwn ni'n craffu, llinell wrth linell, ar hyn, ond dwi hefyd yn credu ein bod ni wedi gwneud y cam yna i fod yn Senedd—man a man jest dweud, 'Ie, dŷn ni yn Senedd.' Diolch yn fawr.

15:55

Diolch i Dai Lloyd am ei gyfraniad, a diolch am y gefnogaeth i'r gwahanol elfennau mae e wedi cyfeirio atyn nhw yn y Mesur. Fe wnaf i ddim ailadrodd beth dwi wedi ei ddweud eisoes ynglŷn â rhai o'r materion hynny, dim ond i, efallai, bwyntio allan, fel mae Dai Lloyd wedi gwneud—mae yna drafodaeth weddol o hir wedi bod yn arwain lan at y pwynt lle rŷm ni nawr yn edrych i ddeddfu ar newid yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17. Nid rhywbeth newydd sydd yn digwydd am y tro cyntaf erioed unrhyw le yn y byd yma yw hyn yng Nghymru; mae'n digwydd mewn mannau eraill yn y byd, ac mae e'n digwydd o fewn y Deyrnas Gyfunol erbyn hyn hefyd, yn yr Alban. Ac felly, mae yna drafodaeth wedi bod yn y gorffennol am gyflwyno hyn, ond tan nawr, wrth gwrs, tan Ddeddf Cymru 2017, doedd gennym ni ddim y pŵer yn y Senedd yma i wneud y newid yna. Roedden ni'n gallu ei drafod e, yn y trydydd Cynulliad, fel roedd Dai Lloyd yn cyfeirio ato, ond nawr, yn y pumed Cynulliad yma, rŷm ni wedi cael y grymoedd yna i ddeddfu ar ein hetholiadau ni ein hunain, a dyna pam ŷm ni'n medru gwneud hynny nawr, ac rŷm ni'n medru edrych i alw ein hunain yn 'Senedd' oherwydd dyna beth ŷm ni'n ei wneud: deddfu.

A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu'r Bil hwn yn fawr iawn ac yn croesawu'r modd y mae wedi'i ddrafftio? Rwy'n sicr yn edrych ymlaen, ar ôl treulio'r rhan fwyaf o fy mywyd yn dadlau ac yn trafod datganoli, at weld y patrwm hwn o ddiwygio cyfansoddiadol ar waith. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn uchelgeisiol iawn yn ei weledigaeth wrth ymateb ar ran y Llywodraeth. Sylwais, wrth edrych drwy rai bocsys gartref, fy mod, pan oeddwn yn fy 20au cynnar, wedi ymgyrchu dros 'senate' yng Nghaerdydd. Roedd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, y cefais, rywsut, fy ethol i'w arwain ar y pryd, wedi rhoi caniatâd i mi gynnal yr ymgyrch hon. Fe wnaethom ddewis y term 'senate' oherwydd ei fod yn swnio fel 'senedd' ac oherwydd ei fod yn ddealladwy i bawb—roedd hyn yn ôl yn yr 1980au—a chredaf fod yr hyn rydym yn galw ein hunain yn bwysig, fel mae'n digwydd. Nid wyf yn credu ei fod yn ymarfer technegol neu academaidd, ac nid wyf yn credu ei fod yn ymarfer sy'n porthi balchder neu hunan-dyb. Credaf ei fod yn hanfodol i'r lle hwn, a'r hyn y mae'n ceisio bod. Arthur Henderson, ysgrifennydd cyffredinol y Blaid Lafur ym 1918, a ddywedodd wrth gwrs y gallai Cymru ddod yn baradwys gyda hunanlywodraeth. Nawr, rwy'n siŵr fod eraill wedi'i ddyfynnu yma heddiw. Ond ar y pryd, wrth gwrs, roedd penderfyniad—penderfyniad go iawn—mewn gwahanol rannau o Senedd y DU ar y pryd, i sicrhau ymreolaeth i bawb, a chredaf mai dyna'r fframwaith cyfansoddiadol cywir a phriodol ar gyfer bwrw ymlaen â'r materion hyn, lle mae gan Gymru a'r Alban Seneddau sy'n gallu penderfynu ar y trefniadau domestig ar gyfer y gwledydd hynny o fewn fframwaith y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n gobeithio, ar ryw bwynt yn ystod yr ymarfer enghreifftiol hwn o ddiwygio cyfansoddiadol, y byddwn yn edrych ar y materion sy'n effeithio ar ein cymheiriaid, ein ffrindiau a'n cymdogion yn Lloegr yn ogystal. Ond mae hynny y tu hwnt i gwmpas y datganiad hwn y prynhawn yma.

Nid oes llawer o ots gennyf a ydym yn galw ein hunain yn 'Senedd' neu'n 'Parliament'. Yn bersonol, rwy'n defnyddio'r ddau ac mae fy etholwyr yn defnyddio'r ddau. Rwy'n hapus i fod yn 'Aelod Seneddol', ac rwyf yr un mor hapus i fod yn 'Member of the Welsh Parliament'. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw'r pwerau sydd gennym a sut rydym yn arfer y pwerau hynny. Dywedais yn gynharach yn fy sylwadau imi fod yn edrych yn ôl ar fy 20au cynnar—wel, roeddwn yn dathlu fy mhen blwydd yn bum deg bump ddoe. [Torri ar draws.] Diolch yn fawr iawn. Gwn fod llawer o fy etholwyr yn edrych ymlaen at fy ymddeoliad. [Chwerthin.] Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gwneud hynny gyda setliad digonol a phwerau digonol. Y prynhawn yma, rydym eisoes wedi trafod y ffaith bod angen i ni fynd ar ofyn Llywodraeth Dorïaidd er mwyn gallu adeiladu gorsaf drenau yn Abertyleri. Nid yw hynny'n iawn, does bosib. Rydym angen setliad i'n galluogi i wneud hynny ac i fynd i'r afael â materion iechyd meddwl yng ngharchar Caerdydd yn briodol. Fel rydym wedi'i glywed y prynhawn yma, ni allwn wneud hynny chwaith. Felly, yn bersonol, pwerau'r lle hwn sydd bob amser wedi fy nghymell i, a'n gallu i sicrhau newid ar ran y bobl a gynrychiolwn.

Mae gennyf ddiddordeb yn y Dáil yn Iwerddon, a chredaf ei fod yn enghraifft go iawn o sut y mae dwyieithrwydd—fel y mae David Melding wedi'i nodi'n gywir—yn gallu golygu mwy na dim ond defnyddio dau enw ym mhob achos. Fel siaradwr Cymraeg, dywedir wrthyf yn aml mai dwyieithrwydd yw fi'n siarad Saesneg, a chredaf fod angen i ni sicrhau bob hyn a hyn fod gennym dermau yn ein hiaith bob dydd ac yn ein bywyd cenedlaethol sy'n adlewyrchu pwysigrwydd ein hiaith genedlaethol hefyd. Ond mae'n rhywbeth rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu ei ystyried.

Ond y pwynt yr hoffwn ei wneud y prynhawn yma yw fy mod yn gobeithio y bydd hyn yn ddechrau ar ddiwygio mwy sylweddol yn ogystal. I fod yn effeithiol—yng ngeiriau'r Llywydd—rydym angen mwy o Aelodau yma. I fod yn effeithiol, mae'n rhaid i ni hefyd gynrychioli pobl ym mhob rhan o'r wlad yn gyfartal ac i mi, mae hynny'n golygu system gyfrannol, a byddai'n well gennyf system y bleidlais sengl drosglwyddadwy o'n hethol, gan y credaf y byddai'n darparu un dull o ethol ar gyfer yr holl bobl yma, yn hytrach na'r system ddwy haen sydd gennym ar hyn o bryd, sy'n gwneud cam â phawb yn fy marn i. Felly, credaf y dylai hyn fod yn ddechrau proses ac nid ei diwedd, ac edrych wedyn ar sut y gallwn wireddu dinasyddiaeth weithgar. A Lywydd, mwynheais eich rhagymadrodd i'r datganiad hwn yn fawr iawn. I mi, mae dinasyddiaeth weithgar yn ymwneud â sut y diffiniwn ein democratiaeth yn y dyfodol. Am ein bod yn wleidyddion ac wedi ein hethol, mae pawb ohonom yma yn mwynhau math 'pensel fach ar linyn' o ddemocratiaeth. Ni fydd fy mhlant yn adnabod y math hwnnw o ddemocratiaeth, ac mae'n rhaid i'n democratiaeth fod yn wahanol yn y dyfodol i'r un rydym wedi'i phrofi yn y gorffennol, ac mae hynny'n golygu dinasyddiaeth weithgar, cymryd rhan yn weithredol, nid yn unig yn y trafodaethau yn y lle hwn, ond Parliament a Senedd sy'n gallu estyn allan dros Gymru gyfan.

Felly, rwy'n croesawu'r newidiadau i'r etholfraint. Nid wyf yn rhannu'r pryderon sydd wedi'u hamlinellu mewn mannau eraill, ac rwy'n gobeithio hefyd y byddwn yn gallu ymestyn yr etholfraint ymhellach i gynnwys y rheini sy'n bwrw dedfrydau carchar cymharol fyr a'r rheini sy'n ddinasyddion o wledydd eraill ond sydd wedi gwneud eu cartref yn y wlad hon, oherwydd mae angen i ni fod yn Senedd gynhwysol yn ogystal ag un ddemocrataidd.

Felly, wrth groesawu dechrau'r ddadl hon, a chroesawu'r datganiad y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y byddwn yn edrych y tu hwnt i'r hyn y mae'r Bil yn ei ddweud, ac y byddwn yn edrych ar y math o Senedd y mae hon eisiau bod a'r math o wlad lle rydym eisiau i'n Senedd estyn allan a chreu rhywbeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

16:00

Diolch, Alun. Fe dreulioch gryn dipyn o'ch cyfraniad yn hel atgofion am eich amser yn eich 20au. Roedd yn fy atgoffa o'r amser yn eich 20au pan oeddem ein dau'n aelodau o Gyngor Tref Aberystwyth, y ddau ohonom yn ein 20au bryd hynny, y ddau ohonom ar yr un meinciau bryd hynny hefyd.

Ond wrth gwrs, Cyngor Tref Aberystwyth—. Pan gefais fy ethol yma yn 1999, mewn rhai meysydd roedd gan Gyngor Tref Aberystwyth fwy o bwerau na'r corff y cefais fy ethol iddo, y Cynulliad Cenedlaethol. A dyma ni 20 mlynedd yn ddiweddarach â chorff gwahanol iawn, sefydliad, Senedd bellach sy'n deddfu a chodi trethi. Ac rydym yn Senedd—dyna a wnawn yma ac felly dyna beth y dylem alw ein hunain. Fel y dywedasoch, mae yna Senedd yn yr Alban ac yng Nghymru. Felly, gadewch i ni alw ein hunain yn hynny yn awr.

Ar rai o'r pwyntiau y gorffennoch chi â hwy, wrth gwrs, ceir meysydd eraill ar gyfer diwygio y gallai'r Bil hwn fod wedi edrych arnynt ac a fyddai wedi edrych ar agweddau eraill ar waith adroddiad Laura McAllister ar ymestyn, cynyddu, nifer yr Aelodau sydd eu hangen arnom yn y Senedd hon, yn ogystal â newid y system etholiadau ar gyfer hynny o bosibl. Gwn eich bod chi ac eraill yn y lle hwn yn cefnogi hynny. Mae'r materion hynny yn aros gyda ni, ond pethau ar gyfer rhyw dro eto a Bil arall ydynt.

16:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Lywydd, am y datganiad heddiw. Rydym yn sylweddoli bod yna gonsensws tebygol, gyda dyfodiad pwerau trethu, y bydd enw'r ddeddfwrfa hon yn newid. Felly, nid ydym yn gwrthwynebu newid fel y cyfryw. Mae llawer o bobl wedi siarad am yr enw. Y cynnig gan y Llywydd heddiw, yn dilyn ymgynghori, yw galw'r ddeddfwrfa yn Senedd. Nawr, pan drafodasom hyn ddiwethaf, gwnaeth Llyr hefyd y pwynt a wnaeth Alun Davies yn awr am Iwerddon fel enghraifft, lle mae ganddynt yr enwau Gwyddeleg Dáil a Taoiseach mewn gwlad lle nad oes cyfradd arbennig o uchel o siaradwyr Gwyddeleg. Felly, o ystyried yr enghraifft hon, mae yna achos dros efelychu hynny yma yng Nghymru drwy ddefnyddio termau fel 'Senedd' ac 'Aelod o'r Senedd'.

Edrychais ar hanes yr enwau Gwyddeleg felly y gallwn gael mwy o oleuni ar hyn. Nawr, defnyddiwyd yr enw 'Dáil' yn gyntaf pan oedd y ddeddfwrfa Wyddelig yn cael ei sefydlu yn y 1920au cynnar. Felly, un fantais a oedd ganddynt yno oedd nad oedd yn fater o ailenwi sefydliad; câi sefydliad newydd ei greu, yn y bôn. Daeth 'Taoiseach' ychydig yn ddiweddarach. Ni chyflwynwyd hwnnw tan 1937, ond tan hynny nid oedd ganddynt Brif Weinidog fel y cyfryw; roedd ganddynt gadeirydd cyngor gweithredol. Felly, unwaith eto, roedd 'Taoiseach' yn enw ar swydd newydd. Credaf y gallai fod anawsterau yma yng Nghymru yn yr ystyr fod gennym y sefydliad hwn eisoes, ac wrth gwrs mae gennym enw ar ei gyfer eisoes, ac mae llawer o bobl yn gyfarwydd â'r termau 'Assembly' ac 'Assembly Members'. Felly, credaf fod dryswch yn mynd i fod ar y cychwyn. Wrth gwrs, gellir goresgyn y dryswch hwn, rwy'n siŵr.

Nawr, os ydym am ddewis 'Senedd', credaf fod hynny wedyn yn arwain at 'Aelod o'r Senedd', sef AS, yn hytrach nag AM. Credaf fod Lee Waters wedi codi mater y tro diwethaf—mater bach eto—y gallai hynny ddrysu gwylwyr rhaglenni Cymraeg, gan mai AS yw'r term a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer 'MPs'.

A! Ie, ac mae hynny'n wir hefyd, ond mae'n siŵr y gellir goresgyn y dryswch. Ac wrth gwrs—[Torri ar draws.] O, nid oes dryswch, o'r gorau; fe ymchwiliaf ymhellach.

Ond y pwynt yr oeddwn yn mynd i'w wneud yw hwn: pe baem yn defnyddio 'Parliament' fel arall, byddai hynny'n creu mwy o ddryswch yn ôl pob tebyg, felly credaf fod 'Senedd' yn bosibilrwydd pendant. Er y credaf na fydd newid yr enw yn y modd hwnnw hyd yn oed yn gwarantu y cawn yr orsaf reilffordd y mae Alun Davies ei heisiau yn Abertyleri.

Nawr, gostwng yr oedran pleidleisio—fel y crybwyllais o'r blaen, yn gyffredinol nid yw UKIP yn cefnogi hyn, ond wrth gwrs, rwy'n derbyn y gallai'n hawdd fod uwchfwyafrif yn y lle hwn sy'n ei gefnogi. Felly, os ydym yn gwneud y newid hwn, credaf fod angen inni sicrhau bod gennym raglen glir o addysg wleidyddol. Crybwyllwyd hynny gan nifer o bobl. Gwn fod gan y Llywydd ddiddordeb arbennig yn hyn, a gobeithio y gallwn ddefnyddio profiad y Senedd Ieuenctid i ddatblygu hynny, ac unrhyw oleuni pellach y gallwn ei gael gan wledydd fel Denmarc a Sweden, sydd wedi arloesi gyda hyn yn y gorffennol. Buaswn yn nodi un mater yn unig. Mae hyn yn cael ei gyflwyno ar gyfer etholiadau nesaf y Cynulliad, felly mae amser yn allweddol os ydym yn mynd i ddatblygu rhywbeth. Felly, gobeithio y byddwn yn cadw hynny mewn cof wrth inni fynd ymlaen. Diolch yn fawr iawn.

Diolch am eich ymateb, Gareth Bennett, ac am edrych yn ddyfnach i hanes Iwerddon ar enwi eu Senedd nag y gwnes i, er fy mod wedi gallu mynychu dathliad 100 mlynedd ers sefydlu Dáil Iwerddon ychydig wythnosau yn ôl. Rydych yn gwneud rhai pwyntiau dilys iawn ynglŷn ag agweddau sydd angen eu goresgyn gyda chyflwyno newid enw o'r Cynulliad, boed yn Senedd neu Parliament neu'r ddau. Mae'r rhain yn faterion y mae angen inni fod yn ymwybodol iawn ohonynt wrth wneud y newid hwn, oherwydd mae angen gwneud y newid gyda phobl Cymru'n deall natur y newid hwnnw.

Eisoes rydym wedi ymgynghori â phobl Cymru ac ymatebodd nifer fawr o bobl a oedd yn cydnabod ac yn cefnogi'r angen i newid yr enw o Gynulliad i Senedd, Parliament. Ond cytunaf â chi fod angen inni sicrhau y ceir rhaglen gyfan o ymgysylltiad â phobl er mwyn sicrhau eu bod yn glir iawn, erbyn y daw hyn i rym, mai enw eu sefydliad cenedlaethol gwleidyddol democrataidd yw 'Senedd' yma , nid 'Assembly'.

Yna, yn bendant iawn ar bleidlais i rai 16 a 17 mlwydd oed, deallaf fod eich plaid yn gwrthwynebu hynny mewn egwyddor, ond rwy'n gobeithio, o ystyried y modd y caiff hyn ei gyflwyno yng Nghymru—y caiff ei gyflwyno ar gyfer etholiadau cenedlaethol ac etholiadau lleol, un etholfraint, i bob unigolyn 16 a 17 mlwydd oed sy'n cymryd rhan yn y broses wleidyddol yng Nghymru, a chyda rhaglen ymgysylltu wleidyddol ddatblygedig—efallai y bydd hyd yn oed y rheini ohonoch sy'n amheus ar y pwynt hwn ynglŷn â chyflwyno pleidlais i rai 16 a 17 oed yn gweld bod y pecyn yn ei gyfanrwydd yn gallu ennyn diddordeb pobl ifanc yng Nghymru. Rydym wedi gweld ymateb hynod o frwdfrydig i sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru. Credaf y dylid manteisio ar y brwdfrydedd hwnnw. Mae'r bobl ifanc yn dweud wrthym, yn dangos inni, fod ganddynt ddiddordeb, a dylem eu galluogi felly i gael perchnogaeth ar eu democratiaeth eu hunain er mwyn i bobl ifanc, am yr 20 mlynedd a mwy nesaf, wybod y bydd ganddynt bleidlais yn y modd y gwneir penderfyniadau, a pha un a fydd Alun Davies yn cael gorsaf reilffordd yn ei etholaeth neu beidio. Mae unigolion 16 a 17 oed yn yr etholaeth honno yn haeddu llais yn hynny lawn cymaint â neb arall.

16:10

Diolch. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ni wnaf eich cadw; roeddwn am ychwanegu at y ddadl fer iawn a gawsom ar y gyfatebiaeth â Gweriniaeth Iwerddon. Oireachtas—a maddeuwch fy ynganiad—yw enw'r Senedd; mae gennych y Dáil Éireann a'r Seaned Éireann fel Siambrau o fewn y Senedd honno. Os ewch ar Google a rhoi 'Oireachtas' i mewn, mae'n dweud 'homepage of the Irish Parliament'. Nawr, nid yw Irish Parliament yn enw swyddogol o gwbl ar y Senedd, ond mae'n ddisgrifydd, a chredaf fod angen inni symud tuag at gael enw, un enw, 'Senedd', am ein Senedd genedlaethol newydd, ond mae angen y ddeddfwriaeth hon arnom hefyd, wrth gwrs, i ddisgrifio ein newid ar y daith honno o fod yn Gynulliad, a oedd yn derm a oedd yn ein rhoi ar lefel is na Senedd yr Alban. Mae angen y ddeddfwriaeth hon i fynd â ni ar y daith i fod yn Senedd. Felly, credaf fod angen 'Senedd' fel enw, mae arnom angen ffordd drwy'r ddeddfwriaeth hon i gael 'Parliament' yno fel disgrifydd, ac edrychaf ymlaen at ein gweld yn defnyddio hyn fel cam i sefydlu ein hunain hyd yn oed ymhellach yng nghalonnau a meddyliau pobl Cymru dros ein 20 mlynedd nesaf a thu hwnt.

Diolch, Rhun—diolch ichi am ganiatáu cyfle i mi gau yn awr, mae'n debyg, drwy ddweud bod y Bil yn ailenwi'r Cynulliad Cenedlaethol yn 'Senedd' yn swyddogol, ond mae'n caniatáu ar wyneb y Bil i 'Senedd' gael ei ddisgrifio fel 'Welsh Parliament'. Dyna beth fydd, beth ydyw, beth ydym—'Welsh Parliament'—ond ein henw swyddogol fydd y Senedd. Ond dechrau'r ddeddfwriaeth yw hyn. Mae'n cael ei chyflwyno ar y pwynt hwn a bydd y pwyllgorau a'r Cynulliad—Senedd—yn ei gyfanrwydd yn craffu ar hynny a bydd ganddynt safbwyntiau gwahanol ar ble y byddwn yn y pen draw ar ddiwedd y Bil hwn. Ond diolch i chi am y cyfle i gyflwyno'r Bil hwn, ac edrychaf ymlaen at fynd gerbron y pwyllgor o bobl o ewyllys da i graffu ar y ddeddfwriaeth hon ymhellach.

Diolch yn fawr iawn. Credaf ei bod yn bwysig ein bod wedi ymestyn yr amser ar hynny, fel y gwnaethom ar y rhan fwyaf o'r teithiau cyfansoddiadol y mae rhai ohonom wedi bod arnynt ers 1999. Felly, dyna ni.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18

Eitem 6, felly, yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18, a galwaf ar gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Nick Ramsay.

Cynnig NDM6965 Nick Ramsay

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18—a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n drueni ein bod, ychydig dros 18 mis er pan oeddwn yn sefyll yma yn y Siambr yn datgan pryderon ynglŷn â materion ynghylch afreoleidd-dra yn nhrefniadau llywodraethu a gweinyddu Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dilyn cymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16—wel, dyma ni eto, yn dilyn cymhwyso cyfrifon 2017-18 oherwydd yr un materion ynghylch afreoleidd-dra mewn perthynas â chontractau trosiannol newydd. Mae'r pwyllgor yn teimlo fel pe bai mewn rhyw fath o gylch diddiwedd wrth inni archwilio ac ail-archwilio nifer o faterion sy'n peri pryder mewn perthynas â dyfarnu contractau pren gan Cyfoeth Naturiol Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yn ôl ym mis Mawrth 2017, gosododd Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y pryd adroddiad ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru gerbron y Cynulliad a nodai ei resymau dros gymhwyso barn reoleiddiol 2015-16 ar ddatganiadau ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyfeiriodd yr adroddiad at benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i ddyfarnu wyth contract gwerthu pren gwerth uchel i weithredwr melin lifio ym mis Mai 2014. Fel pwyllgor, cynaliasom ymchwiliad i'r materion hyn a chyhoeddi adroddiad ym mis Mehefin 2017 a ddaeth i'r casgliad:

'y gallai ac y dylai CNC fod wedi sicrhau bod llywodraethu da ar waith yn ei broses gontractio, ac o fethu â sefydlu trefniadau llywodraethu effeithiol, ni allai
ddangos ei fod wedi gweithredu'n gyfreithlon a bod y contractau a ddyfarnwyd yn cynrychioli gwerth am arian.'

Roeddem hefyd yn argymell ar y pryd y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru

'[g]ynnal gwerthusiad llawn o'i drefniadau llywodraethu mewn perthynas â phrosesau contractio, gan amlinellu’n glir y gwersi a ddysgwyd'.

Nawr, gwibiwch ymlaen i 2018, ac mae'r pwyllgor yn ôl yn yr un sefyllfa, wedi i'r Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y pryd gymhwyso datganiadau ariannol 2017-18 Cyfoeth Naturiol Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac am yr un rhesymau'n union. Roeddem yn hynod o siomedig, er gwaethaf canfyddiadau adroddiadau blaenorol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch ymagwedd Cyfoeth Naturiol Cymru tuag at drafodion gwerthu pren, fod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u cymhwyso am y drydedd flwyddyn yn olynol. Arweiniodd hyn at gyhoeddi adroddiad pellach gennym ym mis Tachwedd y llynedd, lle roeddem unwaith eto'n nodi nifer o faterion a oedd yn peri pryder mewn perthynas â dyfarnu'r contractau pren hyn, gyda nifer ohonynt yn dal heb eu hesbonio.

Nid yn lleiaf, testun dryswch i ni oedd bod y penderfyniad—wrth ddyfarnu'r contractau hyn—i ddilyn proses y tu allan i'r rheolau caffael wedi'i wneud yn erbyn cefndir yr adroddiad deifiol gan yr archwilydd cyffredinol a oedd yn lleisio pryderon am y math penodol hwnnw o broses. Yn wir, cofiaf Aelodau'r pwyllgor, ac un Aelod yn benodol, yn cyfeirio at hyn fel trosedd a gyflawnwyd ddwywaith, cymaint oedd pryder y pwyllgor ar y pryd. Awgrymwyd i'r pwyllgor fod methiant diwylliannol wedi bod o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â gweithdrefnau llywodraethu, a bod angen ailwampio difrifol.

Ni allem ond dod i'r casgliad fod pryderon blaenorol wedi'u diystyru, ac roedd yn ymddangos bod y penderfyniadau a ddilynodd yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn afresymegol. Roedd y rhain yn benderfyniadau a wnaethpwyd gan staff profiadol, ac mae'n anodd gweld y camau hyn fel canlyniad i anallu. Ni allwn ond dod i'r casgliad na fyddwn byth yn llwyr ddeall, neu'n cael esboniad iawn am yr hyn a ddigwyddodd yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Dylwn ychwanegu ar y pwynt hwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael prif weithredwr newydd o fis Chwefror 2018, a bod cadeirydd dros dro wedi bod yn ei swydd ers 1 Tachwedd 2018 am gyfnod o 12 mis. Gyda'i gilydd, maent wedi datgan eu hymrwymiad i newid Cyfoeth Naturiol Cymru i fod yr hyn y mae'n anelu i fod. Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2018-19 fydd y cyfrifon cyflawn cyntaf a fydd yn llwyr o dan eu goruchwyliaeth hwy, felly digwyddodd unrhyw gymhwyso blaenorol cyn iddynt gael eu penodi. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig gwneud y pwynt hwnnw.

Gan symud ymlaen, roeddem yn croesawu ac yn parchu penderfyniad y prif weithredwr newydd i gomisiynu adolygiad annibynnol llawn o'r materion a godwyd yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar ddatganiadau ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18. Cyflawnwyd yr adolygiad gan yr archwilwyr annibynnol Grant Thornton ac ar gais prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, roedd yr ymchwiliad i fod yn gwbl drylwyr er mwyn datgelu'r methiannau o fewn y sefydliad yn llawn a sicrhau bod diwygio'n digwydd drwyddo draw.

Cyhoeddwyd canfyddiadau'r adolygiad ar 4 Chwefror eleni a chawsant eu hystyried gennym ar 11 Chwefror. Mae adolygiad Grant Thornton yn peri pryder pellach gan ei fod yn mynd ati'n fwy manwl i archwilio'r materion a godwyd mewn adroddiadau blaenorol ar drafodion gwerthu pren Cyfoeth Naturiol Cymru. Fodd bynnag, ni ddatgelodd yr adroddiad unrhyw beth annisgwyl, nac unrhyw beth newydd yn wir, ond roedd yn codi cwestiynau pellach ynghylch pryd y gwelwn newid yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn bwysicach: a yw'r materion sy'n ymwneud â gwerthiannau pren wedi'u cyfyngu i is-adran coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, neu a yw'r rhain yn adlewyrchu diffyg sylfaenol yn y diwylliant sefydliadol? Mae adroddiad Grant Thornton yn amlygu'r angen am un diwylliant sefydliadol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae llawer o wersi i'r sefydliad cyfan eu dysgu o hyn.

Mae'n anffodus fod uno'r tri sefydliad yn un wedi gadael gwaddol o wahaniaethau diwylliannol dwfn na chawsant eu datrys erioed. Fodd bynnag, rydym yn croesawu'r ymrwymiad a roddwyd i ni gan brif weithredwr a chadeirydd newydd y bwrdd fod gwaith yn mynd rhagddo ar ad-drefnu'r sefydliad drwyddo draw, a newid tuag at sefydliad sy'n fwy seiliedig ar le y gobeithir y bydd yn ei uno'n fwy trylwyr.

