Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

18/09/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Galw'r Aelodau i drefn. Hoffwn groesawu Aelod newydd y prynhawn yma—Helen Mary Jones—fel yr Aelod yn cynrychioli rhanbarth y canolbarth a'r gorllewin. Edrychwn ymlaen yn fawr at eich cyfraniadau, Helen Mary Jones, yn y Siambr yma a thu hwnt, ac rwy'n galw arnoch chi i wneud datganiad cynnar i ni yn y Cynulliad. Helen Mary Jones.

Diolch yn fawr, Llywydd. Afraid dweud na byddai neb yn dymuno canfod eu hunain yn cael eu hailethol i'r Siambr hon o dan yr amgylchiadau yr wyf i'n eu hwynebu. Ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn benderfyniad anodd ei wneud i ddychwelyd. Hoffwn fynegi fy niolch y prynhawn yma i Brifysgol Abertawe am fy rhyddhau o fy ymrwymiadau iddynt yn gynnar, er mwyn fy ngalluogi i fod yma heddiw. A hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi drwy'r cyfnod pontio—i staff grŵp Plaid Cymru a'm cyd-Aelodau Plaid Cymru. Hoffwn ddiolch yn arbennig i rai o staff y Cynulliad. Hoffwn sôn am Jodie Franklin, a oedd y ffrind gorau yn y byd, o ran fy nghael i drwy'r holl brosesau, a'r anhygoel AnnMarie Fray, sydd â'r cyfrifoldeb amhleserus o geisio roi trefn arnaf gyda fy TG.

Ar ôl i'r penderfyniad i ddychwelyd gael ei wneud, roedd yn teimlo fel y peth iawn i'w wneud, ac ni fyddwn eisiau gadael y Siambr hon, Llywydd, gyda'r argraff fy mod i'n derbyn y swydd hon gydag unrhyw deimlad o amharodrwydd. I'r gwrthwyneb, rwy'n edrych ymlaen at wasanaethu fy etholwyr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, gweithio ar eu rhan, eirioli ar eu rhan, ar yr amrywiaeth eang o faterion sy'n peri pryder iddyn nhw yn y cyfnod anodd hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at ddwyn y Llywodraeth i gyfrif ar eu rhan ac ar ran pobl Cymru.

Llywydd, rwy'n ymwybodol bod yr oes wedi newid ers y tro diwethaf i mi sefyll yn y Siambr hon; nid yw fy ngwerthoedd wedi newid. Yn ganolog i'r hyn y byddaf yn ei wneud fydd parhau fy ymrwymiad i'r frwydr am gyfiawnder cymdeithasol, yn enwedig dros hawliau plant a rhyddid menywod a merched.

Mae'n bleser gen i hefyd gyhoeddi, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 9 Awst 2018.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

A dyma ni, felly, yn dod at yr eitem gyntaf ar yr agenda, sef y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Joyce Watson.

Credyd Cynhwysol

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru? OAQ52616

Wel, rwy'n dal i fod yn bryderus iawn am ddiffygion sylfaenol credyd cynhwysol. Rwy'n siomedig bod Llywodraeth y DU yn mynnu ei gyflwyno. Mae canfyddiadau'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar gredyd cynhwysol yn tynnu sylw at lawer o broblemau yr ydym ninnau hefyd wedi eu codi dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU.

Diolch am hynna. Trefnais sesiwn bord gron ar dlodi yn ystod yr haf yn Sir Gaerfyrddin, ac roedd cynrychiolwyr yn y sesiwn bord gron honno o Ymddiriedolaeth Trussell. Dywedasant wrthyf bod galw am barseli bwyd wedi cynyddu 52 y cant lle mae credyd cynhwysol wedi ei gyflwyno. Bu cynnydd o 13 y cant yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Rydym ni i gyd yn gwybod bod un o bob pedwar o hawlwyr yn mynd i ddyled oherwydd nad ydynt wedi derbyn eu taliad cyntaf yn brydlon, a bod pedwar o bob 10 o hawlwyr yn cael anhawster i dalu'r dreth gyngor, rhent a biliau. Ac mae Disability Rights UK wedi dweud, o ystyried cyflwr enbyd y system credyd cynhwysol, ei bod nhw'n ei chael hi'n anghredadwy y byddai Llywodraeth gyfrifol yn parhau i symud pobl i mewn i system y mae'n amlwg nad yw'n gweithio. O ystyried hynny i gyd, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno â'r rhan fwyaf ohono, yn y cyfamser, beth mae'r Llywodraeth—y Llywodraeth hon—yn ei wneud i gynorthwyo fy etholwyr i sydd eisoes yn derbyn credyd cynhwysol a'r rhai a fydd yn canfod eu hunain yn y sefyllfa honno yn fuan iawn?

Wel, rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod gan y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas fynediad at gyngor annibynnol rhad ac am ddim ar faterion cyfraith lles cymdeithasol, gan gynnwys dyled, lles a rheoli arian. Trwy ein gwaith cynhwysiant ariannol, rydym ni'n darparu tua £6 miliwn y flwyddyn, a ddefnyddir i ariannu prosiectau sy'n darparu gwasanaethau cyngor ym mhob un o'r 22 o ardaloedd awdurdod lleol, ac rydym ni'n gwybod bod y cyllid yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf—rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2018, mewn geiriau eraill—cynorthwyodd y cyllid dros 73,000 o bobl, gan eu helpu i gael mynediad at dros £53 miliwn o incwm budd-dal lles i bobl a gynorthwywyd. A gwn fod digwyddiadau cynghori ar gredyd cynhwysol wedi eu cynnal ar draws sawl ardal ledled Cymru.

13:35

Fel y gwyddoch efallai, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi recriwtio timau partner cymunedol o blith pobl sydd â phrofiad o fyw gydag anabledd o gyrff allanol, cyrff trydydd sector yn bennaf, ar brosiect 12 mis i lunio'r cymorth ar gyfer pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd. Ddydd Gwener diwethaf, yng nghyfarfod grŵp awtistiaeth trawsbleidiol y Cynulliad a gynhaliwyd yn Wrecsam, cafwyd cyflwyniad gan dîm partneriaeth cymunedol yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer y gogledd a'r canolbarth—unwaith eto, nid gweision sifil; pobl sy'n gweithio yn y sector anabledd yw'r rhain, ac mae rhai ohonynt yn anabl eu hunain. Dywedasant wrthym eu bod yn cynnig cyngor a hyfforddiant i hyfforddwyr swyddi mewn canolfannau gwaith i alluogi gwell dealltwriaeth a chymorth, ond dim ond prosiect 12 mis yw hwn—2018 i 2019. Pa gyfranogiad neu oruchwyliaeth, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael yn y rhaglen hon, ac a wnewch chi ymuno â'r grŵp awtistiaeth trawsbleidiol i ystyried galw i'r rhaglen 12 mis honno gael ei hymestyn?

Wel, nid yw'n eglur pa un a yw'r rhaglen honno yn un yr ydym ni wedi ei hariannu yn uniongyrchol trwy awdurdodau lleol, ond bydd yr Aelod wedi clywed yr ateb a roddais yn gynharach. Gallaf ddweud y bydd tua £3 miliwn y flwyddyn o gyllid cyngor ar ddyled a weinyddir gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar hyn o bryd drwy'r ardoll ariannol yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru pan fydd y corff cyfarwyddyd ariannol unigol yn cael ei sefydlu. Rydym ni'n disgwyl i hynny ddigwydd ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf. A bydd hynny, wrth gwrs, yn ein cynorthwyo i wneud yn siŵr bod gennym ni'r lefel briodol o gymorth ar waith.

Mewn gohebiaeth â Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf, ysgrifennodd y Gweinidog tai ac adfywio at Lywodraeth y DU yn mynegi pryderon am gredyd cynhwysol, a galwodd y Gweinidog yn y llythyr hwnnw, er enghraifft, am fwy o gymorth i'r rhai sy'n llai ddigidol lythrennog. Byddwn yn dweud bod hynny'n rhywbeth a allai fod wedi cael ei wneud yn rhwydd pe byddech chi wedi pasio'r Bil cynhwysiant ariannol yr oeddwn i wedi ei gyflwyno. Codwyd pryderon eraill, fel bod yn gyson o ran trefniadau talu amgen. Mae'r rhain, yn y bôn, yn newidiadau gweinyddol y gallai'r Llywodraeth hon eu gwneud i'r bobl agored i niwed hynny, pe byddech yn dewis gwneud hynny. Felly, pam, dro ar ôl tro, ydych chi'n gwrthod cymryd cyfrifoldeb am fod eisiau i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am y newidiadau gweinyddol hynny pryd y gallech chi fod yn helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas? Mae'n amlwg y dylem ni gymryd unrhyw beth a ddywedwch am gredyd cynhwysol gyda phinsiad o halen.

Ond ar gost, oherwydd daw cost gyda gweinyddiaeth bob amser, ac mae'r costau'n sylweddol fel rheol. Byddai'n well gen i weld y problemau'n cael eu datrys fel hyn—yn hytrach na chostau yn mynd ar weinyddiaeth, bod yr arian hwnnw'n cael ei roi i hawlwyr credyd cynhwysol, ac yn ail, wrth gwrs, gweld Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol yn Llundain a fydd yn datrys y sefyllfa'n briodol.

Polisi Rhanbarthol

2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol polisi rhanbarthol yng Nghymru? OAQ52611

Wel, rydym ni'n achub ar bob cyfle i drafod buddiannau Cymru gyda Llywodraeth y DU, gan gynnwys ein cyfrifoldeb datganoledig am bolisi rhanbarthol, ac, wrth gwrs, byddai'n bwysig bod beth bynnag sy'n digwydd yn y dyfodol yn parchu datganoli.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna, ac rwy'n siŵr y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno bod cronfeydd strwythurol Ewropeaidd wedi bod o fudd enfawr i Gymru, o ran helpu unigolion, helpu cymunedau, cefnogi prosiectau seilwaith, creu swyddi a datblygu gwaith partneriaeth. A oes ganddo unrhyw wybodaeth am sut y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gweithredu'r gronfa ffyniant gyffredin yn y dyfodol?

Wel, bu rhywfaint o drafodaeth rhwng swyddogion, ond prin yw'r manylion. Mae ein safbwynt yn parhau i fod yn eglur bod polisi economaidd yn gyfrifoldeb datganoledig yng Nghymru. Dylem ni gael y cyllid newydd a addawyd i ni ddwy flynedd yn ôl: ni fyddai Cymru yn colli ceiniog o arian. Y gwir amdani yw mai pwerau cyfyngedig iawn sydd gan Lywodraeth y DU i ariannu a sicrhau datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru yn uniongyrchol, beth bynnag, heb ddeddfwriaeth ychwanegol. Byddai'n gyrru ceffyl a throl, wrth gwrs, drwy'r setliad datganoli y mae pobl wedi pleidleisio amdano ar ddau achlysur.

Nawr, wrth gwrs, byddwn ni'n parhau i ddatblygu ein polisi ein hunain o ran datblygu ein heconomi, ond mae'n gwbl hanfodol nad oes unrhyw ymgais i gipio grym os bydd y gronfa ffyniant gyffredin yn methu â pharchu datganoli.

Prif Weinidog, rwy'n llwyr werthfawrogi bod Llywodraeth Cymru yn dal i ddisgwyl manylion, manylion terfynol, y gronfa ffyniant gyffredin, ac mae'n hollbwysig, yng Nghymru, bod gennym ni gronfa newydd effeithiol yn hytrach na'r cronfeydd strwythurol yr ydym ni wedi elwa arnynt, wedi dibynnu arnynt ers amser maith. Er ein bod ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi, a allwch chi roi'r sicrwydd hwnnw i ni bod eich swyddogion yn gwneud eu gorau ar hyn o bryd i ddatblygu fframwaith o leiaf ar gyfer y dyfodol fel bod pobl Cymru, a diwydiant yng Nghymru, pan fyddwn yn cael manylion llawn y gronfa ffyniant gyffredin honno, yn y sefyllfa orau ac ar y sylfaen orau i fanteisio i'r eithaf arni a bwrw ymlaen â'r gwaith dros Gymru?

13:40

Yr anhawster, wrth gwrs, yw'r diffyg manylion ynghylch sut y bydd y gronfa yn gweithredu: faint o arian fydd yn y gronfa, er enghraifft; pa un a fydd yn gronfa lle y bydd proses ymgeisio, a fyddai, wrth gwrs, yn torri ar draws ddatganoli; pa un a fydd yn gweithredu yn yr un modd ag y mae'r cronfeydd Ewropeaidd presennol yn gweithredu. Yn absenoldeb y manylion hynny, wrth gwrs, mae'n anodd cyflwyno cynigion ynghylch sut y gallai'r gronfa honno weithredu yng Nghymru, ond gallaf ddweud y disgwylir i'r Ysgrifennydd cyllid gyflwyno datganiad llafar y mis nesaf, a fydd yn nodi'r camau nesaf ar gyfer datblygu gyda rhanddeiliaid polisi rhanbarthol ar ôl Brexit.

Prif Weinidog, rwy'n sylweddoli y gallai fod braidd yn anodd negodi gyda'r broses Brexit fel y saif ar hyn o bryd. A wnewch chi gytuno â mi y gallech, wrth gwrs, fod wedi cryfhau eich llaw eich hun trwy wrthod a gwrthod derbyn yr hyn yr ydych chi wedi ei ddisgrifio fel cipio grym? A oes gennych chi unrhyw syniad—rwyf yn derbyn yn llwyr nad yw hyn o fewn eich rhodd—o'r amserlen y byddwn ni'n gwybod mwy am y gronfa ffyniant gyffredin ac i ba raddau y bydd eich Llywodraeth yn gallu ei darparu yng Nghymru?

Ni allaf roi amserlen ar y gronfa ffyniant gyffredin oherwydd nid ein hamserlen ni yw hi ac nid ein cronfa ni. O ran y sefyllfa y mae hi—. Dylwn ei chroesawu hi, wrth gwrs, yn ô i'r Cynulliad—maddeuwch i mi am hynna.

O ran yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddisgrifio, mae Llywodraeth yr Alban yn canfod ei hun yn y llys erbyn hyn. Nid ydym yn gwybod beth fydd canlyniad hynny, ond, wrth gwrs, os bydd y Goruchaf Lys yn dyfarnu yn erbyn Llywodraeth yr Alban, mae hynny'n agor unrhyw nifer o lwybrau anodd cyn belled ag y mae datganoli yn y cwestiwn.

Gwnaed y penderfyniad a wnaed gennym ni ar y sail ein bod ni'n teimlo ei fod yn gytundeb da i Gymru—nid popeth y byddem ni wedi dymuno ei gael, wrth gwrs, ond dyna natur cytundeb. Mae Llywodraeth yr Alban ar hyn o bryd—wel, a yw hi mewn sefyllfa fwy pwerus? Byddwn yn dadlau nad yw hi, oherwydd, wrth gwrs, mae'n ymladd ei hachos yn y llys.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni pam y gwnaethoch chi roi feto ar rai o'r newidiadau diweddar i'r protocol gweithredol a argymhellwyd gan Paul Bowen i ymchwiliad annibynnol Cwnsler y Frenhines i'r digwyddiadau yn ymwneud â marwolaeth Carl Sargeant?

A gaf i groesawu'r Aelod i'w swydd fel arweinydd yr wrthblaid? Mae wedi gofyn cwestiynau i mi o'r blaen, wrth gwrs, ac mae yn ei swydd yn swyddogol erbyn hyn. Rwy'n siŵr y byddwn yn ymaflyd yn y Siambr hon dros y misoedd nesaf.

Yr ateb i'w gwestiwn yw: nid wyf i wedi rhoi feto ar unrhyw beth.

Wel, gadewch i mi atgoffa'r Prif Weinidog o'r hyn a ddywedodd yn ei ddatganiad yr wythnos diwethaf. Gwnaethoch yn eglur yn eich datganiad bod y cynigion hyn yn arwyddocaol a'ch bod yn cytuno â'r mwyafrif, sy'n golygu nad oeddech chi'n cytuno â'r cwbl. Os felly, ac er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw, a allwch chi ddweud wrthym ni beth nad oeddech chi'n cytuno ag ef ac a wnewch chi gyhoeddi'r holl gynigion hyn nawr, gan gynnwys y rhai a wrthodwyd gennych chi?

Mater i'r ymchwilwyr yw hwnnw, nid i mi. Ceir dau fater yn benodol a grybwyllwyd. Un yw croesholi tystion—nid yw hynny'n briodol ar gyfer proses ymchwiliol. Mae hynny'n digwydd mewn treial—fel cyfreithiwr, rwyf i'n gwybod hynny.

Yn ail yw'r awgrym y dylid gallu gorfodi tystion i ymddangos. Unwaith eto, nid oes unrhyw sail gyfreithiol ar gyfer gwneud hynny mewn ymchwiliad anstatudol. Felly, ceir cyfyngiad ar yr hyn y gellir ei wneud o ran y gyfraith.

Prif Weinidog, mae hyn i gyd yn ymwneud â bod yn agored, yn dryloyw ac yn atebol. Rydych chi'n honni yn eich datganiad bod yr ymchwiliadau yn cael eu cynnal ar hyd braich oddi wrthych chi a'ch swyddfa, ac eto mae'n eglur eich bod chi'n cymryd rhan sylweddol o ran cyfeiriad a chylch gorchwyl yr ymchwiliad hwn. Does bosib nad yw hyn yn lleihau unrhyw uniondeb sy'n gysylltiedig â'r ymchwiliad hwn, o gofio eich bod chi wedi eich cynnwys yn yr ymchwiliad hwn ac, ar yr un pryd, yn rheoli'r cylch gorchwyl. Ni all hynny fod yn iawn.

Rydym ni wedi gweld cyfres o ymchwiliadau annibynnol honedig yn ymwneud â'ch Llywodraeth chi. Rydym ni wedi gweld dro ar ôl tro eich Llywodraeth yn ceisio amddiffyn y Llywodraeth rhag beirniadaeth ar bob cyfrif. Felly, sut gallwch chi sicrhau pobl Cymru nad yw hwn yn ymchwiliad arall sy'n arwain yn y pen draw at gyhuddiadau o Lywodraeth Cymru yn datgelu gwybodaeth?

Yn gyntaf oll, nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl i gefnogi'r hyn y mae newydd ei ddweud. Bydd y cwest, wrth gwrs, yn cael ei gynnal—bydd yn digwydd ddiwedd mis Tachwedd. Dyna'r brif weithdrefn yn y broses hon.

Yn ail, nid wyf i wedi ymyrryd â'r protocol o gwbl. Mae wedi bod yn nwylo'r Ysgrifennydd Parhaol. Rwyf i wedi pennu'r cylch gorchwyl—mae hynny'n wir. Os yw'n wir fod hynny'n iawn, yna bydd y llys yn dweud hynny.

Y gwir amdani yw nad oedd yn rhaid i mi sefydlu'r ymchwiliad hwn—nid oedd yn rhaid i mi ei sefydlu. Nid oedd unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol arnaf i wneud hynny. Fe wnes i hynny o ran tryloywder. Cytunwyd ar yr CF gan y teulu, cytunwyd ar y protocol gan y teulu ar y pryd, mae'r CF yn gwbl annibynnol ac nid yw o dan unrhyw bwysau o gwbl gan y Llywodraeth, ac mae'r CF mewn sefyllfa i ofyn pa bynnag gwestiynau y mae'n dymuno eu gofyn i mi fel tyst, ac mae honno'n egwyddor sylfaenol o annibyniaeth a gynhelir yn rhan o'r ymchwiliad.

13:45

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, sylwaf fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn datblygu ei bwriad i droi Cymru yn genedl o noddfa i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. A yw hon yn brif flaenoriaeth i'ch Llywodraeth?

Wel, a gaf i groesawu'r Aelod fel arweinydd diweddaraf UKIP yn y Siambr hon? Nid oes gen i unrhyw syniad o gwbl pam mae ganddo gymaint o broblem gyda ffoaduriaid. Mae gennym ni hanes balch o roi lloches i bobl sydd wedi cael eu herlid ledled y byd, plant, yn enwedig, sydd wedi gweld pethau nad yw ef erioed wedi eu gweld, erioed wedi eu gweld—oedolion sydd wedi gweld pobl yn cael eu lladd o'u blaenau, pobl sydd wedi gweld rhyfel, pobl sydd wedi bod yn destun erledigaeth, hil-laddiad weithiau. A dyma fe, yn dweud rywsut nad yw bod yn genedl o noddfa yn rhywbeth y dylem fynd ar ei drywydd.

Mewn gwirionedd, gofynnais gwestiwn i chi. Ni wnes i unrhyw haeriad, ond diolchaf i chi am eich—[Torri ar draws.] Diolchaf i chi am eich myfyrdodau. Mae'n swnio o'ch ateb, Prif Weinidog, fel pe byddai hon yn mynd i fod yn brif flaenoriaeth i'n Llywodraeth, felly mae hynny'n ddiddorol iawn. Fel efallai y byddwch chi'n cofio, fi oedd yr unig aelod o bwyllgor cymunedau y Cynulliad a wrthwynebodd y syniad o genedl noddfa. Nawr rwyf i wedi gwneud haeriad. Roeddwn i'n meddwl y dylem ni fod yn gofalu am ein pobl ein hunain yn gyntaf. [Torri ar draws.] Syniad rhyfedd i lawer o bobl yn y Siambr hon, yn amlwg. Ceir problemau enfawr o ran tai, amddifadedd a mynediad at ddarpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru eisoes cyn i chi gytuno i annog grŵp anghenus iawn arall o bobl i ddod yma mewn niferoedd mwy a mwy, sef yr hyn yr ydych chi'n ei wneud gyda'ch statws cenedl noddfa.

Nawr, pan godais i y mater hwn flwyddyn yn ôl, nid oedd Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Pan godais y mater hwn flwyddyn yn ôl, nid oedd Llywodraeth Cymru yn hoffi'r hyn yr oedd gen i i'w ddweud. Fe wnes i— [Torri ar draws.] Fe wnes i gael llawer o gefnogaeth gan y cyhoedd. Cefais lwyth o e-byst—[Torri ar draws.] Cefais lwyth o e-byst cefnogol ar y pwynt hwn. Felly, efallai nad yw eich Llywodraeth yn rhannu safbwyntiau pobl Cymru ar y pwynt hwn.

Mater arall lle gallech chi, unwaith eto, fod yn beryglus o ddi-ddeall yn ei gylch yw mater y burka. Nawr, fe wnes i sylwadau ar fater y burka yn ddiweddar, oherwydd gofynnwyd i mi wneud hynny gan aelodau o'r cyfryngau, ac nid oeddech chi'n hoffi'r hyn yr oedd gen i i'w ddweud. Nawr, a ydych chi'n credu fod yr holl fater hwn yn ymwneud â'r burka yn un tabŵ ac nad oes gan neb yr hawl i wneud sylwadau ar hyn?

A yw'n iawn y dylai dyn ddweud wrth fenyw beth i'w wisgo? Mae e'n credu hynny—mae e'n credu hynny; mae'n nodweddiadol o'i safbwynt. A beth ar y ddaear sydd gan yr hyn y mae pobl yn ei wisgo i'w wneud â gwleidyddiaeth? Rydym ni'n wlad rydd. Mae'n beth am-Mhrydeinig iawn i ddweud nad oes gan bobl yr hawl i wisgo dilledyn penodol. Mae hynny'n perthyn mewn oes flaenorol mewn gwlad flaenorol, os caf ei roi felly.

Gadewch i mi ei atgoffa bod pob un ohonom ni yn y Siambr hon yn ddisgynnydd mewnfudwr—pob un ohonom ni. Mae'r cwbl yn gwestiwn o ba bryd y daeth ein teuluoedd yn wreiddiol. Mae'r wlad hon yn wlad o fewnfudwyr. Nid oedd unrhyw bobl yma; cyrhaeddodd pobl yma o fannau eraill. Mae gwreiddiau'r iaith Gymraeg mewn Sansgrit. Dyna pa mor bell y mae'r iaith Gymraeg wedi teithio dros filenia lawer iawn. Nid wyf i'n gweld pam y dylai cynnig noddfa i nifer fach iawn o bobl fod yn dabŵ iddo.

Soniodd am wasanaethau fel gwasanaethau iechyd meddwl. Darperir llawer ohonynt gan fewnfudwyr. Ni fyddai gennym ni wasanaeth iechyd gwladol pe na byddem yn recriwtio meddygon o dramor. Mae'n rhaid i mi ddweud, o ystyried naws yr hyn yr ydym ni wedi ei glywed yn y Siambr hon y prynhawn yma, mae'n rhaid gofyn beth yw'r gwahaniaeth rhwng UKIP a'r BNP.

Y broblem sydd gennych chi, Prif Weinidog, unwaith eto, yw eich bod chi wedi colli cysylltiad yn llwyr â'ch pobl eich hun. [Torri ar draws.] Cynhaliodd Sky News arolwg diweddar a ddangosodd bod 60 y cant o bobl Prydain yn cefnogi gwaharddiad ar y burka. Felly, gadewch i ni grynhoi eich safbwynt yn y fan yma: rydych chi wedi dweud yn gyhoeddus bod fy sylwadau i ar hyn yn hiliol, ac eto mae'n ymddangos bod 60 y cant o'r cyhoedd yn cytuno â mi. Mae hynny'n golygu ei bod ynymddangos eich bod chi'n credu bod 60 y cant o bobl Prydain yn hiliol. Yn y dyfodol, sut mae eich Llywodraeth Lafur yn disgwyl cael ei hailethol os yw'n mynd o gwmpas yn dweud wrth 60 y cant o'i phleidleiswyr ei hun eu bod nhw'n hiliol?

Pedwar aelod ac yn gostwng: 29. Dyna'r ateb i chi o ran poblogrwydd, a dyna'r ateb i chi am ein sefyllfa o ran cefnogaeth y cyhoedd. Rydych chi'n dechrau gyda'r Mwslimiaid ac yna rydych chi'n symud ymlaen at y bobl Iddewig. 'Mae'r Iddewon uniongred yn gwisgo mewn ffordd ryfedd; nid yw hynny'n dderbyniol.' Yna rydych chi'n symud ymlaen at bobl sy'n gwisgo capiau corun. Wyddoch chi, 'Pam y dylen nhw wisgo mewn ffordd wahanol?' Yna rydych chi'n symud ymlaen at rannau eraill o'r boblogaeth—pobl sydd efallai'n Gristnogion sy'n aelodau o eglwysi penodol sy'n gwisgo mewn ffordd benodol. Dyma ddiwedd ar hyn nawr. Dyma ddiwedd ar hyn nawr. Does gan neb yr hawl i ddweud wrth unrhyw un arall ym Mhrydain, yng Nghymru, gwlad rydd, sut maen nhw'n gwisgo. Os mai dyna'r trywydd y mae UKIP yn ei ddilyn, yna mae'n dilyn trywydd tywyll, tywyll dros ben. Mae'n dilyn trywydd hiliaeth, a dyna fydd pob un ohonom ni yn y Siambr hon, ac eithrio'r pedwar enwog yn y fan yna, yn sicr yn ei wrthwynebu ac yn ei ymladd. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.']

13:50

Hoffwn ddweud fy mod i'n falch o arwain plaid sy'n sefyll dros bob un dinesydd yng Nghymru ble bynnag y cafodd ei eni, ac rydym ni'n sefyll yn erbyn popeth sydd newydd gael ei ddweud gan arweinydd yr asgell dde eithafol.

Prif Weinidog, roedd 'diffyg uchelgais', 'dewis y ffordd hawdd' a 'mater o degwch' i gyd yn ymadroddion a ddefnyddiwyd i ddisgrifio gwrthodiad eich Llywodraeth i gyflwyno ciniawau ysgol am ddim cyffredinol i fabanod. Dyna eiriau eich Ysgrifennydd Cabinet presennol dros Addysg. Rydych chi'n bwriadu erbyn hyn cyfyngu nifer y plant cymwys hyd yn oed ymhellach. A ydych chi'n credu y gellir ei ddisgrifio fel mater o degwch, os oes gan eich cartref incwm net a enillir o £7,401, y bydd Llywodraeth Cymru yn torri eich cymorth prydau ysgol am ddim?

Wel, yn gyntaf oll, mae'r ymgynghoriad ar hyn newydd ddod i ben. Nid wyf i'n gwybod a wnaeth hi gyflwyniadau i'r ymgynghoriad hwnnw, ond byddwn yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw ac yn datblygu polisi yn unol â hynny.

Prif Weinidog, mae eich diffyg uchelgais yn gwaethygu tlodi ein disgyblion. Rydych chi'n sefydlu polisi yma sy'n llymach nag un Llywodraeth San Steffan y Torïaid. Dim ond blwyddyn ar ôl addewid amlwg ar dudalen 38 maniffesto Llafur, a oedd yn dweud

byddwn yn cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd,

rydych chi ar fin torri'r addewid hwnnw.

Prif Weinidog, derbyniodd Llywodraeth Cymru £15 miliwn o gyllid ychwanegol yn sgil cyflwyno prydau ysgol am ddim yn Lloegr, ac mae hyn wedi ariannu cynllun Her Ysgolion Cymru, y cynllun a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2017. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ar beth y mae'r £15 miliwn ychwanegol hwn yn mynd i gael ei wario nawr?

Wel, y gwir amdani yw nad oedd arian ychwanegol mewn gwirionedd. Roeddem ni eisoes, wrth gwrs, yn darparu brecwast ysgol am ddim. Felly, roeddem ni eisoes yn darparu prydau ysgol am ddim yn ein hysgolion. Roedd hynny'n rhywbeth a ariannwyd gennym ein hunain. Nawr, mae gennym ni'r arian canlyniadol yna. Bydd yr arian hwnnw, ynghyd ag unrhyw symiau canlyniadol eraill a ddaw, yn rhan o'r gyllideb a'i datblygiad yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, os edrychwn ni ar ein system addysg, ein bod ni'n gweld ysgolion yn cael eu hadeiladu ledled Cymru—gwelais ddwy dim ond yr wythnos diwethaf. Gwelsom ganlyniadau safon uwch da, canlyniadau TGAU da, datblygiad cwricwlwm Cymru gyfan. Nid wyf i'n credu ein bod ni'n gwneud cam â'n plant o gwbl. Rydym ni'n gweld mwy o fuddsoddiad nawr nag erioed, ac mae'r system addysg yn mynd o nerth i nerth.

Rwy'n eich holi am fwyd yng nghegau plant, nid am adeiladau ysgol. Nawr, mae'r nifer sy'n manteisio ar frecwastau am ddim yn parhau i fod yn isel, ac mae arbenigwyr o Sefydliad Bevan a Chymdeithas y Plant a'r Food Foundation i gyd wedi amlygu'r angen am brydau ysgol am ddim i bawb. Nid yw brecwastau ysgol am ddim yn atal Llywodraeth Cymru rhag cynnig prydau ysgol am ddim. Nawr, Prif Weinidog, cadarnhaodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eich bod chi wedi cymryd £15 miliwn o'r buddsoddiad addysgol. Rydych chi'n dwyn arian oddi wrth ddyfodol plant, a byddwch yn dwyn eu ciniawau ysgol yn fuan hefyd.

Wrth gwrs, mae anhrefn credyd cynhwysol ac effaith cyni cyllidol yn mynd i wneud bywyd yn fwy anodd i deuluoedd ledled Cymru gyfan. Ni fydd hanner cant a phump o filoedd o blant sy'n byw mewn tlodi yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim o dan eich cynigion. Mae hynny'n golygu mwy o stigma, mwy o fod eisiau bwyd, mwy o fanciau bwyd. Os caiff ei ddeddfu, bydd Llafur/y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyflwyno'r polisi prydau ysgol am ddim mwyaf atchweliadol yn y DU gyfan, ac mae hwnnw'n bwynt a wnaed gan Sefydliad Bevan, sydd, ynghyd â Chymdeithas y Plant, yn galw arnoch chi i gyd i ailfeddwl.

Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â'r arbenigwyr bod prydau ysgol am ddim yn darparu gwell iechyd, lles a chanlyniadau addysgol? Neu a ydych chi'n credu nad yw'r buddsoddiad hwn yn ein plant yn werth chweil?

Wel, mae'n ymddangos bod arweinydd Plaid Cymru yn credu nad oes gennym ni brydau ysgol am ddim yng Nghymru. Mae gennym ni. Mae gennym ni frecwastau ysgol am ddim. Mae'r pwynt hwnnw'n cael ei anwybyddu. Yn ail, rydym ni'n darparu £10 miliwn ychwanegol y flwyddyn rhwng 2019-20 a 2022-23, gan ddarparu prydau ysgol am ddim. Mae hynny er nad ydym ni'n cael unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Y gwir amdani yw—. Ac mae hi'n nodi, fel y mae wedi ei wneud o'r blaen, maniffesto etholiad cyffredinol y Blaid Lafur—hoffem ni fod yn fwy hael, wrth gwrs, ond mae angen i ni weld Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol yn Llundain er mwyn i hynny ddigwydd. Y gwir amdani yw na allai hi fod yn fwy hael; nid oes gan Blaid Cymru fwy o arian wedi ei guddio mewn stôr yn rhywle. Mae angen i ni weld Llywodraeth ar draws y DU gyfan sydd wedi ymrwymo i degwch, wedi ymrwymo i gyfiawnder cymdeithasol ac wedi ymrwymo i gyfle, fel yr ydym ni yma yng Nghymru.

13:55
Cysylltiadau Economaidd rhwng Cymru a De-orllewin Lloegr

3. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella cysylltiadau economaidd rhwng Cymru a de-orllewin Lloegr? OAQ52568

Mae ein buddsoddiad mewn cysylltedd trafnidiaeth, ynghyd â'r cynllun gweithredu economaidd, yn dangos ein hymrwymiad i fwy o weithio trawsffiniol a thyfu'r cysylltiadau economaidd gyda'n cymdogion.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Yr wythnos diwethaf, cadeiriais fforwm polisi Cymru yng Nghasnewydd ar greu pwerdy gorllewinol, ac roeddwn ni'n synnu o wrando ar gryn dipyn o sylwadau negyddol yn enwedig o feinciau Plaid Cymru am hyn. A ddoe, rwy'n credu, dywedodd economegydd Plaid Cymru ei fod yn ymosodiad ar uniondeb Cymru. A wnaiff y Prif Weinidog ar ran Llywodraeth Cymru gadarnhau ei fod yn cefnogi ein gwaith agosach gyda gorllewin Lloegr, ac yn benodol gyda Marvin Rees a Tim Bowles, y ddau faer a etholwyd yn uniongyrchol sydd gennym ni yno, ac a wnaiff ef sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru, i'r graddau y mae ganddi bwerau, yn ogystal â dinas-ranbarth Caerdydd, yn gweithio gyda'r meiri hynny a etholwyd yn uniongyrchol a chyda Llywodraeth y DU i wneud popeth posibl i sicrhau ein bod ni'n cael y budd gorau y gallwn o ddiddymu'r tollau a chryfder yr economi dros bont Hafren i gysylltu â ni yma yn ne Cymru?

Wel, nid oes unrhyw anhawster gyda gweithio'n draws-ffiniol. Mae pawb arall yn ei wneud. Os byddwn ni'n dweud nad ydym ni'n mynd i weithio ar draws y ffin, mae'n arwydd o deimlo'n israddol. Ac felly rydym ni'n fwy na pharod i weithio nid yn unig â chydweithwyr yn Lloegr, ond yn Iwerddon hefyd ac, yn wir, gyda'n partneriaid Ewropeaidd, sy'n hynod bwysig i ni. Rydym ni'n Llywodraeth rhyng-genedlaetholaidd—rydym ni'n edrych tuag allan, ac mae hynny'n golygu edrych y tu hwnt i ffiniau Cymru ym mhob ffordd. Fodd bynnag, yr hyn na all hyn fod yw achos o gipio grym gan Lywodraeth y DU i sefydlu rhyw fath o gorff trawsffiniol sy'n dianc rhag rheolaeth Llywodraeth Cymru. Ni fyddwn yn goddef hynny. Un o'r problemau, wrth gwrs, yw nad oes lefel gyfatebol o Lywodraeth yn Lloegr y gallwn ni siarad â hi, mewn gwirionedd. Dim ond Llywodraeth y DU sydd yna. Nid oes gan y meiri y pwerau sydd gennym ni, ac mae hynny'n drueni i bobl yn Lloegr. A gwelsom hyn: roedd cyfle gwych i ni pan aeth yr asiantaethau datblygu rhanbarthol—diflannodd ein holl gystadleuaeth. Roedd yn newyddion gwych i ni; nid oedd yn newyddion da i ranbarthau Lloegr. Felly, byddwn, wrth gwrs y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid y tu allan i Gymru, ond mae'n rhaid cael ffordd ddiffiniedig o wneud hynny nad yw'n effeithio ar bwerau a chyfrifoldebau'r Llywodraeth a'r Cynulliad.

Dim ond nawr y mae'n dod yn fwy eglur y bydd effaith gostwng y tollau ar Bont Hafren yn cynyddu traffig gan oddeutu 20 y cant, wrth i yrru ddod yn ddewis rhatach a mwy deniadol yn hytrach na thrafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal ag effaith y mesur ar brisiau eiddo ar draws y de-ddwyrain. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o'r mesurau trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol newydd a amlinellwyd yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol?

Wel, yn gyntaf oll, mae'n rhaid i mi wneud y penderfyniad o ran ba un a ddylai'r llwybr du fynd rhagddo ai peidio. Rwyf i bob amser yn ystyried dewisiadau eraill. Nid yw rhai ohonynt yn eglur, o'r adroddiad, ynghylch sut y byddent yn gweithredu'n ymarferol, ond, fel Llywodraeth, wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn ymrwymedig dros ben i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym ni'n gweld hynny, wrth gwrs, drwy'r rhwydwaith rheilffyrdd a'r buddsoddiad sylweddol a fydd yn cael ei wneud ym metro de Cymru ac mewn rhannau eraill o Gymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Mae'r Prif Weinidog yn iawn, wrth gwrs: mae diben gwleidyddol ehangach ar waith yn y fan yma. Wrth greu'r ddau gytref helaeth hyn, Mersi Dyfrdwy yn y gogledd, Glannau Hafren yn y de, sy'n croesi ffin Cymru fel cawr, maen nhw yno i ailintegreiddio Cymru i economi wleidyddol Lloegr. Ond mae hyn wedi bod yn rhan o agenda eich Llywodraeth chi hefyd. A all y Prif Weinidog ddweud yn onest bod troi Casnewydd yn faestref cymudo i Fryste fwyaf yn gwneud unrhyw beth—unrhyw beth—cadarnhaol i bobl ar gyflogau isel neu gyfartalog yng Nghasnewydd? Ac, yn hytrach na'r obsesiwn hwn â chysylltiadau trawsffiniol a chysylltedd trawsffiniol, beth am rywfaint o gysylltedd o fewn Cymru? Beth am gael cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru fel bod ceisio cael o dde i ogledd ein gwlad ddim yn antur ar raddfa glasurol?

