Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Finance Committee - Fifth Senedd

13/03/2019

Aelodau'r Pwyllgor a oedd yn bresennol

Committee Members in Attendance

Alun Davies
Llyr Gruffydd Cadeirydd y Pwyllgor
Committee Chair
Mike Hedges
Rhianon Passmore
Rhun ap Iorwerth

Swyddogion y Senedd a oedd yn bresennol

Senedd Officials in Attendance

Leanne Hatcher Ail Glerc
Second Clerk
Ryan Bishop Dirprwy Glerc
Deputy Clerk

Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.

The proceedings are reported in the language in which they were spoken in the committee. In addition, a transcription of the simultaneous interpretation is included. Where contributors have supplied corrections to their evidence, these are noted in the transcript.

Dechreuodd y cyfarfod am 09:00.

The meeting began at 09:00.

1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1. Introductions, apologies, substitutions and declarations of interest

Bore da, bawb. Croeso i gyfarfod o'r Pwyllgor Cyllid. Mi wnaf eich atgoffa chi, fel dwi arfer yn ei wneud ar ddechrau'r cyfarfod, fod yna glustffonau ar gael ar gyfer cyfieithu ar y pryd a hefyd ar gyfer addasu lefel y sain, os oes ei angen e arnoch chi. A gaf i atgoffa Aelodau i wneud yn siŵr bod y sain wedi'i diffodd ar unrhyw ddyfeisiau electronig? A gaf i ofyn a oes gan Aelodau unrhyw fuddiannau i'w datgan? Na. Iawn, diolch yn fawr iawn.

Good morning, everyone. Welcome to this meeting of the Finance Committee. I remind you, as I usually do at the start of the meeting, that there are headsets available for translation and for amplification, if you need it. Could I remind Members to ensure that any electronic devices are on silent? Could I ask whether Members have any interests to declare? No. Okay, thank you very much.

2. Papurau i'w nodi
2. Papers to note

Awn ymlaen i'r ail eitem, felly—papurau i'w nodi. Fe welwch chi fod yna nifer o bapurau i'w nodi: llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Bil Awtistiaeth (Cymru); mae yna lythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ar gynllun gwaith polisi treth Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019; ac mae yna lythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru ar gynllun pensiwn y gwasanaeth sifil; ynghyd â thri set o gofnodion o gyfarfodydd y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 20 Chwefror a 7 Mawrth. A ydy Aelodau'n hapus i nodi'r rheini gyda'i gilydd? Iawn, diolch yn fawr iawn.

We move on, therefore, to the second item—papers to note. You'll see that there are a number of papers to note: a letter from the Minister for Health and Social Services on the Autism (Wales) Bill; there's a letter from the Minister for Finance and Trefnydd on the Welsh Government's tax policy work plan for 2019; and a letter from the Wales Audit Office on the civil service pension scheme; as well as three sets of minutes of the committee meetings held on 14 February, 20 February and 7 March. Are Members content to note those? Yes, thank you very much.

3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
3. Motion under Standing Order 17.42 to resolve to exclude the public from the remainder of the meeting

Cynnig:

bod y pwyllgor yn penderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi).

Motion:

that the committee resolves to exclude the public from the remainder of the meeting in accordance with Standing Order 17.42(vi).

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Gyda hynny, felly, awn ymlaen i'r eitem nesaf, sef symud i sesiwn breifat er mwyn clywed neu dderbyn briff technegol ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi), dwi'n cynnig bod y pwyllgor yn gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Ydy Aelodau i gyd yn fodlon â hynny? Iawn, diolch yn fawr iawn. Felly, mi symudwn ni i sesiwn breifat.

With that, therefore, we'll move on to the next item, which is moving into private session in order to have a technical briefing on the Senedd and Elections (Wales) Bill. So, in accordance with Standing Order 17.42(vi), I propose that the committee resolves to exclude the public from the remainder of the meeting. Are Members content with that? Fine, thank you very much. So, we'll move into private session.

Derbyniwyd y cynnig.

Daeth rhan gyhoeddus y cyfarfod i ben am 09:01.

Motion agreed.

The public part of the meeting ended at 09:01.