Nawr, rydym wedi gwrando ar y prif weithredwr a chadeirydd y bwrdd yn rhoi sicrwydd fod adolygiad Grant Thornton wedi mynd i graidd problemau Cyfoeth Naturiol Cymru, a bydd yn fan cychwyn ar gyfer ailadeiladu sylfaenol. Fodd bynnag, rydym yn parhau'n bryderus na oes gan aelodaeth y bwrdd ddigon o wybodaeth am y sector pren—pwynt a wnaed gan Adam Price yn ystod y cwestiynau ddoe—y credwn fod ei angen yn ddirfawr er mwyn darparu'r mewnwelediad hanfodol a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol i ymdrin â phroblemau Cyfoeth Naturiol Cymru, ac i chwalu'r rhaniadau diwylliannol drwy ddarparu cyswllt hanfodol rhwng y bwrdd a'r is-adran goedwigaeth. Rydym yn parhau'n bryderus ynglŷn ag i ba raddau y mae gan y bwrdd y gymysgedd gywir o sgiliau a gallu sydd eu hangen arno i drawsnewid y sefydliad.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r archwilydd cyffredinol, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn olaf ac yn fwy diweddar, Grant Thornton, wedi craffu ar ddigwyddiadau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru mewn modd fforensig, gan amlygu nifer o ddiffygion sylfaenol ac amheuon o'r radd fwyaf, a diolch i'r prif weithredwr presennol, mewn gwirionedd, fod yr adolygiad hwnnw wedi'i gomisiynu yn y ffordd y gwnaethpwyd. Ond mae un cwestiwn yn aros: lle mae Llywodraeth Cymru wedi bod drwy gydol y broses hon? Pe bai hwn yn fwrdd iechyd, efallai y byddem wedi gweld y sefydliad yn cael ei wneud yn destun mesurau arbennig fel mater o frys, ac eto am y tair blynedd diwethaf, fwy neu lai, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi parhau i weithredu allan o reolaeth er i'w gyfrifon gael eu cymhwyso dair blynedd yn olynol ac er i'w drefniadau llywodraethu gael eu tanseilio'n llwyr a'u cwestiynu, heb sôn am y miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus a gamreolwyd.

Pan sefais yn y Siambr hon fis Gorffennaf diwethaf i fynegi pryderon difrifol am Cyfoeth Naturiol Cymru, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, fel oedd y teitl bryd hynny yn falch fod Cyfoeth Naturiol Cymru, mewn ymateb i gymhwyso cyfrifon 2015-16, wedi cyfaddef, wrth edrych yn ôl, y byddent wedi ymdrin â phethau mewn ffordd wahanol. Ychwanegodd y Gweinidog fod yr argymhellion yn ein hadroddiad 2017 yn fater ar gyfer y swyddog cyfrifyddu a bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn bennaf. Fe'i sicrhawyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi sefydlu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r materion a godwyd gan yr archwilydd cyffredinol, ac mai rôl Llywodraeth Cymru fyddai cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru yn y gwaith yr oedd angen iddynt ei wneud er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau cadarn yn eu lle ar gyfer y dyfodol.

Dywedwyd wrthym hefyd fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer cyrff hyd braich yng Nghymru, a bod Cyfoeth Naturiol Cymru, fel corff hyd braich, yn cael ei lywodraethu gan gytundeb fframwaith cadarn sy'n adlewyrchu'r egwyddorion a nodwyd yn 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru'.

Yn ystod ein gwaith craffu cychwynnol, gofynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru am ddiffiniad manylach o'r termau 'newydd', 'dadleuol', ac 'yn arwain at sgil effeithiau' yn eu fframwaith llywodraethu presennol. Gwnaethpwyd y cais hwn yn benodol i fynd i'r afael ag argymhelliad yr archwilydd cyffredinol fod y contractau pren yn newydd, yn ddadleuol ac yn arwain at sgil effeithiau, ac felly y dylent fod wedi cyflwyno eu cynigion i'r adran yn Llywodraeth Cymru sy'n noddi'r corff yn unol â'r fframwaith llywodraethu presennol. Dywedwyd wrth y Siambr hon, fel rhan o'r adolygiad presennol o gyrff hyd braich, y rhoddir ystyriaeth i ddarparu mwy o eglurder ynghylch y materion hyn.

Fodd bynnag, er gwaethaf hyn i gyd, ychydig sydd wedi newid, mae'n ymddangos, gan arwain at gymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18, gyda'r archwilydd cyffredinol yn seilio'i farn gymhwyso ar gynnig Cyfoeth Naturiol Cymru i ymrwymo i gontractau trosiannol yr ystyriai eu bod yn newydd, yn ddadleuol a/neu'n arwain at sgil effeithiau. Er bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi hysbysu Llywodraeth Cymru ynglŷn â'i fwriad i gyflwyno trefniadau trosiannol, mae'n destun pryder na chawsant eu cyfeirio'n ffurfiol ganddo at Lywodraeth Cymru yn ôl y gofyn. Ymddengys na weithiodd ymagwedd ymddangosadol hyd brach Llywodraeth Cymru yn yr achos hwn, ac er cael sicrwydd ar ôl sicrwydd, nid oes dim wedi newid gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

I wneud pethau'n waeth, amlygodd adolygiad Grant Thornton y ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno ffurflen gontract newydd a gwahanol, gwerthiannau sefydlog plws, yn ystod 2016, sy'n codi pryderon difrifol iawn ynghylch cyflwyno, monitro a rhoi cyfrif am y contractau newydd hyn. Mae'r contractau hyn yn anarferol, a chredwn eu bod yn creu goblygiadau posibl mewn perthynas â barn yr archwilydd cyffredinol ar reoleidd-dra cyfrifon blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2018-19. Mae'r contractau'n berthnasol i oddeutu un rhan o chwech o werthiannau pren blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n naturiol ein bod yn poeni bod hyn yn golygu bod yna risg bosibl y bydd cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cymhwyso am bedwaredd flwyddyn yn olynol. Nawr, does bosib nad yw'n bryd i Lywodraeth Cymru roi camau mwy cadarnhaol ar waith i gefnogi ac i fynd i'r afael â phroblemau Cyfoeth Naturiol Cymru.

Hefyd, drwy ei waith, mae'r pwyllgor wedi ystyried adolygiad mewnol Llywodraeth Cymru o'r trefniadau'n ymwneud â chyrff hyd braich, a arweiniodd at gynllun gweithredu a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2018. Cawsom ohebiaeth hefyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol i'r pwyllgor yn ôl ym mis Medi y llynedd a ddarparai ragor o wybodaeth ar yr adolygiad, ymysg trefniadau newydd eraill sydd ar y gweill. Mae'r llythyr yn nodi, ac rwy'n dyfynnu:

Cael gwared ar y 'Gweithdrefnau Galw i Mewn' h.y. gofyniad i'n Cyrff Hyd Braich atgyfeirio atom am gymeradwyaeth ar gyfer categorïau penodol o benderfyniadau, megis tendrau unigol uwchlaw trothwy penodedig neu faterion sy'n newydd ac yn ddadleuol.

Rydym wedi cwestiynu Llywodraeth Cymru ymhellach ynghylch cael gwared ar y weithdrefn galw i mewn a sut y byddai materion megis y rhai a ddigwyddodd o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu nodi yn y dyfodol. Dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol wrthym, ac unwaith eto, rwy'n dyfynnu:

mai dyna oedd un o ganlyniadau cadarnhaol yr adolygiad o gyrff hyd braich, i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi arweiniad clir iawn a mwy o gefnogaeth iddynt. Rydym yn cyfathrebu'n fwy rheolaidd â hwy, rydym yn nodi canllawiau clir iawn ynghylch disgwyliadau sydd gennym, ac fel y dywedais, yn dod â hwy ynghyd dair gwaith y flwyddyn ar gyfer y fforwm hwn er mwyn trafod blaenoriaethau a rhannu arferion gorau, yn y bôn, o ran sut y gallwn reoli arian cyhoeddus yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn symud tuag at system o roi mwy o annibyniaeth i gyrff hyd braich ar adeg pan fo un o'i chyrff mwyaf mewn cyfyngder, ac wedi methu rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am broblemau difrifol, neu ar y gorau, wedi methu glynu at reolau a gweithdrefnau llywodraethu. Teimlwn y bydd y dull newydd hwn o weithredu yn lleihau'r cyfleoedd i ddarparu sicrwydd angenrheidiol ynghylch gweithredoedd cyrff hyd braich.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, rhaid aros i weld beth sy'n digwydd nesaf i Cyfoeth Naturiol Cymru o dan ei arweinyddiaeth newydd, ond mae'n amlwg fod pryderon difrifol o hyd ynghylch trefniadau llywodraethu mewnol Cyfoeth Naturiol Cymru a'r modd y mae'n gweithredu fel sefydliad. Nid yw'n glir eto i unrhyw un sut y caiff newid ei gyflwyno, ac mae'r dasg o'u blaenau'n aruthrol, ond mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru yr holl offer sydd ei angen arno bellach i wneud y gwaith o drawsnewid y sefydliad, a darparu'r gwasanaethau y mae pobl Cymru yn eu haeddu. Byddwn yn rhoi'r amser a'r lle sydd ei angen arnynt yn awr i'r sefydliad a'i arweinwyr allu cyflawni newid, ond byddwn yn gofyn am ddiweddariad ar ddiwedd y flwyddyn.

16:25

Dengys yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ei fod yn sefydliad nad yw'n addas at y diben. Cyfoeth Naturiol Cymru yw cwango mwyaf Cymru. Mae'n gyfrifol am unrhyw beth o ddiogelu cynefinoedd a bywyd gwyllt, coetiroedd, monitro ansawdd dŵr a pherygl llifogydd i reoleiddio gorsafoedd pŵer a safleoedd prosesu gwastraff. Fel y dywedodd Nick Ramsay yn gynharach, mae'n ddigynsail ac yn annerbyniol fod sefydliad mor bwysig wedi cael ei gyfrifon wedi'u cymhwyso am dair blynedd yn olynol. Ac mae'n dangos pa mor ddall y gall un Lywodraeth fod.

Roedd y pwyllgor yn ei chael h'n anodd dod o hyd i unrhyw esboniad rhesymegol pam y caniataodd Cyfoeth Naturiol Cymru i'r sefyllfa hon godi. Ni allech ond dod i'r casgliad nad oedd eu mesurau rheoli mewnol yn addas at y diben, neu eu bod yn israddol yn bendant. Yr hyn sy'n peri pryder arbennig yw bod yr un materion ynghylch afreoleidd-dra wedi cael sylw dair blynedd yn ôl. Ar y pryd, mynegodd yr archwilydd cyffredinol bryder nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru i'w gweld yn derbyn yn llwyr ei feirniadaeth o'u gweithredu mewn perthynas â dyfarnu contractau hirdymor a'u bod yn ceisio bychanu arwyddocâd y feirniadaeth honno. Dangosir hyn gan y dadlau ynglŷn â sut y câi pren ei werthu, dro ar ôl tro, heb fynd i farchnad agored. Anwybyddwyd y rheolau masnachu teg yn gyfan gwbl yn yr achos hwn. Arweiniodd y sgandal at golli o leiaf £1 filiwn i drethdalwyr Cymru ac at ymddiswyddiad cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru—sefyllfa a ddisgrifiwyd gan un Aelod Llafur o'r Cynulliad ar y pryd, a dyma'i ddyfyniad:

mae angen atebolrwydd gan uwch-arweinwyr y sefydliad hwn sydd i'w weld fel pe bai allan o reolaeth.

Gwelwyd colli ffydd ar raddfa eang o ganlyniad i hynny yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn ddiweddar, anfonodd deg o gwmnïau pren lythyr ar y cyd at Lywodraeth Cymru yn dweud nad oedd ganddynt hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli coedwigaeth yng Nghymru. Roeddent yn honni bod 12,000 o swyddi yn yr economi wledig a £100 miliwn o fuddsoddiad newydd dros y pum mlynedd nesaf mewn perygl. Roedd y cwmnïau hyn wedi dod i'r casgliad nad oedd ganddynt hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu gwasanaeth masnachol hyfyw, cynaliadwy ac wedi'i lywio gan egwyddorion economaidd.

Mae'n ymddangos bod y diffyg hyder hwn yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei adlewyrchu yn agwedd ei staff. Cafodd canlyniad ymarfer ymgynghori i staff mewnol ar ailstrwythuro'r sefydliad ei ryddhau'n answyddogol i'r BBC ym mis Rhagfyr y llynedd. Roedd bron ddwy ran o dair o staff Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Ddirprwy Lywydd, o'r rhain, roedd 62 y cant yn cytuno bod angen newid ond yn gryf yn erbyn y cynllun ac yn hynod feirniadol o'r broses. Mynegwyd pryderon hefyd na fyddai'r strwythur newydd yn darparu gwasanaeth addas ar gyfer pobl ac amgylchedd Cymru. Byddai'r arbenigedd wedi'i daenu'n rhy denau a soniai'r staff am y lefelau straen uchel gyda phobl yn teimlo nad oeddent yn cael eu gwerthfawrogi'n llawn, a'u bod yn ddiwerth. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud cam â phobl Cymru mewn ffordd systematig. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud yn glir y byddem yn cael gwared ar Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn creu dau gorff ar wahân yn ei le: un i ymdrin â dyletswyddau rheoleiddio a gyflawnir gan y sefydliad a'r llall i ymdrin â'i agweddau masnachol. Gallwn i gyd gytuno na ellir caniatáu i'r sefyllfa bresennol barhau.

Mae'r pwyllgor wedi gwneud tri argymhelliad. Derbyniwyd tri gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Dyma'r cyfle olaf i Cyfoeth Naturiol Cymru. Dyma eu cyfle olaf i wneud y newidiadau sydd eu hangen i gyflawni gwerth am arian i'r trethdalwr ac i sicrhau amddiffyniad effeithlon ac effeithiol i'r amgylchedd yng Nghymru a rhoi ffydd arian cyhoeddus mewn sefydliad. Diolch.

16:30

Dwi’n diolch i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am ei adroddiad. I fi, mae e’n codi dau gwestiwn llawer mwy sylfaenol, efallai, na rhai o’r manylion rŷn ni wedi bod yn eu trafod. Mae’r ddau yn gwestiynau—un yn ymwneud, wrth gwrs, â sgôp cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r llall yn ymwneud â gallu neu gapasiti Cyfoeth Naturiol Cymru i ddelifro’r cyfrifoldebau hynny.

Nawr, mae sgôp y cyfrifoldebau wrth gwrs yn rhywbeth rŷn ni wedi ei wyntyllu o’r dyddiau cynnar cyn creu Cyfoeth Naturiol Cymru. Hynny yw, gallu’r corff neu beidio i chwarae rôl fasnachol a rôl reoleiddiol ar yr un pryd. Dwi’n cofio’r term Chinese walls yn cael ei ddefnyddio’n amlach fan hyn nag yn unlle arall ar un adeg pan oedd y drafodaeth honno yn digwydd. Ac mae yna nifer o leisiau o’r dyddiau hynny hyd nawr wedi bod yn cwestiynu a ydy hynny yn addas, ac un eto yn y Western Mail y bore yma—John Owen Jones, cyn-Weinidog yn Swyddfa Cymru, neu'r Swyddfa Gymreig fel yr oedd hi, a chadeirydd olaf y Comisiwn Coedwigaeth yma yng Nghymru—yn disgrifio creu Cyfoeth Naturiol Cymru fel enghraifft glasurol o wneud polisi sâl, a dim digon o drafod â’r sector coedwigaeth, meddai fe, wrth i’r ymrwymiadau maniffesto gael eu gwneud. Wel, ŷch chi’n gwybod, rwy’n gwybod bod yna wahaniaeth barn, ond mae’n dweud rhywbeth pan ŷn ni’n dod i bwynt, fel y gwnaethon ni’r mis diwethaf, pan oedd Confor, ar ran y sector, yn datgan diffyg hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i ddelifro ei waith fel y bydden ni am weld iddyn nhw ei wneud.

Ac, wrth gwrs, mae’r datganiad o ddiffyg hyder hwnnw’n arwyddocaol iawn, fel rŷn ni wedi clywed. Maen nhw’n cyflogi’n uniongyrchol 4,000 o bobl, yn anuniongyrchol yn cefnogi 12,000 o swyddi yn yr economi wledig, ac yn cyfrannu £40 miliwn o refeniw gwerthiant coed i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Mae’r sector yn galw am gymryd yr elfen goedwigaeth fasnachol yna oddi ar Gyfoeth Naturiol Cymru a chreu endid ar wahân o fewn Llywodraeth Cymru. I fi, mae hynny’n ddigon inni ofyn y cwestiwn, inni gymryd cam yn ôl, ac inni edrych—ydy hi felly yn werth inni gael rhyw fath o ymchwiliad annibynnol? A does dim eisiau inni fod ofn gwneud hynny. Mae’n berffaith ddilys inni ofyn y cwestiwn. Bum mlynedd i mewn i fodolaeth y corff yma, oes yna wersi y dylen ni fod yn eu dysgu ac a ddylen ni fod yn ailedrych ar eu cyfrifoldebau nhw? Ac os ydy’r ymchwiliad yn canfod bod angen newid, wel mae yna le i ymchwiliad hefyd awgrymu modelau amgen. Neu os oes yna ganfyddiad ei fod e yn dderbyniol, wel, wrth gwrs, wedyn mae angen adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi cychwyn—a dwi’n cydnabod hynny o ran Cyfoeth Naturiol Cymru—i ailadeiladu perthynas â’r sector.

Felly, dyna ni gyffwrdd â sgôp y cyfrifoldebau. Wedyn, wrth gwrs, mae’r isiw parhaol yma o gapasiti Cyfoeth Naturiol Cymru i ddelifro cyfrifoldebau yn y maes yma. Mae wedi cael, fel corff, toriad o 35 y cant i ariannu, mewn termau real, ers cael ei sefydlu: traean o’i gyllideb—y non-flood grant in aid, os dwi’n cofio’n iawn, yw’r term—wedi cael ei golli mewn cwta pum mlynedd. Ac, wrth gwrs, ar yr un pryd, rŷn ni wedi gweld cyfrifoldebau yn cynyddu trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, trwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, trwy ehangu'r rheoliadau yn ymwneud â’r reservoirs yng Nghymru, sydd yn dod â chostau sylweddol, heb sôn am Brexit a’r rhyferthwy fydd yn wynebu Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cyd-destun hynny. Ac maen nhw ar trajectory cwbl anghynaladwy, rhwng cyllideb a chyfrifoldebau—cyfrifoldebau yn ehangu, cyllidebau yn crebachu. Dyw e ddim yn gweithio, dyw e ddim yn gynaliadwy.

Nawr, mae dyraniad y cymorth grant nad yw ar gyfer llifogydd gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng 5 y cant yn y flwyddyn ariannol hon, a dilynodd hynny—[Torri ar draws.] O, ewch ymlaen.

16:35

Mewn gwirionedd, mae'n 3.7 y cant. Gwelsom hynny yn y pwyllgor amgylchedd heddiw.

Wel, rwy'n dyfynnu ffigur y pwyllgor amgylchedd y bore yma. Mae i lawr 5 y cant yn y flwyddyn ariannol gyfredol hon, nid yn y flwyddyn ariannol nesaf. Dyna lle rydym yn gwahaniaethu ar y ffigur hwnnw. Ond mae hynny'n erbyn setliad gwastad y llynedd hefyd—dyna ni, rydych wedi fy nrysu i nawr hefyd—y flwyddyn ddiwethaf. Felly, gwyddom yn union beth yw'r sefyllfa. Ac mae'r anawsterau hynny bellach yn cael eu rheoli, wrth gwrs, drwy ostyngiadau parhaus yn y costau gweithredu, mae wedi gweld cynllun ailwerthuso swyddi sydd wedi arwain at 50 yn llai o staff ac wrth gwrs, gwelsom yr adolygiad cyfan o’r sefydliad yn digwydd mor fuan wedi i'r holl ad-drefnu ddigwydd, gallwn ddweud, a fydd yn golygu y caiff gwasanaethau eu hailgyflunio yn y ffordd y cânt eu darparu. Bydd rhai gwasanaethau yn gweld darpariaeth arafach ac ni chaiff rhai eu darparu o gwbl. Ac mae un cwestiwn arall sylfaenol i Lywodraeth Cymru i orffen: mae'n rhaid ichi benderfynu, a ydych chi wir eisiau sefydliad sy'n gweithredu'n briodol, sy'n cael ei ariannu'n briodol sy'n hyrwyddo ac yn cynorthwyo i sicrhau cynaliadwyedd yng Nghymru, neu a fydd yn brin o'r adnoddau sydd eu hangen arno i wneud ei waith? Ac yn hyn oll, cofiwch am y staff, ased mwyaf y sefydliad—maent yn gwneud gwyrthiau mewn amgylchiadau anodd tu hwnt.

Rwy'n gwybod bod llawer o bobl yn dweud bod uno'r tri sefydliad yn rhwym o fethu, ond nid wyf yn un o'r bobl hynny; nid wyf yn cytuno â John Owen Jones. Yn wir, rwy'n credu bod y ffordd y cafodd ei wneud yn amlwg yn rhywbeth y mae angen i ni ddysgu oddi wrtho, ond mewn gwirionedd, mae cryfder mawr mewn dod â gwahanol swyddogaethau'r corff amgylcheddol hwn at ei gilydd mewn un sefydliad, ac rwy'n gobeithio ei fod yn mynd i weithio yn awr.

Y rheswm pam y credaf fod angen iddynt fod mewn un sefydliad yw bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol inni edrych ar ein holl gyfrifoldebau amrywiol yn gyfannol fel ein bod yn deall am liniaru newid hinsawdd, ein bod yn deall sut y gallwn ddefnyddio ein coedwigoedd i weithredu fel sinc carbon, yn ogystal ag ar gyfer bioamrywiaeth, yn ogystal â chreu digon o bren i adeiladu tai priodol yn amgylcheddol y bydd eu hangen arnom yn y dyfodol, er enghraifft, yn ogystal â manteisio ar y nwyddau cyhoeddus gwych y cawsom ein bendithio â hwy yng Nghymru, sef drwy ynni adnewyddadwy, sy'n ein galluogi i leihau unrhyw ddibyniaeth ar garbon ar gyfer cynhyrchu ynni. Gallem hefyd ddefnyddio hwnnw fel rhywbeth i’w allforio. Felly, credaf fod yna bosibiliadau mawr i Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â heriau, yn amlwg, i unioni'r camgymeriadau a wnaethpwyd yn y gorffennol.

Yn amlwg, roedd trefniadau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwbl annigonol, a dyna un o'r pethau lle rwy'n meddwl y bydd angen inni fyfyrio o ddifrif ar sut yr oedd gennym fwrdd nad oeddent yn deall yn union beth oedd eu gwaith. Rwy'n falch o ddweud bod yr archwiliad mewnol a'r pwyllgor sicrhau risg wedi gwneud adolygiad a oedd yn hynod o boenus, rwy'n siŵr, o’r modd y gwnaethant weithredu, neu na wnaethant weithredu, a chredaf fod rhywfaint o dystiolaeth nad oeddent wedi cael y wybodaeth oedd ei hangen arnynt, ond nid oedd ganddynt unrhyw synnwyr o ymchwiliad i dreiddio ychydig yn ddyfnach chwaith, yn hytrach na chymryd pethau fel yr oeddent ar yr wyneb.

Mae ganddynt gadeirydd newydd ar y pwyllgor archwilio a sicrhau risg bellach, a theimlaf yn sicr fod y grŵp o bobl sydd wedi wedi'u dwyn ynghyd ar lefel uchel iawn i oruchwylio lefel y newid sy'n ofynnol i sicrhau nad yw'r contractau pren hyn byth yn cael eu cynnwys mewn ffordd amhriodol yn y dyfodol yn mynd i fynd at wraidd hynny. Ond cytunaf fod angen inni edrych ymlaen i wneud yn siŵr nad oes problemau'n codi mewn cyfeiriad gwahanol am ein bod wedi datrys y ffordd rydym yn rheoli ein hasedau pren.

Gwn fod nifer o bobl yn dweud—. Dywedodd Nick Ramsay, 'Wel, efallai eu bod angen arbenigwr ar bren ar y bwrdd.' Wel, nid wyf yn siŵr eu bod, oherwydd pe bai gennych arbenigwr ar bren ar y bwrdd, byddai marc cwestiwn ar unwaith ynglŷn â'r posibilrwydd o fuddiant personol i achosi gwrthdaro. Pe baent yn rhywun a fyddai wedi dod o gyfandir arall gyda phrofiad o gontractau pren, efallai, cyn belled â'u bod bellach wedi gadael y busnes. Ond credaf y byddai rhywun sydd â phrofiad o osod contractau mawr yr un mor bwysig. Nid oes ots mewn gwirionedd beth yw'r cynnyrch, mae'n ymwneud â gwybod bod gennych arbenigedd cyfreithiol ac ariannol i ddeall gwerth beth bynnag y ceisiwch ei fasnachu a sicrhau y gwneir hynny mewn ffordd sy'n bodloni ein rhwymedigaethau o dan reoliadau Ewropeaidd, yn ogystal â beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol inni ei wneud.

Felly, ar y lefel sylfaenol, buaswn yn cytuno bod yna lawer o bobl wych yn rheng flaen Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gwneud gwaith gwych, ac nid oes ond rhaid i chi gofio'r mannau yr ymwelsom â hwy lle y cyfarfuom â'r bobl ar lawr gwlad sy'n hynod o frwdfrydig ynglŷn â'r hyn y maent yn ei wneud. Ar ôl treulio llawer o amser gydag uwch-arweinwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos hon, yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y bore yma, rwy'n credu bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen i drawsnewid y sefyllfa hon a'i gwneud yn llwyddiant. Felly, nid wyf yn meddwl bod angen ymchwiliad annibynnol ar hyn o bryd. Pe baent yn methu, yn amlwg, gallai hynny fod yn fater gwahanol, ond mae gennyf hyder yn y prif weithredwr presennol a'r cadeirydd, ar ôl eu gweld yn gweithredu, yn ogystal â'r cyfarwyddwr adnoddau a oedd gyda ni yn y bore yma. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn edrych ymlaen at yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yn sefydliad pwysig tu hwnt ar gyfer sicrhau y gall Cymru fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n deillio o'n hadnoddau naturiol gwych ac nid eu gweld yn cael eu gwastraffu.

16:40

Wel, yn sicr mae'r adroddiad hwn gan y pwyllgor ac yn wir, yr adroddiad Grant Thornton dilynol ac adroddiadau blaenorol gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi datgelu—sut mae dweud—methiant systemig, mewn gwirionedd, o safbwynt rheolau cyffredin llywodraethu ac archwilio, ac arweinyddiaeth yn fwy cyffredinol, rwy'n credu, ac mae yna broblemau o ran capasiti yn ogystal, fel y dywedodd Llyr Gruffydd. Ond credaf eu bod hefyd wedi dangos sector sydd mewn argyfwng dybryd. Credaf fod rhai o wreiddiau'r argyfwng hwnnw'n gorwedd—neu wedi bod, ar sail y dystiolaeth—yn y trefniadau uno hyd yn hyn. A buaswn yn anghytuno bod arbenigedd pwnc ar y bwrdd yn amherthnasol, oherwydd byddai'n anodd dychmygu, er enghraifft, yn nyddiau'r Comisiwn Coedwigaeth, neu yn wir yn y Comisiwn Coedwigaeth yn Lloegr a'r Alban yn awr, nad oes yno gomisiynwyr coedwigaeth sy'n gwybod rhywbeth am goedwigaeth. Oes, mae gennych sgiliau eraill yno, ond yn sicr byddai gennych bob amser bobl a oedd yn meddu ar wybodaeth ddofn yn y maes. Ac yna mae'r problemau gyda gwrthdaro buddiannau'n cael sylw yn hynny o beth, fel y maent ym mhob sector neu achos arall. [Torri ar draws.] Iawn.

Ond does bosib na allwch gael yr arbenigedd hwnnw drwy gyfarwyddwr coedwigaeth neu gyfarwyddwr rheoli tir, sy'n swyddog gweithredol yn hytrach na pherson anweithredol y mae angen iddo gyflwyno sgiliau ehangach.

Rwy'n anghytuno. Ym mhob achos, mae angen i aelodau anweithredol hefyd allu gofyn cwestiynau da er mwyn cyflawni eu swyddogaeth her feirniadol, ac o sylfaen wybodaeth yn unig y gallant wneud hynny, ac mae hynny wedi bod yn brin yn yr achos hwn.