Wel, nid wyf i'n credu mai adeiladu wal Berlin economaidd yw'r ateb, a dweud y gwir. Y gwir amdani yw bod y llifau economaidd a masnachol yn mynd o'r gorllewin i'r dwyrain. Nid oes rhaid i hynny amharu ar ein hunaniaeth ni. Mae hynny'n rhywbeth y dylem ni fod yn falch ohono. Nid yw hynny'n golygu ei fod yn fygythiad i Gymru. Os byddwn ni'n ei weld felly, rydym ni'n ddioddefwyr ein teimlad o israddoldeb ein hunain. Ceir cysylltiadau llawer gwell i'r gogledd na fu erioed. Mae gennym ni awyren ddwywaith y dydd ac mae'r trenau yn rhedeg bob dwy awr; pan ddeuthum i yma ym 1999, nid oedd yr un trên yn mynd i'r gogledd o gwbl—nid oedd trên uniongyrchol. Mae hynny wedi gwella. Rydym ni wedi gweld gwelliannau graddol ar yr A470 hefyd, ond, fel y gwyddoch, nid ffordd yw'r ateb cyn belled ag y mae mynd o'r gogledd i'r de yn y cwestiwn. Ond mewn gwirionedd, ni fyddai unoliaethwyr Gogledd Iwerddon hyd yn oed yn dweud, 'Nid ydym ni eisiau gweithio gyda'r Weriniaeth'. Maen nhw'n gweld gwerth gweithio traws-ffiniol; nid ydyn nhw'n ei weld fel bygythiad iddyn nhw eu hunain yn arbennig. Dylem ni ei groesawu—ei reoli a'i groesawu—a gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio o blaid ein pobl ein hunain.

14:00
Ansawdd Aer ym Mhort Talbot a'r Cyffiniau

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd aer ym Mhort Talbot a'r cyffiniau? OAQ52615

Mae rhaglen waith wedi'i theilwra ar y gweill i adolygu'n annibynnol y cynllun gweithredu aer glân ar gyfer Port Talbot ac i ddatblygu cynllun gwaith ar gyfer y dyfodol i wella ansawdd aer ymhellach yn y rhanbarth. Hefyd, cafodd swyddogion gyfarfod y bore yma gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a chyngor Castell-nedd Port Talbot.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr bod llawer o faterion yr ydych chi'n rhoi ystyriaeth iddynt. Canolbwyntiwyd y gwaith o fonitro ansawdd aer ar PM10s a PM2.5s—sy'n ddealladwy, gan mai dyna'r rhai a gydnabyddir sy'n cael yr effaith fwyaf ar iechyd pobl—ond rydym ni wedi gweld cynnydd mawr i'r hyn a adnabyddir fel alldafliadau llwch niwsans o waith dur Port Talbot ar draws holl ardal Port Talbot. Nawr, rwy'n cydnabod efallai nad yw hwn yn cael ei ystyried fel mater iechyd, ond mae'n sicr yn fater iechyd—mae pobl yn anadlu hwn i mewn, maen nhw'n ei gerdded drwy eu tai, mae ar eu ceir a'u heiddo—ac mae'n broblem wirioneddol i lawer o'm hetholwyr i. Hefyd, does dim amheuaeth nad o waith dur Tata mae hwn yn dod, ac rwyf i wedi cael trafodaethau gyda rheolwyr Tata i ystyried beth maen nhw'n ei wneud am hyn. Ceir cynlluniau i broblemau tymor hwy gael eu datrys drwy wella'r amgylchedd, ond ceir problem tymor byr o ran ei wneud nawr. Beth allwn ni ei wneud am y prosesau cynhyrchu i sicrhau bod y cynnyrch hwn yn cael ei leihau a'i gyfyngu cymaint â phosibl? A wnewch chi fel Llywodraeth ystyried y ffyrdd y gallwch chi weithio gyda Tata i ystyried yr atebion tymor hir? Hoffwn eich atgoffa nad yw cymorth gwladwriaethol yr UE yn effeithio ar ddewisiadau amgylcheddol, felly ceir posibilrwydd o ystyried yr atebion tymor hwy hynny. Ond a allwch chi hefyd gael trafodaethau gyda Tata i ystyried sut y gallan nhw fod yn gymydog cyfrifol i sicrhau bod yr alldafliadau yr ydym ni'n eu dioddef ym Mhort Talbot yn cael eu lleihau fel nad ydym yn cael sefyllfa lle, bob bore, mae pobl yn deffro i lwch du neu goch ar eu gerddi, neu ar eu ceir neu ar eu silffoedd ffenestri a gorfod edrych ar hynny bob un dydd? Mae hyn wedi digwydd ac mae'n annerbyniol. Mae angen gweithredu arnom ni nawr i sicrhau bod Tata yn cymryd eu cyfrifoldeb o ddifrif.

Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio'r gwaith dur yn unol â'r drwydded a gyflwynir o dan y drefn trwyddedu amgylcheddol. Mae gennym ni, wrth gwrs, ein hymrwymiad i wella a mynd ati'n rhagweithiol i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael yn yr ardal. Ym mis Ebrill, cyflwynodd Gweinidog yr Amgylchedd gynlluniau i ail-edrych ar y cynllun gweithredu—y dull y mae'n ei ddefnyddio a'r dystiolaeth sy'n sail iddo—a deallaf y bydd y Gweinidog yn cyfarfod gyda Tata, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot yn fuan i gynorthwyo'r broses honno.

Prif Weinidog, bu ychydig dros chwe mis erbyn hyn ers i'r parth 50 mya ar yr M4 gael ei ymestyn rhwng Port Talbot a throad Earlswood ar gyfer Abertawe, gyda'ch Gweinidog yn dweud wrthym ar y pryd bod hyn cyn cwblhau modelu manwl a fyddai'n digwydd yn yr haf. Wel, mae'r haf ar ben, felly a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae'r tri mis hynny wedi ei gynhyrchu o ran data, pa un a yw'r modelu manwl wedi ei gwblhau, ac yn benodol, pa un a yw unrhyw gyfran o'r traffig wedi cael ei ddargyfeirio i'r ffordd ddosbarthu?

Mae'r data hynny yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd. Bydd yr allbwn yn cael ei gyhoeddi fel y gall yr Aelodau a'r cyhoedd ei weld, a bydd hynny'n cael ei wneud cyn gynted â phosibl.

Prif Weinidog, yn amlwg, yn ogystal â diwydiant, fel yr ydym wedi clywed, mae'n amlwg bod llygredd cysylltiedig â thrafnidiaeth o'r M4 a ffyrdd lleol yn ychwanegu at yr heriau ansawdd aer ym Mhort Talbot. Nawr, gallai metro bae Abertawe a chymoedd y gorllewin leihau nifer y ceir ar y ffyrdd yn sylweddol, ond yn amlwg mae angen cyllid i wneud hyn. Felly, pa drafodaethau mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU a Network Rail ers cyhoeddi adroddiad 'Yr Achos dros Fuddsoddi' yr Athro Barry ym mis Gorffennaf? A pha mor hyderus ydych chi ar hyn o bryd y bydd Llywodraeth y DU yn gwrando ar geisiadau am gyllid rheilffyrdd teg i Gymru, gan nad ydym ni erioed wedi cael cyllid rheilffyrdd teg yng Nghymru?

Wel, gofynnodd i mi a wyf i'n ffyddiog ynghylch cyllid rheilffyrdd teg, a'r ateb gonest yw 'nac ydw', gan fod hanes yn dweud yn wahanol wrthym ni. Rydym ni wedi derbyn 1.1 y cant o'r buddsoddiad mewn seilwaith, er gwaethaf y ffaith y dylai ein cyfran boblogaeth fod yn uwch o lawer. Cymru a Lloegr yw hynny, wrth gwrs, heb yr Alban hefyd.

O ran Abertawe, wrth gwrs, tynnwyd llawer o rwydwaith rheilffyrdd Abertawe ymaith yn y 1960au, wrth gwrs, felly bydd llawer o'r atebion i'w cael mewn dewisiadau nad ydynt yn rhai rheilffyrdd trwm. Mae trafodaethau yn parhau rhwng swyddogion—ac, yn wir, gyda'r Gweinidog—gyda, er enghraifft, awdurdodau lleol ac, wrth gwrs, yr awdurdodau sy'n ymdrin â'r fargen ddinesig. Yr hyn sy'n hynod bwysig, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr bod pob cymuned yn cael ei gwasanaethu'n briodol. Gwn y bu awgrym ar un adeg na fyddai Castell-nedd ar y brif reilffordd mwyach. Ni fu hynny erioed yn wir; gallaf roi'r sicrwydd pendant hwnnw i bobl. Mae hynny'n gwbl eglur. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cysylltu mwy o gymunedau trwy nifer o foddau trafnidiaeth yn ardal bae Abertawe.

14:05
Brexit

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y paratoadau diweddaraf ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ52585

Gwnaf. Ceir tri pheth y gallaf gyfeirio atynt. Yn gyntaf oll, rydym ni'n cadw llygad manwl iawn ar ba ddeddfwriaeth allai fod ei hangen ac amseriad unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath cyn Brexit. Yn ail, rydym ni'n gweithio, er enghraifft, ar ddarparu cymorth drwy ein cronfa bontio'r UE gwerth £50 miliwn. Byddwn yn lansio porth busnes newydd maes o law, ac, yn ogystal â hynny, rydym ni'n ehangu ein gweithrediadau tramor i amddiffyn marchnadoedd presennol. Byddwn hefyd yn recriwtio mwy o swyddogion. Mae miloedd wedi eu recriwtio yn Whitehall. Ni allwn ni gyrraedd y lefel honno, ond rydym ni'n bwriadu recriwtio 198 o aelodau staff ychwanegol i ymdrin â'r mater pwysicaf yr ydym ni wedi ei wynebu yn yr 20 mlynedd diwethaf. Yn wir, 21 mlynedd yn ôl i heddiw y cynhaliwyd y refferendwm.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Wrth gwrs, bydd polisi mewnfudo'r dyfodol yn hollbwysig i baratoadau ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r Pwyllgor Cynghori ar Fewnfudo wedi cyhoeddi adroddiad heddiw. Maen nhw'n dweud bod mewnfudwyr o'r UE wedi talu mwy mewn treth nag y maen nhw wedi ei dderbyn mewn budd-daliadau, wedi cyfrannu mwy at weithlu'r GIG na'r gofal iechyd y maen nhw wedi ei dderbyn, ac na chawsant unrhyw effaith ar gyfraddau troseddu. Yn anffodus, wrth gwrs, mae'r ffigurau mewnfudo diweddaraf yn dangos bod mewnfudiad net o'r UE ar ei lefel isaf ers 2012. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe gerbron y pwyllgor materion allanol, mae gennym ni, i bob pwrpas, gyflogaeth lawn yng Nghymru, ond galw cynyddol am wasanaethau cyhoeddus ac, wrth gwrs, anghenion llafur yn yr economi ehangach. Felly, wrth i'r Torïaid gau'r bont godi ar ynys ffantasi Prydain, a yw'r Prif Weinidog yn nes o gwbl i ddatblygu'r awgrym ar gyfer system trwydded waith i Gymru?

Fel y bydd ef yn gwybod, nid wyf i wedi bod yn erbyn system o'r fath mewn egwyddor. Ni fu trafodaethau pellach ynghylch hyn ers iddo gael ei godi ddiwethaf gan David Davis gyda mi. Rwy'n credu bod heddiw'n gyfle amserol i ystyried hynny unwaith eto. Ond nid wyf yn cytuno â chanfyddiadau'r adroddiad hwnnw. Mae pawb yn dweud, 'Mae angen i ni ddenu gweithwyr proffesiynol.' Does neb yn anghytuno â hynny. Ond y gwir amdani yw bod angen i ni ddenu pobl mewn llawer o feysydd o'r economi. Y gwir amdani, os edrychwn ni ar brosesu bwyd, os edrychwn ni ar ein lladd-dai, nad ydyn nhw at ddant pawb o ran rhywle i weithio ynddo, yw bod niferoedd enfawr, os nad mwyafrif y gweithwyr yn y diwydiannau hynny, yn dod o wledydd eraill mewn gwirionedd. Pe na bydden nhw'n gallu dod yma, byddai'r lladd-dai hynny'n cau a byddai pobl leol a oedd yn gweithio yno yn colli eu swyddi. Mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei anghofio yn aml. Nid yw'n gwestiwn o, 'Wel, gadewch i ni gael y bobl mwyaf medrus yn unig'; rydym ni angen y bobl sydd eu hangen ar yr economi er mwyn i'r economi, nid yn unig ffynnu, ond gweithredu.

Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi bod angen i Gymru fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan Brexit, yn ogystal ag ymdrin â'r canlyniadau anffafriol posibl? Un o'r cyfleoedd hynny, yn ogystal â'r cyfleoedd masnach dramor—yr ydych chi eisoes wedi eu nodi, a bod yn deg, fel Llywodraeth, ac rydych chi wedi buddsoddi yn eich swyddfeydd tramor—yw newidiadau i'r prosesau caffael y gallai'r Llywodraeth eu defnyddio yng Nghymru. Nawr, yn amlwg, mae rheoliadau'r UE ar hyn o bryd yn achosi problemau sylweddol, yn enwedig i fusnesau bach a chanolig eu maint, sy'n aml iawn eisiau cyflawni busnes gyda'r sector cyhoeddus. Beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i edrych ar y prosesau caffael sy'n weithredol yma yng Nghymru yn y sector cyhoeddus er mwyn manteisio ar y cyfleoedd o adael yr UE?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei ganmoliaeth i'r swyddfeydd tramor a feirniadwyd yn gyffredinol yn y gorffennol am gael eu hagor? Ond croesawaf y dröedigaeth. Ers rhai blynyddoedd bellach, mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi darparu gwasanaeth rhagorol i fusnesau fanteisio ar gyfleoedd caffael. Rydym ni wedi gweld, er enghraifft, nifer y gwasanaethau sy'n cael eu caffael yn lleol yn cynyddu mewn llywodraeth leol ac o ran yr hyn yr ydym ni'n ei gaffael mewn gwirionedd. Oes, mae'n rhaid i ni fod yn barod am yr hyn y gallai Brexit ei daflu atom ni, ond, ddwy flynedd yn ddiweddarach, ni allaf weld beth yn union yw manteision Brexit. Nid wyf i'n gweld unrhyw gytundebau masnachu ar y bwrdd, nid wyf i'n gweld unrhyw gyfleoedd i allforwyr Cymru a fyddai'n disodli'r rhwystrau yr ydym ni'n eu codi i'r farchnad Ewropeaidd, felly gadewch i ni obeithio y bydd cytundeb sy'n rhesymol ym mis Tachwedd, cytundeb a gytunir, a chytundeb, yn bwysig, sy'n gweithio i weithwyr Cymru.

14:10

Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ag ysgrifennydd cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur, Frances O'Grady, a ddywedodd yr wythnos diwethaf bod hawliau gweithwyr a mesurau diogelu cyflogaeth mewn perygl o dan Brexit a'r posibilrwydd brawychus o 'ddim cytundeb'? A ydych chi'n cytuno y byddai 'dim cytundeb' yn drychinebus i weithwyr yng Nghymru?

Wel, wrth gwrs, y twyll yw, ddwy flynedd yn ôl, ar adeg y refferendwm, ni ddywedodd neb—ni ddywedodd neb, hyd yn oed y cefnogwyr diwyro dros ymadael—'Wrth gwrs ni fydd unrhyw gytundeb'. Ddywedodd neb hynny. Dywedodd pawb wrth gwrs y bydd cytundeb, bydd yr UE yn awyddus dros ben i roi cytundeb i ni a bydd gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen yn dod i'n hachub—cefais gyfarfod â rhai ohonyn nhw bythefnos yn ôl, a dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny—a gorfodi llaw Llywodraeth yr Almaen ac, felly, yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw hynny wedi digwydd. Nid yw wedi digwydd, a dyma'r oeddem ni i gyd yn ei ofni, ar y pryd, ddwy flynedd yn ôl. Os na allwn ni daro bargen gyda'n marchnad agosaf, fwyaf y mae gennym ni aliniad rheoleiddio sylweddol â hi eisoes, nid oes gennym ni unrhyw siawns o'i wneud â neb arall—dim siawns. Mae pobl yn sôn am gytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd; wel, iawn, ond mae Seland Newydd yn farchnad â dim ond 4.8 miliwn o bobl ac mae 12,000 o filltiroedd i ffwrdd. Ni fydd byth yn disodli'r farchnad Ewropeaidd o 450 miliwn, y mae gennym ni ffin dir â hi, ac weithiau mae hynny'n cael ei anghofio. Felly, ie, ar bob cyfrif, edrychwch ar gytundebau masnach rydd eraill, ond y gwir amdani yw, os na chawn ni ein perthynas gydag Ewrop yn iawn, ni fydd dim byd arall yn gweithio.

Cyfraddau Goroesi Canser

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cyfraddau goroesi canser? OAQ52610

Cyflwynir ein dull ar gyfer gwella cyfraddau goroesi canser yn y cynllun cyflawni ar ganser Cymru. Mae hwnnw'n cynnwys pwyslais penodol ar ganfod canser yn gynnar, mynediad amserol at driniaeth a'r ddarpariaeth o ofal o ansawdd uchel.

Diolch. Prif Weinidog, diagnosis cynnar yw'r peth allweddol i wella cyfraddau goroesi canser cleifion canser Cymru. Cysylltodd meddyg teulu â mi gan fynegi pryder ynghylch nifer yr atgyfeiriadau canser sy'n cael eu hisraddio fel mater o drefn gan feddyg ymgynghorol. Mae'r meddyg teulu a gododd y mater hwn gyda mi yn credu, fel yr wyf innau, y dylai'r meddyg teulu gael ei hysbysu am y penderfyniad hwn fel bod modd iddo herio'r penderfyniad. Mae meddyg teulu yn adnabod ei glaf yn well o lawer na meddyg ymgynghorol sydd erioed wedi gweld y claf, ac er efallai y bydd gan y meddyg ymgynghorol wybodaeth arbenigol am ganser, mae gan y meddyg teulu wybodaeth arbenigol am y claf. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ei gwneud hi'n ofyniad gorfodol bod meddygon teulu yn cael eu hysbysu am unrhyw benderfyniadau i israddio atgyfeiriad canser?

Wel, rwy'n amharod i roi fy hun yn lle oncolegydd o ran yr hyn y gallai'r oncolegydd hwnnw ei feddwl. Byddwn yn tybio y byddai'n arfer da beth bynnag i feddyg teulu gael ei hysbysu am gynnydd o ran claf. Nawr, mae gan bobl wahanol diwmorau; maen nhw'n ymateb mewn gwahanol ffyrdd o ran gwahanol ganserau. Rydym ni'n gwybod hynny, a dyna pam, yn y dyfodol, mai therapi genynnau sy'n cario'r fflach o obaith mawr i nifer fawr iawn o bobl. Er fy mod i'n synnu o glywed am yr enghraifft—ac os hoffai rannu mwy o wybodaeth â mi, yna byddwn yn falch o edrych ar hynny—byddwn yn meddwl y byddai'n arfer da i'r llif gwybodaeth fynd y ddwy ffordd.

Prif Weinidog, ers nifer o flynyddoedd erbyn hwn, rwyf i wedi defnyddio cwestiynau i'r Prif Weinidog i ofyn i chi nodi pryd y mae eich Llywodraeth yn bwriadu cyrraedd ei thargedau amseroedd aros canser, ac rydych chi, a bod yn deg, wedi rhoi sicrwydd rheolaidd i mi y bydd yn digwydd yn y dyfodol agos iawn. Ond dangosodd y ffigurau diweddaraf ar gyfer mis Mehefin 2018 bod y targed ar gyfer cleifion sy'n cael eu hatgyfeirio drwy'r llwybr brys yn cael ei fethu gan yn agos i 10 y cant. Mae'n amlwg mai un o'r rhwystrau i gyrraedd y targedau hyn yw cynllunio gweithlu gwael ar gyfer y swyddi diagnostig. Pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd y sefydliad Addysg a Gwella Iechyd Cymru sydd newydd gael ei greu yn canolbwyntio ar gynllunio gweithlu mwy effeithiol? Ac wrth i'ch cyfnod fel Prif Weinidog ddirwyn i ben, a gaf i ofyn un tro olaf: pryd mae eich Llywodraeth yn bwriadu cyrraedd ei thargedau amseroedd aros canser?

Wel, y cwbl y gallaf i ei ddweud yw bod gennym ni'r cyfraddau goroesi uchaf a adrodd hyd yma, a siawns bod hynny'n rhywbeth y dylem ei groesawu—goroesodd 72.7 y cant o'r rheini a gafodd ddiagnosis rhwng 2005-09 a 2010-14 o leiaf blwyddyn, disgwylir i 57.1 y cant oroesi am o leiaf pum mlynedd, ac mae marwolaethau cynamserol a achoswyd gan ganser wedi gostwng gan oddeutu 10 y cant yn ystod y degawd diwethaf. Mae'r ffigurau hynny yn siarad drostynt eu hunain o ran yr hyn sydd wedi digwydd gyda darpariaeth ganser. [Torri ar draws.] Wel, mae hi'n sôn am dargedau—mae hwnnw'n gwestiwn teg—ond yr ateb a roddaf yw, 'Edrychwch ar y canlyniadau'. Y gwir amdani yw bod mwy a mwy o bobl sydd nid yn unig yn cael eu gwella—pum mlynedd yn rhydd o ganser yw hynny—ond hefyd yn byw gyda chanser mewn ffordd a oedd yn amhosibl 10 neu 15 mlynedd yn ôl, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth i ni ei ddathlu. Ydym, wrth gwrs, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod mwy o bobl yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl, a dechreuodd 85.9 y cant o bobl sydd newydd gael diagnosis canser drwy'r llwybr brys driniaeth swyddogol o fewn yr amser targed ym mis Mehefin, 97.4 y cant o'r rheini nad oeddent ar y llwybr brys. Ond gallwn weld o'r cyfraddau goroesi bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir.

14:15

Mi oedd yna stori yn y wasg ddoe, yn digwydd bod, am glaf a oedd wedi goroesi canser ond a oedd wedi dod o hyd i dyfiant newydd. Mi wnaed cais am brawf PET, ac mi wrthodwyd hynny. Nid oedd rheswm wedi'i roi pam ei fod o wedi cael ei wrthod, ond yn ôl cyngor iechyd cymuned y gogledd, mae'n llawer haws cael mynediad at brofion PET mewn rhai ardaloedd nag mewn ardaloedd eraill. Mae yna anghysondeb.

Rŵan, gan ein bod ni'n gwybod bod diagnosis cynnar yn yrrwr allweddol pan mae'n dod at oroesi canser, onid ydy hi'n amlwg bod yn rhaid cael, yn gyntaf, mynediad mor gyflym â phosibl, yn enwedig i bobl sydd wedi cael canser ac wedi goroesi yn y gorffennol, ond hefyd ei bod hi'n amlwg bod yna anghysondeb, fel y gwelsom ni efo profion mpMRI yn ddiweddar? A wnewch chi gyfaddef bod y diffyg cysondeb yna yn golygu bod rhai pobl mewn rhai rhannau o Gymru â llai o siawns o oroesi canser na phobl eraill?

Na, nid ydw i'n derbyn bod yna ddiffyg cysondeb. Rŷm ni'n gwybod bod y scanners ar gael—mae un yng Nghaerdydd ac mae un yn Wrecsam. Rŷm ni'n gwybod bod y system ddim yn cael ei rheoli ynglŷn â faint o capacity sydd. So, mae yna capacity yn y system. Anodd iawn, wrth gwrs, yw gwybod y rheswm, a pham fod yr unigolyn wedi cael yr ateb yna, ond nid oes yna ddim tystiolaeth i ddangos bod pobl yn y gogledd, er enghraifft, mewn sefyllfa waeth na'r rheini yn y de. Ond heb wybod y manylion, wrth gwrs, mae'n anodd siarad mwy amdano fe.

Cymorth Ariannol ar gyfer y Diwydiant Amaethyddol

7. Beth yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol cymorth ariannol ar gyfer y diwydiant amaethyddol? OAQ52576

Wel, y peth cyntaf yr hoffem ni ei gael yw ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i ddarparu'r arian ar ôl 2022, oherwydd nid yw hynny wedi ei wneud eto. Rydym ni wedi gwneud awgrym y dylai Trysorlys y DU roi'r arian hwnnw ar gael—y dylid gosod pot o arian sy'n gyfwerth â'r pot o arian sydd ar gael i'r DU gan yr UE ar hyn o bryd o'r neilltu a dosbarthu'r arian yn yr un modd ag y gwneir nawr, oni bai a tan y ceir cytundeb ar draws gweinyddiaethau'r DU i newid y system. Ar y sail y bydd gennym ni'r arian a addawyd i ni, rydym ni wrth gwrs wedi cyflwyno ein gweledigaeth yn 'Brexit a'n tir', ein dogfen ymgynghori, ac yn ein rhaglen rheoli tir newydd, sy'n cynnwys cynllun cadernid economaidd a chynllun nwyddau cyhoeddus, a fydd yn darparu cymorth i gynyddu'r manteision y mae pobl Cymru yn eu cael o'r tir.

Prif Weinidog, yn anffodus ni allwch chi roi'r bai am holl helbulon y byd ar Lywodraeth y DU, cymaint ag yr hoffech chi wneud hynny, ac, wrth gwrs, pan fydd Llywodraeth Cymru yn cael arian ceir nifer o feysydd datganoledig fel ffermio lle mae'n gyfrifoldeb arnoch chi i wneud yn siŵr bod cyllid digonol ar gael. Byddwch yn gwbl ymwybodol o bryderon dwys ffermwyr, yn sicr ffermwyr y cyfarfûm i â nhw dros yr haf mewn gwahanol sioeau ar draws fy etholaeth, sy'n bryderus iawn am yr ymgynghoriad presennol ar gynlluniau i newid y system taliadau uniongyrchol. Nawr, er ein bod ni i gyd yn derbyn bod ymgynghoriad yn bod, pam mae'n wir nad oedd yr ymgynghoriad hwnnw'n cynnwys dewis i gadw'r taliadau uniongyrchol presennol, ond ar ffurf ddiwygiedig? Onid yw'n wir nad dyma'r amser i ddefnyddio Brexit fel esgus i newid y system bresennol, gan eich bod chi eisiau ei newid o'r cychwyn i wasgu arian allan o'r gyllideb ffermio a'i roi mewn mannau eraill? Mae hyn yn ormod ac yn rhy gymhleth ar yr adeg hon.

Wel, mae'r gyllideb ffermio wedi'i diogelu i bob pwrpas, felly ni ellir cymryd arian allan o gymorthdaliadau ffermio a'i roi mewn mannau eraill beth bynnag. Nid yw'r £260 miliwn a ddaw i gymorthdaliadau ffermio yng Nghymru yn cael ei wario yn unman arall, mae'n rhaid iddo gael ei wario ar ffermio, ac, yn fy marn i, byddai honno'n system dda ar gyfer y dyfodol. Nid wyf i'n credu bod ffermwyr eisiau canfod eu hunain mewn sefyllfa lle maen nhw'n cystadlu gyda meysydd addysg ac iechyd am gyllid. Dywedodd pob un ohonyn nhw hynny wrthyf i, beth bynnag. Yn ail, y peth olaf yr ydym ni ei eisiau yw cael ein hariannu ar sail Barnett pan ddaw i ffermio. Byddai hynny'n doriad enfawr i gyllid cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Felly, mae gwthio'r mater o arian i un ochr fel pe byddai'n fân anghyfleustra yn gwbl anghywir, gan ein bod ni'n gwybod nad oes unrhyw arian ar gyfer ffermio heb yr arian, nid oes unrhyw arian ar gyfer cymorthdaliadau ffermio, ac mae'r addewid a wnaed yn cael ei dorri'n syth. Mae ymgynghoriad, wrth gwrs, sy'n cael ei gynnal. Byddwn yn cymryd sylw o'r hyn a ddywedir yn yr ymgynghoriad hwnnw, ond yr hyn sy'n hanfodol yw edrych ar ffyrdd o wneud ffermio yng Nghymru yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni bob amser yn ymdrechu i'w wneud.

Melinau Traethawd

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddelio â phroblem melinau traethawd? OAQ52612

Rwy'n bryderus ynghylch canfyddiadau'r astudiaeth gan Brifysgol Abertawe sy'n dangos cynnydd i'r defnydd o felinau traethawd. Cyhoeddwyd canllawiau newydd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ystyried pa gamau pellach y gellir eu cymryd.

Dim ond tua awr yn ôl, ymwelais ag editmygrammar.co.uk, sy'n wefan sy'n dweud ei bod yn cynnig cymorth diogel a dibynadwy i academyddion, a chan esgus bod yn fyfyriwr israddedig blwyddyn gyntaf, cefais sgwrs ar-lein gyda dyn o'r enw 'Frank McAllister', a ddisgrifiodd ei hun fel uwch gynghorydd academaidd. Aeth y sgwrs fel hyn: Gofynnais iddo, 'A ydych chi'n ysgrifennu traethodau?', a dywedodd, 'Ydym, yn sicr gallwn gwblhau eich traethawd i chi.' Dywedais, 'A gaf i fy nal yn twyllo?' Meddai ef, 'Na, fyddwch chi byth yn cael eich dal, oni bai eich bod chi'n dweud wrth rywun eich hun.' Felly, rwy'n dweud wrthych chi i gyd nawr. Ac yna gofynnais, 'A wnewch chi ysgrifennu'r holl beth i mi?', a dywedodd Frank McAllister, 'Gwnaf'. A dywedais i, 'Faint?', a dywedodd mai £250 oedd cost wreiddiol y traethawd, ond rydym ni'n cynnig gostyngiad hyrwyddo a gallwch chi ei gael am £120, a byddwch yn cael cysylltiad gyda'r awdur am hynny.'

Mae'n ddechrau tymor academaidd newydd, ac rydych chi wedi nodi, Prif Weinidog, astudiaeth Prifysgol Abertawe a ddywedodd bod un o bob saith yn cyfaddef talu am eu traethodau. Mae gwledydd eraill wedi cyflwyno deddfwriaeth. A ydych chi'n credu y byddai deddfwriaeth y DU gyfan yn briodol ac a wnewch chi gysylltu a thrafod gyda Llywodraeth y DU i wneud hynny?

14:20

Wel, yn gyntaf, a gaf i awgrymu i'r Aelod y gallai gael gyrfa fel egin ymchwilydd preifat—[chwerthin.]os na fydd hyn yn gweithio iddo ef, ond rwy'n siŵr y gwnaiff. Ac yn ail, mae'n codi mater pwysig. O ble y mae myfyrwyr yn cael yr arian, dydw i ddim yn gwybod, ond mae llên-ladrad wedi bod yn broblem mewn addysg uwch ers i addysg uwch fod yno, ond mae wedi gwaethygu, does dim dwywaith am hynny.

Gofynnodd y cwestiwn—'deddfwriaeth ledled y DU'. Rwy'n agored i'r syniad hwnnw. Rwy'n credu bod yn rhaid iddi fod ledled y DU—dydw i ddim yn credu y byddai'n gweithio yng Nghymru yn unig. Rwy'n agored i'r syniad hwnnw, ond credaf fod angen i brifysgolion, wrth gwrs, gymryd camau eu hunain i weld a yw hyn yn gweithio yn gyntaf, ac y maen nhw, a bod yn deg—mae nifer o wiriadau yn cael eu rhoi ar waith gan brifysgolion. Ond os nad yw hynny'n gweithio yn y tymor hir, yna er lles uniondeb y system addysg uwch, efallai y bydd angen deddfwriaeth wedyn.

Mae'n risg enfawr i fyfyrwyr. Os ydych chi'n cael eich dal yn gwneud hyn, nid y llên-ladrad yn unig, mae'n gyfaddefiad o anonestrwydd, a bydd hyn gyda chi am weddill eich bywyd. Felly, mae risgiau enfawr i fyfyrwyr. Ond os yw'r prifysgolion yn credu, gan mai mater iddyn nhw yn bennaf yw hyn, fod hon yn broblem y tu hwnt i'w rheolaeth nhw, yna gall yr opsiwn deddfwriaethol ddod i'r amlwg.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad hynny—Julie James.

Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Wedi'u hychwanegu at yr agenda heddiw y mae datganiadau ar y diweddariad i'r pontio Ewropeaidd ynghyd ag adroddiad ar gynnydd y cynllun cyflogadwyedd. Ac fel arfer, nodwyd y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, y gellir eu gweld ymysg papurau'r cyfarfod ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Arweinydd y tŷ, mae'r diffyg tryloywder gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr oedi parhaus i ail gam y rhaglen Cyflymu Cymru yn peri pryder. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi wneud datganiad ar hyn. Yn ystod toriad yr haf, fel y gwyddoch, rwyf wedi ysgrifennu atoch ar sawl achlysur mewn ymdrech i ddeall y rhesymau dros yr oedi i weithredu cam 2 y cynllun, y rhoddwyd £80 miliwn o arian cyhoeddus iddo, ac a oedd fod cael ei ddyfarnu i'r cynigydd llwyddiannus erbyn diwedd mis Gorffennaf eleni. Y cyfan yr ydych chi wedi'i ddweud hyd yma yw, a dyfynnaf yma, bod

'y gwaith ar yr ymarfer caffael ar gyfer y prosiect olynol wedi bod yn gymhleth, gyda nifer o faterion annisgwyl yn codi yn ystod y broses, ac oherwydd cyfrinachedd masnachol dydw i ddim yn cael rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi ar y cymhlethdodau a'r problemau sydd wedi digwydd.'

Nid yw'r esgus o gyfrinachedd yn ddigon da. Mae llawer iawn o arian cyhoeddus wedi'i neilltuo i'r cynllun, mae miloedd o safleoedd sy'n parhau i gael eu gadael, ac mae'n rhaid gofyn y cwestiwn pam na sicrhaodd Llywodraeth Cymru fod cyfnod pontio di-dor o gam 1 i gam 2 yn y lle cyntaf. Felly, mae cyn lleied o fanylion ynghylch pryd y mae'r contract yn mynd i gael ei ddyfarnu, a phryd mae'n mynd i gael ei weithredu. Rwy'n credu bod hyn yn wael iawn, arweinydd y tŷ, ac a gaf i ofyn ichi gyflwyno datganiad brys fel y gallwn ni gael rhywfaint o atebion i'r cwestiwn hwn?

Cewch, byddaf yn cyflwyno datganiad cyn gynted ag y byddaf mewn sefyllfa i wneud hynny ar ble rydym ni'n sefyll gyda'r ail gam, ac mae'r sefyllfa yn dal i fod yr un peth â'r sefyllfa a ddisgrifiwyd yn yr ymateb ysgrifenedig a gawsoch dros yr haf.

Arweinydd y tŷ, byddwch yn gwybod bod rhywfaint o sensitifrwydd yn Abertawe ynghylch datblygiad preswyl arfaethedig yn gysylltiedig â phier y Mwmbwls, mater y mae'r ddinas wedi'i drafod am ddegawd neu fwy. Yn amlwg, mae'n ddealladwy bod y mater yn sensitif. Mae'r trigolion yn amlwg eisiau sicrhau y bydd y pier yn ddiogel, ond maen nhw hefyd eisiau sicrhau na chollir cymeriad y penrhyn.  Mae penrhyn y Mwmbwls yn amlwg yn dirwedd eiconig, sy'n adnabyddus yn rhyngwladol ac a ddefnyddir gan Croeso Cymru ac eraill i ddenu ymwelwyr i'r ardal. Mae hefyd, wrth gwrs, yn cyffinio â'r ardal o harddwch naturiol eithriadol, ac felly mae'r ardal o bwys strategol cenedlaethol.

Gyda hynny mewn golwg, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros gynllunio yn gallu cyflwyno datganiad ar y mater hwn, a chadarnhau a yw hi'n ystyried galw'r cais cynllunio i mewn? Ymhellach, gyda golwg ar warchod treftadaeth amgylcheddol a naturiol, gallai'r datganiad hefyd fod yn gyfle i amlinellu unrhyw waith y mae'n ei wneud ar y cyd â'r Gweinidog ar gyfer twristiaeth er mwyn sicrhau na fydd datblygiadau cynllunio yn effeithio'n negyddol ar gyrchfannau treftadaeth a thwristiaeth yng Nghymru. Diolch yn fawr.

14:25

Nid yw penderfyniadau cynllunio unigol yn amlwg yn addas ar gyfer datganiad llafar agored ar lawr y Senedd. Felly awgrymaf fod yr Aelod yn ysgrifennu at y Gweinidog cynllunio, a bydd hi'n gallu dweud wrtho beth sy'n digwydd ynghylch y cais penodol hwnnw.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru? Mae'r un cyntaf yn ymwneud ag addysg ac mae'n gysylltiedig â phenderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gau Ysgol Gyfun Cymer Afan. Cawsom ddatganiad yn ddiweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch cau ysgolion gwledig a'r ymgynghoriad yn ogystal â chanlyniad o hwnnw. Yn amlwg, hoffwn i gael diffiniad o'r hyn a ystyrir yn ysgol wledig, oherwydd mae ardaloedd yn y Cymoedd y gellid eu hystyried yn y categori hwnnw. Rwyf ar ddeall hefyd y bydd hynny'n dod i rym fis Tachwedd, ond mae'r penderfyniad wedi'i wneud yn yr haf, felly beth fydd effaith hyn? Rwy'n credu bod cyfle i ofyn cwestiynau mewn cysylltiad â'r agwedd arbennig honno i weld beth fydd effaith hyn, oherwydd nid yw'r cynnig i gau tan fis Medi nesaf, felly mewn gwirionedd bydd yn digwydd ar ôl mis Tachwedd, felly mae angen edrych yn ofalus iawn ar hynny.