Mae'n sector pwysig yn economaidd. Mae'n fwy mewn gwirionedd o ran gwerth ychwanegol nag amaethyddiaeth ac yn wir, o ran yr economi wledig, mae ei bwysigrwydd hyd yn oed yn fwy arwyddocaol. O ran lleihau newid yn yr hinsawdd, mae'n gwbl ganolog, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod ymestyn ei tharged, wrth gwrs, mewn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, i 4,000 hectar. Fel y nodais mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, mae hwn yn un o'r meysydd perfformiad gwaethaf yn erbyn unrhyw darged Llywodraeth. Felly, roedd y targed yn golygu plannu 2,000 hectar y flwyddyn o goetir newydd. Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn cyflawni 200 hectar, rwy'n credu. Mewn gwirionedd, y pedair blynedd ddiwethaf yw'r pedair blynedd waethaf o blannu coetir newydd ers 1971. Mae cyfraddau ailstocio—maent ar eu gwaethaf ers 1990. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ei banc tir ei hun—y creithiau a welwch ar dirwedd Cymru yn awr o ardaloedd sydd wedi'u cwympo ond heb eu hailstocio. Mae ganddynt 6,000 hectar heb eu hailstocio ar hyn o bryd. Dyna werth pedair blynedd o gynhyrchiant. Y rheswm pam eu bod wedi cyflwyno'r contract gwarthus 'gwerthiannau sefydlog plws' yn 2016 oedd oherwydd nad oedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyllid i allu adeiladu'r seilwaith nac ailstocio eu hunain, ac felly roedd y contractau hyn i fod i gael eu defnyddio fel mecanwaith iddynt allu cynaeafu coed ac ailstocio am y gost leiaf. Wel, mae'n amlwg nad yw wedi gweithio; mae'r ffigurau'n siarad drostynt eu hunain. Ac wrth gwrs, os edrychwch tua'r dyfodol, mae'n waeth hyd yn oed, am mai'r rhagfynegiad cyfredol yw bod 47 y cant yn llai o bren meddal yn mynd i fod ar gael yng Nghymru dros y 25 mlynedd nesaf.

Daw'r tangyflawniad hwn yn y sector ar adeg pan fo prisiau pren yn uwch nag y buont ers 30 mlynedd. Pam? Yn rhannol oherwydd y galw gan fiomas wrth gwrs, ac felly mae pawb yn y sector yng Nghymru—dyna pam y mae'r Gweinidog wedi cael y llythyr hwn gan y 10 cwmni dan sylw—yn dweud, 'Edrychwch, gallem ddatblygu'r diwydiant hwn; mae'n adnodd anferth i Gymru,' ac eto rydym yn tangyflawni'n enbyd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun ar hyn o bryd yn cynhyrchu 800,000 o dunelli y flwyddyn. Mae'r ffigur hwnnw ar fin disgyn 34 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf i 531,000 tunnell, ac mae'n gwbl ddiangen. Beth bynnag yw'r ateb strwythurol i'r cwestiwn hwn—ac efallai y bydd gennym farn wahanol ar hynny yn y Siambr hon—a gawn ni gyfaddef o leiaf fod methiant hollol allweddol wedi bod yn y maes polisi cyhoeddus hwn? Mae'n bwysig yn economaidd, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, ond mae hefyd yn effeithio ar ein gallu i gyrraedd targed arall y Llywodraeth ei hun ar newid hinsawdd, ac yn y bôn, y Gweinidog a ddylai gymryd cyfrifoldeb yn hyn o beth.

16:45

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bodoli i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau, i warchod ein hamgylchedd, i ddiogelu ein treftadaeth naturiol ac i orfodi amddiffyniadau amgylcheddol. Yn anffodus, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gamweithredol, fel yr amlygwyd gan Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am gynhyrchu eu hadroddiad, ac am y ffaith y byddant yn cadw llygad barcud ar y sefydliad dros y flwyddyn sydd i ddod.

Yn wyneb trychineb ecolegol byd-eang, mae diogelu'r amgylchedd a chadwraeth natur yn rhai o dasgau pwysicaf llywodraeth. Nid oedd y penderfyniad i uno swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Comisiwn Coedwigaeth yn anghywir, ond roedd eu troi'n fawr mwy nag adran o'r Llywodraeth sydd wedi'i thanariannu a heb ddigon o adnoddau yn anfaddeuol.

Mae newid hinsawdd yn bygwth ein bodolaeth, ac fel yr amlygwyd gan adroddiad gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus ddoe, mae llunwyr polisi a gwleidyddion wedi methu deall difrifoldeb yr argyfwng amgylcheddol sy'n ein hwynebu. Felly mae'n hanfodol fod gennym sefydliadau—hyd braich oddi wrth y Llywodraeth os yn bosibl—a all ddiogelu ein hamgylchedd a gwarchod ein bioamrywiaeth.

Mae mesur sy'n asesu pa mor iach yw bioamrywiaeth gwlad yn awgrymu bod y DU wedi colli cryn dipyn yn fwy o natur yn hirdymor na'r cyfartaledd byd-eang. Mae'r mynegai'n awgrymu ein bod ymhlith y gwledydd lle mae natur wedi teneuo fwyaf yn y byd. Yn ôl adroddiad cyflwr natur yr RSPB, rhwng 1970 a 2013, mae 56 y cant o rywogaethau wedi gweld gostyngiad, gyda 40 y cant ohonynt yn dangos gostyngiad mawr neu gymedrol. O'r bron i 8,000 o rywogaethau a aseswyd drwy ddefnyddio meini prawf modern y rhestr goch, mae 15 y cant wedi diflannu neu dan fygythiad o ddiflannu o Brydain. Rydym yn colli oddeutu 2 filiwn tunnell o uwchbridd yn sgil erydu bob blwyddyn yn y DU.

Rwy'n sylweddoli mai dadl am gyfrifon ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru yw hon, ond mae'n bwysig amlinellu maint yr heriau sy'n wynebu'r sefydliad a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae yn amddiffyn ein gwlad. Mae'r ffaith bod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u cymhwyso am y drydedd flwyddyn yn olynol yn bwrw amheuaeth ynglŷn â'u rheolaeth ariannol ac yn codi cwestiynau ynglŷn â'u gallu i warchod ein bioamrywiaeth a diogelu yn erbyn newid hinsawdd.

Mae gwaith y pwyllgor ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn tynnu sylw at broblemau llywodraethu lluosog Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy'n cefnogi argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn llawn. Mae'r ffaith ei bod wedi cymryd cyhyd i Lywodraeth Cymru weithredu yn wyneb diffygion difrifol Cyfoeth Naturiol Cymru yn golygu bod yr adolygiad annibynnol o drefniadau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru ymhell ar ei hôl hi a rhaid ei wneud yn gyhoeddus. Croesewir y ffaith y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cadw golwg ar ddiwygiadau Cyfoeth Naturiol Cymru, ond o gofio pwysigrwydd rôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n hanfodol ein bod yn cael adolygiad, nid yn unig o drefniadau llywodraethu'r sefydliad, ond ei gylch gorchwyl cyfan hefyd, i sicrhau ei fod yn addas at y diben. Mae hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i gamdrafod contractau pren. Mae swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru yn allweddol i'n gwlad. Rhaid inni sicrhau bod y sefydliad yn cael y cyllid cywir, yr adnoddau priodol a'r staff gorau er mwyn cyflawni'r swyddogaethau hynny. Diolch yn fawr.

16:50

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch ichi am y cyfle i ymateb yn ystod y ddadl hon heddiw. Gwnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dri argymhelliad yn dilyn eu gwaith craffu ar adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb i'r ddau argymhelliad cyntaf. Ysgrifennais at y pwyllgor ar 11 Ionawr yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunais i ystyried canfyddiadau'r adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd a'r dystiolaeth a roesant i'r pwyllgor yn gynharach yr wythnos hon.

Croesawaf adroddiad y pwyllgor a'i waith yn herio Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu cynnal a'u gwella yn awr ac yn y dyfodol. Rwyf am roi fy sicrwydd fod Llywodraeth Cymru yn gwbl barod i fynd i'r afael â'r materion a ddisgrifir yn adroddiad y pwyllgor. Rydym yn benderfynol o weld y newidiadau angenrheidiol yn Cyfoeth Naturiol Cymru ac o ddysgu gwersi. Rydym yn cydnabod ac yn croesawu rôl y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu ar y broses hon ac yn gwneud ei gyfraniad i sbarduno'r newid hwnnw.

Ers i'r archwilydd cyffredinol gymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru yr haf diwethaf, rwyf wedi penodi cadeirydd dros dro a chwe aelod newydd o'r bwrdd. Mae'r newidiadau hyn i'r bwrdd yn golygu y bydd y cyflenwad llawn o gryfderau'r aelodau a fu yno hiraf wedi'i gyfuno â'r aelodau newydd yn sicrhau bod gennym y cymysgedd o brofiad a gwybodaeth sydd ei angen i sicrhau arweinyddiaeth gref ar gyfer sefydliad mawr a chymhleth. Yn wir, yn ystod sesiwn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun, amlinellodd y cadeirydd dros dro yr effaith gadarnhaol yr oedd arweinyddiaeth y bwrdd newydd eisoes yn ei gynnig i Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn ei sylwadau, credaf fod y Cadeirydd, Nick Ramsay, wedi cyfeirio at y newid y mae'r arweinyddiaeth newydd yn ei wneud i'r sefydliad bellach.

Rwyf wedi siarad yn fanwl â'r prif weithredwr am yr adolygiad annibynnol o weithrediadau coedwigaeth masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru, a gyflawnwyd gan Grant Thornton. Rwy'n fodlon ei bod hi a'r cadeirydd dros dro yn dangos arweiniad cryf ar unioni pethau yn y sefydliad. Mae'r sefydliad yn derbyn canfyddiadau ac argymhellion adroddiad Grant Thornton ac yn gwneud cynnydd cyflym ar eu gweithredu. Byddant yn rhoi gwybod i mi am eu cynnydd ar y rhain yn ein cyfarfodydd rheolaidd. Mae'r adroddiad, sydd ar gael i'r cyhoedd, yn sbardun pwerus ar gyfer newid. Mae'r newidiadau angenrheidiol i reoli contractau a nodir yn yr adroddiad yn galw am frys arbennig. Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael cyngor gan yr asiantaethau priodol i'w helpu gyda hyn. Lle mae Grant Thornton wedi awgrymu bod angen ymchwilio ymhellach i broblemau, maent wedi fy sicrhau bod eu tîm archwilio mewnol yn gwneud hynny.

Yn sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr wythnos hon, dywedodd y prif weithredwr fod eu tîm archwilio mewnol yn adolygu'r contractau sy'n weddill ac sydd heb eu cynnwys yn adolygiad Grant Thornton. Bydd canlyniadau'r rhain ar gael i'w pwyllgor archwilio a sicrhau risg, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth Cymru.

Ddoe, cyfarfûm â chynrychiolwyr y Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd. Maent wedi dweud wrthyf eu bod yn barod i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ac yn hyderus fod yna atebion clir i'r pryderon a fynegwyd ganddynt yn y gorffennol. Caf sicrwydd o fy nhrafodaethau gyda'r Cydffederasiwn a Cyfoeth Naturiol Cymru ein bod bellach mewn sefyllfa gryfach i weld y sector coedwigaeth yn cyflawni hyd yn oed mwy o werth i economi Cymru a gall y diwydiant wneud cyfraniad mwy byth i warchod a gwella ein hamgylchedd naturiol.  

Hoffwn atgoffa'r Aelodau—a Mohammad Asghar yn enwedig—fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei gynnal gan lawer o staff gweithgar ac ymroddedig ar draws y wlad gyfan, ac maent yn haeddu ein parch. Roeddwn yn siomedig iawn eich clywed yn dweud eu bod wedi gwneud cam â phobl Cymru. Ar adegau, mae'r trafodaethau cyhoeddus ynghylch heriau mewn un rhan o waith Cyfoeth Naturiol Cymru wedi anwybyddu'r ffaith bod y sefydliad yn cyflawni rhai o'n cyfrifoldebau mwyaf sylfaenol i bobl Cymru.

Heddiw, a phob dydd o'r flwyddyn, mae staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn diogelu cartrefi pobl rhag effeithiau dinistriol llifogydd, maent yn mynd i'r afael â melltith gwastraff anghyfreithlon, maent yn gwarchod ein rhywogaethau brodorol mwyaf agored i niwed rhag difodiant. Maent yn gwneud gwaith rhagorol—fel y nododd Llyr Huws Gruffydd a Jenny Rathbone—yn aml mewn amgylchiadau heriol iawn, ac rwy'n annog yr Aelodau i fanteisio ar y cyfle i ddangos eu gwerthfawrogiad, a hoffwn gofnodi fy niolch diffuant iddynt.

16:55

Yn dilyn y sylwadau a wnaeth fy nghyd-Aelod, Llyr Gruffydd, credaf y byddai pawb ohonom yn cydnabod y darlun yr ydych yn ei baentio o'r gwaith rhagorol y mae staff yn ei wneud mewn cyfnod heriol tu hwnt. Ond pa mor hyderus ydych chi fod ganddynt ddigon o adnoddau i wneud hynny? Oherwydd beth am y cwestiwn a ofynnodd Llyr ynglŷn â'r galw ar staff, yn y bôn, i wneud mwy am lai. Gwn mai dyna'r sefyllfa ar draws yr holl sector cyhoeddus yng Nghymru, ond mae hyn mor bwysig.

Rwy'n cytuno. Yn amlwg, dyna'r darlun ar draws y sector cyhoeddus cyfan, ac mae'n gwestiwn rwyf wedi'i ofyn ynglŷn â chapasiti; cyfeiriodd rhai o'r Aelodau at gapasiti a gallu. Yn amlwg, maent wedi cael toriadau yn eu cyllideb. Nid gennym ni yn unig y maent yn cael cyllid, er hynny—credaf y dylid cydnabod hynny—ac rydym wedi gweithio gyda hwy i sicrhau eu bod yn gallu edrych ar gyfleoedd eraill ar gyfer cael arian. Rwyf hefyd wedi gallu rhoi symiau ychwanegol o arian nad ydynt yn enfawr, ond sy'n sylweddol er hynny, ar ben eu cyllideb. Dyna drafodaeth a gefais gyda'r prif weithredwr ddoe. Cyfarfûm â hi eto, ac mae'n fy sicrhau bod hynny'n wir. Ond credaf ei fod yn rhywbeth y mae'n rhaid inni gadw llygad barcud arno.

Gwn fod aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—gwyliais y sesiwn, ac roeddwn yn meddwl ei bod hi'n dda iawn eu bod wedi nodi eu hawydd i fynd i ymweld â Cyfoeth Naturiol Cymru ar lawr gwlad. Gwn fod llawer o'r Aelodau eisoes wedi gwneud hynny. Ond credaf ei fod yn gyfle i weld y gwaith gwych y maent yn ei wneud.

Mae angen inni wneud mwy i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru mewn sefyllfa i gyflawni ei rôl allweddol yn ôl y safonau uchel y mae Llywodraeth Cymru a phobl Cymru yn eu disgwyl. Ni chredaf y byddai ymchwiliad annibynnol o fudd ar hyn o bryd. Yn amlwg, maent newydd fynd drwy adolygiad annibynnol. Mae angen inni edrych ar yr hyn a ddeilliodd o hynny yn gyntaf. Mae gennyf hyder yn y cadeirydd dros dro a'r prif weithredwr. Nid oes gennyf amheuaeth y byddant yn glynu wrth yr ymrwymiadau a wnaethant i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gynharach yr wythnos hon ac y byddant yn cyflawni pob newid sydd ei angen.

Fel y dywedais yn fy ymateb i adroddiad y pwyllgor, rwyf am roi amser yn awr i adolygu'r dystiolaeth a roesant i'r pwyllgor ddydd Llun, ynghyd ag adroddiad Grant Thornton, a byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor gyda fy ystyriaethau erbyn diwedd mis Mawrth.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw? Fel y gwnaethpwyd yn glir, rwy'n credu bod dau fater sylfaenol yn ganolog i'r ddadl hon heddiw: beth sydd wedi mynd o'i le ar drefniadau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru a faint o amser a gymer i unioni'r sefyllfa.

Mae'r ffaith bod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u cymhwyso am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac y cânt eu cymhwyso eto yn y dyfodol, yn dangos y bu diffygion yn y sefydliad, a chredaf y bydd pawb yn derbyn bod angen mynd i'r afael â hwy. Nid yw'n gyfystyr â dweud nad yw staff gweithgar Cyfoeth Naturiol Cymru i'w canmol. Wrth gwrs eu bod. Un peth a gododd dro ar ôl tro i ni fel aelodau o'r pwyllgor oedd pa mor galed y maent yn gweithio a pha mor angenrheidiol yw eu gwaith hollbwysig ledled Cymru. Ond mae'n bwysig, fel y soniodd Helen Mary Jones, eu bod yn cael yr adnoddau angenrheidiol, eu bod yn cael y gefnogaeth honno, felly dyna yw bwriad y ddadl hon a'n hadolygiad.

Rydym yn croesawu'r prif weithredwr a'r cadeirydd newydd. Rhannaf sylwadau'r Gweinidog o ran hynny. Gwnaeth eu hymddangosiad gerbron y pwyllgor argraff fawr arnom. Mae'n amlwg mai etifeddu hyn a wnaethant, a'u gwaith hwy yw ceisio newid y sefydliad. Mae'n mynd i fod yn hanfodol bwysig nad materion gweithredol yn unig sy'n cael eu trawsnewid, ond bod yna newid diwylliannol—newid diwylliannol dwfn yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid yw wedi digwydd yn y gorffennol. Bydd angen hynny er mwyn mynd i'r afael â hyn yn y dyfodol.

Os ydym yn mynd i gael sefydliad wedi'i greu o uno, rhaid uno diwylliannau'n briodol, a chlywais yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone am y dadleuon cryf o blaid uno sefydliadau yn gorff tebyg i Cyfoeth Naturiol Cymru. Os yw hynny'n mynd i ddigwydd mae angen inni wneud yn siŵr fod cydgysylltu priodol yn digwydd rhwng pob rhan o'r sefydliad newydd hwnnw, oherwydd credaf fod y prif weithredwr a'r cadeirydd wedi dweud wrthym nad oeddent yn teimlo bod hynny wedi digwydd yn y gorffennol. Ymddengys eu bod yn meddu ar y penderfyniad angenrheidiol i ddatrys y problemau. Comisiynwyd adolygiad Grant Thornton ganddynt, ac mae hwnnw'n palu'n ddwfn ac yn amlygu nifer o faterion, ac nid oeddem yn ymwybodol o rai ohonynt o'r blaen, pethau megis contractau gwerthiannau sefydlog. Yn ddiddorol, roedd yr anghytundeb rhwng Adam Price a Jenny Rathbone—neu'r drafodaeth, dylwn ddweud—ynglŷn ag a ddylid cael arbenigedd coedwigaeth ar y bwrdd ai peidio, wel, boed ar y bwrdd, neu ar ba ffurf bynnag y bo, rydym yn sicr yn cytuno bod angen mwy o ymwybyddiaeth o faterion coedwigaeth cyfredol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hynny wedi bod yn brin hyd yn hyn, a gobeithio y bydd y cadeirydd newydd, y tîm newydd, yn unioni hynny.

Mae'r rhain yn broblemau sydd wedi bod ganddynt ers amser maith. Ni chânt eu datrys dros nos, ond bydd yn rhaid mynd i'r afael â hwy dros y tymor canolig, fel y cydnabu'r Gweinidog, rwy'n credu, oherwydd mae hwn yn sefydliad rhy fawr ac yn sefydliad rhy bwysig i ganiatáu iddo barhau i gael y problemau hyn yn fwy hirdymor. Diben y ddadl hon yw tynnu sylw at y materion hyn, rhoi'r gefnogaeth y maent ei hangen i'r prif weithredwr a'r cadeirydd er mwyn gwneud yn siŵr yn y dyfodol y gellir datrys y problemau hyn ac y gall Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn addas i'r diben.

17:00

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Grant Byw’n Annibynnol Cymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. 

Eitem 7 ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru ar grant byw'n annibynnol Cymru, a galwaf ar Leanne Wood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6967 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddal gafael llawn ar Grant Byw'n Annibynnol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Pan ddaw haneswyr i ysgrifennu hanes y degawd diwethaf o safbwynt pobl anabl a sut y cawsant eu trin gan lywodraethau olynol, credaf y bydd yn ein beirniadu'n hallt. Canlyniadau cyfres o newidiadau i nawdd cymdeithasol a gychwynnwyd yn gyntaf gan yr Arglwydd Freud o dan Lywodraeth Tony Blair—ie, gadewch inni beidio ag anghofio mai Llywodraeth Lafur a greodd Atos—cafodd y newidiadau hynny eu cyflymu wedyn o dan y Llywodraeth glymblaid ac maent wedi bod mor ddinistriol fel y gellir eu hystyried yn un o'r ymyriadau mwyaf â hawliau dynol yn hanes Prydain.

Nawr, yn y Senedd hon ac mewn mannau eraill, mae digon ohonom wedi beirniadu Llywodraeth y DU am eu hymddygiad, er mai dylanwad cyfyngedig a fu gennym o ganlyniad i hynny. Felly, mae'n fwy siomedig byth gweld patrymau ymddygiad San Steffan yn treiddio i mewn i Lywodraeth Cymru fel y bydd stori'r gronfa byw'n annibynnol yn dweud wrthym. Wrth gwrs mae'r newidiadau a gyhoeddwyd ddoe i'r ffordd y cynhelir asesiadau i'w croesawu, ac nid oes amheuaeth y bydd y Gweinidog yn ymateb i'r ddadl hon drwy amlinellu'r newidiadau hynny. Hoffwn gofnodi ein diolch a'n llongyfarchiadau i'r ymgyrchydd Nathan Davies, a fu'n ymgyrchu'n gwbl ddiflino ar hyn. Ond mae ymddygiad y Llywodraeth hon at ei gilydd hyd yma wedi bod yn un sy'n dangos tebygrwydd i'r ymagwedd a welsom gan y Torïaid yn Llundain.

Pan ddatganolwyd y cyfrifoldeb am reoli'r gronfa byw'n annibynnol i Gymru, roedd Llywodraeth Cymru ar y pryd yn wynebu dau opsiwn. Ar y naill law gallent efelychu Lloegr a datganoli'r gronfa byw'n annibynnol i awdurdodau lleol, a gofyn iddynt ysgwyddo cyfrifoldeb am y gofal a'r cymorth a ddarperir. Neu ar y llaw arall, gallent gadw'r gronfa a'i gweinyddu, fel a ddigwyddodd yn yr Alban a gogledd Iwerddon. Nawr, bydd fy nghyd-Aelodau'n ymhelaethu ymhellach ar y broses benderfynu ddiffygiol sydd wedi digwydd yma, ond mae un cwestiwn rhethregol yn crynhoi'r holl ddadl hon: os ydych yn mabwysiadu dull o weithredu tebyg i'r Torïaid, pam y byddech yn disgwyl canlyniad hollol wahanol? A'r canlyniadau rhagweladwy hynny a arweiniodd at y newidiadau a gyhoeddwyd ddoe. O ddatganiad y Gweinidog ei hun:

'Mae amrywiad sylweddol i'w weld yn lleol, gyda chanran y rhai arferai dderbyn taliadau o'r Gronfa sydd â'u horiau gofal wedi gostwng yn amrywio rhwng 0% a 42% mewn gwahanol awdurdodau lleol.'

Yr hyn na ellir ei fesur, wrth gwrs, yw lefel y pryder a'r straen o orfod mynd drwy ailasesiadau cyson, lle mae ansawdd eich bywyd yn y fantol. Mae pobl anabl yn siarad gyda'i gilydd. Maent yn gwybod beth ddigwyddodd gyda chyflwyno'r asesiad gallu i weithio, ac maent yn gwybod beth ddigwyddodd pan gafwyd y taliad annibyniaeth personol yn lle'r lwfans byw i'r anabl. Maent yn gwybod beth ddigwyddodd yn Lloegr i'r bobl a oedd yn cael y gronfa byw'n annibynnol. Felly, gwyddent eu bod yn wynebu asesiadau gan staff a weithiai mewn sector cyhoeddus sy'n rhagfarnu o blaid pobl heb anableddau, asesiadau gan sefydliadau o dan bwysau ariannol enfawr, ac asesiadau heb fawr o amddiffyniad yn erbyn dyfarniadau gwael. Eto, gorfododd eich Llywodraeth dros 1,000 o bobl i fynd drwy hyn a threuliodd flynyddoedd yn gwrthsefyll yr ymgyrchwyr hynny ac ymgyrchwyr eich plaid eich hun, nes y penderfynodd y Gweinidog newydd fynd yn erbyn penderfyniadau blaenorol i bob pwrpas.

Nawr, os gweithredir y newidiadau a gyhoeddwyd ddoe yn briodol, ni ddylem weld unrhyw bobl anabl o gwbl ar eu colled, diolch byth. Ond byddwn yn dal i fod wedi cael system lle mae mwy o gostau gweinyddol a biwrocratiaeth a straen a phryder diangen wedi'i orfodi ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y wlad hon, a chredaf y dylech ymddiheuro am hynny.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:05

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru bob amser wedi neilltuo’r swm llawn o gyllid a drosglwyddwyd ar gyfer y Gronfa Byw’n Annibynnol at y diben hwnnw.

2. Yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r rhai sy’n derbyn y cyllid a’r awdurdodau lleol i sicrhau bod bwriadau Grant Byw’n Annibynnol Cymru yn parhau i gael eu cyflawni yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Mark Isherwood.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl anabl yn bartneriaid llawn wrth ddylunio a gweithredu Cronfa Byw'n Annibynnol Cymru, sy'n diogelu hawliau pobl anabl i fyw bywydau annibynnol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Mae byw'n annibynnol yn galluogi pobl anabl i gyflawni eu nodau eu hunain a byw eu bywydau eu hunain yn y ffordd y maent yn dewis drostynt eu hunain. Roedd y gronfa byw'n annibynnol yn galluogi pobl anabl iawn i ddewis byw bywyd annibynnol yn y gymuned, yn hytrach nag mewn gofal preswyl. Rwy'n cynnig gwelliant 2, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru

'i sicrhau bod pobl anabl yn bartneriaid llawn wrth ddylunio a gweithredu Cronfa Byw'n Annibynnol Cymru, sy'n diogelu hawliau pobl anabl i fyw bywydau annibynnol.'

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfnod pontio o ddwy flynedd o fis Ebrill 2017 ymlaen, pan fyddai'n ofynnol i bawb a oedd yn derbyn grant byw'n annibynnol Cymru, neu'r GBAC, gael yr elfen hon o'u hanghenion gofal wedi'i hasesu gan eu hawdurdod lleol.

Mae cael gwared ar y grant ar 31 Mawrth yn bradychu hawliau pobl anabl i fyw'n annibynnol ac i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Yn 2015, cafodd y gronfa byw'n annibynnol ei datganoli gan Lywodraeth y DU i awdurdodau lleol yn Lloegr a'r Llywodraethau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gweithiodd Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol i sefydlu'r GBAC, ond fel arall ni wnaeth ddim ar wahân i gynnal ymarfer ymgynghori a sefydlu grŵp cynghori rhanddeiliaid, y dywed ei fod wedi cynhyrchu amrywiaeth o safbwyntiau.

Ar y llaw arall, mae Llywodraeth yr Alban yn nodi bod ei chynllun newydd wedi'i gydgynhyrchu gan weithgor y gronfa byw'n annibynnol, gyda chynrychiolaeth o Lywodraeth yr Alban, cronfa byw'n annibynnol yr Alban, pobl anabl, gofalwyr, grwpiau anabledd ac awdurdodau lleol. Lansiodd yr Alban gronfa byw'n annibynnol yr Alban yn sgil hynny er mwyn sicrhau bod gan y rhai sy'n ei derbyn ddewis a rheolaeth. Dewisodd Gogledd Iwerddon ymuno â chynllun yr Alban, ac mae pobl anabl a grwpiau anabl yng Nghymru wedi dweud wrth y grŵp trawsbleidiol ar anabledd eu bod eisiau ymuno â'r cynllun hwnnw hefyd.

Yn wahanol i Lywodraeth Cymru, na wnaeth ddim ond trosglwyddo'r cyllid blynyddol a ddaeth i law gan Lywodraeth y DU ar gyfer hyn i awdurdodau lleol, ymrwymodd Llywodraeth yr Alban £5 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol hefyd. Ym mis Tachwedd 2016, dadleuodd y Gweinidog yma ar y pryd fod trosglwyddo'n llawn i gyfrifoldeb awdurdod lleol yn cydraddoli mynediad at gymorth ymhlith pobl anabl ac yn rhwystro'r GBAC rhag dod yn anghynaladwy. Dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones,

'Byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol... gyflawni eu rhwymedigaethau i bobl anabl a rhoi digon o arian o'r neilltu i’w hanghenion ariannol gael eu cydnabod a'u bodloni',

a bod awdurdodau lleol, meddai,

'yn atebol i'w hetholwyr os byddant yn dilyn polisïau y mae'r etholaeth yn credu eu bod yn annerbyniol.'

Yn anffodus, nid oes gan bobl ag anabledd difrifol lawer o bleidleisiau. Fodd bynnag, awgryma amcangyfrifon Llywodraeth Cymru a gafwyd gan ymgyrchwyr anabl y bydd toriad i gyllid dros 200 o bobl a oedd yn arfer cael y GBAC, a chyfaddefodd rhai awdurdodau lleol wrthynt fod cyfran sylweddol o'r rhai sy'n derbyn cymorth ar hyn o bryd drwy'r GBAC eisoes wedi cael toriad i'w pecynnau cymorth. Naw wfft i'r datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai y llynedd fod awdurdodau lleol yn adrodd bod y rhan fwyaf o bobl yn derbyn cymorth tebyg i'r hyn yr oeddent wedi'i gael gyda'u taliadau cronfa byw'n annibynnol, heb i unrhyw broblemau sylweddol godi. Ar bwy ar y ddaear y maent yn gwrando?