Yr ail ddatganiad yw'r cwestiwn am Orkambi; mae'r cyffur hwnnw ar gyfer y rhai hynny sy'n dioddef o ffibrosis systig. Rwyf ar ddeall bod y cyffur yn effeithiol yn achos tua 50 y cant o'r bobl sy'n dioddef o'r cyflwr hwnnw. Ysgrifennais at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Lles yn ystod yr haf gyda chwestiynau ysgrifenedig, ac rwyf wedi cael atebion sy'n dangos nad yw wedi cael trafodaethau â Vertex ei hun, ond mae wedi gofyn i'r Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru fynd i gyfathrebu â nhw. Mae angen inni edrych ar y goblygiadau. Gall y cyffur helpu pobl â ffibrosis systig, a'r hyn sy'n bwysig yw ei fod yn helpu pobl ifanc ac felly gall newid eu dyfodol. Felly, a gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar sefyllfa Orkambi yn y GIG yng Nghymru i sicrhau ein bod, lle bynnag y bo modd, yn helpu'r bobl ifanc hyn i oresgyn cyflwr sy'n wirioneddol wanychol iddyn nhw ac sy'n gallu cwtogi eu bywydau?

Ar y cyntaf o'r rheini, yn amlwg, mae cau ysgol mewn ardal Aelod yn fater arwyddocaol, bob amser, ond nid yw'n rhywbeth y bydd y Llywodraeth yn gwneud datganiad llafar arno. Byddwn yn awgrymu ichi godi hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg—y manylion ynghylch y cau hwnnw—i weld a yw'n fater i Lywodraeth Cymru. Fel arfer, fel y gŵyr yr Aelod, mae'n fater i'r cyngor lleol. Nid ydym fel rheol yn gwneud sylwadau ar faterion o'r fath, yn enwedig mor bell ymlaen llaw.

O ran Orkambi, rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi gwneud datganiad ysgrifenedig. Mae wedi clywed eich sylwadau heddiw. Rwy'n siŵr os bydd angen rhoi diweddariad i'r Aelodau, bydd yn hapus i wneud hynny.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad ar yr oedi parhaus i gyflwyno ail gam y band eang cyflym gan Cyflymu Cymru? Bwriedir i'r ail gam ymestyn y band eang cyflym iawn i'r adeiladau hynny nad ydyn nhw'n rhan o gynllun gwreiddiol Cyflymu Cymru nac o gyflwyniad masnachol cwmnïau telathrebu yn y tair blynedd nesaf. Fodd bynnag, mae'r prosiect wedi dod ar draws yr hyn a elwir gan arweinydd y tŷ yn 'faterion anrhagweladwy'. Er fy mod eisoes wedi ysgrifennu at yr arweinydd yn tynnu sylw at un achos, mae penderfyniad Openreach i beidio â chyflwyno band eang cyflym iawn yn llesteirio dymuniad un cwmni i ehangu yng Nghaerdydd. A gaf i ofyn i arweinydd y tŷ ddod a gwneud datganiad yn y Siambr hon ar y mater pwysig iawn hwn, os gwelwch yn dda?

Ie, wel, fel yr ymatebais i Russell George, rydym ni'n dal yn y sefyllfa o roi trefn ar y broses gaffael, a chyn gynted ag y byddwn mewn sefyllfa i adrodd yn ôl gyda datganiad, byddaf yn sicr yn gwneud hynny.

Codais i'r mater o'r cynnydd sydyn mewn troseddau cyffuriau a throseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau cyn y toriad, a hoffwn dynnu sylw at ystadegyn arall sydd ar gael ers mis Awst, pan nad oeddem yma, sef y cynnydd o 29 y cant yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â fentanyl yng Nghymru ac yn Lloegr, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ni oll fod yn bryderus yn ei gylch. Mae'n bryderus iawn bod mwy o ddefnydd o—dydw i ddim yn gwybod a alla i ei ddweud yn gywir, ond carfentanil yw ef, a ddefnyddir mewn gwirionedd fel tawelydd eliffantod. Felly, mae rhai mathau o gamddefnydd o gyffuriau yn gostwng tra bod eraill yn codi.

Rwyf wedi gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar ei pholisi cyffuriau ac unwaith eto pwysleisiais yr angen am syniad o'r rheolau defnyddio sylweddau a reolir, fel y dadleuwyd gan ein comisiynydd heddlu a throseddu Arfon Jones. Nid wyf yn credu ei fod yn rhywbeth y gallwn ni eistedd arno nawr. Rwyf wedi cysgodi'r heddlu—gwn fod Aelodau eraill o'r Cynulliad wedi gwneud hynny yn ddiweddar—ac maen nhw'n dweud wrthyf fod cynnydd mewn troseddau cyffuriau. Ceir rhywbeth o'r enw 'cuckooing', lle maen nhw'n cymryd drosodd gartrefi pobl oedrannus ym Mhort Talbot— maen nhw'n dod o Birmingham a lleoedd eraill yn y DU, yn cymryd drosodd eu cartrefi, ac yn defnyddio'r tai fel man i ddelio mewn cyffuriau. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid inni siarad amdano, yn llawer mwy cyffredin, a gobeithio y gallwn gael rhywfaint o gynnydd ar hyn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Roedd yr ail gais a oedd gennyf heddiw hefyd yn ymwneud â'r Ysgrifennydd dros Iechyd—rwyf yn addo nad wyf yn canolbwyntio'n ormodol ar un unigolyn. Ond gwelais yng nghofnodion y bwrdd iechyd cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bod diffyg o £32 miliwn yn y Bwrdd Iechyd penodol hwnnw, ac maent ar hyn o bryd mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru ynghylch cynlluniau yn y dyfodol. Hoffwn gael datganiad gan Lywodraeth Cymru yn dweud wrthym sut y maen nhw'n ymyrryd yn y materion hyn, oherwydd os bydd ein byrddau iechyd yn parhau i gael eu camreoli'n ariannol yn y ffordd hon—byddwn yn dweud bod diffyg o'r fath yn systematig—yna dylem fod yn gwybod hynny fel Aelodau Cynulliad, a gwybod sut yr ydych chi'n ymdrin â hynny fel Llywodraeth Cymru.

14:30

Dydw i ddim yn credu ei fod yn systematig. Bydd y Gweinidog dros iechyd mewn gwirionedd yn ateb cwestiynau yn y Siambr yfory, felly bydd cyfle ichi roi cwestiynau iddo yfory. Os nad ydych chi'n gallu mynd at wraidd y pethau hynny yfory, yna rwy'n awgrymu eich bod yn ysgrifennu—dydw i heb glywed am y cyffur a grybwyllwyd gennych; beth ddywedoch chi oedd e—tawelydd eliffantod? Mae'n swnio'n ofnadwy. Felly, os ydych chi eisiau anfon rhagor o fanylion am hynny ataf, rwy'n fwy na pharod i godi'r mater gydag ef, os nad yw'n gallu ei ateb yn y cwestiynau yfory. Nid oeddwn wedi clywed am hynny o'r blaen.

Arweinydd y tŷ, rwyf wedi cysylltu ag etholwr y ganwyd ei phlentyn â chyflwr genetig o'r enw achondroplasia, sy'n fath o gorachedd. Ac mae fy etholwr yn hynod o bryderus ynghylch y sioeau reslo corachod sy'n dod i'r DU fis nesaf gyda grŵp teithiol o'r UD. Mae'n cyfeirio at bobl â chorachedd fel 'midgets', sef ffordd sarhaus iawn o siarad am bobl, ac mewn gwirionedd ymddengys yn debyg iawn i sioe fympwyol o oes Fictoria. Rwy'n bryderus iawn am hyn, ac mae fy etholwr yn ofidus iawn, gan fod ganddi blentyn â chorachedd, ac yn anffodus mae un o'r sioeau hyn ar y gweill ar gyfer Caerdydd, ac un arall yn Abertawe. Felly, tybed a oes unrhyw beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud o ran rhoi barn am gynnal y mathau hyn o sioeau.

Wel, diolch am dynnu ein sylw at hynny. Rwy'n credu bod hynny'n swnio'n gwbl warthus. Dim rhyfedd bod eich etholwr yn bryderus iawn. Yn amlwg, rydym ni'n gwbl ymrwymedig i sicrhau bod unrhyw un gydag unrhyw fath o gyflwr gwahanol, yn cael ei drin fel aelod cyflawn a chyfartal o'n cymdeithas, ac nid yw hyn yn swnio fel y math o beth yr hoffem ni  ei annog o gwbl. Tybed a oes modd inni gael sgwrs am hyn y tu allan, i weld pa fanylion yn union sydd gennych, er mwyn imi allu ei drafod â gwahanol Weinidogion sydd efallai yn gallu—gallwn ddod o hyd i ffordd o ganfod sut y cafwyd trwydded neu unrhyw beth, oherwydd nid wyf yn gwybod unrhyw beth o'r manylion. Ond hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ail-bwysleisio ein bod yn cymryd ein dyletswydd yn ddifrifol iawn i ystyried effaith unrhyw beth o'r fath ar gydraddoldeb, ar gyfer unrhyw un ag unrhyw gyflwr, cefndir neu unrhyw beth arall gwahanol. Byddwn i'n cael fy arswydo i ganfod bod y math hwn o beth yn digwydd—nid yw'n fath o beth yr hoffem ni ei annog o gwbl. Felly, tybed a oes modd cael sgwrs am y manylion, ac yna gallem weld a fyddai rhyw fath o ymateb yn briodol gan y Llywodraeth.

Dau beth sydd gennyf fi, arweinydd y tŷ. Yn gyntaf, pryd y gallwn ni ddisgwyl diweddariad ar benderfyniad Llywodraeth Cymru am goridor yr M4 o amgylch Casnewydd, ac a fydd hynny'n cael ei ddwyn i'r Siambr hon? Rydym wedi cael yr ymchwiliad cyhoeddus, a ddaeth i ben yn gynharach eleni. Ac rydym hefyd, rwy'n credu, wedi cael y diwydrwydd dyladwy dros yr haf—dyna oedd y cynllun gwreiddiol beth bynnag. Felly, pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch yr amser ar gyfer hynny. Oherwydd, beth bynnag yw penderfyniad Llywodraeth Cymru, mae'n mynd i fod yn hanfodol bwysig i bobl yng Nghasnewydd a'r De-ddwyrain, ac yn wir i economi ehangach Cymru, fod naill ai'r llwybr du a ffefrir gan y Llywodraeth yn cael ei fabwysiadu neu, os na fydd hynny'n digwydd, fod y Llywodraeth yn dechrau cyn gynted â phosibl i wneud cynlluniau wrth gefn ar gyfer dewis amgen, a gefnogir gan lawer o bobl yn y Siambr hon, rwy'n gwybod.

Yn ail, mae'n bleser gennyf groesawu Chief Chinamhora o Zimbabwe i dderbyniad yn y Cynulliad, amser cinio yfory. Dyma ei ymweliad cyntaf—wel, yn gyntaf i Ŵyl Fwyd y Fenni, ac yn ail i Gymru. Mae'n edrych ymlaen at ei ymweliad. Dydw i ddim yn siŵr a fydd cynrychiolydd Llywodraeth Cymru yno, ond, os na, yna efallai y gallai Llywodraeth Cymru anfon eu dymuniadau gorau at y Chief Chinamhora, sy'n teimlo'n llawn cyffro ynghylch cwrdd â phawb yma. Mae'n bwysig iawn y caiff hyn ei ystyried yn ffordd o wella cysylltiadau rhwng Cymru a Zimbabwe, a chyfandir Affrica ehangach hefyd. Gwn fod John Griffiths hefyd wedi chwarae rhan bwysig, ynghyd â mi a Love Zimbabwe, i wneud yr ymweliad hwn yn bosibl.

14:35

Wel, mae hynny'n swnio'n wych. Mae Alun Davies yn gwneud arwydd imi ei fod yn mynd yno, felly bydd presenoldeb gan y Llywodraeth yno. Rwy'n falch iawn o glywed ei fod hefyd wedi bod i Ŵyl Fwyd y Fenni. Mae croeso mawr yn wir i unrhyw beth y gallwn ei wneud i arddangos y bwyda'r diod hynod o dda ledled Cymru i gydweithwyr ledled Affrica a'r byd, felly rwy'n falch iawn o'i groesawu yma.

O ran yr M4, rydym yn disgwyl cael adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus cyn hir, ac yna byddai'n rhaid gwneud y penderfyniad ar a ddylid rhoi caniatâd cynllunio a'r gorchmynion statudol. Bydd hyn, ynghyd ag adroddiad yr arolygydd, yn destun dadl pwyllgor a phleidlais yn y Siambr hon, fel y cytunwyd, i lywio'r penderfyniad terfynol ar a ddylid bwrw ymlaen. Dydw i ddim mewn sefyllfa i roi union fanylion yr amserlen ar gyfer hynny, ond rydym wedi ymrwymo i wneud hynny ar lawr y Senedd.

Dau fater, arweinydd y tŷ. Un yw fy mod yn bryderus iawn am y ddau adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gronfa Blant y Cenhedloedd Unedig ynghylch maint y difrod i blant gan lygredd aer. Mae un o'r adroddiadau yn dweud bod plant mewn tua 2,000 o ysgolion ledled y DU yn agored i lefelau llygredd nitrogen deuocsid anghyfreithlon a pheryglus. Rwy'n drist i ddweud bod sawl un ohonyn nhw yn fy etholaeth i. Maen nhw'n tynnu sylw at y lefelau llygredd y mae plant yn dod i gysylltiad â nhw ar y daith i'r ysgol. Mae'r ail adroddiad yn tynnu sylw at y niwed i'r plentyn yn y groth drwy'r effaith ar y brych a pheryglon o enedigaeth gynamserol, pwysau geni isel a chlefydau anadlol mewn plant.

Felly, tybed a oes modd, o gofio bod gennym ni oll ddyletswydd absoliwt i wneud ein gorau glas i amddiffyn plant, inni gael dadl yn ystod amser y Llywodraeth ar y mater cymhleth hwn. Nid yw'n ymwneud â sicrhau rhagor o drafnidiaeth gyhoeddus yn unig, ond hefyd am newid arferion pobl. Mae'n gymhleth, ac nid yw'n rhywbeth y gallwn ni ei wneud ar ein pennau ein hunain, ond mae'n ymddangos i mi fod hyn yn broblem gynyddol ac yn rhywbeth y bydd angen inni wneud llawer mwy amdano.

Yr ail fater yw fy mod i'n meddwl tybed a oes modd inni gael dadl agored ar ddyfodol dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru. Rwy'n sylweddoli bod yr ymgynghoriad wedi cau erbyn hyn, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw. Ond mae'n ymddangos i mi, wedi cyfarfod ag arweinwyr Dysgu Oedolion Cymru y bore yma, fod hwn yn fater cymhleth iawn o ran y ffordd fwyaf priodol o sicrhau bod pob oedolyn ledled Cymru yn cael mynediad at ddysgu o ansawdd uchel i ymdrin â her gwaith yn y dyfodol. Dydw i ddim yn credu bod atebion pendant i hyn, ac felly byddai'n ddefnyddiol cael dadl cyn y bydd y Llywodraeth yn gorfod penderfynu ar yr union gamau i'w cymryd.

Diolch ichi am hynny. O ran ansawdd yr aer, yn amlwg yn ddiweddar, fe wnaethom ymgynghori ar y fframwaith parth aer glân yng Nghymru, ac ar hyn o bryd rydym ni'n ystyried yr ymatebion. Mae hynny'n adeiladu ar ystod o gamau gwella ansawdd aer, gan gynnwys cronfa ansawdd aer newydd gwerth £20 miliwn a chamau gweithredu i leihau lefelau nitrogen deuocsid.

Byddwn yn cyhoeddi ein cynllun aer glân ein hun, sy'n ymgorffori mwy na llygredd traffig ffyrdd—rhai o'r materion a gododd Jenny Rathbone—i ymgynghori arno yn gynnar yn 2019. Mae hynny'n golygu lleihau lefelau nitrogen deuocsid a nodi'r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd i gydymffurfio â therfynau ansawdd yn yr amser byrraf posibl. Ym mis Ebrill, ail-lansiwyd ein gwefan ansawdd aer er mwyn gwella rhagolygon ansawdd aer, gydag adran newydd ar gyfer ysgolion a chyngor iechyd. Felly, rwy'n credu bod gennym lawer o gamau gweithredu parhaus ar hyn o bryd o ran hynny. Fel y dywedais, byddwn yn cyhoeddi cynllun ar gyfer ymgynghori arno yn gynnar y flwyddyn nesaf.

O ran dysgu oedolion yn y gymuned, mae'r Gweinidog yn gwneud datganiad ar y cynllun cyflogadwyedd y prynhawn yma, sy'n cynnwys materion ar ddysgu yn y gymuned, felly mae'n dda iawn eich bod wedi codi hyn nawr.

Arweinydd y tŷ, byddwch wedi gweld y datganiadau gan y Farwnes Hale dros y ddwy flynedd ddiwethaf, Llywydd y Goruchaf Lys, a byddwch wedi gweld y datganiadau gan uwch farnwriaeth a llawer o gyfreithwyr, am y ffordd y mae'r Torïaid mewn gwirionedd wedi dinistrio'r system cymorth cyfreithiol, ac wedi dadrymuso o ganlyniad gymunedau cyfan, yn ogystal â rhai o'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, o gael y math o gyngor a chymorth a ddylai fod ar gael iddynt mewn unrhyw gymdeithas wâr naturiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros y blynyddoedd, drwy Cyngor ar Bopeth, drwy gyllid o grwpiau trydydd sector sy'n darparu cyngor, feysydd i wrthsefyll yr amddifadedd hwn—rhyw fath o wrthsafiad i'r toriadau dinistriol hynny. Ond tybed a oes modd cael datganiad gan y Llywodraeth ar fater cael mynediad i gyfiawnder yng Nghymru, a hefyd y mater o sut y gallwn mewn gwirionedd ddechrau tynnu at ei gilydd ac ail-greu system cymorth cyfreithiol newydd i Gymru—system a fydd mewn gwirionedd yn darparu hawliau, cyngor a chymorth i bobl yng Nghymru. Ni fydd y Torïaid yn gwneud hynny ac rydym yn gwybod bod yn rhaid inni wneud rhywbeth yn amlwg i rymuso rhai o'n cymunedau tlotaf.

14:40

Ryw'n cytuno'n llwyr â Mick Antoniw bod dinistrio'r system cymorth cyfreithiol wedi bod yn niweidiol ar draws y bwrdd, mewn gwirionedd i'n democratiaeth, oherwydd heb fynediad at reol y gyfraith nid oes gennych ddemocratiaeth. Bellach mae gennym sefyllfa lle mae nifer fawr o bobl na allan nhw gael mynediad at hawliau cyfreithiol oherwydd, yn syml, na allan nhw ei fforddio. Caiff hynny effaith niweidiol iawn ar bolisi cymdeithasol a chyfiawnderau ar draws y bwrdd, nid yn unig yn y pen isaf. Er enghraifft, mae'r diffyg mynediad at gymorth cyfreithiol priodol o ran cam-drin domestig, tai a ffoi rhag trais yn y cartref yn fater difrifol iawn. Mae'r Aelod yn tynnu sylw at y ffaith ein bod eisoes wedi gwneud cryn dipyn o ran cynorthwyo asiantaethau cynghori i gamu i'r adwy ryw ychydig, ond dim digon o gwbl. Byddwn yn sicr yn hapus i drafod â fy nghyd-aelod, y Gweinidog dros wasanaethau cyhoeddus beth y gallwn ni ei wneud i ddwyn ynghyd dull cynhwysfawr o weithredu ar gyfer hynny a dod â rhywbeth yn ôl i'r tŷ hwn pan fyddwn ni wedi gwneud hynny.

Arweinydd y Siambr, yr Athro Emeritws Keith Barnham, cymrawd ymchwil nodedig yr adran ffiseg, Coleg Imperial Llundain, yw'r gwyddonydd diweddaraf i ddweud y dylai carthu a dympio mwd oddi ar wely'r môr y tu allan i orsaf pŵer niwclear Hinkley Point ddod i ben, er lles iechyd a diogelwch. Mae'n ffisegydd gronynnau ynni uchel—yr arferent eu galw'n ffisegwyr niwclear. Mae e'n dweud, a dywedodd ddoe ar y cofnod mewn cynhadledd i'r wasg, bod y gronynnau poeth o wraniwm a plwtoniwm—a allai fod yn y mwd oherwydd y digwyddiadau yn y 1960au, a gadarnhawyd gan Magnox—na fyddent yn cael eu canfod gan gama sbectrosgopeg, sef yr unig ffordd y profwyd y mwd. Felly, o safbwynt y dyn cyffredin, dim ond gama profion a wnaed; dylid fod wedi cynnal profion alffa a sbectrometreg màs hefyd. Felly, cwestiwn syml iawn a hoffwn gael ateb neu ddatganiad gan y Llywodraeth: a yw'r athro prifysgol blaenllaw hwn, gwyddonydd arall—? A allech chi roi datganiad inni a yw e'n gywir, a yw'n wyddonol gywir? Dyna'r cyfan yr ydym ni eisiau ei wybod.

Wel, Llywydd, dydw i ddim mewn sefyllfa i ddweud a yw gwyddonydd yn wyddonol gywir neu beidio. Rwyf mewn sefyllfa i ddweud bod pennaeth Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi gwneud datganiad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mwd, a dywed nad yw'n ymbelydrol yn uwch na'r lefelau cefndir arferol.

Mae gennyf ddau gwestiwn i arweinydd y tŷ, un ohonynt yr wyf yn credu bod arweinydd y tŷ wedi dod i arfer ag ef erbyn hyn: a gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru ar gau Virgin Media yn Abertawe? Yn anffodus, rwy'n dweud 'cau' nawr; cyn inni dorri am yr haf roedd yn 'gau arfaethedig'. A gaf i ofyn am ddatganiad ar hynny?

A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad ar fanciau a llythyrau derbyniadau UCAS yn Gymraeg? Y llynedd, cefais eglurhad y byddai banc Lloyds yn eu derbyn ar ôl gwrthod yn gychwynnol. Eleni, rwyf wedi cael Santander yn egluro eu bod yn eu derbyn ar ôl gwrthod yn gychwynnol. Naill ai gallaf gael eglurhad gan y banciau mawr, yn flynyddol, un ar y tro, neu gall Llywodraeth Cymru gynnal trafodaeth â nhw a gwneud datganiad i'r cyfarfod llawn.

Ie, wel, ar hynny dydw i ddim yn gweld rheswm pam na ddylem allu gwneud hynny. Byddaf yn sicr yn ymchwilio i hynny. Dydw i ddim yn deall pam mae'n rhaid inni fynd drwy'r broses o nhw yn gwrthod, ac yna ni'n cysylltu â nhw er mwyn iddyn nhw ddweud 'ie'. Rwy'n credu bod nifer o Aelodau yn y Siambr wedi cael sgwrs debyg, felly rwy'n hapus i weld beth y gallaf ei hwyluso o ran y gwasanaeth ledled Cymru ar hynny.

O ran Virgin Media, ie, yn hollol. Mae'n amlwg erbyn hyn y bydd y safle'n cau. Mae'r tasglu, fel y deallaf, ar waith ond byddaf yn trafod â fy nghyd-weinidog Ken Skates i ddod â'r newyddion diweddaraf i'r tŷ, nawr bod cadarnhad o'r cau wedi'i wneud, gan fod nifer fawr o Aelodau y bydd hyn yn effeithio ar eu hetholwyr.

Mae gennyf ddau gwestiwn i arweinydd y tŷ. Byddai'n ddefnyddiol cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar fwd Hinkley Point a dympio oddi ar Fae Caerdydd, a ddechreuodd yr wythnos diwethaf. Mae fy etholwyr wedi codi pryderon ynghylch y diffyg asesiad o effaith amgylcheddol a samplu annigonol o haenau dyfnach o fwd.

Fy ail gwestiwn yw a gaf i ofyn am ddiweddariad gan y Gweinidog dros yr amgylchedd am y gwaith biomas yn y Barri. A fyddai hi'n gallu rhyddhau pob gohebiaeth â datblygwyr a chyhoeddi ei phenderfyniad ynghylch a yw'r datblygiad arfaethedig yn dod o dan Atodlen 1 i'r Rheoliadau? A yw'r Gweinidog dros yr amgylchedd yn ymwybodol o'r cais i Bwyllgor Cynllunio Bro Morgannwg gan y datblygwyr am dystysgrif datblygiad cyfreithlon mewn perthynas ag Angorfa 31, Wimborne Road, y Barri, sy'n cynrychioli datblygiad sylweddol yn y cynlluniau ar gyfer y gwaith biomas yn nociau'r Barri a'r cyfleuster storio cynnyrch naddion pren, cyn cymeradwyo'r cyfleuster hwn?

14:45

Diolch i chi am y ddau gwestiwn hynny. Ar hyn o bryd, byddai'n amhriodol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wneud datganiad oherwydd bod proses gyfreithiol ar y gweill sy'n ceisio sicrhau gwaharddeb i atal y drwydded forol. Felly, fel y dywedais yn gynharach, mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi cadarnhau eu sefyllfa, ond mae proses gyfreithiol ar y gweill, felly ni fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu gwneud datganiad tra bod y broses honno'n mynd rhagddi.

O ran yr ail gwestiwn, bydd y Gweinidog dros yr Amgylchedd yn gwneud penderfyniad cyn bo hir ynghylch yr angen i gael asesiad o'r effaith amgylcheddol i fynd gyda'r cais cynllunio sydd ar hyn o bryd ger bron Cyngor Bro Morgannwg. O ran cyhoeddi gohebiaeth, fe wnaethom ni ei gyhoeddi hyd at fis Gorffennaf ar ôl eich cais diwethaf. Rwy'n siŵr y gallwn edrych eto i weld a oes unrhyw beth ychwanegol.

Mater i'r awdurdod yw cais am dystysgrif cyfreithlondeb i Gyngor Bro Morgannwg. Ni allwn ni wneud sylw, oherwydd mae'n rhaid inni aros yn ddi-duedd yn rhinwedd ein swyddogaeth ffurfiol pe byddai'r achos yn dod ger ein bron yn ddiweddarach drwy apêl. Ond yr ateb byr i'ch cwestiwn yw y gwneir y penderfyniad cyn bo hir ynghylch a ddylid cynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol.

Cynigion i Ethol Aelodau i Bwyllgorau

Yr eitem nesaf yw’r cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau ac, yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, rwy’n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod a’u pleidleisio. Ac felly, rydw i’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol—Paul Davies.

Cynnig NDM6783 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Neil Hamilton (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Gareth Bennett (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).

Cynnig NDM6784 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM6785 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM6786 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Mark Reckless (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM6787 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Andrew R.T. Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle David Melding (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM6788 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM6789 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lle Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM6790 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM6791 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle David Melding (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM6792 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM6793 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Reckless (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynnig NDM6794 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

1. Andrew R.T. Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig), a

2. Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Andrew R.T. Davies (Ceidwadwyr Cymreig).

Cynigiwyd y cynigion.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Trefniadau Pontio Ewropeaidd

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau pontio Ewropeaidd, ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd. Y tro diwethaf y soniodd Llywodraeth Cymru wrth y Cynulliad am faterion yn ymwneud ag ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd oedd ar ddiwedd tymor yr haf. Diben datganiad heddiw yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y llu o ddatblygiadau sydd wedi digwydd yn y cyfamser.

Y mater cyntaf yr ymdriniaf ag ef y prynhawn yma yw natur y fargen wahanu a'r berthynas y mae Llywodraeth y DU yn gobeithio ei chael gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, fel y nodir ym Mhapur Gwyn Chequers. Ni fu unrhyw newid ar ein dyheadau ni ers cyhoeddi 'Diogelu Dyfodol Cymru' gyda Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017. Gyda Phapur Gwyn Chequers daeth safbwynt Llywodraeth y DU yn raddol fwy cydnaws â'n un ni, gan ein galluogi i roi croeso llugoer i rai o'i argymhellion. 

Mae Chequers yn arddel yr egwyddor o gael undeb tollau; mae'n gwneud ymrwymiad i gael aliniad rheoleiddiol parhaus ar gyfer nwyddau a chynnyrch amaethyddol. Mae natur economi Cymru, fel yr ydym ni wedi dweud lawer gwaith, yn golygu bod masnach ddi-rwystr ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu a'r economi wledig yn arbennig o bwysig. Mae cynigion Chequers yn welliant yn hynny o beth, fel y mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ill dau wedi cydnabod.

Fodd bynnag, Llywydd, nid yw Chequers yn ateb llu o gwestiynau ymarferol a gwleidyddol sylweddol. O ran polisi, mae'n methu â datrys o leiaf tri mater sylfaenol. Er ei fod yn cytuno mai'r amcan terfynol yw cael rhyw lun ar undeb tollau rhwng y DU a'r UE, mae'n methu â nodi'r modd y gellir cyflawni hyn. Mae cynigion ymarferol y Llywodraeth ei hun yn ddryslyd, yn pentyru costau ychwanegol ar fusnesau, yn dibynnu ar dechnoleg sydd heb ei phrofi ac yn uniongyrchol annerbyniol i 27 aelod yr UE.

Fel y dywedodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yr wythnos diwethaf, mae'r ateb polisi yn syml. Gadewch i Lywodraeth y DU ddweud yn blaen: 'Rydym ni eisoes mewn undeb tollau; gadewch inni aros yn rhan ohoni.' Ac yn hytrach nag esgus y gallwn ni gael polisi masnachu mentrus gan aros yn yr undeb tollau, gadewch inni ymrwymo i gadw ein polisi masnach yn gydnaws ag un yr Undeb Ewropeaidd er mwyn cael y manteision ehangach a ddaw yn sgil hynny.

Yr ail broblem ymarferol gyda Chequers yw'r ymgais i wahanu cysoni rheoleiddiol rhwng nwyddau, sydd i'w cysoni, a gwasanaethau, sydd ddim i'w cysoni. Mae'r gwahaniaeth hwnnw, wrth gwrs, yn mynd yn gwbl groes i'r pedwar rhyddid, y mae'r UE yn eu hystyried yn anwahanadwy. Ond ni fydd y gwahaniaeth hwn yn gweithio yn y byd go iawn. Mae pobl sy'n prynu nwyddau hefyd yn prynu gwasanaethau ochr yn ochr â nhw. Rydych chi'n prynu car a phecyn cyllid i'w ariannu. Mae pobl sy'n gwerthu nwyddau yn gwerthu gwasanaethau gyda nhw hefyd. Yn y sector awyrofod, mae gwasanaethu'r peiriant—contract gwasanaeth—yn rhan annatod o'r pecyn gwerthiant ac o fwy o werth na gwerthu'r peiriant ei hun.

Mae'r gwahaniaeth hwnnw, wrth gwrs, yn mynd yn gwbl groes i'r pedwar rhyddid, y mae'r UE yn eu hystyried yn anwahanadwy. Ond ni fydd y gwahaniaeth hwn yn gweithio yn y byd go iawn. Mae pobl sy'n prynu nwyddau hefyd yn prynu gwasanaethau ochr yn ochr â nhw. Rydych chi'n prynu car a phecyn cyllid i'w ariannu. Mae pobl sy'n gwerthu nwyddau yn gwerthu gwasanaethau gyda nhw hefyd. Yn y sector awyrofod, mae gwasanaethu'r peiriant—contract gwasanaeth—yn rhan annatod o'r pecyn gwerthiant ac o fwy o werth na gwerthu'r peiriant ei hun.

Ac, yn olaf, a'r elfen fwyaf anhydrin o blith y cwbl, yw nad yw Chequers eto yn datrys cwestiwn ffin Iwerddon. Mae cymaint â hyn, o leiaf, yn glir, Llywydd: allwch chi ddim cael tri o'r pethau y mae Llywodraeth y DU yn eu dymuno ar yr un pryd. Ni allwch chi gael polisi masnach annibynnol, dim ffin ar ynys Iwerddon a dim ffin ym Môr Iwerddon, i gyd ar yr un pryd.

Llywydd, mae'r problemau polisi hyn yn rai gwirioneddol, ond weithiau maent yn ddibwys o'u gymharu â'r heriau gwleidyddol y mae Papur Gwyn Chequers wedi eu cyflwyno i Brif Weinidog y DU. Mae hi wedi ei dal rhwng Scylla a Charybdis y Blaid Geidwadol. Pob milimetr mae hi'n troedio tuag at y tir y mae hi angen ei feddiannu i sicrhau bargen gyda'r UE, mae hi'n cymell ffrwd o enllibion gan y gwrthwynebwyr yn y grŵp diwygio Ewropeaidd. Bob tro mae hi'n gwneud cyfaddawd anobeithiol â'r adain honno o'i phalid sy'n ddrwgdybus o Ewrop, mae'n gwarantu ei bod hi yn colli cefnogaeth y Torïaid hynny sydd eisiau aros yn rhan ohoni ac y mae hi angen eu cymorth er mwyn cael bargen yn seiliedig ar Chequers drwy Dŷ'r Cyffredin. Does dim rhyfedd, felly, bod cymaint o'i haf wedi'i draflyncu gan ddadl ynghylch sut i ymdrin â sefyllfa diddatrys mewn Tŷ Cyffredin sy'n anfodlon ac yn analluog i gymeradwyo unrhyw fargen y gallai Prif Weinidog y DU ei chynnig. 

Eglurwyd safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir gan Brif Weinidog Cymru yn ei ddarlith i Sefydliad y Llywodraeth yr wythnos diwethaf. Os na all Llywodraeth y DU sicrhau pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin o blaid y fargen y bu'n ei thrafod, yna bydd yn rhaid trosglwyddo'r penderfyniad i'r bobl. Ein dymuniad ni fel Llywodraeth yw datrys y penderfyniad hwn drwy etholiad cyffredinol. Os na all y Tŷ Cyffredin presennol benderfynu ar bethau, mae angen un arall arnom ni sy'n gallu. Os caiff rheolau presennol y Senedd eu camddefnyddio i atal etholiad, yna mae'r achos dros ail refferendwm yn cryfhau. Naill ffordd neu'r llall, mae'n rhaid i'r bobl benderfynu. Ac yn gefndir i'r penderfyniad hwnnw, Llywydd, fydd thema fawr olaf yr haf: paratoi ar gyfer Brexit 'dim bargen'.

Gadewch imi ddweud hyn eto: i Gymru, mae 'dim bargen' yn beryg bywyd ac yn anymarferol. Mae'r hysbysiadau technegol a gyhoeddwyd hyd yma yn dangos yn yr eglurder llymaf posibl beth fyddai canlyniad Brexit di-fargen i ddinasyddion a busnesau Cymru, er bod rhai o'r materion mwyaf anodd eto i gael sylw yn yr hysbysiadau hynny. I ddinasyddion, er enghraifft, mae'n golygu trwyddedau gyrru na fyddant bellach yn ddilys yn Ewrop, oedi gyda bagiau ym mhob man croesi, diwedd ar y sicrwydd o ddefnyddio ffôn symudol am ddim tâl ychwanegol yn yr UE, a phasbortau na ellir eu defnyddio chwe mis cyn eu dyddiad dod i ben. I gwmnïau yng Nghymru, mae'n golygu beichiau newydd, cymhleth pryd bynnag maen nhw eisiau allforio i'r cyfandir. Yn hytrach na rheolau sengl sy'n cwmpasu holl aelod wladwriaethau'r UE, byddai'n rhaid i fusnesau Cymru ddeall a chydymffurfio â'r rheolau perthnasol, ar wahân, a'r rheini yn wahanol ar bob ffin.

Nid oes unrhyw beth, Llywydd, yn yr hysbysiadau technegol hyn a fydd yn gwneud bywyd yn well neu'n haws i fusnesau Cymru. Maent yn dangos yn hytrach yr amharu a'r difrod a wneir i'n heconomi a'n swyddi, a fyddai'n deillio o'r methiant trychinebus i gytuno ar fargen gyda'r Undeb Ewropeaidd. Yn fwy hir-dymor, byddai amodau o'r fath yn anghymhelliad anferth i gwmnïau amlwladol gyda chadwyni cyflenwi cymhleth i fuddsoddi yma, a gallai 'dim bargen' arwain yn hawdd iawn at nifer o gwmnïau llai o faint sy'n allforio dim ond i'r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd i beidio ag allforio o gwbl.

Nawr, Llywydd, oherwydd god y cloc yn wir yn tician  ac oherwydd bod Llywodraeth y DU yn diffygio mewn anawsterau o'i gwneuthuriad ei hun, rydym ni wedi bod yn gwneud lllawer iawn mwy o gynllunio wrth gefn yma yng Nghymru dros gyfnod yr haf. Rydym ni wedi dyrannu peth o'r £50 miliwn sydd yng nghronfa bontio'r UE, rydym ni ar fin lansio porth busnes Brexit, rydym ni wedi anfon cyngor atodol ar yr hysbysiadau technegol i sefydliadau, ac rydym ni wrthi'n trafod goblygiadau argyfyngau sifil posib gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid yng Nghymru. Rwy'n ailadrodd yr hyn y mae Prif Weinidog Cymru wedi'i ddweud mor aml yn y fan yma: Nid oes unrhyw fodd o leihau 'dim bargen' i fod yn ddim amgenach na phwynt arall ar sbectrwm Brexit, lle gall cynllunio da ei droi i'r fuddugoliaeth honno sydd yn nychymyg anniddig y Brexitwyr. Pa bynnag liniaru sy'n bosib, fodd bynnag, byddwn yn gwneud hynny i ymateb i'r trychineb y mae 'dim bargen' yn ei olygu i Gymru.

Yn olaf ac yn fyr, Llywydd, trof at fanylion cyfnod yr haf. Mae gwaith ymgysylltu gweinidogol â Llywodraeth y DU wedi parhau a dwysau. Mae'r Fforwm Gweinidogol, Y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar negodiadau yr Undeb Ewropeaidd a'r grŵp rhyng-weinidogol ble'r oedd fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, yn bresenol, wedi cyfarfod yn ffurfiol mwy na dwsin o weithiau yn Llundain, Caerdydd a Chaeredin.

Ar lefel swyddogol, mae gwaith rhynglywodraethol ar fframweithiau cyffredin yn dwysau, ac un o'r agweddau cyntaf yn hyn o beth i ddwyn ffrwyth yw'r cyhoeddiad na fydd angen o gwbl bellach i rewi rheoliadau o dan adran 12 o'r Ddeddf ymadael o ran cyllido amaethyddiaeth. Buom yn trafod â rhanddeiliaid drwy gydol yr haf. Bydd y grŵp cynghori Ewropeaidd yn cyfarfod eto ddydd Iau yr wythnos hon. Mae Gweinidogion wedi cynnal trafodaethau wyneb yn wyneb â chynrychiolwyr allweddol o fyd busnes, addysg uwch, y gwasanaeth iechyd, yr economi wledig ac eraill i barhau i sicrhau bod ein dull o weithio yn adlewyrchu orau y cyngor a roddir gan y rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf uniongyrchol gan Brexit. Mae Prif Weinidog Cymru wedi agor ein swyddfa newydd yn Berlin, y diweddaraf mewn cyfres o ffynonellau newydd o gefnogaeth i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, wrth inni gyflawni ein penderfyniad y bydd Cymru'n aros yn agored i'r byd.

Dros yr haf, rydym ni hefyd wedi parhau i gyhoeddi papurau polisi Brexit, yn fwyaf diweddar am effaith ariannol Brexit, oedd ynddo'i hun yn dilyn datganiad o bwys o ran sut y byddwn ni'n ymdrin â'r economi wledig. Ac yn olaf, Llywydd, mae ymdrech enfawr yn parhau er mwyn darganfod diffygion yn y llyfr statud cyfredol y bydd angen eu cywiro o ganlyniad i Brexit, sy'n cynnwys cannoedd o ddarnau o ddeddfwriaeth.

Rwy'n ddiolchgar iawn i gadeiryddion y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac i Gomisiwn y Cynulliad am eu trafodaethau agos â'r Llywodraeth dros yr haf ynglŷn â'r trefniadau ymarferol y bydd eu hangen arnom ni er mwyn cael llyfr statud cydlynol ac ymarferol i Gymru, a hynny mewn ffordd sy'n diogelu swyddogaeth graffu y Cynulliad Cenedlaethol.

Llywydd, yn yr wythnosau i ddod byddwn yn gweld penllanw'r canlyniadau'r penderfyniad a wnaed yn refferendwm mis Mehefin 2016. Bydd yr hyn sy'n digwydd yn cael effaith barhaol ar ein ffyniant, ein diogelwch a'n dylanwad yn y byd yn y dyfodol. Rwyf yn ddiolchgar am y cyfle i roi hyn o ddiweddariad i aelodau, fel y mae ein tymor newydd ein hunain yn dechrau.

14:55

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y copi ymlaen llaw o'i ddatganiad a gefais y prynhawn yma? Ond mae'n rhaid imi ddweud nad wyf i fymryn callach ynghylch pam mae mewn gwirionedd wedi gwneud hynny, oherwydd, wrth gwrs, ni fu'n ddim ond ailadroddiad o'r math o ymosodiad yr ydym ni wedi dod i ddisgwyl ei glywed yn y misoedd diwethaf, yn enwedig wrth i'r etholiad am arweinyddiaeth Llafur fagu stêm ac inni ddynesu at fis Rhagfyr. Rwy'n credu ei bod hi'n werth atgoffa pawb yn y Siambr hon, yn enwedig y rhai sy'n gweiddi o'u seddi, fod Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE a gadael yr UE yw'r union beth y mae'n rhaid i ni ei wneud.

Nawr, clywais lawer o ddarogan gwae gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddatganiad: darogan gwae ynghylch trwyddedau gyrru—trwyddedau gyrru y gallwn ni eu defnyddio y tu allan i'r UE bellach heb unrhyw broblemau o gwbl; darogan problemau am oedi gyda bagiau—wel, a dweud y gwir, nid oes gennym ni broblem o ran oedi gyda bagiau wrth gyrraedd Prydain o'r tu allan i'r UE, neu wrth fynd i wledydd y tu allan i'r UE yn awr, felly pam fyddai yn y dyfodol? Gordaliadau ffôn symudol. Rwy'n gwybod beth y mae pobl yn ceisio ei wneud—mae'n rownd arall o brosiect ofn ynghylch y prosiect hwn y pleidleisiodd pobl Prydain a phobl Cymru yn benodol yn ei gylch adeg y refferendwm diwethaf. Ac, wrth gwrs, rydym ni i gyd yn cofio, onid ydym ni, y darogan gwae am ganlyniadau enbyd a difrifol uniongyrchol yn sgil pleidlais flaenorol pobl Cymru a gweddill y DU—yr arbenigwyr honedig yn dweud wrthym y byddai cwymp yn yr economi dros nos ac y byddem ni eisoes yn talu'r pris difrifol am Brexit, ond welsom ni mo'r argoel leiaf ohono. Yn wir, mae'r economi yn parhau, wrth gwrs, i dyfu.

Roeddwn yn synnu'n fawr na wnaethoch unrhyw gyfeiriad o gwbl, Ysgrifennydd y Cabinet, at gyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf, ac yr oeddech chi'n rhan ohono. Os ydych chi'n mynd i ddiweddaru—. Os ydych chi'n mynd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf—[torri ar draws.] Na, wnaeth e ddim. Na, wnaeth e ddim. Gallaf glywed pobl yn dweud y gwnaethoch chi. Na, wnaethoch chi ddim, a dweud y gwir. Felly, rwy'n credu y dylech chi, os ydych chi'n mynd i wneud datganiad, wneud yn siŵr ei fod yn ystyrlon ac y ceir pethau yr ydych chi'n ein diweddaru yn eu cylch.

Nawr, fel y gwyddoch chi, mae'r awyrgylch ym Mrwsel ynghylch y cyfleoedd o ran bargen wedi bod yn newid yn sylweddol yn yr wythnosau diwethaf. Rydym yn symud yn agosach at gyfle lle mae bargen yn llawer mwy tebygol. Mae Michel Barnier a llawer o rai eraill yn cadarnhau ein bod yn awr yn agos at daro bargen. Ni wnaethoch unrhyw gyfeiriad at hynny mewn unrhyw fodd o gwbl. Mae'r UE, wrth gwrs, wedi bod yn sôn am y cyfleoedd sydd yna i gael atebion technolegol o ran ffin y DU rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon. Maen nhw wedi bod yn sôn am y cyfleoedd hyn, felly pam yr ydych chi'n dal i fod yn ailadrodd yr hen ddadleuon a bloeddio eich proffwydoliaethau duaf, wn i ddim.

Nawr, rydym hefyd yn gwybod—rydym hefyd yn gwybod—ei bod hi er budd i'r UE daro bargen â'r Deyrnas Unedig. Mae'r Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi rhybuddio yr UE, oni fyddant yn taro bargen gyda ni, y gellid rhoi 0.7 y cant o weithlu'r UE mewn perygl ac y gellid cael effaith o hyd at 1.5% ar dwf economaidd ar draws gwledydd eraill yr UE, gydag Iwerddon, wrth gwrs, yn cael ei tharo galetaf.

Dyna pam, ar y meinciau hyn, y byddwn yn parhau i gefnogi Prif Weinidog y DU wrth iddi geisio cael y fargen orau bosib i Brydain drwy'r dull pragmatig y mae hi wedi ei arddel gyda chytundeb Chequers. Dyna'r un y mae hi a'i thîm yn mynd ar ei drywydd, ac, a dweud y gwir, mae'n hen bryd ichi ddechrau cydweithio a chwarae yn nhîm y DU, yn hytrach na cheisio achosi problemau a rhwystro ewyllys pobl Cymru. Dim ond bargen fel cytundeb Chequers fydd yn parhau i'n galluogi i fasnachu gyda'r UE mor ddirwystr â phosib gan roi'r cyfle inni hefyd wneud cytundebau masnach dwyochrog.

Felly, a gaf i ofyn i chi, yng nghanol eich gofid a gwae, beth ar y ddaear yr ydych chi'n ei wneud i baratoi ar gyfer y cyfleoedd sydd gan Brexit i Gymru ac i economi Cymru? Pam nad ydym ni wedi clywed dim am y paratoadau yr ydych chi'n eu gwneud i newid y prosesau caffael i gefnogi busnesau bach a chanolig, nad ydyn nhw ar hyn o bryd, yn aml iawn, yn cael unrhyw gyfle o ran prosesau caffael cyhoeddus? Pam nad ydych chi'n manteisio ar y cyfleoedd i Gymru o ran y cytundebau masnach posib y mae modd eu llunio mewn rhannau eraill o'r byd y tu allan i'r UE?

Nawr, i fod yn deg â Llywodraeth Cymru, rwyf wedi gweld eich bod yn cynyddu gallu swyddfeydd Llywodraeth Cymru mewn gwahanol rannau o'r byd i gymryd rhan yn y trafodaethau masnach hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n beth cadarnhaol iawn. Wnaethoch chi ddim sôn am hynny yn benodol yn eich datganiad, oherwydd bod arnoch chi eisiau canolbwyntio ar anobaith a phopeth a allai fynd o'i le. Fodd bynnag, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud wrthym ni beth yw maint y gweithlu hwnnw ar hyn o bryd. Sut y maen nhw ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda'r Adran Fasnach Ryngwladol?

 A allwch chi hefyd ddweud wrthym—? Mae gennych chi'r gronfa bontio hon o £50 miliwn. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod lle rydych chi'n bwriadu gwario gweddill yr arian hwnnw. Dim ond cyfran fach iawn ohono a gyhoeddwyd gennych hyd yn hyn, a byddai gennyf ddiddordeb gwybod, ac rwy'n siŵr y byddai gan bobl Cymru ddiddordeb gwybod, ble arall yr ydych chi'n mynd i'w wario fel y gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn. Felly, yn hytrach na gofid a gwae, pam na allwn ni gael rhywun sy'n fwy gobeithiol am y dyfodol, yn enwedig o ystyried bod arnoch chi eisiau bod yn Brif Weinidog y wlad hon yn y dyfodol?

15:00

Wel, Llywydd, diolch yn fawr. Dechreuodd yr Aelod drwy ddweud nad oedd ddim callach am Brexit, ac rwy'n credu i weddill ei gyfraniad ddangos inni pa mor wir oedd ei eiriau agoriadol. [Chwerthin.] Bydd hi'n newyddion da, rwy'n siŵr, i bobl yng Nghymru, pan nad yw eu trwyddedau gyrru yn ddilys yn yr Undeb Ewropeaidd, nad oes ots gan y Blaid Geidwadol, pan fyddan nhw'n aros, fel y byddant—. Nid fy syniadau i yw'r rhain, gyda llaw; dyma'r dogfennau a gyhoeddwyd gan eich Llywodraeth chi. Dyna ddywedwyd yn eu dogfennau yr wythnos diwethaf. Roedden nhw'n dweud, os nad oes bargen, na fydd eich trwydded yrru yn ddilys. Roedden nhw'n dweud, os nad oes bargen, y bydd yn rhaid ichi sefyll mewn rhes bob tro yr ydych chi'n croesi ffin yn yr Undeb Ewropeaidd, lle nad ydych chi'n gorfod gwneud hynny heddiw. Roedden nhw'n dweud, er bod sicrwydd na chodir unrhyw daliadau trawsrwydweithio arnoch chi ar hyn o bryd, yn ôl deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ni fydd gennych chi'r amddiffyniad hwnnw yn y dyfodol. Ond rydym wedi clywed y prynhawn yma na fydd hynny mewn gwirionedd yn bwysig.

Dywedodd yr Aelod nad yw Brexit wedi cael unrhyw effaith ar economi y DU hyd yma. Mae economi y DU 2 y cant yn llai, Llywydd, nag y byddai wedi bod pe na fyddem wedi gwneud y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n costio £900 i bob aelwyd yng Nghymru. Dyna'r effaith eisoes. Mae'n hurt dweud y bu'r penderfyniad yn ddi-gost yn economaidd, ac, unwaith eto, dyna'r cyngor y mae Llywodraeth y DU yn ei gyhoeddi drwy Ganghellor y Trysorlys.

Nawr, dywedodd yr Aelod na soniais i am Gydbwyllgor y Gweinidogion a gyfarfu yr wythnos diwethaf. I ddweud y gwir, roedd yn ymdrin â'r tri mater yn union a gwmpaswyd yn fy natganiad i. Buom yn siarad am y fargen y mae'r Prif Weinidog yn awyddus i gytuno arni o ganlyniad i gyfarfod Chequers a'r rhwystrau sy'n bodoli i gyflwyno hynny'n llwyddiannus. Buom yn sôn am y paratoadau ar gyfer 'dim bargen', a buom yn sôn am effaith ddeddfwriaethol gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Dŷ'r Cyffredin, ar Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i geisio lliniaru'r effaith honno. Rwy'n sicr y bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ddiolchgar iawn am y mymryn o gefnogaeth y mae hi'n ei mwynhau gan y Blaid Geidwadol yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Pleser ar y mwyaf iddi, heb amheuaeth, o ystyried yr anawsterau y mae hi'n eu hwynebu ar ei meinciau ei hun.

Gofynnodd yr Aelod  nifer fach o gwestiynau imi ar y diwedd. O ran caffael, bydd yn gwybod y cyhoeddais adolygiad o'n polisïau caffael y llynedd yn union er mwyn ystyried effaith Brexit. Rwyf wedi cyhoeddi nifer o ddatganiadau ysgrifenedig ynglŷn â chynnydd yn yr adolygiad hwnnw dros gyfnod yr haf, a byddwn yn edrych i weld ymhle y gall fod rhai cyfleoedd y mae modd inni achub arnyn nhw yng Nghymru i aildrefnu ein polisïau caffael ar gyfer byd ar ôl Brexit.

Gofynnodd yr Aelod imi faint o aelodau'r tîm pontio Ewropeaidd sydd gennym ni yn awr yn gweithio yn Llywodraeth y DU—yn Llywodraeth Cymru, yn hytrach. Caiff 30 aelod o staff eu cyflogi ar hyn o bryd i weithio ar y materion hynny. Cyfeiriodd Prif Weinidog Cymru at bron i 200 o aelodau ychwanegol o staff y bydd angen i ni eu cyflogi i weithio ar y pethau hyn, yn enwedig ym maes amaethyddiaeth a'r amgylchedd.

O ran cronfa bontio yr UE, rydym wedi gwneud un gyfran o ddyraniadau eisoes. Byddwn yn gwneud ail gyfran o ddyraniadau yn fuan iawn. Bydd hyn yn adlewyrchu'r un patrwm eang. Bydd dyraniadau a fydd o gymorth uniongyrchol i'r economi wledig, dyraniadau a fydd yn rhoi cefnogaeth uniongyrchol i fusnesau yng Nghymru baratoi, byddwn yn dod o hyd i gymorth ychwanegol ar gyfer y sector addysg uwch, a byddwn yn buddsoddi yng ngallu ein trydydd sector i baratoi ar gyfer effaith Brexit ar y gwaith y maen nhw yn ei wneud.

15:05

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad. Ond, er gwaethaf y bwrlwm o weithgarwch ymddangosiadol dros yr haf ynghylch ein hymwahaniad oddi wrth yr UE, nid ydym yn agosach at gael atebion i gwestiynau sylfaenol—cwestiynau mor sylfaenol fel eu bod yn amrywio o ddyfodol cytuniad heddwch rhyngwladol i ddiogelwch bwyd. Yr hyn sy'n dod yn glir iawn, fodd bynnag, yw ein bod yn cael ein dal yn wystl gan griw o ymwahanwyr ideolegol yn San Steffan.

O ran y manylion yn ei ddatganiad heddiw, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro ambell bwynt— yn benodol y sylwadau a wnaeth am yr undeb tollau neu undeb tollau? Mae wedi dweud yn ei ddatganiad y dylem ni aros yn—. Wel, rwy'n credu ei fod yn dweud y dylem ni aros yn yr undeb tollau. Mae'r testun sydd gennyf o'm blaen yn dweud y dylem ni aros mewn undeb tollau. A all egluro a yw'n dymuno aros yn yr undeb tollau neu a yw eisiau negodi undeb tollau newydd?

 Mae hynny'n gysylltiedig â'r ail gwestiwn, sydd ynglŷn â'r sylw a wnaeth am yr angen am etholiad cyffredinol yn y DU os na all Prif Weinidog y DU gael Senedd San Steffan i gytuno ar fargen ymwahanu. Yn ôl pob tebyg, byddai Ysgrifennydd y Cabinet eisiau i ganlyniad yr etholiad cyffredinol hwnnw arwain at Lywodraeth Lafur fwyafrifol, ond, os nai hynny fydd y canlyniad, yna byddwn ni'n bendant yn gadael yr undeb tollau a byddwn ni'n bendant yn gadael y farchnad sengl. Felly, tybed a all egluro pam ei bod hi'n dactegol er budd pobl Cymru, a hyd yn oed Lywodraeth Cymru, i gael Llywodraeth Lafur fwyafrifol fydd yn ein tynnu allan o'r undeb tollau a'r farchnad sengl. Sut y gall ef gysoni'r safbwyntiau ymddangosiadol anghyson hynny?

 Y pwynt arall yr hoffwn ei godi yw'r cwestiwn—ac mae hyn yn rhywbeth sy'n dod i benllanw, rwy'n credu; bydd, yn sicr, yn gwneud hynny yn yr wythnosau nesaf—o'r ffin yn yr Iwerddon. O ystyried yr amhosibilrwydd—. Er gwaethaf sylwadau llefarydd grŵp y Ceidwadwyr heddiw, o ystyried ei bod yn amhosib cael ffin agored ar ynys Iwerddon fel yn awr os yw un rhan o'r Iwerddon y tu allan i'r undeb tollau, onid yw hi'n fwy tebygol y gwelwn ni felly ffin galed ym Môr Iwerddon, ac os felly, pa gamau lliniaru —? Wel, rwy'n dweud 'lliniaru'; nid oes camau lliniaru'n bodoli. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i osgoi'r canlyniad hwnnw, bod Gogledd Iwerddon —? Y sefyllfa wrth gefn yw y bydd Gogledd Iwerddon yn aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau er mwyn cynnal cytundeb Belfast, ac mae hynny'n golygu ffin galed ym Môr Iwerddon, a fyddai'n drychineb i gymunedau yng Nghymru.

Mae'r cwestiynau eraill yr hoffwn i eu gofyn yn ymwneud â chynllunio wrth gefn ar ran Llywodraeth Cymru. Rwyf i, wrth gwrs, yn croesawu porth busnes Brexit—a oedd yn bolisi Plaid Cymru, wrth gwrs, ac yn awgrym a wnaed yn fuan iawn ar ôl y refferendwm. Yn wir, mae'n drueni mawr na ellid fod wedi cyflwyno'r porth busnes Brexit ynghynt, ond tybed—. Rwy'n gwybod y bydd yn cyhoeddi ac yn lansio hyn yn ffurfiol yn fuan, ond a all ddweud wrthym ni pryd y bydd ef yn lansio'r porth busnes Brexit a sut y gall busnesau fod yn rhan ohono? Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn hefyd i ni, aelodau'r Cynulliad hwn, pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi, efallai yn Llyfrgell y Cynulliad, restr gynhwysfawr o gynlluniau wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â nhw. Dywedodd yn ei ddatganiad eu bod wedi eu gwella yn ystod y cyfnod yr haf. Rwy'n credu y byddai rhestr yn beth da, efallai rhywbeth tebyg i ddull Llywodraeth y DU o gyhoeddi ei phapurau achos 'dim bargen'. Fe allem ni gael system debyg yng Nghymru, lle mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth fanylach ar gynllunio wrth gefn, nid yn unig ar gyfer sefyllfa o ddim bargen, ond ar gyfer bargen bosib hefyd.

Un agwedd sydd ar goll o'r datganiad heddiw, yn fy marn i, yw'r cwestiwn o gynllunio wrth gefn yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru. Rwyf wedi sôn am hyn ar ddau achlysur oherwydd, wrth gwrs, mae hon yn sefyllfa gymhleth iawn, ac wrth gwrs, nid yw rheolaeth dros gyffuriau wedi'i ddatganoli, ond, wrth gwrs, ni ellir rhedeg gwasanaeth iechyd gwladol sydd wedi'i ddatganoli heb gyffuriau a heb driniaethau. Rwy'n datgan buddiant fel rhywun sydd ar hyn o bryd yn elwa o driniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. A'r driniaeth a gefais yn bersonol drwy gemotherapi—caf ar ddeall bod y cyffuriau hynny ar hyn o bryd yn dod drwy Munich, yn cael eu dosbarthu ar draws yr Undeb Ewropeaidd drwy Munich, ac yn deillio o bedwar ban byd. Nawr, mae hynny'n—. Ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn annog pobl i'w ystyried o ddifrif. Pan fo pobl yn chwarae gyda'r syniad o ddim bargen, o Brexit 'ddim bargen', mae hynny'n golygu dim bargen o ran cyffuriau canser y mae pobl yn y wlad hon yn dibynnu arnynt. Nid chwarae gemau gwleidyddol neu bêl-droed wleidyddol mo hyn—mae hynny'n fater difrifol. Os nad oes gennym ni gytundeb ar ddyfodol y cyffuriau canser sy'n ffurfio'r cyfansoddiad cemotherapi, mae cleifion canser yn y wlad hon yn mynd i ddioddef, ac nid yw hynny'n rhywbeth yr wyf i'n credu bod unrhyw un yn y Siambr hon yn dymuno ei weld. Felly, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru pa drafodaethau sy'n mynd rhagddynt gan Lywodraeth y DU, sydd â rheolaeth dros reoli cyffuriau, gyda Llywodraeth Cymru, sydd, wrth gwrs, yn gyfrifol am y GIG yng Nghymru ac am gyffuriau a thriniaethau'r dyfodol?

Yn olaf, byddai rhywbeth o'i le oni fyddai llefarydd Plaid Cymru yn codi materion cyfansoddiadol, yn enwedig pan mae cyfle i wneud hynny ynglŷn â'r mater o wahanu oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Sylwaf, yn ei gyfeiriadau at gyfarfodydd Cydbwyllgor y Gweinidogion a'r Fforwm Gweinidogol, ei bod hi'n dal i fod yn wir—a gwelsom hyn ddoe mewn tystiolaeth a roddwyd gan Brif Weinidog Cymru i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol—rwy'n credu, y caiff Cymru ei thrin yn fwy tebyg i bartner ymgynghorol na chenedl bartner yn y Deyrnas Unedig honedig. Rydym ni wedi gweld yn yr holl broses hon fod diffyg cyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig. Mae rhai ohonom ni'n credu ei bod wedi bod yn ddiffygiol gyfansoddiadol ers 1707, ond mae'r broses hon yn sicr wedi amlygu hynny. Gyda datblygiadau mewn rhannau eraill o'r DU—y posibilrwydd o Iwerddon Unedig, y posibilrwydd o gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban—pa gynllunio wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd ar gyfer y posibilrwydd gwirioneddol, rwy'n awgrymu, na fydd Teyrnas Unedig o gwbl ar ddiwedd y broses hon?

15:10

Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud pa mor braf yw cael y cyfle heddiw i barhau â'r sgyrsiau a gafwyd gydag ef yn gynharach yn y flwyddyn? Dechreuodd gyda chyfeiriad sy'n adleisio rhywbeth a ddywedodd Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Carolyn Fairbairn, yn ddiweddar pan ddisgrifiodd y rhai sydd o blaid Brexit caled fel buddugoliaeth ideoleg dros dystiolaeth, ac rwy'n credu iddo wneud y pwynt hwnnw yn dda iawn ar y dechrau. Nid wyf i'n mynd i anghytuno ag ef heddiw ynghylch y gwahaniaeth rhwng y fannod bendant neu amhendant. Os mai'r fannod amhendant sydd yn y testun, yna dyna'r hyn y dylwn fod wedi ei ddarllen, felly gall dybio bod y gair ysgrifenedig yn fwy dibynadwy na fy narlleniad cyflym i yn y Siambr y prynhawn yma. Mewn etholiad cyffredinol, wrth gwrs, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur fwyafrifol, a byddai hynny yn dod â llwyth o fanteision i Gymru yn ei sgil, gan gynnwys ffordd gall o fynd i'r afael â Brexit, ond gan fynd ymhellach o lawer na hynny, wrth gwrs.

Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn am ffin Iwerddon. Dywedodd Prif Weinidog y DU ei hun y byddai y tu hwnt i amgyffred unrhyw Brif Weinidog i gytuno i ffin galed ym Môr Iwerddon, a dyna un o'r pethau y mae angen iddi ei gyflawni wrth geisio datrys cwestiwn ffin Iwerddon. Ac o safbwynt Cymru, er ein bod yn dweud bob amser—ac fe ddywedaf hyn eto y prynhawn yma —na fyddwn ni byth yn gwneud nac yn dweud unrhyw beth yr ydym ni'n gwybod a fydd yn creu unrhyw anawsterau o ran y cynnydd pwysig iawn a wnaed yn yr Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diweddar. Ond o safbwynt Cymru, mae gennym ni, serch hynny, yr hawl i gyfeirio at yr anawsterau ychwanegol y byddem ni yn eu hwynebu pe bai ffin ym Môr Iwerddon, oherwydd porthladdoedd Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro ac ati, ac rydym ni'n sôn am hynny wrth Lywodraeth y DU pryd bynnag y bydd cyfle i wneud hynny.

Soniodd yr Aelod am y porth Brexit ac roedd hynny, yn wir, yn rhan o'r cytundeb cyllideb dwy flynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae is-grŵp o Gyngor Datblygu'r Economi wedi bod yn gweithio ar hynny oherwydd roeddem ni'n awyddus iawn y byddai'r porth yn cynnig i fusnesau y pethau y mae busnesau eu hunain yn dweud wrthym ni sydd eu hangen arnynt o ran gwybodaeth a chyngor. A bydd y porth yn wir yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael inni ac yn rhoi cyngor ar amrywiaeth o bynciau busnes perthnasol. Bu'n anodd cytuno ar gynnwys y porth oherwydd yr ansicrwydd sylweddol ynghylch ffurf derfynol Brexit a goblygiadau hynny i Gymru, ond rydym ni'n gobeithio gallu ei gyhoeddi yn fuan. Meddyliaf am yr hyn a ddywedodd yr Aelod am ei roi yn y llyfrgell—y cyngor atodol a ddarparwyd gennym ni yn ychwanegol at yr hysbysiadau technegol pan fo materion penodol yn ymwneud â Chymru yn y fantol. 

Wrth gwrs, fe wnaeth gyfres o sylwadau pwysig iawn ynghylch beth fyddai 'dim bargen' yn ei olygu, nid yn unig mewn ystyr damcaniaethol, ond yng nghyswllt y gwasanaethau beunyddiol absoliwt y mae pobl yng Nghymru yn dibynnu arnynt. Gallaf ei sicrhau bod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, yn trafod y materion hyn yn rheolaidd iawn, iawn gyda'r cynghorwyr sydd ganddo yn y maes fferyllol, gyda'r byrddau iechyd lleol sy'n darparu gwasanaethau ar lawr gwlad ac â Chydffederasiwn y GIG yng Nghymru o ran materion staffio, ac mae gennym ni ddiddordeb brwd, uniongyrchol a manwl iawn yn y ffordd y gallai Brexit effeithio ar y GIG yng Nghymru.

Yn fyr, o ran materion cyfansoddiadol, yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud, Llywydd, yw symud ymlaen o'r syniad mai ffafr neu ewyllys da yw datganoli, sydd yn rhy aml yn nodweddu agwedd Gweinidogion yn Llywodraeth y DU, lle'r ymddengys eu bod yn ystyried datganoli yn rhywbeth y maen nhw wedi bod yn ddigon hael i'w roi i bobl yng Nghymru ac yn yr Alban, ac y gallent ei hawlio'n ôl ar unrhyw adeg pan ymddengys nad ydyn nhw'n hoffi'r hyn a wnawn ni gyda'r cyfrifoldebau sydd gennym. Ar ôl Brexit, mae'n rhaid inni gael dull llawer mwy ffurfiol, llawer mwy dibynadwy a llawer mwy diduedd o ryngweithio rhwng rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, nid wyf yn cytuno â'r Aelod ynghylch ei sylwadau am chwalu'r Deyrnas Unedig—rydym ni'n credu mai'r ffordd orau i sicrhau dyfodol llwyddiannus i Gymru yw drwy sicrhau dyfodol llwyddiannus i'r Deyrnas Unedig. Ond welwn ni mo'r dyfodol llwyddiannus hwnnw oni allwn ni, ar ôl Brexit, ymwneud â rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig mewn ffordd sy'n seiliedig ar gydraddoldeb cyfranogiad a pharch cydradd.

15:20

Rwy'n croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet i ryw raddau, ac rwy'n sicr yn cytuno â'i ddadansoddiad o gytundeb Chequers a'i wrthddywediadau mewnol. Mae'n eithaf clir mai ymarfer gwleidyddol yw hwn nid i gael y canlyniad gorau i'r Deyrnas Unedig, ond i geisio papuro dros graciau y carfannau cwerylgar o fewn y Blaid Geidwadol, ac mae'r llanast sydd wedi dod i'r amlwg o'r broses hon yng nghytundeb Chequers yn dangos beth sy'n digwydd pan rydych chi'n cynnal trafodaethau drwy gyfrwng pobl sydd ddim wir yn credu yn yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Pleidleisiodd y mwyafrif o Aelodau Seneddol Ceidwadol i aros, roedd hyd yn oed mwy o fwyafrif o aelodau'r Cabinet eisiau aros. Mae gennym ni gasgliad o bobl nad ydyn nhw yn y bôn eisiau gadael yr UE mewn gwirionedd, a bwriad cytundeb Chequers yw cyflawni'r amcan penodol hwnnw. Byddwn yn aros yn yr UE ym mhopeth, oni bai am mewn enw. Felly, rwy'n synnu, mewn llawer ffordd, nad yw pleidiau eraill yn fwy siriol yn ei gylch, oherwydd mae mewn gwirionedd yn cyflawni'r hyn yr oeddent yn ei ddymuno.

Soniodd Steffan Lewis, yn ystod ei gyfraniad y prynhawn yma, am y wlad yn cael ei dal yn wystl, Cymru'n cael ei dal yn wystl, gan ideolegwyr digyfaddawd yn San Steffan. Mewn gwirionedd, y bobl sy'n dal pob un ohonom ni yn y Deyrnas Unedig yn wystlon yn y broses hon yw'r Comisiwn Ewropeaidd a'i lefarydd, Monsieur Barnier. Ni all neb addo cytundeb oherwydd wrth gwrs allwn ni ddim rheoli ymateb yr Undeb Ewropeaidd i gynigion Prydain. Felly, roedd Prif Weinidog Cymru yn anghywir pan ddywedodd yn gynharach wrthym fod bargen wedi ei haddo yn ffyddiog inni gan yr UE; yn sicr wnes i ddim addo unrhyw fargen yn ffyddiog gyda'r UE, gan wybod ein bod mewn gwirionedd yn siarad ieithoedd gwahanol yn wleidyddol. Rydym ni wedi bod yn siarad iaith economeg, roedd negodwyr yr Undeb Ewropeaidd mewn gwirionedd yn siarad iaith gwleidyddiaeth. Iddyn nhw, yr angen sylfaenol yw cynnal y prosiect gwleidyddol o geisio mwy o undod gwleidyddol, a dyna un o'r prif resymau pam yr wyf i wastad wedi gwrthwynebu aelodaeth Prydain o'r UE. Does arnaf i ddim eisiau bod yn rhan o archwladwriaeth ffederal yn yr UE, a dyna beth mae biwrocratiaeth barhaol yr Undeb Ewropeaidd yn benderfynol o'i gyflawni. Felly, roedd y drafodaeth hon wastad wedi ei thynghedu i fethu os oedd ganddyn nhw fantais drosom ni, ac yn hyn o beth mae gwendid Llywodraeth Prydain mewn gwirionedd wedi rhoi iddyn nhw hyd yn oed mwy o fantais nag oedd ganddyn nhw yn naturiol. 

Llithrodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gyflym iawn o'r dadansoddiad hwnnw, y gallaf gytuno ag ef yn ei gylch, i'w alarnad Jerimeiaidd arferol. Rwyf wastad yn mwynhau ei gyfeiriadau clasurol, er ys gwn i faint o blant ysgol uwchradd heddiw fyddai deall pwy oedd Scylla a Charybdis. Yn anffodus, ni wyddant mae'n debyg hyd yn oed pwy oedd y Proffwyd Jeremiah chwaith. Ond os cyhoeddir fyth fersiwn wedi'i ddiweddaru o Lyfr y Galarnadau, ni allaf feddwl am neb gwell i'w ysgrifennu nag Ysgrifennydd y Cabinet ei hun. Fel y nododd Darren Millar yn ei gyfraniad, mae honiadau eithafol prosiect ofn yn gwbl hurt. Rwy'n credu bod y syniad na fyddwn ni'n gallu defnyddio ein pasbortau neu na fydd awyrennau yn gallu hedfan dros ofod awyr Ewropeaidd neu dir mewn meysydd awyr Ewropeaidd—ac, wrth gwrs, y byddai efallai y gwrthwyneb yn wir mewn rhai amgylchiadau—mor chwerthinllyd nad oes angen treulio llawer o amser ar hynny. Nid wyf o'r farn fod hynny'n gwrthbrofi'r hyn a ddywedodd Darren Millar sydd yn nogfennau ei Lywodraeth ei hun, oherwydd mae'r Llywodraeth ei hun yn rhan o'r prosiect ofn yn hyn o beth, oherwydd mae hynny'n eu helpu i gyflawni eu hamcanion gwleidyddol hefyd. 

Clywsom gan Monsieur Barnier ei hun yn y 48 awr diwethaf bod ateb rhwydd i broblem Gogledd Iwerddon. Nid yw'n dweud hynny uniongyrchol, ond beth ddywedodd ddau ddiwrnod yn ôl o ran datrys y broblem o fasnach dwyrain-gorllewin o'r Iwerddon, sydd yr un mor berthnasol i fasnachu rhwng y gogledd a'r de, yw, a allai technoleg helpu masnach Dwyrain-Gorllewin, ac a yw hynny'n gwestiwn gwahanol i fasnachu rhwng y Gogledd a'r De. Ei nod yw gwneud gwiriadau mor syml a rhwydd ag y bo modd, ond mae hynny'n fater ar gyfer y timau negodi. Wrth gwrs, ef sy'n arwain y timau negodi, felly mae mewn gwirionedd yn gweithio tuag at ateb rhwydd. Nid oes unrhyw reswm i feddwl na fyddai hynny ar gael ar gyfer masnach rhwng y gogledd a'r de yn ogystal. Wedi'r cyfan, dim ond tua 1 y cant o fasnach Iwerddon sy'n digwydd rhwng y gogledd a'r de, a cheir mecanweithiau sefydledig mewn awdurdodaethau eraill ledled y byd a allai wneud hynny mor rhwydd ag y bo modd—tollau clirio awtomatig, gwiriadau ffin electronig a gwiriadau ffisegol achlysurol ymhellach draw o'r ardaloedd ffiniol. Felly, dyfal donc yw hi, a gellir cyflawni hynny'n rhwydd. Mae Iwerddon mewn gwirionedd yn cael ei defnyddio fel teclyn bargeinio gan yr UE, fel modd i nid yn unig danseilio ein sefyllfa negodi yn y trafodaethau Brexit hyn, ond hefyd fel ffordd o geisio chwalu'r Deyrnas Unedig ac, yn benodol, i greu undod gwleidyddol yn Iwerddon, a fyddai, yn amlwg, yn effaith drychinebus allai ddeillio o'r broses Brexit. Ond, nhw yw'r rhai sy'n chwarae â thân, nid ni. Fy ateb i i hynny fyddai dweud, 'Os ydych chi eisiau gwiriadau ar ffin Iwerddon, yna rhowch chi nhw ar waith'. Gadewch inni daflu'r bêl yn ôl iddyn nhw, a gadewch i ni weld beth fydd yn digwydd wedyn. Fe allem ni benderfynu ein hunain i beidio â chael ffin a gadael iddyn nhw ymdopi â'r canlyniadau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod ei ddatganiad na allai weld unrhyw fanteision o Brexit 'dim bargen'. Mae'n anochel y byddai costau ynghlwm â Brexit 'dim bargen'—nid oes neb erioed wedi gwadu y byddai costau trosiannol i adael yr UE, yn yr un modd ag yr oedd costau trosiannol sylweddol o ymuno yn y lle cyntaf. Ond mae polisïau diffyndollol yr UE yn pwyso drymaf ar y rhai sydd ar ben isaf y raddfa incwm yn y wlad hon, o bolisi amaethyddol diffyndollol ble mae tariffau mor uchel â 50 y cant ar y naill law, i drethi ar esgidiau a dillad, a hyd yn oed, drwy'r Cod TAW, ar bethau fel cynnyrch glanweithdra a llawer o gynhyrchion eraill yr ydym ni wedi cyfeirio atyn nhw yn ystod y ddadl hon. Bydd gennym ni'r rhyddid, pan rydym ni wedi ymadael â'r UE, i wneud ein penderfyniadau ein hunain ym mhob un o'r meysydd hyn, ac i gael gwared ar yr elfennau atchweliadol yn y codau treth a masnach y mae'r UE wedi eu gorfodi arnom ni. Does arnaf i ddim ofn y goblygiadau masnach wrth adael yr UE ar gyfer y tymor hwy.

Cyfeiriodd, fel y gwnaeth y Prif Weinidog yn gynharach heddiw—[torri ar draws.] Rwyf wedi gofyn nifer o gwestiynau hyd yn hyn a byddaf yn gofyn ychydig mwy hefyd yn yr amser byr sydd gennyf yn weddill. Yr UE fydd yn sylfaenol ar ei cholled wrth dorri llifau masnach neu gyfyngu ar lifau masnach, oherwydd mae gennym ni ddiffyg masnach enfawr â nhw. Mae wyth deg wyth y cant o geir sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain bob blwyddyn mewn gwirionedd yn tarddu o'r Undeb Ewropeaidd. Mae gennym ni ddiffyg masnach mewn ceir gwerth miliynau â'r Almaen yn unig. Mae'n rhaid cyfaddef, bydd problemau i rai sectorau amaethyddol os nad oes bargen, yn enwedig, fel y gwyddom ni, ar gyfer cynhyrchwyr cig oen, ond mae'r symiau o arian dan sylw yma mewn termau byd-eang yn fach, ac fe allai Llywodraeth sydd â'r ewyllys i weithredu system sy'n amddiffyn buddiannau'r rhai a fyddai o dan anfantais ymdrin â nhw yn hawdd. Wedi'r cyfan, dengys ffigurau ein bod yn mewnforio £0.4 biliwn o gig oen o dramor, ac yn allforio £0.3 biliwn, felly roedd diffyg ar fewnforion cig oen. Mae cyfle enfawr o ran amnewid mewnforion ar gyfer ffermwyr Prydain yn gyffredinol os yw'r UE yn ddigon hurt i geisio ein gorfodi i sefyllfa lle nad oes bargen, y maen nhw mewn gwirionedd wedi ymrwymo'n gyfreithiol i geisio ei gyflawni drwy Gytuniad Lisbon. Felly, bydden nhw'n torri eu deddfau eu hunain pe baen nhw'n parhau i ymddwyn fel y maen nhw. 