Cadeiriais gyfarfod ym mis Ionawr o grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar anabledd yn Wrecsam, lle roedd nifer fawr iawn o bobl yn bresennol. Yn y cyfarfod hwn, pwysleisiodd arweinydd ymgyrch Achub Grant Byw'n Annibynnol Cymru, Nathan Davies o Wrecsam, y deuthum i'w adnabod dros flynyddoedd lawer, fod hyn yn ymwneud â'r gwahaniaeth rhwng aros yn y gwely neu godi o'r gwely, ynglŷn â chael cinio neu beidio â chael cinio, am gael rheolaeth neu gael eich rheoli. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cytuno gyda Nathan nad ydynt yn deall pwysigrwydd un gair i bobl anabl—sef annibyniaeth—a'r effaith ar iechyd meddwl a lles a'r gallu i ryngweithio â'r gymdeithas.

Dyma brofiad bywyd yn siarad, yn syth o lygad y ffynnon, a gofynnwyd i mi gael atebion gan fod amser yn brin. Wedyn codais y mater, fel yr addewais, gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y datganiad busnes yma. Fel y dywedodd Nathan Davies yn ei lythyr agored at y Prif Weinidog newydd, mae'r adolygiad dwfn a gyflawnwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i ddadansoddi perfformiad awdurdodau lleol mewn perthynas â throsglwyddo'r GBAC yn llawn o gamgymeriadau ac a dweud y gwir, nid yw'n werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno. Sut y gall ymchwiliad i amgylchiadau rhoi diwedd ar y GBAC fod yn derfynol heb fod wedi ymgynghori â'r bobl anabl yr effeithir arnynt?

Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU na fydd angen ailasesu pobl ag anabledd gydol oes, salwch neu gyflwr iechyd difrifol mwyach ar gyfer lwfans cyflogaeth a chymorth a'r credyd cynhwysol. Yn 2018, cyhoeddodd eithriad cyfatebol ar gyfer y taliad annibyniaeth personol. Fodd bynnag, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddoe y bydd y rhai a arferai dderbyn taliadau'r gronfa byw'n annibynnol sy'n 'anhapus' â'u pecynnau gofal a chymorth yn cael cynnig asesiad arall. Am ragrith syfrdanol.

17:10

Wel, sôn am ragrith syfrdanol. Rhaid imi ddweud bod gennyf bryderon dwys, fel sydd gan bawb ohonom, ynghylch y ffordd y mae'r Llywodraeth Lafur wedi ymdrin â hyn yma, ond nid wyf am gymryd unrhyw wersi—ac ni fuaswn yn disgwyl i Lywodraeth Lafur Cymru wneud chwaith—gan yr un Ceidwadwr ar weinyddu budd-daliadau i bobl anabl. Mae fy nghyd-Aelod, Leanne Wood newydd ei ddisgrifio'n gywir fel rhywbeth cwbl warthus, ac a dweud y gwir—er bod gennyf barch mawr at Mark Isherwood fel unigolyn—rwy'n ei chael hi'n anodd tu hwnt ystyried y negeseuon hynny oddi wrtho. Gwn ei fod yn eu credu'n llwyr ei hun, ond mae'r blaid y mae'n ei chynrychioli yn y lle hwn yn ymddwyn mewn ffordd wahanol iawn ar ben arall yr M4, ac rwy'n falch o dderbyn ymyriad gan Mark Isherwood.

Nid oes gennym amser i drafod lles yn ei gyfanrwydd yma, ond gwneuthum y pwynt fod Llywodraeth y DU, nad ydych yn hoff iawn ohoni, wedi atal pobl ag anableddau difrifol serch hynny rhag gorfod cael eu hailasesu ar gyfer amrywiaeth o fudd-daliadau—y taliad annibyniaeth personol, lwfans cyflogaeth a chymorth, credyd cynhwysol—ac eto rydym ni wedi dweud wrth bobl ag anableddau difrifol y bydd yn rhaid iddynt gael eu hailasesu unwaith eto i gael yr hyn y dylent fod wedi'i gadw yn y lle cyntaf.

Gadewch inni fod yn glir fod hwnnw'n newid meddwl hwyr iawn yn y dydd, ar ôl i lawer o bobl anabl ar draws y DU ddioddef yn enbyd yn sgil y system honno. Ac rydych yn hollol iawn i ddweud nad oes gennym amser i'w drafod yma, ond rwy'n hapus i'w drafod gyda chi unrhyw bryd, yn unrhyw le, oherwydd nid yw'n iawn. Nawr, mae'n destun gofid yn fy marn i fod y Gweinidog yn mynd i orfod rhoi pobl drwy ailasesiad, ond fy nealltwriaeth i yw mai swyddogaeth bosibl yr ailasesiad hwnnw yw adfer y cymorth sydd wedi'i ddileu. Felly, rwy'n deall gan bobl anabl eu bod yn croesawu hyn mewn gwirionedd.

Felly, i ddychwelyd at yr hyn yr oeddwn wedi bwriadu ei ddweud, Lywydd, roeddwn wedi disgwyl y buaswn yn rhoi araith wahanol iawn hyd nes i'r Gweinidog wneud ei chyhoeddiad ddoe. Gwyliais y llanastr hwn o'r tu allan i'r lle hwn ac o'r tu mewn, ac nid wyf wedi gallu deall, o ystyried y nifer o weithiau y mae Gweinidogion Cymru olynol wedi ymrwymo i'r model cymdeithasol o anabledd, ac nid wyf wedi gallu deall o gwbl beth sydd wedi digwydd. Ac er bod newid meddwl y Gweinidog ddoe i'w groesawu mewn gwirionedd, fel y mae Leanne Wood wedi dweud eisoes, mae'n gadael cwestiynau heb eu hateb.

Rhaid inni fynegi'r gofid eithafol y mae'r holl broses ddiflas hon wedi rhoi pobl anabl drwyddo, yn ogystal â'r rhai sy'n eu caru ac yn gofalu amdanynt. I fod yn onest, rwy'n synhwyro o ddatganiad y Dirprwy Weinidog ei bod yn deall y lefel honno o ofid ac yn awyddus i unioni'r sefyllfa, ac ni allwn wneud y Dirprwy Weinidog, fel unigolyn, yn gyfrifol. Ond rhaid inni ofyn iddi edrych ar yr hyn a aeth o'i le. Sut y caniatawyd i hynny ddigwydd dan oruchwyliaeth Llywodraeth sy'n honni ei bod wedi ymrwymo i'r model cymdeithasol? Rhaid inni ddeall hynny os ydym am atal hynny rhag digwydd eto. A oedd yn fater, fel yr amheuwn sy'n wir gydag argymhellion y Llywodraeth ar gyfer cymorth amaethyddol ar ôl Brexit, o fod swyddogion yn amharod i bolisi ac ymarfer Llywodraeth Cymru wyro oddi wrth y model Seisnig? Rwy'n gobeithio fy mod yn anghywir. Os yw hynny'n wir, mae'n destun pryder dwys. A oedd yn fater o Weinidogion Cymru yn tynnu eu llygaid oddi ar y bêl? Unwaith eto, nid oeddwn yma ar y pryd, ac ni allaf ddweud yn bendant, ond mae'n sicr yn edrych felly i mi.

17:15

A yw hefyd yn destun pryder a gofid i chi mai ar ôl iddynt gael eu gwasgu i gornel gan y cynnig hwn gan Blaid Cymru heddiw y cymerwyd y cam hwn ganddynt mewn gwirionedd?

Wel, rwy'n poeni am hynny ac rwy'n falch fod y cam wedi'i gymryd, ond byddai wedi atal llawer iawn o dristwch a gofid pe bai wedi mynd ymhellach. Nawr, wrth gwrs, swyddogaeth gwrthblaid yw rhoi'r Llywodraeth dan y chwyddwydr, gobeithio ein bod wedi gwneud hynny yn yr achos hwn. Ond hoffwn ategu bod angen inni ddeall pam y digwyddodd y set wael iawn hon o benderfyniadau, oherwydd, fel arall, gallai ddigwydd eto.

Hoffwn droi, yn fyr, Lywydd, at ddatganiad y Dirprwy Weinidog ddoe lle mae'n cyfeirio at asesiadau gwaith cymdeithasol annibynnol. Nawr, er fy mod yn rhannu rhai o'r pryderon ynglŷn â phobl yn cael eu hailasesu'n ddiddiwedd, os mai diben yr ailasesiadau hyn yw galluogi pobl i gael cymorth wedi'i adfer lle cafodd ei gymryd oddi wrthynt, rhaid croesawu hynny. Ond credaf mai'r gair allweddol yno yw 'annibynnol', a hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog heddiw sut y mae'n gweld yr asesiadau hynny'n cael eu cyflawni. Os cyflogir y staff sy'n cynnal yr asesiadau hyn yn uniongyrchol gan yr awdurdodau lleol sydd eisoes wedi tynnu cymorth yn ôl oddi wrth y bobl anabl hyn a'u teuluoedd, bydd y bobl hynny'n cael eu gadael i bryderu a yw'r asesiadau hynny'n wirioneddol annibynnol ai peidio. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn deall y bydd y bobl sydd wedi gweld toriad yn eu cymorth yn amheus. Felly, rwy'n gobeithio y gall ddweud wrthym heddiw sut y bydd yn sicrhau bod yr asesiadau hynny'n annibynnol, ond hefyd fod y bobl sy'n eu derbyn yn gweld eu bod yn annibynnol. Rwy'n siŵr na fydd yn synnu—ac mae'n amlwg yn ei datganiad ei bod wedi ymdrin yn uniongyrchol â'r ymgyrchwyr—os ydynt wedi colli ffydd yn y system ac angen llawer o argyhoeddi er mwyn adfer y ffydd honno.

Yn olaf, Lywydd, os caf erfyn am eich goddefgarwch ar ôl cymryd rhai ymyriadau, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog heddiw, yn ei chyfraniad i'r ddadl hon, ailymrwymo Llywodraeth Cymru yn glir ac yn ddigamsyniol i'r model cymdeithasol o anabledd. Mae'r model hwnnw yn golygu, wrth gwrs, fod yr anabledd yn deillio, nid o nam yr unigolyn, ond o'r rhwystrau y mae cymdeithas yn eu rhoi yn ffordd yr unigolyn sydd â nam rhag gallu cyfranogi'n llawn. Roeddwn dan yr argraff ein bod yn unfrydol yn y lle hwn yn hynny o beth—yn hollol unfrydol, ar draws yr holl feinciau rwy'n credu. Mae'r camau gweithredu ar hyn wedi dangos efallai ein bod yn well gyda'n geiriau nag yr ydym gyda'n gweithredoedd. Holl ddiben y cymorth penodol hwn yw galluogi ein cyd-ddinasyddion anabl i fyw'n annibynnol a chyfranogi'n llawn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymrwymo heddiw i sicrhau bod y cymorth hwn yn parhau, i gefnogi'r annibyniaeth honno, a'i fod yn ei wneud yn gyfartal ledled Cymru, ac yng nghyd-destun ymrwymiad ystyrlon i'r model cymdeithasol o anabledd. Nid yw ein cyd-ddinasyddion anabl yn haeddu dim llai, ac maent yn haeddu ymddiheuriad.

Clywais Helen Mary Jones yn dweud ei bod yn rhoi araith wahanol i'r un yr oedd hi wedi disgwyl ei rhoi, yn dilyn y datganiad gan y Gweinidog. Rwy'n mynd i wneud rhywbeth gwahanol—byddaf yn pleidleisio mewn ffordd wahanol i'r hyn yr oeddwn yn disgwyl ei wneud, yn dilyn y datganiad gan y Gweinidog, oherwydd roeddwn yn mynd i bleidleisio o blaid polisi'r Blaid Lafur pe na bai'r Gweinidog wedi gwneud y datganiad a wnaeth.

Fe ddechreuaf drwy ailddatgan polisi'r Blaid Lafur a gytunwyd gan gynhadledd Plaid Lafur Cymru yn 2018—polisi yr oeddwn yn ei gefnogi bryd hynny ac un rwy'n ei gefnogi yn awr: amddiffyn ac achub grant byw'n annibynnol Cymru. Cyflwynwyd grant byw'n annibynnol Cymru i helpu pobl a oedd yn arfer hawlio o gronfa byw'n annibynnol Llywodraeth y DU, a ddaeth i ben yn 2015. Caiff dros 1,500 o bobl eu helpu gan gynllun grant byw'n annibynnol Cymru ledled Cymru ac mae gan bawb sy'n ei dderbyn lefel uchel iawn o anghenion gofal a chymorth. Roedd grant byw'n annibynnol Cymru i fod i barhau tan ddiwedd mis Mawrth 2017, ond cytunwyd y byddai'r arian hwnnw'n parhau am flwyddyn arall. Byddai'r gronfa flynyddol o £27 miliwn yn trosglwyddo'n uniongyrchol wedyn i awdurdodau lleol yn ystod 2018-19 er mwyn iddynt allu diwallu anghenion cymorth pawb a arferai dderbyn taliadau'r gronfa byw'n annibynnol erbyn 31 Mawrth 2019.

Galwodd y gynhadledd hon ar Lywodraeth Lafur Cymru i gynnal grant byw'n annibynnol Cymru, o leiaf tan etholiad nesaf y Cynulliad, a gwneud hynny gan gadw'r egwyddorion a ganlyn: cadw strwythur trionglog y grant rhwng yr awdurdod lleol, yr unigolyn a rhanddeiliad trydydd parti; y dylid clustnodi'r cyllid sydd ar gael yn y dyfodol er mwyn sicrhau y defnyddir arian a ddyrennir at y diben y'i bwriadwyd; na ddylid peryglu lles pobl anabl; y dylid diogelu, nid peryglu, y bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas; a bod ansawdd bywyd yn hawl ddynol i'n hunigolion agored i niwed, yn hytrach na chynnal bodolaeth yn unig.

Fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau, roeddwn yno pan gawsom dystiolaeth. Roedd y prif bryderon a godwyd gan y deisebydd ac eraill yn ymwneud ag ofn ynghylch effaith trosglwyddo cyfrifoldeb am gefnogi'r rhai a arferai dderbyn aran y gronfa byw'n annibynnol i awdurdodau lleol, yn enwedig gallu ariannol ac adnoddau awdurdodau lleol mewn cyfnod o gyni i ailadrodd yn ddigonol y ffocws ar fyw'n annibynnol a hyrwyddai'r gronfa byw'n annibynnol a GBAC. Ac nid wyf yn beirniadu awdurdodau lleol. Byddai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am awdurdodau lleol yn sylweddoli faint o bwysau sydd arnynt. Mae'n debyg i wasgu balwn—bob tro y byddwch yn ei gwasgu i un cyfeiriad, mae'n ymwthio i gyfeiriad arall.

Fodd bynnag, mae'r pryderon hefyd yn ymwneud â phrofiadau blaenorol y deisebydd ac eraill sy'n cefnogi ei ymgyrch o weithio gydag awdurdodau lleol, neu gael gwasanaethau ganddynt. Roedd hyn yn cynnwys pryder ynghylch dealltwriaeth o'r term 'byw'n annibynnol' ei hun:

Nid yw'n gyfrinach fod ymagwedd Model Meddygol tuag at bobl anabl yn parhau i fod yn endemig ac yn sefydliadol ar draws y sector cyhoeddus ac mae'n amlwg o'r asesiadau rhanbarthol o angen ac yn enwedig crynodeb Gofal Cymdeithasol Cymru, nad oes unrhyw ddealltwriaeth o'r gwahaniaeth rhwng "bod yn annibynnol" [sy'n golygu ymdopi heb gymorth] a "Byw'n Annibynnol" y mae Llywodraeth Cymru wedi'i dderbyn yn ffurfiol fel term sy'n golygu bod pobl anabl yn byw'r bywydau y maent yn dewis eu byw, yn y ffordd y maent yn dewis a chael cefnogaeth yn y modd, ar yr adeg, yn y lle, a chan bwy y maent yn dewis. 

Roedd pryder pellach arall a fynegwyd gan y deisebydd yn ymwneud â diffyg strwythur teiran o fewn gweithrediad y gronfa byw'n annibynnol. Roedd hwn yn cynnwys y sawl sy'n derbyn cyllid, gweinyddiaeth ganolog y gronfa a'r awdurdod lleol yn gwneud asesiadau ac yn gwneud penderfyniadau ynghylch gofal a chymorth. Esboniodd y deisebydd:

yr elfen arall o'r Gronfa Byw'n Annibynnol oedd bod Gweithwyr Cymdeithasol annibynnol yn cynnal yr asesiadau a'r adolygiadau fel bod pobl anabl yn teimlo eu bod yn cael eu hamddiffyn gan drosolwg annibynnol gweithiwr cymdeithasol cymwys a phrofiadol na allai gael ei ddychryn

neu ei gyfarwyddo gan yr awdurdod lleol am nad oedd yn gweithio iddo.

Rwy'n croesawu'r datganiad gan Lywodraeth Cymru y bydd yn darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol am gost gweithwyr cymdeithasol annibynnol ac oriau ychwanegol o ofal a allai ddeillio o'r asesiadau annibynnol hyn. Mae hyn yn golygu na all fod unrhyw gwestiwn o—

17:20

A gaf fi orffen y frawddeg hon? Ni fyddai unrhyw gwestiwn fod y newidiadau i'r pecyn gofal a chymorth yn fesur ar gyfer torri costau. Yn sicr.

O ystyried bod y rhai a arferai dderbyn y gronfa byw'n annibynnol yn gorfod bod yn gymwys i'w gael drwy brofi eu bod yn ddifrifol anabl, pam y dylent orfod ei brofi eto a ninnau, yn briodol, wedi beirniadu Llywodraeth y DU pan ddywedasant wrth bobl y byddai'n rhaid iddynt ei brofi eto?

Rwy'n meddwl mai'r rheswm am hyn yw bod rhai pobl—cafodd eu hanghenion eu hailasesu a'u hisraddio gan awdurdodau lleol, ac mae hwn yn gyfle iddynt gael eu hailasesu a'u huwchraddio. Mae'n rhywbeth y mae pobl anabl eu hunain am ei weld. Nid yw'n berffaith, ac rwy'n siŵr ein bod yn dymuno nad dyma fel y mae. Byddai'n dda gennyf pe bai penderfyniad cynhadledd y Blaid Lafur fis Ebrill diwethaf wedi'i weithredu yn y lle hwn, ond ni ddigwyddodd hynny, ac nid oes gan hynny ddim i'w wneud â Gweinidog y Cabinet—na'r arweinydd presennol.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog yn derbyn mai egwyddor sylfaenol cynnal asesiad annibynnol yw y dylai'r canlyniad fod yn gyson â'r canlyniadau llesiant y bydd pobl wedi cytuno arnynt. Gan nad oes rhwystr ariannol, nid oes raid i neb gael gofal a chymorth llai ffafriol nag y maent yn ei gael ar hyn o bryd, ac mae 'ar hyn o bryd' yn golygu beth bynnag a oedd ganddynt cyn i'r newidiadau gael eu cyflwyno gan awdurdodau lleol.

Rwy'n croesawu'r penderfyniad i gadw strwythur trionglog y grant rhwng yr awdurdod lleol, yr unigolyn a rhanddeiliad trydydd parti. Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi bodloni ysbryd y ddeiseb a phenderfyniad cynhadledd y Blaid Lafur. Mae'n ddrwg gennyf ei fod wedi cymryd cymaint o amser. Yn olaf, diolch i Nathan Davies am ei ymgyrchu cyson a pharhaus—credaf y buaswn yn ei alw'n 'ddiflino'—ac i Julie Morgan am gyflawni hyn yn awr a darparu'r cymorth parhaus fel rwyf fi, a mwyafrif llethol y bobl yn fy mhlaid yn credu y dylid bod wedi'i wneud amser maith yn ôl.

Gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei sylwadau? Mae e wedi fy atgoffa i o’r eironi fan hyn bod Plaid Cymru yn gorfod gosod cynnig er mwyn trio perswadio Llywodraeth Lafur i ymrwymo eu hunain i’w polisi nhw eu hunain. Felly, mae hwnna’n dweud rhywbeth am ble mae’r Llywodraeth yma yn ffeindio ei hun ar hyn o bryd. A dyma’r blaid, wrth gwrs, sy’n honni eu bod nhw ‘for the many’—nage. ‘For the many, not the few’, ie, ie, dyna fe. Dwi wedi drysu heddiw. Ond pwy ydyn ni’n sôn amdanyn nhw? Pwy maen nhw’n ei gynrychioli? Wel, os ydyn ni’n sôn am grŵp sydd angen cynrychiolaeth ac angen llais i siarad drostyn nhw, yna'r 1,300 o bobl sydd wedi bod yn ddibynnol ar y grant byw yn annibynnol yma yw’r rheini. Y 1,300 o bobl sydd wedi dioddef, fel rŷn ni wedi clywed, gofid a phryder dros y ddwy flynedd diwethaf ynglŷn â goblygiadau colli’r grant yna. Ac mae’r tro pedol rŷn ni wedi gweld gan y Llywodraeth yn dod 24 awr cyn y ddadl yma gan Blaid Cymru'r prynhawn yma—newyddion i’w groesawu, wrth gwrs ei fod e i’w groesawu, a dwi’n deall mai’r bwriad nawr yw gwneud ychydig mwy o ymchwil i weld beth yw’r opsiynau o safbwynt datblygu cynllun amgen neu amrywio’r cynllun. Wel, fy mhle i, felly, yw ichi wrando ar dystiolaeth y rhai hynny sy’n derbyn yr arian, eu teuluoedd a’u gofalwyr, pan ŷch chi’n dod i edrych ar yr opsiynau wrth symud ymlaen.

Nawr, mae llawer o’r drafodaeth yn amlwg yn ffocysu, ac wedi gwneud dros y blynyddoedd diwethaf, ar yr elfen ariannu, ond dwi yn meddwl ei bod hi’n bwysig inni atgoffa’n hunain, wrth gwrs, o bwysigrwydd yr elfen byw yn annibynnol. Mae profiadau’r rhai hynny sy’n derbyn y grant yn eu harwain i ofni y byddai bywyd o dan reolaeth cyngor sir yn llawer mwy rhagnodol, mwy prescriptive, a hynny yn risgio tynnu annibyniaeth i ffwrdd oddi wrthyn nhw. Mae’r toriadau llym mae awdurdodau lleol, wrth gwrs, wedi eu dioddef yn golygu ei bod hi bron yn anochel, efallai, y byddai’r systemau a’r cyfundrefnau yn fwy rhagnodol oherwydd yr angen i brofi gwerth am arian. Ond beth yw gwerth gwerth am arian os yw gwerth bywyd ac ansawdd bywyd yn dirywio o ganlyniad i hynny? Sut allwch chi fesur safon bywyd person ar daenlen cyllideb ar ddiwedd blwyddyn ariannol? Mae derbynwyr y grant yma eisoes yn gaeth oherwydd amgylchiadau tu hwnt i’w rheolaeth nhw. Maen nhw’n gaeth i’w cartrefi, yn gaeth i gadair olwyn, yn gaeth i feddyginiaeth, efallai. Mae hyn oll yn cyfyngu ar eu dewisiadau nhw mewn bywyd, a’r peth olaf maen nhw ei eisiau yw bod yn gaeth ymhellach i reolau ariannol a biwrocrataidd cynghorau sy’n gorfod, wrth gwrs, cyfrif pob ceiniog er mwyn profi gwerth am arian.

Nid oedd y cynnig hwn i gael gwared ar grant byw'n annibynnol Cymru yn ddim mwy, fel y clywsom wrth gwrs, na Llywodraeth Cymru yn dilyn arweiniad Llywodraeth y DU. Ac mae'r saib a gyhoeddwyd ddoe yn sicr yn gam i'r cyfeiriad cywir. A gallwn wneud pethau'n wahanol yma yng Nghymru. Gallwn ddangos ein bod yn gwerthfawrogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas a'n bod yn edrych ar ôl ein gilydd fel cymdeithas. Gadewch i ni obeithio bod y saib hwn yn arwain at ailwampio cadarnhaol lle caiff pawb sydd ag anabledd eu codi i gyfundrefn ariannu a chymorth well yn hytrach na thynnu pawb i lawr at y lefel gyffredin isaf.

Mae gennym enghreifftiau o arferion da yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle maent yn ffurfio eu llwybr eu hunain, ar ôl cadw'r gronfa byw'n annibynnol yn ogystal â'i gwella. Ac rydym yn gwybod, fel y clywsom, beth ddigwyddodd yn Lloegr gyda dileu'r grant yno: pobl yn cael eu gwthio i loteri cod post, Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn gorfod dweud ei fod wedi arwain at drychineb dynol. Ac wrth gwrs, y pryder yw y byddwn yn mynd i lawr yr un llwybr yma yng Nghymru gyda'r bobl fwyaf agored i niwed yn dioddef.

Mae erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn canolbwyntio'n benodol ar hawl pobl anabl i fyw'n annibynnol ac i gael eu cynnwys yn y gymuned. Ni ddylid trin pobl ag anableddau fel plant, gyda'u bywydau'n cael eu rheoli gan fiwrocratiaeth. Mae pawb ohonom yn gwerthfawrogi ein hannibyniaeth, ein gallu i wneud ein dewisiadau ein hunain, ein gallu, ie, weithiau, i wneud ein camgymeriadau ein hunain, ond ni ddylid gwadu'r hawl honno i bobl anabl oherwydd eu hanabledd.

Nawr, os ydych o ddifrif yn poeni am anghydraddoldebau sy'n wynebu pobl anabl, dylai'r Llywodraeth fod yn ddigon dewr i gyfaddef hynny a wynebu'r broblem hon yn uniongyrchol. Gadewch i ni weld graddau'r problemau a'r heriau go iawn sy'n wynebu pobl anabl yn ein cymunedau a gadewch inni weithredu ar hynny i wella ansawdd bywyd ar gyfer y bobl hynny yn hytrach na chael gwared ar y cronfeydd a'r annibyniaeth y maent wedi ymladd yn galed i'w cael.

Mae'r cyhoeddiad ddoe yn gyfle inni wneud hynny, felly gofynnaf i'r Llywodraeth fachu ar y cyfle hwn i edrych ar ddarlun cyfan y bobl anabl sy'n byw yng Nghymru. A wnewch chi sefydlu comisiwn i edrych ar arian ar gyfer pobl anabl yma yng Nghymru? Beth yw anghenion pobl anabl yng Nghymru heddiw? Beth yw'r heriau y maent yn eu hwynebu? A sut y gall eich Llywodraeth a'r Cynulliad hwn wneud pethau'n well a gwella ansawdd bywyd pobl anabl yma yng Nghymru? Ar hyn y dylem fod yn edrych, nid ar leihau'r arian prin a ddarperir i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

17:25

Ddoe, gwelsom gyfaddefiad gan y Llywodraeth nad oedd eu holl addewidion blaenorol ynglŷn â sut y byddai symud i ffwrdd oddi wrth system y gronfa byw'n annibynnol yn ddi-boen i'r sawl sy'n ei derbyn yn golygu dim. Daeth y datganiad panig, wedi'i ysgogi'n ddiau gan cynnig Plaid Cymru heddiw, nid yn gymaint o ganlyniad i bryder ynglŷn â'r bobl anabl dan sylw, ond oherwydd nad ydynt am deimlo cywilydd gwleidyddol. Ond sgwarnog oedd y datganiad hwnnw. Nid yw eu cyhoeddiad ond yn oedi diddymu'r grant byw'n annibynnol, nid yw'n ei atal, felly, mewn llawer o ffyrdd, mae'r fwyell yn dal i hongian uwchben pobl anabl.

Dros flwyddyn yn ôl, câi Llywodraeth Cymru ei rhybuddio am y problemau a oedd yn mynd i godi, ond anwybyddodd y rhybuddion a bwrw yn ei blaen beth bynnag. Felly, rhaid i chi fy esgusodi os nad wyf yn derbyn bod eu syndod neu eu hymddiheuriad am y problemau, y caledi a'r pryderon presennol yn ddilys. Nid wyf yn credu ei fod.

Gadewch imi ddweud rhywbeth am yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, yr eiliad hon, wrth inni drafod hyn. Ceir dynion a menywod—tebyg i chi a minnau—a allai fod yn eistedd yma gyda ni yn y Siambr hon oni bai bod y dis wedi glanio ar rif gwahanol, ond yn wahanol i ni, mae ganddynt anabledd sydd wedi eu hamddifadu o lawer o'r cyfleoedd, y rhyddid, y cyfleoedd a'r dewisiadau mewn bywyd y mae'r rhan fwyaf o bobl yn gallu eu cymryd yn ganiataol. Nid ydym i fod i edrych ar y bobl hyn fel ffigurau ar daenlen neu fel rhan o hafaliad cyfrifyddiaeth. Efallai fod y Llywodraeth hon yn diffinio'r rhai sy'n derbyn y grant byw'n annibynnol yn ôl eu hanabledd, ond maent yn llawer mwy na hynny; dyma bobl sydd â phob un o'r gobeithion, y breuddwydion, y dyheadau a'r dymuniadau ag sydd gennych chi a minnau bob dydd. Ac ni ellid cyhuddo'r ychydig o bobl sy'n cael y grant byw'n annibynnol o fod yn ddiog mewn unrhyw ffordd, o beidio â thrafferthu edrych am waith yn iawn neu o geisio chwarae'r system. Dyma'r bobl fwyaf difreintiedig a mwyaf agored i niwed yng Nghymru ac mae'r Llywodraeth Lafur hon yn mynd â'u harian i sybsideiddio coffrau cynghorau lleol. Mae dileu peth o'u gobaith a gwneud iddynt boeni ynglŷn â'r modd y mae eu bywydau yn mynd i fod hyd yn oed yn fwy anodd, mewn ymdrech i wneud i'r llyfrau ariannol edrych ychydig bach yn well, yn greulon ac yn gwbl gywilyddus.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymryddhau o'u cyfrifoldeb mewn ymarfer sinigaidd er mwyn torri costau. Mae'r unigolion a'r elusennau dan sylw oll yn erbyn y cam hwn, a phan fo Llafur yn dweud y bydd yr un swm o arian yn cael ei wario ar bobl anabl, yr hyn a olygant yw y byddant yn mynd ag arian oddi wrth unigolion sy'n ei dderbyn ac yn ei roi i awdurdodau lleol ei ddefnyddio fel y mynnant. Yna byddant yn beio'r awdurdod lleol os yw pethau'n mynd o'i le i bobl anabl. Cyfran yn unig o'r arian a arferai fynd yn uniongyrchol i'r bobl anabl a oedd yn ei dderbyn fydd yn cael ei wario ar gymorth ystyrlon mewn gwirionedd. Maent yn rhoi'r arian hwn i gynghorau er mwyn cadw'r dreth gyngor yn isel yn y gobaith y bydd pobl yn pleidleisio i Lafur mewn etholiadau lleol. Mae'r Llywodraeth yn gwybod na werir yr arian i gyd ar yr unigolyn y cafodd ei wario arno hyd yma—dyna'r rheswm dros ei wneud—fel arall, byddent yn gadael llonydd iddo. Ac mae'r post brys a gefais gan berson anabl ddoe, fel Aelodau eraill yn y lle hwn o bosibl, yn ategu hyn. Yn ystod y broses o golli ei grant byw'n annibynnol, mae hi wedi profi adolygiad annigonol a'i harian wedi cael ei dorri yn ei hanner. Cyn gynted ag y daeth yn amlwg y gallai'r cynghorau roi'r hyn nad oeddent yn ei wario ar y rhai a gâi'r grant mewn pot gofal cymdeithasol generig, mae'n dweud ei bod hi'n gwybod y byddai'r bobl fwyaf agored i niwed, fel hithau, ar eu colled. Mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:

Roeddwn yn gwybod na allai fod dim ond anghyfiawnder i bob un o'r rheini sy'n mynd i gael eu hailasesu. Pobl fel fi y mae eu bywydau'n mynd i newid i fod yn ddim ond bodoli ar lefel sylfaenol yn unig o fod yn fywydau cyflawn a gwerth chweil.

Byddai trethdalwyr Cymru yn hapusach o lawer yn meddwl bod eu trethi a enillwyd drwy waith caled yn talu i berson anabl gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn hytrach na thalu cyflog i weithiwr cyngor am ddweud wrth berson anabl eu bod yn mynd i gael llai o gymorth nag o'r blaen.

Felly, yn olaf, galwaf ar Lywodraeth Cymru i fod yn gynhwysol ac i beidio â gweithredu mewn ffordd a fydd yn gwneud i bobl feddwl eich bod yn anwybyddu anghenion pobl anabl, a hynny'n unig am nad oes digon ohonynt i bleidleisio yn eich erbyn ac effeithio ar ganlyniad eich ymgyrch etholiadol nesaf. Galwaf arnoch i newid eich penderfyniad i ddiddymu'r grant byw'n annibynnol. Diolch.

17:30

Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Mae pawb yng Nghymru yn haeddu cymorth i fyw'n annibynnol pan fydd angen y cymorth hwnnw arnynt. Sefydlwyd y gronfa byw'n annibynnol dros 30 mlynedd yn ôl ar draws y DU i gynorthwyo pobl anabl ag anghenion cymhleth i fyw'n annibynnol. Caeodd Llywodraeth y DU y cynllun hwn i newydd-ddyfodiaid yn 2010, ac yn 2015 fe wnaethant drosglwyddo cyfrifoldeb amdano i'r gweinyddiaethau datganoledig. Ar y pryd, er mwyn sicrhau dilyniant o ran y cymorth, sefydlodd Llywodraeth Cymru drefniadau dros dro drwy greu grant byw'n annibynnol ar gyfer Cymru. Ar sail ymarfer ymgynghori a gyda mewnbwn gan grŵp rhanddeiliaid, datblygwyd dull newydd o weithredu, lle byddai awdurdodau lleol yn cynllunio eu holl anghenion gofal a chymorth gyda'r rhai a oedd yn derbyn y grant byw'n annibynnol yng Nghymru, ac yn trefnu iddo gael ei ddarparu.

Felly, gan ddechrau yn 2017, sefydlwyd cyfnod pontio o ddwy flynedd i sefydlu'r trefniadau hyn. Erbyn diwedd Rhagfyr 2018, roedd tua 1,000 o'r 1,300 a arferai dderbyn y GBAC yn cael eu pecyn gofal cyfan wedi'i drefnu drwy awdurdodau lleol, a disgwylir i'r gweddill gwblhau'r cyfnod pontio hwnnw erbyn diwedd y mis nesaf. I'r rhan fwyaf o'r bobl hynny, mae eu pecyn gofal newydd yr un fath neu'n fwy na'u trefniadau blaenorol, ac i'r bobl hyn, mae'r cyfnod pontio sy'n mynd rhagddo yn cefnogi eu gallu i fyw'n annibynnol, fel y rhagwelwyd. Mewn rhai achosion, mae'n gwella hyn ymhellach nag o'r blaen. Fodd bynnag, i oddeutu 150 o bobl, mae eu cynllun gofal yn llai nag o'r blaen, a gallai hyn fod am resymau penodol. Er enghraifft, clywais am y defnydd effeithiol o dechnoleg fodern a ffocws ar alluogi nid dibyniaeth. Gwyddom o'n hymchwiliadau ein hunain ac o'r arolwg annibynnol o rai sy'n derbyn y grant a gynhaliwyd gan Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu fod y rhan fwyaf o bobl yn fodlon ar y canlyniadau hyn, ac mae hyn yn wir hyd yn oed mewn rhai achosion lle mae oriau gofal wedi lleihau, a hynny drwy gytundeb.

Fodd bynnag, mynegwyd pryderon, yn enwedig dros y misoedd diwethaf, am y cyfnod pontio, oherwydd ceir amrywio sylweddol ar draws Cymru—a gwn fod pobl eisoes wedi codi hynny yn y ddadl hon—gyda chanran y rhai sy'n derbyn y grant o fewn yr awdurdod lleol ac sydd wedi gweld gostyngiad yn eu horiau gofal yn dilyn adolygiad gofal trosiannol yn amrywio rhwng 0 y cant a 44 y cant. Ac ar y cam hwn, hoffwn innau hefyd ddiolch i Nathan Davies a'i gydweithwyr o ymgyrch #SaveWILG, am y sylwadau a wnaethant i Lywodraeth Cymru ar y mater hwn. Maent wedi tynnu ein sylw'n ddiflino at anfanteision y cynllun hwn. Rwyf wedi cyfarfod â Nathan ddwywaith yn y tair wythnos ddiwethaf i glywed ei bryderon a cheisio datblygu dull gweithredu newydd, ac roeddwn yn datblygu'r dull newydd hwn cyn y gwyddwn am y ddadl hon heddiw, ond rwy'n falch iawn ein bod yn cael y ddadl, oherwydd, yn amlwg, mae'n rhoi cyfle inni drafod beth y mae hyn yn ei olygu yn fwy manwl.

Rwyf wedi ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys y dystiolaeth a gasglwyd drwy adolygiad dwfn a gynhaliwyd gan fy rhagflaenydd, Huw Irranca-Davies, a hoffwn ddiolch iddo am bob ymdrech a wnaeth i edrych ar y mater hwn, ond rwyf wedi dod i'r casgliad fod yr amrywio rhwng awdurdodau lleol yn galw am newid cyfeiriad. Felly ysgrifennais at arweinwyr llywodraeth leol ddoe i ofyn am saib yn y cyfnod pontio ar unwaith, er mwyn cyflwyno trefniadau diwygiedig. Nawr, mae angen gweithio drwy fanylion y trefniadau newydd gyda'r partneriaid llywodraeth leol, ond yr elfennau allweddol rwy'n ceisio eu sicrhau yw'r rhain: yn gyntaf, cynigir asesiad gwaith cymdeithasol annibynnol i'r holl rai a arferai dderbyn y grant sy'n anhapus gyda'u canlyniadau a'u pecyn gofal a chymorth ac a hoffai ail farn. Bydd yr asesiad gwaith cymdeithasol annibynnol, i ateb cwestiwn Helen Mary Jones, yn cael ei wneud gan weithiwr cymdeithasol annibynnol nad yw'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol ac a fydd yn gwbl annibynnol. Bydd y farn annibynnol hon yn adlewyrchu'r trefniadau a oedd yn bodoli o dan y gronfa byw'n annibynnol ac felly bydd yn adfer system deiran ar gyfer gwneud penderfyniadau.

17:35

A gaf fi ofyn cwestiwn? Os yw'n anghywir, fel y mae, i Lywodraeth y DU ddatgan wrth berson ag anabledd difrifol fod yn rhaid iddynt gael eu hailasesu am fod y budd-daliadau wedi newid, i weld a ydynt yn gymwys ar gyfer y budd-dal olynol, pam y mae'n iawn yng Nghymru i ddweud wrth rywun a oedd yn gymwys i gael budd-dal ar sail eu hanabledd difrifol fod yn rhaid iddynt gael eu hailasesu? Rwy'n deall bod y rhai sydd wedi colli eu pecynnau gofal a chymorth bellach angen eu cael wedi'u hadfer a bod yna broses i'w dilyn, ond pam na allwn ddweud, oherwydd eu bod eisoes yn gymwys ar gyfer y gronfa byw'n annibynnol, yn union fel y lwfans byw i'r anabl yn Lloegr, nad oes yn rhaid iddynt fynd drwy'r broses o ailymgeisio, fel sy'n rhaid iddynt ei wneud gyda'r taliad annibyniaeth personol yn Lloegr?

Nid oes angen i neb gael ei ailasesu os nad ydynt eisiau hynny. Bydd pawb yn cael y cyfle, ond nid oes angen gwneud hynny o gwbl, a gan fod yr arolwg gofalwyr yn dangos bod nifer yn fodlon â'r hyn y maent yn ei gael, nid ydym yn rhagweld y bydd pawb eisiau cael eu hailasesu. Mae'n gyfle i'r bobl sydd am gael eu hailasesu, sy'n anhapus gyda'r trefniant, a chânt gyfle i gael gweithiwr cymdeithasol annibynnol.

Yn ail, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol am gost gweithwyr cymdeithasol annibynnol ac oriau gofal ychwanegol a allai ddeillio o'r asesiadau annibynnol hyn. Mae hyn yn golygu na all fod unrhyw gwestiwn fod y newidiadau i'r pecyn gofal a chymorth yn ymarfer torri costau. Yr egwyddor sylfaenol sy'n sail i gynnal yr asesiad annibynnol yw y dylai'r canlyniad fod yn gyson â'r canlyniadau llesiant y cytunwyd arnynt gyda'r bobl, a gan nad oes rhwystr ariannol, nid oes angen i neb gael gofal a chymorth llai ffafriol nag y byddent yn ei gael o dan grant byw'n annibynnol Cymru.

Mae'r trefniadau hyn yn cydnabod hawl hanesyddol y rhai a arferai dderbyn y grant. Mae'n newid sylweddol i'r dull o weithredu sy'n sicrhau y bydd anghenion y sawl a gâi'r grant yn flaenorol yn cael eu diwallu'n llawn ac nad yw adnoddau'n rhwystr i becyn llawn o ofal a chymorth. Yn wir, credaf fod y trefniadau newydd hyn yn llawer cryfach na grant byw'n annibynnol Cymru, a dyna pam yr ydym yn ceisio newid y cynnig sydd ger ein bron heddiw. Bydd gwelliant y Llywodraeth yn galluogi'r Cynulliad cyfan i gefnogi fy nghynllun i sefydlu rhywbeth gwell. Byddwn yn derbyn gwelliant y Ceidwadwyr heddiw.

Mae mynediad at asesiad annibynnol ac adnoddau newydd i gefnogi canlyniadau posibl yr asesiadau hyn yn ganolog i'r dull newydd hwn, ac mae Nathan Davies a'i gyd-aelodau o ymgyrch #SaveWILG yn cefnogi, mewn egwyddor, y dull y bwriadaf ei roi ar waith oherwydd y nodweddion allweddol hyn. Yn wir, maent wedi cyhoeddi eu bod yn croesawu'r hyn rwy'n ei ddweud yma heddiw. Ond wrth gwrs, rydym yn rhannu diddordeb cyffredin mewn sicrhau y caiff ei weithredu'n briodol, a dyna un o'r materion allweddol.

I fynd yn ôl at rai o'r cwestiynau eraill a godwyd yn ystod y ddadl: rydym wedi ymrwymo i fodel cymdeithasol a dyna y byddwn yn gweithio arno. Rwy'n credu bod Llyr wedi gofyn am y posibilrwydd o gael comisiwn ar bobl anabl. Gallaf ei sicrhau ein bod yn gwbl ymrwymedig i edrych ar anghenion pobl anabl ac yn y swydd hon, byddaf yn rhoi hynny ar y blaen yn yr hyn a wnawn. A gwn y bu rhai yn galw am imi ymddiheuro. Wel, nid wyf yn bwriadu ymddiheuro heddiw oherwydd lluniwyd y polisi hwn gyda phob ewyllys da. Nid yw'r rhai sy'n derbyn y grant—pobl sy'n anabl ac sydd wedi bod yn arwain yr ymgyrch—eisiau inni ymddiheuro. Maent yn llawenhau ynglŷn â'r hyn a gyflawnwyd gennym. Felly, credaf fod angen inni fwrw ymlaen heddiw i wneud yn siŵr fod y trefniadau newydd hyn yn gweithio a sicrhau bod pobl anabl, y grŵp anabl iawn hwn o bobl, yn cael y gofal gorau posibl y gallant ei gael yn ystod y trefniadau a gyflwynwyd gennym.

17:40

Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau, ac fe fyddaf yn gryno yn fy sylwadau i gloi. Pan gyflwynodd Plaid Cymru y ddadl hon, roeddem wedi cael blynyddoedd o anhyblygrwydd gan y Llywodraeth hon ar y cwestiwn hwn. Felly, rwy'n falch fod yr anhyblygrwydd hwnnw wedi dod i ben o'r diwedd. Nawr, fe glywsom y prynhawn yma faint o bobl sydd eisoes wedi gweld eu cymorth yn cael ei dorri, ac mae'n dda y bydd y bobl hyn yn cael cyfle i gael eu hachosion wedi'u hadolygu ar sail wirfoddol, ond rwy'n mawr obeithio y bydd y bobl sydd wedi gweld eu cymorth yn cael ei dorri yn ei gael wedi'i adfer yn llawn. Fel arall, rydych mewn perygl o roi pobl drwy broses anodd iawn eto i ddim diben o gwbl.

Cyfeiriodd Helen Mary Jones at ddiffyg hyder dealladwy y rhai sy'n derbyn y grant yn y broses hon. Gwnaeth bwynt ardderchog am ragrith y Torïaid hefyd ar fater budd-daliadau lles. O wrando arnynt hwy, mae fel pe na baent erioed wedi siarad â rhywun sydd wedi colli'r taliad annibyniaeth personol: maent mor bell ohoni. Mae cymaint o bobl wedi'u rhoi drwy uffern. Ddoe ddiwethaf, clywsom Lywodraeth y DU yn cyfaddef bod y cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd yn deillio o'r credyd cynhwysol. Does bosib nad yw hynny'n dweud y cyfan sydd angen inni ei wybod.

Diolch i Mike Hedges am ein hatgoffa am bolisi'r Blaid Lafur—diolch i chi am hynny. Hefyd tynnodd sylw at bryderon yr ymgyrchwyr ynghylch toriadau i'r ddarpariaeth hon gan awdurdodau lleol sy'n brin o arian ac o dan bwysau cyni. Er y gall fod gwarantau yno bellach yn y flwyddyn ariannol gyfredol, yr ofn yw beth fyddai wedi digwydd dros y tymor hwy, ac mae'n eithaf amlwg beth fyddai wedi digwydd, mewn gwirionedd. Fel y nododd fy nghyd-Aelod Llyr, mae'r Senedd yma yn rhoi cyfle inni wneud pethau'n wahanol, i godi pobl, i wella cymorth pobl. 'Mae pawb ohonom yn gwerthfawrogi ein hannibyniaeth', meddai. Wel, rwy'n dweud, 'Amen i hynny.' Mae comisiwn i edrych ar y darlun cyfan sy'n wynebu pobl anabl yn syniad ardderchog, ac rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf ohonom yn gallu cefnogi hynny.

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad, ac rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad a wnaeth ddoe. Dywedodd y Gweinidog y gallai rhai pobl fod wedi cael toriad i'w cymorth am nifer o resymau gwahanol. Edrychais ar ddadansoddiad yr adolygiad dwfn a gwelais mai un o'r rhesymau a roddwyd yn yr adolygiad hwnnw oedd y gallai rhai o'r bobl sy'n derbyn grant fod wedi cael toriad i'w lwfans am eu bod bellach yn cael cymorth mewn lleoliad gofal dydd. Wel, y broblem gyda hyn yw cyni, ac mae pob cyngor sy'n brin o arian yn torri eu darpariaeth gofal dydd oherwydd na allant ei fforddio. Felly, efallai na fydd yr hyn sy'n bodoli i bobl yn awr yn bodoli yn y dyfodol. Felly, roedd rhaid edrych ar hyn eto, a rhaid ystyried effaith penderfyniadau eraill a wnaethpwyd mewn mannau eraill yma yn ogystal. Ni ellir ystyried y cwestiwn hwn ar ei ben ei hun.

I bawb sydd wedi talu teyrnged i Nathan Davies, y cyfarfûm ag ef am y tro cyntaf yn ôl yn 2015, efallai fod y gair wedi'i orddefnyddio, ond rhaid i mi ddweud bod Nathan Davies yn ysbrydoliaeth wirioneddol yn y mater hwn. Rwy'n eithaf siŵr y byddwn yn ei weld yn parhau i ymgyrchu ar hawliau anabledd. Rwy'n mawr obeithio y byddwn yn gweld hynny beth bynnag, oherwydd mae'n effeithiol tu hwnt. Mae wedi dangos beth sy'n bosibl drwy ymgyrchu gwleidyddol. Fel y mae rhai o'r cyfranwyr wedi dweud eisoes, nid yw mater y gronfa byw'n annibynnol ar ben. Mae rhagor i'w wneud ar ôl y saib hwn, ac rwy'n siŵr y bydd Nathan yn ymgyrchu dros hynny.

17:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Carchardai a Charcharorion

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf felly yw dadl UKIP ar garchardai a charcharorion. Dwi'n galw ar Neil Hamilton i wneud y cynnig—Neil Hamilton. 

Cynnig NDM6966 Gareth Bennett

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai carchardai fod yn fannau diwygio ac adsefydlu, ac mai'r carchar yw'r gosb ar gyfer y rhai a gaiff eu dyfarnu'n euog o drosedd.

2. Yn penderfynu na ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett ar yr agenda heddiw. Hoffwn ddweud ar ddechrau'r ddadl hon fy mod yn credu'n gryf iawn mewn adsefydlu carcharorion a diwygio'r carchardai. Fel aelod o'r bar ers 40 mlynedd, cynrychiolais garcharorion ar sawl achlysur fel cyfreithiwr ar sail pro bono, ac roedd rhai ohonynt wedi'u cyhuddo o droseddau difrifol iawn, yn cynnwys llofruddiaeth ddwbl mewn un achos. Ac yna, wedi iddynt gael eu rhyddhau o'r carchar, rwyf wedi parhau i'w cynrychioli er mwyn cael cyfiawnder lle credaf eu bod wedi cael eu trin yn annheg ac wedi dioddef anghyfiawnder. Pe bawn yn credu bod unrhyw werth adsefydlol o sylwedd mewn cynnig pleidleisiau i rai sy'n bwrw dedfryd o garchar, buaswn yn bendant iawn o'i blaid, ond yn anffodus nid wyf yn credu hynny.

Mae'r newid yn y gyfraith sydd yn yr arfaeth yn Lloegr, a Chymru a'r Alban hefyd, yn deillio o achos a gyflwynwyd yn Llys Ewrop gan ddyn sydd mor anhaeddiannol ag y gallech ddychmygu—John Hirst, dyn a dreuliodd oes gyfan yn cyflawni troseddau treisgar ac a laddodd ddynes y bu'n aros gyda hi â bwyell tra'i fod ar barôl wedi dedfryd o ddwy flynedd am fwrgleriaeth, gan ei tharo saith gwaith, ac er mai am 11 diwrnod yn unig y bu'n lletya gyda hi, oherwydd ei bod hi'n swnian arno'n gyson pan âi allan, fe ddywedodd nad oedd yn teimlo unrhyw edifeirwch ac fe'i tarodd hi â'r fwyell. Plediodd yn ddieuog o lofruddiaeth ond yn euog o ddynladdiad. Yn rhyfeddol, cafodd hynny ei dderbyn gan bennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ar y pryd ar sail cyfrifoldeb lleiedig. Ond dywedodd y barnwr, wrth ei ddedfrydu i 15 mlynedd o garchar:

Nid oes gennyf amheuaeth nad ydych yn unigolyn trahaus a pheryglus gyda gwendid difrifol yn eich personoliaeth... Yn anffodus, nid yw hyn yn eich gwneud yn addas i gael triniaeth mewn ysbyty meddwl.

Yn y carchar, ymosododd Hirst ar swyddog carchar, gan arwain at ei drosglwyddo i uned ddiogelwch wedi'i neilltuo ar gyfer y carcharorion mwyaf peryglus a bu yn y carchar am 25 mlynedd oherwydd ymddygiad treisgar a throseddau eraill tra'i fod yn y carchar, cyn ei ryddhau yn 2004. Felly, nid wyf yn meddwl bod hwnnw'n ddechrau da iawn.

Aeth yr achos gerbron Llys Hawlau Dynol Ewrop ac yn y pen draw llwyddodd yn ei hawliad fod y gyfraith fel y mae ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig yn anigonol i ddiogelu hawliau dynol carcharorion. O dan brotocol 1, erthygl 3 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sydd ond yn dweud bod:

'Partïon Contractu Uchel'

—ac mae'r Deyrnas Unedig yn un ohonynt—

'yn ymgymryd i gynnal etholiadau rhydd ar gyfnodau rhesymol trwy bleidlais gyfrinachol, o dan amodau a fydd yn sicrhau mynegiant rhydd o farn y bobl wrth ddewis y ddeddfwrfa.'

Felly, dyna egwyddor gyffredinol fras iawn, fel sy'n arferol, mewn gwirionedd, yn iaith gyfreithiol y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sy'n rhoi rhyddid aruthrol i farnwyr ddehongli yn y modd y gwelant yn addas. Yn fy marn i, mae'n  drahaus o hawliau democrataidd sefydliadau fel Llywodraeth y Cynulliad neu Senedd y Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu ei bod yn beryglus fod actifiaeth farnwrol o'r fath yn digwydd oherwydd, pan fydd y barnwyr wedi gwneud penderfyniad, nid oes unrhyw apêl yn y pen draw, ac nid yw'r bobl yn gallu newid dyfarniadau barnwyr yn y llys Ewropeaidd oherwydd ni allwch wneud hynny oni bai eich bod yn gallu newid y confensiwn, ac mae hynny'n beth anodd eithriadol i'w wneud, a beth bynnag, mae'r iaith yn ei gwneud hi'n amhosibl ei wneud mewn achosion penodol, a dyna pam y credaf y dylem ddod â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ôl i'r wlad hon a deddfu ar gyfer ein Bil Hawliau ein hunain y gall unigolion a etholwyd yn ddemocrataidd ei newid mewn achosion priodol. Mae siarter hawliau sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd yn erthygl 39(2) yn darparu math tebyg o ddarpariaeth sydd hefyd wedi bod yn destun ymgyfreitha yn Llys Cyfiawnder Ewrop. Y cyfan y mae hwnnw'n ei ddweud yw bod Aelodau Senedd Ewrop

i'w hethol drwy hawl gyffredinol uniongyrchol mewn pleidlais rydd a chudd.

Yn achos Delvigne 2015, deilliodd canlyniad tebyg i achos Hirst ohono. Nawr, dywedodd yr Arglwydd Hoffman, nad yw'n ddadleuwr tanbaid dros yr asgell dde, fod Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi

methu gwrthsefyll y demtasiwn i ddyrchafu ei awdurdodaeth a gosod rheolau unffurf ar yr aelod-wladwriaethau,

a dywedodd Geoffrey Robertson QC, sy'n baragon o ryddfrydiaeth, mewn pamffled a ysgrifennodd o'r enw 'Why we need a Brtish Bill of Rights' fod y Confensiwn Ewropeaidd yn methu

cynnwys yr hawliau a enillodd y Senedd drwy'r "Chwyldro Gogoneddus" yn 1689,

ac mae tystiolaeth gynyddol yn bodoli fod geiriau slec y confensiwn Ewropeaidd yn niweidio hawliau sylfaenol eraill, ac mae'r confensiwn mewn rhai ffyrdd yn hen ffasiwn.

Felly, beth bynnag y mae rhywun yn ei feddwl o'r mater yn ei hanfod—[Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf.

17:50

Neil, diolch yn fawr iawn am ildio. Rwyf am wneud y sylw, hyd yn oed o dan ddyfarniad Llys Hawliau Dynol Ewrop, ac yn eu dyfarniadau blaenorol, mae yna wledydd yn Ewrop sy'n gweithredu heb unrhyw gyfyngiadau ar hawliau pleidleisio—etholfraint gyffredinol ar gyfer carcharorion i bob pwrpas. Ceir eraill sy'n gweithredu gyda chyfyngiadau. Maent wedi dehongli yn union yr un penderfyniad mewn ffyrdd gwahanol iawn. Maent wedi cymhwyso eu sofraniaeth hyd yn oed o dan y dyfarniad hwnnw.

Nid oes ganddynt sofraniaeth i wneud y penderfyniad na ddylai unrhyw un sy'n bwrw dedfryd o garchar gael yr hawl i bleidleisio, ac yn fy marn i mae'n gwbl briodol mewn gwlad ddemocrataidd y dylai cynrychiolwyr etholedig y bobl allu gwneud y dewis hwnnw os ydynt o'r farn ei fod er budd gorau eu pobl eu hunain. Oherwydd mae'r Confensiwn Ewropeaidd wrth gwrs yn rhoi'r hawl i ryddid na fyddai neb yn dadlau yn ei erbyn, ac mae pawb yn credu ei fod yn beth da. Ond wrth amddifadu rhywun o'i ryddid, rydym yn eu hamddifadu o hawliau sylfaenol eraill o dan y confensiwn neu'r siarter hawliau sylfaenol. Mae carcharorion yn cadw'r hawl i fywyd teuluol yn y carchar; ni chânt gasglu eu plant o'r ysgol na rhoi cusan nos da iddynt. Mae ganddynt hawl i ryddid mynegiant a rhyddid crefyddol, ond drwy ddiffiniad, maent yn colli'r hawl i ryddid i ymgynnull.

Gan gymryd eu bod wedi'u heuogfarnu'n briodol, wrth gwrs, roedd gan unrhyw un sydd yn y carchar ddewis i'w wneud, cyn iddo ef neu hi gyflawni trosedd, y gallent beidio â chyflawni'r drosedd a gweithredu o fewn y gyfraith mewn gwirionedd, gan wybod, pe baent yn cael eu heuogfarnu a'u hanfon i garchar mai un o'r pethau y byddent yn eu colli yn ogystal â'u rhyddid i symud o amgylch y tu allan i waliau'r carchar yw'r rhyddid i bleidleisio. Mae'n ymddangos i mi fod hwnnw'n safbwynt cwbl dderbyniol gan unrhyw un sy'n ennyn ymddiriedaeth y bobl a etholwyd ganddynt, fel rydym ni yn y sefydliad hwn yn ei wneud. Yn wir, dywedodd Chris Bryant, yr Aelod Seneddol dros y Rhondda, mewn araith yn Nhŷ’r Cyffredin yn 2011:

nid rôl Llys Hawliau Dynol Ewrop yw deddfu ynghylch pwy sy'n cael pleidleisio yn y DU. Fel y dadleuodd Llywydd y Llys ac eraill yn eu barn anghydsyniol ar Hirst,

oherwydd mai mwyafrif o 12 i bump a arweiniodd at ddyfarniad Hirst, 

mae'n hanfodol cadw mewn cof nad yw'r llys yn ddeddfwrfa a dylai fod yn ofalus i beidio ag ymgymryd â swyddogaethau deddfwriaethol.