Felly, yr hyn rwy'n ei ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud, heb unrhyw ffydd o gwbl y bydd yn derbyn fy nghyngor, yw bod ychydig yn fwy siriol a gobeithiol am y dyfodol. Beth bynnag yw'r costau tymor byr, yr enillion tymor hir mewn democratiaeth i bobl Prydain yw hanfod hyn i gyd. Pam y byddai arnom ni eisiau allanoli ein cyfreithiau i griw o dechnocratiaid rhyngwladol nad ydym yn eu hethol ac na allwn ni gael gwared arnyn nhw, ond na allwn ni hyd yn oed eu henwi ychwaith? Dyma'r gwrthwyneb yn llwyr, rwy'n credu, i'r hyn y sefydlwyd y Blaid Lafur i'w gyflawni—i ddefnyddio grymoedd democratiaeth seneddol er budd dosbarth gweithiol y wlad hon. Mae'r syniad bod y math o bobl sydd mewn sefydliadau busnes rhyngwladol, fel Carolyn Fairbairn, sy'n cynrychioli Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, corff sydd wedi bod yn hollol anghywir ar bob mater economaidd o bwys yn ystod fy oes i, o incwm polisi i system ariannol Ewrop—mae'r syniad bod eu cyngor yn werth gwrando arno yn ymddangos i mi yn rhyfedd i un o gefnogwyr Corbyn. Efallai y caiff y gwrthgyferbyniadau hynny eu hesbonio mewn fforwm arall.

Felly, mae'r cwestiwn olaf yr hoffwn i ei ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwneud â'r posibilrwydd o gynnal ail refferendwm, oherwydd mae'n eithaf clir bellach mai'r cyfeiriad y mae'r Blaid Lafur yn troedio tuag ato mewn gwirionedd yw cael ail refferendwm. Oherwydd, beth bynnag yw'r fargen a gaiff ei tharo, neu os na cheir unrhyw fargen, maen nhw'n gobeithio y bydd pobl Prydain yn gwneud penderfyniad gwahanol y tro nesaf i'r un a wnaethant y tro diwethaf. Ond sawl gwaith y mae'n rhaid inni gael pleidlais ar y mater hwn? Maen nhw wedi treulio 40 mlynedd yn gwarafun un inni—ers 1975. Os cawn ni ail refferendwm, rhaid gorfodi pobl Prydain i barhau i bleidleisio hyd nes y caiff y Blaid Lafur y canlyniad y maen nhw'n ei ddymuno. Os ydym ni'n cael ail refferendwm, pam ddim trydydd, pam ddim pedwerydd, pam ddim ei wneud yn ddigwyddiad blynyddol fel y Nadolig, oherwydd yna bydd gennym ni rywbeth i edrych ymlaen ato fel gwleidyddion bob blwyddyn, rhywbeth i'n cadw i gyd mewn gwaith? Felly, lle y daw hyn i gyd i ben? Dyna rwy'n ei ofyn. Penderfynodd pobl Prydain, gan gynnwys pobl Cymru, â mwyafrif—fe wnaethon nhw wrthod polisïau Plaid Cymru, fe wnaethon nhw wrthod polisïau'r Blaid Lafur, yn y refferendwm ym mis Mai 2016. Ac, felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dderbyn pleidleisiau pobl Cymru a phobl Prydain am yr hyn ydyn nhw yn eu hanfod a rhoi iddyn nhw yr hyn y mae arnyn nhw ei eisiau, sef rhyddid oddi wrth yr UE?

15:30

Wel, Llywydd, rwy'n credu y clywais ddau gwestiwn yn y fan yna. Y cwestiwn cyntaf oedd: pam na allaf i fod yn fwy siriol? Ac rwy'n gobeithio imi egluro'r holl resymau pam na fyddai person synhwyrol yn dynesu at yr hydref hwn mewn ysbryd o obaith gwag.

Roedd yr ail gwestiwn am ail refferendwm. Rwyf wedi dweud yn glir mai fy nghred fy hun yw, os yw Tŷ'r Cyffredin yn analluog i gydweld, mae angen Tŷ Cyffredin newydd, drwy etholiad cyffredinol. Fel rwy'n deall pethau, nid yw sôn am ail refferendwm yn golygu gwrthdroi'r refferendwm cyntaf, er y credaf y gallem ni ddyfalu—ac ni fyddai'n annheg inni ddyfalu—pe canfu'r Aelod ei hun ar yr ochr a gollodd y refferendwm diwethaf, o fwyafrif bach iawn, na fyddai yn eistedd yn y fan yna yn dweud, 'O, wel, mae pobl Prydain wedi lleisio eu barn, wnaf i fyth ofyn y cwestiwn yna eto.' Ond, wrth gwrs, ymddengys ei bod hi'n amhosib i bobl ar yr ochr arall ofyn yr un cwestiwn eto. Nid yw'r cwestiwn o ail refferendwm ynglŷn ag a ddylid gadael yr Undeb Ewropeaidd—mae ynglŷn ag a yw telerau'r fargen a negodwyd yn foddhaol i'r bobl. Rwy'n credu fod hynny'n gwestiwn gwahanol, ac nid wyf i'n credu ei bod hi'n amhriodol i bobl feddwl mai dyna'r ffordd gywir i ofyn i bobl, pa un ai ynteu peidio, ar ôl penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd—ai dyma'r hyn yr oeddech chi'n credu y byddai hynny yn ei olygu ac ai dyma'r hyn yr oeddech chi'n credu eich bod yn pleidleisio drosto? Nid yw hynny'n gwestiwn annheg i ofyn i bobl. Os wyf yn prynu sugnydd llwch mewn siop heddiw, mae gennyf 28 diwrnod i'w ddychwelyd i'r siop os nad yw'n gwneud y gwaith y credais y byddai'n ei wneud pan brynais ef. Ac os gallaf wneud hynny gyda sugnydd llwch, yna mae gofyn i bobl, 'wedi gwneud y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ai'r fargen benodol hon yw'r hyn yr oeddech chi'n credu yr oeddech chi'n pleidleisio o'i blaid?'—Nid wyf i'n credu ei bod hi'n briodol i ddiystyru hynny. 

Ymhlith popeth arall, Llywydd, rwy'n credu y clywch chi'r bobl hynny sy'n ceisio argyhoeddi pobl yn y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd yn sôn am ddau neu dri pheth. Pan fydd pethau'n mynd o chwith cymaint ag y mae rhai ohonom ni yn ofni y gallai, cawn gyhuddiadau o frad gartref ac anhyblygrwydd dramor. Byddai popeth wedi bod yn iawn oni bai am y ffaith bod y bobl hynny sy'n gyfrifol amdano—David Davis, Boris Johnson, y bobl adnabyddus hynny, oedd yn benderfynol o aros yn yr Undeb Ewropeaidd—. Oni bai amdanyn nhw, byddai popeth wedi bod yn iawn. Ac os nad yw pethau'n iawn iddyn nhw, mae'r holl fai ar y tramorwyr. Clywsom hynny'n dod i'r amlwg yn glir iawn y prynhawn yma. Yna rydym ni'n clywed, ar y naill law, wrth gwrs, bydd popeth yn iawn beth bynnag. Mae'n debyg, bydd modd defnyddio trwyddedau gyrru, er y dywedir wrthym ni na fydd modd gwneud hynny os na chawn ni gytundeb ynglŷn â Brexit. Tybed a sylwodd yr Aelod heddiw, wrth sôn am wneuthurwyr ceir yr Almaen, bod BMW wedi dweud y byddan nhw'n cau eu prif ffatri gweithgynhyrchu ym Mhrydain am sawl wythnos yn union ar ôl 29 Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae'n benderfyniad y maen nhw wedi ei wneud eisoes, oherwydd maen nhw'n ofni y bydd tagfeydd yn nhwnnel y Sianel am bythefnos—na fyddan nhw'n gallu symud rhannau o un rhan o'r Undeb Ewropeaidd i un arall. Yn hytrach na bod gwneuthurwyr ceir yr Almaen o blaid cytundebau masnach rydd newydd gyda'r Deyrnas Unedig, maen nhw wrthi ar hyn o bryd yn ymdopi â chanlyniadau'r camau gweithredu a argymhellodd ef a'i blaid.

Ac yna rydym ni'n clywed, peidiwch â phoeni os na fydd popeth yn dda ar unwaith—yn y pen draw, bydd popeth yn iawn. Wel, tybed a sylweddolodd pobl a glywodd negeseuon yn ystod ymgyrch y refferendwm, ac a welodd fysiau a mynd i fyny ac i lawr eu strydoedd â symiau mawr o arian wedi eu hysbysebu ar eu hochrau, nad oedd hyn yn mynd i ddigwydd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd—roedd yn ganlyniad rhyw ddyfodol pell ar ôl goroesi cyfnod o ddigalondid ac y byddai popeth yn iawn i'r rhai a oedd yn weddill. I ddweud y gwir, nid yw hynny'n dal dŵr. Mae'r Aelod yn gwybod nad yw hynny'n dal dŵr, ond mae'n gwneud ei ymgais arferol i'n hargyhoeddi ni o hynny y prynhawn yma.

15:35

Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch chi wedi clywed Frances O'Grady, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, yn ddiweddar. Dywedodd hi:

Rhybuddiais y Prif Weinidog os nad yw ei bargen yn amddiffyn swyddi, hawliau yn y gwaith a heddwch yng Ngogledd Iwerddon, bydd y TUC yn cefnogi'r alwad am bleidlais ar delerau Brexit. Rydym ni i gyd yn undebwyr llafur—pan rydym ni'n taro bargen, awn yn ôl at yr aelodau i gael eu cymeradwyaeth. Felly boed hynny drwy bleidlais boblogaidd neu etholiad cyffredinol, mae'n rhaid i Mrs May gyflwyno ei bargen Brexit i'r bobl fel y gallan nhw benderfynu a yw'n ddigon da.

Nawr, ymddengys i mi, Ysgrifennydd y Cabinet, bod hynny'n rhywbeth sy'n swnio, ac sydd yn, rhesymol iawn. Tybed a ydych chi'n cytuno â hynny.

O ran eich datganiad, un pwynt pellach yw hyn: rydym ni wedi bod yn clywed llawer am ffyniant cyffredin cyn yr haf. Nid yw'n ymddangos fod unrhyw sôn am ffyniant cyffredin yn y trafodaethau amrywiol a fu. Bellach, fe wyddom ni fod y Torïaid, pan maen nhw'n sôn am ffyniant cyffredin—yr unig ffyniant cyffredin y maen nhw erioed wedi'i arddel yw ffyniant ymysg eu hunain a'r rhai sy'n eu cefnogi. Ond tybed, a oes unrhyw obaith o unrhyw ffyniant cyffredin yn canfod ei ffordd i Gymru, fel yr addawyd cyn y refferendwm?

Wel, Llywydd, gadewch imi ddweud ar y dechrau: rwy'n gobeithio y bydd bargen. Rwy'n gobeithio y bydd Prif Weinidog y DU yn negodi bargen fydd yn cyflawni'r hyn y mae hi'n dweud y mae arni eisiau ei gyflawni ac y gall hi ddarbwyllo Tŷ'r Cyffredin i'w gefnogi. Yr hyn yr oedd Frances O'Grady yn cyfeirio ato, a'r hyn yr wyf innau wedi cyfeirio ato y prynhawn yma, yw beth fydd yn digwydd os na all daro bargen o'r fath—ac yna mae'r pethau y mae'r TUC wedi eu dweud a gafodd eu hadlewyrchu i raddau helaeth yn yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud y prynhawn yma—yn yr amgylchiadau hynny, yna mae'n briodol y dylai pobl gael cyfle i benderfynu.

O ran ffyniant cyffredin, gadewch inni fod yn glir: mae Cymru'n elwa o'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd o oddeutu £660 miliwn y flwyddyn. Rydym ni'n gymwys ar gyfer yr arian hwnnw yn unol â'r rheolau, rydym ni'n cael arian oherwydd bod gennym ni anghenion y mae angen eu bodloni ac rydym ni'n cael cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd i'n helpu i wneud hynny. Ni fydd yr anghenion hynny wedi diflannu y diwrnod ar ôl Brexit, ac felly mae'n rhaid i'r arian ddod i Gymru i'n galluogi i barhau i ymdrin â'r materion sydd wedi'u nodi yma.

Os yw'r Blaid Geidwadol yn credu mai diben cronfa ffyniant gyffredin yw cymryd arian a ddaw i Gymru heddiw a'i ddyrannu i bobl eraill, fel ein bod yn waeth ein byd o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Deyrnas Unedig nag yr ydym ni wedi bod o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, yna maen nhw ar lwybr ffôl iawn yn wir, ac rwy'n gwneud y pwynt hwnnw pa bryd bynnag y caf y cyfle.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Roeddwn wedi gobeithio siarad ychydig yn hwy, ond rwy'n credu bod y 10 munud a ddefnyddiwyd wedi niweidio llawer o'n cyfleoedd.

A gaf i hefyd sôn am un neu ddau o bwyntiau rhesymegol? Gwnaeth Steffan Lewis ddadl glir iawn ac ni allai dim fod yn fwy amlwg na'r hyn a ddywedodd am oblygiadau Brexit 'dim bargen'. Hoffwn pe byddai swyddogion yn San Steffan a Whitehall yn gwrando ar y math hwnnw o ddadl pan maen nhw'n cynhyrchu'r papurau technegol hyn, oherwydd mae papurau technegol, i siarad yn blaen, yn brin iawn o unrhyw atebion i'r problemau y maen nhw'n eu crybwyll, a dyna'r unig rai yr ydym ni wedi eu gweld hyd yma.

Ond a gaf i ofyn ychydig o gwestiynau ichi mewn cysylltiad â hynny? Yn amlwg, mae 'dim bargen' yn bendant ar yr agenda bellach ac rydym ni mewn peryg o ddod yn agosach ac yn agosach at gyfnod lle mae'n rhaid inni naill ai cytuno ar fargen neu yn y pen draw, yn ddiofyn, rydym ni mewn sefyllfa o 'ddim bargen'. Rydych chi wedi cael y papurau technegol hyn gan Lywodraeth y DU: a ydych chi wedi cael y cyfle i ofyn i'ch swyddogion i edrych ar y rheini, yn enwedig y rhai a gynhyrchwyd efallai ar 28 Awst, sef y rhai cynharach—rwy'n gwybod y cynhyrchwyd rhai yr wythnos diwethaf, a bod mwy i ddod—i edrych ar y goblygiadau i Gymru a sut y gall Cymru fynd i'r afael â'r materion ac ymateb efallai yn gadarnhaol yn seiliedig ar ba sefyllfaoedd 'dim bargen' sy'n debygol, felly a ydym ni'n barod am hynny?

A gaf i ofyn hefyd efallai—fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad, rwy'n credu, bod mwy na dwsin o gyfarfodydd wedi eu cynnal, ond nid y Fforwm Gweinidogol yw'r unig gyfarfodydd, ac nid cyfarfodydd Y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) chwaith; mae cyfarfodydd gweinidogol eraill hefyd. A oes gennych chi sefyllfa bellach lle y gallwn ni edrych yn draws-adrannol ar y pethau hyn i gyd, fel y gallwn ni eu rhoi at ei gilydd? Yn aml iawn, cawn lywodraethau yn gweithio ar eu pen eu hunain. Mae'n sefyllfa lle mae angen inni gael darlun traws-adrannol ynghylch beth sy'n digwydd fel y gall Llywodraeth Cymru sicrhau nad yw'r hyn a ddywedwyd mewn un fforwm yn cael ei ailadrodd mewn fforwm arall ac felly bod gennym ni gysondeb yn y trafodaethau hynny.

Nawr, rwy'n cytuno â Darren Millar ar un ystyr, ac rwy'n ei groesawu i'w swyddogaeth newydd yn llefarydd ar hyn, ac rwy'n synhwyro mai prin oedd trafodaethau'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) y gwnaethoch chi eu cynnwys yn eich datganiad o ddydd Iau diwethaf. A yw hyn yn adlewyrchu'r ffaith nad oes fawr ddim yn digwydd yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE). Rydym ni, yn y gorffennol, wedi gwneud sylwadau ynglŷn â pha mor effeithiol ydyw. A yw'n effeithiol mewn gwirionedd? A gawsoch chi unrhyw drafodaethau manwl a llwyddiannus ddydd Iau diwethaf neu a ydym ni'n ôl yn y byd lle nad yw'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) mewn gwirionedd yn cynhyrchu dim, nad ydym ni'n symud gam ymhellach ac mewn dim ond chwech i wyth wythnos byddwn mewn sefyllfa lle bydd trafodaethau yn dirwyn i ben?  

Unwaith eto, ynglŷn â'r sefyllfa 'dim bargen', rydym ni'n siarad am fframweithiau—mae'r swyddogion yn sôn am fframweithiau. Ydyn nhw mewn gwirionedd yn edrych ar y sefyllfa o ran beth sy'n digwydd os oes 'dim bargen'? Sut fydd y fframweithiau yn gwneud cynnydd? Beth fydd yn digwydd ar 30 Mawrth 2019 os nad oes bargen o ran y fframweithiau cyffredin hynny?

Ac nid ydych chi wedi sôn yn eich datganiad, efallai, am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'r rhanbarthau? Rwy'n cydnabod yr anawsterau sydd gennym ni, weithiau, heb fod yn aelod-wladwriaeth yn y trafodaethau hynny, ond rydym ni'n trafod ein perthynas yn y dyfodol gyda'r rhanbarthau. A allech chi sôn am y berthynas fydd gan Gymru gyda'r rhanbarthau eraill yn y dyfodol fel y gallwn ni weld beth sydd o'n blaenau yn hynny o beth mewn sefyllfa lle rydym ni yn gadael?

Efallai, yn olaf, y gallwn ni siarad ynglŷn â ble yr ydym ni arni—soniodd Mick Antoniw am y gronfa ffyniant gyffredin. Credaf fod hynny'n fyd ffantasi ar hyn o bryd. Nid ydym ni wedi gweld unrhyw beth yn ei gylch eto. Ond beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y polisi rhanbarthol a'r cyllid rhanbarthol—soniodd Prif Weinidog Cymru y byddwch chi'n sôn am hynny'n ddiweddarach—. Ble'r ydym arni gyda'r cyllid rhanbarthol i sicrhau y gellir darparu ein polisi rhanbarthol a'n cyllid rhanbarthol i Gymru? Oherwydd byddwn yn colli hynny, ar ôl Brexit, a byddem ni wedi cael arian pontio, does dim amheuaeth am hynny, yn y gyfran nesaf. Felly, ble ydym ni arni o ran y mater hwnnw?

15:40

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae llawer o'r hyn yr wyf wedi'i ddweud y prynhawn yma wedi bod yn feirniadol o Lywodraeth y DU, a hynny'n gwbl briodol. Felly, gadewch imi geisio gwneud ychydig o bwyntiau mwy cadarnhaol, a dweud yn gyntaf, gyda'r hysbysiadau technegol, y rhoddwyd cyfle i swyddogion Llywodraeth Cymru ddarllen a rhoi sylwadau ar yr hysbysiadau hynny yn ystod y cyfnod paratoi. Felly, nid ar ddiwrnod eu cyhoeddi y gwnaethom eu gweld. Fe wnaethom ni lwyddo i wneud yn siŵr eu bod yn gywir o safbwynt Cymru, ac felly rydym ni wedi cyfrannu'n fwy at eu paratoi nag a wnaethom mewn enghreifftiau eraill o faterion negodi yr Undeb Ewropeaidd.

O ran Cydbwyllgor y Gweinidogion yr wythnos diwethaf, fe wnes i dreulio y rhan fwyaf o'r hyn yr oedd gennyf i'w ddweud yn adlewyrchu agenda y cyfarfod hwnnw, oherwydd roedd yn ymdrin ar wahân â datblygiadau o ran y fargen arfaethedig ar gyfer Papur Gwyn Chequers. Cawsom drafodaeth gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd yn yr adran Brexit am y cyfarfodydd niferus yr oedd yntau wedi eu cynnal dros yr haf â'r UE ar y mater hwnnw. Cawsom drafodaeth sylweddol ynghylch gwaith paratoi ar gyfer 'dim bargen' a'r hysbysiadau technegol a'r paratoadau eraill y mae Llywodraeth y DU yn eu cynnal, a chawsom ni gyfle i adolygu'r cynnydd a wnaed o ran trafodaethau fframwaith.

A yw'r fforwm yn darparu man priodol lle ceir ymgysylltu gwirioneddol ac ymdeimlad bod rhywun yn cymryd rhan ar dir gwastad? Nac ydy, ac rwyf wedi dweud hynny y prynhawn yma—mae angen ei ddiwygio a'i wella—ond a oedd y cyfarfod yn werthfawr? Oedd, oherwydd roedd yn caniatáu i mi fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru, ac, yn wir, fy nghyd-Aelod o'r Alban, Mike Russell, wneud cyfres o bwyntiau pwysig sy'n cynrychioli buddiannau ein gwledydd, ac roedd yn werthfawr yn hynny o beth. A dyma'r cyntaf o gyfres o gyfarfodydd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion sydd wedi eu hamserlennu erbyn hyn yn nhymor yr hydref, ac mae hynny'n welliant hefyd, lle mae gennym ni gyfres o ddyddiadau y cytunwyd arnyn nhw ymlaen llaw sy'n ein galluogi i gyfrannu'n fwy trwy baratoi ymlaen llaw ar gyfer y cyfarfodydd hynny. Felly, nid ydynt yn berffaith o bell ffordd, ond maen nhw'n parhau i fod yn fan lle gallwn ni fanteisio ar bob cyfle i hybu buddiannau Cymru.

Diolch i David Rees am grybwyll maes nad oeddwn i wedi gallu ei drafod yn y datganiad, sef y gwaith parhaus yr ydym ni'n ei wneud i nodi'r rhanbarthau hynny yn yr Undeb Ewropeaidd yr ydym ni'n dymuno perthynas arbennig â nhw ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Roeddwn yn ddigon ffodus i allu croesawu dirprwyaeth yma o Wlad y Basg, yn dilyn ymweliadau gennyf i a gan Lesley Griffiths. Roedd Arlywydd Gwlad y Basg yma yn gynharach yn yr haf, ac mae hwnnw'n rhanbarth pwysig iawn ar gyfer ein dyfodol ni yma yng Nghymru. Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymweld â nifer o ranbarthau eraill dros yr haf—yn rhan o'r rhaglen barhaus honno.

O ran polisi rhanbarthol, gadewch imi bwysleisio sylw y gwnaeth y Prif Weinidog yn gynharach, oherwydd rwy'n credu weithiau na cheir digon o bwyslais ar ei bwysigrwydd. Pan fyddwn ni, Llywodraeth Cymru, yn dweud ar yr amod y daw arian atom ni drwy ba ddull bynnag y cytunwyd arno, at y dibenion y defnyddir Cyllid Ewropeaidd ar eu cyfer heddiw, rydym ni'n rhoi gwarant, ymlaen llaw, o ddau beth. Yn gyntaf, y cedwir yr arian at y dibenion hynny. Ni chaiff ei amsugno i gyllideb ehangach Llywodraeth Cymru. Rydym ni'n cael arian ar gyfer cefn gwlad Cymru, rydym ni'n cael arian i ddiwygio ein heconomi. Caiff yr arian ei gadw at y dibenion hynny, ac nid ydym ni'n dweud hynny am arian arall sy'n dod i Lywodraeth Cymru. Rydym ni bob amser yn dweud, yn gwbl briodol, y daw drwy fformiwla Barnett, ond mae'n mynd i'r pot ac rydym ni'n penderfynu. Ac rydym ni'n barod i gynnig gwarant amlflwydd. Mewn geiriau eraill, gan fod arian yr Undeb Ewropeaidd yn dod â gwerth saith mlynedd o warant ac yn galluogi pobl i gynllunio ar gyfer eu dyfodol, byddem yn rhoi'r un sicrwydd yma yng Nghymru ar gyfer arian a ddaw at y dibenion hynny gan Lywodraeth y DU. Nid ydym ni'n dweud yr un o'r pethau hynny mewn cyd-destunau eraill. Ailadroddodd y Prif Weinidog rywfaint o hynny yma y prynhawn yma, a byddaf yn adlewyrchu hynny, rwy'n gobeithio, mewn datganiad yr wyf yn gobeithio y gallaf ei wneud yn yr wythnosau nesaf yma ar lawr y Cynulliad ar ddyfodol polisi rhanbarthol.

15:45

Roeddwn yn falch o glywed Steffan Lewis, yn ei sylwadau, yn sôn am ddiogelwch bwyd yn un o'r prif faterion y mae angen inni ei ystyried yn y posibilrwydd o gael 'dim bargen' gyda sefyllfa'r Undeb Ewropeaidd oherwydd rwyf i, fel chithau, yn gobeithio y gall Mrs May gyflwyno bargen y gallwn ni i gyd ei chefnogi, ond mae'r rhifyddeg Seneddol yn San Steffan yn ei gwneud hi'n anodd iawn gweld sut y bydd hynny'n digwydd.

Felly, i fynd yn ôl at ddiogelwch bwyd, rwyf wedi edrych yn gyflym ar yr hysbysiadau technegol y mae Llywodraeth y DU yn eu cyhoeddi am y goblygiadau ar gyfer ffrwythau a llysiau yr ydym ni'n eu mewnforio ar hyn o bryd, gan fwyaf, o'r Undeb Ewropeaidd. Gallaf weld cryn dipyn ynghylch sut y gallwn i fewnforio ffured, ond fawr ddim am ffrwythau a llysiau. Gallaf fewnforio 2 kg o ffrwythau a llysiau o'r tu allan i'r UE. Nawr, mae'n debyg, byddai hynny'n berthnasol i holl wledydd yr UE os cawn ni Brexit caled. Nid oes dim am yr hyn yr wyf i  eisiau ei deall mewn gwirionedd, sef y goblygiadau i'r cyfanwerthwyr, y manwerthwyr sy'n cyflenwi'r stryd fawr er mwyn ein galluogi ni i gyd i gael y bwyd sydd ei angen arnom ni bob dydd, yn enwedig y bwydydd darfodus. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, hwyrach y cawsoch chi fwy o amser i edrych ar yr hysbysiadau technegol hyn, a meddwl oeddwn i tybed a allwch chi ddweud wrthym ni beth maen nhw'n ei ddweud am y mater hwn a beth y gallwn ni ei wneud i liniaru rhai o'r effeithiau gwaethaf, h.y. plannu yn awr ar gyfer cnydau gwanwyn, gan ddefnyddio'r rhaglen LEADER o bosib o fewn rhaglen yr UE, neu arian arall a allai fod ar gael, i annog dinasyddion a chwmnïau, busnesau, i ddechrau tyfu mwy o lysiau a ffrwythau yn awr.

Llywydd, diolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig iawn hynny. Y ffordd briodol o liniaru'r trychinebau y mae hi'n tynnu sylw atyn nhw yw cael bargen y gallwn ni i gyd ei chefnogi wrth iddi adael yr Undeb Ewropeaidd. Credaf mai cyn lywodraethwr Banc Lloegr, Mervyn King, dim ond ychydig wythnosau yn ôl, a dynnodd sylw at yr hurtrwydd llwyr bod yn rhaid i'r chweched genedl gyfoethocaf ar wyneb y ddaear baratoi ar gyfer sefyllfa lle mae'n rhaid inni bentyrru cyflenwadau bwyd a meddyginiaethau fel petaem ni ar drothwy rhyw fath o gyfnod rhyfel. Roedd yn gwatwar y syniad ein bod ni wedi cael ein hunain i'r math hwnnw o sefyllfa, ac mae hyn gan ddyn a siaradodd o blaid y syniad y dylem ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, y ffordd briodol o liniaru'r anawsterau hynny y mae'r aelod yn cyfeirio atyn nhw yw peidio â chael ein hunain mewn sefyllfa o 'ddim bargen' gyda'r holl anawsterau y mae hi'n eu disgrifio.

Rwy'n credu ei bod hi mae'n debyg wedi edrych yn ofer am gyngor gan Lywodraeth y DU ar y mater hwn oherwydd, o'm cof—ac fe wnaf i wirio hyn i wneud yn siŵr fy mod yn gywir yn hyn o beth—mae hwn yn un o'r meysydd sydd eto i gael sylw mewn hysbysiadau technegol. Ceir cyfres o faterion eraill, llawer ohonynt yn tynnu sylw at feysydd ble mae hyd yn oed mwy o anhawster, rwy'n credu, y mae Llywodraeth y DU eto i roi cyngor i fusnesau ac i'r cyhoedd ynglŷn â sut y bydd y materion hynny yn cael eu trafod os oes sefyllfa o 'ddim bargen', ac rwy'n credu mai'r rheswm nad ydym ni wedi gweld rhai o'r pethau hynny yw oherwydd, yn y meysydd hynny, bydd y negeseuon hyd yn oed yn waeth na'r rhai hynny y cyfeiriodd Steffan Lewis atyn nhw yn gynharach.

15:50

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd Cyllid. Fel y gwyddoch chi, rwyf wedi mynegi yn gyson fy mhryderon ynghylch effaith Brexit ar hawliau gweithwyr a chydraddoldeb o ran cyfraith yr UE, ac wedi cefnogi swyddogaeth gadarnhaol cronfeydd strwythurol i ehangu cyfle cyfartal yn y farchnad lafur, a welir, er enghraifft, yn eich cyhoeddiad diweddar o £17 miliwn i bobl ifanc yn ne-ddwyrain Cymru er mwyn helpu i wireddu eu potensial o ran gyrfa.

Rwyf wedi bod yn astudio'r hysbysiadau technegol—maen nhw'n fyr iawn, mae'n rhaid imi ddweud—pe bai 'dim bargen'. Mae'r canllawiau ar hawliau gweithle os bydd Brexit 'dim bargen' yn ein hatgoffa o ystod cyfraith yr UE sydd wedi dod â manteision hawliau gweithwyr, gan gynnwys: rheoliadau amser gweithio; hawl i wyliau oherwydd rhesymau teuluol gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth; deddfwriaeth i atal a chywiro gwahaniaethu ar sail oedran, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, hil neu darddiad ethnig yn y gweithle; deddfwriaeth i amddiffyn gweithwyr rhan-amser a phobl ifanc, a llawer mwy. Dywed yr hysbysiad technegol y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod hawliau gweithwyr yn dal yn weithredol ledled y DU. Unwaith eto, a wnewch chi gadarnhau bod yr ymgysylltiad hwn yn digwydd a rhoi unrhyw sicrwydd ynglŷn â'r hawliau a'r amddiffyniadau hyn os ceir sefyllfa o 'ddim bargen'?

Mae angen sicrwydd hefyd o ran grantiau Cronfa Gymdeithasol Ewrop pe bai 'dim bargen'. Unwaith eto, dywed yr hysbysiad technegol:

Yn y sefyllfa annhebygol o beidio â gallu taro bargen, y byddai ymadawiad y DU o'r UE yn golygu na fyddai sefydliadau yn y DU yn gallu cael cyllid yr UE ar gyfer prosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop ar ôl y diwrnod ymadael,

sef Mawrth 2019. A ydych chi wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU na fydd unrhyw fwlch mewn cyllid ar gyfer twf rhanbarthol, ac y câi prosiectau'r UE eu gwarantu, gan gynnwys Cronfa Gymdeithasol Ewrop, mewn sefyllfa o 'ddim bargen'?

Yn olaf, fe hoffwn i ofyn cwestiwn am gronfa bontio'r UE o ryw £50 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Soniwyd amdano wrth graffu ar waith Prif Weinidog Cymru ddoe yn y pwyllgor materion allanol. A allwch chi gadarnhau na fydd y swm canlyniadol gan Lywodraeth y DU yn ddigon i ariannu pob gweithgaredd sy'n ymwneud â Brexit y mae angen inni ei wneud, felly mae'n rhaid inni ddiwallu'r anghenion hyn o ran paratoi ar gyfer y cyfnod pontio drwy ddefnyddio cyllideb gyfyngedig iawn o ganlyniad i gyni ac nad yw Llywodraeth y DU yn darparu'r arian sydd ei angen arnom ni o ran y cyfnod pontio hwnnw?

Diolch, Llywydd. Fe wnaf i ateb y cwestiwn olaf yn gyntaf. Mae'r Aelod yn llygad ei lle: nid yw cronfa bontio'r UE o £50 miliwn yn cael ei drosglwyddo'n syml i Gymru o'r arian a ddaw gan Lywodraeth y DU yn hyn o beth; rydym ni'n gorfod darparu arian o ffynonellau presennol yn ein cyllidebau cyfalaf a refeniw. Rydym ni'n fodlon gwneud hynny oherwydd bod angen brys. Rydym ni yn defnyddio arian sy'n dod gan Lywodraeth y DU, ond yn sicr nid dyna'r cyfan ohono; caiff arian ei ddefnyddio o fannau eraill yn Llywodraeth Cymru oherwydd rydym ni'n gwybod bod yr angen i baratoi ar gyfer Brexit yn rhychwantu pob un o'n gwasanaethau cyhoeddus a'i fod o bwys gwirioneddol i swyddi a ffyniant.

O ran dyfodol y cronfeydd strwythurol dan sylw, fe wnes i groesawu gwarant wreiddiol y Canghellor pan roddodd rywfaint o sicrwydd yn syth ar ôl y refferendwm ynghylch cronfeydd strwythurol, ac rwyf wedi croesawu ei benderfyniad pellach i warantu cronfeydd strwythurol ar gyfer yr holl gyfnod hwn. Mae hynny wedi helpu i roi sicrwydd i'r rhai sydd ynghlwm â hyn ar hyn o bryd ac wedi rhoi hyder y byddwn yn gallu gwneud y defnydd gorau posibl o'r cronfeydd yn y cylch cyfredol. Yr hyn sydd y tu hwnt i'r cylch cyfredol, fel y gofynnodd Mick Antoniw ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin, yw lle y mae arnom ni angen—a hynny ar frys, â threigl amser—yr un graddau o eglurder y bydd yr arian y mae Cymru wedi elwa arno yn y cylch presennol ar gael i ni ar gyfer y dibenion hynny ar ôl Brexit.

Yn olaf, o ran y cwestiwn ynglŷn â hawliau gweithwyr, hawliau defnyddwyr, hawliau dinasyddiaeth a hawliau dynol—yr holl bethau hynny yr ydym ni wedi'u hennill o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd—y broblem yn hyn o beth, Llywydd, yw hyn, ynte: mae Mrs May yn dweud wrthym ni pe byddai 'dim bargen', y câi'r holl hawliau hynny eu gwarantu, ond os ceir 'dim bargen', ni fydd dim Mrs May, a'r broblem wedyn yw y bydd yr addewidion y mae hi wedi eu rhoi yn gyfrifoldeb i'r bobl hynny ar ei meinciau cefn sydd wedi hyrwyddo 'dim bargen' eu gwireddu. A ydym ni'n credu eu bod yn rhannu'r un credoau hynny? A ydym ni'n credu y byddai Llywodraeth dan arweiniad Boris Johnson wedi ymrwymo yn yr un modd i sicrhau'r hawliau y mae gweithwyr Prydain ac y mae dinasyddion Prydain wedi elwa arnyn nhw drwy'r Undeb Ewropeaidd? Wel, wrth gwrs ddim; wrth gwrs na allem ni gael yr hyder hwnnw. Pan fydd Mrs May yn dweud hynny, rwy'n barod i'w chredu. Dywedodd o'r dechrau y byddai'r hawliau hynny yn cael eu gwarantu, ac mae'n berffaith bosib codi'r hawliau hynny a'u trosglwyddo i gyfraith y DU er mwyn parhau i'w gweithredu yma, yn hytrach na thrwy gyfraith yr UE. Ond os bydd 'dim bargen' bydd y bobl sy'n gwneud yr addewidion hynny yn annhebygol iawn yn parhau wrth y llyw, a dyna'r perygl sydd ar y gorwel i weithwyr ac eraill yma yng Nghymru.

15:55
4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Cyflogadwyedd

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar adroddiad cynnydd ar y cynllun cyflogadwyedd, ac rydw i'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ym mis Mawrth eleni, fe wnaethom ni gyhoeddi cynllun cyflogadwyedd traws-lywodraethol a oedd yn nodi ein gweledigaeth o wneud Cymru yn economi cyflogaeth lawn, uwch-dechnoleg, â chyflogau uchel. Cyflwynodd y cynllun hwnnw strategaeth uchelgeisiol i greu gweithlu hyfforddedig a chynhwysol iawn, yn un a all ymateb yn effeithiol i anghenion sgiliau cenedlaethol a rhanbarthol, ac sy'n addasu'n dda ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

Wrth wraidd yr uchelgais hon, rydym wedi ymrwymo i helpu pawb i gyflawni eu potensial yn llawn drwy gyflogaeth ystyrlon, beth bynnag eu gallu, cefndir, rhyw neu ethnigrwydd. Gwnaeth y cynllun hi'n glir hefyd i gyflogwyr fod ganddyn nhw gyfrifoldeb i feithrin, hyfforddi a chynnal eu gweithwyr i sicrhau bod dyfodol y gweithlu yng Nghymru yn un sefydlog a chydnerth. Mewn cysylltiad agos â'r cynllun gweithredu economaidd hwnnw, rydym wedi sicrhau, gyda'n gilydd, ein bod yn ysgogi twf cynhwysol, ein bod yn gwella cynhyrchiant a'n bod yn dechrau paratoi i ddiogelu ein heconomi yn erbyn yr heriau hynny yn y dyfodol.

Roedd rhaglen eang o gamau gweithredu ac ymrwymiadau yn cael eu nodi gennym yn y cynllun cyflogadwyedd, yn ogystal â thargedau 10 mlynedd eang, er mwyn cyflawni'r weledigaeth honno dros Gymru. Chwe mis wedi hynny—a dim ond chwe mis a fu—rwy'n falch o gyhoeddi ein hadroddiad cyntaf ar gynnydd o ran cyflawni ein cynllun cyflogadwyedd. Mae'r adroddiad yn nodi'r uchafbwyntiau dros y chwe mis diwethaf, sy'n arddangos ein cyflawniadau allweddol hyd yn hyn, yn ogystal â rhoi rhagflas o'r gwaith sy'n mynd rhagddo a datblygiadau sydd eto i ddod.

Un o'r pethau yr ydym wedi eu gwneud yw lansio cronfa £10 miliwn newydd i ddatblygu sgiliau a fydd yn hybu'r ddarpariaeth ranbarthol o sgiliau ac yn anelu at y bylchau sgiliau. Rydym wedi gwahodd ceisiadau o bob cwr o Gymru, a bydd y rhai a fu'n llwyddiannus yn dechrau'r ddarpariaeth y mis hwn ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.

Rydym yn gwneud cynnydd hefyd ar gwblhau adolygiad radical o'r fformiwla ariannu bresennol ar gyfer addysg bellach. Byddwn yn ceisio gweithredu'r newidiadau yn y flwyddyn academaidd 2019-20 i wneud y system yn fwy effeithlon ac, unwaith eto, yn fwy hyblyg ar gyfer anghenion sgiliau'r rhanbarthau. 

Mae ein rhaglen prentisiaethau yn dal i fynd o nerth i nerth, yn darparu cyfleoedd o ansawdd uchel erbyn hyn mewn sectorau newydd, gan gynnwys therapïau clinigol a gwyddorau gofal iechyd. Erbyn diwedd y flwyddyn hon, rydym yn bwriadu treialu cynllun prentisiaeth newydd o fewn y sector coedwigaeth a fydd yn helpu i fynd i'r afael ag anghenion sgiliau a recriwtio yn y dyfodol ar gyfer diwydiant coed wedi'i adfywio. 

Mae gennym fenter gwerth £2 miliwn i dreialu dull o roi cymorth lleoliad wedi'i deilwra i'r unigolyn, ac mae hynny wedi dechrau eisoes. Bydd yn cefnogi 450 o unigolion sydd yn dioddef oherwydd materion iechyd meddwl ysgafn a chymedrol, gan eu helpu i fanteisio ar gymorth gydag iechyd meddwl a chyflogadwyedd mewn ffordd gydgysylltiedig. Felly, mae hynny'n gweithio gydag uned gwaith ac iechyd Llywodraeth y DU a'r Ganolfan Byd Gwaith, ac mae'r arbrawf hwn yn cynnig cyfle arloesol i integreiddio gwasanaethau gofal iechyd a chyflogadwyedd. 

Wrth hanfod ein dull newydd o weithredu cymorth cyflogadwyedd sydd wedi'i deilwra i unigolion, rydym yn gwneud cynnydd ardderchog yn datblygu dull mwy syml o gael gafael ar gyngor a chymorth, ac rydym yn gwneud hynny drwy borth y cyngor cyflogaeth, a gaiff ei lansio ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Caiff hynny ei gyflawni gan Gyrfa Cymru. Bydd ein rhaglen newydd o gymorth cyflogadwyedd, Cymru'n Gweithio, yn cael ei chyflwyno drwy'r porth hwnnw ac, unwaith eto, bydd yn barod ar gyfer ei lansio y flwyddyn nesaf. Mae caffael y contractwyr ar gyfer cyflwyno Cymru'n Gweithio yn mynd rhagddo ers amser, a disgwylir y caiff y contractau eu dyfarnu ym mis Tachwedd. Rydym yn parhau i ddatblygu cynigion gyda Gyrfa Cymru o ran ffurf a darpariaeth y porth.

16:00

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Fel y mae'r adroddiad yn ei ddangos, rŷm ni’n gosod y sylfeini ar gyfer dull gweithredu mwy holistaidd ar draws y Llywodraeth ar gyfer cyflogadwyedd. Rŷm ni'n cydnabod bod angen cysylltu gwahanol wasanaethau cyhoeddus yn well, sy’n cynnwys trafnidiaeth, iechyd, tai, gofal plant a chymorth cyflogadwyedd, a sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cydweithio fel bod mwy o bobl yn gallu cael gwaith a chadw gwaith. Rŷm ni eisoes yn gweld manteision cyd-leoli yng ngwaith tasglu'r Cymoedd a'n rhaglen Cymunedau dros Waith, ac rŷm ni'n gwneud hyn drwy sefydlu canolfannau cymunedol, a byddwn yn parhau nawr i ddatblygu'r dull gweithredu yma drwy'r porth newydd.

Rŷm ni hefyd yn gwneud cynnydd da wrth weithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol i archwilio sut y gallwn ehangu'r opsiynau cludiant er mwyn gwella cyflogadwyedd mewn ardaloedd lleol. Rŷm ni bellach yn datblygu cynlluniau ar gyfer cynllun peilot yn y Cymoedd a fydd yn helpu i leihau rhwystrau i waith oherwydd diffyg opsiynau cludiant hyblyg neu fforddiadwy.

Un o'r prif ymrwymiadau a wnaed yn ein cynllun cyflogadwyedd oedd pennu targed cenedlaethol newydd i gynyddu nifer y bobl anabl sydd mewn gwaith. Mae gwella cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl yn flaenoriaeth, ac mae’n bwysig iawn i’r Llywodraeth yma. Rŷm ni'n benderfynol o ysgogi'r newid mawr sydd ei angen mewn gweithleoedd ac yn y gymdeithas i chwalu'r rhwystrau a'r heriau a wynebir gan bron i 75,000 o bobl anabl yng Nghymru sydd ddim mewn gwaith ond sydd eisiau gweithio.

Rydw i'n hapus â'r cynnydd rŷm ni wedi'i wneud hyd yn hyn wrth weithio mewn partneriaeth agos â phobl anabl a'u cynrychiolwyr nhw, sydd wedi bod yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y ffordd orau o gyflawni hyn. Rydw i'n falch hefyd o gydweithrediad nifer o gyflogwyr rydw i wedi cwrdd â nhw yn ein hymdrechion i chwalu'r rhwystrau yma i waith a wynebir ar hyn o bryd gan bobl anabl a'r rheini sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu gallu nhw i weithio.

Rŷm ni'n anelu at gyhoeddi targed erbyn diwedd y flwyddyn a fydd yn ceisio lleihau'r bwlch cyflogaeth mewn perthynas â phobl anabl, ynghyd â rhagor o fanylion am sut rŷm ni'n mynd i gyflawni'r uchelgais yma.

Drwy fy nghyfarfodydd â chwmnïau angori a rhwydweithiau busnes, rydw i'n mynd i barhau i herio cyflogwyr i wneud mwy, ac archwilio sut y gallwn gydweithredu i helpu pob unigolyn â nodweddion gwarchodedig i gael swydd gynaliadwy sy'n rhoi boddhad iddyn nhw.

Nawr, yr hydref yma, byddwn ni hefyd yn cyhoeddi fersiwn newydd o'r fframwaith gweithredu ar gyfer byw'n annibynnol, a fydd yn amlinellu ystod eang o gamau gweithredu sydd ar waith i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau a nodwyd gan bobl anabl ym meysydd trafnidiaeth, tai a chyflogaeth.

Felly, mae'r adroddiad yn dangos ein bod ni wedi cyflawni llawer iawn, rydw i'n meddwl, mewn chwe mis ers cyhoeddi’r cynllun, gan roi dull gweithredu newydd a phellgyrhaeddol ar waith i wella cyflogadwyedd ar draws Cymru.

Fel rhan o strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru 'Ffyniant i Bawb', mae cydweithio effeithiol ar draws y Llywodraeth yn parhau i fod yn rhan ganolog o'r gwaith o gyflawni'r cynllun cyflogadwyedd yma. Rŷm ni'n rhoi sianeli cyfathrebu a chydweithio ar waith ar draws Llywodraeth Cymru a'n partneriaid er mwyn sicrhau ein bod ni'n parhau i weithio gyda'n gilydd yn effeithlon ar sail nodau cyffredin. Rydw i hefyd yn ddiolchgar am waith fy nghyd-Weinidogion a'u parodrwydd nhw i gydweithio i sicrhau cynnydd positif ar faterion sy'n berthnasol i sawl portffolio gwahanol.

Dyma'r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau blynyddol ar weithredu'r cynllun cyflogadwyedd, ac rydw i'n edrych ymlaen at barhau â'r gwaith hwn i greu economi sy'n seiliedig ar sgiliau o ansawdd uchel ac sy'n galluogi pobl ac economi Cymru i ffynnu. Diolch.

16:05

Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Mae'n amlwg os byddwn yn dymuno sicrhau bod anghenion cyflenwi'r gweithlu ac anghenion busnes yn cael eu diwallu yna bydd yn rhaid cael cydweithio gwell rhwng diwydiant ac addysg. Mae angen i golegau lleol, darparwyr hyfforddiant a phrifysgolion ddeall ac ymateb i ofynion busnesau drwy ddarparu rhaglenni hyfforddi sydd wedi eu teilwra i ateb gofynion sgiliau presennol yng Nghymru. Mae gwaith ymchwil ar gyfer partneriaeth sgiliau rhanbarthol y De-ddwyrain yn dangos bod rhai colegau wedi gwneud cynnydd mawr wrth feithrin perthynas gyda chyflogwyr, ond mae rhai eraill yn cynnig hyfforddiant heb ddeall anghenion busnesau lleol. Felly, beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i ddatrys y broblem hon a sicrhau bod mwy o gydweithredu a chyfathrebu rhwng busnesau ac addysg yn parhau ac yn digwydd yma yng Nghymru?

Mae'r diwydiant adeiladu yn enghraifft o hyn. Ym mis Gorffennaf, gwelodd Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr Cymru bod busnesau adeiladu bach a chanolig yn sôn am dwf arafach yn eu gweithgarwch yn ail chwarter y flwyddyn. Un o'r rhesymau a roddwyd am hyn oedd prinder gweithwyr medrus. Roedd dwy ran o dair o'r busnesau yn sôn am anawsterau wrth gyflogi bricwyr a 60 y cant yn sôn am anawsterau wrth gyflogi seiri a seiri coed, tra bod adeiladwyr BBaChau yn sôn am gynnydd yn y llwyth gwaith. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i fynd i'r afael â phrinder sgiliau yn y diwydiant adeiladu, os gwelwch yn dda? Beth mae hi'n ei wneud i newid y canfyddiad gwael ymysg pobl ifanc o'r diwydiant adeiladu fel dewis clir? Mae angen llwybr technegol clir a deniadol ar bobl ifanc gydol eu haddysg ar ôl 16 oed, gyda'r un parch a'r un manteision â llwybrau eraill, mwy traddodiadol. Sut mae'r Gweinidog yn bwriadu hybu prentisiaethau ymysg pobl ifanc fel dewis gyrfa hyfyw, a pha gymorth ariannol fydd yn cael ei gynnig ganddi i weithwyr hŷn, yn ogystal â phobl ifanc, i wella hyfforddiant a sgiliau?

Yn olaf, Llywydd, hoffwn sôn am fater sgiliau digidol. Mae sgiliau digidol yn cael effaith enfawr wrth i dechnolegau newydd gael eu mabwysiadu, ond mae'r newid yn digwydd yn gyflym iawn. Pa ystyriaeth a roddwyd i golegau sy'n creu partneriaeth â diwydiant i gael y dechnoleg a'r offer i sicrhau bod hyfforddiant yn gyfredol ac yn gyfoes? Mae hyn yn hollbwysig os ydym yn bwriadu ateb y galw am weithwyr â sgiliau digidol, yn enwedig mewn meysydd arbenigol fel diogelwch seiber. Gweinidog, rwy'n gwerthfawrogi'r gronfa £10 miliwn newydd ar gyfer datblygu sgiliau , ond hoffwn ofyn i chi faint yr ydych yn ei wario yng nghymoedd y De-ddwyrain ar leiafrifoedd ethnig, pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol, pobl dros 50 oed, a sut fydd hynny'n cael ei ddyrannu mewn rhai ardaloedd penodol lle mae pobl wedi bod yn ddi-waith ers cenedlaethau. Rwy'n edrych ymlaen at ymateb y Gweinidog ar y pwnc hwn. Diolch.

Diolch yn fawr, Mohammad. Ie, rwy'n credu bod y datblygiad hwn yr ydym wedi ei roi ar y bwrdd, £10 miliwn, wedi gwneud i'r system addysg bellach foeli ei chlustiau a chymryd sylw a deall mewn gwirionedd ein bod yn gwbl ddifrifol o ran yr angen iddyn nhw ymateb i anghenion sgiliau yn yr economi leol. Yr hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i hynny yw bod pobl bellach yn llawer mwy parod i ymdrin â'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol, oherwydd eu bod yn deall, os ydynt yn awyddus i gael yr arian hwnnw, na fydd ar gael iddyn nhw oni fyddant yn ymateb i'r hyn y mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol hynny'n ei ddweud. Yr hyn sydd angen ei wneud nawr yw sicrhau bod yr wybodaeth gywir am y farchnad lafur yn mynd i mewn i'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol hynny—felly, cael y bobl iawn o gylch y bwrdd. Ac, er y gallwn gael cwmnïau mawr, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig hefyd inni ganolbwyntio ar fusnesau bach a chanolig a gwneud yn siŵr ein bod yn clywed yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud wrthym am eu hanghenion nhw o ran sgiliau. Nawr, gallwn wneud hynny'n rhannol, efallai, drwy'r sgiliau sector; gallwn ddarllen yr wybodaeth am y farchnad lafur a gwneud yn siŵr fod hynny'n rhan annatod o'r cyfan. Felly, rydym wedi cymryd camau breision ac, wrth gwrs, bydd yn berthnasol i'r adolygiad yr ydym yn ei chael o ran addysg bellach, oherwydd mae angen inni fod yn hyfforddi pobl ar gyfer swyddi sy'n bodoli, neu a fydd yn bodoli, yn hytrach na rhoi hyfforddiant i bobl ar gyfer swyddi nad ydyn nhw'n bodoli. Felly, mae hynny'n newid diddorol rwy'n credu—. Rwy'n falch iawn o ddweud bod colegau addysg bellach wedi ymateb yn gadarnhaol iawn.

Rwy'n credu mai'r mater arall yr oeddech chi'n cyfeirio ato yw prentisiaethau. Nawr, rwy’n credu bod gennym enw da iawn o ran prentisiaethau yng Nghymru. Rydym ar y trywydd iawn o gyflawni ein targed o 100,000 o brentisiaethau ac, wrth gwrs, yr hyn sydd yn rhaid i chi ei gofio yw mai prentisiaethau ar gyfer pob oedran yw'r rhain, felly dim ond tua 25 y cant ohonyn nhw sydd ar gyfer pobl dan 25 oed.

Tlodi mewn gwaith, mae'n debyg, yw un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu yng Nghymru heddiw. Felly, y cwestiwn mawr yw sut mae cael pobl i ymgymryd â swyddogaethau gwell o fewn eu swyddi ac felly ennill mwy o arian. A'r ateb yw hyfforddiant. Nawr, gallwn fynd rhywfaint o'r ffordd tuag at helpu i ddarparu'r hyfforddiant hwnnw. Ond rhan o'r hyn sydd angen ei wneud yw sicrhau bod y cyflogwyr hefyd yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei wneud yn glir iawn, ac yr wyf innau yn ei wneud y glir iawn bob tro y byddaf yn cwrdd â'r cyflogwyr hynny.

16:10

Mae'n dibynnu os ŷch chi'n gwrando ar rywun fel Klaus Schwab o'r World Economic Forum—neu Mark Carney yn y dyddiau diwethaf—i ddweud ar ba begwn rŷch chi o ran optimistiaeth neu besimistiaeth o ran potensial awtomeiddio i ddinistrio swyddi. Ond byddai pawb yn derbyn, wrth gwrs, o ran yr angen am sgiliau, mai dyma'r chwyldro mwyaf rydym ni wedi'i weld ers cenedlaethau. A ydy'r Gweinidog yn teimlo bod gyda ni gyfundrefn sy'n barod ar gyfer yr her yma? Oherwydd, os ŷm ni'n meddwl yn draddodiadol, wrth gwrs, o ran y system addysg a hyfforddiant y duedd sydd wedi bod ydy ffocysu ar yr ifanc—er bod dysgu gydol oes yn nheitl eich portffolio—ac wedyn, o ran oedolion, ar bobl sy'n ddi-waith. Ac eto, yng nghyd-destun awtomeiddio, yr angen mwyaf fydd dysgu pobl yng nghanol eu gyrfa, sydd mewn gwaith yn barod, i ailhyfforddi ar gyfer y swyddi a fydd yn dod.

Nawr, y system a oedd gyda ni ar gyfer hynny yn y gorffennol byddem ni wedi ei alw'n ddysgu oedolion—adult education. Roedd Cymru, ar un adeg, ar flaen y gad o ran dysgu oedolion. Edrych ar ble rydym ni nawr. Mae Coleg Harlech yn dadfeilio, fel symbol, a dweud y gwir, o ddiffyg buddsoddi—nid yn unig yng Nghymru gyda llaw; mae'r un patrwm wedi bod yn Lloegr—o ran dosbarthiadau nos ac yn y blaen, lle byddai pobl yn mynd eu hunain i ddringo'r ysgol ddilyniant, naill ai yn yr un sector, neu i ailhyfforddi ar gyfer sector arall. Os ŷm ni'n edrych ar y ffigurau, roeddwn i'n gweld Cymru'n Gweithio, y broses gaffael—rhywbeth fel £600 miliwn yn mynd i mewn hwnnw. Faint sy'n mynd i mewn i ddysgu cymunedol? Rydw i'n gwybod eich bod chi'n ymgynghori ar hyn o bryd, neu mae newydd ddod i ben. Ychydig filiynau sy'n mynd i mewn i'r sector yna, ac eto dyna'r sector sydd yn y lle mwyaf addas ar gyfer gwneud y gwaith o baratoi pawb ar gyfer yr her sy'n dod. Felly, a ydym ni'n gallu gweld newid yn y balans?

A jest yn olaf, Dirprwy Lywydd, cwpl o bethau eraill o ran y Gymraeg. Hynny yw, rydym ni wedi trafod hyn o'r blaen: 0.3 y cant, neu beth bynnag yw'r ffigur o ran prentisiaethau, sy'n cael eu cynnig yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg—cwbl annerbyniol a dweud y gwir. A allwn ni gael addewid pendant y bydd y ddarpariaeth o ran prentisiaethau yn adlewyrchu realiti ieithyddol Cymru, heb sôn am y miliwn o siaradwyr Cymraeg rydym ni eisiau eu creu ar gyfer y dyfodol?

Yn olaf, o ran cyflogwyr, a fyddai'r Gweinidog yn gallu edrych ar y rhaglen sydd yn Singapôr, sy'n cael tipyn o ddiddordeb byd-eang, o'r enw SkillsFuture, sydd yn defnyddio cyflogwyr yn y broses o ddarogan y dyfodol? Hynny yw, mae yna gwmnïau ac yn y blaen mewn sectorau, ac maen nhw'n dweud, 'A allwch chi ddweud wrthym ni'—sydd yn y system, yn cynnig cyngor cyflogadwyedd—'A allwch chi ddweud wrthym ni pa sgiliau rydych chi'n meddwl, fel cwmni, fel busnes, rydych chi'n rhagweld y bydd eu hangen arnoch chi?' Ac mae'n nhw'n defnyddio'r wybodaeth yna yn eu porth sgiliau nhw wedyn er mwyn rhoi gwybodaeth mwy uniongyrchol, efallai, i bobl sydd eisiau hyfforddi ar gyfer y dyfodol.

16:15

Diolch yn fawr. Nid wyf fi'n meddwl bod lot o ots os ydych chi'n optimistaidd neu'n besimistaidd; mae'n mynd i ddigwydd, felly mae'n rhaid inni baratoi ar gyfer automation a sut mae hwn yn mynd i gael effaith arnom ni fel unigolion ac fel cymdeithas. Nid oes pwynt i ni esgus ein bod ni'n gallu gwneud unrhyw beth amdano. Mae wedi dechrau ac mi fydd yna gynnydd ac mi fydd hi'n symud yn gyflym iawn, rwy'n meddwl. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n paratoi ar gyfer hynny.

Un o'r pethau rŷm ni'n mynd i sgopio allan ar hyn o bryd yw'r posibilrwydd o greu individual learning accounts, lle byddai hawl gyda pobl i efallai gael credyd i fynd i astudio lle maen nhw mewn gwaith, ond byddwn ni ond yn rhoi caniatâd iddyn nhw astudio lle rŷm ni'n gwybod bod yna ddiffyg gyda ni yn y gweithle. Felly, wrth gwrs, byddai sgiliau digidol yn rhan o hynny. Felly, rŷm ni'n ymwybodol, wrth gwrs, bod wastad issue o arian a lle rŷm ni'n mynd i gael yr arian i wneud cynllun o'r fath, ond rwyf yn meddwl, o ran y meddylfryd a beth y liciwn ni ei wneud, mai dyna yw'r cyfeiriad yr hoffwn fynd iddo. 

Wrth gwrs, mae dysgu oedolion, o'r holl bethau sydd wedi cael impact fel canlyniad i austerity—mae hwnnw'n faes sydd wedi cael ergyd fawr. Rŷch chi wedi clywed ddoe yn Lloegr eu bod nhw wedi gwneud analysis ac mae'n nhw hefyd wedi dioddef, felly rŷm ni wedi gorfod ffocysu ein gwaith ni yn fanna i sgiliau hanfodol, i basic skills ac ati, er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael rhywbeth mas o'r maes yma. Ond, fe fyddwch chi'n ymwybodol ein bod ni'n aros i glywed nawr beth yw'r canlyniad o'r review yna rŷm ni'n cario allan. I fi, beth sy'n bwysig yw nad ydym yn cymryd y cyfrifoldeb i gyd fel Llywodraeth. Mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd ac mae yna gyfrifoldeb ar gyflogwyr hefyd i sicrhau eu bod nhw hefyd yn mynd ati i helpu datblygu sgiliau'r gweithlu. Felly, nid yw'n iawn bod hyn jest yn rhywbeth sy'n syrthio ar ein hysgwyddau ni. 

O ran prentisiaethau yn y Gymraeg, rŷm ni'n cadw golwg manwl arno. Un o'r issues fan hyn wrth gwrs yw bod rhaid i'r cyflogwyr fod yn rhan o hynny. Felly, nid yw'n rhywbeth lle rŷm ni'n gallu dweud, 'Gwnewch hyn'; nhw sydd yn gwneud y prentisiaethau—y bobl eu hunain sy'n cymryd y prentisiaethau sy'n penderfynu a ydyn nhw eisiau ei wneud trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae'n anodd iawn dweud, 'Mae'n rhaid i chi ei wneud e.' Wrth gwrs, rŷm ni eisiau gweld cynnydd, ac mae'r canran sy'n gwneud rhywfaint o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg lot yn uwch na'r ffigur roeddech chi wedi'i ddweud. 

O ran SkillsFuture yn Singapôr, fe fyddwch chi'n ymwybodol bod cadeirydd ein panel ni ar y review of digital innovation yn rhywfaint o arbenigwr yn y maes yma yn Singapore, felly rwy'n gobeithio y daw rhywbeth allan o hynny. Fe gawn ni weld os cawn ni fwy o fanylion oddi wrtho fe.

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n nodi'r hyn sydd yn eich datganiad, ond mae'n rhaid imi ddweud ei fod braidd yn brin o fanylion. Felly, o ganlyniad, mae gennyf nifer o gwestiynau ichi. Er enghraifft, rydych yn honni eich bod yn gwneud cynnydd wrth gyflawni adolygiad sylfaenol o'r fformwla ariannu ar gyfer addysg bellach—credaf fod hynny'n syniad da, ardderchog—ond nid ydych chi wedi dweud unrhyw beth am sylwedd y cynnydd hwnnw. Felly, a wnewch chi roi rhywfaint o fanylion am y cynnydd gwirioneddol yr ydych wedi ei wneud, pa mor bell yr ydych wedi mynd, canlyniadau hynny, pa newidiadau a wnaethoch, pa newidiadau yr ydych yn eu hystyried?

Nodaf hefyd eich bod wedi cyhoeddi lansiad cronfa £10 miliwn i hybu darpariaeth sgiliau rhanbarthol ac anelu at fylchau mewn sgiliau. Mae hybu sgiliau a nodi'r bylchau yn bethau angenrheidiol a hanfodol i Lywodraeth eu gwneud, felly, unwaith eto, syniadau da yn hyn o beth. Ond, beth yw eich asesiad o'r bylchau mewn sgiliau yn y rhanbarthau amrywiol, a sut y daethoch chi i'r casgliadau hyn? Sut ydych chi'n asesu anghenion sgiliau yn y rhanbarthau? Pa ddull yr ydych chi'n ei ddefnyddio? Beth yw eich asesiad o anghenion buddsoddwyr busnes yn y dyfodol o ran sgiliau yn y gwahanol ranbarthau yn y dyfodol?

Gan droi at y rhaglen prentisiaethau, faint o brentisiaethau sydd wedi eu creu yn gyfnewid am yr arian a wariwyd hyd yn hyn? Beth yw eich asesiad o'r rhagolygon hirdymor ar gyfer prentisiaid sydd yn mynd drwy'r cynllun, a sut fyddwch yn mesur canlyniadau'r cynllun mewn gwirionedd? O ran y gefnogaeth i'r lleoliadau i unigolion, a wnewch chi ddweud wrthym pryd fyddwch yn gallu adrodd yn ôl ar ganlyniadau'r arbrawf? Unwaith eto, sut fyddwch yn mesur llwyddiant? Rydych yn dweud ein bod eisoes wedi gweld manteision cydleoli. Mae'n ddigon hawdd dweud ein bod eisoes wedi gweld y manteision, ond a wnewch chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, beth yw'r manteision yr ydych wedi eu gweld hyd yn hyn? Rwy'n nodi hefyd eich bod chi'n ymdrechu i gynyddu nifer y bobl anabl sy'n cael eu cyflogi. Rwy'n cymeradwyo eich amcanion yn hyn o beth yn fawr iawn. Mae angen cymeradwyo unrhyw beth sy'n cael ei wneud i gyflogi pobl anabl a'u cael i fod yn annibynnol, ond a wnewch chi roi rhywfaint o wybodaeth am nifer y bobl anabl sy'n debygol o gael cymorth yn sgil y cynllun hwn? Faint ohonyn nhw sy'n debygol o gael eu helpu i mewn i gyflogaeth?

Rydych chi'n datgan bod eich cynllun cyflogadwyedd yn egluro i gyflogwyr beth yw eu cyfrifoldebau i feithrin, hyfforddi a chynnal eu gweithwyr ac i sicrhau dyfodol y gweithlu yng Nghymru. Ond mae gennyf i gwestiwn i chi, Gweinidog. A wnewch chi egluro inni beth sy'n gwneud ichi feddwl eich bod yn gymwys i bregethu wrth gyflogwyr am hyfforddi eu staff? A ydych yn ceisio dod o hyd i ffordd o osgoi'r cyfrifoldeb am asesu anghenion hyfforddiant a darparu'r addysg ar gyfer yr anghenion hynny, gan roi'r cyfrifoldeb hwnnw ar gyflogwyr? Mae rhoi hyfforddiant i gyflogeion hefyd yn costio arian, nid yn unig mae angen talu am yr hyfforddiant, ond mae'r gost o ran yr amser a gymerir i gael yr hyfforddiant. A ydych yn disgwyl i'r cyflogwyr ysgwyddo'r gost hon, neu'r wladwriaeth?

Fy mhrif gwestiwn yw hwn, ac mae'n debyg y byddwch wedi casglu hyn o fy sylwadau blaenorol: sut yr ydych yn bwriadu asesu canlyniadau'r cynllun cyflogadwyedd? Pa fath o berfformiad y byddwch yn ei ystyried yn llwyddiant? Sut fyddwch yn monitro'r defnydd o'r cynllun, ond hefyd ganlyniadau hirdymor y cynllun? Diolch.

16:20

Diolch. Yn gyntaf oll, rydym  wedi cael trafodaeth eithaf eang â cholegau addysg bellach o ran y fformiwla ariannu. Maen nhw wedi ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw erbyn hyn. Rwy'n disgwyl clywed canlyniadau hynny yn yr ychydig wythnosau nesaf, oherwydd gwyddom y bydd yn cymryd—mae angen inni roi blwyddyn yn ôl pob tebyg i golegau addysg bellach i baratoi ar gyfer unrhyw newidiadau mewn cyllido a all ddod i'w rhan. Felly, rwy'n hyderus iawn fod hynny mewn llaw.

O ran yr ymateb ar sgiliau rhanbarthol, byddwch yn ymwybodol bod yna dair partneriaeth sgiliau rhanbarthol. Maen nhw'n neilltuol i'r rhanbarth, felly maen nhw'n ymateb i'r hyn sy'n digwydd yn eu hardal. Rydym yn gobeithio—rydym yn disgwyl ac rydym yn annog busnesau lleol i fwydo i mewn i hynny a dweud wrthym beth yw eu hanghenion sgiliau. Ceir panel—mae nifer fawr o bobl ar y bwrdd partneriaeth sgiliau rhanbarthol hwnnw, ac maen nhw wedyn yn llunio adroddiad sy'n cael ei roi i golegau er mwyn iddyn nhw ymateb. Faint o brentisiaethau? Wel, fe wnaethom ni greu tua 24,000 o brentisiaethau yn 2016, a thua 16,000 yn hanner cyntaf y flwyddyn hon. Felly, rwyf i o'r farn, yn wir, ein bod mewn sefyllfa well na'r hyn a fwriadwyd, o ran ein 100,000 o brentisiaethau.

Faint o bobl anabl y byddwn yn eu helpu? Wel, mae hwnnw'n gwestiwn diddorol iawn, oherwydd, unwaith eto, nid rhywbeth y gallwn ei wneud ar ein pennau ein hunain mohono. Mae'r trafodaethau a gefais gyda chyflogwyr—cefais gyfarfod diddorol iawn yr wythnos diwethaf gyda grŵp adnoddau dynol y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu. Dim ond gwrando arnyn nhw—fe wnaethom ni lunio gweithdy i gael gwybod beth allan nhw ei wneud i helpu. Yr hyn sy'n glir, mewn gwirionedd, yw bod angen inni feddwl fwy na thebyg am newid y pwyslais fel ein bod yn rhoi mwy o gymorth i fusnesau a diwydiant fel y gallwn eu helpu i addasu. Maen nhw'n awyddus i'n helpu ni, ac un o'r pethau yr ydym wedi eu gwneud bellach yw creu porth newydd ar Busnes Cymru fel bod yr holl wybodaeth mewn un man. Felly, mae Mynediad i Waith, er enghraifft, yn rhaglen a gynhyrchir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae angen inni wneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth honno, a'r pethau a wnawn ni yn Llywodraeth Cymru, mewn un man.

A ydym yn disgwyl i gyflogwyr hyfforddi eu staff? Ydym. Eu staff nhw ydyn nhw—mae o fantais iddyn nhw eu cyflogi. Rwy'n credu mai rhan o'r broblem yng Nghymru yw ein bod wedi cael llawer o gyllid Ewropeaidd yn y maes hwn a bydd yn rhaid inni ddechrau eu diddyfnu oddi ar y rhagdybiaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn gyson yn hyfforddi rhai o'u gweithwyr. Felly, bydd angen i ni gael perthynas well a dealltwriaeth well ei bod o fantais iddyn nhw fuddsoddi yn eu gweithwyr. Mae'r targedau 10 mlynedd yn dra eglur; credaf eu bod wedi'u gosod. Y peth pwysig yma yw ein bod yn dal ati yn ddygn, a dyna pam yr wyf yn benderfynol y bydd gennym adroddiad blynyddol i wneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd y targedau hyn.

16:25

Mae'r Gweinidog wedi crybwyll lansiad Project SEARCH, sy'n helpu pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau i gael gwaith drwy gynnig cymorth ag interniaethau iddyn nhw gyda'r nod o gael cyflogaeth sicr â thâl iddyn nhw ar ddiwedd y lleoliad. Mae'r fenter i'w chroesawu, ond roeddwn eisiau gofyn i'r Gweinidog yn benodol am dudalen 15 y cynllun, sydd yn cynnwys ymrwymiad i leihau nifer y bobl anabl sydd yn ddi-waith. Mae'r cynllun yn dweud:

Gan weithio gyda phartneriaid, byddwn yn sefydlu nodau deng mlynedd priodol i ganolbwyntio ein hymdrechion. Pan fo addasu er mwyn prif ffrydio'r ddarpariaeth yn briodol, byddwn yn annog sefydliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfleoedd am hyfforddeiaethau wedi eu teilwra ar gyfer y bobl anabl hynny sydd eu hangen.

Mae'r ffigurau a roddwyd imi gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn dangos bod nifer y bobl awtistig mewn cyflogaeth amser llawn yn is na chyfartaledd y garfan gyfartalog o bobl anabl. Er enghraifft, mae 32 y cant o oedolion awtistig mewn rhyw fath o gyflogaeth o'i gymharu â 40 y cant ar draws yr holl anableddau ledled y DU. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am gynnydd yr ymrwymiad penodol hwnnw?

Rwy'n credu, fwy na thebyg, o'r holl faterion yn y cynllun cyflogadwyedd hwn, mai hwn yw un o'r materion, yn fy marn i, y mae gwir angen inni ganolbwyntio arno fel Llywodraeth. Mae Project SEARCH yn brosiect rhagorol; es i ymweld ag ef yr wythnos diwethaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae hwn yn brosiect gyda'r bwrdd iechyd lleol; maen nhw wedi gweithio gyda'r coleg lleol, gyda phobl sydd ag anableddau dysgu, ac maen nhw wedi rhoi iddynt flwyddyn gyfan o brofiad gwaith, gyda'r amcan y byddan nhw yn y pen draw yn cael swyddi. Rwy'n credu mai dyna'n union y mae angen inni edrych arno. Yn wir, roedd y ffigurau a glywais tra'r oeddwn i yno, hyd yn oed yn fwy trawiadol na'r rhai yr ydych chi wedi eu nodi. Felly, yn ôl eu hawgrym nhw, nifer y bobl awtistig yn y DU heb waith oedd tua 18 y cant. Felly, mae gennym lawer o waith i'w wneud eto yn y maes hwn, a chredaf y dylem fod yn meddwl yn greadigol iawn am sut y gallwn ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru o bosib i ystyried neilltuo swyddi ar gyfer pobl ag anableddau dysgu penodol. Mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn ei ystyried ymhellach yn yr ychydig fisoedd nesaf, oherwydd mae hwn yn faes  heriol iawn i ni, ond rwy'n falch iawn eich bod wedi codi hwnnw fel mater.

Gweinidog, roedd gennyf i ddiddordeb mawr, yn wir, yn y sylwadau am Goleg Harlech, a gychwynnwyd gan Adam Price, oherwydd bydd yr Aelodau yn cofio swyddogaeth wirioneddol y Coleg hwnnw o ran hyfforddiant gweithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur ac ati yn yr un mathau o faterion a drafodwn nawr. Wrth gwrs, daeth llawer o'r cyrsiau hyn a chyrsiau tebyg eraill mewn colegau i ben ac, yn wir, mewn llawer o ffyrdd gwthiwyd i'r ymylon Gymdeithas Addysg y Gweithwyr, a oedd mewn gwirionedd yn cyflawni llawer o'r swyddogaethau hyn hefyd.

Rwy'n croesawu'r hyn yr ydych wedi ei ddweud yn fawr iawn. Yr unig bwynt sy'n ymddangos yn gamgymeriad amlwg yw mai prin fu'r sôn am TUC Cymru neu sôn am undebau llafur. Ymddengys i mi eu bod yn hanfodol yn hyn o beth. Felly, pan rydym yn trafod hyfforddiant, prentisiaethau, cydraddoldeb, dysgu gydol oes, datblygiad mewn swydd, y cytundeb economaidd, cyflogau isel, swyddi gwell yn agosach i gartref ac ati, mae'r rhain i gyd yn faterion y mae'r undebau llafur wedi ymwneud â nhw yn benodol ac mae ganddyn nhw lawer iawn o brofiad yma. Ond, a dweud y gwir, ymddengys i mi eu bod yn cael eu hanwybyddu mewn rhyw ffordd, oherwydd nid oedd unrhyw beth yn benodol am eu swyddogaeth nhw. Tybed a allech chi helpu drwy amlinellu yn union sut yr ydych chi'n gweld swyddogaeth yr undebau llafur yn hyn o beth. Beth yn union fydd eu sefyllfa o ran hyn, pa swyddogaethau a roddir iddyn nhw, ble maen nhw'n sefyll o fewn y bartneriaeth gymdeithasol hon? Fy mhryder i yw bod y bartneriaeth gymdeithasol yn gogwyddo braidd yn anghytbwys tuag at un ochr, ac nad yw'n cydnabod y ffaith os na chewch gefnogaeth sefydliadau'r gweithwyr a'r undebau llafur, y bydd gennych eisoes un bêl a chadwyn o gwmpas eich coes, a bydd eich gallu i gyflawni yn cael ei danseilio'n sylweddol.

16:30

Wel, fe welwch chi fod yna gyfeiriad at undebau llafur ar dudalen 19, ac rwyf i o'r farn—

Ie. Felly, credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn deall y swyddogaeth bwysig iawn y gallai'r undebau llafur ei chael yn y gweithle. Drwy roi cyllid i bethau fel rhaglen Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, yr hyn a welsom yw bod llawer o bobl nad oes ganddyn nhw'r hyder efallai i chwilio am gymorth gan eu cyflogwyr yn barod i wneud hynny drwy gyfrwng undeb llafur, ac mae wedi rhoi cyfle gwirioneddol i bobl mewn gwaith i ddatblygu. Ac rydym wedi rhoi'r arian hwnnw yn benodol i'r undebau llafur.

Nawr, credaf eich bod yn iawn: mae angen inni ehangu ein dull o ymdrin ag undebau llafur o ran y rhaglen ehangach. Felly, beth allan nhw ei wneud i'n helpu ni, er enghraifft, i argyhoeddi pobl o fewn eu sefydliadau bod modd iddyn nhw ein helpu ni i gynyddu nifer y bobl sy'n anabl yn y gweithle? Felly, rwy'n credu bod angen eu prif-ffrydio nhw, fel petai, a gweithio gyda nhw i bwyso ar y cyflogwyr, oherwydd credaf, o siarad â nhw, yr ymddengys bod pobl yn barod i'n helpu ni, ond mae angen i rywun wthio o'r tu mewn i'r sefydliad. Rwy'n gobeithio, felly, bod honno'n swyddogaeth y gallai'r undebau llafur fod yn awyddus i'w chyflawni.