Dyna pam yr ydym wedi dadlau—

dyma a ddywedodd Chris Bryant—

yn y Siambr Fawr—

a sôn am Lywodraeth Lafur a wnâi—

Dyna pam yr ydym wedi dadlau yn y Siambr Fawr fod y Llys yn gweithredu ultra vires a pham y credwn mai mater i'r Senedd—a'r Senedd yn unig—yw deddfu ar hyn ar gyfer y DU.

Rwy'n ildio.

17:55

Nid wyf yn meddwl y dylem boeni'n ormodol am Lys Cyfiawnder Ewrop. Rydym ar fin ei adael. Mae gennych chi a llawer o bobl eraill, fel Theresa May, obsesiwn mawr ynglŷn â hyn. Gadewch i ni edrych ar yr amcan, sef cefnogi ailintegreiddiad carcharorion i fywyd normal a mynd i'r afael â'n record warthus ar droseddu parhaus. Yn amlwg, rydym yn gwario llawer o arian ar rywbeth nad yw'n gweithio.

Rwy'n cytuno'n gryf â'r pwynt olaf y mae Jenny Rathbone yn ei wneud. Pe bawn yn meddwl, fel y dechreuais drwy ddweud, fod unrhyw werth adsefydlol mawr i roi hawl i bleidleisio i garcharorion, buaswn yn cefnogi gwneud hynny. Nid wyf yn meddwl bod, mewn gwirionedd, ac rwy'n credu y dylai fod yn agored i gymdeithas fynegi ei hatgasedd tuag at droseddau drwy gael gwared ar hawl i bleidleisio y rheini sydd wedi colli hawliau eraill yn rhinwedd y ffaith eu bod yn y carchar. Yn sicr, dylai fod yn fater i sefydliadau fel y Cynulliad Cenedlaethol wneud y penderfyniad hwnnw, nid barnwyr anetholedig mewn llysoedd yn Strasbourg. Sôn am Lys Hawliau Dynol Ewrop a wnawn yma, nid Llys Cyfiawnder Ewrop. Felly, nid fyddwn yn gadael Cyngor Ewrop a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a bydd yn rhaid i ni barhau i gydymffurfio â phenderfyniadau'r barnwyr hynny.

Mae'r Llywodraeth ar lefel y DU wedi cynnig rhai mân newidiadau sydd wedi eu derbyn bellach gan Gyngor y Gweinidogion fel rhai sy'n cyflawni'r dyfarniad yn achos Hirst. Maent yn gymharol gyfyngedig o ran eu heffaith, ac fe'u darllenaf ar gyfer y cofnod. Mae yna bump ohonynt. Gall carcharorion ar remánd bleidleisio. Gall carcharorion a anfonwyd i'r carchar am ddirmyg llys bleidleisio. Gall carcharorion a anfonwyd i'r carchar am fethu talu dirwyon bleidleisio. Gall carcharorion cymwys a gafodd eu rhyddhau ar drwydded dros dro bleidleisio. A gall carcharorion a ryddhawyd ar gyrffyw cartref bleidleisio. I gydymffurfio â dyfarniad y llys Ewropeaidd, pan fo Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei chynigion ar ôl ystyried adroddiad y pwyllgor cydraddoldebau, rwy'n gobeithio nad ânt gam ymhellach na hynny, gan na chredaf fod unrhyw gefnogaeth gyhoeddus o gwbl i roi'r bleidlais i garcharorion. Pe baem yn cael pleidlais i'r bobl ar y mater hwn, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai mwyafrif trwm iawn yn erbyn gwneud hynny. Felly, rwy'n credu bod gan y Llywodraeth gyfrifoldeb trwm ar ei hysgwyddau os yw'n dymuno cynrychioli'r bobl go iawn, yn enwedig mewn etholaethau Llafur, i gadw'r ddeddfwriaeth i'r lleiafswm posibl.

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Dwi'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai carchardai fod yn lleoedd i ddiwygio ac adsefydlu.

2. Yn cefnogi’r egwyddor o hawliau pleidleisio i garcharorion yn etholiadau Cymru, ond yn disgwyl am adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar—Mark Isherwood.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu'r ffocws gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu.

Yn nodi bod y Pwyllgor Cydraddoldeb,  Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad cyfredol i hawliau pleidleisio i garcharorion.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ym mhwynt 2, dileu 'na ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru' a rhoi yn ei le 'na ddylai hawliau pleidleisio cyfredol carcharorion gael eu hymestyn i etholiadau Cymru yn y dyfodol'.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Lywydd. Dylai carchardai fod yn lleoedd o ddiwygio ac adsefydlu, ac mae carchar yn gosb i'r rhai a geir yn euog o drosedd. Mae Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU yn canolbwyntio ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu. Fis Awst diwethaf, mynychais y digwyddiad yn Wrecsam a gynhaliwyd gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi yng Nghymru i drafod y papur 'Strengthening probation, building confidence', a fydd yn ymdrin â'r holl wasanaethau rheoli troseddwyr yng Nghymru o fewn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Bydd y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi yng Nghymru yn archwilio opsiynau i gomisiynu gwasanaethau adsefydlu, megis ymyriadau a gwneud iawn â'r gymuned. Byddant yn adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd ganddynt eisoes yng Nghymru drwy eu cyfarwyddiaeth garchardai a phrawf sefydledig a thrwy bartneriaethau lleol llwyddiannus sy'n bodoli eisoes, gan adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn well.

Mae diwygio carchardai Llywodraeth y DU yn ymwneud â chael adeiladau sy'n addas ar gyfer gofynion heddiw yn lle carchardai aneffeithiol sy'n heneiddio. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod carchardai cymunedol ar gyfer menywod yng Nghymru a Lloegr, ac yn hytrach, bydd yn treialu pump o ganolfannau preswyl i helpu troseddwyr benywaidd gyda materion megis adsefydlu cyffuriau a dod o hyd i waith. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd yn ystyried gwahardd dedfrydau byr o garchar yng Nghymru a Lloegr, gyda Gweinidogion yn datgan bod carcharu am gyfnod byr yn llai effeithiol o ran lleihau aildroseddu na chosbau cymunedol.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i hawliau pleidleisio ar gyfer carcharorion, ac eto dyma'r ail ddadl mewn pythefnos i geisio achub y blaen ar hyn. Rwy'n cynnig gwelliant 2 yn unol â hynny. Mewn arolwg YouGov yn 2017, dim ond 9 y cant o bobl yng Nghymru a ddywedodd y dylid caniatáu i bob carcharor bleidleisio. Nid cael terfynau sy'n cyfrannu at droseddu, ond diffyg terfynau. Mae hawliau'n mynd gyda chyfrifoldebau, ac mae peidio â phleidleisio ond yn un o ffeithiau bywyd sy'n deillio o fod yn y carchar, gan adlewyrchu penderfyniad y gymuned nad yw'r unigolyn dan sylw yn addas i gymryd rhan ym mhroses y gymuned o wneud penderfyniadau. Gall carcharorion yn y gymuned ar drwydded dros dro bleidleisio bellach, ac mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dweud y dylid ei gwneud yn fwy eglur i bobl sy'n cael dedfrydau o garchar na fydd ganddynt hawl i bleidleisio tra byddant yn y carchar. Mae gan garcharorion ar remánd heb eu heuogfarnu a charcharorion sifil a garcharwyd am droseddau fel dirmyg llys hawl i bleidleisio eisoes drwy bleidlais bost, er mai ychydig iawn sy'n gwneud.

Yng ngharchar y Parc, clywsom y byddai ychydig o garcharorion naill ai'n defnyddio'r hawl i bleidleisio, neu'n ei gweld fel cymhelliad i adsefydlu. Ni ddylid ymestyn hawliau pleidleisio i garcharorion presennol yng Nghymru y tu hwnt i hyn, ac rwy'n cynnig gwelliant 3 yn unol â hynny. Yn hytrach, dylai ein ffocws fod ar roi cyfleoedd i droseddwyr gyfrannu, gwneud iawn ac adeiladu bywydau cadarnhaol.

Ym mis Rhagfyr, cynhaliais ddigwyddiad yn y Cynulliad gydag Ymddiriedolaeth Adeiladu Ieuenctid Cymru a Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, i ddathlu llwyddiant prosiect Clean Slate Cymru, a lansio pecyn cymorth Clean Slate Cymru. Nod prosiect Clean Slate Cymru yw cynorthwyo pobl sydd ag euogfarnau i gael gwaith yn y diwydiant adeiladu, ac mae pecyn cymorth Clean Slate Cymru yn cynnig arweiniad ymarferol ar sut y gall y diwydiant adeiladu ymgysylltu â chyn-droseddwyr mewn carchardai a chymunedau ledled Cymru, a sicrhau gwerth cymdeithasol. Fel rhan o'r prosiect, cafodd cynlluniau peilot eu cyflwyno ledled Cymru, gan gynnwys diwrnod diwydiant yng Ngharchar EM y Parc a ffeiriau gyrfaoedd a lleoliadau gwaith yng Ngharchar EM Berwyn.

Wedi agor yr adain gyntaf yn y DU i gyn-bersonél y lluoedd arfog yn 2015, mae carchar y Parc yn darparu ffocws ar gyfer gwasanaethau cymorth arbenigol i gyn-filwyr sy'n gweithio y tu allan i'r carchar, megis gwasanaethau mentora cymheiriaid, cyflogadwyedd a phontio i fywyd ar y tu allan. Mae gan Supporting Transition of Military Personnel, neu SToMP, ddull gweithredu system gyfan ar gyfer cyn-bersonél y lluoedd arfog, sy'n eu cefnogi o alw'r heddlu i ailsefydlu yn y gymuned. Mae SToMP wedi gweithredu llwybr carcharororion Cymru gyfan i sicrhau bod cyn-bersonél y lluoedd arfog yn cael eu hadnabod yn gyson, a'u cefnogi ar draws yr holl garchardai yng Nghymru.

Fis Tachwedd diwethaf, y Parc oedd yr ail garchar yn y DU a'r cyntaf yng Nghymru i ennill achrediad awtistiaeth gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth. Yn anffodus, er hynny, eto yr wythnos hon tynnwyd sylw at gyflwr y gwasanaethau datganoledig ar ôl dau ddegawd o dan arweiniad Llywodraeth Lafur Cymru gan adroddiad annibynnol damniol a ddarganfu fod hanner y dynion a ryddhawyd o garchar EM Caerdydd heb unman i aros pan gânt eu rhyddhau, a bydd llawer yn aildroseddu'n fwriadol er mwyn cael eu hanfon yn ôl i'r carchar. Dyna'r math o fethiant y mae'n rhaid inni ganolbwyntio arno, gan ddefnyddio'r math o brosiectau y cyfeiriais atynt, yn hytrach na mesurau eraill a allai fodloni hunanfalchder unigolion, ond na fydd yn gwneud fawr iawn o wahaniaeth.      

18:00

Mae'n dda gallu siarad yn y ddadl hon heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Lywydd, oherwydd, fel y crybwyllwyd eisoes, dyma'r ail ddadl mewn amser byr sy'n ymwneud â gwaith y mae'r pwyllgor a gadeirir gennyf yn ei wneud ar hyn o bryd ynglŷn ag a ddylai carcharorion yng Nghymru gael hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau lleol. Fel rhan o'r gwaith hwnnw, rydym yn ymdrin â'r materion sy'n codi yn eu cyfanrwydd, i weld a ddylid codi'r cyfyngiadau'n gyfan gwbl ar hawl carcharorion i bleidleisio, neu a ddylid gwahaniaethu rhwng carcharorion a fyddai'n cael yr hawl honno a'r rhai na fyddent yn ei chael. Felly, buom yn edrych ar faterion megis y posibilrwydd o ddefnyddio categorïau o garcharor ar sail y ddedfryd a gânt, neu eu dyddiadau rhyddhau, neu'r math o drosedd, i benderfynu a ddylent bleidleisio neu beidio.

Rydym eto i ddod i farn gyfunol. Mae gennym safbwynt y DU, fel y'i hamlinellwyd, a thybiaf fod hwnnw'n ddefnyddiol fel man cychwyn posibl. Rydym wedi cynnal ymweliadau, un â charchar y Parc, ac un yfory i Eastwood Park i edrych ar garcharorion benywaidd a gedwir yn y carchar hwnnw yn swydd Gaerloyw. Yn sicr, roedd yr ymweliad â'r Parc yn addysgiadol iawn o ran gallu clywed gan y carcharorion a staff carchardai, ac roedd cyfarwyddwr y carchar yn dweud yn eithaf diamwys ei bod hi'n credu y dylai pob carcharor gael yr hawl i bleidleisio ar sail hawliau dynol, ac nad oedd rhai o'r ystyriaethau ymarferol mor anodd yn logistaidd nes eu bod yn atal hynny rhag digwydd, ac y byddai'n rhaid gwneud trefniadau angenrheidiol, yn ei barn hi, ac y gellid eu gwneud. Felly, roedd hwnnw'n ymweliad diddorol iawn, ac rwy'n siŵr y bydd yfory'n ddiddorol iawn hefyd.

Credaf hefyd, Lywydd, y bu'n eithaf addysgiadol o ran ein proses ymgynghori, o ran gwrando ar y cyhoedd a sefydliadau sydd â barn ar hyn, oherwydd mewn gwirionedd, mae wedi bod yn eithaf cytbwys, o ran y rhai sydd dros ac yn erbyn rhoi hawl i bleidleisio i garcharorion, ac a ddylid gwahaniaethu ac ar ba sail y dylid gwahaniaethu. Ac yn sicr nid yw'n ategu'r farn fod pobl yn unfrydol bron na ddylai carcharorion gael hawl i bleidleisio o gwbl. Mae wedi bod yn llawer mwy amrywiol na hynny.

Felly, rydym ynghanol y broses o gymryd tystiolaeth lafar ac ynghanol ymchwiliad y pwyllgor. Byddwn yn cymryd rhagor o dystiolaeth lafar gan amryw o sefydliadau, a gan y Gweinidog maes o law wrth gwrs. Ein nod yw cyhoeddi ein hadroddiad ar ôl toriad y Pasg. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr, yn y dadleuon a'r trafodaethau rydym yn eu cael—y ddadl flaenorol a'r ddadl hon, Lywydd—fod gwaith y pwyllgor yn cael ei gydnabod yn briodol a'i barchu yn wir, oherwydd rydym yn mynd drwy broses bwysig iawn yn fy marn i. Ac rwy'n credu y bydd yn rhoi corff o dystiolaeth ar y bwrdd y gobeithiaf y bydd pob Aelod yn edrych arno'n ofalus iawn maes o law cyn ffurfio eu barn eu hunain ar y materion hyn yn llawn.

18:05

Nawr, mae rhoi pleidlais i garcharorion yn fater pwysig yn fy marn i. Mae gennyf ychydig o bryderon ynglŷn â chyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd, fel y mae John Griffiths newydd esbonio, mae ymchwiliad yn mynd rhagddo ar y mater hwn gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau rwy'n aelod ohono. Yn gyffredinol, nid wyf yn credu bod achub y blaen ar ganlyniad ymchwiliad yn arfer da, ond a bod yn deg, cawsom ddadl ar nifer o faterion amrywiol yn ymwneud â chyfiawnder troseddol yn y Siambr ychydig wythnosau yn ôl, ac nid ni a gyflwynodd honno, ond yn sicr roedd y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn cyfleu negeseuon cryf ar y mater hwn. Felly, credaf fod y ddadl eisoes wedi achub y blaen ar yr ymchwiliad i ryw raddau.

I ailadrodd yr hyn a ddywedwyd bythefnos yn ôl, dywedodd Jane Hutt ar ran y Blaid Lafur fod Llywodraeth Cymru yn aros am ganlyniad ein hymchwiliad ond ar yr un pryd roedd yn paratoi Bil Llywodraeth ar y mater hwn. Wel, mae Bil yn ymrwymiad mawr ac nid ydych yn paratoi Bil os nad ydych o ddifrif yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth. Felly, credaf fod hyn yn dweud wrthym fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi penderfynu y bydd yn ymestyn yr hawl i garcharorion bleidleisio, er nad ydynt yn dweud hynny'n benodol, er gwaethaf y ffaith nad ydym wedi gorffen ymchwiliad y pwyllgor eto.

O'u rhan hwy, roedd Plaid Cymru, a gyflwynodd y ddadl, yn awyddus i gynnwys hawl carcharorion i bleidleisio yng ngeiriad eu cynnig. Rhoddodd hyn arwydd cryf i ni, rwy'n credu, eu bod yn dymuno ymestyn yr etholfraint i garcharorion bleidleisio yng Nghymru. Felly, unwaith eto, credaf fod hyn yn achub y blaen ar yr ymchwiliad, mewn ysbryd yn sicr os nad o ran yr union eiriad. Felly, credaf y gallwn gyfiawnhau cyflwyno'r ddadl hon heddiw. Wrth gwrs, byddaf yn ymdrechu i barhau i wrando ar dystiolaeth ymchwiliad y pwyllgor.

Nawr, mae fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton, wedi nodi rhai o'r prif wrthwynebiadau moesol i ganiatáu i garcharorion bleidleisio o gwbl, sef safbwynt UKIP yn y bôn—ein bod ymhell o fod eisiau ymestyn y bleidlais i gynnwys carcharorion, ac yn hytrach, y byddai'n well gennym anwybyddu dyfarniad hurt Llys Hawliau Dynol Ewrop ar hyn a pheidio â chaniatáu i unrhyw garcharor bleidleisio o gwbl. Os mai'r gwrthwynebiad mawr i hyn yw bod angen inni gydymffurfio â Llys Hawliau Dynol Ewrop, dyma yw ein safbwynt: rydym yn gadael yr UE a Llys Cyfiawnder Ewrop er mwyn cael rheolaeth dros ein deddfau ein hunain, wedi'r cyfan dyna y pleidleisiodd y mwyafrif o bobl y DU drosto. Felly, pam na allwn adael Llys Hawliau Dynol Ewrop hefyd a chael ein bil hawliau Prydeinig ein hunain? Felly, dyma gyd-destun gwleidyddol ein gwrthwynebiad i'r egwyddor o roi hawl i garcharorion gael pleidleisio.

Nawr, yr hyn y mae ein hymchwiliad eisoes wedi'i ddangos hyd yn hyn yw'r nifer o anawsterau technegol a logistaidd sy'n debygol o godi os ewch ar hyd y llwybr o geisio ymestyn yr etholfraint i gynnwys carcharorion. Ceir anawsterau mawr, er enghraifft, mewn perthynas â chyfeiriad cofrestredig carcharorion. Ceir carcharorion gyda chyfeiriadau yng Nghymru sydd mewn carchardai yn Lloegr. Felly, gallai rhai carcharorion a gedwir mewn carchardai yn Lloegr gael caniatâd i bleidleisio mewn etholiad Cynulliad Cymru. Bydd hynny'n anodd i'w drefnu. Hyd yn oed os oes ganddynt y bleidlais honno'n ddamcaniaethol, a fyddant yn gallu bwrw eu pleidlais yn ymarferol? Ac fel arall, ceir carcharorion o Loegr yng ngharchardai Cymru na fydd ganddynt hawl i bleidleisio mewn etholiad Cynulliad.

A yw'n ymwybodol fod carcharorion eisoes yn arfer eu hawl i bleidleisio? Maent yn tueddu i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy.

18:10

Yn ôl yr hyn a gofiaf o'n hymchwiliad yng Nghymru, estynnwyd yr hawl i bleidleisio gan y dyfarniad hwnnw gan Lys Hawliau Dynol Ewrop a'i chymhwyso ar gyfer—

Rwy'n meddwl bod anhawster sylfaenol—[Torri ar draws.] Mae anhawster sylfaenol gyda charcharorion ar remánd, ond mae'n bwynt diddorol y mae angen inni edrych arno.

Nawr, os caf ddychwelyd at yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud, ar y llaw arall, ceir carcharorion o Loegr yng ngharchardai Cymru na fydd yn cael pleidleisio mewn etholiad Cynulliad. Felly, mewn llawer o garchardai, bydd gennych garcharorion yn yr un adain, a rhai ohonynt yn cael pleidleisio ac eraill na fyddent yn cael gwneud hynny. Yr hyn na fydd gennych fydd cyfle cyfartal, a gallai'r anghydraddoldeb arwain o bosibl at ostwng morâl yn yr adain yn hytrach na'i godi, felly rwy'n credu bod angen inni droedio'n ofalus yma.

Ymwelsom â charchar y Parc, fel y soniodd John Griffiths. Cyfarfuom â charcharorion, cyfarfuom â swyddogion carchar a chyfarfuom â chyfarwyddwr  y carchar. Nawr, mae ganddynt system freintiau yn y carchar hwnnw. Tybed a fyddai'r system freintiau o unrhyw ddefnydd i benderfynu a ellid caniatáu i garcharor bleidleisio ai peidio—efallai ei fod yn syniad naïf. Credai cyfarwyddwr y carchar fod hyn yn anymarferol iawn ac ar ôl ystyried, credaf y byddai'n annhebygol gan eich bod yn rhoi hawl i gyfarwyddwr y carchar a swyddogion y carchar i ddweud pwy sy'n cael a phwy nad yw'n cael pleidleisio, sy'n sylfaenol annemocrataidd mae'n debyg. Felly, o gofio'r holl anawsterau hyn, cawn ein harwain wedyn i mewn i ddyfroedd tywyll iawn caniatáu i bob carcharor bleidleisio. Credaf fy mod yn cytuno â'r pwyntiau a nododd Mark Isherwood yn ystod y ddadl flaenorol yn y Siambr nad yw'r posibilrwydd y caiff troseddwyr treisgar fel llofruddion a threiswyr rhywiol bleidlais yn debygol o ennill llawer o gefnogaeth o blith yr etholwyr yn ehangach. A dyfynnodd eto heddiw y ffigur o 9 y cant o arolwg YouGov a gynhaliwyd yn 2017. Felly, rwy'n credu mai ychydig iawn o gefnogaeth gyhoeddus sydd yna i hyn. Nid oedd ym maniffesto Llafur na Phlaid Cymru; credaf mai haerllugrwydd braidd yw ceisio cyflwyno hyn o dan y radar. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n dod at hyn nid oherwydd gwrthwynebiad llwyr i'r gair 'Ewrop' a bod unrhyw sefydliad sy'n cynnwys y disgrifydd hwnnw'n anghywir felly fel mater o egwyddor ac yn ymarferol. Mae fy ymagwedd ychydig yn wahanol, er bod cyflwyniad Neil Hamilton i'r ddadl hon o leiaf wedi ceisio dadlau ar sail egwyddor yn ogystal â chwifio penawdau papur newydd arnom.

Ond gadewch i mi ddweud hyn: credaf fod hyn yn bwysig—pan wneuthum ddatganiad i'r lle hwn fel Gweinidog ar 30 Ionawr y llynedd, gwneuthum ddatganiad y gobeithiwn ei fod wedi'i wreiddio mewn egwyddor a'r ymrwymiad athronyddol i gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb a ddylai fod yn nodweddu'r lle hwn. Os ydym i fod yn Senedd yn y dyfodol, mae'r penderfyniadau a wnawn a'r ymagwedd a gymerwn tuag at y penderfyniadau hynny o bwys sylfaenol i ddinasyddion y wlad hon. I mi, pan fyddwn yn carcharu rhywun, pan fyddwn yn mynd â'u rhyddid oddi wrthynt, rydym yn mynd â'u rhyddid er mwyn gwneud rhai o'r pethau a ddisgrifiodd Neil Hamilton. Yr hyn nad ydym yn ei wneud, a'r hyn na ddylem byth geisio ei wneud, yw mynd â'u hunaniaeth oddi wrthynt, mynd â'u dinasyddiaeth oddi wrthynt, mynd â'u hawliau oddi wrthynt fel unigolion ac fel bodau dynol. Mae hwnnw'n gynnig gwahanol. Y gosb y maent yn ei chael yw colli eu rhyddid, a dyna'r pwynt y dylem ddechrau gydag ef.

Ond dylem hefyd ddechrau ar bwynt gwahanol o egwyddor, pwynt o egwyddor sydd wedi'i wreiddio mewn adsefydlu, ac un o rannau gwannaf y system sydd gennym ar gyfer ymdrin â chyfiawnder troseddol yn y wlad hon yw'r gwasanaethau 'drwy'r gât' wrth i garcharorion ddod at ddiwedd eu dedfryd a'u dwyn yn ôl i'r gymuned, a buom yn trafod hynny gyda chwestiwn brys ac amserol yn gynharach y prynhawn yma. I mi, pan edrychaf ar y mater hwn, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i drin pobl drwy gydol eu cyfnod yn y carchar fel dinasyddion y wlad hon ac fel dinasyddion rydym yn gobeithio y byddant yn chwarae rhan bwysig yn eu cymunedau yn y dyfodol, fel dinasyddion cyfrifol. Teimlwn fod y cynnig a wneuthum i'r lle hwn yn lle rhesymol i fod, lle bydd rhywun sydd wedi'i ddedfrydu i garchar am gyfnod o amser a lle rhagwelir y bydd eu dyddiad rhyddhau o fewn tymor yr awdurdod sy'n cael ei ethol—llywodraeth leol yn yr achos hwn, wrth gwrs—byddai'n gallu pleidleisio mewn etholiad i'r awdurdod hwnnw. Byddant yn ddinasyddion sy'n byw yn y lle hwnnw yn ystod tymor yr awdurdod hwnnw sy'n cael ei ethol, ac roeddwn yn meddwl bod honno'n egwyddor go bwysig, oherwydd nid ydym yn amddifadu neb o'u hawl i bleidleisio a gedwir yn y carchar dros gyfnod estynedig o amser—dedfryd am oes neu ddedfryd hir—ond mewn gwirionedd rydym yn galluogi rhywun i ddewis yr awdurdod lleol, yn yr achos hwn, ac i gymryd rhan mewn etholiad lle maent hwy eu hunain yn byw yn y gymuned honno yn ystod tymor yr awdurdod hwnnw, ac mae hwnnw'n bwynt pwysig i'w wneud. Rydym eisoes yn gwneud hyn gyda charcharorion ar remánd, wrth gwrs; maent eisoes yn cymryd rhan ac yn gallu gwneud hynny. Maent yn gwneud hynny gyda chyfeiriad cysylltiedig—ni cheir yr un o'r problemau y ceisiodd arweinydd UKIP eu mynegi yn ei gyfraniad. Nid oes yr un o'r materion hyn yn berthnasol ac nid ydynt wedi bod yn berthnasol ar unrhyw adeg, lle mae anawsterau wedi codi. A gadewch imi ddweud hyn: mae'n bwysig ein bod yn gwneud hyn mewn ffordd resymegol sydd wedi'i gwreiddio mewn egwyddor, sydd wedi'i gwreiddio mewn ymrwymiad athronyddol i gyfiawnder cymdeithasol, ond hefyd lle ceir cymhwysiad ymarferol.

Mae'n amlwg i mi fod y trefniadau a'r strwythurau eisoes yn eu lle, ac yn sicr, fel Gweinidog, roeddwn yn glir iawn nad oedd unrhyw rwystrau ymarferol mawr i allu cyflawni hyn. Mae'r strwythurau sydd gennym ar waith, hawl carcharor i gael gohebiaeth gan swyddog canlyniadau etholiadol, eisoes yn bodoli, mae hawl carcharor i gael yr ohebiaeth yn breifat ac i wneud penderfyniad ar sail yr ohebiaeth honno eisoes yn bodoli. Mae'r Comisiwn Etholiadol eisoes wedi gwneud asesiad o sut y gallai hyn weithredu yn ymarferol, a diwygiwyd y ddeddfwriaeth berthnasol eisoes yn 2000 i alluogi hyn i ddigwydd. Felly, nid oes unrhyw gymwysiadau ymarferol na phroblemau ymarferol ynghlwm wrth y mater hwn. Pwy ydym fel gwlad, fel pobl, fel cymuned sy'n bwysig i mi. Rwyf am weld carcharorion sy'n cael eu cadw ar hyn o bryd mewn carchardai naill ai yma neu yn rhywle arall yn cael eu rhyddhau ar bwynt lle byddant yn dod yn ddinasyddion cyfrifol yn y wlad hon. Ac mae angen inni ddechrau eu trin fel dinasyddion cyfrifol nid ar y pwynt y cânt eu rhyddhau, ond ar y pwynt lle maent yn dal i fod wedi'u carcharu, lle gallwn ddechrau ar y broses o adsefydlu.