O ran effaith awtomatiaeth a'r digidol, a drafodwyd eisoes y prynhawn yma, rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at adroddiad adolygiad Brown yn y flwyddyn newydd. Credaf fod Llywodraeth Cymru yn haeddu cael ei llongyfarch am ddod â'r fath banel o arbenigwyr nodedig ynghyd, ac mae hynny'n edrych yn addawol. Ond mae wedi bod yn glir am ryw flwyddyn erbyn hyn nad yw'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol eu hunain yn gwbl effro i'r bygythiad yn sgil awtomatiaeth. Dim ond un o'r partneriaethau sgiliau yn unig a nododd awtomatiaeth yn fater hirdymor iddyn nhw. Felly, o gofio bod Llywodraeth Cymru yn gwybod eu bod yn ddiffygiol yn y maes hwn, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr hyn sy'n cael ei wneud i'w cymell i adnewyddu eu dadansoddiad a pha gamau y maen nhw'n bwriadu eu cymryd eu hunain i adfer hyn?

O ran targedau, gwn fod y Gweinidog yn awyddus iawn i'w cynnwys yn y cynllun cyflogadwyedd. Rydym wedi trafod o'r blaen, o'r pum targed hyn, nad ydynt yn dargedau CAMPUS, ac mae dau o'r pump yn ymwneud â chreu setiau newydd o dargedau. Felly, a wnewch chi roi'r diweddaraf inni am y cynnydd o ran cyrraedd y targedau? Yn yr adroddiad ar gynnydd, gosodwyd targed yn ymwneud â phobl anabl, sydd i'w groesawu, ond o ran yr ail darged—nifer y cyflogwyr sy'n rhan o raglen Cymru Iach ar Waith—targed o 40 y cant, nid oes unrhyw darged ar gyfer pryd y caiff hynny ei gyflawni, hyd y gwelaf i. Felly, tybed a allech chi roi'r diweddaraf am wneud y targed hwnnw yn un mwy campus? Diolch.

Ydw, rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at dderbyn canlyniadau adroddiad Brown. Rwyf wedi ysgrifennu at y partneriaethau sgiliau rhanbarthol i ofyn iddyn nhw'n benodol: a wnewch chi roi ystyriaeth i'r digidol yn eich adroddiadau nesaf? Ac rwy'n disgwyl iddyn nhw adrodd yn ôl yn eu hymrwymiad blynyddol nesaf, felly dylai hynny gael ei gyhoeddi yn fuan iawn, iawn ac rwy'n disgwyl gweld newid ac ymateb yn hynny. Felly, mae hwnnw yn rhywbeth yr ydym yn pwyso'n fawr arnyn nhw i'w wneud.

O ran ein sefyllfa o ran y targedau, wel, yr wythnos diwethaf gostyngodd ein ffigurau diweithdra, fel y byddwch yn ymwybodol, i 3.8 y cant, sydd yn is na chyfradd y DU, mewn gwirionedd, ac mae gennym 42,000 yn fwy o bobl mewn gwaith na'r adeg hon y llynedd. Ond rhaid inni fod yn ofalus—ffigurau di-ddal yw'r rhain. Ond credaf y gallwn fod yn falch eu bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Mae'r un peth yn wir am anweithgarwch economaidd, ond mynydd i'w ddringo yw hwnnw, a gobeithio y bydd ein rhaglen Cymru Iach ar Waith yn ein helpu. Yr hyn yr ydym wedi ei wneud yn awr yw torri'r ffigurau hynny i lawr er mwyn gweithio allan beth yn union—faint o bobl sydd eu hangen arnom ni ac ym mha feysydd i'w cael mewn gwaith o ran anweithgarwch economaidd? Bydd yn anodd, ond rydym yn hyderus nawr fod y rhaglen gywir gennym i weld a allwn wneud tolc yn y ffigurau hynny.

O ran Cymru Iach ar Waith, rydym wedi gosod targed bellach o 40 y cant. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth—. Rwy'n credu ein bod ni tua 36 y cant ar hyn o bryd, ac mae'n amlwg bod y gwaith hawdd eisoes wedi'i wneud, ac mae'n mynd i fod yn fwy anodd. Felly bydd hynny'n darged erbyn 2020 hefyd.

5. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Cartrefi mewn Parciau

Eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar gartrefi mewn parciau, a gaiff ei ryddhau fel datganiad ysgrifenedig.

6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Felly, yr eitem nesaf yw dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies. 

16:35

Cynnig NDM6777 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig.

Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru). Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r tri phwyllgor sy'n ymwneud â chraffu ar y Bil hwn am eu hamser a'u gwaith caled. Er mwyn cydnabod eu hymdrechion ysgrifennais at y tri phwyllgor, cyn y ddadl heddiw, yn nodi'n fanwl fy meddyliau mewn ymateb i'w hargymhellion a'u casgliadau, ac rwy'n gobeithio bod Cadeiryddion ac Aelodau'r pwyllgorau wedi cael ychydig o amser—er mai ychydig o amser ydyw—i ystyried yr ymatebion manwl.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl randdeiliaid a ddarparodd dystiolaeth ysgrifenedig a llafar. Rwy'n dymuno tynnu sylw yn arbennig at waith y Pwyllgor Plant, Phobl Ifanc ac Addysg am graffu'n ddiwyd a manwl ar y Bil hwn ac ar y polisi sylfaenol. Rwy'n awyddus i ddweud ar ddechrau'r ddadl hon fy mod i'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y dystiolaeth a gofnododd y Pwyllgor yn ystod Cyfnod 1 a faint o waith a wnaed ar ei adroddiad a'i argymhellion. Rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i barhau i weithio gyda'r Pwyllgor ar ei argymhellion ehangach ynglŷn â gofal plant a'r sector yn gyffredinol, a'r meysydd penodol hynny y nodwyd bod angen i ni fel Llywodraeth wneud rhagor yn eu cylch i egluro pa gymorth sydd ar gael i helpu rhieni sy'n gweithio neu mewn hyfforddiant, er enghraifft.

Nawr, mae'r Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru) sydd ger ein bron yn Fil byr a thechnegol a gyflwynwyd gennym i gefnogi cyflwyniad system sengl, genedlaethol o wirio ceisiadau a chymhwystra o ran ein cynnig gofal plant i Gymru, ac, wrth gwrs, mae'r cynnig gofal plant yn un o ymrwymiadau allweddol y Llywodraeth hon. Fe'i cyflwynwyd yn gyntaf ym maniffesto Llafur Cymru, a chafodd ei ailddatgan yn ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen'.

Felly, rydym wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi'i ariannu gan y Llywodraeth i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair oed yng Nghymru am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Gwnaethom yr ymrwymiad hwn gan fod rhieni wedi dweud wrthym fod angen cymorth gyda chostau gofal plant, yn arbennig y teuluoedd hynny ar incwm is lle mae costau gofal plant yn gyfran fwy o'r gyllideb wythnosol. Ond i fod yn hollol glir, nid oes angen inni ddwyn ymlaen ddeddfwriaeth i ddarparu'r cynnig. Rydym eisoes yn ei gyflawni mewn rhannau o Gymru, yn profi sut y mae'n gweithio i rieni, i ddarparwyr ac i blant. Ond bydd y Bil hwn yn creu proses 'unwaith i Gymru' syml, i wirio cymhwystra pobl, gan eu galluogi i gael y gofal plant sydd ei angen arnynt, yn syml.

Mae'r awdurdodau lleol sydd wedi cymryd rhan ym mlwyddyn gyntaf y rhaglenni treialu gofal plant yn gwneud gwaith gwych yn darparu'r cynnig, ond maen nhw'n dweud wrthym fod y baich gweinyddol yn fwy o lawer na'r disgwyl. Ac ar adeg pan fo'r gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau o ganlyniad i gyni parhaus Llywodraeth y DU, ni allaf—alla i ddim—gofyn i awdurdodau lleol gynnal dull o wirio cymhwystra ar gyfer gofal plant sydd mor feichus, ansafonol a dibynnol ar bapur. Felly, mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn ceisio manteisio ar dechnoleg ddigidol trwy ddatblygu'r un system 'unwaith i Gymru' hon i brosesu ceisiadau ac archwilio cymhwystra, a bydd y Bil hwn yn gwneud hynny.

Hoffwn i ddiolch i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yr Ysgrifennydd Cartref a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau am eu cymorth wrth ddatblygu'r Bil hwn. Y bwriad yw penodi Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gynnal yr archwiliadau cymhwystra ar gyfer y cynnig. Bydd hyn yn golygu y gallwn ddefnyddio'r un system â'r un a ddefnyddir i gynnal archwiliadau o'r fath yn Lloegr ar hyn o bryd. Gall rhieni yng Nghymru wneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant dan y cynllun gofal plant di-dreth a gwneud cais am y cynnig hwn yr un pryd, ond nid yw gweithio gyda Chyllid a Thollau EM yn awr yn golygu nad oes modd inni ystyried ateb pwrpasol i Gymru yn y dyfodol, os a phan fydd cyllid cyhoeddus yn caniatáu hynny.

Dirprwy Lywydd, gwnaeth y tri Phwyllgor nifer o argymhellion ynglŷn â'r Bil, a byddaf yn ceisio ymateb i lawer o'r rhain yn yr amser sydd gennyf. Cododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y mater o gydsyniad. Gallaf gadarnhau bod cydsyniad ar gyfer y Bil ar waith a fy mod wedi ysgrifennu at y Llywydd i gadarnhau hyn ar 9 Gorffennaf. Mae copïau o'r llythyrau ar gael ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod angen caniatâd Gweinidogion perthnasol Llywodraeth y DU hefyd ar rai o'r Rheoliadau sydd i gael eu pasio o dan y Bil, felly hoffwn i dawelu meddwl y Cynulliad hwn ein bod yn wir yn gweithio'n agos gydag adrannau perthnasol y DU, ac rwy'n hyderus y byddwn yn sicrhau'r caniatâd angenrheidiol i'r rheoliadau o dan y Bil.

Fel y gallech ddisgwyl, gofynnodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol imi adolygu'r cydbwysedd rhwng y darpariaethau ar wyneb y Bil a'r rhai a adewir i'r Rheoliadau. Nawr, rwy'n deall y rhesymau dros hyn, a chyffyrddodd nifer o'i argymhellion â meysydd y byddai'n ddefnyddiol cael mwy o fanylion amdanynt ar wyneb y Bil. Yn wir, adleisiwyd y sylwadau hyn yn rhai o argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd. Felly, gallaf gadarnhau y byddaf yn cyflwyno gwelliannau gan y Llywodraeth yn ystod Cyfnod 2 y Bil i roi mwy o fanylion am ddiffiniad 'plentyn cymwys' yn unol ag argymhelliad 5 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Fodd bynnag, rwy'n parhau i edrych ar sut i fynd i'r afael â galwadau amrywiol i gynnwys y cynnig gofal plant ar wyneb y Bil, a byddaf yn ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyda rhagor o gynigion wrth i ni eu datblygu.

Nawr, roedd llawer o'r argymhellion yn mynd i'r afael â manylion gweithredol megis y gyfradd fesul awr sy'n daladwy i ddarparwyr, y rhaniad rhwng gofal plant ac addysg, y trefniadau yn ystod gwyliau'r ysgol a phwy all ddarparu'r cynnig hwn, ac yn gofyn am gynnwys y manylion hyn yng nghwmpas y Bil. Rwy'n dal i fod o'r farn y byddai'n well ymdrin â manylion o'r fath yn y cynllun gweinyddol, yn hytrach nag yn y Bil ei hun, ac rwyf wedi esbonio'r rhesymau dros hyn yn fy llythyrau i at y tri phwyllgor. Serch hynny, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod cynllun gweinyddol fframwaith cychwynnol ar gael i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg cyn Cyfnod 3, a byddem yn croesawu'r cyfle i ddychwelyd at y pwyllgor yn y gwanwyn i drafod y cynllun yn fanylach.

Gan droi at adroddiad y Pwyllgor Cyllid, rwyf wedi derbyn ei argymhelliad i ddarparu diweddariad ar y costau o weithio gyda Chyllid a Thollau EM. Bydd y system ymgeisio yn cael ei datblygu yn ystod y 18 mis nesaf, a bydd pwyntiau adolygu rheolaidd. Mae'r drefn lywodraethu a'r trefniadau priodol wedi'u rhoi ar waith ac rydym yn defnyddio arbenigedd Awdurdod Refeniw Cymru yn hyn o beth. Gallaf gadarnhau hefyd i'r Aelodau fod Cyllid a Thollau EM wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog ac rydym wedi ymrwymo i gymryd pob cam posibl i ddenu'r swyddi hyn i Gymru.

Dirprwy Lywydd, ar ddechrau'r ddadl hon, soniais ein bod ni newydd ddechrau treialu ein cynnig gofal plant. Ym mis Mai, ehangwyd y cynnig i saith ardal arall yng Nghymru; mae ar gael erbyn hyn mewn 14 o ardaloedd yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu o'r cyflwyniad graddol hwn a bydd gwerthusiad annibynnol o flwyddyn gyntaf y rhaglen yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd. Rwyf wedi cytuno i drefnu bod aelodau o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cael gweld y canfyddiadau gwerthuso yn gyntaf er mwyn helpu ei waith craffu parhaus ar y Bil hwn. Rwyf hefyd wedi cytuno i roi gwybodaeth i'r pwyllgor am nifer y bobl sy'n manteisio ar y cynnig yn ystod ei flwyddyn gyntaf, ac i adolygu'r mater o ffioedd ychwanegol yn rheolaidd.

Yn dilyn materion a godwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, byddaf i hefyd yn adolygu'r Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, sy'n cynnwys darpariaethau sy'n nodi pwy sy'n cael darparu gofal plant a phwy sydd ddim yn cael  gwneud hynny, a byddaf yn rhannu'r canfyddiadau â'r pwyllgor.

Roeddwn yn falch bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac eithrio un Aelod, wedi argymell cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, ac yn amlwg byddwn yn annog yr un Aelod hwnnw i ailystyried yn ystod Cyfnod 1 y ddadl egwyddorion cyffredinol hon. Mae'n argymhelliad yr wyf yn ei gefnogi'n llwyr ac yn un yr wyf yn ei gymeradwyo i'r holl Aelodau, ac edrychaf ymlaen, yn wirioneddol, at barhau i drafod y Bil ac yn gobeithio y bydd y Cynulliad heddiw yn cefnogi ei egwyddorion cyffredinol. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:40

Diolch Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 i nodi prif gasgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg ynghylch y Bil Cyllido Gofal Plant.

Byddwch yn gweld o'n hadroddiad fod saith o'r wyth Aelod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Fel y clywsoch, nid oedd Llyr Gruffydd o blaid symud y Bil y tu hwnt i Gyfnod 1, ac rwy'n siŵr y bydd ef yn amlinellu'r rhesymau dros hyn yn fuan.

Mae'n deg dweud bod nifer ohonom wedi rhannu rhai o bryderon Llyr ynghylch y cynnig gofal plant ar ei ffurf bresennol. Byddaf yn ymhelaethu ar rai o'r meysydd hynny ychydig yn ddiweddarach. Fodd bynnag, ar y cyfan, nid oeddem o'r farn bod y pryderon hyn yn gyfiawnhad i'r Pwyllgor argymell y dylai'r Bil fethu ar hyn o bryd. Daethom i'r casgliad hwn ar sail ein cred bod angen y Bil er mwyn gallu defnyddio'r data sydd gan adrannau Llywodraeth y DU, gan gynnwys Cyllid a Thollau EM, i asesu cymhwystra ar gyfer y cynnig. Roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd inni yn dangos cefnogaeth aruthrol i'r dull hwn.

Roedd y cymorth hwn wedi'i seilio ar un brif ddadl. Roedd pawb yn cydnabod y gellid cyflwyno'r cynnig gofal plant yn genedlaethol trwy ofyn i rieni brofi eu bod yn gymwys trwy ddarparu gwaith papur perthnasol i awdurdodau lleol. Fodd bynnag, roedd consensws eang, ar sail profiad yn yr ardaloedd sy'n ei dreialu ar hyn o bryd, fod hyn wedi bod yn feichus i rieni, darparwyr a llywodraeth leol fel ei gilydd. Roedd llawer hefyd yn dadlau y gallai ei gyflwyno ar sail archwiliadau â llaw gynyddu'r potensial ar gyfer anghysondeb a cham-drin y system.

Felly, ar y sail honno, roedd mwyafrif ein pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Serch hynny, nodwyd gennym nifer o feysydd y credwn y dylid eu gwella. Y prynhawn yma, byddaf yn amlinellu rhai o'r camau y credwn y dylai'r Gweinidog eu cymryd i wella'r Bil.

Cyn imi wneud hynny, dylwn egluro ein bod wedi gwneud ein hargymhellion ar sail y gred gadarn nad oes modd gwahanu darpariaethau'r Bil oddi wrth fanylion y cynnig gofal plant ei hun. Mae'r Bil hwn yn rhoi pwerau eang i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth i bennu manylion eu cynnig gofal plant. Er nad ydym efallai yn amau y bwriadau a nodwyd gan y Llywodraeth hon, mae'n rhaid inni gofio, os caiff y Bil hwn ei basio, y bydd y pwerau yno i unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol wneud fel y mynnon â nhw. Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau ein bod yn eglur ynghylch yr hyn yr ydym yn deddfu i'w ganiatáu, ac a oes digon o fanylion ar wyneb y Bil i sicrhau bod bwriadau'r Cynulliad wedi'u diffinio'n glir yn y ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio.

I symud yn awr at fanylion ein hargymhellion. Yn gyntaf, rydym yn awyddus i sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd o'r gwerthusiad o'r cynnig presennol sy'n cael ei dreialu yn llywio'r ddeddfwriaeth hon. Er ein bod yn cydnabod bod angen i'r Cynulliad symud yn gyflym i ddeddfu er mwyn cyflawni cyflwyniad cenedlaethol sy'n cynnwys y data sydd gan adrannau'r DU, rydym yn dal i fod yn siomedig na lwyddwyd i gwblhau gwerthusiad y cynllun treialu o'r cynnig cyn i'r ddeddfwriaeth hon gael ei dwyn ymlaen. Rydym yn pryderu mai'r prif reswm a nodwyd gan randdeiliaid dros adael llawer o'r manylion sy'n sail i ddarpariaethau'r Bil i'r rheoliadau oedd yr angen i barhau i fod yn hyblyg wrth aros am ganlyniadau'r gwerthusiad. Mae'r Gweinidog a'r rhanddeiliaid wedi rhoi pwysau sylweddol ar y gwersi a fydd yn deillio ohono.

Yn sgil hyn, credwn y dylai canfyddiadau'r gwerthusiad fod ar gael i ni eu hystyried cyn dechrau Cyfnod 3. Mae hyn er mwyn rhoi digon o gyfle i bob aelod gynnig ac ystyried unrhyw welliannau i'r Bil a allai fod yn ofynnol o ganlyniad i'r gwerthusiad. Rydym yn croesawu awgrym y Gweinidog yn ei ymateb ysgrifenedig a'i sicrwydd heddiw y bydd yn ymdrechu i rannu'r canfyddiadau cyn i Gyfnod 3 ddechrau.

Mae un arall o'n hargymhellion allweddol yn ymwneud ag a ddylid cyfyngu darpariaethau'r Bil i blant rhieni sy'n gweithio yn unig. Yn y dystiolaeth a gawsom, mynegwyd cryn bryderon y gallai cyfyngu'r Bil i'r grŵp hwn yn unig olygu mwy o anghydraddoldeb rhwng plant rhieni nad ydynt yn gweithio a phlant rhieni sydd yn gweithio, yn arbennig mewn cysylltiad â'r bwlch o ran parodrwydd i'r ysgol a chyrhaeddiad addysgol.

I liniaru'r effaith ar rai o deuluoedd tlotaf Cymru, argymhellwyd i'r Gweinidog y dylid ymestyn darpariaethau'r Bil y tu hwnt i rieni sy'n gweithio, yn benodol i'r rheini sy'n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant sy'n gysylltiedig â sicrhau cyflogaeth.

Rydym yn siomedig nad yw'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Rydym yn cydnabod bod rhaglenni eraill ar gael i gefnogi rhieni nad ydynt yn gweithio, gan gynnwys Rhieni, Gofal Plant a Chyflogadwyedd a Dechrau'n Deg, ac yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i egluro pa gymorth sydd ar gael ac i bwy. Fodd bynnag, rydym yn parhau i bryderu nad yw rhaglenni o'r fath ar gael i bawb y mae angen cymorth arnyn nhw ar hyn o bryd. Wedi'r cyfan, dangosodd ein hymchwiliad diweddar i Dechrau'n Deg fod y rhan fwyaf o'r plant sy'n byw mewn tlodi yn byw y tu allan i ardaloedd diffiniedig Dechrau'n Deg. Anogaf y Gweinidog i ailystyried yr argymhelliad hwn.

Yn ystod ein gwaith craffu, clywsom y bydd materion pwysig megis pa ofal plant a ariennir y bydd plentyn cymwys yn gallu ei gael, lle y bydd y gofal plant yn cael ei ddarparu, pwy fydd yn ei ddarparu, ac ar ba gyfradd fesul awr, yn cael eu nodi yn y cynllun gweinyddol. O dan y cynlluniau presennol, nid oes gan y cynllun gweinyddol unrhyw statws cyfreithiol. Rydym yn credu bod angen mynd i'r afael â hyn.

Roedd Argymhelliad 6 yn galw ar y Gweinidog i ddiwygio'r Bil i'w gwneud yn ofynnol i'r cynllun gweinyddol gael ei wneud trwy is-ddeddfwriaeth er mwyn iddo fod ar sail statudol. Byddwn yn gwahodd y Gweinidog i ailystyried ei ymateb i'r argymhelliad hwn. Ni wnaethom nodi y dylai'r manylion hyn fod ar wyneb y Bil neu mewn rheoliadau. Rydym yn awyddus i wneud yn siŵr bod dyletswydd gyfreithiol i lunio'r cynllun gweinyddol hwn os bydd yn cynnwys manylion pwysig o'r fath.

Yn fwy cyffredinol, rydym yn cytuno â'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fod angen rhagor o waith ar y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil, yr hyn a gaiff ei adael i'r rheoliadau, a'r hyn sydd wedi'i gynnwys yn y cynllun gweinyddol. Rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o fanylion ei chynnig arfaethedig ar wyneb y Bil, gyda phŵer i Weinidogion ddiwygio manylion yn y dyfodol trwy'r Rheoliadau, yn ddarostyngedig i'r weithdrefn uwchgadarnhaol.

Rydym yn croesawu awgrym y Gweinidog ei fod yn archwilio'r opsiynau sydd ar gael iddo. Ond, rydym yn parhau i fod o'r farn os na chymerir camau o'r fath, dylai'r rheoliadau a wneir o dan adran 1 o'r Bil fod yn ddarostyngedig i weithdrefn uwchgadarnhaol o ystyried eu harwyddocâd.

Yn yr amser sydd gennyf yn weddill, hoffwn ganolbwyntio ar ddau fater a oedd yn peri pryder arbennig i ni yn ein gwaith craffu, a hoffwn i ragor o eglurhad yn eu cylch. Yn gyntaf, a wnaiff y Gweinidog fy sicrhau i y bydd yn cynnal asesiad effaith diwygiedig o ran hawliau plant sy'n ystyried effaith y Bil ar y plant hynny nad ydynt yn gymwys o dan ei ddarpariaethau? Fel pwyllgor, rydym yn credu bod hyn yr un mor bwysig ag asesu'r effaith ar blant cymwys, ac nid oedd yr ymateb ysgrifenedig yn egluro hyn. Yn ail, rwyf yn annog y Gweinidog i ailystyried yn ofalus allu darparwyr i godi ffioedd ychwanegol ar rieni. Rydym yn poeni'n fawr y gallai bil o hyd at £162 y mis olygu bod y cynnig gofal plant yn anfforddiadwy i rieni sy'n gweithio ac yn cael y cyflog isaf. Rydym o'r farn bod angen ailystyried hyn.

I gloi, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ymgysylltiad â'n hadroddiad. Er nad yw wedi derbyn rhai o'n hargymhellion, rwy'n cydnabod ei fod wedi derbyn y mwyafrif, ac edrychaf ymlaen at barhau ag ymgysylltiad adeiladol y Pwyllgor â'r Gweinidog i geisio dod o hyd i atebion i'r problemau mwyaf dybryd yr ydym wedi'u nodi. Diolch.

16:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid ynghylch goblygiadau ariannol y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Yn gyntaf, mae'n werth nodi bod ein gwaith craffu ar y Bil wedi'i gyfyngu i'r wybodaeth ariannol a ddarparwyd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, sy'n nodi costau gweinyddu'r cynllun, ac nid y gost o ddarparu'r cynnig gofal plant ei hun.

Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn cynnwys pedwar opsiwn ar gyfer gweinyddu system genedlaethol o brosesu ceisiadau a gwirio cymhwystra, a hoff opsiwn Llywodraeth Cymru yw addasu gwasanaeth presennol Cyllid a Thollau EM Lloegr i ddiwallu anghenion Cymru. Mae'r asesiad yn egluro nad yw'r gofyniad hwn wedi'i ddiffinio'n glir. Mae'r ffigurau a ddarparwyd yn frasamcanion cyffredinol cynnar, yn hytrach nag amcangyfrifon manwl o gost. Felly rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i adolygu a diweddaru'r costau yn rheolaidd wrth barhau i bennu'r effeithiau ariannol, a chydnabod ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â Chyllid a Thollau EM a'r gwaith a wnaed gan yr awdurdodau lleol sydd wedi bod yn gweithredu'r cynnig yn y cyfnod cynnar wrth ddatblygu'r costau hyn. Yn ei ymateb ffurfiol, nododd y Gweinidog newid i drefniadau cyflenwi ar gyfer yr ail flwyddyn o weithredu cynnar, gydag un awdurdod lleol yn derbyn a phrosesu ceisiadau ac yn gwneud taliadau perthnasol ar ran awdurdodau eraill. Rydym yn croesawu'r dull hwn o weithredu a sicrwydd y Gweinidog y caiff hyn ei adlewyrchu fel opsiwn newydd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn ystod Cyfnod 2.

Mae'r prif bryder a amlygir yn ein hadroddiad yn ymwneud ag amcangyfrifon lefel uchel a ddarperir gan Gyllid a Thollau EM. Rydym yn derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi cynnwys codiad tuedd optimistiaeth yn yr amcangyfrifon hyn, i gyfrif am y lefel gymharol o ansicrwydd sy'n gysylltiedig â gosod y system ar gontract allanol. Fodd bynnag, yn ddiweddar rydym wedi gweld bod costau Cyllid a Thollau EM yn codi mewn cysylltiad â gweithredu trethi datganoledig, ac rydym yn pryderu y gallai hyn ddigwydd eto.

Yn wir, mae'r llythyr gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, a rannwyd â'r pwyllgor ar 9 Gorffennaf, yn egluro bod amcangyfrifon yn ddarostyngedig i newid pan fo'r ddarpariaeth yn dechrau, ac y

byddai unrhyw newidiadau i weithrediad y cynllun gofal plant 30 awr neu feini prawf cymhwystra yn arwain at ragor o gostau a fydd yn effeithio ar yr amserlenni cyflawni.

Felly rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi diweddariad ar gostau datblygu a chyflwyno cynnig gofal plant i Gymru o fewn platfform presennol Cyllid a Thollau EM wrth i'r cynnig symud ymlaen, ac mae'r Gweinidog wedi derbyn hyn.

Mae ymateb y Gweinidog i argymhelliad 29 o adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sy'n nodi y gallai newid y trothwyon enillion arfaethedig arwain at gost untro cychwynnol o ryw £1 miliwn ac oedi o rhwng 12 a 18 mis, yn dangos yn glir ansefydlogrwydd y costau a'r amserlenni. Er ein bod yn cydnabod rhesymeg Llywodraeth Cymru dros ddefnyddio Cyllid a Thollau EM fel asiant cyflenwi, fe wnaethom ni gwestiynu ai staff Cyllid a Thollau EM yng Nghymru fyddai'n darparu'r gwasanaeth. Dywedwyd wrthym nad oedd wedi'i drafod yn fanwl eto, a daethom i'r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru, yn rhan o'i thrafodaethau â Chyllid a Thollau EM, fynnu bod y gwasanaeth yng Nghymru yn gweithredu yng Nghymru er mwyn sicrhau swyddi yng Nghymru a chefnogi safonau'r Gymraeg. Rydym yn falch bod y Gweinidog yn cytuno â'r casgliad hwn a byddwn yn annog Cyllid a Thollau EM i weithredu agweddau ar gynnig gofal plant Cymru o un o'i swyddfeydd yng Nghymru.

Yn yr un modd, rydym yn croesawu'r potensial sydd yn y Bil i ddatblygu gwasanaeth pwrpasol i Gymru. Byddai hyn yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn gallu rheoli darpariaeth gwasanaethau a chreu a chadw swyddi yng Nghymru. Gyda hyn mewn golwg, daethom i'r casgliad y dylai Awdurdod Cyllid Cymru oruchwylio'r model a weithredir gan Gyllid a Thollau EM er mwyn meithrin arbenigedd a phrofiad yng nghyd-destun Cymru, pe byddai Llywodraeth Cymru yn penderfynu datblygu ei system ei hun yn y dyfodol. Mae'r Gweinidog wedi rhoi sicrwydd bod cydweithio agos ar waith rhwng swyddogion ac Awdurdod Cyllid Cymru, er enghraifft, cymryd rhan ym mhrofion y system gwneud cais a gwirio cymhwystra, a chynrychiolaeth ar fwrdd y prosiect ar lefel swyddogol. Mae ymateb y Gweinidog hefyd yn egluro y byddai angen deddfwriaeth newydd er mwyn galluogi Awdurdod Cyllid Cymru i weinyddu cynnig gofal plant Cymru. Fodd bynnag, mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, dywedodd fod lle yn y Bil i ddatblygu model pwrpasol. Byddem yn gwerthfawrogi eglurhad ar y pwynt hwn. Diolch.

16:55

Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.

Diolch  ichi, Dirprwy Lywydd. Adroddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) ar 28 Mehefin a gwnaeth 12 o argymhellion. Wrth fynd heibio, cawsom ymateb i nifer o'r argymhellion hynny gan y Gweinidog ddoe. Rwy'n ddiolchgar am hynny ac am yr ymateb cadarnhaol i lawer ohonynt. Felly, mae'r adroddiad hwn i raddau helaeth yn ymwneud â'r Bil fel y mae, a byddaf yn gwneud sylwadau ynghylch rhai o ymatebion y Gweinidog hyd eithaf fy ngallu wrth fynd trwyddo.

Nid ein rôl ni ar y cyfan yw rhoi sylwadau ar egwyddorion cyffredinol Bil. Nid dyna swyddogaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Fodd bynnag, mae'r angen am ddeddfwriaeth yn ystyriaeth gan y Pwyllgor. Bil sgerbwd yw'r Bil. Mae'n cynnwys saith pŵer i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth, ac mewn Bil sydd â 13 o adrannau, mae hyn yn helaeth. Yn ein barn ni, mae ynddi ddiffyg eglurder a datganiad clir o ddiben. Gan fod cyn lleied o fanylion ar ei wyneb, nid ydym o'r farn bod y Bil yn bodloni egwyddorion allweddol deddfwriaeth. Ni ddylai deddfwriaeth sylfaenol fod wedi'i llunio mor fras â'r bwriad o'i defnyddio fel cyfrwng i gyflwyno is-ddeddfwriaeth i ymdrin â'r hyn a all ddigwydd yn y dyfodol. Mae'r dull hwn yn cyfyngu ar allu'r Cynulliad Cenedlaethol fel deddfwrfa i graffu ac i drafod gwelliannau posibl i faterion polisi sylweddol mewn fforwm democrataidd.

Nid ni yn unig sy'n mynegi pryderon o'r fath am ddeddfwriaeth. Yn ddiweddar, mae'r Pwyllgor Cyfansoddiad, sef ein pwyllgor cyfatebol yn Nhŷ'r Arglwyddi, wedi beirniadu Llywodraeth y DU yn yr un modd. Rydym yn cytuno â'i sylwadau bod Biliau sy'n rhoi pwerau eang i Weinidogion yn ei gwneud yn anodd i'r Senedd graffu arnynt, ac yn cyflwyno her sylfaenol i gydbwysedd y grym rhwng y Senedd a'r Weithrediaeth. Rydym yn poeni mai'r cais i'r Cynulliad Cenedlaethol yw rhoi pwerau eang i Weinidogion Cymru allu gwneud rheoliadau y gellid eu defnyddio i wneud darpariaethau nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu rhagweld wrth ystyried y Bil. Rydym hefyd yn pryderu nad yw'r dull a fabwysiadwyd yn y Bil hwn yn gyson ag amcan Llywodraeth Cymru i wneud y gyfraith yng Nghymru yn fwy defnyddiol.

Fel y nodwyd yn ein hadroddiad, dull arall fyddai cynnwys y manylion angenrheidiol ar wyneb y Bil a hefyd gynnwys darpariaeth sy'n caniatáu i'r manylion hynny gael eu diwygio drwy is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Nid yw cynnwys cymaint o bŵer Harri'r VIII yn ffordd ddelfrydol o ddeddfu, ond gall fod yn gyfaddawd rhesymol os bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried bod angen hyblygrwydd o'r fath. Byddai ychwanegu mwy o fanylion at wyneb y Bil yn ei gryfhau yn sylweddol a byddai'n sylfaen gliriach ar gyfer y polisi y mae'n ceisio ei gyflawni.

Roedd ein hail argymhelliad yn awgrymu y dylai'r Gweinidog gynnal adolygiad sylfaenol o'r cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn a adewir i is-ddeddfwriaeth. A hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb ffurfiol i'n hadroddiad, yr wyf eisoes wedi cyfeirio ato. Rwy'n croesawu'r ffaith ei fod wedi gwrando ar bryderon y pwyllgor ac wedi adolygu'r cydbwysedd pŵer. Edrychaf ymlaen at weld y gwelliannau y mae'r Gweinidog yn bwriadu eu dwyn ymlaen yng Nghyfnod 2 yn y cyswllt hwn.

Wrth symud ymlaen at y cynnig gofal plant, mae Llywodraeth Cymru yn deddfu ar ei chynnig cyn diwedd y rhaglenni treialu perthnasol a'r gwerthusiad dilynol o effeithiolrwydd y polisi. Am y rheswm hwnnw, credwn ei bod yn werth ystyried a ddylid cynnwys gofyniad i adolygu a darpariaeth machlud yn y Bil. Byddai darpariaethau o'r fath yn dilyn dull a fabwysiadwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru yn y Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru).

Roedd argymhelliad 3 yn ein hadroddiad yn tynnu sylw at y materion hyn ac yn gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am ei ystyriaeth o'r materion hyn yn ystod y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i ystyried yr opsiynau sydd ar gael mewn cysylltiad â'r argymhelliad hwn ac edrychaf ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog maes o law wrth ddatblygu'r cynigion.

Nawr, wrth graffu ar y Bil, nid oedd yn glir i ni pam na all materion o egwyddor sy'n ymwneud â chynnig gofal plant Llywodraeth Cymru ymddangos ar wyneb y Bil. Felly rydym yn argymell y dylai'r Bil, ar ei wyneb, ymrwymo Llywodraeth Cymru i ddarparu ei chynnig gofal plant, waeth beth fo hynny.

Argymhelliad 4—unwaith eto, rwy'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i archwilio'r opsiynau sydd ar gael mewn cysylltiad â'r argymhelliad hwn ac yn edrych ymlaen at gael diweddariad gan y Gweinidog maes o law.

Awgrymodd argymhelliad 5 o'n hadroddiad y dylai'r meini prawf cymhwystra craidd ynghylch pwy sy'n blentyn cymwys neu'n rhiant sy'n gweithio, ymddangos ar wyneb y Bil, ynghyd â darpariaeth sy'n galluogi'r meini prawf hyn i gael eu diwygio yn y dyfodol drwy reoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Rydym yn anghytuno â'r Gweinidog y bydd y meini prawf cymhwystra yn dechnegol eu natur ac felly na fyddai ymgynghoriad ar reoliadau drafft sy'n ymwneud â'r meini prawf yn addas o reidrwydd. Rydym yn credu y byddai methu ag ymgynghori ar faterion sylweddol o'r fath yn groes i egwyddorion cyfraith gyhoeddus. Rwy'n falch o weld bod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhelliad ac y bydd yn cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i ddarparu eglurder o ran pwy sy'n blentyn cymwys.

Wrth symud ymlaen at y cynllun gweinyddol, ni fydd gan y cynllun unrhyw statws cyfreithiol, ac eto bydd yn cynnwys manylion am faterion pwysig iawn. Rydym yn pryderu y bydd y materion pwysig hyn yn cael eu gadael i ddogfen nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw ofyniad o graffu gan y Cynulliad Cenedlaethol. Nid ydym yn credu y dylid penderfynu ar faterion fel y gyfradd fesul awr sy'n daladwy ar gyfer y gofal plant na phwy sy'n cael darparu gofal o'r fath heb fod y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu ar y penderfyniadau. Rydym yn argymell y dylai'r gwelliannau gael eu cyflwyno yng Nghyfnod 2 i sicrhau y gwneir darpariaethau o'r fath mewn rheoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Dyna oedd argymhelliad 7. Nid yw'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Fodd bynnag, rwyf yn nodi ei fod wedi cynnig cyflwyno cynllun drafft cychwynnol i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg cyn trafodion Cyfnod 3.

Yn olaf, soniaf yn fyr am argymhelliad 12, sef y dylid diwygio'r Bil fel bod unrhyw Orchymyn cychwyn a wneir o dan adran 12(1) y Bil yn destun gwaith craffu gan y Cynulliad a'r weithdrefn negyddol. Nid yw'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn, oherwydd nad yw gwneud Gorchmynion cychwyn fel arfer yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn yn y Cynulliad. Mewn ymateb i hyn, byddwn i'n ailadrodd y casgliadau a wnaed yn ein hadroddiad. Ar gyfer Gorchmynion cychwyn a fydd yn deillio o Fil sy'n cynnwys cyn lleied o fanylion ar ei wyneb, mae'n bwysig bod y ddeddfwriaeth sylfaenol yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy roi hawl iddo graffu ar y Gorchmynion hynny. Rydym o'r farn na ddylai Bil sgerbwd wneud defnydd o weithdrefn sy'n rhwystro gwaith craffu gan y ddeddfwrfa yn y dyfodol.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd.

17:00

Mae'n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl hon ar y Bil cyllido gofal plant y prynhawn yma yn rhinwedd fy swydd newydd fel Ysgrifennydd Cabinet yr wrthblaid ar gyfer gofal cymdeithasol, plant, pobl ifanc a phobl hŷn. Hoffwn gofnodi fy niolch i'n harweinydd newydd, Paul Davies, Aelod Cynulliad, am ei hyder ynof i drwy fy mhenodi i'r swydd bwysig hon. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau eraill sy'n eistedd ar y Pwyllgor a'r clercod sydd wedi cynorthwyo'r broses ddeddfwriaethol hyd yn hyn. Byddwn ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig heddiw ac yn derbyn egwyddorion allweddol y Bil. Fodd bynnag, rwyf yn annog y Llywodraeth i fod yn ymwybodol o gost weinyddol gweithredu'r ddeddfwriaeth hon ac i fod yn ymwybodol hefyd o unrhyw botensial i'r cynnig gael ei gamddefnyddio gan arwain at gost i rieni. Mae helpu rhieni plant ifanc sydd efallai yn ei chael yn amhosibl yn ariannol i fynd yn ôl i'r gwaith ar ôl cael plentyn yn nod teilwng. Fodd bynnag, nid yw'n fater o drefn y cyrhaeddir y nod hwnnw heb ystyried yn briodol sut yr ydym yn gwneud hynny.

Mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod y Bil yn ei gwneud hi'n haws i famau ddychwelyd i'r gweithlu ac nad yw'n darparu rhy ychydig yn rhy hwyr. Credaf fod yr argymhellion a amlinellir yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn hanfodol i sicrhau'r canlyniadau hirdymor cadarnhaol hynny ar gyfer ein rhieni yng Nghymru. Roeddwn yn siomedig o weld bod y Gweinidog wedi gwrthod argymhelliad 7 yn ei ymateb i'r adroddiad ar y Bil hwn. Mae eithrio ac anfanteisio rhieni sydd mewn addysg neu'r rheini sy'n chwilio am waith yn gwbl groes i'r rhethreg a glywn mor aml gan y Llywodraeth hon yn ddyddiol ar gydraddoldeb a thegwch. Mae'r Gweinidog yn cyfeirio yn ei ymateb bod dewisiadau eraill ar gyfer rhieni sydd mewn addysg ar ffurf y rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE), sy'n dod i ben yn 2020, neu Dechrau'n Deg, y gwyddom fod y mwyafrif helaeth o blant sy'n byw mewn tlodi yn anghymwys ar ei gyfer oherwydd y loteri cod post.

Mae cyfle gan y Llywodraeth i annog dyheadau'r bobl hynny sy'n dewis addysg fel llwybr at symudedd cymdeithasol i fyny—a dydyn nhw heb achub ar y cyfle hwn o gwbl. Bydd amrywiaeth o raglenni yn arwain at ragor o ddryswch ymhlith rhieni, yn enwedig i'r rheini sy'n trosglwyddo o addysg neu ddiweithdra i gyflogaeth amser llawn. Dylem fod yn ymwybodol o'r straen y gall hyn ei achosi oherwydd aneffeithlonrwydd diangen a chymhlethdod systemau datgysylltiedig di-ri. Oni fyddai'n fwy ymarferol rhoi'r cynnig hwn i rieni, p'un a ydynt mewn cyflogaeth neu addysg, a chael gwared ar unrhyw rwystr i ymuno â'r gweithlu? Mae arnaf ofn bod cyfyngu'r cynnig hwn yn unig i rieni sydd mewn cyflogaeth yn rhoi plant sydd â'u rhieni'n ddi-waith dan anfantais cyn iddyn nhw hyd yn oed gamu i mewn i'r ystafell ddosbarth.

Mae gennyf bryderon hefyd ynglŷn ag effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth pan fydd ar waith ac yn pryderu a yw'n cyflawni ei nod. Er gwaethaf y ffaith bod bwriad da i'r ddeddfwriaeth hon, mae gennym bryderon gwirioneddol y bydd y cynnig yn ei ffurf bresennol yn achos o godi pais wedi piso, gan gynnig cymorth i rieni yn rhy hwyr ac ymhell ar ôl i benderfyniadau gael eu gwneud am gynlluniau gyrfa un rhiant neu'r ddau yn y dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd pawb ohonom sydd wedi bod â phlant ifanc, gan gynnwys fi fy hun, yn ymwybodol o'r realiti hwn. Rwy'n deall bod y Gweinidog wedi cytuno i adolygu oedran y plentyn cymwys, ac rwy'n croesawu hynny. Edrychaf ymlaen at glywed mwy gan y Gweinidog am newid i'r oedran cymhwyso.

Yn olaf, hoffwn godi'r mater o ffioedd ychwanegol yng nghyswllt y cynnig gofal plant. Heb gyfyngu ar gostau ychwanegol, mae posibilrwydd y bydd darparwyr gofal plant yn codi £162.50 ychwanegol ar gyfer pob plentyn bob mis, a bydd y gost honno'n sicr yn cael ei phasio i lawr i'r rheini sy'n gallu ei fforddio leiaf. Mae caniatáu taliadau ychwanegol yn peri risg y bydd y prisiau yn rhy uchel i deuluoedd incwm isaf ac na fyddan nhw'n gallu defnyddio'r cynnig hwn a mynd yn ôl i'r gwaith, yn ôl bwriad y Bil. Ni ddylai cynnig gofal plant am ddim anfanteisio'r union bobl hynny y'i cynlluniwyd i'w helpu. Ni chredaf y bydd yn syndod os bydd meithrinfeydd yn penderfynu bwrw ymlaen â gweithredu taliadau ychwanegol. Rhwng costau busnes cynyddol a'r ffaith fod gan feithrinfeydd Cymru eisoes y cyfraddau fesul awr isaf yn y Deyrnas Unedig, maen nhw'n wynebu her wirioneddol. Canfu arolwg a gynhaliwyd gan Gymdeithas Meithrinfeydd Dydd Cenedlaethol Cymru bod 41 y cant o feithrinfeydd wedi dweud bod y ffigur o £4.50 yn is na'u ffi arferol. Mae yna gymhelliant clir i feithrinfeydd wneud iawn am y diffyg drwy basio'r costau ychwanegol ymlaen i'r rhieni, ac nid yw'r Llywodraeth hon yn cymryd camau i atal hynny.

I gloi, rwy'n falch o weld bod y Gweinidog wedi derbyn mwyafrif yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor. Edrychaf ymlaen nawr at gymryd rhan yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y gwn fod Lynne Neagle AC yn ei gadeirio mor wych. Diolch.

17:10

Mi gychwynnaf i drwy siomi'r Gweinidog a dweud na fyddaf i'n newid fy marn ynglŷn â fy mwriad i, a Phlaid Cymru, i wrthwynebu'r Bil yma. Mi gyfeiriodd at y ffaith bod y Bil, wrth gwrs, yn fyr ac yn dechnegol—mae hynny'n gywir—ac mae yna rhyw ddatgysylltiad yn bodoli rhwng y Bil a pholisi'r Llywodraeth. Ond, wrth gwrs, tra bod y geiriau yn y cymal cyntaf o'r adran gyntaf yn sôn am gyfyngu'r cynnig yma i rieni sy'n gweithio, yna mae gen i broblem sylfaenol gyda'r Bil.

Nid yw Plaid Cymru, wrth gwrs, yn gwrthwynebu cynnig gofal plant am ddim—yn wir, un o gonglfeini maniffesto Plaid Cymru oedd cynnig y gofal plant yma i bob plentyn tair a phedair oed. Fy mhroblem i yw bod y Blaid Lafur, y Llywodraeth Lafur, yn cyfyngu'r cynnig yna.

Nid yw'n iawn fod teuluoedd sy'n ennill hyd at £200,000 y flwyddyn yn gallu cael gofal plant am ddim pan fo'r plant tlotaf o aelwydydd di-waith, wrth gwrs, yn cael eu heithrio rhag mwynhau'r union fanteision hynny. Gwyddom fod y plant tlotaf, erbyn yr adeg y maen nhw'n dair blwydd  oed, eisoes 10 mis y tu ôl i'w cyfoedion mwy cefnog o ran datblygu geirfa, lleferydd a llythrennedd. Yn wir, mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn dweud wrthym fod yr 20 y cant tlotaf, mewn gwirionedd, 17 mis ar ôl y grŵp incwm uchaf erbyn iddynt gyrraedd tair oed.

Mae peidio â sicrhau bod gofal plant o ansawdd uchel ar gael i'r plant tlotaf hynny yn cadarnhau tlodi rhwng cenedlaethau. Nid yw torri'r cylch; mae'n ei waethygu. Nid dim ond fy marn i ac eraill yn y Siambr hon yw hyn—mae'r comisiynydd plant yn rhannu'r pryderon hyn. Mae hi wedi disgrifio'r polisi fel cymhorthdal mawr i rai o'r teuluoedd sy'n ennill y cyflogau mwyaf yng Nghymru sy'n debygol o atgyfnerthu'r anghydraddoldebau mewn canlyniadau ar gyfer gwahanol grwpiau cymdeithasol. Mae Achub y Plant a sefydliadau plant eraill wedi mynegi pryderon, fel y mae rhai o undebau'r athrawon hefyd, yn wir.

Nawr, rydym wedi clywed sawl gwaith bod Dechrau'n Deg yno ar gyfer yr ardaloedd tlotaf, i'w cefnogi, ac mae Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg eisoes wedi ein hatgoffa bod y rhan fwyaf o'r plant tlawd yng Nghymru yn byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg. Mae hynny'n garfan fawr o bobl ifanc—neu blant, ddylwn i ei ddweud—sy'n disgyn drwy'r bylchau ym mholisïau'r Llywodraeth hon, a dydy hynny ddim yn dderbyniol i mi nac i fy mhlaid i.

Cafwyd cyfeiriadau at werthuso'r cynlluniau treialu a fydd ar gael yr hydref hwn, ac rwy'n ddiolchgar bod y Gweinidog yn dweud y bydd yn rhoi cipolwg cynnar inni o'r gwerthusiad hwn. Ond, wrth gwrs, mae ef eisoes wedi cyflwyno'r Bil, felly nid oes gennym y dystiolaeth i ategu'r stwff anecdotaidd, y dywedir wrthym yn y Pwyllgor ac yn y Siambr hon, mai hwn yw'r polisi cywir a'i fod yn gweithio. Rwyf i eisiau gweld y dystiolaeth cyn inni gymeradwyo'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Yn wir, mae Pwyllgor arall yn y Cynulliad hwn—ac rydym ni, fel Pwyllgor, hefyd—wedi clywed nad yw'n gywir targedu plant tair i bedair-oed o reidrwydd ar gyfer y buddsoddiad hwn, a bod angen inni, efallai, ystyried ei wneud cyn hynny. Mewn gwirionedd, o ran buddsoddi i ganiatáu i'r rhieni hynny ddychwelyd i'r gwaith, mae'r angen mwyaf yn digwydd o'r adeg pan mae'r plentyn yn un oed. Mae'r her yn dod yn ôl atom ni fel plaid, hefyd, i edrych ar ein polisi ni, ond mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n barod i'w wneud, ac nid dim ond palu ymlaen er gwaethaf popeth â'n llygaid ar gau a'n pennau i lawr.

Mae'n rhaid imi ddweud, er mor ganmoladwy oedd cynnig y Gweinidog i arwain ei blaid, fe wnaeth yn glir mai ei uchelgais mawr oedd rhoi darpariaeth cyn-ysgol i bawb. Wel, mae gennym gyfle i wneud hynny, ac roeddech chi'n gwbl iawn i ddweud y byddai'r ddarpariaeth honno yn mynd i'r afael ag effeithiau tlodi. Roeddech chi'n gwbl iawn i ddweud y byddai'n lleihau'r bwlch cyrhaeddiad pan fydd plant yn dechrau ysgol ac y byddai'n trawsnewid cyfleoedd bywyd y plant hynny. Wel, wyddoch chi beth? Pe byddech chi wedi pleidleisio dros Blaid Cymru yn etholiad diwethaf y Cynulliad, gallem ni eisoes fod wedi dechrau cyflawni hynny.

Efallai fod darparu gofal plant â chymhorthdal gan y wladwriaeth, dan amgylchiadau priodol, yn syniad da mewn egwyddor, ar yr amod ei fod wedi ei dargedu yn y modd cywir. Gall gynorthwyo rhieni mewn cyflogaeth a gall i raddau helpu llawer o rieni sy'n gweithio i gael gwaith, yn enwedig menywod. Ond mae'n dal yn aneglur sut y bydd y cynllun gofal plant penodol hwn yn gweithio a pha mor llwyddiannus y bydd.

Rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i bobl Cymru ei ddeall, mewn gwirionedd, yw bod Llywodraeth Cymru, yn ymarferol, yn prynu pleidleisiau gydag arian y trethdalwyr ar hyn. Mae'n amlygu ffolineb rhoi pwerau gwario i'r Blaid Lafur heb iddynt gael eu gorfodi i dderbyn y cyfrifoldeb a ddaw yn sgil codi trethi i dalu am eu cynlluniau. Mae fel rhoi allweddi'r siop losin leol i blentyn gan wybod y bydd y plentyn yn gwneud ei hun yn sâl.

O ran y cynnig gofal plant ei hun, ble mae eich blaenoriaethau? Mae yna rieni sydd angen y cymorth y mae gofal plant â chymhorthdal gan y wladwriaeth yn ei roi, fel y di-waith. Mae'r rhieni hyn yn absennol o'r Bil hwn. Does dim cymorth ar gyfer rhieni sydd angen gofal plant er mwyn dilyn hyfforddiant i'w helpu i ddychwelyd i'r gwaith ychwaith. Mae hynny'n ddiffyg amlwg ac yn un y mae'r Gweinidog wedi gwrthod mynd i'r afael ag ef dro ar ôl tro. Wrth wrthod argymhellion 7 a 8, dywed y Gweinidog fod yna gynlluniau eraill i roi cymorth, ac rwy'n siŵr bod hynny'n wir. Ond mae'r ffaith bod y Pwyllgor wedi galw ar i rieni o'r fath gael eu cynnwys yn y ddarpariaeth gofal plant yn dangos nad yw'r cynlluniau hynny yn rhoi sylw i'r broblem benodol. Ond er lles yr hyn a elwir yn gyffredinolrwydd, bydd rhieni yn y braced treth 40 y cant a chyfoethocach o lawer na hynny yn derbyn gofal plant am ddim. Ai cyffredinolrwydd yw hyn mewn gwirionedd? Nid yw Llafur Cymru yn cael unrhyw broblemau mewn meysydd eraill wrth wahaniaethu yn erbyn yr hyn y maen nhw'n ei ystyried yn gyfoethog, felly a yw hyn mewn gwirionedd oherwydd nad oes gan Llafur Cymru ddim dychymyg i wahaniaethu rhwng rhieni sydd angen cymorth a'r rhai nad ydynt? Mae'r Gweinidog wedi colli cyfle i ad-drefnu a symleiddio'r cynlluniau sydd ganddo ar waith i helpu rhieni sy'n ceisio dychwelyd i'r gwaith.

Diffyg difrifol arall yn y Bil yw'r methiant i gynnwys ysgolion. Pam? Dydw i ddim yn deall hynny. Mae plant yn treulio rhan fawr o'u bywyd yn yr ysgol, ac nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i atal ysgolion rhag darparu gofal plant. Yn wir, mae'n gwbl resymegol y dylen nhw. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog, yn ei ymateb i'r ddadl hon, egluro'r rheswm dros hyn heb gyfeirio at anhawster technegol a allai fod wedi cael sylw yn y Bil. Ymddengys bod y Gweinidog wedi ymateb yn rhyfedd hefyd i argymhelliad 17 yn adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r Gweinidog gynnal asesiad o'r effaith ar hawliau plant sy'n cynnwys pob plentyn, nid dim ond y rhai sy'n gymwys o dan y cynllun gofal plant. Mae'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, ond beth yn union ydych chi'n ei olygu gan hynny, Gweinidog? Oherwydd nid oes unrhyw arwydd yn eich ymateb i argymhelliad 17 y bydd unrhyw asesiad effaith yn y dyfodol yn ystyried yr effaith ar bob plentyn ac nid dim ond y rhai sy'n gymwys o dan y Bil. Siawns nad ydych chi'n deall bod y comisiynydd plant yn pryderu'n fawr iawn bod y ffordd y targedir y cynnig gofal plant hwn yn mynd i anfanteisio'r union blant sydd angen y cymorth fwyaf. Os gwelwch yn dda, rhowch esboniad. Os ydych chi'n mynd i ystyried yr effaith ar bob plentyn beth bynnag, pam na wnewch chi ddweud hynny yn eich ymateb?

Gan droi at ffurf wirioneddol y Bil, byddwn yn disgrifio hyn fel Bil galluogi ar steroids. Yn hytrach na phennu cyfyngiadau a therfynau ar y pwerau a gosod paramedrau'r cynnig gofal plant—yn hytrach na gosod y paramedrau a nodi rhai manylion a rhywfaint o arweiniad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hawdurdodi i'w wneud yn y fan hon, er mwyn gallu barnu'r cynllun yn y lle hwn ar ei rinweddau, maen nhw wedi llunio Bil sy'n caniatáu iddyn nhw feddwl beth i'w wneud wrth i bethau godi. Mae'n rhoi penrhyddid i Llafur Cymru gyflwyno pa bynnag gynllun a ddewisant gydag ychydig iawn o graffu gan y Cynulliad. O ganlyniad, byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y Bil hwn gan ei fod yn rhy eang, mae'n rhoi rhwydd hynt i Lywodraeth Cymru wneud yr hyn a fynnant ac i'w wneud wrth fynd ymlaen, ac mae wedi'i dargedu'n wael. Felly, byddwn yn pleidleisio yn ei erbyn. Diolch.

17:15

Rwyf wedi drysu braidd gan ddiwedd araith Michelle Brown. Roeddwn wedi deall ei bod hi'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil yn y Pwyllgor, ond yn amlwg mae hi wedi rhoi mwy a mwy o ystyriaeth iddo neu efallai wedi ymgynghori â chydweithwyr dros yr haf a bydd bellach yn pleidleisio yn eu herbyn.

Fodd bynnag, mae'r un mor anodd neu'n fwy anodd deall safbwynt y Gweinidog ar hyn. Roeddwn yn edrych ymlaen at ei glywed yn jyglo heddiw rhwng ei ddwy het, (1) fel y Gweinidog sy'n cefnogi cyfyngu ar hyn i rieni sy'n gweithio, a (2) fel ymgeisydd am yr arweinyddiaeth yr oedd ei brif bolisi'n ymwneud ag agor hyn i bawb a sicrhau y byddai'r teuluoedd tlotaf yn elwa. Fodd bynnag, mae wedi datrys y sefyllfa drwy ddod â'i ymgyrch arweinyddiaeth i ben cyn dod yma. Mewn sawl ffordd, mae hynny'n drueni. Ond credaf fod pos ynglŷn â'r Bil hwn, oherwydd ymddengys i mi fod Aelodau Llafur yn awyddus yn gyffredinol bod y Comisiynydd Plant, yr hyn a ddywed—y dylai'r budd fynd i'r teuluoedd sy'n ennill y cyflogau isaf, ac eto i gyd mae ganddyn nhw Fil sy'n eu heithrio'n benodol o hynny—neu nifer fawr ohonynt—drwy ddweud, 'Dim ond i rieni sy'n gweithio y gall y cymorth hwn fynd.'

Dywed y Gweinidog yn ei adroddiad ar dudalen 5:

'Mae gan Weinidogion Cymru y pwerau angenrheidiol eisoes i gyflwyno rhaglenni ychwanegol o gymorth yn ôl y gofyn'.

Ond nid wyf yn credu bod hynny'n wir, o leiaf gyda'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud gyda'r Bil hwn, sef cael system lle mae Cyllid a Thollau EM, gan fod ganddynt systemau ar waith eisoes, yn gwirio cymhwystra yn effeithlon. A'r hyn yr ydym yn ei wneud yw cael darn o ddeddfwriaeth, beth bynnag y mae'r Gweinidogion yn awyddus i'w wneud yn y dyfodol, faint bynnag o arian sydd ganddynt, beth bynnag yw eu blaenoriaethau, beth bynnag y dywed y Gweinidog y mae'n ei gredu fel ymgeisydd am yr arweinyddiaeth—y bydd y ddeddfwriaeth yn atal eu gallu i ymestyn y cynllun i rieni nad ydynt yn gweithio.

Nawr, rwy'n deall bod yr adnoddau'n brin, ac rwyf o blaid cael hyn ar gyfer rhieni sy'n gweithio oherwydd credaf y bydd yn caniatáu i fwy o rieni, yn enwedig menywod, ar ôl cael plant, allu dychwelyd i'r gweithlu os ydynt yn dymuno gwneud hynny. A chredaf hefyd, pan fydd gennym ddatganoli treth incwm o fis Ebrill nesaf ymlaen, efallai y bydd rhywfaint o fudd i raglenni gwariant eraill neu hyd yn oed o bosibl ar gyfer gostyngiad yn y dreth, er fy mod yn amau hynny gyda'r Llywodraeth hon mewn grym. Oherwydd os yw'n helpu mwy o bobl i ymuno â'r gweithle, bydd hynny'n arwain at dreth uwch, o bosibl, a all, yn ei dro, ariannu rhaglenni eraill. Ond nid wyf yn deall pam mae Aelodau Llafur a Gweinidogion, o leiaf pan fydd ganddyn nhw un het ar eu pen, yn dweud wrthym nad ydyn nhw'n cefnogi'r rhaglen hon, ond eto i gyd, pan fyddant yn dod i'r tŷ hwn i ddadlau dros hynny, mae'n hanfodol eu bod yn rhieni sy'n gweithio yn unig. Yr unig beth sydd gan y Pwyllgor i'w ddweud yw hyn: pam na allwch fod yn hyblyg os penderfynwch, ar ryw adeg yn y dyfodol, fod adnoddau yn caniatáu hynny a'ch bod yn dymuno ymestyn hyn i gynnwys grwpiau eraill—pan na allwch fod yn hyblyg? Ac eto rydych yn dod yma ac yn dweud na, ni allwch wneud hynny. [Torri ar draws.] Rwy'n ildio.

17:20

Diolch i chi am ildio. Tybed a yw'r Pwyllgor wedi dadansoddi faint o blant yr ydym ni'n sôn amdanynt, mewn gwirionedd, o gofio mai dim ond 3.8 y cant o'r boblogaeth oedran gweithio sy'n ddi-waith. Faint o blant ydym ni'n sôn amdanynt?

Mae arnaf i ofn nad oes gen i'r rhif hwnnw wrth law ar hyn o bryd, ond credaf y bydd y gyfradd diweithdra 3.8 y cant hwnnw yn tanddatgan y nifer sy'n gymwys, oherwydd i fod yn ddi-waith yn ôl y diffiniad hwnnw mae'n rhaid i chi fod wrthi'n chwilio am waith, ac roedd y pwyllgor yn ystyried ymestyn y diffiniad rhywfaint i gynnwys y rhai hynny sy'n gwneud hynny ac yn cael addysg neu hyfforddiant sydd â'r nod o fynd yn ôl i weithio, ond credaf fod yna lawer mwy nad ydynt yn chwilio am waith oherwydd eu bod yn gofalu am blant ifanc, a, wel, y dewis hwnnw—dyna'r sefyllfa. Ond mae agwedd y Llywodraeth ar hyn yn fy nrysu a'r gwahanol hetiau yr ymddengys y mae pobl yn eu gwisgo.

Fodd bynnag, a gaf i nodi ychydig o bwyntiau eraill ar y cysyniadau? Roedd hi ychydig yn rhwystredig nad oeddem ni'n gwybod ar ba sail y dyfarnwyd y cysyniadau. Roeddwn i'n dweud yn y pwyllgor efallai y byddai'n anodd yn weinyddol i newid y meini prawf cymhwystra y mae Cyllid a Thollau EM yn eu defnyddio ar gyfer gofal plant di-dreth ar draws y DU, a phrofodd hynny i fod yn wir, ond fe wnaethom dreulio cryn dipyn o amser yn trafod y mater hwn ond pe byddai'r mater cysyniadau, a anfonwyd sawl mis ynghynt, wedi ei rannu â'r Pwyllgor, byddem wedi bod yn gwybod nad oedd Cyllid a Thollau EM yn mynd i ganiatáu hynny neu byddai'r holl beth wedi gorfod cael ei ailagor neu fod yn ddrud iawn ac yn weinyddol anodd.

Hoffwn hefyd gyflwyno un ple olaf, ac mae'r Gweinidog wedi bod yn gwrando ar hyn ac wedi gwneud cynnydd, ond mae cynllun gofal plant di-dreth y DU ar gael ac yn agored, a gall rhieni yng Nghymru gael gofal plant ac yna hawlio 20 y cant o'r gost yn ôl gan Cyllid a Thollau EM. Mae'n dda iawn, pan fyddan nhw'n gwneud cais o dan y cynllun hwn, y byddan nhw'n cael gwybod am hynny, ond yn y cyfamser pan fyddan nhw'n clywed am yr hyn y mae Gweinidogion a'r Llywodraeth yn ei wneud ar y cynllun hwn yng Nghymru ni fyddan nhw'n clywed am y gofal plant di-dreth hwnnw yn y DU. Dylech achub ar y cyfle i'w hyrwyddo, oherwydd yr hyn y bydd hynny'n ei wneud yw dod â mwy o refeniw ac arian i economi Cymru, helpu meithrinfeydd a helpu rhieni.

Diolch. A gaf i alw nawr ar y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Huw Irranca-Davies.

Diolch Dirprwy Lywydd, ac fe ddechreuaf drwy ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, yn enwedig Cadeiryddion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ond hefyd rwy'n llongyfarch Janet ar ei swydd newydd, a hefyd yr holl Aelodau eraill sydd wedi cymryd rhan hefyd ac sydd wedi siarad yn fanwl iawn am y Bil sydd ger ein bron. Ceisiaf ymateb, o fewn yr hyn sydd ychydig dros bum munud rwy'n credu, i lawer o'r pwyntiau, ond byddwch yn gwerthfawrogi rwy'n credu, mewn dadl Cyfnod 1, efallai na fyddaf yn gallu ymdrin â phob un ohonyn nhw.

Os caf i yn gyntaf oll droi at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ddiolch i chi, Lynne, unwaith eto, am y gwaith y mae'r Pwyllgor wedi'i wneud. Rwy'n falch eich bod yn cefnogi cyfranogiad Cyllid a Thollau EM o fewn hyn er budd gorau awdurdodau lleol a rhieni mewn dull symlach i'r cais a'r gwiriad cymhwystra yn y system. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i awdurdodau lleol a rhieni. Rwyf yn ailadrodd unwaith eto fy mod yn ymrwymedig i rannu canfyddiadau'r gwerthusiad gyda'r Pwyllgor cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl, ac mae fy swyddogion yn wir yn siarad, rwy'n deall, â thîm y pwyllgor ar hyn o bryd ynghylch y modd gorau o wneud i hynny ddigwydd.

Un agwedd y mae nifer o bobl, gan gynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, wedi sôn amdano yw agwedd y rhieni nad ydynt yn gweithio, a hoffwn wneud un peth yn glir iawn, iawn, oherwydd ei bod yn ymddangos weithiau fel nad oes unrhyw ddarpariaeth o gwbl ar gyfer plant rhieni nad ydynt yn gweithio, ond, wrth gwrs, bydd plant rhieni nad ydynt yn gweithio yn dal i allu cael gafael ar ddarpariaeth addysg gynnar gyffredinol yn y cyfnod sylfaen, a byddaf hefyd yn edrych ymlaen at fapio yn fwy eglur y ddewislen o raglenni sydd ar gael i wahanol gategorïau o rieni, gan gynnwys, mae'n rhaid imi ddweud, yn y rhaglen Dechrau'n Deg sy'n uchel ei pharch hefyd. Nid yw hon yn bodoli ar ei phen ei hun.

17:25

Dim ond yn fyr iawn, tybed, Gweinidog, a wnewch chi ymateb ychydig yn fwy i'r hyn y mae Cadeirydd y pwyllgor ac eraill wedi'i ddweud am y cyfyngiadau ar Dechrau'n Deg a'r ffaith bod cynifer o'n plant, sy'n cael eu magu mewn tlodi, y tu allan i'r ardaloedd hynny. Nid yw hyn yn newydd.

Credaf, yn rhyfedd iawn, o ran sylwadau Mark yn y fan yna, mewn byd delfrydol, pe byddai gennym ni gyllidebau diderfyn, pe byddai cyni yn dod i ben, rwy'n credu ein bod yn gwybod beth y byddem ni yn ei wneud, a chredaf fy mod yn gwybod lle mae'r dystiolaeth yn mynd â ni, ond, yn anffodus, nid ydym ni yn y sefyllfa honno. Felly, rhywfaint o'n her yn y fan yma fel Aelodau Cynulliad cyfrifol yw penderfynu sut y gallwn ni wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd gennym i newid bywydau pobl ifanc, ond mae gennym ni drafodaethau ehangach ar y mater hwnnw hefyd. Ond diolch i chi am y sylw yna.

O ran y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil ac yn arbennig ein cred ei bod yn well bod manylion gweithredol, mewn gwirionedd, yn perthyn i gynllun gweinyddol, mae hyn yn rhannol oherwydd bod y cynlluniau treialu yn dal i fynd rhagddynt, rydym ni'n dal i ddysgu oddi wrthyn nhw, rydym ni'n dal i addasu'r cynllun wrth inni fwrw ymlaen a byddwn yn parhau i wneud hynny. Ein cred ni, yn wahanol i sefydlu'r dull cyfreithiol a'r cysyniadau sydd eu hangen i sefydlu dull Cyllid a Thollau EM, y disgrifir gweithrediad y cynllun ei hun orau—gyda'r eithriadau hynny yr anfonais mewn llythyrau at y Cadeiryddion pwyllgor—mewn gwirionedd, o fewn cynllun gweinyddol. Ond fe soniaf yn fwy manwl am hyn yn rhannau dilynol y ddadl hon, rwy'n siŵr.

Ac mae hynny'n ein harwain at y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar y wyneb a'r hyn sydd yn y rheoliadau, ac rwyf eisoes wedi esbonio fy mod i'n ymchwilio i'r posibilrwydd o osod rhai eraill ar wyneb y Bil, ond mae hynny yng ngoleuni rhai o'r pwyllgorau sydd wedi dweud, 'A wnewch chi gadw'r hyblygrwydd i wneud yn siŵr y gallwn ni newid ac addasu hyn wrth inni symud ymlaen?' Ond rwy'n ystyried y posibilrwydd hwnnw. Ac mewn ymateb i'r galwadau am asesiad o'r effaith ar hawliau plant, mae'n cael ei ddatblygu ar gyfer y cynnig yn ei gyfanrwydd a byddwn yn rhannu hwnnw pan fydd yn barod ac fel y bo'n briodol—ac rwy'n cadw fy llygaid ar yr amser yn y fan yna hefyd wrth inni fynd drwy hyn.

Jane, diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad ac, unwaith eto, y gefnogaeth eang i'r dull a ddisgrifir yn y Bil hwn o weithio gyda Cyllid a Thollau EM. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Cyllid a Thollau EM ar ein gofynion ac ar y costau amcangyfrifedig ar gyfer cyflwyno'r system hefyd, ac rwy'n ymrwymedig i rannu'r costau diweddaraf gyda'r pwyllgor wrth i'r rhain gael eu mireinio. Roedd ymgynghoriaeth annibynnol yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y Bil, a chredaf fod ein hamcangyfrifon lefel uchaf o'r costau, yn wir, mor gadarn ag y gallan nhw fod, fel yr eglurais yn wreiddiol i'r pwyllgor. Mae'r dewis a ffefrir ar gyfer cyflwyno'r system ymgeisio a gwirio cymhwysedd ar gyfer y cynnig gofal plant wedi cael ei brofi gyda chydweithwyr Awdurdod Cyllid Cymru, ac mae swyddogion wedi trafod y gwersi a ddysgwyd a phrofiadau o sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru a'r trefniadau gwaith a oedd ar waith gyda Cyllid a Thollau EM ar y pryd. Felly, bydd ACC yn parhau i gymryd rhan mewn swyddogaeth sicrwydd ansawdd wrth inni symud ymlaen.

Os caf droi at y sylwadau gan fy nghyd-Aelod, Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gwrandewais, yn wir, â phryder gwirioneddol fel cyn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol hefyd am y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar yr wyneb a'r hyn a adewir i reoliadau, a dyma pam yr wyf i, yn wir, wedi nodi y byddaf yn cyflwyno rhai gwelliannau yn ystod Cyfnod 2, i ddarparu mwy o fanylion ar wyneb y Bil, yn enwedig o ran pwy sy'n blentyn cymwys, ac fe wnaf ysgrifennu at y Pwyllgor i egluro fy syniadau. Ond mae'n rhaid imi gydbwyso fy ymateb i hyn â'r galwadau gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sy'n eistedd ar yr ochr dde i mi yma am rywfaint o hyblygrwydd yn y dyfodol. Rwyf hefyd yn ystyried beth allai fod yn bosibl mewn ymateb i'r argymhelliad i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu'r gofal plant, a byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgorau pan fyddwn ni wedi cael cyfle i ystyried hyn yn fwy manwl.

Nawr, mae cryn dipyn o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ar y cynnig o ofal plant yn parhau. Rydym ni'n rhoi prawf ar y cynnig ar lawr gwlad ar hyn o bryd, ac mae gwerthusiad yn cael ei gynnal, ac rydym wedi ymrwymo i rannu'r canfyddiadau hynny ar ffurf dros dro cyn gynted ag y gallwn, a cyn inni gyrraedd Cyfnod 3. Rwy'n gobeithio felly bod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd, gan gynnwys i rai o'r argymhellion mwy technegol. Dirprwy Lywydd, rwy'n cadw llygad ar yr amser—

17:30

Diolch yn fawr iawn. Os caf i droi at y sylwadau am rieni ac addysg a hyfforddiant, rwy'n ymwybodol iawn, ac yn cydymdeimlo'n fawr, o ran yr heriau y mae pob rhiant yn eu hwynebu wrth gael gafael ar ofal plant fforddiadwy pan fydd arnynt ei angen, ond ar gyfer rhieni sy'n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair oed y mae'r cynnig hwn. Ac, mewn gwirionedd, bydd fy nghyd-Aelodau o amgylch y Siambr, os byddan nhw'n mynd yn ôl ac yn edrych ar gynigion y maniffesto yn gweld nad oedden nhw, mewn rhai ffyrdd, yn annhebyg; maen nhw'n cwmpasu yr un maes: plant tair a phedair oed, oriau cyfyngedig ac ati. Nawr, mae gan Weinidogion Cymru, mae'n rhaid imi ddweud, y pwerau i gyflwyno rhaglenni ychwanegol o gefnogaeth, yn ôl y gofyn, ar yr amod, unwaith eto, bod y cyllid perthnasol ar gael.

Nawr, rwy'n gwerthfawrogi, er hyn, y gall yr amrywiol gymorth sydd ar gael fod yn ddryslyd i bobl ei ddeall ac rwyf wedi comisiynu darn o waith mewnol i ystyried hyn ymhellach ac i edrych ar ddewisiadau i leihau dryswch a chymhlethdod. Felly, y math o waith yr oedd Helen Mary a Llyr yn sôn amdano—rydym ni'n gweithio ar hynny; rydym ni'n ystyried sut yr ydym yn mynd i ddatrys y materion hyn ac yn dwyn ynghyd system fwy cydlynol, ond mae'n wahanol i'r Bil hwn ac i ddull cyflawni Cyllid a Thollau EM.

Dirprwy Lywydd, a ydych chi'n edrych arnaf i ofyn imi—? Ydych chi eisiau imi ddirwyn i ben.

Yn wir. Diolch yn fawr iawn. Dim ond un pwynt olaf, felly. Ni allaf sôn am bopeth, ond soniwyd am ffioedd ychwanegol, ac rwy'n gwerthfawrogi'r pryderon ynghylch ffioedd ychwanegol, wedi'r cyfan rwy'n riant i dri o blant fy hun, ac fe wnes i eu magu pan oeddwn i yn rheolwr canolfan chwaraeon cyffredin ar £6,400—faint oedd e—£6,430 y flwyddyn yn y fan honno. Mae'n her. Fodd bynnag, mae yna ystod ac amrywiaeth o ddarparwyr ar gael ym maes gofal plant, ychydig yn wahanol i sectorau eraill, ac mae'n rhaid i ddarparwyr gadw'r hawl i godi taliadau ychwanegol ar rieni sy'n defnyddio'r hyn y maen nhw'n ei gynnig, ond nid y cynnig ei hun. Mae'r sector gofal plant yn amrywiol, ond mae'n werth nodi ein bod wedi bod yn glir na all rhieni godi cyfraddau atodol ar rieni sy'n defnyddio'r cynnig. Fodd bynnag, cânt godi tâl—fel y mae llawer ohonyn nhw wedi ei wneud yn hanesyddol—am eitemau ychwanegol megis cludiant neu fwyd pan fyddent yn gwneud hynny fel arfer, a rhoi gwybod i'r rhieni. Ond byddwn yn adolygu'r mater hwn a byddwn ni'n edrych ar hyn eto yn rhan o'r adolygiad o'r gyfradd cyn cyflwyno'n genedlaethol.

Dirprwy Lywydd, diolch am roi rhywfaint o amser ychwanegol imi. Rwyf wedi ceisio ymateb i gynifer â phosibl. Rwyf yn annog yr Aelodau i edrych ar yr ymatebion hynny yr ydym wedi eu hanfon i bob un o'r tri phwyllgor, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r pwyllgorau a'r Aelodau eraill ar y camau dilynol os caiff hwn ei basio heddiw.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn y pleidleisio o dan yr eitem hon i'r cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Eitem 7 ar yr agenda yw'r cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Felly, galwaf ar y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6778 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i'r pwyllgorau am eu gwaith craffu ar y Bil.

Diolch. Nid oes gennyf siaradwyr yn y ddadl, felly, gan fod y pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) wedi'i ohirio tan y cyfnod pleidleisio, rwy'n mynd i ohirio'r bleidlais ar y penderfyniad ariannol hefyd.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Felly, symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n mynd i fwrw ymlaen yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Na. Iawn, da iawn.

8. Cyfnod Pleidleisio

Felly, a gawn ni alw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Huw Irranca-Davies? Y cynnig ar y ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) yw hwn. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 41, neb wedi ymatal, 11 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

NDM6777 - Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru): O blaid: 41, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn nawr at bleidleisio ar y cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Ac, unwaith eto, galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 41, wyth wedi ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

NDM6778 - Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru): O blaid: 41, Yn erbyn: 3, Ymatal: 8

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 17:34.