Un o'r argyfyngau go iawn—ac rwy'n siŵr fod Mr Hamilton yn ymwybodol o hyn—yw bod adsefydlu bob amser yn dechrau pan fydd hi'n rhy hwyr, a phan fydd eisoes yn mynd i fethu. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw sicrhau ein bod yn gallu gwneud hynny fel dull cydlynol a chyfannol o'r dechrau. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn pleidleisio y prynhawn yma i gefnogi'r egwyddorion hynny a bod y pwyllgor yn ystod ei waith hefyd yn dod i'r casgliad hwnnw ac y byddwn yn gallu deddfu ar y materion hyn cyn diwedd y Senedd hon.

18:15

Rwyf am gyfrannu at y ddadl hon mewn ysbryd myfyriol—nid i achub y blaen ar ganlyniad y pwyllgor rwy'n aelod ohono dan arweiniad John Griffiths, ond wrth agor, rwyf am ddiolch i garcharorion a staff y carchar a swyddogion carchar y Parc, lle buom ar ymweliad y diwrnod o'r blaen. Fe'm trawyd gan ba mor huawdl, gwybodus a deallus oedd y trafodaethau gyda'r carcharorion a staff y carchar. Dywedodd rhai o'r carcharorion wrthym, yn y grŵp yr oeddem ni ynddo, 'Byddech yn synnu pa mor wybodus ydym ni a ninnau'n gaeth am 14 awr y dydd, faint o deledu gwledyddol y byddwn yn ei wylio a faint o bapurau newydd y byddwn yn eu darllen. Rydym yn wybodus iawn am bethau.' Felly, hoffwn ddiolch iddynt ac rwy'n edrych ymlaen at yr ymweliad yfory.

A gaf fi fynd yn ôl ychydig i pam yr ydym lle'r ydym? Mae'r rheswm pam ein bod yn amddifadu carcharorion o'r etholfraint yn dyddio'n ôl i'r canol oesoedd a mater marwolaeth ddinesig—y syniad eich bod yn fforffedu eich eiddo os oeddech yn mynd i garchar. Oherwydd eich bod wedi fforffedu eich eiddo, roeddech yn fforffedu'r hawl i bleidleisio, oherwydd roedd yr oedd yr hawl i bleidleisio yn seiliedig ar berchnogaeth eiddo, ac ati. Felly, mae iddo gynsail canoloesol—[Torri ar draws.] Wel, mae'n mynd yn ôl cyn hynny mewn gwirionedd, mae'n ganoloesol—yn 1870 y cafwyd y Ddeddf Fforffediad, a oedd yn sôn am y contract cymdeithasol bryd hynny yn ogystal.

Felly, mae hanes hir a rhyfedd yn perthyn i hyn, ond os caf ddod ychydig bach yn fwy diweddar, ers 2005, lle roedd gwaharddiadau o fewn gwledydd ar hawl carcharorion i bleidleisio, canfuwyd bod hyn yn torri deddfwriaeth hawliau dynol rhyngwladol. Nododd Llys Hawliau Dynol Ewrop, nad yw'n gorff yr UE—ceir dryswch ynglŷn â hynny weithiau—fod y gwaharddiad cyffredinol ar hawl carcharor i bleidleisio yn ddiwahân ac yn anghymesur. Ac wrth gwrs, fel y mae sawl un o'r cyfranwyr eisoes wedi nodi yn y ddadl hon, ym mis Tachwedd 2017, rhoddodd Llywodraeth y DU hawl i bleidleisio yn y DU i garcharorion a ryddhawyd ar drwydded dros dro—neu dan gyfyngiad yn y cartref, ar remánd, fel y byddwn yn aml yn ei alw, dan gyfyngiad, dan gyrffyw. Yn wir, dosbarthwyd canllawiau y flwyddyn honno, a rhoddwyd taflenni i'r holl garcharorion, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym.

Nawr, ym mis Mai 2018, argymhellodd Pwyllgor Cydraddoldebau a Hawliau Dynol Senedd yr Alban y dylid codi'r gwaharddiad yn ei gyfanrwydd yn yr Alban—a cheir amrywiaeth o safbwyntiau ar hyn—ond gwrthodwyd hyn gan Lywodraeth yr Alban. Wrth gwrs, fel y clywsom, mae'r pwyllgor dan arweiniad John Griffiths, ar anogaeth neu wahoddiad y Llywydd, bellach yn edrych ar y mater yng Nghymru, gyda'n pwerau ar gyfer y Cynulliad ac etholiadau lleol. Ac wrth gwrs, yn ddiweddar iawn yn y ddadl a gawsom ar 30 Ionawr, pleidleisiodd y Cynulliad 36 i 14 gydag un yn ymatal o blaid yr egwyddor o bleidlais i garcharorion. Rwy'n nodi bod hynny ychydig yn fyr o'r uwchfwyafrif sydd ei angen i newid y farn ar hyn mewn gwirionedd.

Felly, mae sawl maes yn y cysyniad hwnnw, o ddifreinio llwyr i ryddfreinio llwyr, lle mae'r pwyllgor yn edrych gyda diddordeb ar hyn. Egwyddor hyn—. Fel y gwyddom o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn ôl yn 2007, yn yr ymgynghoriad hwnnw, roedd 50 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno gyda chaniatáu i garcharorion gofrestru ar gyfer bwrw pleidlais ac roedd 48 y cant yn anghytuno; gwahaniaeth o 2 y cant—lle clywsom hynny o'r blaen?—ond yn agos iawn. Edrychodd ar hyd dedfrydau, a ddylai hyd dedfryd fod yn ffactor ai peidio wrth benderfynu pa garcharorion a ddylai fod yn gymwys i gael yr etholfraint, neu ddifrifoldeb troseddau, a'r materion technegol y clywsom gyfeirio atynt ynglŷn â dull a'r cyfeiriad. Os caf nodi wrth gwrs—a hoffwn ddiolch i gydweithwyr yn y llyfrgell yma yn y Senedd am hyn—mae 4,700 o bobl Cymru yn y carchar, a chaiff 37 y cant ohonynt eu cadw yn Lloegr, felly ceir materion technegol yma, a cheir 261 o garcharorion sy'n fenywod o Gymru, a phob un ohonynt yn cael eu cadw mewn 12 carchar yn Lloegr. Felly, mae yna faterion technegol sy'n codi, ond nid ydynt yn anorchfygol.

Nawr, os caf droi at faterion eraill sy'n berthnasol i hyn: troseddwyr ifanc. Aethom i garchar y Parc yn ddiweddar—. Pe baem ni, o fewn y sefydliad democrataidd hwn, yn gostwng yr oedran pleidleisio i 16 a 17, beth fyddai hynny'n ei olygu o ran troseddwyr ifanc yn ogystal? Ac i roi sylw i enghreifftiau o wledydd eraill, soniais yn gynharach fod gan wledydd gwahanol ddulliau o weithredu, ac mae'r mwyafrif o wledydd democrataidd bellach yn ymestyn yr etholfraint mewn ffyrdd gwahanol i boblogaeth y carchardai, ond mae hynny'n digwydd mewn gwahanol ffyrdd, ac i raddau gwahanol.

A gaf fi droi yn fyr iawn, yn fy sylwadau i gloi, at y cysyniad o pam, os o gwbl, y dylai carcharorion gael hyn? Dywedodd y cyn-Ysgrifennydd Cartref Ceidwadol, yr Arglwydd Hurd,

Pe bai carcharorion yn cael y bleidlais byddai ASau yn dangos tipyn mwy o ddiddordeb yn yr amodau mewn carchardai.

A gaf fi droi fy sylw at hunanladdiad Vikki Thompson, carcharor trawsryweddol, oherwydd y driniaeth a'r cam-drin a ddioddefodd mewn y carchar i ddynion yn unig; y methiant parhaus i fynd i'r afael â thrais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol parhaus y tu ôl i'r bariau ymhlith poblogaeth y carchardai; y ffaith mai carcharorion du yw 15 y cant o boblogaeth y carchardai, o gymharu â 2 y cant o boblogaeth y wlad i gyd—maent dros saith gwaith yn fwy tebygol o gael eu gwahardd rhag pleidleisio tra'u bod yn y carchar? A gallwn fynd ymlaen. Fel y dywedodd y Goruchaf Lys yng Nghanada,

mae difreinio yn fwy tebygol o ddod yn broffwydoliaeth hunangyflawnol nag ysgogiad i ailintegreiddio. Mae amddifadu unigolion sydd mewn perygl o'u hymdeimlad o hunaniaeth gyfunol a'u haelodaeth o'r gymuned yn annhebygol o ennyn ymdeimlad o gyfrifoldeb a hunaniaeth gymunedol, tra bod yr hawl i gymryd rhan drwy bleidleisio yn helpu i addysgu gwerthoedd democrataidd a chyfrifoldeb cymdeithasol.

Rwy'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr ymchwiliad yfory pan fyddwn yn mynd i'r carchar yng Nghaerloyw, carchar i fenywod yn unig. Credaf fod hwn yn ymchwiliad diddorol, ond rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o deimlad inni yma—golau yn fwy na gwres—ynglŷn â'r ffordd y gallai'r sefydliad democrataidd hwn fod eisiau bwrw ymlaen.

18:20

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio i sicrhau bod carchar yn amgylchedd sy'n ddiogel ac yn saff, gan alluogi staff ac adnoddau i ganolbwyntio ar adsefydlu troseddwyr. Mae'r datganiad cyntaf yng nghynnig UKIP yn gwrthddweud ei hun yn ei hanfod. Mae'r penderfyniad i anfon rhywun i garchar a'u hamddifadu o'u rhyddid yn weithred o gosb ynddi'i hun yn amlwg. Pan gyflawnir y gosb honno, dylem ganolbwyntio ar adsefydlu. Credaf yn gryf y dylid canolbwyntio mewn carchardai ar adsefydlu ac ailgysylltu carcharorion â gwerthoedd y gymdeithas yn gyffredinol.

Wrth gwrs, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw'r gwasanaeth carchardai. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi i ddarparu gwasanaethau datganoledig sy'n hanfodol er mwyn cynnal lles carcharorion a lleihau aildroseddu. Rydym yn gwrthod gwelliannau'r Ceidwadwyr, sydd i'w gweld fel pe baent wedi'u llunio ar gyfer anwybyddu'r cyfraniad mawr iawn a wneir gan wasanaethau datganoledig.

Af drwy rai o'r gwasanaethau a ddarperir gennym mewn partneriaeth â'r gwasanaeth carchardai yng Nghymru yn gyflym, gwasanaethau sy'n dangos yn glir ein hymrwymiad i ddiben carchar ar gyfer adsefydlu. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd lleol yng Nghymru i wella iechyd a lles carcharorion yng ngharchardai Cymru. Mae ein blaenoriaethau yn cynnwys iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a rheoli meddyginiaethau. Mae'r gwasanaethau hyn yn allweddol i sicrhau bod carcharorion wedi eu paratoi ar gyfer dychwelyd i fywyd y tu allan i furiau'r carchar. Mae mynediad at addysg o ansawdd da a chysylltiadau ar gyfer cael gwaith yn rhan hanfodol o ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at leihau aildroseddu. Gan weithio gyda'r gwasanaeth carchardai, rydym wedi datblygu ein cynllun cyflogadwyedd, sy'n helpu carcharorion i ddysgu ymhellach a chael gwaith o safon ar ôl eu rhyddhau. Ein nod yw sicrhau bod gan droseddwyr fynediad at gontinwwm o gymorth wrth iddynt ddychwelyd i'w cymunedau cartref.

Rydym hefyd yn gweithio gydag asiantaethau troseddu a chyfiawnder ac awdurdodau lleol i wella'r opsiynau tai sydd ar gael, er mwyn goresgyn llawer o'r problemau llety a wynebir gan lawer o garcharorion wrth eu rhyddhau. Yn arbennig, fel y trafodwyd mewn cwestiwn amserol yn gynharach heddiw, rydym am sicrhau yr asesir anghenion tai pobl sy'n gadael carchar tra'u bod yn dal i fod yn y carchar, ac mae'r broses ailsefydlu yn ddi-dor o'r adain i'r gymuned. Ac fel y dywedwyd yn gynharach hefyd, mae llawer gormod yn cysgu ar y stryd ar hyn o bryd, ac mae methiannau i gynllunio digon cyn eu rhyddhau yn ffactor pwysig yn hynny, fel y trafodwyd gennym yn ein cwestiwn amserol.

Ond wrth ystyried adsefydlu, ni allwn anwybyddu effaith anfon cynifer o fenywod i'r carchar, yn aml am droseddau diannod lefel isel, sydd, yn fy marn bersonol i, yn gwbl amhriodol ar gyfer rhoi dedfrydau o garchar ar eu cyfer yn y lle cyntaf. Felly croesawaf y glasbrint troseddwyr benywaidd a ddatblygwyd gan fy rhagflaenydd yn y swydd, Alun Davies, glasbrint y buom yn gweithio arno gyda'n gilydd am amser go faith, ac a ddatblygwyd ar y cyd gyda'r gwasanaeth carchardai a phrawf, i helpu i nodi'r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar gyfer darparu gwasanaethau cyfiawnder priodol ar gyfer menywod yng Nghymru. Rwy'n falch fod Llywodraeth y DU yn edrych ar y defnydd o ddedfrydau tymor byr o'r diwedd. Nid yw'r dull 'sioc sydyn, siarp' fel y'i gelwir o ddedfrydu yn gweithio. Yn aml, nid yw'r rhai sy'n cael dedfryd fer o garchar yno'n ddigon hir i allu cwblhau'r rhaglenni addysgol sydd ar gael a'r triniaethau camddefnyddio sylweddau a luniwyd i sicrhau eu bod yn cael eu hadsefydlu, ac yn ddigon hir fel rheol—fel y dywedodd David Melding, rwy'n credu, yn gynharach yn y cwestiwn amserol—i amharu ar swyddi, cartrefi a theuluoedd, heb gyflawni unrhyw beth o werth i unrhyw un.

Mae ein hymagwedd tuag at gyfiawnder ieuenctid yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar weithgaredd ymyrryd ac atal yn gynnar i annog pobl ifanc rhag troseddu a hyrwyddo eu lles. Rydym yn darparu cyllid drwy'r grant hybu ymgysylltiad cadarnhaol ymhlith pobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu, sy'n cynnig cymorth dargyfeiriol ac ataliol i bobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu. Credaf fod hwnnw'n ddigon i ddangos bod Llywodraeth Cymru'n gwneud llawer iawn ar ddatblygu ymagwedd gyfannol at adsefydlu gyda'r fantais o wneud ein cymunedau'n fwy diogel.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwrthod yr ail elfen yng nghynnig UKIP a'r ail o welliannau'r Ceidwadwyr. Rwy'n glir iawn fy mod yn cefnogi'r egwyddor o alluogi rhai carcharorion i bleidleisio yn etholiadau Cymru, am y rhesymau a nodwyd gan nifer o gyd-Aelodau. Byddai cael hawl i bleidleisio yn anfon negeseuon cryf iawn i'r carcharorion hyn fod ganddynt gyfran mewn cymdeithas ac yn eu tro, fod ganddynt gyfrifoldebau tuag at y gymdeithas honno yn ei chyfanrwydd. Mae'r gwasanaethau cymorth a amlinellais yn rhan gyntaf fy araith yn dangos pa mor fawr yw'r gyfran honno, a phrin fy mod wedi crybwyll y cymorth y mae teuluoedd carcharorion yn debygol o alw amano gan y gwasanaethau datganoledig pan fo aelodau teuluol yn y carchar.

Mae Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus ar yr holl faterion sy'n ymwneud â'r posibilrwydd o ganiatáu i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru. Rydym wedi gwahodd safbwyntiau ar yr egwyddor o ganiatáu i rai carcharorion bleidleisio yn etholiadau lleol Cymru yn ein hymgynghoriad ar ddiwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol yn 2017, fel y nododd Alun Davies a Huw Irranca—a John Griffiths wrth sôn am ei waith pwyllgor. Fel y dywedodd Huw Irranca, roedd y safbwyntiau a fynegwyd yn gytbwys iawn: roedd 50 y cant o'r ymatebion o blaid caniatáu i garcharorion bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol, ac roedd 48 y cant yn anghytuno, ac ni fynegodd 2 y cant farn y naill ffordd neu'r llall. Ceir adlais rhyfedd yno o gwestiynau eraill a ofynnir i'r cyhoedd.

Mae yna rai materion cymhleth ynglŷn â gweithredu i'w hystyried a rhoi sylw iddynt, ond fel y dywedodd Alun Davies, rydym eisoes wedi edrych ar y rheini'n eithaf helaeth, ac nid ydynt yn peri unrhyw anhawster gweinyddol arbennig. Yn benodol, y ffaith bod llawer o garcharorion o Gymru, gan gynnwys pob carcharor benywaidd, yn cael eu carcharu yn Lloegr, a bod tua 30 y cant o'r carcharorion yn y pump carchar yng Nghymru yn dod o Loegr—nid yw honno'n broblem, oherwydd bydd y carcharorion hyn yn pleidleisio drwy'r post wrth gwrs, fel y bydd llawer o bobl sydd â chyfeiriadau yng Nghymru ond sydd y tu allan i Gymru neu heb fod yn eu man pleidleisio arferol ar adeg y pleidleisio.

Rydym yn paratoi deddfwriaeth ar gyfer ei chyflwyno yn ddiweddarach eleni a fydd yn caniatáu i rai 16 ac 17 oed bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, a heddiw ddiwethaf y cyflwynodd y Llywydd fesurau tebyg ar gyfer y Senedd. Wrth ystyried hawl carcharorion i bleidleisio, byddwn yn edrych hefyd ar y goblygiadau ar gyfer troseddwyr ifanc yn yr amgylchiadau hynny. Ond fel y dywedodd llawer o bobl, rwy'n ymwybodol iawn fod yn y materion sy'n codi ynghylch hawl carcharorion i bleidleisio, gan gynnwys y goblygiadau ar gyfer troseddwyr ifanc, yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Nid wyf am ragdybio casgliadau'r pwyllgor; nid ydym wedi cyrraedd unrhyw benderfyniadau terfynol ac rydym yn aros am adroddiad y pwyllgor. Nid wyf yn rhannu sinigiaeth Gareth Bennett ac UKIP mewn perthynas â democratiaeth, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ystyried adroddiad y pwyllgor yn hyn o beth. Diolch.

18:30

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rydym wedi cael dadl ddiddorol, a chredaf y bu’n ddadl bwyllog a chymedrol, fel y dylai fod. Mae'n fater pwysig i ddemocratiaeth, ond y tu hwnt i hynny, fel y nododd Alun Davies yn ei araith, a oedd yn araith dda iawn yn fy marn i, mae hefyd yn ymwneud â’r ffordd rydym yn trin pobl er eu bod wedi eu carcharu a'r tu allan i gyrraedd cymdeithas yn gyffredinol. Credaf yn gryf y dylid trin carcharorion mewn ffordd ddynol. Rwyf wedi bod yn ymwneud ers blynyddoedd lawer ag elusen a sefydlwyd gan yr Arglwydd Longford, a oedd yn ffrind da i mi, o'r enw New Bridge, ar gyfer ailintegreiddio cyn-garcharorion yn y gymdeithas, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith rhagorol y maent wedi'i wneud. Cyfeiriodd Mark Isherwood yn ei gyfraniad at elusennau eraill, megis Clean Slate a SToMP, sy’n gwneud gwaith tebyg. Mae hyn yn gwbl hanfodol os ydym am ailintegreiddio pobl yn y gymdeithas fel unigolion sy'n parchu'r gyfraith. Diben carchar wrth gwrs yw atal a chosbi, ond nid oes unrhyw bwynt i hynny os nad yw pobl wedi dysgu unrhyw beth ar ei ddiwedd a'u bod yn aildroseddu, ac fel y dywedodd Jenny Rathbone yn ei hymyriad yn ystod fy araith yn gynharach, mae troseddu parhaus yn elfen bwysig o hyn, ac rwy'n amau'n fawr y bydd rhoi’r hawl i garcharorion bleidleisio yn cael unrhyw effaith. Credaf mai mater i ni fel deddfwyr yw penderfynu—nid barnwyr, ac yn bendant nid barnwyr tramor—a yw carcharorion, fel rhan o’r gosb am gyflawni trosedd, yn colli'r hawl i bleidleisio tra byddant yn y carchar. Rhoddodd Huw Irranca-Davies ychydig o'r hanes i ni yn ei gyfraniad: wrth gwrs, cyn y 1830au, roedd yr hawl i bleidleisio'n hawl eiddo i raddau helaeth ac nid yn hawl ddemocrataidd yn yr ystyr y byddem yn ei ddeall ei heddiw, a Deddf Fforffedu 1870 oedd dechrau'r broses o ddiddymu hawl carcharorion i bleidleisio yn ei chyd-destun modern.

Rwy'n cefnogi'r hyn a ddywedodd Alun Davies ynglŷn â’r hyn sy'n digwydd i garcharorion pan gânt eu rhyddhau, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn dechrau’r broses o ailintegreiddio cyn iddynt gael eu rhyddhau. Gallaf weld y dadleuon o blaid yr hyn a gyflwynwyd ganddo. Credaf ei fod yn atyniadol gan y gallwch weld ei ddiben ymarferol: mae carcharorion yn dod i ddiwedd eu dedfrydau, maent yn dod i ddiwedd effaith ataliol ac effaith gosbol eu dedfryd, a gallwch weld, felly, fod yr elfen adsefydlu yn llawer pwysicach, efallai, nag y mae ar y dechrau. Felly, yn sicr, mae hynny'n rhywbeth y buaswn yn barod i ystyried ei gefnogi fel rhan o'r broses.

Rwyf am ddweud wrth John Griffiths, fel Cadeirydd y pwyllgor cydraddoldeb, nad bwriad y ddadl hon mewn unrhyw ffordd yw achub y blaen ar adroddiad y pwyllgor. Un o'r pethau rwy’n eu hedmygu fwyaf ynghylch y Cynulliad hwn ers i mi fod yma yw'r ffordd y mae'r pwyllgorau trawsbleidiol hyn yn bwyllgorau gwirioneddol drawsbleidiol, ac yn eu hadroddiadau, maent o ddifrif yn ceisio sicrhau consensws a all lywio'r ddadl, a gobeithio bod y ddadl hon, fel dadl Plaid Cymru ychydig wythnosau yn ôl, yn rhan o'r broses—cyfraniad, os mynnwch, at eich gwaith, ac nid ymgais i’w ddisodli neu gymryd ei le.

Rwy’n sylweddoli bod cyfyngiad ar yr hyn y gallai'r Gweinidog ei ddweud yn ei haraith gan y bydd yn rhaid iddi ystyried y mater hwn pan fydd y pwyllgor cydraddoldeb wedi cynhyrchu ei adroddiad. Rwy'n cytuno'n gryf â rhywbeth a ddywedodd hefyd mewn perthynas â nifer y bobl sy'n bwrw dedfrydau byr iawn yn y carchar nad ydynt mewn gwirionedd yn darparu llawer o effaith ataliol, ac yn sicr, maent yn cynhyrchu problemau yn y carchar. Gall carchardai fod yn lleoedd annymunol iawn. Rwyf wedi bod mewn llawer o garchardai yn ystod fy oes—fel cyfreithiwr, prysuraf i ychwanegu [Chwerthin.]—ac roedd lleoedd fel carchar Wormwood Scrubs a charchar Strangeways a charchar Wandsworth, fel yr arferai fod, yn lleoedd annynol iawn, ac yn rhwystr i’r broses adsefydlu mewn gwirionedd. Felly, mae adeiladu carchardai newydd yn elfen hanfodol bwysig yn fy marn i o’r broses o adsefydlu pobl yn y gymdeithas sifil mewn ffordd well na phan aethant i mewn, ac mae hynny, wrth gwrs, o fudd i bob un ohonom. Ond rwy’n dal i gael fy argyhoeddi bod rhoi hawl i garcharorion bleidleisio yn rhan hanfodol o'r broses hon. Fe arhoswn am ganlyniadau trafodaethau'r pwyllgor cydraddoldeb, a chynigion y Llywodraeth wedyn yn wir.

18:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Pwynt o Drefn

Diolch, Lywydd. Hoffwn godi pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 12.37 fod gwrthwynebiad wedi'i wneud ar lafar i ddadl Plaid Cymru NDM6967. Felly, a allwch adolygu a gwneud datganiad ar statws y cynnig hwnnw? Gwneuthum wrthwynebiad ac fe'i clywyd gan gyd-Aelodau.

Diolch am godi'r pwynt o drefn ac am roi gwybod i mi ynglŷn â'ch bwriad i godi'r pwynt hwn. Ni chlywais y gwrthwynebiad ac ni chlywodd y clerc chwaith—[Torri ar draws.] Nid oes angen unrhyw synau cefnogol arnaf, os gwelwch yn dda—ac ni chlywodd y clercod ar y fainc flaen chwaith. Ymddiheuraf am hynny. Mae'n wers i mi wrando'n fwy astud. Mae'n wers i chi weiddi'n uwch. Gwneuthum ddatganiad yn y Siambr fod y cynnig wedi'i dderbyn. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud hynny, ac ni ellir dadwneud y cynnig hwnnw ar y pwynt hwn. Ond mae eich gwrthwynebiad a'r ffaith eich bod wedi codi'r gwrthwynebiad hwnnw wedi'i gofnodi, ac mae safbwynt y Llywodraeth ar hynny wedi'i gofnodi, ond derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio yn gynharach y prynhawn yma.

9. Cyfnod Pleidleisio

Daw hyn â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud at y bleidlais, felly, ar ddadl UKIP ar garchardai a charcharorion. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, un yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig. 

NDM6966 - Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig, cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 34, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Sy'n dod â ni at welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 33, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1. Dad-ddetholwyd gwelliant 2 a 3.

NDM6966 - Gwelliant 1: O blaid: 33, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu ddad-ddethol.

Cynnig NDM6966 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai carchardai fod yn lleoedd i ddiwygio ac adsefydlu.

2. Yn cefnogi’r egwyddor o hawliau pleidleisio i garcharorion yn etholiadau Cymru, ond yn disgwyl am adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, pedwar yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

NDM6966 - Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig, cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 34, Yn erbyn: 10, Ymatal: 4

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Os oes pobl yn gadael y Siambr, a allant wneud hynny'n gyflym ac yn dawel? Mae gennym y ddadl fer.

10. Dadl Fer: Deddfwriaeth ansawdd aer sy'n addas ar gyfer heriau modern

Symudaf yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Dai Lloyd i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddo. Dai Lloyd.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Y teitl ydy: deddfwriaeth ansawdd awyr sy'n addas ar gyfer heriau modern. Nawr, dwi ddim yn siŵr a ydw i wedi crybwyll erioed o'r blaen yn fan hyn fy mod i wedi bod yn feddyg yn Abertawe ers rhyw 35 mlynedd bellach, gyda heriau iechyd yr ysgyfaint a'r galon gyda'r mwyaf cyffredin o'r cyflyrau dwi'n gorfod delio efo nhw'n wastadol. Mae cyfraddau'r anadlwst neu'r fogfa—dyna i chi ddau air Cymraeg am asthma—mae cyfraddau'r anadlwst ar gynnydd yn ein plant ers degawdau, ac nid oes esboniad dilys arall yn y bôn, dim ond graddfeydd y llygredd yn yr awyr y mae rhai plant yn gorfod ei anadlu yn gyson. Ac mae'r gronynnau bychan, y PM10 a'r PM2.5, sy'n dod o danwydd diesel  a phetrol, yn ogystal â theiars y ceir yn gwasgaru gronynnau bychan o rwber a phlastig i'r awyr, a'r nitrogen deuocsid—y nwy gwenwynig yna sy'n deillio o losgi diesel—oll yn cael eu hanadlu i mewn i'r ysgyfaint. Ac mae rhai o'r gronynnau yma mor fach—nano-gronynnau, fel dŷn ni'n eu galw nhw—fel eu bod nhw nid yn unig yn cyrraedd y pibellau mwyaf main yn ein hysgyfaint, ond yn gallu mynd drwodd yn uniongyrchol i gylchredeg yn y gwaed hefyd, a chyrraedd ein calonnau yn uniongyrchol ac achosi adwaith yn y cyhyr sydd yn wal ein calonnau ni. Felly, dyna pam mae hwn yn argyfwng—argyfwng sydd wedi dod yn fwy pwysig yn ddiweddar.

Mae llygredd aer, felly, yn argyfwng iechyd y cyhoedd. Mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru, mae pobl yn anadlu lefelau llygredd sy’n niweidiol i’w hiechyd. Cofnododd tair dinas yng Nghymru—Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe—lefelau anniogel o lygredd aer y llynedd. Mae Port Talbot hefyd, yn rhanbarth Bethan a minnau, yn dioddef ansawdd aer gwael ac wedi dioddef felly ers blynyddoedd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dynodi llygredd aer yn argyfwng iechyd y cyhoedd, yn ail yn unig i ysmygu.

Dengys ffigurau diweddar fod mwy na 2,000 o bobl yn marw cyn pryd yng Nghymru bob blwyddyn o ganlyniad i ansawdd aer gwael. Mae'n sgandal genedlaethol. Nawr, fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Ddeddf aer glân i Gymru, diben y ddadl fer heddiw yw dadlau’r achos dros Ddeddf aer glân newydd a'r angen i greu fframwaith cyfreithiol cadarn sy'n nodi dulliau uchelgeisiol i wella ansawdd aer yng Nghymru.

Nawr, 60 mlynedd yn ôl yn unig, byddai trefi a dinasoedd ledled y DU yn aml yn cael eu mygu gan fwg o'r tanau glo a oedd yn llosgi mewn cartrefi a ffatrïoedd. Daeth Llundain i stop yn ystod Mwrllwch Mawr 1952 a bu farw miloedd o bobl dros yr wythnosau a'r blynyddoedd dilynol. Bob blwyddyn, mae llygredd aer yn effeithio ar fywydau pob dydd miloedd o bobl nad oes dewis ganddynt ond anadlu aer budr. Ceir lefelau anghyfreithlon a niweidiol o lygredd aer nid yn unig yn Llundain a dinasoedd Cymru, ond hefyd mewn trefi fel Llandeilo a Chas-gwent. Nid yw’r ffaith nad oes gennym fwrllwch a mwg du fel y fagddu bellach yn golygu bod yr aer yn lân.

Mae llygredd aer yn effeithio ar bawb, o’r groth hyd at henaint. Mae'n achosi strociau, trawiadau ar y galon a phyliau o asthma, gan gynyddu'r risg o fynd i'r ysbyty a marw, ac mae'n achosi canser. Mae'n gysylltiedig â genedigaethau cynamserol ac yn llesteirio twf yr ysgyfaint mewn plant.

Yn y 1950au, pan roedd llawer o fwrllwch, y broblem oedd fod y gronynnau’n fawr ac yn mynd yn sownd yn y llwybrau anadlu uchaf. Nawr, mae’r nanoronynnau hyn yn mynd yn syth i berfedd yr ysgyfaint, a hyd yn oed i lif y gwaed, fel y dywedais yn gynharach—yn uniongyrchol i mewn i lif ein gwaed. Mae pobl sy’n dioddef o fethiant y galon yn grŵp sy'n agored i niwed, a phan fydd ansawdd yr aer yn lleihau, caiff mwy ohonynt eu derbyn i'r ysbyty. Mae gennym gyswllt clir rhwng lefelau llygredd aer a thrawiadau ar y galon, ac mae astudiaethau wedi dangos bod deunydd gronynnol yn yr aer yn un o’r prif resymau am hyn. Gwyddom fod y perygl i iechyd yn sgil anadlu llygryddion yn parhau ymhell ar ôl dod i gysylltiad â hwy. Ceir hefyd tystiolaeth gynyddol fod hyn yn effeithio ar ysgyfaint plant sydd heb eu geni—mae hyd yn oed plant heb eu geni yn cael eu heffeithio gan lygredd sy’n cael ei anadlu gan eu mamau beichiog. Gallai hynny effeithio ar eich iechyd drwy gydol eich bywyd.

Felly, pam y Ddeddf aer glân? Yr wythnos diwethaf, dangosodd adroddiad UNICEF UK, 'Healthy Air for Every Child’, fod gan 70 y cant o drefi a dinasoedd y DU lefelau llygredd gronynnol sy'n uwch na therfynau diogel Sefydliad Iechyd y Byd. Ac ar draws 86 y cant o'r Deyrnas Unedig, mae lefelau crynodiad nitrogen deuocsid yn anghyfreithlon o uchel heddiw. Mae terfynau'r UE, sy’n berthnasol i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yr un fath â’r terfynau uchaf a argymhellir yng nghanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer nitrogen deuocsid, ond maent yn llai llym na throthwy Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer y llygryddion eraill sy’n niweidiol i iechyd, megis y deunydd gronynnol mân, y PM2.5.

Nawr, mae UNICEF wedi dweud yn ddigamsyniol ei bod yn hanfodol fod Gweinidogion yn cynnwys targedau sy'n rhwymo mewn cyfraith er mwyn bodloni safonau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd—dyna yw sail y ddadl hon. Gwyddom fod y fframwaith cyfreithiol presennol yn glytwaith o wahanol ddeddfau a chymwyseddau datganoledig. Mae llawer o'r ysgogiadau posibl i wella ansawdd aer eisoes yn bodoli, ond ni chânt eu defnyddio’n effeithiol gan fod cyfrifoldebau’n cael eu rhannu rhwng ffynonellau llygredd ac iechyd yr amgylchedd, ar lefel llywodraeth leol ac ar lefel genedlaethol. Byddai Deddf aer glân newydd i Gymru yn cydgrynhoi’r ddeddfwriaeth bresennol ac yn gwneud rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn gliriach. Mae hefyd yn rhoi cyfle inni gyflwyno deddfau mwy uchelgeisiol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac sy'n adlewyrchu'r heriau penodol sy'n wynebu Cymru.

Gwyddom fod cryn gefnogaeth gyhoeddus i’w chael i Ddeddf aer glân newydd. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwrthod galwadau am Ddeddf aer glân yn y gorffennol, ond yn ystod y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru, ymrwymodd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ei faniffesto, a dyfynnaf:

I ddatblygu Deddf Aer Glân newydd i sicrhau y gall ein plant fynd i'r ysgol, bod yn egnïol a chwarae y tu allan yn ddiogel heb ofn problemau anadlu, megis asthma, oherwydd y lefelau llygredd yn rhai o'n trefi a'n dinasoedd.

Diwedd y dyfyniad. Mae arweinwyr a meiri dinasoedd ledled y DU wedi dangos eu cefnogaeth i ddeddfwriaeth yn y maes hwn, gan gynnwys arweinydd cyngor Caerdydd. Mae Awyr Iach Cymru hefyd wedi gwneud gwaith ardderchog yn sicrhau bod y mater yn cyrraedd brig yr agenda wleidyddol. A pheidiwn ag anghofio, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU a Llywodraeth Lafur Cymru wedi wynebu achosion llys am beidio â gwneud digon i fynd i'r afael â llygredd aer, ac wedi eu cael yn euog, ac ni allwn adael i hyn barhau.

Felly, sut beth fyddai Deddf aer glân? Yn ogystal ag ymgorffori canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd yng nghyfraith Cymru, gallai Deddf aer glân orchymyn i Lywodraeth Cymru gynhyrchu strategaeth ansawdd aer statudol bob pum mlynedd. Gallai osod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer yn briodol a gweithredu yn ei erbyn. Gallai gyflwyno 'hawl i anadlu', lle byddai gan awdurdodau lleol rwymedigaeth i hysbysu grwpiau sy'n agored i niwed pan aiff llygredd aer yn uwch na lefelau penodol. Dylid cyflawni hyn drwy strategaeth ansawdd aer drawslywodraethol gynhwysfawr sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer rhwydwaith monitro ac asesu annibynnol; bwrdd cynghori cenedlaethol ar ansawdd aer, dan gadeiryddiaeth Gweinidog yr Amgylchedd; cyflwyno parthau aer glân yn ein dinasoedd; gofyniad i awdurdodau lleol baratoi cynllun aer glân ar y cyd â byrddau iechyd lleol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, yn seiliedig ar ddata o'r rhwydwaith monitro ac asesu annibynnol, gan nodi a gweithredu mesurau rheoli digonol; gofyniad i bob awdurdod lleol ddatblygu strategaeth gerdded a beicio gyda thargedau i ostwng canran y teithiau mewn ceir preifat.

Nawr, mae llygredd aer yn effeithio'n arbennig ar Orllewin De Cymru, yn ogystal â dinas Abertawe, gan fod daearyddiaeth yr ardal mewn dysgl, gyda lefelau osôn, felly mae gan Abertawe lefelau llygredd penodol. Mae'n dioddef problemau ansawdd aer yn rheolaidd. Mae gennym ardal ddiwydiannol Port Talbot hefyd wrth gwrs gyda'i heriau unigryw.

Nawr, flynyddoedd maith yn ôl, roeddem yn barod fel cymdeithas i oddef dŵr nad oedd yn lân. Rydym yn dal i oddef dŵr nad yw'n lân mewn sawl rhan o'r byd. Nawr, ni fyddech yn awgrymu unrhyw sefyllfa lle dylem oddef dŵr sy’n llawn amhureddau heddiw, ond yn Abertawe a Phort Talbot, rydym yn goddef aer sy’n llawn amhureddau. Mae angen newid agwedd mawr ac arweinyddiaeth genedlaethol gan y Llywodraeth. Gwyddom fod cysylltiad go iawn rhwng hyn a thlodi, gan fod y 10 y cant o’r wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cynnwys pum gwaith yn fwy o allyriadau carsinogenaidd na'r 10 y cant o ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru, gan y gall y bobl gyfoethocaf fforddio byw mewn ardaloedd sy’n cynnwys coed a pharciau, tra bo’r bobl lai cyfoethog yn byw mewn tai sy'n wynebu'r stryd yn uniongyrchol a lle nad oes unrhyw rwystr rhyngoch chi a'r llygredd a allyrrir gan geir.

Felly, beth am atebion i gefnogi Deddf aer glân? Rwy'n ceisio helpu’r Llywodraeth gyda hyn. Hoffai Plaid Cymru weld gwerthiant ceir diesel a phetrol yn dirwyn i ben yn raddol erbyn 2030. Dilyn Copenhagen a dinasoedd a gwledydd yng ngorllewin Ewrop sy’n rhoi gwaharddiadau ar waith—gwaharddiadau ar werthiant a gwahardd ceir tanwydd ffosil yn unig rhag dod i mewn i ddinasoedd. Trafnidiaeth gyhoeddus: mae angen inni sicrhau bod gennym system drafnidiaeth gwbl integredig yng Nghymru. Mewn ardaloedd fel Port Talbot ac Abertawe, mae llawer o waith i'w wneud yn y cyswllt hwn. Rydym yn clywed am gymorthdaliadau bysiau'n cael eu torri'n lleol, prisiau'n codi, colli gwasanaethau—a oes unrhyw syndod fod pobl yn defnyddio eu ceir ac yn ychwanegu at yr ansawdd aer gwael? Mae angen inni osod targedau ar gyfer cerbydau allyriadau is—tacsis, fel y gwnânt yn Llundain, bysiau, lorïau gwastraff cynghorau a cherbydau gwasanaeth cyhoeddus eraill—a gallai Deddf aer glân helpu i gyflawni hynny. Gosod targedau ar gyfer cerbydau allyriadau is.

Gallem osod terfyn cyflymder diofyn o 20 mya fel polisi cenedlaethol, ledled Cymru, a fyddai’n fan cychwyn wedyn i awdurdodau lleol. Gallent eithrio rhai ffyrdd o'r polisi cyffredinol hwnnw am resymau dilys a phenodol, ond 20 mya fyddai'r man cychwyn. Byddai hynny'n helpu i greu amgylcheddau dinesig sy'n haws i bobl gerdded a beicio ynddynt a fyddai'n gwneud i bobl deimlo'n ddiogel i feicio o'u cartrefi a chysylltu'r gyda'r rhwydwaith beicio newydd o dan Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae amrywiaeth eang o gamau y gellir eu cymryd, wedi'u tanategu gan y gyfraith.

Felly, i gloi, hoffwn ddiolch i Awyr Iach Cymru, yn gyntaf oll. Grŵp cydweithredol o sefydliadau yw hwnnw. Rydym wedi cyfarfod â hwy yn unigol ac fel grŵp trawsbleidiol bellach ar y Ddeddf aer glân, ac aelodau'r sefydliad hwnnw, Awyr Iach Cymru, yw Sefydliad Prydeinig y Galon, Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru, Cyfeillion y Ddaear Cymru, Living Streets Cymru, Coleg Brenhinol y Meddygon a Sustrans Cymru. Diolch i bob un ohonynt am eu gwaith gwych ac am lywio’r ddadl hon, ond yn bennaf am y gwaith gwych a wnânt yn y maes hwn. Nawr, mae pob un ohonynt yn chwarae eu rhan—yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ffigurau morbidrwydd a marwolaethau yn galw am weithredu ar frys: 2,000 o farwolaethau dianghenraid yng Nghymru bob blwyddyn. Mae hwnnw'n ffigur dramatig, ac mae angen ei wrthdroi. Mae hwn yn argyfwng iechyd y cyhoedd mawr, ac mae agwedd ddi-hid tuag at lygredd aer wedi bodoli'n rhy hir o lawer yn y wlad hon, ac mae'n rhaid ei bwrw i ebargofiant. Diolch yn fawr.

18:50

Diolch. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl—Hannah Blythyn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon yn ymwybodol iawn o'r angen dybryd i fynd i'r afael â llygredd aer, ar gyfer cenedlaethau'r presennol ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau hanfodol mewn ansawdd aer i gefnogi cymunedau iachach a gwell amgylcheddau. Felly, rwy'n croesawu'r ddadl hon ar ddeddfwriaeth ansawdd aer heddiw, ac rwy'n croesawu ac yn ymwybodol o ddiddordeb ac angerdd parhaus yr Aelod ynglŷn â'r maes hwn a chredaf fod llawer o gonsensws yn y Siambr hon yn ei gylch bellach. Gwyddom y bydd angen ymdrech gyfunol i gyrraedd lle mae angen inni fod. Yn ogystal â'r camau y gall y Llywodraeth eu cymryd, golyga hefyd fod yn rhaid i bob un ohonom roi ein camau ein hunain ar waith a newid ein hymddygiad ein hunain. Croesawaf y cyfle i allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â gwaith y Llywodraeth hon a'r hyn a wnawn fel blaenoriaeth drawslywodraethol yn rhinwedd yr hyn wyf fi heddiw—dirprwy, yn anffodus, ar ran Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

Mae rheoli ansawdd aer yn gyffredinol wedi'i fframio o fewn fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol cynhwysfawr. Mae gwelliannau cenedlaethol hyd yma wedi eu llywio i raddau helaeth gan gyfarwyddebau Ewropeaidd. Er enghraifft, fel y dywed yr Aelod, ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddasom ein hatodiad Cymreig i gynllun y DU ar gyfer mynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd yng Nghymru i fodloni gofynion y gyfarwyddeb Ewropeaidd ar ansawdd aer amgylchynol ac aer glanach i Ewrop. Mae'r cynllun yn nodi camau gweithredu awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i leihau crynodiadau nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd lle mae'r lefelau uwchlaw'r terfynau cyfreithiol yng Nghymru, sef ein her bwysicaf a mwyaf uniongyrchol o ran ansawdd aer. Gwnaed cryn dipyn o waith ar ddatblygu'r cynllun hwn, a bydd y gwaith hwnnw'n parhau drwy gydol y broses o'i roi ar waith. Yn ogystal, rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar ostyngiadau allyriadau yn y dyfodol sy'n ofynnol o dan y gyfarwyddeb terfynau uchaf allyriadau cenedlaethol ar gyfer pum llygrydd aer pwysig. Y rhain yw nitrogen ocsid, cyfansoddion organig anweddol di-fethan, sylffwr deuocsid, amonia a deunydd gronynnol mân. Gwyddom fod y llygryddion hyn yn cyfrannu at ansawdd aer gwael, gan arwain at effeithiau negyddol sylweddol ar iechyd dynol a'n hamgylchedd.

Ar hyn o bryd, mae'r DU yn bodloni holl ymrwymiadau lleihau allyriadau'r UE ac yn rhyngwladol. Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi ei chynlluniau i helpu i gyflawni ymrwymiadau lleihau allyriadau'r DU yn y dyfodol o fewn rhaglen rheoli llygredd aer cenedlaethol y DU, a byddwn yn ymgynghori ar y cynlluniau hynny cyn bo hir ac yn eu cyhoeddi cyn mis Ebrill eleni. Mae angen camau gweithredu trawslywodraethol, ac maent yn cael eu cymryd ar draws holl adrannau a sectorau Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni gwelliannau i ansawdd aer. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, sefydlwyd y rhaglen aer glân gennym y llynedd, a nod y rhaglen hon yw diogelu iechyd y cyhoedd a'n hamgylchedd naturiol. Mae'r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar gydymffurfio â rhwymedigaethau deddfwriaethol Ewropeaidd a domestig. Fel rhan o'r rhaglen, rydym wedi sefydlu prosiectau sy'n dwyn adrannau a rhanddeiliaid allweddol ynghyd i gyflawni gwelliannau i ansawdd aer ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys trafnidiaeth, gwell tystiolaeth, hylosgi domestig, diwydiant, cynllunio a chyfathrebu.

Mae'r cyfarwyddebau Ewropeaidd yn mynd i'r afael â llygredd aer mewn sawl ffordd, gan gynnwys terfynau ar gyfer ansawdd aer awyr agored, cyfyngu ar allyriadau yn y ffynhonnell, a lleihau allyriadau trawsffiniol drwy gamau gweithredu rhyngwladol. Bydd ein targedau gostwng allyriadau, i'w cyflawni o 2030 ymlaen, yn cefnogi'r broses o leihau effaith llygredd aer ar iechyd i hanner yr hyn ydoedd yn 2005.

Yn y dyfodol, mae'n rhaid inni gynnal ein hymrwymiad i gymryd camau i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau statudol, ond rydym yn ymwybodol nad yw hyn yn ymwneud â gweithredu er mwyn ticio blychau yn unig—mae'n weithredu am ein bod yn gwybod bod angen inni ei wneud er budd ein dinasyddion ac er mwyn eu hiechyd. Gellir cyflawni hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys drwy integreiddio polisïau a chydweithredu'n well. Trothwyon ar gyfer cyfyngu ar risg unigol, nid lefelau diogel, yw llawer o dargedau, gan gynnwys rhai o ganllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd. Felly, rydym yn ystyried yr holl opsiynau posibl i leihau cyswllt y boblogaeth â llygredd aer yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan gynnwys effaith bosibl safonau Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae angen i unrhyw bolisïau neu dargedau yn y dyfodol gael eu hategu gan dystiolaeth i sicrhau eu bod yn darparu’r newid mwyaf effeithiol. Mae hyn yn cynnwys asesu'r pethau ymarfeol sy'n gysylltiedig, megis yr effeithiau cymdeithasol, economaidd a thechnegol. Mae angen inni gasglu tystiolaeth i sicrhau ein bod yn targedu'r meysydd cywir yn y ffordd gywir. Bu bron i’r Aelod achub y blaen ar rai o fy llinellau drwy gyfeirio at faniffesto'r Prif Weinidog. Yn wir, roedd y maniffesto’n cynnwys ymrwymiad i wella ansawdd aer drwy ddatblygu Deddf aer glân i Gymru. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei groesawu, ac mae'n bosibl y gall y gwaith a wnawn eisoes ar y rhaglen aer glân nodi bylchau a chyfleoedd lle bydd angen deddfwriaeth newydd i leihau llygredd aer. Mae hynny’n rhywbeth sydd ar y bwrdd a byddwn yn mynd i'r afael ag ef yn y dyfodol. Ond mae'n bwysig hefyd ein bod yn cydnabod, fel y dywedasom, fod angen inni weithredu yn awr, ac mae llu o bwerau deddfwriaethol ac offer ar gael inni eisoes i'n galluogi i wneud hynny. Mae'r rhain yn cynnwys mesurau cynllunio, seilwaith a chyfathrebu, ymhlith pethau eraill.

Mae asesu ansawdd aer a risgiau amgylcheddol cysylltiedig yn digwydd ar nifer o lefelau. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am reoli llygredd aer yn eu hardaloedd fel rhan o'r drefn reoli ansawdd aer lleol, a sefydlwyd o dan Ran IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau statudol helaeth yn nodi'r hyn y disgwylir i awdurdodau lleol ei wneud o ran cyflawni eu dyletswyddau rheoli ansawdd aer lleol. Mae ein canllawiau yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar risg o asesu ansawdd aer lleol. Mae hwn yn sicrhau bod y gwaith monitro yn canolbwyntio ar y lleoliadau lle mae aelodau o'r cyhoedd yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â lefelau gormodol o lygredd aer, megis ysgolion, ysbytai a meithrinfeydd, ymhlith mannau eraill, mannau a elwir yn lleoliadau sensitif ar gyfer gosod derbynyddion.

Sefydlwyd prosesau monitro a modelu cenedlaethol a lleol at wahanol ddibenion. Er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o ansawdd aer ledled Cymru, rydym yn gweithio gyda phartneriaid lleol ac yn y DU i ddeall sut y gellir integreiddio data lleol yn well gyda data cenedlaethol. Rydym hefyd yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddatblygu mwy o dystiolaeth leol, lle mae ei hangen, i ategu'r dystiolaeth bresennol ar lygredd aer.

Y llynedd, cwblhawyd prosiect peilot i brofi dull newydd a arweinir gan iechyd y cyhoedd o asesu risg llygredd aer yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf. Mae papur wedi'i ddrafftio i grynhoi a hyrwyddo'r gwaith ymhlith rhanddeiliaid, a bydd hyn yn ein cynorthwyo i ddatblygu dull a arweinir gan iechyd y cyhoedd o wella’r gwaith o asesu risg rheoli ansawdd aer lleol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ag ystod eang o gamau gweithredu i fynd i'r afael ag allyriadau trafnidiaeth ledled Cymru gyfan. Bydd llawer ohonnt yn cefnogi gwelliannau ansawdd aer a datgarboneiddio trafnidiaeth. Mae hyn yn cynnwys annog newid moddol. Mae’n rhaid i bob un ohonom fod yn llai dibynnol ar geir preifat a newid i fodelau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, megis cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus. Tybed faint o bobl yn y Siambr hon ac yn yr adeilad hwn a ddaeth yma heddiw mewn car. Ond fel y dywedodd yr Aelod, dyma pam fod angen inni weithio ar draws y Llywodraeth gyda'r holl ddulliau sydd gennym at ein defnydd, oherwydd, er bod hwn yn fater iechyd ac amgylcheddol, mae llawer o'r pethau a fydd yn cyflawni'r newid hwnnw'n dibynnu ar drafnidiaeth, a dyna pam fod pwyslais ar weithio ar draws y Llywodraeth mor bwysig i sicrhau bod y dewisiadau amgen hynny ar gael i bobl.

Mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi dros £60 miliwn dros dair blynedd o 2018 i greu llwybrau teithio llesol ledled Cymru i gefnogi opsiynau mwy diogel, iachach a mwy deniadol i ddinasyddion. Mae gennym nod uchelgeisiol hefyd i leihau ôl troed carbon bysiau a thacsis yng Nghymru i sero erbyn 2028. Mae'r camau hyn yn cefnogi gwelliannau i ansawdd aer yn ein trefi a'n dinasoedd, ac yn dangos arweiniad yn yr ymdrech i sicrhau trafnidiaeth garbon isel ac allyriadau isel.

Y gwanwyn hwn, byddwn yn cyhoeddi'r fframwaith parthau aer glân i Gymru. Gall unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru gyflwyno parth aer glân er mwyn mynd i'r afael â materion ansawdd aer lleol, ac mae gan barthau aer glân botensial i ddarparu gwelliannau go iawn i ansawdd aer drwy annog newid ymddygiad a chodi ymwybyddiaeth o lygredd aer.

Ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddwyd 'Polisi Cynllunio Cymru' gennym, ac mae wedi ei ailysgrifennu'n gyfan gwbl yng ngoleuni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae ansawdd aer wedi'i ymgorffori drwy gydol 'Polisi Cynllunio Cymru’ argraffiad 10, yn ogystal ag adran benodol ar ansawdd aer a seinwedd. Gwnaed hyn er mwyn sicrhau y caiff ansawdd aer ei ystyried yn gynnar yn y broses gynllunio, yn hytrach na’i bod yn ystyriaeth dechnegol yn unig, bron fel ychwanegiad, ac i fod yn elfen ganolog yn hytrach nag atodiad ar ddiwedd y broses. Bydd cymorth pellach ar ffurf canllawiau technegol ar sŵn ac ansawdd aer yn cael ei gyhoeddi o fewn y ddwy flynedd nesaf.

Mae gwaith ar bolisi hylosgi domestig yn rhan annatod o'r rhaglen aer glân. Y mis hwn, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfarfod cyntaf grŵp gorchwyl a gorffen sy'n cynnwys cynrychiolwyr o’r byd diwydiant, iechyd, DEFRA ac awdurdodau lleol i gefnogi a goruchwylio’r broses o roi polisi hylosgi domestig ar waith yn y dyfodol yng Nghymru. Fel y clywsoch heddiw, mae angen dull amlhaenog a chyfannol o weithredu, sy'n edrych ar danwyddau, cyfarpar, cynnal a chadw, deddfwriaeth a newidiadau mewn ymddygiad, ymhlith pethau eraill, i fynd i'r afael yn llawn â'r materion ansawdd aer, o ystyried maint y broblem. Bydd pob math o ymyrraeth yn cael ei ystyried yn rhan o'r gwaith hwn, gan gynnwys gwaharddiad ar werthu, neu gyfyngu ar faint a werthir o rai mathau o danwydd solet, a gwahardd pobl rhag eu defnyddio lle tybir bod angen gwneud hynny.

Ym mis Mawrth, bydd cyfarfod cyntaf y grŵp trawslywodraethol ar gyfathrebu newid ymddygiad yn cael ei gynnal. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol i wella ansawdd aer ledled Cymru. Er ein bod yn datblygu polisïau i fynd i'r afael ag ansawdd aer ar lefel y Llywodraeth, mae angen i ni godi ymwybyddiaeth o lygredd aer ar lefel unigolion a chymunedau hefyd. Mae'n bwysig ein bod yn annog pawb i ofyn, 'Beth y gallaf ei wneud i leihau ein hallyriadau?' Bydd y grŵp cyfathrebu yn gweithio gyda rhanddeiliaid allanol i ddatblygu addysg ar ansawdd aer a negeseuon cyfathrebu i roi gwybod i’r cyhoedd yng Nghymru ynglŷn â’r camau y gallwn eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd aer gyda'n gilydd.

Cyfeiriodd yr Aelod hefyd at y materion cymhleth rydym yn eu hwynebu yn ardal Port Talbot, gyda'r cyfuniad o ffactorau yno. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau, yn fy rôl flaenorol, wedi cyfarfod â Tata Steel, cyngor Castell-nedd Port Talbot a Cyfoeth Naturiol Cymru ddiwedd y llynedd i ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i wneud gwelliannau parhaus i ansawdd aer ym Mhort Talbot. Dros y 12 mis nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwaith i wella a deall y problemau yn yr ardal yn well, ac mae hyn yn cynnwys adolygiad a diweddariad o gynllun gweithredu ar ansawdd aer Port Talbot i sicrhau bod gennym drefniadau llywodraethu sy’n addas i’r diben yn yr ardal a bod y camau unioni angenrheidiol wedi eu targedu'n effeithiol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei lywio gan ganlyniad adolygiad cymheiriaid gan Brifysgol Gorllewin Lloegr, sydd ar fin cael ei gwblhau.

Yn ychwanegol at hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i'r afael ag achosion lle’r aed uwchlaw’r terfynau cyfreithiol ar gyfer nitrogen deuocsid, cyn gynted ag y bo modd, ar yr M4 rhwng cyffyrdd 41 a 42 ym Mhort Talbot. Amlygir y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd yng Nghymru yn ein cynllun. I ddod â hyn oll ynghyd, byddwn yn cyhoeddi'r cynllun aer glân yn ddiweddarach eleni. Bydd y cynllun hwn yn nodi llygryddion allweddol a'u heffeithiau ar iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd naturiol yng Nghymru. Bydd yn cynnwys mesurau i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol, yn nodi camau gweithredu trawslywodraethol a chamau gweithredu sydd eu hangen gan y sectorau i gyflawni gwelliannau ansawdd aer, ac yn sefydlu mesurau cyfathrebu, ymgysylltu ac addysgu i annog newid ymddygiad er mwyn cefnogi gostyngiad mewn llygredd aer.

Un o swyddogaethau allweddol y gwaith hwn fydd ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i ddatblygu'r cynllun er mwyn ein cynorthwyo i ddatblygu strategaeth sy'n hyrwyddo lles cenedlaethau'r presennol a chenedlaethau'r dyfodol, gan ein bod yn gwybod bod gweithredu yn allweddol i'w dyfodol a bod ganddynt ran allweddol i'w chwarae yn gwireddu ein huchelgais i fynd i'r afael ag ansawdd aer yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ymhlith eu cyfoedion. Rydym wedi gweld nifer o ysgolion cynradd ledled Cymru sy'n cymryd rhan yn rhaglen Dreigiau Ifanc yn monitro a datblygu eu hymgyrchoedd newid ymddygiad eu hunain, a allai gynnwys bysiau cerdded, mynd i'r ysgol ar sgwteri a mesurau dim oedi ger tir yr ysgol. Edrychaf ymlaen at weld plentyn naw oed yn curo ar ffenestr rhywun i ddweud wrthynt am ddiffodd eu hinjan.

I gloi, hoffwn ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i weithredu yn awr ac yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn gweld y gwelliannau parhaus y gwyddom fod eu hangen arnom o ran iechyd a lles ansawdd aer.

19:00

Daeth y cyfarfod i ben am 19:03.